Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • John Vincent (JV), Cymru Egnïol
  • Yr Athro John Williams (JW), Prifysgol Aberystwyth
  • Sue Husband (SH), Busnes yn y Gymuned
  • Dr Martin Hyde (MH), Y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR), Prifysgol Abertawe
  • Dr Charles Musselwhite (CM), CADR
  • Chris Jones (CJ), Gofal a Thrwsio
  • Steve Milsom (SM), Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA) Gaynor Davies (GD), Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA)
  • Mark Williams (MW), y Gymuned LGBT
  • Yr Athro Saleem Kidwai (SK), Cyngor Mwslimiaid Cymru
  • Kelly Davies (KD),Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn (statws sylwedydd)
  • Lyn Cadwallader (LC), Un Llais Cymru (Cynghorau Tref a Chymuned)
  • Iestyn Wyn (IW), Stonewall Cymru
  • Jane Green (JG), Conffederasiwn GIG Cymru
  • Lynda Wallis (LW), Senedd Pobl Hŷn Cymru
  • Dawn Jeffery (DJ), Cymorth i Ferched Cymru
  • Stewart Blythe (SB), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Amal Beyrouty (AB), Women Connect First
  • Vicki Lloyd (VL), Cadeirydd, MAFA
  • Rachel Lewis (RL), Llywodraeth Cymru
  • Emma Harney (EH),Llywodraeth Cymru
  • Rachael Lovett (RL), Llywodraeth Cymru
  • Ben O’Halloran (BOH), Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Colin Richards, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
  • Laura O’Keeffe, Race Equality First
  • Claire Morgan, Cynghrair Cynhalwyr Cymru

Croesawodd VL bawb i'r cyfarfod a mynegi ei thristwch am farwolaeth Phyllis Preece. Roedd Phyllis yn aelod mor amlwg o MAFA ac mae'n mynd i fod yn drist iawn hebddi. Ychwanegodd ei bod yn bwysig cael y cyfle i fwydo materion yn ôl i Lywodraeth Cymru.

Eitem 1: Trafodaeth grŵp ar effaith ehangach Covid-19 ar sefydliadau, pobl hŷn a gwasanaethau lleol

