Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad terfynol y comisiwn sy'n manylu ar opsiynau i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Ionawr 2024

Crynodeb gweithredol

Cyflwyniad

Mae’r cwestiynau sy’n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn yn hanfodol i ddyfodol Cymru. P’un a yw pobl yn cefnogi’r Undeb, annibyniaeth, datganoli, neu unrhyw ffurf gyfansoddiadol arall, mae’n hanfodol trafod yr opsiynau’n agored ac yn adeiladol. Heb drafodaeth ar sail gwybodaeth bydd y ddadl boblogaidd yn dod yn fwy adweithiol ac wedi'i phegynu’n fwy byth.

Roedd dau amcan cyffredinol i’n cylch gwaith:

  1. ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni
     
  2. ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Rydym yn ddiolchgar am y cyfle hwn i gyfrannu at greu dadl aeddfed sy’n seiliedig ar wybodaeth, tystiolaeth gadarn a dadansoddiad arbenigol. Mae gan rai ohonom ar y comisiwn ymlyniad gwleidyddol ac eraill ddim. Rydym wedi dod ag amrywiaeth ein safbwyntiau ein hunain i’r gwaith ac rydym wedi ceisio cadw meddwl agored a dadansoddi’n ofalus y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni. Drwy ein hymchwiliad trawsbleidiol, mae Cymru wedi arloesi drwy gynnal dadl adeiladol ar sail tystiolaeth.

Barn dinasyddion

Ein tasg gyntaf oedd cynnal 'sgwrs genedlaethol’ gyda dinasyddion Cymru am sut maen nhw’n gweld dyfodol eu cenedl. Mae hon wedi bod yn dasg anodd, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni lle mae dinasyddion yn aml yn teimlo eu bod ymhell oddi wrth y rheini sy’n eu llywodraethu. Rydym wedi ceisio ymgysylltu â dinasyddion lle maen nhw, gan eu gwahodd i ddod atom ni hefyd. Rydym wedi ategu’r gwaith ymgysylltu hwn gyda data meintiol ac ansoddol ar safbwyntiau dinasyddion.

Roedd yr ymgysylltu a’r ymchwil hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar farn dinasyddion am lywodraeth a’u perthynas â’u cynrychiolwyr etholedig. Fe ddatgelodd eu dyheadau o ran sut caiff eu gwlad ei rhedeg nawr a sut gellid ei rhedeg yn y dyfodol, ac roedd yn tynnu sylw at ddiffygion democratiaeth yng Nghymru o safbwynt dinasyddion.

Mae pennod 2 yn disgrifio’r sgwrs genedlaethol ac mae pennod 3 yn ystyried iechyd democratiaeth yng Nghymru.

Un o’r negeseuon cryfaf oedd bod llawer o ddinasyddion yn teimlo nad oes ganddynt ddylanwad ar waith y llywodraeth. Er bod sefydliadau democrataidd Cymru yn aeddfedu, nid yw dinasyddion yn ymddiried yn llwyr mewn datganoli eto, ac rydym yn argymell camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn.

Rydym yn argymell tri mesur i gryfhau democratiaeth yng Nghymru:

Argymhellion i gryfhau democratiaeth yng Nghymru:

Arloesi democrataidd

1. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y Senedd.

Egwyddorion cyfansoddiadol

2. Gan ddefnyddio’r arbenigedd hwn, dylai Llywodraeth Cymru arwain prosiect i ymgysylltu dinasyddion â’r gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethu i Gymru.

Diwygio’r Senedd

3. Rydym yn argymell y dylid darparu adnoddau ar gyfer yr adolygiad arfaethedig o ddiwygio’r Senedd i sicrhau dadansoddiad cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o effaith y newidiadau, gan gynnwys o safbwynt y pleidleiswyr ac atebolrwydd democrataidd.

Diogelu datganoli

Mae penodau 4 a 5 yn ystyried cyflwr y berthynas rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU a’r pwysau ar ffiniau pwerau datganoledig.

