Neidio i'r prif gynnwy

Presennol

  • Jackie Murphy (JM): Cadeirydd
  • Paul Apreda (PA): FNF Both Parents Matter Cymru
  • Angelina Arno (AA): CAIS Ltd
  • Catrin Cracroft (CC) : Cynrychiolydd Cymdeithas y Gyfraith
  • Gareth Jenkins (GJ): ADSS Cymru
  • Sara Kirkpatrick (SK): Cymorth i Ferched Cymru 
  • Sharon Lovell (SL): Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
  • Des Mannion (DM): NSPCC Cymru
  • Donna Mulhern (DMu): Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Sean O’Neill (SO): Plant yng Nghymru
  • Caroline Rawson (CR): SNAP Cymru
  • Dan Ronson (DR): Y Cyngor Cyfryngu Teuluol 
  • Nigel Brown (NB): Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell (MP): Cafcass Cymru
  • Rhianon James (RJ): Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

1. Croeso a Chyflwyniadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a rhoddodd groeso cynnes i Donna Mulhern, Caroline Rawson ac Angelina Arno, sydd wedi ymuno â’r Pwyllgor yn ddiweddar.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Sarah Coldrick: Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Sarah Durran: TGP
  • HHJ Mifflin: Y Farnwriaeth
  • Zoe Richards: Anabledd Dysgu Cymru

2. Cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020 – llofnodi cyn cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru

Roedd un newid i’w nodi. O dan Eitem 5, gofynnodd PA a fyddai modd i ni nodi’r canlynol: “Holodd PA hefyd a yw Cafcass Cymru yn recordio sgyrsiau. Cadarnhaodd MP nad yw’r sefydliad yn recordio unrhyw un o’r trafodaethau platfform gyda phlant a theuluoedd”. Bydd y frawddeg hon yn cael ei hychwanegu at y cofnodion. Yn ogystal, gan gyfeirio at Eitem 8, dywedodd NB wrth yr aelodau fod Adroddiad Blynyddol Cafcass Cymru 2019-2020 wedi’i gyhoeddi ym mis Ionawr.

3. Materion yn Codi

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

Deiliadaeth y Gadair

Dywedodd NB bod pedair blynedd wedi mynd heibio ers penodi JM yn Gadeirydd y Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth gyda JM ac yn unol â’r Cylch Gorchwyl, cytunwyd i ymestyn ei rôl am bedair blynedd arall. Diolchodd NB i JM am y modd proffesiynol a dymunol y mae’n cadeirio cyfarfodydd. Dywedodd JM ei bod wedi bod yn bleser cadeirio’r cyfarfodydd hyn a’i bod yn hapus i barhau am bedair blynedd arall.

Cylch Gorchwyl

Roedd copi diwygiedig o’r Cylch Gorchwyl wedi’i ddiweddaru wedi’i ddosbarthu i’r aelodau cyn y cyfarfod. Y newid allweddol yw dileu’r cyfeiriad at leoliad cyfarfodydd o ystyried y defnydd o MS Teams. Nodwyd bod presenoldeb hefyd wedi cynyddu ers cynnal cyfarfodydd o bell. Cytunodd y Pwyllgor i fabwysiadu’r Cylch Gorchwyl diwygiedig.

4. Data Perfformiad Chwefror 2021

Darparodd NB drosolwg o’r atgyfeiriadau a’r ffigurau perfformio ar gyfer mis Chwefror 2021. Dilynwyd hynny gan drafodaeth fanwl, ac ymatebodd NB ac MP i gwestiynau gan aelodau o’r pwyllgor.

Gofynnodd PA am Ddangosydd Perfformiad Allweddol 3 a’r oedi wrth ffeilio adroddiadau. Esboniodd MP mai dim ond o 24 awr y byddai’r targed yn cael ei fethu fel arfer oherwydd materion gweinyddol neu mewn achosion lle nad oedd ymarferwyr wedi gallu cysylltu â defnyddwyr gwasanaeth. Ychwanegodd NB fod Cafcass Cymru yn ceisio lleihau’r bwlch rhwng y dyddiad ffeilio a dyddiad y gwrandawiad ac nad yw wedi achosi oedi mewn perthynas â’r achos llys yn mynd yn ei flaen.

Gofynnodd PA a oedd unrhyw ddata y dylid ei rannu yn y cyfarfod nesaf ynghylch yr amser y mae Llysoedd yn ei roi i Cafcass Cymru i ffeilio adroddiadau adran 7 a allai werthuso arwyddocâd yr ‘oedi’ wrth ffeilio adroddiadau o fewn y system Cyfraith Breifat gyffredinol.

Gweithredu: MP wedi nodi hynny a chytunodd i roi sylw iddo yn y cyfarfod nesaf.

5. Y wybodaeth ddiweddaraf am Fframwaith Cyflenwi Gwasanaethau Dros Dro COVID-19, a Heriau Gweithredol.

Dywedodd NB wrth yr aelodau nad oedd Cafcass Cymru wedi gwneud unrhyw newidiadau i’w Fframwaith Cyflenwi Gwasanaethau Dros Dro. Cynghorir ymarferwyr i barhau â chyfarfodydd o bell, oni bai eu bod o’r farn bod angen cael cyfarfod wyneb yn wyneb. Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu’n barhaus a byddant yn cael eu diweddaru yn unol â hynny.

6. Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfiawnder Teuluol

Dosbarthwyd y diweddariad hwn i aelodau cyn y cyfarfod. Darparodd NB drosolwg llawn o’r wybodaeth yn yr adroddiad, gyda mewnbwn gan GJ. Ychwanegodd GJ fod y

Cyhoeddi Adroddiad Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus

Nododd NB fod yr Adroddiad Diwygio Cyfraith Gyhoeddus terfynol wedi’i gyhoeddi ar 1 Mawrth a’i lansio ar 9 Mawrth gyda dros 1,000 o bobl yn ymuno â’r digwyddiad ar-lein. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhelliad ar gyfer newid, canllawiau arferion gorau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y system cyfiawnder teuluol ac awgrymiadau ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc a ddatblygwyd gan aelodau o Fwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc (FJYPB). Mae digwyddiadau hyfforddi ar lefel genedlaethol a lleol yn cael eu trefnu, a bydd Cafcass Cymru yn hwyluso gweithdai gyda chynghorwyr llysoedd teulu.

Diwygio Cyfraith Breifat     

Darparodd MP ddiweddariad o waith y Gweithgor Cyfraith Breifat, sy’n cael ei lywio gan Adroddiad y Gweithgor (a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020) a’r adroddiad ar “Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat”.

 

Dywedodd MP fod Gogledd Cymru wedi’i nodi ar gyfer Cynllun Peilot Braenaru yng Nghymru i brofi ffyrdd newydd o weithio mewn perthynas â gwaith cyfraith breifat. Uchelgais y peilot yw datblygu model sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion a nodir yn y ddau adroddiad a grybwyllir uchod. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

7. Cynllun Peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru – Gareth Jenkins

Hysbysodd GJ yr aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd ceisiadau ar gyfer tair ardal Barnwyr Teulu Dynodedig (DFJ) yng Nghymru i dreialu Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Llwyddodd ardal De-ddwyrain Cymru DFJ i sicrhau’r cyllid i ddatblygu a gweithredu FDAC. Mae model FDAC yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol sydd â’r nod o gefnogi rhieni i wneud newidiadau sy’n ofynnol er mwyn iddynt ofalu am eu plant yn ddiogel. Yn dilyn dadansoddiad o ddata, penderfynwyd dechrau’r peilot yn Llys Caerdydd gyda’r bwriad o’i ymestyn ar draws ardal y de-ddwyrain yn ystod oes y peilot dwy flynedd. Gorffennodd GJ drwy ddweud y bydd yn diweddaru’r Pwyllgor Cynghori mewn cyfarfodydd i ddod.

Diolchodd y Cadeirydd i GJ am y diweddariad a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at dderbyn y diweddariadau.

8. Ystadegau Eiriolaeth

Nid oedd Sarah Durrant, TGP, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ac roedd wedi anfon ei hymddiheuriadau.

9. Unrhyw Fater Arall

NSPCC Cymru

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau mai dyma fyddai’r tro olaf y byddai DM yn mynychu cyfarfod Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru. Bydd Tracey Holdsworth yn cynrychioli’r NSPCC mewn cyfarfodydd i ddod. Diolchodd y Cadeirydd i DM am ei gyfraniad. Ychwanegodd iddi fwynhau ei wybodaeth, ei brofiad a’i gyngor dros y blynyddoedd a dymunodd pob lwc iddo i’r dyfodol. Diolchodd DM i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor a dywedodd ei bod wedi bod yn braf gallu gorffen gyda diweddariad cadarnhaol GJ.

CAIS Ltd

Dywedodd AA y byddai CAIS Ltd yn uno ag Adferiad, WACADA a Hafal ac o 1 Ebrill ymlaen, byddai’n cael ei alw’n Adferiad Recovery. Cadarnhaodd yr Ysgrifenyddiaeth y byddai’n gwneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cylch Gorchwyl.

New Members

Dywedodd NB wrth yr aelodau ei fod wedi cael sgwrs yn ddiweddar gyda chydlynydd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc (FJYPD) gyda’r bwriad o wahodd un o aelodau’r Bwrdd i fod yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru. Cafodd y cynnig hwn dderbyniad cadarnhaol gan aelodau’r Pwyllgor.

Future Times of Meetings

Er mwyn cyd-fynd ag anghenion y person ifanc, dywedodd NB y byddai angen newid amser cychwyn cyfarfodydd y Pwyllgor i tua 15:30.

Gweithredu: RJ i ddosbarthu e-bost at aelodau i holi eu barn ar y newid amser yn ogystal â chael barn aelodau ar gadw cyfarfodydd o bell.

Gan nad oedd mater arall i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben.

10. Cyfarfod Nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf am 4.00 pm ar ddydd Mawrth, 29 Mehefin 2021

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru am eu hamser a’u cyfraniad gwerthfawr i’r cyfarfod.

Taaflen weithredu

Rhif yr eitem ar yr agenda

 

Gweithredu

Arweinydd

Eitem 4 – Data Perfformio – Chwefror 2021

 

MP i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brydlondeb Adroddiadau Cyfraith Breifat

 

MP

Eitem 9 – Unrhyw Fater Arall – Amser cyfarfodydd yn y dyfodol

 

RJ i ddosbarthu e-bost i’r aelodau i ofyn am eu barn ar y newid amser yn ogystal â’u barn ar gadw cyfarfodydd o bell.

 

Ysgrifenyddiaeth