Pwyntiau a chamau gweithredu allweddol

  • VL Croesawodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (DM) i'r cyfarfod.
  • Dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod yn falch o ymuno ac roedd yn wych bod cymaint o bobl yn gallu mynychu. ** Gweler y nodyn siarad a gaiff ei gylchredeg ynghyd â Nodyn y cyfarfod hwn.
  • Cam gweithredu: EH i gylchredeg nodyn siarad ynghyd â nodyn o'r cyfarfod.
  • Dywedodd VL fod rhagfarn ar sail oedran/gwahaniaethu ar sail oedran newydd gael eu trafod yn y delegynhadledd a gynhaliwyd ar gyfer aelodau na allent ymuno â'r gynhadledd fideo hon. Mae ofn y byddai naratifau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn cael eu hymgorffori mewn deialog gyhoeddus.
  • Er bod pobl hŷn wedi cael eu cynghori i fod yn arbennig o ymwybodol o'r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, esboniodd y Dirprwy Weinidog nad yw Llywodraeth Cymru wedi gosod unrhyw gyfyngiadau ar sail oedran. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i frwydro yn erbyn stereoteipiau a dylai pawb chwarae eu rhan i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n ymwreiddio'n ddyfnach.
  • Diolchodd JW i'r Dirprwy Weinidog am gymryd yr amser i siarad â'r grŵp ac ychwanegodd y bydd yn croesawu'r ffaith na fyddai oedran yn cael ei ystyried yn brocsi ar gyfer gwneud penderfyniadau. Mae pobl hŷn yn chwilio am sicrwydd y mae’r Dirprwy Weinidog newydd ei roi.
  • Ychwanegodd LW fod pobl hŷn yn poeni y byddan nhw y tu mewn tan o leiaf 2021. Maent yn ofnus i fynd allan ond hefyd yn ofni cael eu cloi i mewn am fisoedd tra bo eraill yn cael eu rhyddid yn ôl.
  • Soniodd SM am bwysigrwydd y strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio ac y mae angen iddi bellach gyfeirio at gynlluniau Covid-19 ac adfer. Hoffai COPA gefnogi'r ymgynghoriad mewn unrhyw ffurf.
  • Dywedodd GD fod pobl hŷn yn poeni a fyddant yn cael triniaeth dda yn yr ysbyty. Efallai y bydd gweithwyr proffesiynol yn eu hystyried yn hen ac yn credu nad oes arnynt angen y driniaeth orau.
  • Dywedodd SK mai'r broblem fwyaf mewn cymunedau BAME yw unigrwydd. Mae rhai unigolion wedi dysgu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol sy'n gadarnhaol, ond nid pawb sy'n gallu gwneud hynny.  Mae angen darparu mannau ar gyfer pobl sy'n teimlo'n unig iawn. Nid oes llefydd lle gall pobl gwrdd â'u ffrindiau. Mae'r rhan fwyaf yn byw gyda'u teuluoedd. Maent yn colli eu sgiliau Saesneg gan nad ydynt yn eu defnyddio oherwydd na allant weld eu ffrindiau. Mae pryderon hefyd am bobl sy'n byw gyda dementia.
  • Ychwanegodd AB y bu rhai achosion o droseddau casineb yn cael eu hadrodd gan rai menywod BAME hŷn. Rhoddodd yr enghraifft o gwpl a oedd wedi bod yn destun ymosodiad ar fws (dilynodd y swyddogion y digwyddiad a chadarnhawyd bod y camau cywir wedi'u cymryd). Mae gan fenywod yn y gymuned BAME ofn beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfyngiadau. Maen nhw'n ofni mynd i siopa. Mae'n anodd dod o hyd i fwyd ar gyfer pobl hŷn sydd â phroblemau symudedd.
  • Parhaodd AB drwy ddweud bod gan y gymuned grŵp WhatsApp o tua 90 o fenywod. Dywedodd rhai merched fod cyfnod y cyfyngiadau wedi eu gwneud yn agosach at eu teulu. Mae rhai yn poeni pan fydd teuluoedd yn mynd yn ôl i normal byddant yn colli'r agosrwydd hwn. Mae eraill yn adrodd am gam-drin teuluol, yn enwedig ariannol. Mae pryder hefyd am unigolion nad ydynt yn cael y feddyginiaeth y mae arnynt ei hangen.
  • Cytunodd DJ fod cynnydd wedi bod mewn cam-drin domestig. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig lle mae menywod hŷn yn cael eu dal yn eu cartrefi. Mae eu sefydliad yn cael trafferth i'w cyrraedd ac i gynnig cymorth. Gofynnodd a fyddai modd inni gael negeseuon ar gyfer menywod sy'n byw gyda'u teuluoedd i roi gwybod iddynt fod cymorth ar gael.
  • Dywedodd KD fod y Comisiynydd Pobl Hŷn yn gweithio gydag 20 o sefydliadau (heddlu, WEA etc) i ddarparu dull cydgysylltiedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor. Maent yn adolygu'r hyn sy'n digwydd, gan dynnu sylw at faterion sy'n codi. Mae hwn yn grŵp newydd sy'n gweithio'n dda. Maent yn cynhyrchu adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol (hyfforddiant). Mae gan y cyhoedd hefyd rôl i'w chwarae o ran cefnogi a diogelu pobl hŷn.
