Neidio i'r prif gynnwys

Canllawiau manwl ar sut i gofrestru llety ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Hydref 2026

Trosolwg o gofrestru llety ymwelwyr

Gyda chyflwyniad Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 sefydlwyd y bydd cofrestr yn cael ei chadw o bersonau sy'n darparu llety ymwelwyr mewn lleoliadau yng Nghymru.

Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn sefydlu ac yn cynnal y gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr, a bydd rhan o'r gofrestr yn cael ei gwneud yn gyhoeddus.

Rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr gofrestru os ydynt yn cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos mewn lleoliad llety ymwelwyr yng Nghymru.

Ynglŷn â'r gofrestr llety ymwelwyr

Cofrestru eich llety ymwelwyr

Mae'r gofrestr yn gyhoeddus ac mae'n darparu gwybodaeth am ddarparwyr llety ymwelwyr, ac am y llety ei hun, yng Nghymru. Bydd y gofrestr yn agor ar 1 Hydref 2026.

Yn gyffredinol, rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr fod ar y gofrestr pan fyddant yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru, yn amodol ar y canlynol:

  • bydd angen ar y rhai sydd, ar hyn o bryd, yn darparu llety ymwelwyr gofrestru erbyn 31 Mawrth 2027 
  • bydd angen ar ddarparwyr llety ymwelwyr a fydd yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr ar ôl 1 Hydref 2026 ond cyn 31 Mawrth 2027 gofrestru erbyn 31 Mawrth 2027
  • os daw person yn ddarparwr llety ymwelwyr ar ôl 31 Mawrth 2027, bydd arnynt angen cofrestru pan fyddant yn dechrau darparu, neu'n dechrau cynnig darparu, llety ymwelwyr yng Nghymru, a gallant gofrestru hyd at 30 diwrnod cyn iddynt ddechrau gwneud hynny

Enghreifftiau o adegau pan fydd rhaid i chi gofrestru 

Mae Glen wedi bod yn rhedeg ei fusnes bythynnod gwyliau yng Nghymru ers 2012. Pan fydd y gofrestr yn agor, bydd arno angen cofrestru rhwng 1 Hydref 2026 a 31 Mawrth 2027.

Mae Bryn wedi prynu bwthyn yng Ngogledd Cymru, a bydd yn ei hysbysebu fel llety gwyliau hunanarlwyo i ymwelwyr. Mae'n adnewyddu'r bwthyn ac yn bwriadu dechrau ei hysbysebu i ymwelwyr dros nos o 1 Awst 2028. Bydd angen i Bryn gofrestru ei hun fel darparwr llety ymwelwyr a chofrestru’r bwthyn fel llety ymwelwyr pan fydd yn dechrau ei hysbysebu a chymryd archebion, sef ar 1 Awst 2028. Gall Bryn gofrestru hyd at 30 diwrnod cyn 1 Awst 2028 hefyd.

Bydd manylion bwthyn Bryn yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Ond gan mai unigolyn yw Bryn, ni fydd ei enw yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus.

Peidio â chofrestru

Os na fydd darparwr llety ymwelwyr yn cofrestru’n brydlon, gallant wynebu un neu fwy o gosbau.

Rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru eu hunain, a phob un o'r lleoliadau yng Nghymru lle maent yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr. Nid oes cost am gofrestru, ond mae’n rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr wneud hynny.

Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth benodol am ddarparwyr llety ymwelwyr a'r lleoliadau sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr. Gall ACC gyhoeddi gwybodaeth arall hefyd y mae’n credu y byddai’n briodol ei chael ar y gofrestr gyhoeddus.

Gwybodaeth a gyhoeddir ar y gofrestr

Gwybodaeth am ddarparwyr llety ymwelwyr

Bydd y wybodaeth ganlynol am ddarparwr llety ymwelwyr yn cael ei chyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus:

  • enw'r darparwr llety ymwelwyr
  • unrhyw enw busnes neu enw masnachol a ddefnyddia’r darparwr llety ymwelwyr
  • cyfeiriad busnes y darparwr llety ymwelwyr
  • y math o ddarparwr llety ymwelwyr sydd dan sylw, megis unigolyn, partneriaeth, cwmni, neu gymdeithas anghorfforedig 

Cyfeiriad busnes partneriaeth, cwmni neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa. 

Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau

  • fel cwmni, bydd rhif y cwmni yn cael ei gyhoeddi
  • fel endid tramor, bydd ID yr endid tramor yn cael ei gyhoeddi

Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn elusen ac wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011, bydd y gofrestr yn dangos bod y darparwr yn elusen a bydd ei rif elusen yn cael ei gyhoeddi, oni fydd yr elusen wedi’i heithrio o dan Ddeddf Elusennau 2011.

Bydd angen darparu'r holl fanylion uchod i gofnod gael ei greu ar y gofrestr. 

Pan fydd partneriaeth yn cael ei chofrestru, bydd angen cofrestru enwau pob partner yn y bartneriaeth. Mae'r un egwyddor yn berthnasol i gymdeithasau anghorfforedig. 

Enghraifft o’r manylion y mae'n rhaid i gwmni ac elusen gofrestredig eu darparu

Mae Bythynnod Elusennol Cymru Cyf yn gwmni ac yn elusen gofrestredig. Mae'n darparu llety ymwelwyr, ac wrth gofrestru bydd angen iddo ddarparu ei rif cwmni a'i rif elusen.

Gwybodaeth am leoliadau llety ymwelwyr

Bydd y manylion canlynol yn cael eu cyhoeddi am y lleoliad lle mae’r darparwr llety ymwelwyr yn darparu neu gynnig llety ymwelwyr:

  • enw'r lleoliad, os oes un
  • enw'r llety ymwelwyr a ddarperir yn y lleoliad, os oes un. Dim ond i’r mathau canlynol o lety ymwelwyr y mae hyn yn berthnasol: hunanarlwyo, glampio a charafannau statig
  • cyfeiriad y lleoliad yng Nghymru, gan gynnwys y sir neu'r fwrdeistref sirol
  • y math o lety ymwelwyr sydd ar gael yn y lleoliad
  • uchafswm y bobl a gaiff aros yn y lleoliad 
  • nifer yr unedau y gellir eu harchebu yn y lleoliad
  • argaeledd y llety 

Enghraifft o ba fanylion y maen rhaid i chi eu darparu am eich lleoliad

Mae Giovanni yn unigolyn sy'n rhedeg safle gwyliau bach yng Nghymru, ac enw'r safle yw Lle Gwyliau Giovanni. Mae ganddo 3 tŷ gwyliau yn y lleoliad, a phob un wedi'i enwi ar ôl lle yng Nghymru, sef Bwthyn Bangor, Caban Caerffili a Thŷ Tregaron. 

Pan fydd Giovanni’n cofrestru, bydd angen iddo ddarparu’r canlynol:

  • enw'r lleoliad, sef Lle Gwyliau Giovanni, a
  • enwau'r llety ymwelwyr, sef Bwthyn Bangor, Caban Caerffili a Thŷ Tregaron. 

Gwybodaeth am bartneriaethau a chyrff anghorfforedig

Pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn bartneriaeth neu'n gorff anghorfforedig, bydd y gofrestr yn cynnwys:

  • enw pob aelod o'r bartneriaeth, neu bob aelod-reolwr o'r corff anghorfforedig, a
  • cyfeiriad pob aelod o'r bartneriaeth, neu bob aelod-reolwr o'r corff anghorfforedig

Er hyn, mae enwau a chyfeiriadau partneriaid neu aelod-reolwyr yn ddarostyngedig i'r cyfyngiad a amlinellir yn 'Gwybodaeth nad yw’n cael ei chyhoeddi ar y gofrestr'. Felly, er y bydd unrhyw enw busnes a chyfeiriad busnes y bartneriaeth neu'r corff anghorfforedig yn cael eu cyhoeddi, ni fydd enwau na chyfeiriadau'r partneriaid neu'r aelodau unigol yn cael eu cyhoeddi oni bai:

  • eu bod yn cydsynio i'w cyhoeddi, neu
  • bod eu henw yn rhan o'r enw busnes, a/neu
  • eu bod yn rhannu cyfeiriad â’r lleoliad lle darperir y llety ymwelwyr

Enghraifft o ba fanylion y mae'n rhaid i bartneriaethau a chyrff anghorfforedig eu darparu

Mae Glyn, Harry ac Ian yn bartneriaid mewn partneriaeth gyfyngedig, o'r enw Tai Gwyliau HIGHIG. Maent yn rhedeg sawl cartref gwyliau ledled y DU gyda'i gilydd, ac mae pob un ohonynt yn byw yn yr Alban. Maent yn darparu llety ymwelwyr a bydd angen iddynt gofrestru eu lleoliadau llety ymwelwyr yng Nghymru. Wrth wneud hynny, bydd angen darparu enwau a chyfeiriadau unigol Glyn, Harry ac Ian i'w cofnodi i'r gofrestr, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Gwybodaeth nad yw’n cael ei gyhoeddi ar y gofrestr

Enwau unigolion

Ni fydd ACC yn cyhoeddi enw unigolyn sy’n darparu llety ymwelwyr, oni bai bod:

  • yr unigolyn yn cydsynio i gyhoeddi ei enw, neu
  • enw a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes y darparwr llety ymwelwyr

Enghraifft o beidio â dangos enw darparwr

Mae Llinos yn byw mewn tŷ yng Nghaerdydd ac mae'n hysbysebu ei hystafell sbâr i ymwelwyr ar benwythnosau, gan ddefnyddio platfform teithio ar-lein. Mae Llinos yn byw yn y tŷ a dyma ei hunig eiddo. Gan fod Llinos yn darparu llety ymwelwyr yn ystafell sbâr ei thŷ, pan fydd Llinos yn cofrestru bydd angen iddi ddarparu ei henw, eu chyfeiriad a manylion eraill, ond ni fydd ei henw yn cael ei ychwanegu at y gofrestr gyhoeddus gan nad yw wedi cydsynio iddo fod yno.

