Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1: Croeso a chyflwyniadau

1.1 Cyflwynodd y Cadeirydd (VL) ei hunan i’r grŵp, gan groesawu pawb i’r cyfarfod; pwysleisiodd fod gan y Fforwm gyfle cyffrous a phwysig i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddatblygiad polisi mor bwysig. Cytunwyd bod llawer iawn o arbenigedd gan yr aelodau o gwmpas y bwrdd, a’u bod mewn sefyllfa dda i ddarparu cyngor cadarn ac ymarferol.

1.2 Cyflwynodd pawb eu hunain a nodwyd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.

1.3 Hefyd cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi ei gwneud yn glir ei bod yn awyddus i weld y grŵp hwn yn cyflawni gwaith trylwyr a heriol er mwyn sicrhau bod y strategaeth a Llywodraeth Cymru yn bodloni anghenion pobl hŷn, nawr ac yn y dyfodol.

1.4 Mae VL hefyd am i’r grŵp fod yn agored ac yn dryloyw, a bod unrhyw gyngor a roddir yn cael ei gydnabod, ac yn cael ei weithredu.

1.5 Caiff cyfarfod arall o’r Fforwm ei drefnu i gyd-ddigwydd â’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio (a gynhelir yn haf 2020), gan obeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu fod yn bresennol.

1.6 Cyflwynodd VL drafodaeth grŵp (10 munud) ar y Cod Ymddygiad a’r Cylch Gorchwyl, gyda chyfle i roi adborth ar y diwedd.

Eitem 2: Cylch Gorchwyl / Cod Ymddygiad

2.1 Yn dilyn trafodaethau wrth y bwrdd, codwyd y pwyntiau / cwestiynau canlynol:

  • Eglurodd KD fod gan y Comisiynydd Pobl Hŷn statws “sylwedydd” ar y grŵp gan fod angen cynnal annibyniaeth y Comisiynydd; ar y llaw arall rhan o gylch gwaith y Comisiynydd yw mynnu bod Llywodraeth Cymru yn atebol.
  • Rhaid i’r Fforwm fod yn grŵp i Gymru gyfan – os nad ydym ond wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, sut y gallwn sicrhau hynny?
  • Am faint y bydd y Fforwm yn weithredol? Pa mor hir yw tymor swyddi unigolion?
  • Mae angen eglurhad o’r gwahaniaeth rhwng yr hen Fforwm a’r un newydd.
  • Mae angen cynnal mwy na 2 gyfarfod y flwyddyn. Hefyd, mae angen i gyfarfodydd fod yn hirach, gan neilltuo mwy o amser ar gyfer trafodaethau yn hytrach na siaradwyr.
  • Codwyd cwestiwn ynglŷn â chyfran y bobl hŷn, gan nodi nad oedd honno’n ymddangos yn gyfartal yn y cyfarfod hwn.
  • A fyddai’n bosibl rhannu rhestr o’r sefydliadau sydd wedi cael eu gwahodd /sydd wedi cytuno i fod yn bresennol? – EH I’W RHANNU
  • A oes angen cryfhau’r aelodaeth?
  • Rhaid cynrychioli pawb, yn hytrach na dim ond ein sefydliadau unigol ni ein hunain.
  • Mae angen dysgu gwersi o’r Fforwm blaenorol er mwyn peidio â gwneud yr un camgymeriadau.

2.2 Mewn ymateb i rai o’r pwyntiau a godwyd uchod, dywedodd RL nad ydym wedi dilyn model penodol i grwpiau cynghori ar gyfer y Fforwm hwn; rydym am fod yn wahanol. Disgwylir i’r Fforwm newydd gynnwys cynrychiolwyr o’r grwpiau /sefydliadau allweddol sydd yn y sefyllfa orau i allu gweithredu’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Mae cydweithio’n rhan fawr o’r gofyniad sydd ar y grŵp hwn.

Cyfeiriodd RL at y seminarau i bobl hŷn sy’n cael eu trefnu gan Age Cymru fel ffordd inni allu cyrraedd pobl ar lawr gwlad. Mae angen sicrhau bod gan y Fforwm ddisgwyliad clir iawn o ran yr hyn y dylid ei gynnwys yn y seminar nesaf. Efallai fod angen meithrin mwy o gysylltiadau rhwng y Fforwm a’r seminarau.