  • Dywedodd VL wrth y grŵp fod allgáu digidol wedi dod i'r amlwg yn y delegynhadledd gynharach; Mae angen sicrhau nad yw grwpiau yn cael eu gadael ar ôl. Mae mwy o bwysigrwydd i'r teledu o ran rhannu gwybodaeth. Ychwanegodd fod y drwydded deledu am ddim yn cael ei hymestyn o ganlyniad i'r pandemig.
  • Cam gweithredu: EH i rannu nodiadau'r ddau gyfarfod gyda'r ddau grŵp.
  • Dywedodd JW fod cartrefi gofal yn cael eu hanghofio am beth amser yn ystod yr argyfwng. Roedd ganddo bryderon ynghylch iechyd a lles. Wrth sôn am leddfu'r cyfyngiadau, mae pryder y bydd cartrefi gofal yn cael eu hanghofio.
  • Ymatebodd DM i drafodaethau'r grwpiau gan ddweud bod hyn yn gyfnewidiad diddorol a defnyddiol o safbwyntiau. Rhaid inni fod yn benderfynol nad yw'r pandemig hwn yn effeithio ar fywydau pobl hŷn wrth symud ymlaen. Hefyd, o ran cydberthnasau sy'n pontio'r cenedlaethau, rhaid inni beidio â gadael i hyn ein rhannu. Mae hyn wedi ail-orfodi'r angen i beidio â gadael i'r digwyddiad hwn niweidio canfyddiadau pobl iau o bobl hŷn. Ni wneir unrhyw benderfyniadau ynghylch oedran. Ni ddylai fod unrhyw wrthdaro rhwng y cenedlaethau.
  • Ychwanegodd DM ei bod yn pryderu am faterion yn ymwneud ag unigrwydd, yn enwedig pwynt AB am fenywod a materion y maent yn eu hwynebu.
  • Wrth ymateb ynghylch cartrefi gofal, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod hwn yn fater pwysig iawn. Mae’r Dirprwy Weinidog  yn falch ein bod wedi gallu cydnabod cyfraniad gweithwyr cartrefi gofal sy'n cael cyflog isel, ond sy’n gwneud gwaith medrus. Rydym yn ceisio cydnabod eu gwaith – mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bonws o £500 i weithwyr gofal fel cydnabyddiaeth fach. Dywedodd y Dirprwy Weinidog  ei bod yn cyfarfod â Chadeirydd Fforwm Gofal Cymru a'r Arolygiaeth Gofal unwaith yr wythnos lle gallant roi adborth ar faterion a phwysau. Mae profi a PPE yn faterion pwysig sy'n codi.
  • Wrth gyfeirio at ymestyn / dileu ffi'r drwydded deledu, dywedodd y Dirprwy Weinidog y gallai fod cyfle yn awr i adolygu'r penderfyniad.
  • Dywedodd RL ei bod am roi sicrwydd i bawb fod y Gangen Pobl Hŷn a Gofalwyr yn dal i fod ar waith. Bydd y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn gallu mynd i'r afael â phryderon a leisiwyd heddiw. Bydd yn rhaid adolygu sawl agwedd ar y strategaeth i adlewyrchu'r newidiadau a achoswyd gan Covid-19 a bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y gallwn.
  • Pwysleisiodd AB bwysigrwydd mynediad at dechnolegau digidol.  Dechreuodd Women Connect First dreial ym mis Ebrill gyda grŵp WhatsApp. Mae 45 o fenywod yn y grŵp sy'n weithgar yn barhaus, yn rhannu syniadau, ryseitiau a jôcs. Mae hyn yn helpu amser i fynd heibio ac yn eu cadw gyda'i gilydd. Maen nhw hefyd yn cymryd rhan mewn ioga ar Zoom a YouTube. Mae'n gwneud iddynt deimlo bod pobl yn gofalu amdanynt a'u bod yn rhan o gymuned. Fodd bynnag, maent yn cael trafferth gyda rhai menywod nad oes ganddynt Wi-Fi na gliniaduron ac mae angen mwy o help arnynt.
  • Dywedodd JW hefyd na ddylid anghofio defnyddio'r radio fel cyfrwng defnyddiol.
  • Cyfeiriodd LW at Sefydliad y Merched. Mae rhwydwaith mawr iawn ledled Cymru ac maent yn gwneud eu gorau i helpu i leddfu unigrwydd. Maent yn gwirfoddoli ac yn gwneud yr hyn a allant i helpu eraill. Mae'n teimlo fel ysbryd cymunedol yn dychwelyd sydd wedi'i golli dros y blynyddoedd.
  • Gofynnodd RL a oedd hyn yn beth newydd a dywedodd LW ei fod. Maent fel arfer yn gweld unigolion yn bersonol bob wythnos, ond erbyn hyn maent yn gweld beth sydd ei angen ar bobl sydd wedi bod yn help mawr. Mae'r pandemig wedi amlygu gwendidau a gallwn ddysgu o hyn i wneud newid cadarnhaol yn y dyfodol.
  • Ychwanegodd LW fod pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar arian parod neu gasglu eu pensiwn o swyddfa'r post. Mae ofn bod pobl yn rhedeg allan o arian oherwydd bod gormod o ofn arnynt fynd allan.
  • Dywedodd VL eu bod wedi clywed hyn yn aml drwy linellau cyngor Age Cymru ac o ganlyniad maent yn llunio rhywfaint o arweiniad ac y byddant yn ei rannu gyda RL a all anfon manylion gyda nodyn y cyfarfod hwn.
  • Cam gweithredu: EH i anfon manylion canllawiau Age Cymru ar gael gafael ar arian i'r grŵp ynghyd â nodyn o’r cyfarfod.

