Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw testun yr ymgynghoriad?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn y sector gofal plant a gwaith chwarae ar gwestiynau sylfaenol ynghylch a ddylai'r sector gael cofrestr o'r gweithlu ac os felly, pwy ddylid eu cynnwys ar y gofrestr honno.

Os penderfynir y dylid datblygu cofrestr o'r gweithlu ar gyfer y sector gofal plant a gwaith chwarae, bydd cyfle i'r sector lunio'r manylion penodol, fel ffioedd a meini prawf cymhwysedd, drwy ymgynghoriad pellach ynghylch datblygu'r gofrestr.

Beth yw cofrestr o'r gweithlu?

Mae cofrestr o'r gweithlu yn darparu rhestr o unigolion sy'n gallu gweithio mewn sector penodol. Dim ond y gweithwyr hynny a restrir ar y gofrestr sy'n cael gweithio yn y proffesiwn hwnnw.

Mae meini prawf yn nodi pwy sy'n gymwys i ymuno â'r gofrestr er mwyn sicrhau mai dim ond rhai â'r profiad a'r sgiliau angenrheidiol sy'n rhan o'r proffesiwn sy'n cael eu cofrestru. Bydd y cofrestriad wedyn yn cael ei adnewyddu dros gyfnod penodol.

Gall cofrestr o'r gweithlu hefyd olrhain a hyrwyddo hyfforddiant a phrofiad y rhai sy'n gweithio mewn sector penodol. Gall fod yn lle i drefnu a chadw cymwysterau proffesiynol, manylion datblygiad proffesiynol, addysg a phrofiad cyflogaeth.

Gan amlaf, mae Cod Ymarfer Proffesiynol yn cefnogi cofrestrau gweithluoedd. Mae'r Cod yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan y bobl sydd wedi'u cynnwys ar y gofrestr.

Fel arfer, cefnogir Cod Ymarfer Proffesiynol gan broses Addasrwydd i Ymarfer. Defnyddir proses Addasrwydd i Ymarfer i sicrhau y gellir rhoi cefnogaeth briodol i unigolion wella pan nad ydynt yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer Proffesiynol, er enghraifft, unigolyn sy'n gorfod ymgymryd â dysgu/myfyrio perthnasol; neu yn yr achosion mwyaf difrifol, gellir eu tynnu oddi ar y gofrestr o'r gweithlu, a thrwy hynny eu hatal rhag gweithio yn y sector dan sylw.

Onid oes gennym ni gofrestr eisoes?

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cofrestru gwasanaethau (yn hytrach na gweithwyr unigol). Ei swyddogaeth yw cynnal archwiliadau a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i warchodwyr plant sy'n gweithredu fel unig fasnachwyr gofrestru gydag AGC. Mae lleoliadau'n cael eu cofrestru yn enw person cofrestredig / unigolyn cyfrifol. AGC yw'r corff rheoleiddio ar gyfer lleoliadau cofrestredig ac nid yw’n cyflawni'r un gwasanaethau â chorff sy'n gyfrifol am gofrestru gweithlu.

Ar hyn o bryd mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cofrestru lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae. Er bod yn rhaid i warchodwyr plant ac unigolion cofrestredig/unigolion cyfrifol gofrestru, y rheswm dros hynny yw oherwydd eu bod yn arwain eu lleoliadau. Nid yw AGC yn cofrestru gweithwyr unigol.

Mae'r gofyniad i leoliadau gofrestru wedi'i nodi mewn rheoliadau (cyfraith). Mae’r rheoliadau'n nodi'n glir pa leoliadau sy'n gorfod cofrestru gydag AGC. Nid oes rhaid i leoliadau sy'n gweithredu am lai na 2 awr y dydd neu lai na 6 diwrnod y flwyddyn gofrestru ag AGC. Gelwir y rhain yn lleoliadau heb eu cofrestru.  Gelwir y rhai sy'n gorfod cofrestru ag AGC yn lleoliadau cofrestredig.

Sut fyddai cofrestr o'r gweithlu yn fy helpu?  

Mae gan y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi datblygiad a lles plant yn ogystal â galluogi rhieni i weithio, a chreu cymunedau cefnogol. 