Ers y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE, mae Senedd San Steffan a Llywodraeth y DU wedi diystyru’r confensiynau sydd i fod i ddiogelu datganoli droeon. Ni ellir cymryd y setliad presennol yn ganiataol ac mae mewn perygl o gael ei erydu’n raddol heb gamau i’w ddiogelu. Dylai ‘dim newid’ fod yn opsiwn i ddinasyddion, ond heb weithredu ar frys ni fydd setliad hyfyw i’w ddiogelu.

Mae ein hargymhellion i ddiogelu datganoli wedi’u nodi isod. Maent wedi cael eu dylunio i atgyfnerthu cysylltiadau rhynglywodraethol, rhoi pwys ar gonfensiwn Sewel, ac ymestyn y pwerau datganoledig i wella atebolrwydd a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Mae angen y newidiadau hyn ar frys i wneud datganoli yn opsiwn hyfyw i’r hirdymor.

Argymhellion i ddiogelu datganoli

Cysylltiadau rhynglywodraethol

4. Dylai Llywodraeth Cymru gynnig i lywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon y dylai Senedd San Steffan ddeddfu ar gyfer mecanweithiau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau dyletswydd o gydweithredu a pharch cydradd rhwng llywodraethau’r DU.

Confensiwn Sewel

5. Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth i Senedd San Steffan i nodi bod angen cydsyniad y sefydliadau datganoledig ar gyfer unrhyw newid i’r pwerau datganoledig, ac eithrio pan fydd angen hynny am resymau y cytunir arnynt rhyngddynt, fel: rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch gwladol, neu bolisi macroeconomaidd.

Rheolaeth ariannol

6. Dylai Llywodraeth y DU ddileu’r cyfyngiadau ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru, ac eithrio lle ceir goblygiadau macroeconomaidd.

Darlledu

7. Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli.

Ynni

8. Dylai llywodraethau Cymru a’r DU sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar frys ar sut y gellid diwygio’r setliad datganoli ac ymgysylltu rhynglywodraethol mewn perthynas ag ynni i baratoi ar gyfer arloesi technegol cyflym ym maes cynhyrchu a dosbarthu ynni, er mwyn sicrhau bod Cymru’n gallu gwneud y mwyaf o’i chyfraniad at sero net ac at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol. Dylai cylch gwaith y grŵp gynnwys cynghori ar yr opsiynau ar gyfer datganoli Ystad y Goron, a ddylai ddod yn gyfrifoldeb i lywodraeth ddatganoledig Cymru, fel y mae yn yr Alban.

Cyfiawnder a phlismona

9. Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder a phlismona yn ddeddfwriaethol ac yn weithredol i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, yn unol ag amserlen y bydd y naill lywodraeth a’r llall yn cytuno arni i ddatganoli pob rhan o’r system gyfiawnder, gan ddechrau gyda phlismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, gyda’r cyllid angenrheidiol wedi’i sicrhau, a darpariaeth ar gyfer cydlywodraethu lle bo angen ar gyfer gweithrediadau effeithiol.

Gwasanaethau rheilffyrdd

10. Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros wasanaethau rheilffyrdd a’r seilwaith rheilffyrdd i Gymru gyda chyllid teg a chydlywodraethu yng nghyswllt gwasanaethau trawsffiniol.

Y cyd-destun allanol

Ni ellir ystyried newid cyfansoddiadol yng Nghymru heb ystyried datblygiadau yng ngweddill y DU. Nid yw barn y cyhoedd yn bodoli mewn gwactod. Mae dinasyddion yn ymateb i’w hamgylchiadau, a phan fydd yr amgylchiadau hynny’n newid, felly hefyd eu hasesiad o’r hyn sydd orau i Gymru. Drwy gynllunio ymlaen llaw, bydd ein dinasyddion a’n gwleidyddion yn cael cyfle i ymgysylltu’n adeiladol â newidiadau allanol a’u heffaith bosibl ar Gymru.

Ym mhennod 6 rydym yn crynhoi safbwyntiau dinasyddion ar yr opsiynau cyfansoddiadol ac yn ystyried goblygiadau newidiadau yng nghyfansoddiad y DU, fel annibyniaeth yr Alban, ailuno Iwerddon, newid cyfansoddiadol radical yn San Steffan neu newid yn y berthynas rhwng y DU a’r UE.

