Neidio i'r prif gynnwy

Darparu cyfleoedd i wella sgiliau ac i godi ymwybyddiaeth am ôl-osod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn paratoi ein gweithlu at y dyfodol drwy ddarparu sgiliau sy’n cyfrannu at Gymru wyrddach a glanach.

Ar ôl sefydlu Academi Sgiliau Gwyrdd yn 2021, mae’r coleg eisoes wedi hyfforddi 550 o bobl mewn sgiliau ymarferol fel gosod paneli solar, pympiau gwres, dŵr poeth thermol solar a mannau gwefru cerbydau trydan. A nawr mae wedi lansio cwrs Cyflwyniad i Ôl-osod i helpu i godi’r llen oddi ar ôl-osod ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Jemma Parsons yw Rheolwr Prosiect PLA y coleg. Ei gwaith hi yw ymateb i anghenion unigolion a chyflogwyr yn yr ardal a sicrhau bod y coleg yn cyfrannu at ddarparu amcanion y cynllun sgiliau rhanbarthol:

"Rydyn ni’n gweithio ag awdurdodau lleol, cwmnïau tai cymdeithasol, contractwyr preifat ac unigolion. Y neges bron gan bawb yw bod angen mwy o bobl sydd â dealltwriaeth sylfaenol o’r newidiadau sy’n digwydd. Oes, mae angen pobl sy’n gallu ôl-osod a gwneud gwelliannau ynni-effeithlon i adeiladau hŷn a gwaith adeiladu newydd, ond mae hefyd angen i bobl ddeall pam fod angen gwneud hyn cyn addysgu’r sgiliau ymarferol.

 "Mae gennym arbenigwr diwydiant sy’n addysgu’r cwrs Cyflwyniad i Ôl-osod a hefyd yn gofyn i gyflogwyr lleol a chenedlaethol gyfrannu eu profiad hwythau. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i helpu unrhyw un yn y maes adeiladu p’un ai’n syrfewyr, penseiri, trydanwyr, plymars, rheolwyr prosiect neu swyddogion tai sy’n goruchwylio gwaith ôl-osod. Bydd yn eu helpu i ddeall sut y mae’r safonau PAS newydd yn berthnasol iddynt. Mae’n helpu gyda’r newid diwylliant ehangach sydd ei angen."

Mae’r coleg hefyd yn cynnig Dyfarniad Lefel 2 mewn Ôl-osod Domestig a Dyfarniad Lefel 3 mewn Arbed Ynni mewn Adeiladau Traddodiadol a Hŷn addysg hanfodol o gofio bod cyfran fawr o dai yng Ngorllewin Cymru wedi eu codi cyn 1919. Mae ganddynt hefyd gynlluniau i ddarparu cymwysterau Ôl-osod ac Asesu Ynni.

Mae’r cyrsiau hyn i gyd ar gael fel rhan o raglen Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru sy’n sicrhau bod cyrsiau a chymwysterau hyblyg wedi eu hariannu’n llawn ar gael i bobl gael hyfforddi o gwmpas eu cyfrifoldebau presennol er mwyn symud ymlaen yn eu swydd bresennol neu newid gyrfa’n llwyr.

Ac i gefnogi ymdrechion Cymru i fod yn sero-net, mae’r cap cyflog cymhwyso wedi’i godi ar gyfer rhai sy’n uwchsgilio neu ailsgilio yn y sectorau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu diolch i fuddsoddiad ychwanegol o £2 miliwn mewn cyfrifon CDP gwyrdd gan Lywodraeth Cymru.

Enghraifft wych o sut y mae’r coleg wedi defnyddio cyllid CDP Llywodraeth Cymru yw ei hyfforddiant i gyflenwyr lleol mewn trwsio, adnewyddu a gwasanaethu systemau cerbydau trydan ac hybrid IMI.

"Mae’r gweithlu cerbydau wedi eu hyfforddi ar hyn o bryd mewn cynnal a thrwsio’r injan llosgi tanwydd draddodiadol. Yn 2021, defnyddiwyd cyllid CDP i uwchsgilio 270 o unigolion. Arweiniodd yr hyfforddiant at weld llawer o unigolion yn cael dyrchafiad a dod o hyd i waith mwy parhaol. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gyllid y Cyfrifon Dysgu Personol,” meddai Jemma.

