Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
  2. Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:

  • Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
  • Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Cefnogir y Comisiwn gan Banel o Arbenigwyr, sy'n rhoi cyngor ar amrywiaeth o arbenigeddau:

  • Cadeirydd: Gareth Williams, cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
  • Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
  • Akash Paun, Pennaeth rhaglen ddatganoli Institute for Government
  • Dr Hugh Rawlings, cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Mairi Spowage, Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Sefydliad Fraser of Allander
  • Yr Athro Diana Stirbu, Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Met Llundain

Cynnydd

Daeth Adroddiad Interim y Comisiwn, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2022, i’r casgliad bod tri opsiwn hyfyw – pob un â’i gyfleoedd a’i heriau ei hun – ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru:

  • atgyfnerthu datganoli
  • strwythurau ffederal
  • annibyniaeth

Ar 3 Mawrth, cyhoeddodd y Comisiwn Fframwaith dadansoddi'r opsiynau cyfansoddiadol ar gyfer dadansoddi ac arfarnu’r tri opsiwn cyfansoddiadol.

Ers yr adroddiad cynnydd diwethaf, mae’r Comisiwn wedi cyfarfod i drafod y dystiolaeth ar bedwar achlysur, gan gynnwys dau weithdy.

Mewn cyfarfodydd i rannu tystiolaeth, mae’r Comisiwn wedi clywed oddi wrth:

  • Y Gwir Anrh. Gordon Brown
  • Yr Athro Jim Gallagher
  • Darren Millar AS, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig
  • Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Plismona yng Nghymru
  • Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
  • Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

Cymerwyd rhan mewn gweithdy ar oblygiadau cyfansoddiadol/deddfwriaethol a gwleidyddol y tri opsiwn cyfansoddiadol a nodwyd yn adroddiad y Comisiwn gan yr unigolion canlynol:

  • Yr Athro Erin F. Delaney, Prifysgol Northwestern, Chicago
  • Yr Athro Aileen McHarg, Prifysgol Durham
  • Stephen Noon, Prifysgol Caeredin
  • Yr Athro Rick Rawlings, Coleg y Brifysgol Llundain (UCL)
  • Yr Athro Meg Russell, Uned y Cyfansoddiad, Coleg y Brifysgol Llundain (UCL)
  • Paul Silk, Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad

Cymerwyd rhan mewn gweithdy ar oblygiadau cyllidol ac economaidd y tri opsiwn cyfansoddiadol a nodwyd yn yr Adroddiad Interim gan yr unigolion canlynol:

  • David Phillips, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Guto Ifan, Dadansoddi Cyllid Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro John Doyle, Prifysgol Dinas Dulyn

Cymerodd swyddogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban sydd â gwybodaeth arbenigol am berthnasedd gwaith y Comisiwn ran yn y gweithdai er mwyn darparu gwybodaeth ffeithiol.

Mae’r Comisiwn yn ystyried goblygiadau datganoli pellach mewn perthynas â: chyfiawnder a phlismona, trafnidiaeth, cyflogaeth, lles, ynni, a darlledu. Fel y nodwyd yn Adroddiad Interim y Comisiwn, nid ystyried y materion hyn o’r newydd yw’r amcan yn awr ond deall y sefyllfa ddiweddaraf ac ystyried sut y mae’r pynciau hyn yn cydweddu â dadansoddiad y Comisiwn o’r opsiynau cyfansoddiadol a nodir yn yr Adroddiad Interim.

Hyd yma, mae’r Comisiwn wedi derbyn tystiolaeth gan y canlynol:

  • ASLEF (cyflwyniad ysgrifenedig)
  • RMT (cyflwyniad ysgrifenedig)
  • Joe Allen, TUC Cymru
  • Mark Barry, Athro mewn Ymarfer Cysylltedd, Prifysgol Caerdydd
  • Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol (a swyddogion cynorthwyol)
  • Yr Arglwydd Peter Hendy, Cadeirydd Network Rail (cyflwyniad ysgrifenedig)
  • David Hughes, Cyfraith Gyhoeddus Cymru
  • Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (a swyddogion cynorthwyol)
  • Yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddyfodol Datganoli a Gwaith
  • Gethin Jones, PCS (Carchardai)
  • Su McConnel, Is-gadeirydd, Napo Cymru
  • Nisreen Mansour, TUC Cymru
  • Yr Arglwydd Neuberger
  • Sarah Rigby, Cymdeithas y Swyddogion Carchar
  • Nicky Ryan, Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (a swyddogion cynorthwyol)
  • Rhodri Williams CB
  • Dr Victoria Winkler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan
  • Liz Withers, Pennaeth Materion Cymreig, Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
  • Swyddogion o Adran Gyfiawnder Llywodraeth Cymru

Ymgysylltu

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymateb i ymgynghoriad ar-lein y Comisiwn 'Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru' oedd 28 Chwefror. Daeth dros 2,500 o ymatebion i law. Cafodd cynnwys adroddiad interim y Comisiwn ei lywio gan yr ymatebion a dderbyniwyd erbyn diwedd mis Hydref 2022. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei lywio gan y cyflwyniadau rhwng mis Hydref a diwedd yr arolwg.

Mae’r Comisiwn wedi sefydlu platfform digidol y Safle Sgwrsio (defnyddiadylais.cymru) er mwyn gallu parhau â’r sgwrs genedlaethol. Bydd sianeli cyfathrebu a digwyddiadau cyhoeddus y Comisiwn yn cyfeirio defnyddwyr i’r safle, lle y bydd cynnwys newydd (e.e. fideos, blogiau, arolygon barn a straeon) yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd gyda’r nod o annog pobl i sgwrsio am y materion perthnasol ar-lein.

Mae’r Comisiwn wrthi yn cynnal ymchwil ansoddol a meintiol i nodi barn dinasyddion ledled Cymru. Mae’n gweithio’n agos gyda grwpiau a sefydliadau i sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru yn cymryd rhan a bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Mae’r Comisiwn wedi cynnal paneli trafod yng nghynhadledd wanwyn pob un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.

Mae cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael ei chynllunio ar gyfer yr haf i sicrhau bod pob dinesydd yng Nghymru benbaladr yn cael cyfle i ymuno â’r sgwrs genedlaethol. Bydd y rhain yn cynnwys sioeau teithiol mynediad agored ac ymddangosiadau ‘mewn partneriaeth’ mewn digwyddiadau allweddol a gynhelir yng Nghymru.

Ym mis Mai, mae’r Comisiwn yn cyfarfod ag aelodau o Dŷ’r Arglwyddi a’r Tŷ Cyffredin mewn digwyddiad trawsbleidiol yn San Steffan, a bydd y Cyd-gadeiryddion yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig.

Adrodd

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.