Canllawiau ar gofrestru sefydlu, cau a newid manylion Uned Cyfeirio Disgyblion, gan gynnwys canghennau estynedig ac unedau portffolio.
Cynnwys
Y broses gofrestru
Mae angen i'r awdurdod lleol lenwi Ffurflen Cofrestru Uned Cyfeirio Disgyblion a'i chyflwyno'n electronig i flwch Cefnogi Mynediad at Addysg Llywodraeth Cymru: CMIA.SATE@llyw.cymru. Rhaid gwneud hyn cyn agor yr Uned. Oni bai bod yr Uned wedi'i chofrestru'n ffurfiol, ni ellir derbyn disgyblion i'r ddarpariaeth.
Ar ôl i'r ffurflen ddod i law, bydd y tîm Darpariaeth Addysg Amgen yn astudio'r manylion ac yn cofnodi'r cais cyn ei gyflwyno i adran ystadegau Llywodraeth Cymru i gofrestru'r Uned.
Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon e-bost at yr awdurdod lleol yn cadarnhau'r cofrestriad. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys:
- rhif Adran Addysg a (neu) rif Ysgol yr Uned
- y Cyfeirnod Unigryw
Caiff Estyn ei gynnwys yn yr e-bost cadarnhau i'w hysbysu bod yr Uned newydd wedi'i sefydlu.
Newid manylion Uned Cyfeirio Disgyblion sydd eisoes yn bodoli
Dylai'r awdurdod lleol roi gwybod i Lywodraeth Cymru drwy e-bost: CMIA.SATE@llyw.cymru am unrhyw newidiadau sylweddol, gan gynnwys:
- newid lleoliad Uned Cyfeirio Disgyblion (gan gynnwys y rhesymau dros ei symud)
- sefydlu safleoedd ychwanegol ar gyfer Uned sydd eisoes yn bodoli
- newid enw Uned
- newidiadau i'r math o ddarpariaeth a gynigir
- newidiadau i enw neu fanylion cyswllt yr athro â chyfrifoldeb
Cau Uned Cyfeirio Disgyblion
Mae angen i'r awdurdod lleol lenwi Ffurflen Dadgofrestru Uned Cyfeirio Disgyblion a'i chyflwyno'n electronig i flwch Cefnogi Mynediad at Addysg Llywodraeth Cymru: CMIA.SATE@llyw.cymru cyn cau'r ddarpariaeth.
Bydd tîm Darpariaeth Addysg Amgen Llywodraeth Cymru yn anfon copi at yr adran ystadegau a fydd yn diweddaru eu cofnodion.
Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon e-bost at yr awdurdod lleol yn cadarnhau'r dadgofrestru.
Caiff Estyn ei gynnwys yn yr e-bost i'w hysbysu bod yr Uned wedi'i chau.
