Neidio i'r prif gynnwy

Cofnod

Yn bresennol

Mark Drakeford AS: Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Bethan Webb: Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru: Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

Ysgrifenyddiaeth: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Swyddogion Is-adran Cymraeg 2050 yn arsylwi: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Dr Richard Glyn Roberts: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Ymddiheuriadau

Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050

Eitem 1: croeso

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050. 
Cafwyd diweddariad gan Bethan am uchafbwyntiau Cymraeg 2050 yn ystod y misoedd diwethaf gan gynnwys Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), trochi hwyr, gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a dathlu dwy flynedd o wersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed a’r gweithlu addysg.

Eitem 2: materion perthnasol yr aelodau

Cafodd nifer o’r aelodau gyfle i godi unrhyw faterion perthnasol yr oeddynt am eu trafod, gan gynnwys AI a’r Gymraeg, y lefi twristiaeth, cynlluniau datblygu lleol, a’r toriadau ariannol ym Mhrifysgolion Cymru. Dyma rhai o’r prif bwyntiau:

  • Nodwyd pwysigrwydd casglu lleisiau pobl o wahanol ardaloedd a chefndiroedd wrth ariannu technoleg Cymraeg yn y dyfodol.
  • Trafodwyd pwysigrwydd ystyried anghenion cefn gwlad wrth ddatblygu polisïau gyda’r Awdurdodau Lleol.
  • Nodwyd pwysigrwydd craffu ar gynlluniau datblygu lleol, a’r effaith y caiff y cynlluniau hyn ar y Gymraeg.

Cam gweithredu 1

Swyddogion Cymraeg 2050 i sicrhau bod lleisiau pobl o wahanol ardaloedd a chefndiroedd yn cael eu casglu wrth ariannu prosiectau technoleg Cymraeg yn y dyfodol.

Eitem 3: data diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Cafwyd cyflwyniad ar ddata diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gan swyddog o adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru. Cododd y pwyntiau isod fel rhan o’r drafodaeth ddilynol:

  • Trafodwyd y diffyg data llawn sydd ar gael am sgiliau'r Gymraeg y tu allan i Gymru.
  • Holwyd am ddiweddariad ar y gwaith ymchwil i graffu ar wahaniaethau rhwng data’r cyfrifiad ac arolygon eraill am y Gymraeg a chytunwyd i rannu Arolwg Data Llywodraeth Cymru gyda’r aelodau.
  • Trafodwyd y posibiliadau gwahanol o gofnodi data am y Gymraeg pe na bai cyfrifiad yn y dyfodol.
  • Nodwyd pwysigrwydd data ar fudoledd lleol.

Cam gweithredu 2

Ysgrifenyddiaeth i rannu ddata diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gyda’r Cyngor.

Cam gweithredu 3

Ysgrifenyddiaeth i rannu QR at yr Arolwg defnyddwyr gyda’r aelodau er mwyn iddyn nhw ymateb i’r arolwg a’i rannu gydag eraill a allai fod â diddordeb.

Eitem 4: diweddariad ar Raglen Waith yr ail Gomisiwn Cymunedau Cymraeg

Cafwyd cyflwyniad ar Raglen Waith yr ail Gomisiwn Cymunedau Cymraeg gan swyddog o Is-adran Cymraeg 2050.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]

Eitem 5: gair o Groeso gan Ysgrifennydd y Cabinet

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.

Eitem 6: diweddariad ar Brosiect BRO (Astudiaeth Sosio-ieithyddol o Gymunedau Cymraeg Dwysedd Uwch) a sesiwn drafod

Cafwyd diweddariad ar Brosiect BRO gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Richard Glyn Roberts o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cychwynnodd y gwaith yn mis Medi 2023. Rhannwyd rhai canfyddiadau cynnar.

Trafodwyd y canlynol ar sail y cyflwyniad:

  • Y rôl gefnogol y mae’r mentrau iaith wedi ei chwarae yn yr ardaloedd dan sylw.
  • Bod angen mwy o waith dadansoddi o’r gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol a proffiliau oedran, yn enwedig defnydd a rhwydweithiau iaith plant a phobl ifanc.
  • Bod angen cymharu eu sampl gyda rhai o gategorïau (proffil oedran) y cyfrifiad.

Cam gweithredu 4

Ysgrifenyddiaeth i wahodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Richard Glyn Roberts o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i roi diweddariad pellach ar Brosiect BRO yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Eitem 7: sesiwn drafod ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion adroddiad Cam 1 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg

Cafwyd diweddariad am strwythur ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cam 1 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050. Yna cafwyd trafodaeth agored wedi ei lywio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.

Prif ganfyddiad y drafodaeth oedd bod angen i’r Llywodraeth ystyried yn ofalus unrhyw ganlyniadau anfwriadol posib wrth lunio ei hymateb gan bwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a bod pob cymuned yng Nghymru o arwyddocâd ieithyddol.

[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]

Eitem 8: unrhyw fater arall

Trafodwyd themâu posib ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd mai ffocws y cyfarfod nesaf fydd y gweithlu addysg. Nododd yr aelodau eu bod yn awyddus i glywed lleisiau amrywiol o’r sector er mwyn deall realiti’r sefyllfa yn llawn.

Cam gweithredu 5

Ysgrifenyddiaeth i wahodd amrywiol swyddogion o'r sector addysg ledled Cymru i drafod yr heriau a'r cyfleoedd yn wyneb y targed i ddenu a chadw digon o athrawon a all addysgu'r Gymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwyntiau gweithredu

Cam gweithredu 1

Pwynt gweithredu

Swyddogion Cymraeg 2050 i sicrhau bod lleisiau pobl o wahanol ardaloedd a chefndiroedd yn cael eu casglu wrth ariannu technoleg Cymraeg yn y dyfodol.

Arweinydd

Swyddogion Cymraeg 2050

Statws

Oren

Cam gweithredu 2

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i rannu ddata diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gyda’r Cyngor.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth

Statws

Gwyrdd: cwblhawyd

Cam gweithredu 3

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i rannu QR at yr Arolwg defnyddwyr gyda’r aelodau er mwyn iddyn nhw ymateb i’r arolwg a’i rannu gydag eraill a allai fod â diddordeb.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth

Statws

Gwyrdd: cwblhawyd

Cam gweithredu 4

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i wahodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Dr Richard Glyn Roberts o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant roi diweddariad pellach ar Brosiect BRO yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth

Statws

Oren

Cam gweithredu 5

Pwynt gweithredu

Ysgrifenyddiaeth i wahodd amrywiol swyddogion o'r sector addysg ledled Cymru i drafod yr heriau a'r cyfleoedd yn wyneb y targed i ddenu a chadw digon o athrawon a all addysgu'r Gymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Arweinydd

Ysgrifenyddiaeth

Statws

Gwyrdd: cwblhawyd