Cyfeiriad unig neu brif breswylfa

Ni fydd ACC yn cyhoeddi cyfeiriad unig neu brif breswylfa unigolyn, oni fydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae'r unigolyn, sef y darparwr llety ymwelwyr, wedi cydsynio i gyhoeddi ei gyfeiriad, neu
  • cyfeiriad y lleoliad lle darperir, neu lle cynigir, llety ymwelwyr yw prif breswylfa neu unig breswylfa’r unigolyn

Enghraifft o beidio â dangos y prif gyfeiriad preswyl

Yn dilyn yr enghraifft uchod, bydd cyfeiriad Llinos ar y gofrestr gyhoeddus gan ei bod yn darparu llety ymwelwyr yno. Tra bydd Llinos yn byw yn y tŷ, mae'r rheolau'n golygu bod yn rhaid cynnwys y cyfeiriad ar y gofrestr. 

Gwybodaeth anghyflawn neu anghywir

Os nad yw darparwr llety ymwelwyr yn darparu'r wybodaeth ofynnol i ACC ar gyfer y gofrestr, gall ACC gyhoeddi hysbysiad yn ei gwneud yn angenrheidiol i berson ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau a’u cosbi am beidio â chydymffurfio.

Os caiff ACC wybodaeth ar gyfer y gofrestr gyhoeddus, ond eu bod:

  • yn gwybod bod y wybodaeth yn anghywir, neu
  • yn tybio bod y wybodaeth yn debygol o fod yn anghywir

ni fydd yn cael ei gyhoeddi ar y gofrestr.

Os bydd ACC yn penderfynu cyhoeddi'r wybodaeth, gallant ychwanegu marc ar y cofnod i ddangos eu bod yn credu bod y wybodaeth yn anghywir neu'n debygol o fod yn anghywir.

Gall anghywirdebau ymwneud â:

  • y math o lety ymwelwyr a gynigir, neu uchafswm yr ymwelwyr
  • cyfeiriad y llety ymwelwyr
  • enw masnachu y darparwr llety ymwelwyr

Nid yw'r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr. 

Enghraifft o wybodaeth anghywir

Mae Rhydian yn darparu llety ymwelwyr ac yn berchen ar dŷ gwyliau yng Ngorllewin Cymru. Wrth gofrestru, mae'n nodi y gall hyd at 55 o bobl aros yno, yn hytrach na 5. Pan fydd Rhydian yn cyflwyno ei fanylion cofrestru, mae ACC yn gweld ei fod wedi nodi mai 55 yw’r uchafswm a all aros yno, ac maent yn tybio fod hyn yn ormod; maent yn ychwanegu marc i’r cofnod ar y gofrestr sy'n nodi efallai nad yw’r uchafswm defnyddwyr yn gywir.

Cyflwyniad i ystyr darparwr llety ymwelwyr

Cyflwyniad

Bydd person yn ddarparwr llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw, trwy fasnach neu fusnes, yn:

  • darparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru, ac
  • yn feddiannydd ar y lleoliad lle y darperir y llety ymwelwyr.

Gall person olygu dau neu fwy o bobl sydd:

  • mewn partneriaeth â’i gilydd
  • yn gweithredu fel corff anghorfforedig neu gorfforedig

Ystyr darparu

Mae person yn darparu llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw yn ymrwymo i gontract sy’n caniatáu neu’n arwain at ganiatáu i un neu ragor o bobl gael hawl i breswylio yn y llety ymwelwyr am o leiaf un noson, mewn lleoliad yng Nghymru.

Enghraifft o ddarparu llety ymwelwyr

Mae Joan yn rhedeg llety gwely a brecwast o leoliad sy’n eiddo iddi hi. Mae hi'n ymrwymo i gontractau gyda gwesteion sy’n caniatáu iddynt aros dros nos yn ei llety gwely a brecwast, sy’n cael ei ystyried yn llety ymwelwyr. Mae Joan yn ddarparwr llety ymwelwyr.

Ystyr yn cynnig darparu

Mae person yn cynnig darparu llety ymwelwyr os ydynt yn fodlon ymrwymo i gytundebau gyda rhywun a chaniatáu iddynt aros o leiaf un noson yn eu lleoliad yng Nghymru, ac mae'n cynnwys hysbysu eraill bod eu llety ar gael i aros ynddo. Byddai cytundebau yn cynnwys y rhai a wneir trwy farchnadoedd ar-lein, cytundebau llafar ac archebion trwy sianeli eraill.

Os yw person yn marchnata neu'n hysbysebu ei leoliad, boed hynny ar wefan, y cyfryngau cymdeithasol, ar blatfform ar-lein arall, mewn llyfrynnau, ar hysbysfyrddau siop neu unrhyw le arall, a’u bod yn fodlon ymrwymo i gytundebau sy’n caniatáu i eraill aros yn eu lleoliad, byddant yn cynnig darparu llety ymwelwyr.

Os yw person yn fodlon derbyn archebion ar gyfer y dyfodol, maent hefyd yn cynnig darparu llety ymwelwyr.

Enghraifft o gynnig darparu llety ymwelwyr

Mae Liam yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu ei ystafell sbâr dros gyfnodau gwyliau prysur. Gan ei fod yn hysbysebu ei ystafell sbâr ar y rhyngrwyd, mae'n bodloni’r prawf o gynnig darparu llety ymwelwyr.

Ystyr meddiannydd

Fel arfer, meddiannydd y lleoliad yw’r sawl sy’n rheoli’r lleoliad a’r defnydd a wneir ohono, megis rhedeg busnes llety ymwelwyr. Gallant hefyd fod yn gyfrifol am gydymffurfio â gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r lleoliad a'i gadw mewn cyflwr da. Mae'n debygol y bydd meddiannydd hefyd yn elwa o ddarparu llety ymwelwyr yn y lleoliad.

Gallai meddiannydd, er enghraifft, fod yn berchennog cyfreithiol ar y lleoliad, yn denant o dan les, neu yn berson sydd â hawl i feddiannu'r lleoliad o dan drwydded i feddiannu.

Mae asiant neu gwmni rheoli sy'n gweithredu ar ran y darparwr llety ymwelwyr yn annhebygol o fod yn feddiannydd ar y lleoliad.

Enghraifft o feddiannydd yn berchennog eiddo

Mae Mr Jones yn berchen ar lety gwely a brecwast yn Ne Cymru, ac mae gwesteion yn aros yn ei leoliad yn aml; daw ei incwm o'r busnes hwn. Ef yw meddiannydd y llety gwely a brecwast, mae'n ymrwymo i gontractau gydag ymwelwyr sy'n caniatáu iddynt aros dros nos ac felly mae'n ddarparwr llety ymwelwyr.

Enghraifft o feddiannydd ar safle sy’n cael ei rentu

Mae Margaret yn rhentu fflat yng Nghaerdydd. Gyda chaniatâd ei landlord, mae hi'n gosod ei hystafell sbâr i bobl aros dros nos ar benwythnosau at ddibenion teithio hamdden. Mae hi'n gwneud hyn i ychwanegu at ei hincwm. Margaret yw meddiannydd y fflat ac mae'n cynnig darparu llety ymwelwyr, felly mae hi'n ddarparwr llety ymwelwyr.

Enghraifft o feddiannydd tai gwyliau

Mae Norman a Grace yn briod. Maent yn berchen ar fferm ac yn rhedeg y busnes ffermio mewn partneriaeth â'i gilydd. Maent wedi penderfynu arallgyfeirio, gan adeiladu tri o dai gwyliau ar y fferm er mwyn ychwanegu at eu hincwm. Maent yn hysbysebu'r llety gwyliau ar-lein, ac yn cymryd archebion am arosiadau dros nos am 8 mis o'r flwyddyn. Maent yn ddarparwyr llety ymwelwyr, a bydd angen iddynt gofrestru gyda ACC.

Ystyr contractau

Fel arfer, byddai contractau yn cynnwys unrhyw archebion am arosiadau yn y lleoliad a wneir gan ddefnyddio blatfform archebu, dros y ffôn neu yn uniongyrchol gyda'r darparwr llety ymwelwyr. 

Os mai’r unig reswm i berson aros yn y lleoliad yw i ddarparu gwasanaethau i'r darparwr llety, yna ni fydd unrhyw:

  • gontract gwasanaeth, neu
  • gontract prentisiaeth, pan fo prentisiaid yn aros yn y lleoliad

yn cyfrif fel contract.

Contractau a hawliau

Fel arfer, bydd contractau’n cael eu ffurfio pan fo’r archeb yn cael ei gadarnhau, boed hynny trwy blatfform archebu, dros y ffôn, ar-lein neu trwy gysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol.

Gall contractau, a sut yr ymrwymir iddynt, amrywio’n fawr. Nid yw fformat y contract yn bwysig, yr hyn sydd yn bwysig yw bod contract yn bodoli a’i fod yn rhoi hawl i un neu fwy o bobl aros am un neu fwy o nosweithiau yn neu yn y llety ymwelwyr.

