Neidio i'r prif gynnwy

Presennol

  • Jackie Murphy (JM): Cadeirydd
  • Paul Apreda (PA): FNF Both Parents Matter Cymru
  • Rocio Cifuentes (RC): Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
  • Sarah Coldrick (SC): Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru
  • Jennifer Gibbon-Lynch (JGL): Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc
  • Lesley Hyde (LH): Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (yn mynychu ar ran Donna Mulhern)
  • Lois (L): Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc
  • Sharon Lovell (SL): Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
  • Sean O’Neill (SO): Plant yng Nghymru
  • Caroline Rawson (CR): SNAP Cymru
  • Dan Ronson (DR): Y Cyngor Cyfryngu Teuluol 
  • Nigel Brown (NB): Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell (MP): Cafcass Cymru
  • De Litchfield (DL): Cafcass Cymru
  • Jane Smith (JS): Cafcass Cymru
  • Rhianon James (RJ): Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

1. Croeso a Chyflwyniadau

Croesawodd y cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys  Rocio Cifuentes, a oedd wedi ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar. Yn ogystal, rhoddodd y cadeirydd groeso cynnes iawn i aelodau o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, gan ychwanegu yr oedd aelodau mewn cyffro o achos eu bod hefyd wedi ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar. Bydd Jen yn mynychu'r ychydig o gyfarfodydd cyntaf i gefnogi'r aelodau ifanc, sef Lois ac Andrew. Diolchodd NB aelodau'r pwyllgor am gytuno i amser dechrau hwyrach er mwyn bodloni'r bobl ifanc.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Catrin Cracroft: Cynrychiolydd Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Tracey Holdsworth: NSPCC Cymru 
  • Gareth Jenkins: ADSS Cymru
  • HHJ Mifflin: Barnwriaeth
  • Donna Mulhern: Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Zoe Richards: Anabledd Dysgu Cymru

Nodwyd bod Ei Hanrhydedd y Barnwr Mifflin wedi penderfynu gadael y pwyllgor. Roedd am fynegi ei diolchgarwch i'r aelodau am wneud iddi deimlo bod croeso iddi ar y pwyllgor a dymunodd y gorau i aelodau'r pwyllgor ar gyfer y dyfodol. Bydd Ei Hanrhydedd y Barnwr Jayne Scannell yn cymryd lle'r Barnwr Mifflin yn y dyfodol. Dywedodd y cadeirydd y bydd colled fawr ar ôl y Barnwr Mifflin a bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at groesawu'r Barnwr Scannell i gyfarfodydd yn y dyfodol.

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020 – cymeradwyo cyn cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru – a materion sy'n codi

Wedi cytuno. Nid oedd unrhyw ddiwygiadau i'r cofnodion. 

Materion sy’n codi

Yn ystod y cyfarfod diwethaf, gofynnodd PA a oedd unrhyw ddata a ddylid ei rannu ar faint o amser y mae’r llysoedd yn rhoi i Cafcass Cymru ffeilio adroddiadau adran 7 (a7) a allai werthuso arwyddocâd yr 'oedi' mewn ffeilio adroddiadau yn y system cyfraith breifat gyffredinol. Mewn ymateb, eglurodd MP fod Dangosydd Perffomiad Allweddol 3 yn adlewyrchu canran adroddiadau a7 sy'n bodloni'u dyddiad ffeilio llys. Y targed yw 95%. Dros y 18 mis cyn COVID-19, gwnaeth y ganran o adroddiadau a7 a ffeiliwyd wella o 5% i tua 90% erbyn dechrau 2020. Fodd bynnag, ers mis Mawrth 2020, sef dechrau pandemig y coronafeirws, bu cynnydd enfawr mewn llwythi achos, yn enwedig ym maes cyfraith breifat. Yn ogystal, mae ôl-groniad o achosion yn y llysoedd teulu. Mae hyn wedi arwain at lwyth gwaith uwch i ymarferwyr y sefydliad. Eglurodd MP fod adroddiadau a7, yn draddodiadol, yn cael eu ffeilio o fewn 12 wythnos, ond yn sgil y llwyth gwaith eithriadol, cytunwyd gyda'r llysoedd y byddai hyn yn cael ei estyn dros dro i 16 wythnos. Dywedodd MP fod y sefydliad yn adolygu perfformiad ac effaith yr amserlen estynedig ar gyfer ffeilio adroddiadau'n barhaus. Ychwanegodd NB mai'r oedi ar gyfartaledd mewn ffeilio adroddiadau yw dau ddiwrnod. 

3. Cafcass Cymru – Prosiect Cyfraith Gyhoeddus – Archwiliad Thematig Tachwedd 2021 – Cymwysiadau Adran 31 – Adroddiad ar Ganfyddiadau

Cyflwynodd NB JA, sy'n Bennaeth Gweithrediadau yng Ngwent a'r arweinydd ar gyfer cyfraith gyhoeddus yn Cafcass Cymru. Mae JS hefyd yn aelod o’r Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus.  Rhoddodd JS y cefndir i'r adroddiad a siaradodd am y canfyddiadau. Rhoddodd aelodau sylwadau a chafwyd trafodaeth lawn wedyn.

