Cofnodion Cyngor Partneriaeth y Gymraeg: 17 Tachwedd 2025
Cofnod o gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg ar 17 Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cofnod
Mark Drakeford AS: Ysgrifenydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Light : Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Elin Burns: Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru
Swyddogion Is-adran Cymraeg 2050: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dr Richard Glyn Roberts: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Catrin Llwyd: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Ymddiheuriadau
Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Croeso gan y Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a’r Gymraeg
Eitem 1: croeso
Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Elin Burns, Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Rhoddodd ychydig o’i chefndir personol ac am y rôl newydd. Yna, cyflwynodd ddiweddariad i’r Cyngor ar waith Is-adran Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf.
Trafodwyd pwyntiau gweithredu'r cyfarfod blaenorol gan gyfeirio at yr isod:
- Bydd sesiwn ar Gyfrifiad 2031 bellach yn cael ei chynnal yn hwyrach yn ystod 2026.
- Y bwriad yw bydd adroddiad yr ail Gomisiwn Cymunedau Cymraeg yn barod erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod.
Cam gweithredu 1
Ysgrifenyddiaeth i drefnu sesiwn ar Gyfrifiad 2031 yn un o gyfarfodydd y dyfodol hyd at diwedd 2026.
[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.]
Eitem 2: cyfle i newid naratif: llunio Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a’i defnyddio
Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y gwaith sy’n mynd rhagddo yn sgil Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Canolbwyntiodd y sesiwn ar y gwaith sydd ar y gweill i lunio’r Cod ar sail y CEFR (Common European Framework of Reference for Languages) a sut i ddefnyddio’r lefelau a fydd yn cael eu disgrifio yn y Cod. Cafwyd trosolwg o’r amserlen a’r blaenoriaethau:
- Nodwyd pwysigrwydd lledaenu’r targed 10% o ddefnydd o’r Gymraeg ar draws yr wythnos ysgol gyfan, nid dim ond mewn gwersi penodol, gan annog cynnydd anffurfiol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i feithrin hyder ieithyddol disgyblion.
- Nodwyd bod angen sicrhau bod y CEFR a’r cymwysterau newydd yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, gan adlewyrchu’r berthynas rhwng cymwysterau addysgol a gofynion y gweithle.
- Cytunwyd bod ymwybyddiaeth o’r CEFR yn isel iawn mewn gweithleoedd, a bod angen cymryd camau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y fframwaith hwn.
- Trafodwyd pwysigrwydd ystyried gallu yn y Gymraeg fel sgil, a’r angen i ddefnyddio technoleg i asesu sgiliau ieithyddol, gan gefnogi cyflogwyr i benodi’r bobl iawn i’r swyddi iawn ac i wahaniaethu rhwng gallu ieithyddol a gallu technegol.
- Awgrymwyd y byddai cynlluniau peilot gyda chyflogwyr, yn enwedig mewn ardaloedd dwysedd isel, yn werthfawr i ddeall agweddau a dulliau dysgu plant sy’n siarad mwy nag un iaith, a bod angen cynnwys trawstoriad o ysgolion yn y gwaith hwn.
- Pwysleisiwyd yr angen i roi mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am y CEFR, dangos ei werth ychwanegol i’r gymuned, ac ystyried newid Safonau’r Gymraeg ar sail y CEFR fel blaenoriaeth i godi ymwybyddiaeth a chefnogi’r broses o lenwi Cyfrifiad 2031.
Cam gweithredu 2: cynnwys elfen am y CEFR yn yr eitem ar Gyfrifiad 2031 yn un o gyfarfodydd nesaf y Cyngor Partneriaeth
[Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.]
Eitem 3: arwain mewn Gwlad Ddwyieithog
Cafwyd cyflwyniad ar Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog gan swyddog o Is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ble cafwyd trosolwg o sut mae datblygu diwylliant o ddwyieithrwydd yn ein sefydliadau a sut mae arweinwyr yn gosod y tôn o fewn y gwahanol sefydliadau hyn.
Cam gweithredu 3
Ysgrifenyddiaeth i rannu gwybodaeth am Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog gyda’r Cyngor drwy ddolen newyddlen Is-adran y Gymraeg.