O ran y pryderon ynghylch yr angen i rannu’r aelodaeth 50/50 rhwng pobl hŷn a sefydliadau, cadarnhaodd RL fod gwahoddiadau wedi cael eu hanfon at unigolion a sefydliadau i sicrhau’r rhaniad 50/50 hwn. Rydym yn teimlo ein bod wedi cyflawni’r nod hwnnw.

2.3 Bydd y Cylch Gorchwyl yn cael ei ddiwygio i roi sylw i’r pwyntiau a godwyd uchod, a’i anfon yn ôl at aelodau’r grŵp er mwyn iddynt gytuno arno. – EH I GWBLHAU’R CAM GWEITHREDU HWN.

2.4 Cytunwyd ar y rheolau sylfaenol ar gyfer y grŵp.

Camau gweithredu

  • EH i rannu rhestr o’r sefydliadau sydd wedi cael eu gwahodd / sydd wedi cytuno i fynychu ein fforwm newydd. I’w hanfon gyda’r nodyn o’r cyfarfod hwn.
  • Y Cylch Gorchwyl i gael ei ddiwygio a’i anfon at aelodau’r grŵp er mwyn iddynt gytuno arno. I’w anfon gyda’r nodyn o’r cyfarfod hwn.

Eitem 3: Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio

3.1 Rhoddodd RL y cefndir y tu ôl i greu’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio:

Ers mis Mehefin 2018, mae gwaith ymgysylltu sylweddol wedi ei gyflawni i lywio’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth. Mae hynny wedi cynnwys creu pum gweithgor i ganolbwyntio ar drafnidiaeth; tai; cyfranogiad; cynllunio ar gyfer y dyfodol; a sicrhau bod hawliau’n hawliau ymarferol go iawn i bobl hŷn. Cafodd ffocws pob gweithgor ei gytuno gan gyfarfod blaenorol y Fforwm. Cynhyrchodd pob gweithgor adroddiad a gafodd ei ddefnyddio fel sail i fersiwn ddrafft y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio.

Roedd aelodaeth y gweithgorau’n cynnwys pobl hŷn, academyddion arweiniol, a chynrychiolwyr o sefydliadau trydydd sector a’r sector statudol. Hefyd, fe wnaethom gomisiynu Age Cymru i gynnal grwpiau ffocws gydag aelodau hŷn o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaid, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Ers mis Mehefin 2018, mae gwaith ymgysylltu sylweddol wedi ei gyflawni i lywio’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth. Mae hynny wedi cynnwys creu pum gweithgor i ganolbwyntio ar drafnidiaeth; tai; cyfranogiad; cynllunio ar gyfer y dyfodol; a sicrhau bod hawliau’n hawliau ymarferol go iawn i bobl hŷn. Cafodd ffocws pob gweithgor ei gytuno gan gyfarfod blaenorol y Fforwm. Cynhyrchodd pob gweithgor adroddiad a gafodd ei ddefnyddio fel sail i fersiwn ddrafft y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio.

Roedd aelodaeth y gweithgorau’n cynnwys pobl hŷn, academyddion arweiniol, a chynrychiolwyr o sefydliadau trydydd sector a’r sector statudol. Hefyd, fe wnaethom gomisiynu Age Cymru i gynnal grwpiau ffocws gydag aelodau hŷn o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaid, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol.

3.2 Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â thros 1000 o bobl. Hefyd mae swyddogion wedi ymgysylltu ar draws y Llywodraeth, gyda chydweithwyr yn yr adrannau polisi hynny a fydd yn cael effaith ar y strategaeth, ac mae’r gwaith ymgysylltu hwnnw’n dal i fynd rhagddo.

3.3 Yn ystod y gwaith ymgysylltu hwn, daeth yn glir y byddai’n rhaid i’r strategaeth fabwysiadu dull gweithredu’n seiliedig ar hawliau. Hefyd roedd mabwysiadu Cymunedau o blaid Pobl Hŷn yn faes arall yr oedd pobl yn awyddus i weld camau’n cael eu cymryd mewn perthynas ag ef. Cafodd sylw ei roi i’r ddau bwnc hyn.

