Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ystadegau ar bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol a llywodraeth leol fel a gofnodwyd yn y cofrestrau etholiadol ar gyfer 2019.

Ar gyfer Cymru (a Lloegr), cymerir ystadegau etholiadol o ddata a gyflenwir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol.

Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol ac felly â'r hawl i bleidleisio yw ystadegau etholiadol.

Prif bwyntiau

Cyfanswm nifer yr etholwyr seneddol yng Nghymru yw 2,313,900; cynnydd o 3.8% rhwng 2018 a 2019.

Cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru yw 2,349,400; cynnydd o 3.7% rhwng 2018 a 2019.

Roedd cyfanswm cofrestriadau etholiadol Seneddol y DU ym mis Rhagfyr 2019 yr uchaf a welwyd erioed, sef 47,074,800. Mae hyn yn gynnydd o 1,299,100 (2.8%) o'r flwyddyn flaenorol.

Caerdydd Canolog oedd â'r cynnydd mwyaf yn nifer yr etholwyr Seneddol yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2019 o'r holl etholaethau Seneddol. Mae hyn yn debygol oherwydd y boblogaeth fawr o fyfyrwyr a lefel uchel o newid yn y boblogaeth yn yr ardal hon.

Mae ystadegau’r Gofrestr Etholiadol yn seiliedig ar ffiniau etholaethau Seneddol ac yn cael eu cyhoeddi ar gyfer etholwyr Seneddol a llywodraeth lleol. Tan 14 Rhagfyr 2011, roedd ffiniau etholaethau Seneddol yr un fath â'r rhai ar gyfer etholaethau'r Cynulliad. Fodd bynnag, gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel bod y ddau yn awr yn wahanol (gweler y nodiadau isod).

Nodiadau

Gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn chwech ardal awdurdod lleol. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i ffiniau etholaethau Seneddol. Daeth y Gorchymyn i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o'r pwynt hwn ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng yr etholaethau Seneddol ac etholaethau Senedd Cymru.

Mae cofrestrau etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Dylid nodi nad yw nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yn gyfwerth â'r boblogaeth breswyl 18 oed a hŷn. Mae nifer o resymau dros hyn. Er enghraifft, nid oes gan bawb sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru yr hawl i bleidleisio (nid oes hawn gal ddinasyddion tramor o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad, carcharorion ayyb.), nid yw rhai pobl yn cofrestru i bleidleisio a gall pobl sydd â mwy nag un cyfeiriad gofrestru mewn mwy nag un lle. Ar ben hyn, mae'n anochel bod rhai etholwyr cofrestredig yn cael eu cyfrif ddwywaith gan fod swyddogion cofrestru etholiadol yn amrywio pa mor gyflym y maent yn tynnu pobl o'r cofrestrau ar ôl iddynt symud o ardal neu pan fyddant yn marw. Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar wahanol ardaloedd mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu amcangyfrif o'r boblogaeth â'r gofrestr etholiadol.

Mae'r gwahaniaeth o ran pwy sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol a lleol yn dibynnu i raddau helaeth ar amodau preswylio a dinasyddiaeth. Mae etholwyr llywodraeth leol, er enghraifft, yn cynnwys y dinasyddion hynny o’r Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yn y DU nad oes ganddynt hawl i bleidleisio yn etholiadau Seneddol San Steffan, tra bod etholwyr Seneddol yn cynnwys dinasyddion Prydain sy’n preswylio dramor nad oes ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Gwnaeth Deddf y Senedd ac Etholiad (Cymru) 2020 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd i 16, gan olygu y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd yn 2021.

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd y SYG yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.