Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio: 4 Mehefin 2025
Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 4 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Yr Athro John Williams, Academia, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Charles Musselwhite, Academia, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Paul Willis, Academia, Prifysgol Caerdydd
Harry Lightfoot, Academia , Prifysgol Caerdydd (Intern)
Barry Stephens, Cymru Egnïol
Vicki Lloyd (VL), Age Cymru, Cadeirydd
Kathy Lye, Age Cymru
Faye Patton (FP), Gofal a Thrwsio Cymru
Gemma Lelliott, Cymdeithas Cludiant Cymunedol
Andrew Hinchliffe, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Y Cyng Leo Thomson, Rhwydwaith Oed,gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Y Cyng Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed,gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
Rachel Bowen, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Dilys Jouvenat, Cynrychiolydd Pobl Hŷn
Rachel Luxton, Cynrychiolydd Pobl Hŷn
Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru (Cynghorau Cymuned a Thref)
Emily Van de Venter, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Peter Walters, Fforwm Pobl Hŷn Cymru
Sarah Capstick, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
David Hall (DH), Llywodraeth Cymru
Anthony Jordan, Llywodraeth Cymru
Rachel Lewis (RL), Llywodraeth Cymru
Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Shyam Vining, Llywodraeth Cymru
Gethin Edwards (GE), Llywodraeth Cymru
Lucy Richardson, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau ffurfiol
Brian Godsell, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol
Jim McManus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Suzanne Kearsley-Evans, Cynrychiolydd Pobl Hŷn
Darren Hughes, Cydffederasiwn GIG Cymru
Croeso, cyflwyniadau a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf
Nododd Vicki Lloyd fod y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf (12 Mawrth) naill ai wedi'u cwblhau neu'n parhau.
Cod Ymddygiad, Cylch Gorchwyl ac Aelodaeth MAFA
Cafodd y fersiwn "ddrafft" ddiweddaraf o Gylch Gorchwyl MAFA ei hanfon at yr aelodau cyn y cyfarfod. Cytunodd yr aelodau ar y Cylch Gorchwyl, a rhoddwyd pwyslais sylweddol ar y disgwyliadau ar gyfer yr holl aelodau:
- cynrychioli eu sefydliadau neu grwpiau cynrychiadol mewn cyfarfodydd, gan ddefnyddio hynny fel sail ar gyfer darparu cyngor cytbwys
- rhoi adborth i'w sefydliadau neu grwpiau cynrychiadol ar ôl cyfarfodydd
- dylanwadu i sicrhau bod diwylliant cadarnhaol yn eu sefydliadau eu hunain er mwyn annog pobl i weithredu i gefnogi poblogaeth sy'n heneiddio
- darparu ffocws ac ysgogiad ar gyfer trafod a chefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau effeithiol er budd pobl hŷn
- rhannu arferion da o'u sefydliadau neu grwpiau cynrychiadol
- herio a thrafod syniadau a pholisïau mewn modd sy'n dangos parch
Cytunwyd hefyd ar y Cod Ymddygiad a oedd yn cyd-fynd â'r Cylch Gorchwyl o ran presenoldeb mewn cyfarfodydd. Mae'r ddwy ddogfen wedi eu hatodi wrth yr e-bost sy'n cyd-fynd â'r nodyn cyfarfod hwn.
Gwerthusiad Oed-gyfeillgar
Siaradodd Rachel Lewis am yr eitem hon, a nodwyd y pwyntiau canlynol:
- mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar y gwaith o werthuso'r Grant Cymunedau Oed-gyfeillgar. Bydd y gwerthusiad yn cael ei ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar gyfer parhau â'r cyllid ar ôl mis Mawrth 2026
- ar hyn o bryd, mae swyddogion yn ymgynghori â chydweithwyr sydd â chefndir ym maes cynnal gwerthusiadau, ac maent yn llunio rhestr o gwestiynau i'w gofyn i rwydwaith oed-gyfeillgar yr awdurdodau lleol.
- bydd holiadur yn cael ei anfon i awdurdodau lleol tua diwedd yr haf. Mae'n bwysig cynnal y momentwm yn y gwaith hwn
- mae Age Cymru hefyd yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai gyda phobl hŷn sy'n cael budd o’r cyllid oed-gyfeillgar yn eu hardaloedd lleol. Nid yw'n glir ar hyn o bryd a fydd y gwerthusiad yn cael ei gyhoeddi, ond bydd swyddogion yn trefnu i gyfarfod â’r aelodau o MAFA sydd â diddordeb i ddadansoddi'r casgliadau
Gofynnwyd a oedd llunio map o'r effeithiau a sut maent yn lledaenu, sef "Ripple Effect Mapping", wedi'i ystyried ar gyfer y gwaith hwn. Cadarnhaodd swyddogion na fyddai adnoddau a chapasiti yn destun addas i'w mapio'n llawn fel hyn, ond y byddai elfennau o'r cysyniad hwn yn cael eu mabwysiadu.
Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Strategaeth Rhanddeiliaid ar gyfer y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth
Rhoddodd Gethin Edwards a Lucy Richardson gyflwyniad ar yr eitem hon sydd wedi ei atodi wrth yr e-bost sy'n cyd-fynd â'r nodyn cyfarfod hwn.
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- mae'r tîm Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Rhanddeiliaid yn wynebu tuag allan gyda'r nod o godi proffil y gwaith a wneir gan y Swyddfa Genedlaethol
- mae angen llawer o flociau adeiladu er mwyn gwireddu nod y Swyddfa Genedlaethol. Bydd y sgyrsiau "Beth sy'n bwysig i chi?" yn parhau. Mae swyddogion yn awyddus i gyd-gynhyrchu'r gwaith hwn, ac maent eisoes wedi bod yn gweithio gyda Llais. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gyda grwpiau fel Age Cymru, MAFA a COPA
- hefyd, mae swyddogion yn ymweld â'r Sioe Frenhinol, ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Age Cymru Powys fel rhan o'r prosiect "Mamwlad" i ymgysylltu â chymunedau ffermio mewn ardaloedd gwledig.
