Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio'n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau'n rhan annatod ohoni.
  2. Ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:

  • Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
  • Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, penodwyd Panel Arbenigol i roi cymorth i'r Comisiwn ar amrywiaeth o arbenigeddau, megis llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, economeg a chyllid, i'w helpu i wneud argymhellion gwybodus. Dyma aelodau'r panel:

  • Jess Blair - Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
  • Yr Athro Emyr Lewis – Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
  • Auriol Miller – Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
  • Akash Paun – Pennaeth rhaglen ddatganoli’r Institute for Government
  • Dr Hugh Rawlings – Cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Mairi Spowage – Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr y Fraser of Allander Institute
  • Yr Athro Diana Stirbu – Athro Polisi a Llywodraethiant ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain
  • Gareth Williams (Cadeirydd) – Cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar Bontio Ewropeaidd

Cynnydd

Mae'r Comisiwn wedi cyfarfod i glywed tystiolaeth ar saith achlysur.

Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, mae'r Comisiwn wedi clywed tystiolaeth yn ei gyfarfodydd gan y bobl a'r sefydliadau canlynol:

  • Yr Arglwydd Peter Hain, aelod o'r Grŵp Diwygio Cyfansoddiad, a chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Yr Athro Mererid Hopwood, Cadeirydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
  • Dafydd Iwan, ymgyrchydd iaith Gymraeg, cerddor, a chyn-Lywydd Plaid Cymru
  • Elin Jones AS, Llywydd, Senedd Cymru
  • Mabli Siriol Jones, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith
  • Syr Paul Silk, aelod o'r Grŵp Diwygio Cyfansoddiad, a chyn Gadeirydd Comisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru
  • Huw Thomas, Arweinydd, Cyngor Caerdydd
  • Mae Bywydau Du o Bwys Cymru
  • Democracy Box
  • Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Voices From Care Cymru
  • Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Academi Gofalwyr Ifanc

Mae gweithdy technegol diweddaraf y Comisiwn wedi ystyried sefyllfa ariannol Cymru.

Ymgysylltu

Ar 11 Gorffennaf, roedd y Comisiwn wedi derbyn bron i 1,600 o ymatebion wedi'u cwblhau i'w alwad am dystiolaeth, a lansiwyd ar 31 Mawrth: Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd y cyfraniadau hyn yn llywio cynnwys adroddiad interim y Comisiwn.

Ar 11 Gorffennaf lansiodd y Comisiwn Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned. Crëwyd y gronfa i sicrhau bod barn y cymunedau amrywiol yng Nghymru yn cael ei chydnabod, fel y gellir eu hadlewyrchu yn adroddiad interim y Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn darparu grantiau i sefydliadau cymwys o hyd at uchafswm o £5,000 fesul sefydliad trydydd sector neu grŵp cymunedol, a disgwylir i'r gweithgarwch ddigwydd ym mis Awst - Tachwedd 2022.

Adrodd

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad interim erbyn diwedd 2022, a'i adroddiad llawn, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.