Esemptiadau i gontractau

Nid yw contract yn cynnwys: 

  • contract gwasanaeth
  • contract prentisiaeth, na
  • chontract gwasanaethau, sy’n rhoi hawl i berson breswylio yn y llety ymwelwyr er mwyn darparu gwasanaethau i’r darparwr llety ymwelwyr

Cyflwyniad i ystyr llety ymwelwyr

Cyflwyniad

Bras yw’r diffiniad o lety ymwelwyr, ac mae'r canllawiau isod yn trafod y gwahanol fathau o lety ac a ydynt yn cael eu dosbarthu’n llety ymwelwyr neu beidio.

Mae llety ymwelwyr yn cynnwys llety:

  • mewn gwesty, tŷ llety, gwely a brecwast neu lety tebyg
  • mewn hostel ieuenctid, tŷ bync neu lety tebyg
  • mewn parc gwyliau neu gyrchfan wyliau, megis cabanau, chalets a bythynnod

Lleiniau neu ardaloedd

Mae llety ymwelwyr yn cynnwys lleiniau neu ardal a ddarperir ar gyfer:

  • gwersylla
  • cartrefi symudol nad ydynt wedi'u lleoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle

Enghraifft o lain ar gyfer fan wersylla

Mae gan Agatha fan wersylla ac mae'n archebu llain mewn parc carafannau am 10 diwrnod. Gan fod Agatha wedi archebu llain ar gyfer ei fan, mae'r llain ei hun yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr, a hynny oherwydd mai dyna'r ardal sy’n cael ei archebu, a chan mai dim ond am gyfnod o 10 diwrnod y bydd ei fan wedi'i lleoli ar y llain.

Enghraifft o ardal yn nosbarth llety ymwelwyr

Mae gan Thomas garafán, mae'n ei pharcio dros nos mewn maes parcio sydd â chaniatâd penodol i ganiatáu i gartrefi symudol barcio yno dros nos, cyn belled â'u bod yn talu ffi aros dros nos. Gan fod Thomas wedi parcio mewn rhan o'r maes parcio lle caiff ei gartref symudol aros dros nos, mae'r ardal dan sylw yn cael ei dosbarthu fel llety ymwelwyr.

Diffiniad o gartrefi symudol a llongau

Mae’r diffiniad o gartref symudol yn cynnwys unrhyw:

  • gerbyd modur sydd wedi'i ddylunio neu ei addasu er mwyn i bobl allu byw ynddo, a
  • strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall, pa un ai drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd

Nid yw'r term cartref symudol yn cynnwys y canlynol yn benodol:

  • pebyll
  • cerbydau rheilffordd sy'n rhan o'r system reilffyrdd
  • awyrennau
  • llongau

Ystyr llongau yma yw llong, cwch, rafft, neu gyfarpar arall a adeiladwyd neu a addaswyd i arnofio ar ddŵr, ac a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo.

Llety ymwelwyr a gynigir ar sail tymor byr

Mae llety ymwelwyr yn cynnwys rhai mathau o lety a gaiff eu cynnig ar sail tymor byr.

Bydd llety yn cael ei gynnig ar sail tymor byr os yw’r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig llety am gyfnodau o 31 diwrnod neu lai. Nid oes ots a yw’r llety ymwelwyr yn cael ei gynnig ar sail tymor byr trwy’r adeg ynteu ond o bryd i’w gilydd.

Nid oes ots a yw'r nosweithiau'n olynol ai peidio, yr agwedd allweddol yw bod arosiadau’n cael eu cynnig am 31 noson neu lai.

Bydd y mathau canlynol o lety yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr os cânt eu cynnig ar sail tymor byr ac at ddibenion teithio busnes neu hamdden neu deithiau addysgol:

  • llety mewn cartref symudol, llong neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle
  • llety hunanarlwyo
  • unrhyw fath arall o lety sy'n cael ei gynnig, boed yn barhaol neu’n achlysurol ar sail tymor byr

Enghraifft o garafán statig fel llety ymwelwyr

Mae Elliot yn archebu gwyliau yng Nghymru ac yn dewis aros mewn carafán statig. Gellir archebu'r garafán am hyd at 25 noson yn unig, ac mae ar gael y rhan fwyaf o'r flwyddyn i ymwelwyr sy'n teithio at ddibenion hamdden neu fusnes. Y garafán statig yw'r llety ymwelwyr yn yr achos hwn. Mae wedi'i lleoli'n barhaol mewn un lle, a caiff ei chynnig ar sail tymor byr at ddefnydd hamdden neu fusnes.

Enghraifft o gwch breswyl fel llety ymwelwyr

Mae Ash yn archebu lle i aros ar gwch breswyl sydd wedi'i hangori yn yr un lle’n barhaol. Gellir archebu'r cwch breswyl hon am hyd at 4 wythnos, ac mae ar gael yn ystod y gwanwyn a'r haf i westeion hamdden. Y cwch yw'r llety ymwelwyr yn yr achos hwn, gan ei fod yn yr un lle yn barhaol ac mae'n cael ei gynnig ar sail tymor byr ar gyfer hamddena.

Llety nad yw'n cael ei ystyried yn llety ymwelwyr

Safle Sipsiwn a Theithwyr 

Ni fydd llety sydd ar safle Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ddosbarthu fel llety ymwelwyr. Mae safle Sipsiwn a Theithwyr yn golygu tir sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i barcio cartrefi symudol sy'n llety ar gyfer: 

  • pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, ac 
  • unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol 

Byddai pobl sy’n byw bywydau nomadaidd yn cynnwys: 

  • pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a 
  • aelodau o grŵp trefnedig neu sioe deithiol neu syrcas deithiol, pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio 

Cartrefi symudol, llongau neu gerbydau eraill 

Mae llety mewn cartrefi symudol, llongau neu gerbydau eraill yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr dim ond pan fydd wedi'i leoli'n barhaol neu'n lled-barhaol mewn un lle ac yn cael ei gynnig ar sail tymor byr, boed hynny trwy'r amser neu'n achlysurol, ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol. 

Bydd llain neu ardal ar gyfer cartref symudol yn cael ei ystyried yn llety ymwelwyr dim ond pan fo’n cael ei ddarparu ar gyfer cartref symudol nad yw wedi'i leoli mewn un lle naill ai yn barhaol neu'n lled-barhaol. 

Enghraifft o garafán statig nad yw'n llety ymwelwyr

Mae Polly’n byw mewn carafán statig ar barc carafannau preswyl, a dyma ei phrif breswylfa. Mae hi'n talu am ei llain bob mis, ac mae ganddi hawl i fyw yn y garafán trwy gydol y flwyddyn. Nid yw'r garafán yn llety ymwelwyr, gan ei bod y aros yn ei hunfan yn barhaol, nid yw Polly yn ei chynnig i'w rhentu ar gyfer busnes, teithio hamdden neu deithiau addysgol tymor byr, a hynny gan mai dyma ei chartref.  

Nid yw'r llain lle mae'r garafán yn llety ymwelwyr ychwaith, gan ei fod yn cael ei ddarparu ar gyfer cartref symudol sydd yn ei unfan yn barhaol. 

Pryd a sut i gofrestru

Pryd i gofrestru

Rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru eu hunain, a phob un o'r lleoliadau yng Nghymru lle maent yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety. 

Wrth gofrestru, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr lenwi ffurflen gofrestru ACC a darparu:

  • eu manylion a'u gwybodaeth am y llety ymwelwyr 
  • unrhyw wybodaeth arall y mae ACC yn gofyn amdano

Os bodlonir yr amodau hyn, bydd ACC yn eich hysbysu i ddweud eich bod wedi cofrestru ac yn rhoi rhif cofrestru i chi. 

Gall person lenwi'r ffurflen gofrestru hyd at 30 diwrnod cyn iddynt ddechrau darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru. 

Enghraifft o pryd ddylai person gofrestru fel darparwr llety ymwelwyr

Mae Gwendolen yn prynu llety Gwely a Brecwast ar 1 Rhagfyr 2027. Mae hi’n bwriadu dod yn ddarparwr llety ymwelwyr yn 2028, ac yn gwneud rhywfaint o waith adnewyddu ar y lleoliad. Pan ddaw’r gwaith adnewyddu i ben ar 10 Ionawr 2028, mae hi’n dechrau cynllunio sut y bydd yn hysbysebu ei busnes. Mae hi'n dechrau cynnig llety ar 6 Chwefror 2028, ac yn cymryd archebion o 1 Mawrth 2028. 

Bydd angen i Gwendolen gofrestru ei llety gwely a brecwast a bydd angen iddi gwblhau’r broses gofrestru erbyn 6 Chwefror 2028, gan mai ar y diwrnod hwnnw y bydd hi’n dechrau cynnig darparu llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru. Gallai Gwendolen hefyd gofrestru unrhyw bryd hyd at 30 diwrnod cyn 6 Chwefror 2028.

Os fydd ACC yn derbyn cofrestriad

Pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn gwneud cais i gofrestru ac yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol, bydd rhaid i ACC eu cofrestru os nad ydynt eisoes wedi cofrestru. Bydd ACC hefyd yn cyhoeddi hysbysiad i'r person i ddweud eu bod wedi'u cofrestru.

