Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Sefydlwyd Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
  2. Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:

  • Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
  • Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
  • Anwen Elias
  • Miguela Gonzalez
  • Michael Marmot
  • Lauren McEvatt
  • Albert Owen
  • Philip Rycroft
  • Shavanah Taj
  • Kirsty Williams
  • Leanne Wood

Cefnogir y Comisiwn gan Banel o Arbenigwyr sy'n rhoi cyngor ar amrywiaeth o arbenigeddau:

  • Cadeirydd: Gareth Williams, cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
  • Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
  • Akash Paun, Pennaeth rhaglen ddatganoli Institute for Government
  • Dr Hugh Rawlings, cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Mairi Spowage, Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Sefydliad Fraser of Allander
  • Yr Athro Diana Stirbu, Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Met Llundain

Cynnydd

Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, mae'r Comisiwn wedi cynnal tair sesiwn dystiolaeth, a chyfarfod bord gron ar ffederaliaeth. Cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth hefyd gan Isgrwpiau'r Comisiwn ar Ddarlledu ac Ynni.

Yn ystod y cyfarfodydd tystiolaeth, clywodd y Comisiwn dystiolaeth lafar gan:

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
  • Y Gwir Anrh Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru
  • Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr Yes Cymru
  • Yr Athro David Phinnemore, Prifysgol y Frenhines, Belfast
  • Dr Lisa Claire Whitten, Prifysgol y Frenhines, Belfast

Dyma'r rhai a gyfrannodd at y cyfarfod bord gron ar ffederaliaeth:

  • Yr Athro Erin Delaney, Athro Gwadd Nodedig yng Nghyfadran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Llundain
  • David Melding CBE
  • Yr Athro Nicola McEwen, Athro Polisi Cyhoeddus, Prifysgol Glasgow

Daeth tystiolaeth i law yr Is-grŵp ar Ddarlledu gan Gyd-gadeiryddion Panel Arbenigwyr Darlledu Llywodraeth Cymru, sef Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Ystyriodd yr Is-grŵp ar Ynni dystiolaeth ysgrifenedig gan y Sefydliad Materion Cymreig a gofynnwyd am dystiolaeth gan Ystad y Goron.

Ymgysylltu

Daeth rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu'r Comisiwn i glywed barn pobl i ben ar 1 Hydref.

Cyfarfu'r Comisiynwyr ag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn ogystal â chyfarfod â chynrychiolwyr o Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru) ddwywaith. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, trafodwyd gwaith y Comisiwn a sut y gallai Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru a CFfI Cymru annog eu rhwydweithiau i rannu eu barn gyda'r Comisiwn.

Cyfarfu'r comisiynwyr a chynrychiolwyr hefyd ag aelodau Theatr Ieuenctid yr Urdd i glywed eu barn nhw. Gweithiwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i ennyn diddordeb myfyrwyr a'r cyhoedd ehangach yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynhaliwyd sioe deithiol yr haf drwy gydol yr haf ac ym mis Medi er mwyn ymweld â chymunedau ledled Cymru.

(Cynhaliwyd digwyddiadau yn Aberdâr, Abertawe, Aberystwyth, Bangor, y Barri, Boduan, Butetown, Caerfyrddin, Caergybi, Casnewydd, Castell-nedd, Coed Duon, Conwy, Cwmbrân, y Drenewydd, y Fenni, Gabalfa, Glyn Ebwy, Hwlffordd, Llanfair-ym-Muallt, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Prestatyn, Wrecsam a'r Wyddgrug.)

Gyda'i gilydd, ymwelodd y sioe deithiol ymgysylltu â 25 o leoliadau ar draws y 22 o awdurdodau lleol, gan ymwneud â dros 3,500 o bobl. Gwnaeth dros 2,200 o bobl gwblhau arolwg byr. Rhannodd bron i 600 o bobl eu cyfeiriadau e-bost er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac yn sgil hynny, cawsant ddolenni i'r safle sgwrsio.

Ers ei lansio yn nhymor y gwanwyn 2023, mae dros 15,000 o ymweliadau wedi bod â'r safle sgwrsio, DefnyddiaDyLais. Cwblhaodd dros 1,000 o bobl yr arolwg ar-lein, gan rannu eu barn ar ddyfodol Cymru. Mae DefnyddiaDyLais yn cynnwys blogiau ac esboniadau byr ar ystod o faterion cyfansoddiadol a gwleidyddol. Byddant yn parhau i fod ar gael er mwyn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i ddinasyddion.

Mae ymatebion i'r arolwg yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a bydd safbwyntiau'r ymatebwyr yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol.

Adrodd

Mae'r Comisiwn yn disgwyl cwblhau ei waith erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023, yn unol â'r amcanion eang a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd adroddiad terfynol y Comisiwn, gan gynnwys argymhellion, yn cael ei gyhoeddi yn y Senedd ar 18 Ionawr 2024.