3.4 Hefyd, rhaid rhoi ystyriaeth i sut yr ydym yn mynd i fonitro’r strategaeth. Sut y gall sicrhau newid? Cyfeiriodd RL at ddatblygu’r UK Age Watch Index – mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Dr Martin Hyde o’r Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia i gynhyrchu hwn. Mae’n rhoi darlun o’r sefyllfa mewn meysydd allweddol yng Nghymru yn erbyn y sefyllfa yng ngweddill y DU. Mae’n dangos bod Cymru’n gwneud yn dda o ran cysylltedd / cymuned. Fodd bynnag, nid ydym yn gwneud mor dda ym maes llesiant seicolegol. Bellach mae iechyd meddwl yn faes a flaenoriaethir ochr yn ochr â’r materion y mae pobl hŷn wedi tynnu ein sylw atynt – mynediad at feddygon teulu, trafnidiaeth, cludiant ysbyty (a fydd yn cael ei ychwanegu) etc.

3.5 Gofynnwyd sut y mae hyn yn wahanol i’r strategaeth flaenorol. Rydym yn mynd drwy newid cymdeithasol enfawr, felly efallai fod hon yn cael ei hanelu ychydig yn wahanol i’r strategaeth flaenorol. Wedi i’r strategaeth fynd drwy’r broses ymgynghori, bydd cynllun gweithredu’n cael ei gynhyrchu; bydd hwn yn llawer mwy cryno a deinamig ei naws na’r strategaeth. Hon fydd y broses ar gyfer symud pethau yn eu blaen.

3.6 Cyfeiriodd PP at sefyllfa bersonol a oedd yn amlygu methiannau mewn cludiant ysbyty. Mae pawb yn siarad am y pwnc hwn, ond mae’n ymddangos nad oes neb yn gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Eglurodd KD y byddai’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyhoeddi adroddiad y mis hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth, a fyddai’n glir o ran yr hyn y mae angen ei newid. Mae Age Cymru hefyd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ynglŷn â hyn.

3.7 Hefyd, cyfeiriodd KD at hyfforddiant i staff trafnidiaeth, gan ddweud bod hyn yn faes arall y mae eu swyddfa wedi bod yn gweithio arno. Y gobaith oedd y byddai safonau’n cael eu lansio fis Mawrth.

3.8 Croesawodd SM y strategaeth, ond roedd yn awyddus i weld Cynghrair Pobl Hŷn Cymru yn cymryd mwy o ran er mwyn sicrhau bod y strategaeth cystal ag y gallai fod. Mae’n meddwl bod yna fylchau; mae datganiadau a fyddai’n gallu bod yn gryfach. Mae’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn a’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn gwbl wahanol, ac mae angen creu cysylltiadau gwell rhyngddynt. Nid yw hyn yn ymwneud â phobl hŷn heddiw yn unig, ond pobl hŷn yfory yn ogystal. Mae’n galonogol gweld nad ydym yn diffinio oed yn seiliedig ar nifer o flynyddoedd. Nid yw bywyd pawb yr un fath; mae effeithiau profiadau pobl ar hyd eu hoes yn wahanol.

3.9 Dywedodd JW ei bod yn hanfodol ymgorffori agwedd sy’n pontio’r cenedlaethau. Mae gan bobl ifanc rieni a neiniau a theidiau etc. Ni ddylid gosod buddiannau un yn erbyn y llall. Gofynnodd CR a yw hyn yn cael ei orbwysleisio, gan nad dyna oedd y profiad yn gyffredinol mewn bywyd bob dydd. Cyfeiriodd VL at ddylanwad y cyfryngau. Ychwanegodd PP nad ydym yn brwydro er ein lles ni ein hunain yn unig, ond hefyd i wella’r sefyllfa i’r genhedlaeth nesaf pan fyddant hwythau’n mynd yn hŷn yn eu tro.

3.10 Gofynnwyd a yw’r strategaeth yn rhy hir. Hefyd mae angen iddi gael lliw/darluniau etc. Fel rhan o’r ymgynghoriad, dylem geisio ymgysylltu â’r Senedd Ieuenctid er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan. Y peth cyntaf y dylai pobl ei ddarllen yw’r pedwar nod.

3.11 Dywedodd LW fod angen rhoi mwy o bwyslais ar yr angen i ddarparu cymorth ariannol i grwpiau gwirfoddol. Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn rhoi mwy a mwy o gyfrifoldeb ar y sector gwirfoddol, ond nid yw’r sector yn cael ei gefnogi’n ariannol.

3.12 Dywedodd GD y dylai fod mwy o ffocws ar atal yn y ddogfen drwyddi draw, gan gryfhau’r naratif sy’n canolbwyntio ar hynny.

