Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Jackie Murphy: Cadeirydd
  • Andrew: Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc
  • Laura: Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc
  • Paul Apreda: FNF Both Parents Matter Cymru
  • Sarah Coldrick: Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru
  • Beth Flowers: Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Tracey Holdsworth: NSPCC Cymru
  • Lesley Hyde: Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Gareth Jenkins: Cynrychiolydd y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Sara Kirkpatrick: Cymorth i Ferched Cymru
  • Donna Mulhern: Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Sean O'Neill: Plant yng Nghymru
  • HHJ Jayne Scannell: Barnwriaeth
  • Samantha Williams: Anabledd Dysgu Cymru
  • Nigel Brown: Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell: Cafcass Cymru
  • De Litchfield: Cafcass Cymru
  • Rhianon James: Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

1. Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd y cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys HHJ Jayne Scannell a Sam Williams, a oedd wedi ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar. Hefyd, rhoddodd y cadeirydd groeso arbennig o gynnes i Andrew a Laura, sydd yn aelodau o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Catrin Cracroft: Cynrychiolydd Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Sharon Lovell: Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
  • Beth Altman: Cafcass Cymru

Dywedodd y cadeirydd wrth aelodau’r pwyllgor fod Sharon Lovell wedi anfon ei hymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, gan nodi y byddai'r cyfarfod ar yr un diwrnod y byddai hi yn Windsor yn casglu ei MBE. Llongyfarchodd y cadeirydd Sharon ar ei chyflawniad rhagorol.

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021– eu cymeradwyo cyn eu cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru – a materion sy'n codi

Wedi cytuno. Nid oedd unrhyw ddiwygiadau i'r cofnodion ac nid oedd unrhyw faterion yn codi. 

3. Data Perfformiad / Pwysau ar Adnoddau

Rhoddodd Nigel drosolwg o'r atgyfeiriadau a'r ffigurau perfformiad ar gyfer Medi 2021. Cafwyd trafodaeth fanwl wedyn ac ymatebodd Nigel a Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau o'r pwyllgor.

Dangosodd y data fod y pwysau ar staff wedi bod yn sylweddol, nid yn unig oherwydd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau sy’n cael eu gwneud ond hefyd oherwydd ôl-groniad o achosion yn y system cyfiawnder teuluol. Gofynnodd y cadeirydd ynglŷn â chyswllt â phlant. Dywedodd Nigel, yn dilyn ymgynghoriad â staff yn ystod yr haf, y cyhoeddodd Cafcass Cymru ganllawiau newydd i’r staff. Mae ymarferwyr yn cael eu hannog i barhau â dull cyfunol, gan weld teuluoedd a phlant wyneb yn wyneb ac o bell. Mae disgwyl i ymarferwyr gynnal o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb â’r plant yn ystod bywyd achos.

4. Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc – Diweddariad ar Lafar a Chyflwyniad

Rhoddodd Laura ac Andrew gyflwyniad ar waith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc. Roedd hyn yn cynnwys rôl aelodau'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, y bobl y mae'n gweithio gyda hwy, ei waith gyda Cafcass Cymru, rhestr o awgrymiadau gorau i ymarferwyr, a’i flaenoriaethau. Canmolwyd Laura ac Andrew ar eu cyflwyniad gan aelodau'r Pwyllgor Cynghori, o ran ei gynnwys a'i ddull cyflwyno. Rhoddwyd adborth gan aelodau o'r pwyllgor a chafwyd trafodaeth frwdfrydig wedyn. Roedd graddfa gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc wedi creu cryn argraff ar aelodau’r pwyllgor ac roedd rhai ohonynt am helpu'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc i ddatblygu’r gwaith hwn ymhellach.

Diolchodd y cadeirydd i Laura ac Andrew am eu cyflwyniad rhagorol a diolchodd i De am hwyluso'r sesiwn.

5. Diweddariad ar Gyfraith Breifat

Rhoddodd Matthew gyflwyniad ar ddiwygio’r gyfraith breifat. Ystyrioedd ei gyflwyniad y rhesymau dros ddiwygio’r gyfraith breifat ac amcanion hirdymor y gwaith hwn. Gwnaeth Matthew hefyd gyflwyno prif ganfyddiadau adroddiad a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym Mehefin 2020, “Asesu'r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Cyfraith Breifat”, a chamau nesaf Cafcass Cymru, a rhoddodd amlinelliad byr o Gynllun Beilot Braenaru Gogledd Cymru, yr amcangyfrifir y bydd yn dechrau ym mis Ionawr 2022.

Cafwyd trafodaeth fywiog wedyn a rhannodd yr aelodau eu sylwadau.

Diolchodd y cadeirydd i Matthew am ei gyflwyniad manwl.

6. Diweddariad ar y Gyfraith Gyhoeddus

Gan fod yr aelodau wedi cael trafodaeth gyfoethog ar y gyfraith breifat, awgrymodd Matthew fod yr eitem hon ar yr agenda yn cael ei symud i'r cyfarfod nesaf. Cytunwyd ar hyn gan yr holl aelodau.

7. Unrhyw fater arall

Gan nad oedd unrhyw faterion eraill i'w trafod, daeth y cyfarfod i ben.

8. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf o bell am 4pm, ddydd Mawrth 15 Mawrth 2022.

Diolchodd y cadeirydd i aelodau Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru, yn enwedig i’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, am eu hamser a'u cyfraniad gwerthfawr i'r cyfarfod.