Mae cofrestr o'r gweithlu yn ei gwneud yn glir bod y gweithlu yn broffesiwn gyda meini prawf cymhwysedd, gofynion o ran sgiliau ac arbenigedd ynghlwm ag adnewyddu cofrestriad, a chod ymarfer proffesiynol. Mae hefyd yn galluogi'r rhai sy'n gweithio yn y sector i arbed darnau allweddol o wybodaeth (gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwybodaeth am gymwysterau, yr hyn a wnaed o ran Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac ati) yn ogystal â chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae cofrestr o'r gweithlu hefyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i'r cyhoedd ynghylch ansawdd y gweithlu. Yn y ffordd hon, gall roi ymdeimlad o werth i'r gweithlu a'r rhai sy'n defnyddio'i wasanaethau, gan geisio dyrchafu ei statws ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Gall cofrestr o'r gweithlu hefyd ddarparu data cywir a dibynadwy am y gweithlu a fyddai'n helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'i gyfansoddiad, ei ddatblygiad proffesiynol a'i anghenion o ran cyflogaeth. 

Sut fyddai cofrestr o'r gweithlu'n helpu'r sector?

Gwyddom fod gweithlu profiadol sydd wedi'i hyfforddi yn ffactor allweddol o ran gwella a chynnal ansawdd a byddai cofrestr o'r gweithlu'n darparu cydnabyddiaeth ffurfiol o'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad arbenigol sydd eu hangen i weithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae. Byddai cofrestr o'r gweithlu yn ei gwneud yn glir bod y gweithlu'n rhan o broffesiwn pwysig sy'n cael ei werthfawrogi, yn yr un modd ag athrawon a nyrsys.

Gall cofrestr o'r gweithlu hefyd roi lle i unigolion gadw eu holl wybodaeth sy’n gysylltiedig â’u gwaith (cadarnhâd o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, hyfforddiant gorfodol ac ati). Gallai hefyd gynnig cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gynnig dull siop un stop lle gellir cadw'r holl gofnodion cysylltiedig â gwaith ac â hyfforddiant a datblygiad. Gall hefyd helpu i ddarparu proffil o'u haddysg a'u hyfforddiant i'r gweithlu a chefnogi eu datblygiad yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r manteision a nodir uchod, bydd cofrestr o'r gweithlu yn rhoi sicrwydd i gyflogwyr bod y rhai sydd wedi'u cofrestru yn bodloni gofynion y gofrestr ac yn glynu wrth ei chod ymarfer.

Fel siop un stop, byddai cofrestrfa yn bwynt canolog i gofnodi dogfennau a gwiriadau fel cymwysterau, tystysgrifau hyfforddi, tystysgrifau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a geirdaon. Gall hyn alluogi cyflogwyr i wirio dogfennaeth allweddol a byddai hyn yn gwneud prosesau recriwtio yn llyfnach ac yn hwyluso symud rhwng lleoliadau.  

Sut fyddai cofrestr o'r gweithlu yn helpu rhieni, teuluoedd a'r cyhoedd?

Byddai cofrestr gweithlu yn rhoi sicrwydd a hyder i'r cyhoedd bod gan y gweithlu'r sgiliau, y wybodaeth a'r cymeriad i ofalu am blant yn ddiogel ac yn effeithiol.

Gall roi sicrwydd pellach fyth pan fydd rhywun nad yw'n cadw at y cod ymarfer ar gyfer y proffesiwn yn destun proses addasrwydd i ymarfer i sicrhau bod ganddo'r sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i ymarfer yn ddiogel. Wrth i gofrestr gweithlu wella gwelededd gweithlu proffesiynol, gall hefyd hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r gweithlu a'r rôl allweddol y mae'n ei chwarae wrth ddarparu'r dechrau gorau i blant - gall hyn yn ei dro helpu i sicrhau bod cefnogaeth i'r gweithlu'n cael ei datblygu'n briodol.

Sut fydd cofrestr o'r gweithlu yn effeithio ar fy ngwaith?

Ni fydd cofrestr o'r gweithlu yn effeithio ar sut rydych chi'n gweithio. Y cwbl y bydd yn ei wneud bydd ffurfioli eich rôl fel aelod o broffesiwn. Ni fydd yn newid yr hyn a wnewch o ddydd i ddydd, ond bydd yn ei gwneud yn glir i'r cyhoedd bod gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiwn penodol, gwerthfawr a phwysig.

Byddwch yn gallu cadw cofnodion defnyddiol i gyd mewn un lle ar y gofrestr – fel eich gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwybodaeth am gymwysterau, yn ogystal ag unrhyw waith Datblygiad Proffesiynol Parhaus rydych wedi'i wneud (o wrando ar bodlediad i fynd i seminar). Gallai cofrestr hefyd helpu i dynnu sylw at gyfleoedd neu adnoddau ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus a allai fod o ddiddordeb i chi. 

Cefnogir cofrestrau gan God Ymarfer sy'n amlinellu'r safonau a ddisgwylir gan y rhai sy'n gweithio yn y sector. Ni fyddai Cod yn cyflwyno unrhyw ddisgwyliadau neu safonau newydd ond byddai’n ffurfioli ymddygiad a safonau presennol mewn meysydd fel uniondeb, cefnogi lles a diogelwch pobl eraill a pharchu a hyrwyddo eu hawliau. Ni fydd ychwaith yn cymryd lle nac yn disodli polisïau sydd ar waith eisoes gan leoliadau unigol. Bydd lleoliadau'n parhau i gael eu polisïau eu hunain ynghylch eu staff.  Bwriad y Cod Ymarfer yw cefnogi ac bod yn gydnaws â'r rhain.

Bydd proses Addasrwydd i Ymarfer yn cefnogi unrhyw gofrestr ac yn sicrhau pe bai unrhyw gwynion yn cael eu codi yr ymdrinnir â nhw yn gyson ac yn drylwyr. Mae'r broses yno i gefnogi'r sector. Pan fo unigolion wedi torri'r Cod Ymarfer, gall canlyniadau hynny gynnwys dysgu pellach a myfyrio. Yr achosion mwyaf difrifol yn unig fyddai'n arwain at dynnu unigolyn oddi ar y gofrestr. 

Os bydd cofrestr o'r gweithlu yn cael ei sefydlu, pwy fydd yn gorfod ymuno â hi?

Nid oes unrhyw beth wedi cael ei benderfynu eto, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai cynigion ynghylch pwy ddylai ymuno â chofrestr gofal plant a gwaith chwarae.

Yn gyntaf, yn unol â'r dull presennol o reoleiddio a chofrestru yn y sector gofal plant a gwaith chwarae, ac i sicrhau bod y gofyniad i gofrestru yn gymesur, cynigir y byddai ymuno â chofrestr o'r gweithlu yn orfodol i'r unigolion hynny sy'n cael eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant sydd wedi’u cofrestru ag Arolygaeth Gofal Cymru.

Byddai hyn yn cynnwys unigolion sy'n gweithio yn y meysydd canlynol: gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, darpariaeth chwarae mynediad agored, gofal y tu allan i'r ysgol (gan gynnwys clybiau gwyliau cofrestredig) a lleoliadau crèche yn ogystal â lleoliadau gwarchod plant.

Byddai hyn yn golygu:

  • Ni fyddai angen i unigolion sy'n gweithio mewn lleoliadau nad ydynt wedi'u cofrestru ymuno â'r gofrestr.
  • Ni fyddai angen i unigolion sy'n gweithio mewn lleoliadau cofrestredig ond nad ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant (fel cogyddion neu lanhawyr) ymuno â'r gofrestr.
  • Ni fyddai angen i wirfoddolwyr mewn lleoliadau cofrestredig ymuno â'r gofrestr. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy'n bresennol mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae fel rhan o'u cymhwyster neu'r rhai sydd ar brofiad gwaith yn y lleoliad.
  • Ni fyddai angen i unigolion cofrestredig/unigolion cyfrifol sydd ddim yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ymuno â'r gofrestr.
  • Ni fyddai angen i Nanis ymuno â'r gofrestr.

Rwy'n gweithio mewn lleoliad nad yw wedi'i gofrestru, sut y bydd cofrestr o'r gweithlu yn effeithio arnaf?