Eitem 2: Diogelu hawliau pobl hŷn

Pwyntiau a chamau gweithredu allweddol

  • Gofynnodd RL i'r grŵp ymhelaethu ar eu syniadau o ran eu dealltwriaeth o “waharddiad cyffredinol” ar ganiatáu i bobl dros 70 fynd allan. Trafodwyd hyn eisoes ac mae'r pwyntiau yn yr adran flaenorol. Fodd bynnag, a oes gan unrhyw un unrhyw beth i'w ychwanegu?
  • Ychwanegodd RL fod yn rhaid rhoi sylw dyladwy i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Bobl Hŷn mewn cartrefi gofal. Gwnaed cryn dipyn o waith ar hawliau pobl hŷn, a manylir ar hyn yn y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio.
  • Dywedodd JW y byddai cyfyngiadau cynhwysfawr yn anghyfreithlon ac yn torri hawliau dynol. Byddai Llywodraeth Cymru yn agored i gael ei herio pe bai hyn yn digwydd. Mae'n amddifadu pobl o'i ryddid, a byddai llawer o bobl yn gwrthwynebu hynny.
  • Ychwanegodd MH y byddai gwaharddiad llwyr yn torri ar hawliau dynol.  Dylid ei wrthod ar bob adeg os yw'r penderfyniadau'n seiliedig ar oedran. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) hefyd wedi dweud y byddai hyn yn anghywir.
  • Dywedodd KD fod y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi datgan yn glir iawn na fyddai hyn yn dderbyniol. Mae hi'n ddi-flewyn-ar-dafod am hyn a bydd yn parhau i fod felly.

Eitem 3:Y dyfodol

Nodwyd, oherwydd trafodaethau a chyfyngiadau amser, na thrafodwyd pob eitem ar yr agenda. Er hynny roeddent wedi cael eu trafod i ryw raddau yn ystod y sgyrsiau.

Gofynnodd RL i'r grŵp roi adborth ar unrhyw syniadau sydd  gennych ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben.

Sicrhaodd RL bawb fod y tîm yn dal yma ac yn dal i weithio ar eich rhan. Diolchodd i bawb am gymryd yr amser i siarad â ni ac y byddem mewn cysylltiad. Cofiwch gadw mewn cysylltiad â ninnau hefyd.