Opsiynau ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol

Yn ein hadroddiad interim a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaethom nodi tri opsiwn hyfyw ar gyfer y dyfodol:

  1. mwy o ddatganoli*
  2. strwythur ffederal
  3. Chymru annibynnol.

* Roedd yr adroddiad interim yn galw’r opsiwn hwn yn ‘ddatganoli wedi'i wreiddio’, ond drwy ein sgyrsiau gyda dinasyddion fe wnaethom ddysgu nad oedd y term hwn yn golygu rhyw lawer iddynt. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn galw’r opsiwn hwn yn fwy o ddatganoli, er mwyn cyfleu ein hystyr yn gliriach.

Ym mhennod 7 rydym yn nodi’r diffiniadau o’r opsiynau a’n hasesiad o bob un yn erbyn y meini prawf yn ein fframwaith dadansoddi. Fe wnaethom ddefnyddio’r fframwaith yn gyfartal gyda phob opsiwn a hynny mewn ffordd niwtral a gwrthrychol.

Ein casgliad yw bod pob opsiwn yn hyfyw. Mae i bob un ei gryfderau a’i wendidau, ei risgiau a’i gyfleoedd. Nid ydym yn argymell pa un sydd orau i Gymru, oherwydd mae dewis rhwng yr opsiynau yn dibynnu ar y canlynol:

  1. y pwysoliad cymharol a roddir i bob un o’r meini prawf
  2. lefel y risg a’r ansicrwydd y mae pobl yn barod i’w derbyn wrth geisio gwireddu’r cyfleoedd mae pob opsiwn yn eu cynnig.

Nid yw hwn yn benderfyniad y gall y Comisiwn ei wneud. Mae dewis rhwng y meini prawf a gwerthuso’r risg yn ddewis i bleidiau gwleidyddol a dinasyddion unigol.

Ein dyhead yw y dylid cael dadl adeiladol sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i Gymru, ar sail y dystiolaeth a’r dadansoddiad gorau sydd ar gael, er mwyn i bobl Cymru allu gwneud dewis gwybodus ac ystyriol.

Rhagair gan y Cydgadeiryddion

Rydym yn falch o gyflwyno adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae hi wir wedi bod yn fraint i’r ddau ohonom arwain yr ymchwiliad hwn a gwneud cyfraniad pwysig, gobeithio, at y ddadl am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae trafodaethau’r comisiynwyr wedi mynd i’r afael â chwestiynau hollbwysig am y ffordd mae Cymru’n cael ei llywodraethu, am iechyd ein democratiaeth a sut mae ymgysylltu â dinasyddion o bob cwr o’n gwlad. O’r cychwyn cyntaf roedd pobl Cymru wrth galon ein gwaith: mae’n hanfodol bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn arwain y ddadl hon, er mwyn gallu teimlo yn y dyfodol eu bod wir yn rhan o’r gwaith o wneud penderfyniadau yn ein cenedl ac yn gallu dylanwadu ar y gwaith hwnnw.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi Cymru ar y droed flaen ar adeg ansicr i wleidyddiaeth. Mae ein comisiwn yn arbennig gan ei fod yn fenter drawsbleidiol sy’n cynrychioli lleisiau’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd, ynghyd ag arbenigeddau a phrofiadau y rheini sydd heb ymlyniad i unrhyw blaid. Nid oedd yr un ohonom yn mynd i’r afael â’r gwaith hwn gydag unrhyw agenda, ein hunig nod oedd trin a thrafod pa sefydliadau ac arferion fydd y gorau i bobl Cymru. Drwy ein trafodaethau a’n casgliadau unfrydol, mae Cymru wedi arloesi drwy gynnal dadl resymegol a chynhwysol ar sail data a thystiolaeth.