Os fydd ACC yn gwrthod cofrestriad

Gall ACC benderfynu peidio â chofrestru person, er enghraifft, os nad yw’r holl fanylion am y darparwr llety neu'r lleoliad wedi’u rhoi.

Bydd ACC yn hysbysu'r person i egluro pam nad ydynt wedi'u cofrestru ac i ddweud sut y gallant geisio adolygiad o'r penderfyniad hwnnw neu wneud apêl.

Os ydych wedi cyflwyno eich ffurflen gofrestru i ACC ond heb gael yr un o’r canlynol hyd yma:

  • hysbysiad i gadarnhau eich cofrestriad, neu
  • hysbysiad i ddweud bod ACC wedi penderfynu peidio â'ch cofrestru

cewch fynd ati i ddarparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr yn y cyfnod rhwng cyflwyno eich ffurflen gofrestru a dyddiad yr hysbysiad gan ACC heb fod yn ddarostyngedig i ddirwy am fethu â chofrestru.

Cofrestriadau gan ACC

Os nad yw darparwr llety ymwelwyr wedi cofrestru, a’u bod heb gyflwyno ffurflen gofrestru i ACC, gall ACC gofrestru'r person dan sylw.

Dim ond os yw ACC o’r farn bod y person yn bodloni’r canlynol y cânt gofrestru person:

  • eu bod yn darparu llety ymwelwyr ar hyn o bryd, neu
  • eu bod wedi darparu llety ymwelwyr yn y 14 diwrnod diwethaf

Cyn y gall ACC gofrestru person a chreu cofnod ar y gofrestr gyhoeddus, bydd yn cyhoeddi hysbysiad i'r person dan sylw sy'n nodi:

  • pa wybodaeth y mae ACC yn bwriadu ei chynnwys yn y cofnod
  • pa wybodaeth ofynnol y mae ar ACC ei angen i gwblhau’r cofnod
  • unrhyw wybodaeth o’r cofnod a allai fod yn anghywir yn nhyb ACC
  • y dyddiad pan fydd ACC yn creu’r cofnod ar y gofrestr, oni fydd y person yn cwblhau'r ffurflen gofrestru ei hun cyn y dyddiad hwnnw, neu os yw ACC yn fodlon nad oes angen i'r person gofrestru, a
  • gwybodaeth sy'n ymwneud ag adolygiadau ac apeliadau mewn perthynas â'r hysbysiad

Ni all ACC wneud cofnod ar y gofrestr nes y bydd o leiaf 14 diwrnod wedi bod ers cyhoeddi'r hysbysiad y cyfeirir ato uchod. 

Pan fo ACC wedi cofrestru person, bydd y cofnod ar y gofrestr yn nodi mai ACC gofrestrodd y person. Ni fydd y dangosydd hwn yn cael ei ddangos ar y cofnod os bydd y darparwr llety ymwelwyr yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i ACC yn nes ymlaen, gan fodloni ACC bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir. 

Ni fydd person sydd wedi’u cofrestru gan ACC yn cael eu hystyried fel person wedi cofrestru at ddibenion cosbau am fethu â chofrestru. Mae hyn yn golygu y gallant wynebu cosbau am fethu â chofrestru nes y byddant yn rhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i greu cofnod cyflawn a chywir i ACC. Os nad oes angen am fwy o wybodaeth, bydd angen iddynt gadarnhau bod y cofnod ar y gofrestr yn gyflawn ac yn gywir, neu wneud cais i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr.

Hysbysu ACC am newidiadau a gwybodaeth anghywir

Cyflwyniad

Os yw cofnod yn y gofrestr yn anghywir neu'n dod yn anghywir o ganlyniad i newid, rhaid i'r darparwr llety ymwelwyr ddweud wrth ACC am yr anghywirdeb hwnnw.

Mae angen i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth y bydd ar ACC ei hangen i gywiro'r cofnod yn y gofrestr. Bydd angen i'r hysbysiad hefyd fod ar ffurf benodol a rhaid darparu unrhyw ddogfennaeth a nodwyd gan ACC.

Bydd anghywirdebau yn cynnwys achosion pan nad yw manylion y cofrestriad yn gywir mwyach, megis:

  • pan fo darparwr llety ymwelwyr yn gwerthu rhywfaint o'u eiddo
  • unrhyw newid yn enw masnachu, neu enw'r darparwr llety ymwelwyr
  • unrhyw newid yng nghyfeiriad cofrestredig y darparwr llety ymwelwyr
  • Mae'r math o lety ymwelwyr yn y lleoliad wedi newid

Pan fo'r gofrestr yn anghywir, bydd gan ddarparwr llety ymwelwyr 30 diwrnod i hysbysu ACC am y newid, gan ddechrau ar y diwrnod pan ddaethant i wybod am yr anghywirdeb, neu’r dyddiad pan ddylent fod wedi dysgu am yr anghywirdeb.

Pan fo'r anghywirdeb yn ganlyniad i newid mewn amgylchiadau, mae gan ddarparwr llety ymwelwyr 30 diwrnod i hysbysu ACC, gan ddechrau ar y diwrnod y digwyddodd y newid.

Gall methu â hysbysu ACC arwain at gosbau.

Enghraifft o newid enw darparwr

Mae Bythynnod Cymru Cyf yn berchen ar nifer o adeiladau yng Nghymru lle maent yn darparu llety ymwelwyr. Mae'r cwmni'n newid ei enw i Bythynnod Bendigedig ar 01 Hydref. 

Mae hyn yn golygu nad yw eu cofrestriad bellach yn gywir, gan fod enw'r darparwr llety ymwelwyr wedi newid, ac mae ganddynt 30 diwrnod, gan ddechrau ar 01 Hydref, i ddiweddaru eu manylion cofrestru. 

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ddiweddaru eu manylion cofrestru erbyn diwedd y dydd ar 30 Hydref.

Enghraifft o newid uchafswm nifer ymwelwyr o ganlyniad i gau llety

Yn dilyn yr enghraifft flaenorol, mae Bythynnod Bendigedig Cyf yn cau hanner eu hadeiladau ar gyfer gwaith adnewyddu, ac yn disgwyl iddynt fod ar gau am 6 mis. Fel rhan o'r gwaith adnewyddu, byddant yn cynyddu'r nifer o bobl all aros ym mhob eiddo. 

Mae dau newid amgylchiadau yma. Y cyntaf yw bod hanner eu hadeiladau ar gau ac felly nid yw'r llety ymwelwyr yn cael ei ddefnyddio na'i hysbysebu ar gyfer archebion tra bydd y gwaith adnewyddu yn cael ei wneud. Bydd angen iddynt ddweud wrth ACC am hyn o fewn 30 diwrnod o gau’r lleoliadau ar gyfer gwaith adnewyddu.

Pan fydd y gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau, bydd angen iddynt ddweud wrth ACC bod pob safle yn cael ei ddefnyddio a'i hysbysebu fel llety ymwelwyr eto, gan gynnwys y newid o ran uchafswm ymwelwyr pob safle. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau gyda dyddiad y newid ar gyfer pob eiddo.

Cywiro'r gofrestr neu wrthod hysbysiad

Cywiro'r gofrestr

Pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn rhoi hysbysiad i ACC i sôn am anghywirdeb, rhaid i ACC gywiro'r gofrestr a rhoi hysbysiad i'r darparwr sy'n amlinellu'r cywiriadau a wnaed i'r cofnod dan sylw.

Ni fydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad i'r darparwr llety ymwelwyr i amlinellu'r cywiriadau os ydynt yn credu bod y cofnod yn anghywir ac eisoes wedi anfon hysbysiad i'r darparwr gyda'u newidiadau arfaethedig.

Gwrthod hysbysiad

Os bydd darparwr llety ymwelwyr yn rhoi hysbysiad i ACC ynglŷn ag anghywirdeb, ac os bydd ACC yn penderfynu peidio â gwneud unrhyw newidiadau i'r cofnod yn y gofrestr, yna rhoddir hysbysiad i'r darparwr i egluro pam na newidiwyd y cofnod yn y gofrestr ac i egluro hawliau’r person i adolygu ac apelio ynghylch yr hysbysiad.

ACC yn newid y gofrestr

Os bydd ACC yn credu bod cofnod ar y gofrestr yn anghywir, a hwythau heb gael hysbysiad gan y darparwr llety ymwelwyr dan sylw, gall ACC newid y cofnod ar y gofrestr.

Cyn i ACC newid y cofnod ar y gofrestr, rhoddir hysbysiad i'r darparwr llety ymwelwyr a fydd yn datgan:

  • pa ran o'r cofnod sy’n anghywir ym marn ACC
  • a fydd ACC yn hepgor yr wybodaeth a allai fod yn anghywir neu ddim, neu’r newidiadau y maent yn bwriadu eu gwneud i'r cofnod ar y gofrestr
  • y dyddiad y bydd y gofrestr yn cael ei newid, a fydd o leiaf 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad
  • sut i ofyn am adolygiad neu apêl mewn perthynas â'r hysbysiad

Ni fydd ACC yn gwneud y newid a amlinellir yn yr hysbysiad os gwna’r darparwr llety ymwelwyr dan sylw’r canlynol cyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad:

  • hysbysu ACC am newid mewn amgylchiadau neu anghywirdeb, ac wedi darparu'r wybodaeth y mae ar ACC ei hangen i newid y cofnod ar y gofrestr, neu
  • mae ACC yn fodlon nad oes angen newid y cofnod ar y gofrestr

Er enghraifft, os bydd darparwr llety ymwelwyr yn cadarnhau bod y cofnod gwreiddiol yn gywir ac yn darparu digon o dystiolaeth i fodloni ACC nad oes angen ei newid, ni fydd ACC yn newid y cofnod ar y gofrestr.