3.13 Cadarnhaodd DJ ei bod yn falch o weld dull gweithredu’n seiliedig ar hawliau yn cael ei fabwysiadu ar draws y strategaeth, ond mynegodd bryder bod rhagfarn endemig mewn systemau cenedlaethol, er enghraifft y system bensiynau a’r system iechyd a gofal; a bod y disgwyl yn parhau mai menywod fyddai’n cyflawni’r rôl ofalu mewn teuluoedd.

3.14 Cytunwyd bod yr aelodau’n awyddus i weld mwy na siop siarad neu eiriau ar bapur, a bod yn rhaid cymryd camau a fyddai’n arwain at newid go iawn.

3.15 Cyfeiriodd MCM at bobl hŷn mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig , gan ddweud ei bod yn teimlo na fu digon o ymgynghori â’r grŵp hwn. Mae materion yn codi mewn cartrefi gofal i’r bobl hŷn sy’n dod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid inni (sef Race Equality First) ar gyfer darparu prosiect ar y mater penodol hwn (drwy’r Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy). Mae angen cysylltu hyn â’r strategaeth.

3.16 Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd cyflwr tai pobl hŷn sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain (sector preifat) yn fater sy’n cael ei gynnwys mewn gwirionedd yn y strategaeth ddrafft. Mae hynny’n berthnasol i sefyllfa lle nad yw pobl hŷn yn gallu fforddio atgyweirio eu cartrefi eu hunain.

3.17 Teimlwyd hefyd bod bwlch o ran hawliau dynol. Cyfeiriodd SM at y Bil ar gyfer Hawliau Pobl Hŷn. Pan gafodd hwnnw ei wrthod, addawyd y byddai darn o ddeddfwriaeth ehangach yn cael ei gyflwyno – ond ni fu unrhyw sôn am hwnnw ers hynny. Dywedodd RL fod sôn am y gwaith ehangach er na soniwyd am y Bil –mae’r strategaeth ddrafft yn cyfeirio at yr ymchwil sydd wedi cael ei chynnal. Nid yw wedi mynd i ffwrdd, ac mae amser yn mynd heibio. Mae angen cyfeirio at yr ymchwil hon mewn modd mwy pendant.

3.18 Mae Talu am Ofal yn fwlch arall. Mae hwn yn fater allweddol i bobl hŷn.

3.19 Mae Talu am Ofal yn fwlch arall. Mae hwn yn fater allweddol i bobl hŷn.

3.20 Cyfeiriwyd at Ddatganiad Dulyn – nid yw hwn yn ddefnyddiol mewn cymunedau pobl hŷn gan nad oes dim wedi digwydd mewn perthynas ag ef. Nid yw wedi cael yr effaith y dylai fod wedi ei chael. Dylid dileu hyn.

3.21 Dywedodd PP fod yn rhaid gweithredu nawr, gan ofyn am ba hyd y byddwn yn eistedd yma a siarad cyn bod gweithredu. Eglurodd VL ei bod yn debygol y byddai rhai camau gweithredu yn cael eu cyflawni’n gyflym, ond y byddai eraill yn cymryd yn hirach.

3.22 Dywedodd SM fod angen ymrwymiad trawsbleidiol. Rhaid bod ymrwymiad i’r ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru. Hefyd mae angen inni wybod i ble yr ydym yn mynd, a beth yw’r goblygiadau o ran cost. Dywedodd VL y dylai’r ffaith bod hon yn un o strategaethau Llywodraeth Cymru ddarparu’r ymrwymiad bod rhwymedigaeth ar y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hi.

3.23 Cyfeiriodd MJ at Dalu am Ofal – byddai Vaughan Gething yn gwneud datganiad y prynhawn hwnnw a fyddai’n cynnwys 1) codi taliadau, 2) y gweithlu, 3) ehangu cwmpas gofal cymdeithasol – gofal ychwanegol er enghraifft.

3.24 Nodwyd nad oedd amserlenni’n cael eu cynnwys yn y strategaeth. Cadarnhaodd RL y byddai’n cynnwys amserlenni, ond bod y strategaeth yn ymwneud â sicrhau newid diwylliannol o ran sut mae pawb yn gweld heneiddio - gan eu darbwyllo i’w weld fel rhywbeth mwy cadarnhaol. Rydym yn awyddus i weld hyn fel rhan o waith sy’n ehangu tirwedd yn hytrach na’i gysylltu ag amserlen gaeth. Fodd bynnag wrth wybod i ble yr ydych am fynd mae angen gwybod faint o amser y gallai hynny gymryd.