Eitem 4: diweddariad ar Brosiect BRO (Astudiaeth Sosio-ieithyddol o Gymunedau Cymraeg Dwysedd Uwch)
Cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Richard Glyn Roberts a Catrin Llwyd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn rhoi diweddariad ar brosiect BRO. Rhoddwyd crynodeb cyffredinol o gefndir y prosiect gan gyfeirio at y cyd-destun rhyngwladol. Cyfeiriwyd at y methodolegau cymysg sydd wedi eu defnyddio i gasglu tystiolaeth er mwyn cynhyrchu data ansoddol sef:
- Data’r cyfrifiad
- Arolwg cymunedol
- Arolwg ymysg plant oed meithrin a derbyn
- Arolwg ymysg pobl ifanc ac
- Ethnograffeg gweithleoedd Cymraeg
Ar hyn o bryd, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddadansoddi’r data a gasglwyd, gyda’r nod yn y pen draw o gefnogi ymyraethau polisi mwy bwriadus a strategol. Mae’r broses hon yn rhoi gwell sail i benderfyniadau polisi yn cael eu seilio ar dystiolaeth gadarn ac yn ymateb i anghenion cymunedau Cymraeg.
Cafwyd trafodaeth adeiladol ar nifer o faterion allweddol, gan gynnwys effaith datblygiadau tai newydd, yn enwedig tai fforddiadwy, a’r cysylltiad â thlodi plant. Pwysleisiwyd hefyd yr angen i gynllunio a phriodoli’r Gymraeg i feysydd polisi eraill ar draws Llywodraeth Cymru, megis twristiaeth a’r economi sylfaenol, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob agwedd o waith y Llywodraeth.
Nodwyd hefyd bwysigrwydd amrywio’r polisi ar sail dwysedd siaradwyr Cymraeg, gan gydnabod bod anghenion a blaenoriaethau cymunedau’n amrywio yn ôl eu cyd-destun ieithyddol. Mae hyn yn golygu y gellir datblygu polisïau sy’n fwy ymatebol ac effeithiol er mwyn cynnal a datblygu’r Gymraeg mewn gwahanol ardaloedd.
Cam gweithredu 4
Ysgrifenyddiaeth i rannu manylion cyswllt yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones gyda’r aelodau.
Eitem 5: unrhyw fater arall
Aeth y Cadeirydd ati i grynhoi prif bwyntiau’r diwrnod, gan ddiolch yn arbennig i Bethan Webb, cyn- Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymraeg 2050, am ei gwaith gwerthfawr dros y blynyddoedd ac am ei chyfraniad sylweddol i’r Cyngor. Nodwyd ei bod bellach wedi symud ymlaen i swydd newydd, a diolchodd y Cyngor iddi am ei gwaith, ei gweledigaeth a’i hymroddiad.
Cam gweithredu 5
Yr Ysgrifenyddiaeth i rannu’r adnoddau gweledol a ddefnyddiwyd gan y siaradwyr yn ystod y dydd gyda’r aelodau.
Pwynt gweithredu
Cam gweithredu 1
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i drefnu sesiwn ar Cyfrifiad 2031 yn un o gyfarfodydd y dyfodol yn nes at ddiwedd 2026.
I bwy
Ysgrifenyddiaeth.
Statws
Melyn.
Cam gweithredu 2
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i gynnwys elfen am y CEFR yn y sgwrs ar Cyfrifiad 2031 yn un o gyfarfodydd nesaf y Cyngor Partneriaeth.
I bwy
Ysgrifenyddiaeth.
Statws
Melyn.
Cam gweithredu 3
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i rannu’r gwybodaeth am Arwain mewn Gwlad Dwyieithog gyda’r Cyngor trwy ddolen newyddlen Is-adran y Gymraeg.
I bwy
Ysgrifenyddiaeth.
Statws
Gwyrdd: cwblhawyd.
Cam gweithredu 4
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i rannu manylion yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones gyda’r aelodau.
I bwy
Ysgrifenyddiaeth.
Statws
Gwyrdd: cwblhawyd.
Cam gweithredu 5
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i rannu adnoddau gweledol y siaradwyr gyda’r Cyngor.
I bwy
Ysgrifenyddiaeth.
Statws
Gwyrdd: cwblhawyd.