Diolchodd y cadeirydd JS am ei hadroddiad rhagorol a diolchodd i aelodau am eu hadborth.

4. Data Perfformiad Diwedd y Flwyddyn a Mai 2021

Rhoddodd NB drosolwg o'r atgyfeiriadau a ffigurau perfformiad ar gyfer diwedd y flwyddyn hys at fis Mawrth 2021, ynghyd â'r data ar gyfer y flwyddyn bresennol. Cafwyd trafodaeth fanwl wedyn ac ymatebodd NB ac MP i gwestiynau a godwyd gan aelodau o'r pwyllgor.

5. Diweddariad ar ddulliau o weithio yn y dyfodol

Nododd NB fod Llywodraeth Cymru yn cynghori ei gweithwyr i weithio gartref o hyd yn sgil pryderon iechyd cyhoeddus parhaus, sy'n golygu bod Cafcass Cymru yn parhau i weithio o bell.  Fodd bynnag, mae ymarferwyr yn mabwysiadu dull cyfunol o ymgymryd â gwaith uniongyrchol â phlant ac mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phlant bellach yn cael eu cynnal. 

Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu na all llysoedd dderbyn yr holl bartïon ac mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i bresenoldeb barnwyr, cynghorwyr cyfreithiol, ymgeiswyr ac ymatebwyr. Disgwylir y cyhoeddir arweiniad barnwrol yn yr wythnosau i ddod ar y model ar gyfer gwrandawiadau llys hybrid yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid yw'r rhan fwyaf o staff yn mynychu'r llys yn bersonol, a bydd hyn yn amodol ar adolygiad ar ôl i lywydd yr Is-adran Deuluoedd gyhoeddi arweiniad. 

Mae Cafcass Cymru yn drafftio canllawiau ymarfer i ymarferwyr a fydd yn amlinellu fframwaith ar gyfer dulliau o weithio yn y dyfodol ac a fydd yn cael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor. 

6. Diweddariad ar Ddiwygio Cyfiawnder Teuluol

Diwygio Cyfraith Gyhoeddus

Dywedodd MP fod y gwaith o ddiwygio cyfraith gyhoeddus yn llai radical o’i gymharu â chyfraith breifat. Canolbwynt y diwygiadau yw gwella gwaith yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, cryfhau cynllunio gofal awdurdodau lleol i ystyried yr ystod lawn o orchmynion, gwella ansawdd, a gweithredu arweiniad arfer gorau. Mae Cafcass Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, y llysoedd a Byrddau Cyfiawnder Teuluol Lleol i godi ymwybyddiaeth o'r adroddiad a chyflwyno hyfforddiant ar agweddau penodol ar arweiniad arferion gorau. 

Diwygio Cyfraith Breifat

Rhoddodd MP ddiweddariad ar waith y Gweithgor Cyfraith Breifat, sy'n cael ei lywio gan Adroddiad y Gweithgor Cyfraith Breifat (a gyhoeddwyd fis Mehefin 2020) a'r adroddiad ar “Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat”. 

Nododd MP y gwnaeth yr adroddiad hwn nifer o argymhellion ar sut y gellid gwella'r system, gan gynnwys proses y llys yn mabwysiadu dull ymchwilio yn hytrach na dull gwrthwynebus.

Rhoddodd MP wybod i aelodau bod dau safle braenaru (Gogledd Cymru a Dorset) wedi'u nodi i brofi dulliau newydd o weithio mewn perthynas â gwaith cyfraith breifat. Uchelgais y peilot yw datblygu model sy'n mynd i'r afael â'r argymhellion a amlinellir yn y ddau adroddiad y sonnir amdanynt uchod. 

Ychwanegodd NB y bydd gan Cafcass Cymru ddealltwriaeth lawer cliriach o'r fframwaith erbyn yr hydref a bydd yn gwahodd Beth Altman i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynghori i roi mwy o fanylion.

Er y cododd aelodau gwestiynau am y model arfaethedig, cynghorodd NB ei fod yn anodd ymateb gan nad yw'r model gweithredol wedi'i ddatblygu eto. Bydd y cyflwyniad yn ystod cyfarfod mis Tachwedd yn rhoi cyfle i aelodau ofyn cwestiynau am y model. 

7. Unrhyw Fater Arall

Gofynnodd SL a fyddai'n bosibl i adolygu'r cytundeb eiriolaeth rhwng Cafcass Cymru a darparwyr eiriolaeth. Cytunodd NB i symud hwn ymlaen. 

Gan nad oedd unrhyw faterion eraill i'w trafod, daeth y cyfarfod i ben.

Gan nad oedd mater arall i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben.

8. Cyfarfod Nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf o bell am 4pm, ddydd Mawrth 2 Tachwedd 2021.

Diolchodd y cadeirydd aelodau Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru am eu hamser a'u cyfraniad gwerthfawr i'r cyfarfod.