3.25 Dywedodd PP i’r Strategaeth gyntaf ar gyfer Pobl Hŷn gael ei lansio yn 2003. Mae’n 2020 bellach – ac rydym yn dal i eistedd yma a siarad. Mae angen dod â’r siarad i ben, a dechrau gweithredu. Nid yw amser yn rhywbeth sydd o blaid pobl hŷn.

3.26 Gofynnodd SM a fyddai’r grŵp yn gallu anfon ei sylwadau at y tîm. Dywedodd RL y byddai’n gallu gwneud hynny, gan gyfeirio hefyd at yr ymgynghoriad tri mis pryd y byddem yn cael cyfarfod pellach.

3.27 Gofynnodd JW a fyddai’n bosibl cryfhau’r elfen hawliau dynol. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ynghlwm wrth Hawliau Dynol. Nid dyhead ydynt ond cyfraith.

3.28 Gofynnodd LC gwestiwn ynglŷn â chydweddu, yn benodol cydweddu â’i sefydliad yntau (Un Llais Cymru; Cynghorau Cymuned a Thref). Gofynnodd sut y gallai ddychwelyd at ei weithrediaeth leol ac egluro wrthi beth fyddai ei rhan yn yr agenda hon. Mae llawer o gyfeiriadau yn y ddogfen a fydd yn ymwneud â’r angen i sicrhau cyllid, ond nid yw’n amlwg sut y mae’r Fforwm yn bwriadu symud hynny yn ei flaen (cyfeiriodd at gyllid sy’n gysylltiedig â’r Fforwm). Beth yw’r sail ariannol ar gyfer ein gwaith? Rôl pobl hŷn a democratiaeth - mae cynghorwyr tref a chymuned yn 65 / 68 yn y drefn honno. Nid yw Cynghorau Tref a Chymuned yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd RL fod angen i Lywodraeth Cymru gyflawni gwaith mwy manwl yn y maes hwn.

Eitem 4: Adborth o seminarau/trafodaethau

4.1 Eglurodd RL ffocws y seminarau, gan ddweud mai’r bwriad yw creu cyfle i bobl hŷn ddweud sut mae pethau’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Cafodd y seminarau eu hysbysebu’n lleol drwy feddygfeydd, sefydliadau lleol etc. Y nod yw sicrhau bod lleisiau gwahanol yn cael eu clywed; lleisiau pobl nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan ym musnes y Llywodraeth.

4.2 Tynnwyd sylw at drafnidiaeth fel problem; yn enwedig yn y Gogledd. Hefyd nodwyd bod tai yn fater pwysig iawn i rai.

4.3 Awgrymwyd y dylid paratoi dau adroddiad ar wahân – un ar gyfer y Gogledd ac un arall ar gyfer y De, gan fod angen sicrhau bod y darlun yn gyflawn. Nid ydych yn cymharu tebyg at ei debyg; mae’r ardaloedd/rhanbarthau hyn yn wahanol iawn. Dywedodd RL y gallai’r adroddiad gynnwys adran ar yr hyn sy’n wahanol rhwng ardaloedd a hefyd yr hyn sy’n debyg, gan ei bod yn ddiddorol gweld yr hyn sy’n debyg er yn cydnabod bod angen dangos y gwahaniaethau hefyd.

4.4 Cytunodd y grŵp ei bod yn cael sicrwydd o weld mai’r un yw’r materion sydd wedi codi yn yr adroddiad â’r rhai yr ydym ninnau’n canolbwyntio arnynt.

4.5 Cyfeiriodd CJ at y sylwadau ynglŷn â thai, gan ddweud bod cymaint i gadarnhau’r materion yr ydym yn rhoi sylw arnynt – symud i gartref llai o faint, bod yn gyfoethog o ran eiddo ond yn dlawd o ran arian parod.

4.6 Cyfeiriodd SM at yr adran ar gynllunio ar gyfer ymddeol – mae hyn yn gallu dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Sut y gellid cyflawni hyn?

4.7 Dywedodd MH fod gan Gymru y nifer uchaf o bobl dros 50 oed sydd allan o waith. Mae Age Cymru wedi cynnal nifer o grwpiau ffocws mewn canolfannau gwaith mewn perthynas â’r mater hwn.

4.8 Gofynnwyd a oes ffordd o wahaniaethu rhwng materion sy’n dod i’r amlwg, megis pensiynwyr mewn tlodi etc, oddi wrth faterion traddodiadol megis trafnidiaeth, iechyd, gofal cymdeithasol etc.

