Neidio i'r prif gynnwy

Dylai ceidwaid da byw barhau i ddilyn gofynion rheoleiddio da byw a chofrestru.

Mae cyfyngiadau a gyflwynwyd gan coronafeirws wedi arwain at sefydliadau sy'n galluogi gweithio gartref lle bynnag y bo modd. Mae gwasanaethau allweddol fel cofrestru da byw a chofnodi symudiadau yn parhau. Ond rydym yn annog pob ceidwad i ddefnyddio dulliau cofnodi electronig lle bo modd. Gallwch gael gwybod sut i gofrestru ar y gwefannau a restrir isod. Gallai defnyddio gwasanaethau post i adrodd am symudiadau ar bapur arwain at oedi. Felly dylech ystyried hyn cyn symud anifeiliaid.

Caiff gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr tagiau eu dosbarthu fel busnesau cyflenwi critigol. Maent yn dal ar agor, ond dylai ceidwaid sicrhau bod ganddynt ddigon o dagiau anifeiliaid ar eu daliad. Unwaith eto, gallai oedi mewn gwasanaethau post arwain at oedi wrth gyflenwi. Felly, wrth archebu tagiau, rhaid i chi sicrhau eich bod yn caniatáu digon o amser.

Dylech gysylltu â'r gwasanaeth perthnasol:

  • os oes gennych unrhyw ymholiadau cofrestru da byw a symud
  • os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r amserlenni adrodd cyfredol

Dylech hefyd wirio am unrhyw newidiadau i brosesau cofnodi yn ystod y cyfnod hwn.

Da Byw Sefydliad Gwefan Ffôn Llinell Hunanwasanaeth E-bost
Defaid/Geifr EIDCymru logo https://www.eidcymru.org 01970 636959   cysylltu@eidcymru.org
Gwartheg British cattle Movement Service logo http://www.bcms.gov.uk 0345 0503456 0345 0111212 Eng
0345 0111213 Wel
bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Moch electronic pig movement service logo https://www.eaml2.org.uk 0844 3358400   https://www.pighub.org.uk/iip/footer_nav/contactus.eb
Ceffylau Gall ceidwaid gysylltu â’u Corff Cyhoeddi Pasbortau (PIO) neu eu PIO ar gyfer brid penodol https://llyw.cymru/pasbortau-ceffylau-sefydliadau-cyhoeddi-syn-rheoli-llyfrau-magu     EquineIDceffylau@gov.wales

Gall ffrindiau, perthnasau neu gymdogion barhau i'ch cynorthwyo, os oes angen. Ond mae'n rhaid i chi ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol y llywodraeth.

Gallwch gysylltu â'n gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS) os oes angen help neu arweiniad arnoch.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau adnabod da byw eraill ac adrodd ar symudiadau, cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.