Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a diben

Mae'ch preifatrwydd yn fater pwysig i ni ac yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR), rydym wedi datblygu hysbysiad preifatrwydd sy'n esbonio pam ein bod yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw. 

‌Er mwyn sicrhau bod mynediad at gynllunwyr coetir a argymhellir gan bobl sy'n ymgeisio i gynlluniau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer planiau coetir, rydym wedi creu Cofrestr o Gynllunwyr Coetir. Er mwyn llunio'r Gofrestr, bydd angen i Lywodraeth Cymru, fel y Rheolydd Data, brosesu a chyhoeddi gwybodaeth bersonol a ddarperir gan gynllunwyr coetir sy'n dymuno ymddangos ar y Gofrestr.

Beth yw’r Sail Gyfreithiol dros brosesu

Mae'r data personol yn cael eu prosesu gyda'ch caniatâd drwy eich cais i ymddangos ar y Gofrestr fel Cynllunydd Coetir Cofrestredig, ac fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw arfer ei awdurdod swyddogol yn unol ag Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn yn unol â'r sail gyfreithlon fel y nodir yn Erthygl 6 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. 

Pa wybodaeth bersonol byddwn ni’n ei phrosesu

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost gwaith
  • eich cyflogwr / y sefydliad rydych yn ei gynrychioli
  • eich Cyfeirnod Cwsmer (CRN) ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW)
  • eich rhif ffôn gwaith
  • eich cyfeiriad busnes
  • gwybodaeth am eich Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • gwybodaeth am eich Statws Siartredig
  • eich bywgraffiad

Pam mae angen prosesu’ch data personol

Rhaid inni brosesu eich gwybodaeth i gynnal y Gofrestr Cynllunwyr Coetir yn unol â'r Telerau ac Amodau y cytunoch chi arnynt wrth gyflwyno eich cais. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i ymddangos ar y Gofrestr, i boblogi'r Gofrestr ar-lein, er mwyn galluogi Taliadau Gwledig Cymru i wirio eich cymhwysedd i ymddangos ar eu Cofrestr Cynlluniau Coetir, i gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r gofynion i aros ar y Gofrestr megis mynychu hyfforddiant a chynhyrchu Cynlluniau Coetir. 

Pwy fydd yn cael gweld eich data

Bydd Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth a gesglir a ddarperir gennych er mwyn prosesu eich ceisiadau ac asesu eich cymhwyster parhaus i fod yn Gynllunydd Coetir Cofrestredig. Er mwyn gwirio eich cymhwysedd a chynnal yr adolygiad blynyddol o'r Gofrestr fel y nodwyd yn y Telerau ac Amodau, dim ond gydag unigolion a chyrff perthnasol y tu allan i Lywodraeth Cymru gan gynnwys CNC y byddwn yn rhannu gwybodaeth os a phan fo angen wrth asesu'r meini prawf hyn. Gellir dod o hyd i Hysbysiad Preifatrwydd CNC yma: Cyfoeth Naturiol Cymru | Hysbysiad preifatrwydd 

O'ch manylion a roddwch i ni, byddwn yn sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol drwy gyhoeddi'r manylion canlynol yn unig ar llyw.cymru - eich enw, eich cyfeiriad e-bost gwaith, eich rhif ffôn gwaith, cyfeiriad eich busnes, manylion eich cyflogwr neu'r sefydliad rydych yn ei gynrychioli, eich statws iaith Gymraeg, Rhanbarthau Cymru yr ydych yn gweithio ynddynt, dolen i'ch gwefan a'ch bywgraffiad fel rhan o'r Gofrestr ar-lein.

Am faint fyddwn ni'n cadw'ch manylion

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau tra'ch bod yn Gynllunydd Coetir Cofrestredig ac wedi hynny yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 10 mlynedd fel rhan o'n gwaith parhaus o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

Tynnu eich manylion oddi ar y Gofrestr

I dynnu eich manylion oddi ar y Gofrestr neu ar gyfer unrhyw faterion cysylltiedig, e-bostiwch:

WoodlandPlanners@gov.wales

CynllunwyrCoetiroedd@llyw.cymru   

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi;
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny; 
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data; 
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol);
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn i weld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddwch, a hynny fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i glywed eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

Newidiadau i'r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd.

Os ydych yn dymuno cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, cewch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru.

Swyddog Diogelu Data   
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru