Neidio i'r prif gynnwy
Yn Bresennol
Arwel Ellis Owen Cadeirydd
Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Kim Dolphin

Cadeirydd – Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr  - ALl Sir Fynwy

Pennie Muir Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dd
Angela Hughes

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Jon Day

Gofal Cymdeithasol Cymru

Claire Morgan

Gofalwyr Cymru

Simon Hatch Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Johanna Davies Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg
Amanda Phillips Cyngor Bro Morgannwg
Dianne Seddon Prifysgol Bangor 
Jenny Oliver Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Junaid Iqbal Lechyd Cyhoeddus Cymru
Vanessa Webb

Prifysgol Abertawe 

Kate Young

Fforwm Cymru Gyfan

Sean O’Neill Plant yng Nghymru
Rachel Lewis Pennaeth Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr, 

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Ben O'Halloran 

Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr, Swyddogion Llywodraeth Cymru

Rhiannon Ivens

Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol, Swyddogion Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Anna Bird Bwrd d Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Valerie Billingham  Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn
Ffion Johnstone Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalad
Kathy Proudfoot Dirprwy Gadeirydd - Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr, Cyngor Casnewydd

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a chofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywir a theg o’r safbwyntiau a fynegwyd.

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Diolchodd y Dirprwy Weinidog i’r aelodau am eu cyfraniadau i’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021. Gan fod y cynllun ar gael erbyn hyn, mae’n bwysig bod gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog ddyfnder a chwmpas digonol i gyrraedd y targedau uchelgeisiol sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen. Mae’r grŵp hwn, ynghyd â Grŵp Ymgysylltu sydd wedi’i adnewyddu, yn sicrhau bod ystod eang o waith ymgysylltu’n digwydd â gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Nododd y Dirprwy Weinidog mai hwn fyddai cyfarfod olaf Arwel fel cadeirydd annibynnol y grŵp a diolchodd iddo am roi o’i amser a’i brofiad i’r grŵp yn ystod dwy flynedd heriol.

Yn dilyn cyfraniad y Dirprwy Weinidog, soniodd yr aelodau am y corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos sut y mae’r effaith ariannol negyddol ar ofalwyr di-dâl wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Mae angen cynyddu’r Lwfans Gofalwr er mwyn helpu i liniaru rhai o’r problemau ariannol hyn.

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog gan ddweud nad Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r Lwfans Gofalwr ond ei bod yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ynghylch y mater. 

Yn ogystal â’r uchod, nododd cyrff y trydydd sector fod diffyg cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a gofalwyr di-dâl, yn enwedig ynghylch ailddechrau gwasanaethau cymorth. Mae Fforwm Cymru Gyfan yn dal i gael galwadau gan ofalwyr sy’n rhieni, nad ydynt yn gallu dychwelyd i’r gwaith am nad yw gwasanaethau cymorth wedi ailddechrau. Mae gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae rhai ohonynt yn gyndyn o ofyn am help oherwydd nad ydynt am roi mwy o bwysau ar y system. Byddai’n ddefnyddiol annog awdurdodau lleol i gyfathrebu’n onest ynghylch beth y gall gofalwyr di-dâl ei ddisgwyl o safbwynt cymorth yn eu hardal dros y 6 mis nesaf.

Papur Opsiynau o ran Gofal Seibiant

Rhannwyd papur â’r aelodau ynghylch sut y gellir symud cymorth o ran gofal seibiant yn ei flaen yn ystod 2022-23. Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y pedwar opsiwn ac amlygu’r opsiwn a fyddai’n gweithio orau yn eu barn nhw.

  • Opsiwn 1 – dyrannu’r cyllid i gyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • Opsiwn 2 – cael Llywodraeth Cymru i weithredu fel corff cydlynu a bod y broses yn debyg i broses y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.
  • Opsiwn 3 – dyrannu’r cyllid i gyd i gorff trydydd sector er mwyn i’r corff hwnnw gydlynu’r gronfa. Byddai’r opsiwn hwn yn golygu galw am geisiadau i fod yn gorff cydlynu. Byddai’r corff trydydd sector a ddewiswyd yn cael y £3 miliwn i gyd er mwyn cydlynu’r prosiect. Manteision yr opsiwn hwn yw bod corff trydydd sector yn gallu ymgymryd â rôl nad oes gan Lywodraeth Cymru na’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol y capasiti i’w chyflawni efallai. 
  • Opsiwn 4 – dull gweithredu hybrid, gyda chorff trydydd sector yn mabwysiadu rôl gydlynu a Llywodraeth Cymru yn dyrannu’r rhan fwyaf o’r cyllid i awdurdodau lleol a/neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. 