Pan fo ACC wedi gwneud newidiadau i gofnod darparwr ar y gofrestr, bydd y cofnod yn nodi bod ACC wedi gwneud newidiadau a pha wybodaeth a newidiwyd. Ni fydd y dangosydd hwn yn cael ei ddangos os bydd y darparwr llety ymwelwyr yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i ACC yn nes ymlaen, gan fodloni ACC bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir.

Os mai ACC sy’n newid y cofnod ar y gofrestr, yna gall cosbau fod yn berthnasol tan y dyddiad y mae'r person:

  • yn rhoi hysbysiad i ACC i ddweud bod y newid yn anghywir ac yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gywiro'r cofnod, neu
  • yn cadarnhau bod y cofnod yn gywir

Tynnu cofnod oddi ar y gofrestr

Pryd i wneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr

Rhaid i berson wneud cais i ACC os ydynt eisiau tynnu eu cofnod oddi ar y gofrestr cyn pen 31 diwrnod olynol pan nad yw'r person hwnnw wedi darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.

Pan roddir cais i ACC dynnu cofnod oddi ar y rhestr, bydd y person dan sylw yn cael ei dynnu o'r gofrestr ac yn cael hysbysiad i gadarnhau'r dyddiad y tynnwyd ei gofnod o'r gofrestr. Er mwyn i gais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr fod yn ddilys, bydd angen iddo gynnwys gwybodaeth a bod ar ffurf ddewisol ACC, a bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael unwaith y bydd cofrestru ar agor.

Os bydd person yn gwneud cais i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr, ond bod ACC yn penderfynu peidio â thynnu'r person hwnnw, byddant yn anfon hysbysiad iddynt i egluro:

  • pam nad yw eu cofnod wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr, a
  • yr hawliau adolygu neu apelio sy'n ymwneud â'r hysbysiad

Enghreifftiau o'r dyddiadau cau i ddadgofrestru fel darparwr llety ymwelwyr

Roedd Drake wedi cofrestru fel darparwr llety ymwelwyr ac roedd yn darparu llety ymwelwyr mewn bwthyn yng Nghymru yr oedd yn berchen arno. Penderfynodd Drake werthu'r bwthyn a rhoddodd y gorau i gymryd archebion ar ôl iddo dderbyn cynnig ar y bwthyn. Gadawodd ei ymwelwyr olaf ar 30 Medi 2028, a bryd hynny rhoddodd y gorau i ddarparu llety ymwelwyr. Mae angen i Drake ddadgofrestru cyn 31 Hydref 2028.

Roedd Carl yn gosod ei ystafell sbâr i ymwelwyr ar y rhan fwyaf o benwythnosau. Mae bellach wedi symud yn ôl adref a ni fydd yn darparu llety ymwelwyr ar benwythnosau. Mae'n rhoi'r gorau i hysbysebu ei ystafell sbâr ar 01 Medi 2028, ond mae'n anrhydeddu’r archebion a wnaed hyd at 22 Hydref 2028. Mae angen i Carl ddadgofrestru cyn 21 Tachwedd 2028, gan fod hyn cyn pen 31 diwrnod olynol ohono’n rhoi'r gorau i ddarparu llety ymwelwyr.

ACC yn tynnu person o'r gofrestr

Os yw ACC o'r farn y dylai person fod wedi gwneud cais i dynnu ei gofnod oddi ar y gofrestr, ond nad ydynt wedi gwneud hynny, gall ACC dynnu'r person hwnnw o'r gofrestr.

Cyn y gall ACC gael gwared ar y person hwnnw, rhaid iddynt anfon hysbysiad i'r person sydd yn nodi:

  • pam mae ACC o'r farn y dylai'r person fod wedi gwneud cais i dynnu ei gofnod oddi ar y gofrestr
  • y dyddiad y bydd ACC yn eu tynnu o'r gofrestr, a fydd o leiaf 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad
  • yr hawliau adolygu ac apelio mewn perthynas â'r hysbysiad

Ni fydd ACC yn tynnu'r person oddi ar y gofrestr ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad os, cyn y dyddiad hwnnw:

  • bydd y person yn ymateb gyda'i gais ei hun i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr, neu
  • bydd ACC yn fodlon y dylai'r person aros ar y gofrestr

Os bydd ACC yn tynnu person oddi ar y gofrestr, gallent barhau i wynebu cosbau hyd at y dyddiad y bydd y person:

  • yn rhoi hysbysiad i ACC sy'n cynnwys y dyddiad y gwnaethant roi'r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, neu
  • yn gwneud cais newydd i gael ei gofrestru

Hysbysiadau sy'n gofyn am wybodaeth

Pwy all gael hysbysiad i ofyn am wybodaeth gan ACC

Gall ACC gyhoeddi hysbysiad i berson sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfen sydd, yn eu barn nhw, yn berthnasol i’w swyddogaethau wrth gynnal y gofrestr.

Gellir anfon hysbysiadau at:

  • ddarparwyr llety ymwelwyr, p'un ai eu bod wedi'u cofrestru neu beidio
  • person a allai, ym marn ACC, fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, gan gynnwys rhywun a allai fod wedi darparu llety ymwelwyr yn y gorffennol
  • person sy'n cynorthwyo neu'n helpu i hwyluso darpariaeth llety ymwelwyr mewn adeiladau yng Nghymru gan ddarparwr llety ymwelwyr, neu rywun sydd, neu wedi bod, yn ddarparwr llety ymwelwyr ym marn ACC

Pan fo hysbysiad yn cael ei gyhoeddi i berson, rhaid iddynt ddarparu’r holl wybodaeth neu ddogfennau a restrir ac sydd yn eu meddiant i ACC. Bydd y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny yn cael ei nodi yn yr hysbysiad ond gellir ei ddiwygio trwy gytundeb ag ACC. Er enghraifft, os oes angen estyniad y tu hwnt i'r dyddiad yn yr hysbysiad oherwydd bod y person dramor neu mae angen nôl y ddogfen.

Enghraifft o hysbysiad gan ACC yn gofyn am wybodaeth

Mae Cymorth Tai Gwyliau Cyf yn gwmni rheoli sy'n helpu nifer o wahanol ddarparwyr llety ymwelwyr gyda'u busnesau darparu llety ymwelwyr mewn adeiladau ledled Cymru. Mae ACC angen gwybodaeth am ddarparwr llety ymwelwyr sy'n gleient i Cymorth Tai Gwyliau Cyf; gall ACC roi hysbysiad gwybodaeth i'r cwmni rheoli yn gofyn am y wybodaeth angenrheidiol.

Apelio yn erbyn hysbysiadau

Bydd yr hysbysiad gan ACC yn darparu gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio. Pan ofynnir am adolygiad, neu pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad a gyhoeddwyd, neu yn erbyn gofyniad penodol o fewn yr hysbysiad hwnnw, ni fydd y dyddiad cau i gydymffurfio â'r hysbysiad bellach yn berthnasol.

Pan fo'r adolygiad neu'r apêl yn cadarnhau penderfyniad ACC i gyhoeddi'r hysbysiad neu ofyniad ynddo, bydd angen darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau erbyn dyddiad arall a fydd yn cael ei ddewis gan ACC, neu erbyn dyddiad y mae’r person ac ACC yn cytuno arno.

Cosbau am fethu â chofrestru neu hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau

Cosbau am fethu â chofrestru

Cosbau cychwynnol

Bydd cosbau ar gyfer cofrestru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.

Gall cosb am fethu â chofrestru fod yn berthnasol os yw person wedi methu â chofrestru lleoliad yng Nghymru lle maent yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr. 

Bydd swm y gosb yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol:

£100 × A

A yw'r nifer o leoliadau a ddylai fod wedi’u cofrestru ond nad ydynt wedi’u cofrestru. 

Pan fo cosb yn cael ei rhoi, bydd yr hysbysiad o gosb yn cynnwys gwybodaeth am y lleoliad dan sylw. 

Rhaid talu'r gosb o fewn 30 diwrnod o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o'r gosb, oni fydd y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu'n apelio i'r tribiwnlys yn erbyn y gosb.

Enghraifft o fethu â chofrestru 

Mae Gwersylla Cymru Cyf yn ddarparwr llety ymwelwyr sy'n cynnig lleiniau i bebyll a charafannau ar safle yng Ngogledd Cymru. Mae’r busnes wedi bodoli ers dros 5 mlynedd, ac nid ydynt yn cofrestru cyn 31 Mawrth 2027 ac felly gallant gael eu cosbi. Bydd y ddirwy yn £100 gan fod Gwersylla Cymru Cyf yn gweithredu un lleoliad, felly y cyfrifiad yw £100 x 1, sy’n 100. 

Enghraifft o fethu â chofrestru mwy nag un lleoliad

Mae Bythynnod Cymru Cyf yn ddarparwr llety ymwelwyr sy'n darparu llety ymwelwyr mewn 17 o fythynnod ledled Cymru. Nid ydynt yn cofrestru’n brydlon ac felly fe allent gael eu cosbi. Mae'r gosb, sy'n cael ei chyfrifo drwy luosi £100 â 17 (nifer y bythynnod nad ydynt wedi'u cofrestru pan ddylent fod wedi gwneud hynny), yn £1700. 