"Ac am sbel hir, roedd pwyntiau gwefru ceir trydan yn cael eu gosod gan gwmnïau o’r tu allan i’r ardal. Rydym eisiau sicrhau y gallwn gael effaith ar y gadwyn gyflenwi hon a hyfforddi pobl leol i wneud gwaith lleol sydd, wrth gwrs, nid yn unig yn helpu’r ardal i ffynnu ond hefyd yn golygu teithio llai sy’n llawer gwyrddach."

Y peth nesaf ar yr agenda i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yw datblygu hyfforddiant i helpu’r boblogaeth i ddeall eu heiddo:

"Wrth i ni symud tuag at ffordd fwy gwyrdd o fyw, mae angen i fusnesau, perchnogion tai a thenantiaid, sy’n byw mewn tai preifat a chymdeithasol, ddeall yn well sut i ddefnyddio’r dechnoleg fodern a osodwyd yn eu heiddo’n gywir a mwy effeithiol. Bwriadwn ehangu ein hyfforddiant i gynulleidfa ehangach fel bod pawb yn gweithio tuag at sero-net. Mae’n iawn gosod technoleg ond mae’n bwysig ei defnyddio’n effeithiol i osgoi problemau yn y dyfodol."

Mae’r colegau’n amlwg yn gwneud cyfraniad sylweddol ond nid oedd sefydlu’r Academi Werdd heb ei sialensau:

"Y llynedd, cawsom drafferth ar adegau cael pobl i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant. I bobl fasnach a chyflogwyr fel ei gilydd, gall cymryd ‘amser’ allan o’r busnes fod yn anodd. Mae angen i ni rannu’r neges bod y cap cyflogau blaenorol ar gyfrifon CDP wedi’i godi ar gyrsiau, a gymeradwywyd o dan yr elfen CDP Gwyrdd, gan helpu Cymru i fod yn sero-net. Mae’n golygu y gall unigolion dderbyn hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn am ddim cost iddyn nhw.

"Ac nid yw pobl yn sylweddoli bod y math yma o hyfforddiant ar gael yn eu coleg lleol dros ardal eang ac yn cael ei ddarparu law yn llaw â’n partneriaid mewn diwydiant. Rydym yma a gallwn ni helpu.

"Rydym yn awyddus i weithio ag unig fasnachwyr oherwydd gallai’r cyllid hwn fod yn gatalydd i dyfu eu busnesau, drwy gydymffurfio â safonau PAS newydd a darparu’r hyn sydd ei eisiau ar gwsmeriaid. Drwy gymryd rhan nawr, bydd gan fusnesau’r sgiliau iawn i ddelio â’r galw gan eu cwsmeriaid yn y dyfodol."

Mae Ron Skinner & Sons, archfarchnad ceir ail-law fwyaf Cymru, wedi bod yn awyddus i ddefnyddio’r cymwysterau. Meddai Lee Farrer, eu Rheolwr Gweithredol:

"Mae nifer o’n technegwyr wedi cwblhau a phasio’r cymwysterau trwsio, adnewyddu a gwasanaethu systemau Cerbydau Trydan / Hybrid IMI. Mae’n wir bwysig bod gennym dechnegwyr hyfforddedig yn y maes yma o’r diwydiant cerbydau. Mae’n fanteisiol i’n busnesau a’n cwsmeriaid.

"Rydym hefyd wedi gallu cynnig cyflogaeth llawn-amser i unigolion wnaeth fynd ar y cyrsiau."

Yn y cyfamser, mae Tai Tarian, landlord cymdeithasol gyda 9000 eiddo ar draws Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, hefyd wedi gweithio’n agos â’r coleg. Fel yr eglura eu Rheolwr Dysgu a Datblygu Sefydliadol, Kelly Mordecai:

"Mae’n bleser llwyr partneru gyda Choleg Sir Gâr a gweithio ar-y-cyd ar ein agenda datgarboneiddio ac amgylcheddol allweddol. Bydd nid yn unig yn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn garbon-niwtral erbyn 2030, ond hefyd yn cefnogi ein cenhadaeth i gofleidio cynaliadwyedd fel rhan o’n cynllun corfforaethol ehangach.

"Mae Coleg Sir Gâr yn cefnogi Tai Tarian drwy ddarparu sgiliau hanfodol, ymwybyddiaeth a hyfforddiant achrededig i nifer fawr o’n gweithwyr, er mwyn ein cynorthwyo i wneud cynnydd da gyda’n rhaglen waith o arbed ynni ac ôl-osod domestig."