Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Barry Stephens (BS), Cymru Egnïol
  • Aileen Haskell (AH), Cynghrair Pensiynwyr y Gwasanaeth Sifil
  • Bob Dutton OBE (BD), Fforwm Pensiynwyr Cymru
  • Vicki Lloyd (VL), Cadeirydd MAFA
  • Rachel Lewis (RL), Llywodraeth Cymru
  • Emma Harney (EH), Llywodraeth Cymru

Eitem 1. Diweddariad Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio

Croesawodd VL bawb i'r cyfarfod a mynegi ei thristwch am farwolaeth Phyllis Preece. Roedd Phyllis yn aelod mor amlwg o MAFA ac mae'n mynd i fod yn drist iawn hebddi.

Esboniodd RL fod llawer o waith y Llywodraeth wedi'i ohirio oherwydd pandemig y coronafeirws, er mwyn canolbwyntio ar yr ymateb brys.

Fel diweddariad cadarnhaodd RL fod ein tîm ar fin lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n heneiddio cyn yr argyfwng. Cyn Covid-19 bu cryn graffu ar y strategaeth ym mhob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys sesiynau herio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. O ganlyniad i hyn, roedd y tîm yn hyderus bod gennym ddogfen ymgynghori gref i'w chyflwyno i'r cyhoedd. Yna fe ddigwyddodd y pandemig a chan ein bod wedi ein lleoli mewn gwasanaethau cymdeithasol, roedd yn rhaid inni ysgwyddo gwaith yn gysylltiedig â Covid.

Mae ein tîm yn dal i weithio ar y polisi pobl hŷn a gofalwyr, fodd bynnag, ac er ein bod wedi gorfod ailganolbwyntio ein hymdrechion yn fwy o safbwynt Covid, cadarnhaodd RL ein bod yn dal i fod yn awyddus i barhau i ymgysylltu â chi er mwyn i ni wybod beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.

Sicrhaodd RL y grŵp ein bod am ailedrych ar y strategaeth cyn gynted â phosibl. Gobeithio'n gynnar yn yr haf. Bydd angen i'r tîm ailedrych ar y ddogfen gyfredol yng ngoleuni'r pandemig.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi'n rheolaidd ac yn gobeithio y gallwch ein cefnogi gyda'r ymgynghoriad. Bydd angen inni ystyried sut y mae gwasanaethau wedi newid a sut maen nhw'n edrych wrth symud ymlaen.

Eitem 2. Trafodaeth grŵp ar effaith ehangach Covid-19 ar sefydliadau, pobl hŷn a gwasanaethau lleol