- symudodd y sgyrsiau i ganolbwyntio mwy ar y problemau y mae pobl yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Awgrymwyd bod angen gwneud mwy o waith i'w gwneud yn bosibl rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gyflym, fel bod gwelyau ysbyty acíwt ar gael i'r bobl sydd eu hangen. Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i wella cysylltiadau â chartrefi gofal. Cadarnhaodd GE fod hyn yn rhywbeth yr oedd y Swyddfa Genedlaethol eisoes yn ei ystyried
- cadarnhawyd na fydd gwaith y Swyddfa Genedlaethol yn cynnwys gwasanaethau fel nyrsys ardal, gan fod y rhain yn cael eu comisiynu gan iechyd yn hytrach na gofal cymdeithasol
- mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi bod mewn bodolaeth ers ychydig dros flwyddyn, a bydd ei hadroddiad blynyddol cyntaf yn cael ei gyhoeddi maes o law
Trafnidiaeth Gymunedol: cyflwyniad a thrafodaeth
Rhoddodd David Hall a Gemma Lelliott gyflwyniad ar yr eitem hon sydd wedi ei atodi wrth yr e-bost sy'n cyd-fynd â'r nodyn cyfarfod hwn.
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- sefydliad bach iawn yw'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (Cymru), nad yw'n cael fawr ddim cyllid gan Lywodraeth Cymru; fodd bynnag, mae'n gweithio gyda llawer o gwmnïau llai, fel arfer ar sail wirfoddol
- mae'r darlun o gludiant cymunedol yng Nghymru yn un cymysg; does dim darpariaeth ar gyfer Cymru gyfan gan unrhyw aelodau. Ar hyn o bryd mae'r galw am wasanaethau mor uchel, rhaid i weithredwyr droi pobl i ffwrdd. Mae angen cynyddu'r capasiti
- i lawer o ardaloedd yng Nghymru, mae pellter ac argaeledd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, yn fater o bwys
- gofynnwyd cwestiwn am ba mor ymarferol fyddai defnyddio cerbydau awtomatig (sef cerbydau heb yrrwr). Cadarnhaodd GL nad oeddent yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd, ond y byddent yn hapus i gael sgwrs bellach am y pwnc hwn
- cytunwyd y byddai'r sector trafnidiaeth gymunedol yn gwella pe bai'r prif rwydwaith trafnidiaeth yn gwella. Gallai system masnachfreinio bysiau gefnogi trafnidiaeth gymunedol yn y dyfodol
- mae angen cydnabod y sector trafnidiaeth gymunedol yn well, ac yn y pen draw mae angen darparu mwy o gyllid
Tai: cyflwyniad a thrafodaeth
Rhoddodd Faye Patton gyflwyniad ar yr eitem agenda hon a nodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- mae'n anodd iawn bodloni'r gofynion presennol a osodwyd ar y sector hwn gan Lywodraeth Cymru, a chodwyd pryderon am gynigion Llywodraeth Cymru yn y dyfodol gan y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar gyllid
- nid oes digon o gyllid gan yr awdurdodau lleol i weithredu deddfwriaeth tai newydd Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o gefnogi mentrau gwyrdd
- mae Gofal a Thrwsio wedi cynhyrchu taflen ddefnyddiol i bobl hŷn, sy'n egluro'r hyn y dylid ei wneud a'r hyn na ddylid ei wneud
- mae Gofal a Thrwsio yn wasanaeth sy'n fwy adweithiol na rhagweithiol
- mae'r cysylltiad rhwng iechyd meddwl a thai yn sylweddol
- mae'r gallu i gyrraedd person hŷn cyn iddo gyrraedd pwynt argyfwng yn hanfodol. Gwnaed awgrym am wasanaethau hysbysebu mewn meddygfeydd
- dywedodd Vicki Lloyd y bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen nawr yn cael ei greu i edrych yn fwy manwl ar y pwnc hwn. Gofynnwyd i'r aelodau roi gwybod i swyddogion y gangen Hawliau Pobl Hŷn os ydynt am gymryd rhan (gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer cyfranogiad gan sefydliadau posibl eraill), a bydd grŵp yn cael ei greu yn yr haf
Cam Gweithredu
- bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gynnull i ystyried tai a phobl hŷn yn fwy manwl.
Ymchwil i ragfarn ar sail oedran: Interniaeth y Brifysgol
Cadarnhaodd Paul Willis fod Harry Lightfoot wedi llwyddo i gael interniaeth 8 wythnos i ymgymryd â darnau penodol o waith i gefnogi'r agenda rhagfarn ar sail oedran.
Disgwylir y bydd Harry yn ymchwilio i ba lenyddiaeth a pholisïau sy'n berthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â rhagfarn ar sail oedran yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, neu o gwmpas y cyfnod hwnnw. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 12 Mehefin i gytuno ar raglen waith ar gyfer yr 8 wythnos nesaf.
Bydd diweddariad ar y gwaith hwn yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf.
Mae’r gwaith ar ragfarn ar sail oedran yn parhau er gwaethaf seibiant yng ngweithgarwch gweithgor MAFA. Ar hyn o bryd mae swyddogion ac Age Cymru yn ystyried y posibilrwydd o wneud cais am gyllid i'r Loteri Fawr, a bydd y grŵp yn ailymgynnull cyn bo hir i drafod hyn
Cam Gweithredu
- ailymgynnull y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Rhagfarn ar sail Oedran i drafod symud y gwaith hwn yn ei flaen
