Neidio i'r prif gynnwy

Attendees

Julie Morgan AM   Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Arwel Ellis Owen

Cadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog

Kim Sparrey Cadeirydd COLIN – ALl Sir Fynwy
Kathy Proudfoot  Is-gadeirydd COLIN – ALl Pen-y-bont ar Ogwr

Simon Hatch

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru  

Claire Morgan  Gofalwyr Cymru

Kate Young 

Fforwm Cymru Gyfan

Lynne Hill Plant yng Nghymru

Elizabeth Flowers

Swyddfa'r Comisiynydd Plant  

Rhian Webber

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Valerie Billingham  Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Jane Tremlett Cyngor Sir Gaerfyrddin
Alwyn Jones

Cyngor Wrecsam (ADSS)

Sue Pearce Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Hannah Brayford

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Angela Hughes 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Jon Day Gofal Cymdeithasol Cymru

Esyllt Crozier     

Gofal Cymdeithasol Cymru

Anna Bird BILl Hywel Dda

Bethan Jones Edwards

Cyngor Sir Ddinbych (ADSS)

David Hughes 

 ALl Merthyr

  Swyddogion Llywodraeth Cymru
Matthew Jenkins

Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaethau a Chydweithredu, SSID

Rachel Lewis Pennaeth y Gangen Pobl Hŷn a Gofalwyr
Ceri Griffiths Uwch Reolwr Polisi, Pobl Hŷn a Gofalwyr
Ben O’Halloran

Swyddog Polisi Gofalwyr

Croeso a chyflwyniadau ar-lein – Arwel E Owen (Cadeirydd)

Croesawodd y Cadeirydd bawb i ail gyfarfod ar-lein Grŵp Cynghori’r Gweinidog, a nododd, er y cafwyd sylw cadarnhaol iawn yn y cyfryngau yn ystod Wythnos y Gofalwyr (w/c 08 Mehefin), bod mwy i'w wneud o hyd i godi proffil a gwella dealltwriaeth ehangach y gymdeithas o ofalwyr a phopeth y maent yn ei wneud. Soniodd y Cadeirydd hefyd am y gweminar ar-lein a gynhaliwyd ar 07 Mai rhwng Cymru a’r Alban pan cafwyd trafodaeth drylwyr am seibiannau a gwyliau byr. Mae academyddion a sefydliadau yng Nghymru yn gweithio mewn modd cadarnhaol ar y mater allweddol hwn, sy'n effeithio ar lawer o ofalwyr.

Tynnodd sawl Aelod sylw'n fyr at y gweithgarwch sy'n digwydd yn eu hardaloedd neu gan eu sefydliadau a'u partneriaid, i gefnogi gofalwyr ar yr adeg anodd hon.  Roedd llinellau ffôn sy’n cynnig cymorth emosiynol yn arbennig o brysur, ac roedd y gofalwyr yn croesawu'r cyfle i siarad am eu sefyllfa, nid dim ond ceisio cyngor a gwybodaeth.

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog drosolwg byr o sut y mae'r sefyllfa sy'n effeithio ar ofalwyr wedi datblygu ers y cyfarfod diwethaf ar 23 Ebrill. Roedd yn falch o weld bod swyddogaeth gofalwyr di-dâl bellach yn llygad y cyhoedd yn fwy nag yr oedd o'r blaen ac ar ddechrau'r pandemig. Mae'n deall y pwysau ychwanegol sydd ar ofalwyr ar hyn o bryd, a diolchodd i bawb sy'n gweithio i'w cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau penodol ar gyfer gofalwyr ac yn fwy diweddar, canllawiau i ofalwyr a mynediad i Gyfarpar Diogelu Personol (PPE).

Mae'n bwysig nodi'r ffyrdd newydd o weithio sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil yr argyfwng, gyda chynifer o sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Byddai'r trafodaethau nawr yn dechrau canolbwyntio ar symud yn ddiogel allan o’r cyfnod clo, gyda gofalwyr di-dâl yn cael lle canolog yn y sgwrs.  

Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i ateb cwestiynau ac adrodd yn ôl i'r Dirprwy Weinidog ar y materion canlynol:

  • Codwyd pryderon ynghylch y defnydd o'r term "gofalwr" yn ystod yr argyfwng COVID, oherwydd mae’r cyhoedd y cysylltu hynny’n fwy â staff gofal cymdeithasol cyflogedig. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r camddealltwriaeth diwylliannol ac efallai cael diffiniad clir o'r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp o ofalwyr.
  • Rhaid i waith cynllunio ystyried materion posibl sy'n debygol o godi yn y 9-12 mis nesaf, gan gynnwys pwysau'r gaeaf. Hefyd, mae angen ystyried heriau uniongyrchol a phenodol y gallwn fynd i'r afael â hwy yn y tymor byr.
  • Canolbwyntio ar y mentrau cadarnhaol sydd wedi deillio o'r argyfwng. Mae angen cadw'r enghreifftiau o arfer da ac ystyried pa rai a allai fwydo i mewn i'r cynllun cenedlaethol. Hefyd, sut y gallwn addasu'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd.
  • Angen ail-feithrin hyder ymysg gofalwyr i ymgysylltu pan fydd mwy o wasanaethau'n ailddechrau. Mae llawer yn ofni ceisio’r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael ond mae angen seibiant a chefnogaeth mwy ymarferol arnynt.
  • Tynnodd sawl aelod sylw at y pwysau ychwanegol sydd ar lawer o ofalwyr ifanc.  Mae rhywfaint o dystiolaeth yn dod i'r amlwg bod cau ysgolion wedi cynyddu cyfrifoldebau gofalu i rai gofalwyr ifanc, a bod methu â mynd i'r ysgol yn golygu nad ydynt wedi cael rhyw fath o seibiant. 
  • Angen ystyried y lleoliad cymunedol yn ofalus. Sut rydym yn hybu’r ysbryd cymunedol rydym yn ei weld mewn sawl rhan o gymdeithas ond gan ystyried hefyd y ffaith bod rhai ardaloedd yn gweld lleihad? (Roedd gofalwyr ifanc yn gymwys o dan ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ddysgwyr sy'n agored i niwed i gael mynediad i leoliadau ffocws yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ar y cyd â phlant y gweithwyr allweddol, os oeddent yn dymuno ac os oedd yn briodol).
  • Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod ymgynghoriad cyhoeddus y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn cael ei gohirio dros dro oherwydd COVID.  Mae i hynny, a'r cynllun newydd ar gyfer gofalwyr, gysylltiadau allweddol â'r strategaeth ar gyfer Unigrwydd ac Ynysigrwydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.  Felly, mae angen symud ymlaen gydag ymgynghoriad y Cynllun Cenedlaethol i Ofalwyr ac ymgynghoriad Cymdeithas sy'n Heneiddio cyn gynted â phosibl.  

Ymadawodd y Dirprwy Weinidog â'r cyfarfod. 

Trafodaeth ar effaith COVID-19 ar ofalwyr a chynllunio adferiad

Rhoddodd Matt Jenkins drosolwg byr o safbwynt Llywodraeth Cymru. Yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus, mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn heriol iawn, ac ni fyddwn yn dychwelyd i fywyd arferol yn y dyfodol agos. Mae'n bwysig bod data'n gallu llywio sgyrsiau er mwyn ein helpu i ddeall i ba gyfeiriad y mae'r maes polisi yn symud. Bydd adnoddau ariannol yn fater pwysig wrth symud ymlaen. Mae potensial i greu cronfa caledi ariannol ar gyfer gofalwyr di-dâl. 

  • Mynegodd yr Aelodau bryderon mawr ynghylch lles seicolegol gofalwyr. Mae amgylchiadau presennol llawer o ofalwyr yn anghynaliadwy a byddant yn cael effaith negyddol hirdymor. 
  • Dylai rôl technoleg o ran galluogi gwasanaethau i barhau a chreu ffyrdd newydd o gyflenwi gael ei chynnwys yn y Cynllun Cenedlaethol i Ofalwyr.
  • Mae Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn gweithio ar adroddiad a fydd yn bwydo i mewn i waith Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar eu canfyddiadau gan bobl hŷn yn ystod pandemig COVID-19.
  • Cynhaliodd swyddfa'r Comisiynydd Plant arolwg o blant yng Nghymru, ac ymatebodd tua 24,000 o bobl. Ar hyn o bryd maent yn dadansoddi'r rhain ac yn edrych am faterion penodol megis y rhai y mae gofalwyr ifanc yn adrodd arnynt.  
  • Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd yn disgwyl canlyniadau arolwg gofalwyr ifanc Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU a ofynnodd am wybodaeth am y materion sy'n peri gofid ac sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc, sy'n deillio o COVID-19.
  • Cafwyd cytundeb y dylid cael 2-3 o gamau gweithredu penodol i'r Grŵp Cynghori fynd i'r afael â hwy yn y tymor byr. Roedd enghreifftiau'n cynnwys cefnogi iechyd meddwl, helpu gofalwyr i ofalu gartref a gofalwyr unigol a'u cynlluniau brys a’u cynlluniau wrth gefn eu hunain.

Y camau nesaf

  • Cafwyd cytundeb bod angen bwrw ymlaen â'r Cynllun Cenedlaethol a'r ddogfen ymgynghori dros yr haf. Cynhelir trafodaeth bellach ar y cynllun mewn cyfarfod yn y dyfodol.
  • Mae angen ymchwilio ymhellach i'r materion sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc, nid dim ond eu cyfrifoldebau gofalu, ond y cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol pan fônt 18 oed a throsodd.
  • Mae'r 2-3 o gamau gweithredu penodol i'w hystyried a gellir gweithio arnynt y tu allan i gyfarfod y Grŵp Cynghori fel y gellir cytuno arnynt a'u rhoi ar waith. 

Pwyntiau gweithredu

  • Swyddogion i ddosbarthu'r ddolen i’r gweminar ar Seibiant / Gwyliau Byr  Cymru / yr Alban i aelodau’r Grŵp Cynghori.
  • Anna Bird i anfon crynodeb o'r ymatebion i'w hymgynghoriad diweddar ar strategaeth gofalwyr Gorllewin Cymru i'r Ysgrifenyddiaeth, i'w ddosbarthu i Aelodau.

Cau'r cyfarfod / dyddiad y cyfarfod nesaf

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a'u presenoldeb a daeth y cyfarfod i ben. Bydd y dyddiad ar gyfer cyfarfod llawn nesaf y Grŵp Cynghori yn cael ei ddosbarthu'n fuan.