Mae papur 1 sydd ynghlwm yn rhoi mwy o fanylion am yr opsiynau.

Gwnaeth yr aelodau y pwyntiau canlynol.

Opsiwn 3

  • Mae Opsiwn 3 yn broses sydd wedi’i rhoi ar brawf yn yr Alban. Mae angen ystyried y gwaith sy’n digwydd yng nghyswllt Respitality hefyd. Nid oes yn rhaid i awdurdodau lleol neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol fod yn llwyr gyfrifol am y broses hon, oherwydd gall y sector preifat chwarae rhan hefyd.
  • Byddai Opsiwn 3 yn golygu bod rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio yn fwy clir.

Opsiwn 4

  • O safbwynt Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, mae’n ddefnyddiol gallu gweld pethau o’r brig i lawr wrth greu strategaethau a rhaglenni. Fodd bynnag, gall mân wahaniaethau lleol gael eu colli weithiau. Mae’n anodd hefyd sicrhau cydraddoldeb ar draws y rhanbarth cyfan gyda dull gweithredu o’r brig i lawr. Byddai’n well o lawer cael cyrff cenedlaethol o’r trydydd sector yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan fod hynny’n troi’r model ar ei ben ac yn gwneud y broses yn un sy’n gweithredu o’r gwaelod i fyny.
  • Fodd bynnag, awgrymwyd y gallai pwysleisio model mwy lleol ddigwydd ar draul sefydlu dull gweithredu cenedlaethol. Mae Opsiwn 4 yn creu’r posibilrwydd o broblemau cyfathrebu rhwng y gwahanol sefydliadau sy’n rhan o’r broses.

Cyfuniad o Opsiynau 3 a 4

  • Awgrymodd rhai aelodau mai cyfuniad o opsiynau 3 a 4 fyddai’n gweithio orau efallai. O ddewis yr opsiwn hwn, byddai angen diffinio rolau awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn glir.
  • Ni ddylai cael cynnig gofal seibiant fod yn loteri cod post sy’n seiliedig ar ddarparwr a gomisiynwyd a’i allu i ddarparu. A allai’r cynnig hwn o ran gofal seibiant roi i ofalwyr di-dâl gyllid i gael mynediad i’r gofal seibiant y mae arnynt ei angen, ar draws ffiniau rhwng siroedd neu wledydd?

Cam gweithredu: Bydd swyddogion yn drafftio papur ynghylch yr opsiwn mwyaf poblogaidd.

Trafodaeth ynghylch Cofrestr Gofalwyr

Pwysleisiodd y swyddogion mai dyma ddechrau’r drafodaeth ynghylch y mater hwn a gwnaethant ofyn a ddylid sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i symud y mater yn ei flaen.

Mae Gofalwyr Cymru yn galw am gael cofrestr gofalwyr di-dâl. Mae’r elusen yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol iawn, ac mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio cofnodion meddygfeydd meddygon teulu i ddechrau casglu’r data. Caiff y rhan fwyaf o ofalwyr di-dâl eu hadnabod mewn lleoliadau iechyd, felly gallai cofrestr sicrhau bod hynny’n digwydd yn gyson. 

Bydd defnyddio meddygon teulu yn hollbwysig, ond bydd angen cynnwys ysgolion a fferyllfeydd hefyd. Efallai y gellid ystyried model gofal sylfaenol.