Cynigir y byddai ymuno â'r cofrestr o'r gweithlu yn orfodol i'r unigolion hynny sy'n cael eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant sydd wedi'u cofrestru ag AGC yn unig. Ond byddem yn annog y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau anghofrestredig i ymateb i'r ymgynghoriad i roi eu barn ar hyn a chynigion eraill ynghylch cofrestr gweithlu. , bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgymryd â gwaith i adolygu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r amgylchiadau pryd na fyddai'n ofynnol i berson sy'n darparu gofal gofrestru (eithriadau). Ni wyddys eto pa newidiadau a allai ddeillio o'r gwaith hwn, ond mae'n ymarferol y gellid gwneud newidiadau sy'n cefnogi lleoliadau sydd heb eu cofrestru ar hyn o bryd.

Sut byddwn i'n ymuno â chofrestr o'r gweithlu?

Mae gan lawer o gofrestrau gweithlu feini prawf ar gyfer cofrestru. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys tystiolaeth o sgiliau a gwybodaeth a ddarperir (naill ai drwy gymwysterau neu brofiad yn y gweithle) a meini prawf penodol i'r gweithlu (fel gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ym maes gofal plant a gwaith chwarae, er enghraifft).

Os cyflwynir cofrestr o'r gweithlu ar gyfer gofal plant a gwaith chwarae, bydd unrhyw feini prawf yn cyd-fynd â gofynion presennol y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Ni fydd yn creu unrhyw ofynion newydd gan staff o ran cymwysterau.

Yn aml, mae angen adnewyddu cofrestriad bob ychydig flynyddoedd ac mae gan rai cofrestrau feini prawf ar gyfer adnewyddu sy'n canolbwyntio ar fod wedi cwblhau hyn a hyn o oriau dysgu proffesiynol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (gall hyn amrywio o wrando ar bodlediad i fynd i seminar).

A fydd cost?

Mae cofrestrau o'r gweithlu fel arfer yn codi ffioedd. Fel arfer telir ffi i ymuno â chofrestr o'r gweithlu i ddechrau ac yna bydd ffioedd pellach yn flynyddol ac wrth fynd ati i adnewyddu. Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar lefel y ffioedd a byddai hynny'n destun ymgynghoriad pellach gyda chi. Mae'r ffioedd am ymuno â chofrestr o'r gweithlu yn gyfraniad hanfodol tuag at ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar gorff cofrestru i'w chynnal .

Does dim penderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â pha ffioedd fyddai na sut y byddai ffioedd yn cael eu rheoli ond mae'n debygol y byddai'r ffi yn gysylltiedig â rôl swydd, gyda ffioedd rheolwyr yn uwch na ffioedd gweithwyr gofal plant neu waith chwarae.  Yn yr Alban, lle mae ganddynt gofrestr o’r gweithlu eisoes ar gyfer rheolwyr ac ymarferwyr mewn gwasanaethau gofal dydd i blant, mae ymarferwyr yn talu ffi gofrestru o £35, yna ffi flynyddol o £35 a ffi adnewyddu (bob 5 mlynedd) o £35.

A fydd cyflogau'n cynyddu yn dilyn cofrestriad proffesiynol?

Nid yw cofrestru yn gysylltiedig â chyflog. Mater i gyflogwyr unigol yw pennu cyfraddau cyflog.

Beth fyddai'r canlyniadau pe na bawn i'n ymuno â'r gofrestr o'r gweithlu?

Cynigir y byddai'r gofrestr o’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn orfodol i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau a gofrestrir gan AGC.  Byddai hynny'n golygu y byddai angen i bawb sy'n cael eu talu i weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn lleoliad wedi'i gofrestru gan AGC ymuno â'r gofrestr o'r gweithlu i gael gweithio yn y sector.

Byddai angen i gyflogwyr wirio bod y rhai maen nhw'n eu cyflogi ar y gofrestr o'r gweithlu. Byddai cyfnod o ras i'r rhai sy'n dechrau swyddi newydd neu sy'n newydd i'r sector, ond ar ôl y cyfnod hwn byddai rhaid cofrestru. Os nad yw unigolion wedi cofrestru erbyn hynny, ni fyddant yn gallu parhau i weithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig a bydd yn rhaid iddynt adael eu swyddi.