Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynghori ar ddefnydd diogel, cyfrifol a moesegol AI mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn uwch grŵp cynghori o arweinwyr. Mae ein haelodau'n dod o bob rhan o'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd.

Rydym yn rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â rheoleiddio a mabwysiadu AI diogel, cyfrifol a moesegol yng Nghymru. Rydym yn arwain y gwaith o ddatblygu ac adolygu dulliau o ymdrin ag AI yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r aelodau'n gweithio gyda'u sefydliadau a'u partneriaid eu hunain i fabwysiadu'r cyngor hwn.