Pwyntiau a chamau gweithredu allweddol

  • Dywedodd AH fod angen rhoi ystyriaeth frys i’r mater o “waharddiad cyffredinol” ar beidio â chaniatáu i bob un dros 70 oed fynd allan.
  • Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyfarfod yn wythnosol â'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae Albert Heaney, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol a RL yn siarad gyda VL yn rheolaidd. Rhoddwyd sicrwydd nad yw pobl hŷn yn bendant wedi cael eu hanghofio yn ystod y pandemig.
  • Dywedodd AH fod pawb yn deall bod hwn yn gyfnod digynsail a'u bod hefyd yn gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo.
  • Dywedodd BS yr hoffai gael mwy o wybodaeth am brofion a phwy sy'n cael ei brofi.  Roedd  pryder hefyd am y “gwaharddiad cyffredinol” i bobl dros 70 oed, gan ychwanegu nad yw cyfyngu pobl hŷn dros 70 i'w cartrefi eu hunain yn deg.
  • Un peth cadarnhaol i ddod allan o'r pandemig yw ewyllys da unigolion a nifer y bobl sydd wedi dechrau gwirfoddoli; mae angen i hyn barhau ar ôl Covid. Dywedodd RL fod angen ymchwilio i hyn gan fod llawer o'r gwirfoddolwyr hyn yn dychwelyd i'r gwaith ac ni fydd ganddynt gymaint o amser ag o’r blaen.
  • Dywedodd AH fod perygl o stereoteipio negyddol o ran oedran, er enghraifft bod pobl iau yn gorfod gwneud aberth dros bobl hŷn. Ychwanegodd RL fod y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (DM) yn ymwybodol o'r mater hwn. Mae'r Dirprwy Weinidog yn siarad yng nghyfarfod ar-lein MAFA am 11:30am y bore yma a byddwn yn rhannu ei nodyn siarad â chi.
  • Cam gweithredu: EH i gylchredeg nodyn siarad y Dirprwy Weinidog, ynghyd â nodiadau'r cyfarfod.
  • Cytunodd y grŵp fod angen mwy o gydgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dylai fod mwy o gydweithrediad rhwng y pedair gwlad gan ei fod yn ymddangos bod rhywfaint o wrthdaro gwleidyddol.
  • Dywedodd BS fod gwybodaeth ynghylch profion yn hanfodol. Cadarnhaodd RL fod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei Thudalen "Profi: Eich Cwestiynau" ar ein gwefan a byddwn yn anfon dolen o gwmpas at hyn.
  • Cam gweithredu: EH i anfon dolen i "Profi: Eich Cwestiynau" ynghyd â nodyn o’r cyfarfod.
  • Dywedodd S fod gwirfoddolwyr ardal Rhondda Cynon Taf yn cael eu cydgysylltu’n lleol a bod hyn yn gweithio'n dda iawn ar hyn o bryd. Mae cynghorau cymuned mewn sefyllfa dda i ymateb i'r argyfwng hwn.
  • Dywedodd AH fod pobl hŷn yn ei hardal leol wedi cael cardiau i'w rhoi yn eu ffenestr sy'n dweud “angen help” neu “Rwy'n iawn”. –Dylai hyn barhau ar ôl Covid. Ychwanegodd RL fod hyn yn cyd-fynd yn dda gyda'r rhan o'r strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n heneiddio sy’n ymwneud â  “cymunedau sydd o blaid pobl hŷn”. Mae'r fenter hon yn rhywbeth y mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn bwrw ymlaen ag ef a bydd yn ddiddorol gweld sut mae hyn yn datblygu.
  • Mae pryder bod y gwaith rhwng y cenedlaethau a oedd yn digwydd mewn cartrefi gofal, a oedd yn llwyddiannus iawn, wedi gorfod cael ei ohirio a fydd yn golygu, yn y pen draw, yr aiff preswylwyr yn fwy ynysig.
  • Mae angen gwneud mwy o ymdrech i leddfu ofnau ynghylch mynychu apwyntiadau mewn canolfannau meddygol. Mae rhai pobl hŷn yn ofnus iawn i fynychu meddygfeydd ac apwyntiadau ysbyty ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn ymwneud â Covid ac mae angen rhoi sicrwydd iddynt eto.
  • Ymddengys fod y dechnoleg newydd sy'n caniatáu i bobl wneud eu hapwyntiadau meddygol yn gweithio'n dda iawn. Fodd bynnag, mae ofnau ynghylch allgáu digidol; Bydd hyn yn gwneud i fwy o bobl deimlo eu bod wedi’u hallgáu'n ddigidol hyd yn oed yn fwy nag oeddent o'r blaen.
  • Mae angen i awdurdodau lleol gael hyfforddiant arbenigol ar faterion pobl hŷn, gan gynnwys allgáu digidol. Ni fydd y fenter Arwyr Digidol lle y mae unigolion yn mynd i gartrefi gofal i hyfforddi staff a phreswylwyr yn digwydd yn y sefyllfa sydd ohoni. Dywedodd RL bod dewis arall wedi'i sefydlu a byddwn yn rhannu'r manylion gyda’r nodyn o’r cyfarfod hwn.
  • Cam gweithredu: EH i anfon gwybodaeth am Fenter Cymunedau Digidol Cymru ar gyfer cartrefi gofal ynghyd â nodyn o’r cyfarfod.
  • Mae'r cynlluniau ar gyfer cyflwyno ffi trwydded deledu ar gyfer y rhai dros 75 oed wedi cael eu hymestyn tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Dylid dileu hyn yn gyfan gwbl. Mae'r teledu yn ffordd o roi  gwybodaeth i bobl hŷn; yn enwedig y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Daeth amser y cyfarfod i ben, ond cytunwyd bod eitem 3 ar yr agenda (diogelu hawliau pobl hŷn) wedi'i chynnwys yn y trafodaethau.

I gloi, rhoddodd RL sicrwydd i bawb fod y tîm yn dal yma a’n bod yn dal i weithio ar eich rhan.  Diolchodd i bawb am gymryd yr amser i siarad â ni ac y byddem mewn cysylltiad. Cofiwch gadw mewn cysylltiad â ninnau hefyd.