Enghraifft o fethu â chofrestru safle sy'n cynnig llety cymysg

Mae Gwersyll a Gwyliau Cymru Cyf yn ddarparwr llety ymwelwyr sy'n gweithredu dau safle yng Nghymru. Mae’r ddau safle yn cynnig lleiniau ar gyfer pebyll, lleiniau ar gyfer cartrefi symudol, a chabanau i westeion.  Sefydlwyd y busnes yn 2024, felly dylent fod wedi cofrestru erbyn 31 Mawrth 2027. Methodd y busnes â gwneud hynny, felly gallant gael eu cosbi. Bydd y ddirwy yn £200 am eu bod yn gweithredu dau leoliad lle darperir llety i ymwelwyr, felly y cyfrifiad yw £100 x 2, sy’n £200. 

Enghraifft o fethu â chofrestru eiddo ychwanegol

Mae Aled eisoes wedi cofrestru â 3 safle lle mae'n darparu llety ymwelwyr. Mae'n prynu eiddo newydd ac yn dechrau ei gynnig ar ei wefan yn syth ar ôl cwblhau’r pryniant. Gan nad yw wedi cofrestru'r eiddo cyn iddo ddechrau cynnig darparu llety ymwelwyr yn y safle newydd, gallai gael dirwy o £100. Cyfrifir hyn drwy luosi £100 â 1 (nifer y lleoliadau newydd nad ydynt wedi’u cofrestru).

Cosbau pellach

Os bydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad o gosb cychwynnol am fethu â chofrestru, ac nad yw'r lleoliad yn cael ei gofrestru wedyn, yna gellir cyhoeddi cosbau pellach. 

Rhaid i'r darparwr llety ymwelwyr gofrestru'r lleoliad sy’n gysylltiedig â’r hysbysiad o gosb cychwynnol o fewn 30 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad. Enw’r cyfnod hwn yw’r "cyfnod cosb cychwynnol". 

Os na fydd yr holl leoliadau wedi’u cofrestru ar ddiwedd y cyfnod cosb cychwynnol, bydd y darparwr llety ymwelwyr yn atebol i:

  • gosb am bob diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol, am hyd at 30 diwrnod, a
  • cosb ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol 

Bydd swm y gosb yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol: £X × P

X yw:

  • £10 o gosb y dydd hyd at a chan gynnwys 30 diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol, a 
  • £1000 am gosb sy'n berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol

P yw'r nifer o leoliadau y mae’r hysbysiad o gosb yn berthnasol iddynt:

  • pan fo'r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig darparu, neu yn darparu, llety ymwelwyr ar ddiwrnod pan fo’r gosb ddyddiol yn berthnasol, a 
  • sydd dal heb eu cofrestru ar y diwrnod pan fo’r gosb ddyddiol yn berthnasol

Mae hyn yn golygu y gall cosbau pellach o hyd at £1300 fesul safle heb ei gofrestru fod yn berthnasol.

Os yw'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu apêl, bydd y cyfnod cosb cychwynnol yn cael ei ymestyn nes bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau neu nes bydd yr apêl wedi'i phenderfynu neu ei thynnu'n ôl. 

Enghraifft o’r cosbau dyddiol pan fo person yn cofrestru ar y 15 diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol

Mae Cabanau Campus Cymru Cyf yn berchen ar 7 caban ledled Cymru. Ni wnaeth y cwmni gofrestru’n brydlon, a chawsant gosb gychwynnol o £700 am fethu â chofrestru. Mae Cabanau Campus Cymru Cyf yn cofrestru pob un o'u 7 caban ar y 15fed diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Nid oedd y cabanau wedi'u cofrestru o fewn y cyfnod cosb cychwynnol o 30 diwrnod, felly bydd cosbau dyddiol yn berthnasol. 

Dyma sut y cyfrifir y cosbau dyddiol: 

£10 × 7 = £70 

Dyma’r gosb dyddiol wedi'i luosi â'r 7 caban nad oeddent wedi’u cofrestru. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y swm cosb ddyddiol o:

 £70 × 14 = £980 

Dyma gyfanswm swm y gosb dyddiol wedi'i luosi â nifer y diwrnodau pan nad oedd y cabanau wedi’u cofrestru.

Cyfanswm y cosbau y mae'n rhaid i Cabanau Campus Cymru eu talu yw: £700 am y gosb gychwynnol, ynghyd â £980 mewn cosbau dyddiol, sy'n gyfanswm o £1680.

Enghraifft o’r cosbau dyddiol pan fo person yn cofrestru mwy na 31 diwrnod ar ôl yr hysbysiad o gosb cychwynnol

Mae gan Joel 2 dŷ gwyliau mewn gwahanol ardaloedd. Mae'n darparu llety ymwelwyr ac nid yw’n cofrestru'r cartrefi gwyliau’n brydlon. Mae’n atebol am gosb gychwynnol o £200 am fethu â chofrestru ei 2 gartref gwyliau gyda ACC. Nid yw Joel yn cofrestru'r tai gwyliau ar ôl iddo gael yr hysbysiad o gosb cychwynnol, ac mae mwy na 31 diwrnod yn mynd heibio cyn iddo gofrestru. Bydd cosbau dyddiol yn berthnasol. 

Dyma sut y cyfrifir y cosbau dyddiol: 

£10 × 2 = £20 

Dyma’r gosb dyddiol wedi'i luosi â'r 2 dŷ gwyliau nad oeddent wedi’u cofrestru. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y swm cosb ddyddiol o: 

£20 × 30 diwrnod = £600

Dyma gyfanswm swm y gosb dyddiol wedi'i luosi â nifer y diwrnodau pan nad oedd y tai gwyliau wedi’u cofrestru. Mae'r holl 30 diwrnod o gosbau dyddiol yn berthnasol. 

Gan na chofrestrwyd y lleoliadau o fewn y 30 diwrnod, mae'r gosb ddyddiol derfynol yn berthnasol:

£1000 × 2 = £2000

Dyma'r 31 gosb ddyddiol o £1000, y gosb olaf, wedi'i luosi â'r 2 dŷ gwyliau sydd dal heb gael eu cofrestru. 

Mae Joel yn atebol i dalu cyfanswm o £2800 mewn cosbau: £200 am y gosb gychwynnol, ac yna £600 o gosbau dyddiol ar £10 y dydd fesul lleoliad, ac yna cosb derfynol o £2,000 (£1,000 fesul lleoliad). 

Rhoi’r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr

Pan fydd person yn rhoi'r gorau i fod yn ddarparwr llety ymwelwyr, ond eu bod yn atebol i dalu gosb am fethu â chofrestru pan oeddent yn darparu llety ymwelwyr, byddant yn parhau i fod yn atebol i dalu'r gosb honno. 

Cofrestriadau gan ACC

Os bydd ACC yn gwneud cofnod yn y gofrestr gan nad yw person wedi'i gofrestru, ac nad ydynt wedi gwneud cais i gofrestru, bydd y cosbau am fethu â chofrestru yn dal i fod yn berthnasol. 

Mae methu â chofrestru a dibynnu ar ACC i wneud y cofnod yn y gofrestr yn gyfystyr â diffyg cydymffurfiaeth ac felly bydd yr un cosbau yn berthnasol waeth pa gam y bydd ACC yn ei gymryd. 

Ni fydd cosbau yn berthnasol o'r dyddiad y bydd person yn rhoi hysbysiad i ACC sydd:

  • yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gwneud eu cofnod yn y gofrestr yn gyflawn a chywir, neu
  • yn cadarnhau bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir ac nad oes angen rhagor o wybodaeth ar ACC

Ni fydd cosbau yn berthnasol o'r dyddiad y bydd person yn rhoi hysbysiad i ACC i ddweud ei fod yn dymuno cael ei dynnu oddi ar y gofrestr. 

Methu â hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau

Cosbau cychwynnol

Pan fydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad o gosb oherwydd bod cofnod anghywir yn y gofrestr, rhaid i'r hysbysiad amlinellu pa wybodaeth y mae ACC yn ei ystyried yn anghywir.

Anghywirdeb yn y gofrestr

Gallai darparwr llety ymwelwyr wynebu cosb o £100 os nad ydynt yn hysbysu ACC o gamgymeriad yn eu cofnod ar y gofrestr o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau o'r diwrnod pan fyddant yn dysgu am yr anghywirdeb am y tro cyntaf, neu’r dyddiad pan ddylent fod wedi gwybod am yr anghywirdeb.

Newid mewn amgylchiadau

Gallai darparwr llety ymwelwyr wynebu cosb o £100 os nad ydynt yn hysbysu ACC o newid yn eu hamgylchiadau o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau o ddyddiad y newid sy'n peri i'w cofnod yn y gofrestr fod yn anghywir.

Cosbau pellach

Mae gan ddarparwr llety ymwelwyr 30 diwrnod, gan ddechrau o'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb, i roi'r wybodaeth y mae ar ACC ei hangen i sicrhau bod y cofnod yn y gofrestr yn cael ei gywiro. Enw’r cyfnod hwn yw’r cyfnod cosb cychwynnol.

Os rhoddir cosb i ddarparwr llety ymwelwyr am fethu â hysbysu ACC o'r anghywirdeb, neu'r newid mewn amgylchiadau, ac nad ydynt yn darparu hysbysiad i ACC sy'n cynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen i gywiro'r cofnod yn y gofrestr erbyn diwedd y cyfnod cosb cychwynnol, gallant wynebu cosbau pellach.

