Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o aelodaeth y Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r comisiwn yn cynnwys aelodau o'r canlynol:

  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • gwyddorau bywyd
  • llywodraeth leol
  • addysg uwch
  • arbenigwyr annibynnol
  • Llywodraeth Cymru 

Rôl ein haelodau yw:

  • cefnogi'r defnydd o dechnolegau sy'n seiliedig ar AI i helpu staff i wneud penderfyniadau, galluogi gofal ataliol, a gwella gwasanaethau
  • manteisio ar ddealltwriaeth fanwl ac awdurdod sy'n dod o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, a'r sector cyhoeddus yn ehangach, ac ar arbenigedd ym meysydd gweithredu technegol, darparu gwasanaethau, a'r defnydd priodol o ddata
  • deall a chymryd camau ategol i gyflymu'r broses o fabwysiadu technolegau a alluogir gan AI, gan ystyried anghenion staff a chleifion
  • cydweithio i gefnogi'r gwaith o weithredu a defnyddio AI mewn modd diogel, cyfrifol a moesegol fel rhan o wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau ym maes iechyd a gofal