Neidio i'r prif gynnwy

Y 3 blaenoriaeth graidd ac amcanion cysylltiedig y Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Blaenoriaeth 1: datblygu a deall cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau ac ymyriadau a alluogir gan AI

Mae angen i ni weithio gyda sefydliadau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall eu gofynion. Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio AI i ddatrys problemau go iawn a gwella gwasanaethau. Nod y comisiwn yw:

  • nodi'r rhwystrau i fabwysiadu AI moesegol
  • cymryd camau pendant i edrych ar sut i leihau neu ddileu'r rhwystrau hyn
  • blaenoriaethu meysydd a allai elwa o ddefnyddio offer AI yn y tymor byr a'r tymor canolig

Blaenoriaeth 2: mapio'r ecosystem bresennol

Y tu hwnt i ddefnyddio AI mewn rhai meysydd, mae angen deall a dangos tystiolaeth o ran sut y gall y system iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd ehangach gefnogi a galluogi'r gwaith o weithredu AI. Mae hynny’n cynnwys:

  • grwpiau diddordeb
  • datblygu sgiliau
  • galluoedd technegol a rheoleiddiol
  • cysylltiadau ag addysg uwch a grwpiau staff

Blaenoriaeth 3: galluogi AI diogel, cyfrifol a moesegol

Bydd y Comisiwn yn cydweithio ar draws y sector a chyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion y sector. Byddwn yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi'r defnydd diogel a moesegol  o AI er budd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.