4.9 Cyfeiriwyd hefyd at rai menywod yn eu 60au cynnar – naill ai bod eu gwŷr wedi eu gadael neu eu bod wedi marw tra’r oeddent yn eu 50au neu 60au; ac mae’r menywod hyn bellach yn gorfod gweithio. Menywod ydynt nad ydynt erioed wedi cael swydd yn y gorffennol, ond sydd wedi magu eu teuluoedd etc.

4.10 Dywedodd LW nad oedd yn gallu gweld unrhyw beth yn y strategaeth ynglŷn â phobl sy’n ceisio twyllo.

Eitem 5: Sut y bydd y Fforwm yn mynd ati i sicrhau newid?

5.1 Roedd y grŵp yn gytûn ei fod yn ymdrin â chwestiynau mawr – rhagfarn ar sail oedran etc. Mae’n rhaid inni dynnu pob rhan o gymdeithas i mewn i hyn.

5.2 Cadarnhaodd RL fod y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymrwymo’n llwyr i’r materion hyn; mewn gwirionedd mae lefel uchel o ymrwymiad ar draws y Llywodraeth.

5.3 Cytunwyd bod rôl y grŵp o ran sicrhau bod pobl yn atebol yn un bwysig.

5.4 Cytunwyd hefyd mai rhan fawr o rôl y grŵp fyddai ein helpu i gynnal ymgynghoriad ar y ddogfen hon, ac y byddai pob aelod o’r grŵp yn annog pawb i gymryd rhan o safbwynt eu gwahanol sefydliadau.

5.5 Gall y grŵp ddarparu cyfeiriad er mwyn sicrhau bod y materion y mae angen eu trafod yn cael eu trafod, hy gosod yr agenda.

5.6 Mae angen i’r strategaeth fod yn gynhwysfawr ac yn gryno, gyda ffocws clir. Mae angen i’r weledigaeth allu ysbrydoli, ac ar yr un pryd fod yn berthnasol i bawb; pob rhan o gymdeithas, yr holl wasanaethau etc.

5.7 Cytunwyd y dylai’r grŵp symud allan o Gaerdydd i leoliadau cymunedol mewn gwahanol rannau o Gymru (?)

5.8 Mae angen meddwl sut y gallwn ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gynnal y momentwm rhwng cyfarfodydd.

5.9 Gofynnodd PP i MJ a fyddai’n bosibl i’r Fforwm gynnal cyfarfod ychwanegol bob blwyddyn. Cytunodd MJ i edrych ar hyn.

5.10 Gofynnodd SM sut y gallwn sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth, er mwyn sicrhau nad yw timau polisi yn cyfrannu at gynnwys y strategaeth heb roi eu cyfraniad ar waith. Cyfeiriodd MJ at sesiwn herio Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd gydag uwch swyddogion ar draws y Llywodraeth. Yn y sesiwn honno, gwnaeth pob uwch swyddog ymrwymiad i bolisi o fewn ei faes unigol, a byddai hynny’n cyfrannu at lwyddiant y strategaeth.

5.11 Gofynnodd MH sut y byddai’r Fforwm yn cynnal cysylltiadau o fewn y grŵp gan gadw at y GDPR. Allwn ni gysylltu â’n gilydd? Llywodraeth Cymru i hwyluso cael caniatâd gan y grŵp i rannu manylion cyswllt.

Eitem 6: Crynhoi a chloi

6.1 Dywedodd VL ei bod yn teimlo bod y cyfarfod yn un cadarnhaol iawn, a diolchodd i bawb am eu cyfraniadau.

6.2 Ychwanegodd RL y byddai Llywodraeth Cymru nawr yn adolygu’r cylch gorchwyl a’i anfon allan eto. Dywedodd fod y grŵp wedi cynnal sesiwn gynhyrchiol iawn ar y strategaeth, a’i bod yn fuddiol bod y Fforwm yn gallu cyfrannu cyn i’r ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal.

6.3 Y camau nesaf: bydd y strategaeth ddrafft yn cael ei lansio at ddibenion cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Yn y cyfamser, anfonwch eich sylwadau. Ein nod yw cyhoeddi’r strategaeth derfynol erbyn diwedd y flwyddyn.

6.4 Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn anfon y rhestr o sefydliadau (aelodaeth lawn) gyda’r nodyn o’r cyfarfod hwn.