Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau ar bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig fel a gofnodwyd ar 1 Rhagfyr 2023.

Ar gyfer Cymru (a Lloegr), cymerir ystadegau etholiadol o ddata a gyflenwir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol.

Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol ac felly â'r hawl i bleidleisio yw ystadegau etholiadol. Mae cyfanswm nifer yr etholwyr yn cynnwys y bobl sy’n gymwys i bleidleisio a chyrhaeddwyr. Mae cyrhaeddwyr yn golygu’r rhai sydd yn cyrraedd oedran pleidleisio yn ystod y flwyddyn hyd at y gofrestr nesaf (mis Rhagfyr 2024).

Nid yw’r pennawd ystadegol hwn yn cynnwys gwybodaeth am etholwyr y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer 2023. Mae’n cynnwys gwybodaeth am etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig yng Nghymru yn unig. Nid yw’r data etholwyr llywodraeth leol ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn adlewyrchu’r newidiadau i feini prawf cymhwysedd ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers 2020 ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw’r wybodaeth mae’r SYG yn ei gasglu gan swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru yn cynnwys pob etholwr 16 oed a chyrhaeddwr 15 oed yng Nghymru sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol. Rydym yn parhau i weithio gyda’r SYG i ddatrys y mater fel y gallwn gyhoeddi ystadegau wedi eu cywiro ar gyfer nifer etholwyr y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru rhwng 2020 i 2023. Noder, mae hyn hefyd yn golygu nad ydym yn gallu diweddaru ein tablau StatsCymru chwaith.

Gweler tablau data y SYG am ragor o wybodaeth.

Pwyntiau allweddol

  • Cyfanswm nifer yr etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig a gofrestrwyd i bleidleisio yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2023 yw 2,304,800.
  • Mae hyn yn debyg i 1 Rhagfyr 2022, pan gofrestrwyd 2,304,700 o etholwyr i bleidleisio.
  • Bu cynnydd yng nghyfanswm nifer yr etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig a gofrestrwyd i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig gyfan o 0.3% rhwng 1 Rhagfyr 2022 ac 1 Rhagfyr 2023.

Sylwch, ar gyfer rhai etholaethau yng Nghymru (a Lloegr), mae'r SYG wedi gorfod defnyddio data cofrestriadau etholiadol o 2022 fel amcangyfrif o gofrestriadau etholiadol ar gyfer 2023. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.

Nodiadau

Mae cofrestrau etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Dylid nodi nad yw nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yn gyfwerth â'r boblogaeth breswyl. Mae nifer o resymau dros hyn. Er enghraifft, nid oes gan bawb sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru yr hawl i bleidleisio, nid yw rhai pobl yn cofrestru i bleidleisio a gall pobl sydd â mwy nag un cyfeiriad gofrestru mewn mwy nag un lle. Ar ben hyn, mae'n anochel bod rhai etholwyr cofrestredig yn cael eu cyfrif ddwywaith gan fod swyddogion cofrestru etholiadol yn amrywio pa mor gyflym y maent yn tynnu pobl o'r cofrestrau ar ôl iddynt symud o ardal, neu pan fyddant yn marw. Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar wahanol ardaloedd mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu amcangyfrifon o'r boblogaeth â'r gofrestr etholiadol.

Mae'r gwahaniaeth o ran pwy sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig ac etholiadau Senedd Cymru a llywodraeth leol yn dibynnu i raddau helaeth ar oedran, amodau preswylio a dinasyddiaeth. Mae etholwyr llywodraeth leol, er enghraifft, yn cynnwys y dinasyddion hynny o’r Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddynt hawl i bleidleisio yn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig, tra bod etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig yn cynnwys dinasyddion Prydain sy’n preswylio dramor nad oes ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Gwnaeth Deddf y Senedd ac Etholiad (Cymru) 2020 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Senedd i 16 mlwydd oed, gan olygu roedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd yn 2021.

Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio. 

Nid yw data Cymru ar gyfer Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021 yn cynnwys cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol ar gyfer cyrhaeddwyr 15 oed ac etholwyr 16 oed. Ar gyfer Rhagfyr 2022 a Rhagfyr 2023, ac eithrio Caerdydd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Casnewydd a Wrecsam, nid yw’r nifer o gofrestriadau etholiadol llywodraeth leol a’r Senedd ar gyfer ardaloedd yng Nghymru sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan y SYG yn cynnwys cyrhaeddwyr 15 ac 16 oed.

Yn ogystal, nid oedd data cofrestriadau etholiadol seneddol y Deyrnas Unedig ar gyfer Gwynedd, Sir Fynwy, Powys, Torfaen, a Bro Morgannwg naill ai wedi’u derbyn mewn pryd i’w cyhoeddi, neu wedi’u derbyn ar ffiniau c Etholaethau seneddol y Deyrnas Unedig  a ddaw i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Yn yr achosion hyn, cymerir y cyfrifiadau ar gyfer etholwyr a chyrhaeddwyr ar gyfer Rhagfyr 2023 o'u cyflwyniadau Rhagfyr 2022.

Nid oes newid wedi bod ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig, gyda’r oedran pleidleisio yn 18 oed neu’n hŷn.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwy all bleidleisio mewn gwahanol etholiadau yn y Deyrnas Unedig ar wefan GOV.UK.

Gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn chwech ardal awdurdod lleol. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i ffiniau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig. Daeth y Gorchymyn i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o'r pwynt hwn ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig ac etholaethau Senedd Cymru.

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd y SYG yn eu cyhoeddi.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dan Boon

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.