Mae’n bwysig nodi bod llawer o ofalwyr di-dâl yn cael eu hannog eisoes i gofrestru gyda’u meddyg teulu, ond bod rhai’n amheus ynghylch y ffaith bod eu henwau’n cael eu cadw ar gronfa ddata. Rhaid cael cyfathrebu clir ynghylch beth yn union y byddai cofrestr yn ei olygu i ofalwyr di-dâl ac at ba ddiben y byddai’n cael ei defnyddio. Mae angen nodi bod gofyn ystyried yn ofalus y broses ar gyfer tynnu enwau gofalwyr oddi ar y gofrestr pan fyddant wedi rhoi’r gorau i ofalu.

Mae swyddogion wedi cael sgyrsiau â’u cydweithwyr ac nid yw’r Gofrestr Anabledd wedi bod mor llwyddiannus ag a fwriadwyd. Y brif broblem yw nad yw pobl yn dymuno bod ar gofrestr.

Cytunodd yr aelodau ei bod yn hanfodol cael cyfathrebu clir, defnyddio’r iaith gywir a meithrin ymddiriedaeth ynghylch y gofrestr.

Cam gweithredu: Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i ystyried sut beth fyddai cofrestr ac a fyddai’n ychwanegu gwerth.

Diweddariad gan y Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr

Mae’r Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr wedi bod yn llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth symud ymlaen, byddai’n fuddiol i’r grŵp gael strwythur llai ffurfiol a bod yn agored i ymgysylltu ar raddfa ehangach. Mae cyllid wedi’i gytuno ar gyfer 2022-23, ac mae swyddogion yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddrafftio Fframwaith Ymgysylltu. Mae sgyrsiau’n dal i fynd rhagddynt ynghylch sut y gellir defnyddio’r fframwaith hwn i ymgysylltu â gofalwyr ifanc. 

Y bwriad yw amrywio’r rhwydwaith â mwy o grwpiau ffocws a gweithgareddau allgymorth. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r modd y bydd y fframwaith hwn yn cyd-fynd â Grŵp Cynghori’r Gweinidog, gyda gofalwyr di-dâl yn aelodau o Grŵp Cynghori’r Gweinidog efallai ac aelodau’r grŵp yn mynychu cyfarfodydd y Fframwaith Ymgysylltu. 

Cam gweithredu: Caiff y cynnig ar gyfer Fframwaith Ymgysylltu ei rannu yng nghyfarfod nesaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog.

Y camau nesaf o ran Grŵp Cynghori’r Gweinidog

Ni chafwyd unrhyw sylwadau gan aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog ynghylch cylch gorchwyl y grŵp, felly tybir bod pawb yn cytuno ei fod yn dal yn addas i’w ddiben. Mae aelodaeth y grŵp hwn eisoes yn gryf, mae ganddo ystod dda o arbenigedd ac mae ganddo gynrychiolaeth dda o feysydd ac ardaloedd priodol.

Fodd bynnag, mae presenoldeb yn cael ei gofnodi a nodwyd bod angen cynyddu cynrychiolaeth o awdurdodau lleol.

Awgrymwyd y bydd angen cynrychiolaeth o faes addysg ar y grŵp wrth symud ymlaen. Mae’n bosibl y gellir sefydlu is-grŵp er mwyn gwneud cynnydd o ran blaenoriaeth rhif pedwar sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo gofalwyr di-dâl sydd mewn addysg a chyflogaeth.

Cam gweithredu: Bydd swyddogion yn drafftio cynnig ynghylch cael is-grŵp posibl, a fydd yn canolbwyntio ar flaenoriaeth rhif pedwar, a bydd yn anfon y cynnig at aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog i gael sylwadau yn ei gylch.

Diweddariad ynghylch y Siarter Gofalwyr

Roedd yr aelodau’n teimlo bod y drafft yn cynrychioli safbwyntiau aelodau’r gweithgor yn dda.

Os oes cytundeb cyffredinol ymhlith aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog ynghylch dogfen y siarter, y camau nesaf yw creu fersiwn gryno y gall pobl ifanc ei defnyddio. Bydd pob fersiwn yn cael ei dylunio er mwyn sicrhau ei bod yn ddeniadol ac yn hygyrch. Mae angen ysgrifennu’r fersiwn i bobl iau yn ofalus er mwyn i blant allu ei deall heb fod y sawl sy’n nes at fod yn oedolion yn cael eu dieithrio.

Cafodd rhai newidiadau i’r ddogfen eu hawgrymu wrth y swyddogion. Er enghraifft, dylid cryfhau’r geiriad ynghylch cyfrifoldeb awdurdod lleol i ddiwallu anghenion cymwys gofalwyr di-dâl. Dylid egluro’r hyn y mae’r siarter yn ei olygu i ofalwyr di-dâl. Dylai dogfen y siarter gynnwys rhestr o sefydliadau sy’n gallu helpu a chynorthwyo gofalwyr di-dâl. Efallai fod angen i’r adran sy’n ymdrin â’r Gymraeg yn y siarter a’r adran sy’n ymdrin â phob iaith arall gael eu gwahanu’n fwy clir oddi wrth ei gilydd. Mae’n bwysig cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Roedd rhai aelodau’n cytuno y dylid cael cafeat i gyd-fynd â’r siarter, sy’n nodi ei bod yn ddogfen fyw ac y gallai gael ei newid ymhellach.

Mae gan swyddogion gyllid ar gyfer y gwaith hwn er mwyn creu fersiynau o’r ddogfen yn Iaith Arwyddion Prydain, mewn Braille a chan ddefnyddio animeiddiadau o bosibl yn y dyfodol.

Cam gweithredu: Bydd swyddogion yn cymryd y sylwadau a gafwyd heddiw ac yn creu dogfen derfynol i’w hanfon i Grŵp Cynghori’r Gweinidog, Caiff hynny ei wneud erbyn diwedd mis Chwefror a bydd y gwaith dylunio’n cael ei gomisiynu ym mis Mawrth.

Cais gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain i ymuno â Grŵp Cynghori’r Gweinidog

Mynegodd pob un o dri chynrychiolydd y trydydd sector eu pryderon ynghylch cymeradwyo’r cais hwn i ymuno â’r Grŵp. Roedd yr aelodau yn erbyn caniatáu i Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain ddod yn aelod o’r Grŵp, a hynny am y rhesymau canlynol:

  • Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain yn dod â’i chysylltiad â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i ben ar 1 Ebrill er mwyn sefydlu sefydliad annibynnol newydd. Ni ddarparwyd unrhyw fanylion am nodau’r sefydliad newydd, cwmpas ei waith na’i genhadaeth strategol er mwyn gallu seilio’r penderfyniad arnynt.
  • Roedd yr aelodau’n awyddus i gynnig aelodaeth i fudiadau cenedlaethol yn unig o’r trydydd sector. (Nid oes unrhyw fudiadau rhanbarthol o’r trydydd sector yn aelodau o’r grŵp ar hyn o bryd.) Gan mai mudiad rhanbarthol yw Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain, byddai’n agor cil y drws i fudiadau rhanbarthol eraill o’r trydydd sector wneud cais i ymuno, a allai olygu bod Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn mynd yn rhy fawr.

Roedd yr aelodau eraill a oedd yn bresennol yn cytuno â’r pwyntiau uchod. Gallai derbyn y cais hwn heb ystyriaeth briodol amharu ar y strwythur ac achosi anghydbwysedd.

Awgrymwyd y dylid cynghori’r ymgeisydd o Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain i ymuno â Chynghrair Gofalwyr Cymru yn gyntaf cyn cael ei dderbyn i Grŵp Cynghori’r Gweinidog.

Unrhyw fater arall

Mae lansio Corff Llais y Dinesydd, sy’n gorff newydd, yn gyfle delfrydol i gryfhau llais gofalwyr.

Mynychodd dros 120 o ofalwyr yr uwch-gynhadledd i ofalwyr, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Casglwyd adborth ynghylch pynciau megis rhyddhau cleifion o’r ysbyty, addasiadau i gartrefi a chydgynhyrchu. Bydd Gofalwyr Cymru yn cynhyrchu fideo ac adroddiad ar y wybodaeth a gasglwyd yn y digwyddiadau.

Diolchodd yr aelodau i Arwel am gadeirio’r grŵp dros y ddwy flynedd ddiwethaf a dywedodd Arwel mai braint oedd cael gwneud hynny a bod y gwaith y mae’r grŵp wedi’i wneud wedi bod yn bwysig tu hwnt i’r sector.