Mae'r adolygiad yn llwyio camau gweithredu a'r camau nesaf ar gyfer cofrestru'r gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar (CPEY) yn broffesiynol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd yr adolygiad dros dri cham ac roedd yn cynnwys ymchwil desg, cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru/gweinyddiaethau eraill lle mae cofrestrfa ar waith neu'n cael ei sefydlu a gweithdy ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Prif nod yr adolygiad oedd rhoi barn annibynnol i lywio camau gweithredu a chamau nesaf Llywodraeth Cymru i gofrestru’r gweithlu CPEY yn broffesiynol.
Mae tair thema allweddol i'r canfyddiadau:
- diffinio'r gweithlu a phwy ddylai gael eu cynnwys mewn cofrestrfa
- elfennau ymarferol cofrestrfa
- cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus
Mae'r adolygiad yn cynnig argymhellion a nodir mewn tri cham i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth fwrw ymlaen â chofrestriad proffesiynol y gweithlu CPEY yng Nghymru.
