Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
  2. Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:

  • Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
  • Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Cefnogir y Comisiwn gan Banel o Arbenigwyr, sy'n rhoi cyngor ar amrywiaeth o arbenigeddau:

  • Cadeirydd: Gareth Williams, cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
  • Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
  • Akash Paun, Pennaeth rhaglen ddatganoli Institute for Government
  • Dr Hugh Rawlings, cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Mairi Spowage, Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Sefydliad Fraser of Allander
  • Yr Athro Diana Stirbu, Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Met Llundain

Cynnydd

Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, mae’r Comisiwn wedi cynnal dwy sesiwn dystiolaeth a gweithdy ar ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol. Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth bellach gan Is-grŵp y Comisiwn ar Gyfiawnder.
Yn ystod y cyfarfodydd tystiolaeth, clywodd y Comisiwn gan:

  • Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru
  • Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Plismona yng Nghymru
  • Y Gwir Anrh TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
  • Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC
  • Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Y Cyng Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
  • Y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam

Clywodd yr Is-grŵp ar Gyfiawnder gan:

  • Jonathan Davies, Pennaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru
  • Mark Davies, Cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru
  • Joshua Hurst, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru
  • Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
  • David McNeill, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Cymdeithas y Cyfreithwyr

Dyma’r rhai a gyfrannodd at y gweithdy ar ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol:

  • Yr Athro Oliver Escobar, Prifysgol Caeredin
  • Auriol Miller, Y Sefydliad Materion Cymreig
  • Dr Christoph Niessen, Prifysgol Leiden
  • Yr Athro Diana Stirbu, Prifysgol Met Llundain
  • Dr Matt Wall, Prifysgol Abertawe
  • Swyddog Llywodraeth Cymru

Daeth tystiolaeth ysgrifenedig i law Is-grŵp y Comisiwn ar Gyflogaeth gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Make UK a’r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Ymgysylltu

Mae rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu’r Comisiwn ar gyfer dinasyddion wedi parhau gan gynnal cyfarfodydd yn y Fenni, Aberystwyth, Caernarfon, Caerdydd, y Drenewydd, Doc Penfro, Trehafod a Wrecsam.

Cysylltodd yr Ysgrifenyddiaeth ag aelodau CLlLC ar draws y 22 o awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth ynghylch uchelgeisiau’r Comisiwn o ran ymgysylltu, a gwahodd awdurdodau lleol i argymell cymunedau ar gyfer ymgysylltu â hwy. Mae sioe deithiol yr haf wedi dechrau gan ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â lleoliadau canolog yn Hwlffordd a Choed-duon. Bydd y sioe deithiol yn cael ei chynnal tan fis Medi. Mae comisiynwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli, cynhadledd flynyddol Sefydliad y Merched, cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) a sesiwn Holi ac Ateb ddigidol yn fyw ar Facebook.

Yn ystod digwyddiad trawsbleidiol yn San Steffan, cyfarfu’r Comisiwn ag aelodau Tŷ’r Arglwydd a Thŷ’r Cyffredin ac ymddangosodd y cyd-gadeiryddion gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig. Yn ystod digwyddiad galw heibio yn Y Cwrt, cyfarfu’r cyd-gadeiryddion ag Aelodau o’r Senedd o bob plaid gan drafod gwaith y Comisiwn a sut y gall Aelodau o’r Senedd annog etholwyr i ddweud eu dweud.

Ym mis Ebrill, lansiwyd Llwyfan Ymgysylltu’r Comisiwn defnyddiadylais.cymru ac mae wedi’i ddatblygu yn sgil adborth a gafwyd o’r gwaith ymgysylltu. Gofynnwyd am wybodaeth syml a chryno i egluro’n fwy cyffredinol y status quo, yr opsiynau a’r drefn lywodraethu yng Nghymru. Cyhoeddwyd arolwg newydd ar y wefan yn gofyn cwestiynau i ddinasyddion ynghylch y tri opsiwn. Ers ei lansio, mae dros 5200 o bobl wedi edrych ar y wefan Saesneg a 383 wedi ymateb i’r arolwg. Mae 503 o bobl wedi edrych ar y wefan Gymraeg a 4 wedi ymateb i’r arolwg.

Adrodd

Mae disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.