Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio'n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau'n rhan annatod ohoni.
  2. Ystyried a datblygu'r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:

  • Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
  • Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Mae Panel Arbenigol yn cael ei benodi i roi cymorth i'r Comisiwn ar amrywiaeth o arbenigeddau, gan gynnwys, llywodraethu, y gyfraith, cyfansoddiad, busnes, economeg a chyllid, i'w helpu i wneud argymhellion gwybodus.

Cynnydd

Cyfarfu'r Comisiwn am y tro cyntaf ar 25 Tachwedd 2021, a mae bellach wedi cyfarfod i glywed tystiolaeth bum gwaith.

Hyd yma, mae'r Comisiwn wedi clywed tystiolaeth gan y bobl a'r sefydliadau canlynol:

  • Yr Arglwydd Dunlop
  • Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Y Gwir Anrhydeddus Yr Athro Carwyn Jones
  • Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Paul Murphy
  • Neil O'Brien AS, Gweinidog Lefelu i Fyny, yr Undeb a'r Cyfansoddiad, Llywodraeth y DU
  • Angus Robertson, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant, Llywodraeth yr Alban
  • CBI Cymru 
  • Siambrau Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Ffederasiwn Busnesau Bach, Cymru
  • Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
  • Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru
  • Comisiwn Annibyniaeth, Plaid Cymru
  • Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cymru
  • Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae'r Comisiwn yn cynnal gweithdai technegol i ystyried rhai materion yn fanylach. Hyd yma, mae’r rhain wedi ymdrin a’r setliad datganoli presennol; datganoli cyllidol; ac ymgysylltu. Bydd gweithdai yn y dyfodol yn cynnwys archwiliad pellach o ddatganoli cyllidol.

Ymgysylltu

Ar 31 Mawrth, lansiodd y Comisiwn alwad am dystiolaeth - Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Hyd yma (ar 19 Ebrill 2022), mae'r Comisiwn wedi derbyn 607 o ymatebion wedi'u cwblhau. Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn llywio cynnwys adroddiad interim y Comisiwn.Cafodd y Cyd-gadeiryddion eu cyfweld ar gyfer The Times, BBC Politics Wales, Sunday Supplement Vaughan Roderick, a Wales Cast, gyda’r Comisiwn yn ymddangos ar draws deg stori ar y diwrnod. Cynyddodd nifer y dilynwyr ar sianel Twitter y Comisiwn 38% (o 346 o ddilynwyr i 477) gyda sgôr o 98% o fynegiant cadarnhaol. Trydariad mwyaf poblogaidd y Comisiwn oedd graffig yn nodi opsiynau i’w hystyried ar gyfer y dyfodol (1,422 o ymrwymiadau a thros 33,000 o argraffiadau). Cafodd tudalen we'r Comisiwn 541 o ymweliadau.

Mae'r Comisiwn yn datblygu strategaeth ymgysylltu ehangach gyda'r bwriad o ymgysylltu â thrawstoriad eang o gymdeithas yng Nghymru.

Adrodd

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad interim erbyn diwedd 2022, a'i adroddiad llawn, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.