Rhoddir cosbau dyddiol o £10 am bob diwrnod nad yw'r darparwr llety ymwelwyr yn darparu'r hysbysiad i ACC, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol.

Os na fydd y person yn rhoi hysbysiad i ACC wedyn, bydd cosb o £1000 yn berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Ar ôl i'r gosb o £1000 gael ei chymhwyso, ni fydd unrhyw gosbau pellach yn cronni mewn perthynas â'r anghywirdeb neu’r newid amgylchiadau dan sylw a arweiniodd at anghywirdeb.

Os yw'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu apêl, bydd y cyfnod cosb cychwynnol yn cael ei ymestyn nes bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau neu nes bydd yr apêl wedi'i phenderfynu neu ei thynnu'n ôl.

Rhyngweithio â chosbau eraill

Os yw'r wybodaeth anghywir yn golygu y gallai’r person wynebu cosb am fethu â chofrestru, neu am fethu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr, ni all y person hefyd wynebu cosb am fethu â hysbysu ACC o'r newid neu'r anghywirdeb.

Cosbau am fethu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr

Cosb gychwynnol

Os nad yw person yn gwneud cais i ACC i gael ei dynnu o'r gofrestr, ond y dylent fod wedi gwneud un, gallant wynebu cosb gychwynnol o £100.

Cosbau pellach

Pan fo cosb gychwynnol wedi'i rhoi am fethu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr, bydd cosbau pellach yn cael eu rhoi os bydd person:

  • yn methu â gwneud cais i ACC i ddileu eu cofnod oddi ar y gofrestr o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb cychwynnol (gelwir hyn yn gyfnod cosb cychwynnol), a
  • heb ddarparu, nac wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad yng Nghymru yn ystod y cyfnod cosb cychwynnol hwnnw

Bydd y gosb yn £10 am bob diwrnod, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol, y mae'r person yn methu â gwneud cais i dynnu ei gofnod oddi ar y gofrestr ac nad yw'n darparu, nac yn cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.

Os na wneir cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr wedyn, ac nad yw'r person yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw leoliad, mae cosb arall o £1000 yn berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Ar ôl i'r gosb o £1000 gael ei rhoi, ni fydd unrhyw gosbau pellach yn cronni mewn perthynas â methu â gwneud cais i dynnu cofnod oddi ar y gofrestr.

Wrth gyfrifo'r cyfnod cosb cychwynnol, ni fydd unrhyw ddiwrnodau lle mae'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu dan apêl yn cael eu cyfrif.

Cosbau am fethu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth

Cosb gychwynnol

Pan fo ACC wedi cyhoeddi hysbysiad yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennau (neu'r ddau), a phan nad yw’r person wedi cydymffurfio, bydd y person yn wynebu cosb gychwynnol o £100.

Os yw person sydd wedi cael cosb gychwynnol yn methu â darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau y mae ACC wedi’i geisio ganddynt o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau gyda'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb cychwynnol (gelwir hyn yn gyfnod cosb cychwynnol), gallant wynebu cosbau pellach.

Cosbau pellach

Rhoddir cosbau dyddiol o £10 am bob diwrnod nad yw'r person yn darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau i ACC, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol.

Os bydd y person yn parhau i beidio â darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau i ACC, bydd cosb arall o £1000 yn berthnasol ar y 31ain diwrnod ar ôl y cyfnod cosb cychwynnol. Ar ôl i'r gosb o £1000 gael ei rhoi, ni fydd unrhyw gosbau pellach yn cronni mewn perthynas â'r hysbysiad dan sylw sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfennau.

Wrth gyfrifo'r cyfnod cosb cychwynnol, ni fydd unrhyw ddiwrnodau lle mae'r gosb gychwynnol yn destun adolygiad neu dan apêl yn cael eu cyfrif.

Esgus Rhesymol

Ni fydd person yn cael eu cosbi os byddant yn bodloni ACC, neu'r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar apêl, bod ganddynt esgus rhesymol dros y methiant a arweiniodd at gael eu cosbi.

Esgus rhesymol yw rhywbeth sydd wedi atal person rhag cyflawni rhwymedigaethau y maent wedi cymryd gofal rhesymol i'w gyflawni.

Nid oes diffiniad statudol o esgus rhesymol: bydd amgylchiadau penodol yr achos dan sylw’n cael eu hystyried. Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn amrywio o berson i berson, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a'u galluoedd penodol.

Mae'r categorïau canlynol yn enghreifftiau o bethau y gallai ACC eu hystyried yn esgus rhesymol am gyfnod o amser, ond bydd yn dibynnu yn y pen draw ar amgylchiadau unigol pob achos, sy'n debygol o ofyn am ystyried llawer o ffactorau eraill:

  • profedigaeth – marwolaeth perthynas agos neu bartner domestig o gwmpas adeg y methiant neu'r rhwystr
  • salwch difrifol – os yw hyn yn effeithio ar y person neu berthynas agos neu bartner domestig tua'r adeg y methiant neu'r rhwystr
  • arhosiad annisgwyl yn yr ysbyty a oedd yn atal y person rhag delio â'u materion treth
  • colli cofnodion oherwydd tân, llifogydd neu ladrad
  • colli staff allweddol yn annisgwyl
  • methiant cyfrifiadurol neu feddalwedd ychydig cyn neu tra’r oedd y person yn paratoi ei ffurflen gofrestru
  • tarfiad annisgwyl ar wasanaethau ar-lein y ACC
  • oediadau post na allai'r person fod wedi'u rhagweld
  • oedi sy'n gysylltiedig ag anabledd person

Nid yw’r canlynol yn esgusodion derbyniol:

  • dibyniaeth ar berson arall (oni fydd y person wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi'r methiant neu'r rhwystr)
  • person wedi gwneud camgymeriad yn y ffurflen gofrestru

Hefyd, ar y cyfan ni fydd ACC yn ystyried bod y canlynol yn esgusodion rhesymol:

  • bod y ffurflen gofrestru yn rhy anodd i'w chwblhau
  • pwysau gwaith
  • diffyg gwybodaeth
  • nid oedd ACC wedi atgoffa'r person am rywbeth
  • anwybodaeth o'r gyfraith, neu
  • gyfuniad o unrhyw rai o'r uchod

Y person dan sylw sy’n gyfrifol am fodloni ACC bod ganddynt esgus rhesymol ar adeg y methiant neu'r rhwystr (pa un bynnag sy'n berthnasol). Mae'n bwysig gwerthfawrogi nad yw esgus rhesymol yn berthnasol pan fo'r methiant neu'r rhwystr yn fwriadol.

Rhaid i'r person gydymffurfio â'i rwymedigaethau cyn gynted â phosibl ar ôl i'w esgus rhesymol gael ei ddatrys. Os nad ydynt yn cywiro'r weithred neu'r diffyg gweithredu heb oedi afresymol ar ôl i'r esgus honno ddod i ben, gallent barhau i gael eu cosbi.

Bydd ACC yn ystyried yn ofalus ar ba bwynt y bydd esgus rhesymol yn dod i ben a pha gamau a gymerodd y person ar ôl wedi hynny i unioni'r weithred neu'r diffyg gweithredu, neu i unioni'r methiant mewn ffordd arall. Rhaid ymdrin â phob achos yn unigol.

O ran oedi afresymol, nid oes diffiniad statudol o 'afresymol'. Unwaith eto, rhaid barnu pob achos yn unigol, gan ystyried galluoedd ac amgylchiadau'r person.

Os bydd ACC yn penderfynu nad yw esgus y person yn rhesymol nac yn dderbyniol, ac yn gosod cosb, gallai’r person ofyn am adolygiad neu apêl mewn perthynas â phenderfyniad ACC.

Amgylchiadau arbennig

Gall ACC leihau cosb (gan gynnwys unrhyw log sy’n gysylltiedig â'r gosb) os yw'n credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud oherwydd amgylchiadau arbennig.

Gall ACC hefyd benderfynu, oherwydd amgylchiadau arbennig, cymryd unrhyw un o'r camau canlynol mewn perthynas â chosb (gan gynnwys unrhyw log sy’n gysylltiedig â'r gosb):

  • dileu’r gosb yn gyfan gwbl
  • gohirio’r gosb, a
  • chytuno ar gyfaddawd gyda'r trethdalwr mewn perthynas â'r achos dros gosbi

Nid yw amgylchiadau arbennig yn cynnwys gallu person i dalu.

Er mwyn cael eu hystyried fel amgylchiadau arbennig, rhaid i'r amgylchiadau dan sylw fod yn berthnasol i'r person ac ni ddylent fod yn amgylchiadau cyffredinol sy'n berthnasol i lawer o bobl eraill o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth ar gyfer cosbi.

Mae amgylchiadau arbennig yn rhywbeth nad oes darpariaeth ddeddfwriaethol ar ei gyfer. Felly, er enghraifft, ni allant gynnwys materion sy'n gyfystyr ag esgus rhesymol neu ofal rhesymol.

Mae amgylchiadau arbennig yn amgylchiadau sydd yn amlwg yn anghyffredin neu eithriadol, ac maent yn gwbl ar wahân i'r ystyriaethau eraill a grybwyllir uchod.

Darpariaethau cosb atodol

Talu cosbau

Rhaid talu pob cosb o fewn 30 diwrnod o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o gosb, oni fydd y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu'n apelio i'r tribiwnlys yn erbyn y gosb. 

Asesu cosbau

Pan fydd person yn wynebu cosb, rhaid i ACC wneud asesiad o'r gosb honno a hysbysu'r person o'u hatebolrwydd. 

Pan fo'r person dan sylw wedi marw, gellir asesu'r gosb ar gynrychiolydd personol y person hwnnw a’i thalu o ystâd yr ymadawedig. 

Ar gyfer y cosbau canlynol, rhaid i ACC wneud asesiad o'r gosb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 12 mis, gan ddechrau gyda'r diwrnod y mae ACC yn ystyried am y tro cyntaf bod darparwr llety ymwelwyr wedi dod yn atebol i dalu:

  • cosb am fethu â chofrestru
  • cosb am fethu â hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
  • cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad am wybodaeth neu ddogfennau
  • cosb am fethu â dadgofrestru / gwneud cais i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr

Ar gyfer y cosbau canlynol, rhaid i ACC wneud asesiad o'r gosb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 12 mis, gan ddechrau gyda'r diwrnod y mae'r gosb yn ymwneud â:

  • chosbau pellach am fethu â chofrestru
  • cosbau pellach am fethu â chofrestru neu hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau
  • cosbau pellach am fethu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfennau
  • cosbau pellach am fethu â dadgofrestru / gwneud cais i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr

Ffurf yr hysbysiad

Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir gan ACC mewn perthynas â chosb gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • y rhesymau neu'r rheswm pam rhoddwyd y gosb
  • dyddiad talu'r gosb
  • unrhyw sylwadau y gellir eu gwneud mewn perthynas â chael esgus rhesymol neu amgylchiadau arbennig 
  • yr hawliau i adolygu neu apelio yn erbyn y gosb

Gwahardd cosbi ddwywaith

Nid all person wynebu cosb os yw eisoes wedi cael collfarnu o drosedd sy'n deillio o'r un ymddygiad. Gelwir hyn yn rheol 'gwahardd cosbi ddwywaith'.

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig

Partneriaethau

Mae partneriaethau yn golygu:

  • partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890
  • partneriaeth gyfyngedig sydd wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907, neu
  • partneriaeth neu endid o gymeriad tebyg a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig

Ar gyfer cofrestru, pan fo rhwymedigaeth i fodloni neu ganiatâd i gyflawni gweithred gan, neu mewn perthynas â, phersonau sy'n cynnal busnes mewn partneriaeth, bydd yn gyfrifoldeb ar bob partner i sicrhau eu bod yn bodloni eu gofynion. Bydd pob cam angenrheidiol angen cael ei gymryd gan, neu mewn perthynas â, phob partner ar yr adeg benodol honno.

Er bod partneriaid yn rhannu cyfrifoldeb dros gyflawni eu rhwymedigaethau, gall un partner ddewis cyflawni’r holl gamau gofynnol neu’r gweithgareddau a ganiateir ar ran yr holl bartneriaid. Hefyd, os yw prif leoliad busnes y bartneriaeth yn yr Alban, gall unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan y bartneriaeth wneud hyn.

Cymdeithasau a chyrff anghorfforedig

Ar gyfer cofrestru, pan fo rhwymedigaeth i fodloni neu ganiatâd i gyflawni gweithred gan, neu mewn perthynas â, phersonau sy'n cynnal busnes mewn corff anghorfforedig, bydd angen i unrhyw gamau gofynnol gael eu cyflawni gan, neu mewn perthynas â, phob person sy'n aelod-reolwr o'r gymdeithas anghorfforedig ar yr adeg benodol honno.

Fodd bynnag, gall unrhyw beth sy'n ofynnol neu a ganiateir ei wneud gan bob aelod rheoli o'r corff gael ei wneud gan unrhyw un ohonynt.

Aelod-reolwyr cymdeithas anghorfforedig yw:

  • pob aelod o'r corff anghorfforedig sydd â swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg
  • os nad oes swydd o'r fath, pob aelod sy’n aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff
  • os nad oes swyddfa neu bwyllgor o'r fath, pob aelod o'r corff

Atebolrwydd ar y cyd ac unigol

Mae partneriaid o fewn partneriaeth ac aelod-reolwyr cymdeithas anghorfforedig yn atebol ar y cyd am dalu'r cosbau sy’n ymwneud â chofrestru ac unrhyw log i ACC.

Mae hyn yn golygu, pan fo rhwymedigaeth i dalu swm i ACC o ganlyniad i unrhyw beth a wnaed neu na wnaed gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn codi, mae'r partneriaid neu'r aelod-reolwyr ar yr adeg pan wnaed neu na waned y peth yn atebol am y swm llawn sy'n ddyledus nes ei fod wedi'i dalu.

Newidiadau o ran Aelodaeth

Pan fo darparwr llety ymwelwyr yn ddau neu fwy o bersonau sy'n gweithredu gyda'i gilydd mewn partneriaeth, neu fel cymdeithas anghorfforedig, mae'r rheolau canlynol yn berthnasol.

Os bydd aelodaeth y bartneriaeth neu'r gymdeithas anghorfforedig yn newid, a bod y darparwr llety ymwelwyr wedi'i gofrestru yn ei enw busnes, yna bydd y personau sy'n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn yr enw busnes gyhyd â bod o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.

Pan fydd person yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, byddant yn parhau i gael eu trin fel aelod nes:

  • y diwrnod y darperir hysbysiad i ACC o'r newid mewn aelodaeth, neu
  • y diwrnod y bydd ACC yn newid y gofrestr i adlewyrchu'r newid mewn aelodaeth pan na roddwyd hysbysiad i ACC, ac mae wedi arfer ei bŵer i ddiwygio'r gofrestr

Mae parhau i drin person fel aelod yn ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (atebolrwydd ystâd ar farwolaeth neu fethdaliad).

Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

Cynnal busnes perthnasol person arall

Caiff person (Person A) gynnal busnes perthnasol person arall (Person B), os bydd Person B:

  • yn marw
  • yn dod yn analluog
  • yn dod yn destun gweithdrefnau ansolfedd, er enghraifft diddymiad, dod yn fethdalwr, neu fynd i ddwylo gweinyddwr

Ystyr busnes perthnasol yw busnes, neu ran ohono, lle mae person yn darparu, neu'n cynnig darparu, eiddo llety ymwelwyr yng Nghymru a’r person yw meddiannydd yr eiddo dan sylw.

Pan fydd person A yn cynnal busnes person B, rhaid iddynt hysbysu ACC o fewn 30 diwrnod ar ôl iddynt ddechrau cynnal y busnes i ddweud:

  • bod person A yn cynnal y busnes
  • y rheswm gwirioneddol fod person A yn cynnal y busnes
  • dyddiad y digwyddiad a arweiniodd atynt yn cynnal y busnes, megis dyddiad marwolaeth person B

Ar ôl i ACC gael eu hysbysu, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad i berson A, ac i berson B os yw'n briodol, yn cydnabod y bydd person A yn cael ei drin fel pebai’n berson B.

Newid amgylchiadau

Rhaid i Berson A roi rhybudd pellach i ACC pan:

  • nad yw person B bellach yn analluog neu pan fo gweithdrefnau ansolfedd yn dod i ben, neu
  • pan fo person A yn rhoi'r gorau i gynnal busnes person B

Bydd angen i'r hysbysiad gael ei roi o fewn 30 diwrnod i'r newid mewn amgylchiadau, a bydd rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am y dyddiad y digwyddodd y newid mewn amgylchiadau.

Pan fo ACC yn fodlon bod newid wedi bod mewn amgylchiadau, ni fydd ACC bellach yn trin person A fel petai hwy yw person B. Bydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad o'u penderfyniad i berson A, ac i berson B os yw'n briodol.

Adolygiadau ac apeliadau treth

Gall person ofyn am adolygiad neu apelio yn erbyn unrhyw un o'r penderfyniadau canlynol gan ACC:

  • penderfyniad sy'n ymwneud â chofrestru person
  • penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth neu ddogfen
  • penderfyniad sy'n ymwneud â chosb

Ond ni all y person hwnnw apelio yn erbyn y penderfyniad oni fydd:

  • y person dan sylw hysbysu ACC o gais am adolygiad o'r penderfyniad
  • ACC yn gorfod neu wedi penderfynu cynnal adolygiad o'r penderfyniad, a
  • chyfnod ACC i gyhoeddi eu hysbysiad yn amlinellu casgliadau eu hadolygiad wedi dod i ben

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu na ellir cyflwyno apêl i'r tribiwnlys oni fydd ACC eisoes wedi cynnal adolygiad o’r penderfyniad dadleuol. 

Am arweiniad pellach ar adolygiadau ac apeliadau, gweler DCRhT/5000 ymlaen.

Adolygiad o'r Ddeddf

Y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. Rhaid adolygu Deddf (Cymru) 2025 erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd, gan ddechrau o 1 Ebrill 2027.

Mater i Weinidogion Cymru fydd yn cynnal yr adolygiad o'r Ddeddf, a bydd yn cynnwys sut mae'r ddeddfwriaeth wedi gweithredu a'r effaith y mae wedi'i chael. Bydd adroddiad o'r adolygiad yn cael ei gyhoeddi, mewn unrhyw ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, bydd rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau pellach bob 5 mlynedd.

rhaid i ACC gynorthwyo ag unrhyw adolygiad sy’n cael ei gynnal os mai Gweinidogion Cymru sydd yn ei gyfarwyddo.