Fe wnaethom ddechrau ar ein gwaith drwy gychwyn sgwrs â phobl Cymru. Fe wnaethom ddefnyddio nifer o sianeli ymgysylltu i wneud hyn ac fe aeth y gwaith hwn ymlaen am dros ddeuddeg mis. Roedd dinasyddion yn awyddus i ymgysylltu ac roedd y cyfle wedi’u galluogi i wneud cyfraniadau meddylgar, pwyllog a chraff. Rydym yn credu bod canlyniadau’r dull hwn wedi dangos y math o ymgysylltu sydd ei angen i adfywio democratiaeth yng Nghymru, a’r awydd am drafodaeth wleidyddol ddifrifol ac adeiladol ymysg pobl Cymru.

Yn ein hadroddiad, rydym yn mynd i’r afael â 4 mater allweddol:

Yn gyntaf, rydym yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu democratiaeth. Nid yw’r rhain yn unigryw i Gymru o bell ffordd ac maent i’w gweld mewn gwledydd ym 4 ban byd sydd ag amrywiaeth eang o gyfansoddiadau. Maent yn mynd y tu hwnt i strwythurau a systemau etholiadol. Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu drwy wrando ar brofiadau rhyngwladol ar sut mae goresgyn heriau o’r fath. Rydym yn credu bod gan Gymru’r potensial i greu diwylliant sy’n fwy cadarn yn ddemocrataidd, i fod yn ddemocratiaeth eang, drwy fecanweithiau ymgysylltu arloesol sy’n cyfoethogi gwaith cynrychiolwyr etholedig. Mae hyn yn gwbl hanfodol os ydym am oresgyn yr ymddieithriad a’r sinigiaeth sy’n peryglu ein democratiaeth.

Yn ail, rydym yn ystyried cyflwr cysylltiadau rhynglywodraethol a ffiniau setliad datganoli Cymru. Nid yw Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi cydweithredu yn y ffordd mae dinasyddion yn ei disgwyl ac sy’n hanfodol i lwyddiant yr Undeb. Rydym yn galw am gamau brys i gryfhau pileri cyfreithiol a gweithdrefnol y berthynas rhwng y llywodraethau.

Yn drydydd, rydym yn nodi meysydd lle mae pwerau datganoledig newydd yn hanfodol i ddiogelu’r setliad presennol, a meysydd eraill lle dylid ac y gellid cryfhau llais Cymru drwy fecanweithiau cydlywodraethu. Mae’r rhain yn newidiadau sydd eu hangen ar frys i roi’r setliad ar sylfaen sefydlog a chadarn.

Yn bedwerydd, rydym yn cyflwyno ein dadansoddiad manwl o dri opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru:

  • atgyfnerthu datganoli
  • Cymru mewn DU ffederal
  • Cymru annibynnol.

Rydym yn ddiolchgar i aelodau ein Panel Arbenigol. Roedd eu gwaith ar y dadansoddiad hwn yn amhrisiadwy. Rydym yn dod i’r casgliad bod y dadansoddiad yn dangos bod y tri opsiwn yn hyfyw. Mae i bob un ei gryfderau, ei wendidau, ei risgiau a'i gyfleoedd. Nid dewis yr opsiwn gorau i Gymru oedd ein tasg ni; yn hytrach, ein bwriad yw taflu goleuni ar y dewisiadau i bobl Cymru yn y dyfodol.

Rydym yn gomisiwn amrywiol ac annibynnol, ac mae pob un ohonom wedi cyfrannu o’n profiadau a’n harbenigeddau ein hunain. Rydym wedi ceisio bod mor ddiduedd â phosibl yn ein dadansoddiad a’n casgliadau.

Gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel yn y DU, ac etholiad Senedd Cymru yn 2026, rydym  yn obeithiol y bydd y pleidiau gwleidyddol yn ymateb yn ddi-oed i’n dadansoddiad a’n casgliadau, yn yr un ysbryd o ddadl agored ac adeiladol sydd wedi arwain ein gwaith. Yn hollbwysig, rydym yn gobeithio y bydd pobl Cymru yn defnyddio canfyddiadau ein hadroddiad i godi eu lleisiau ac i helpu i gyfeirio sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Yr Athro Laura McAllister a’r Gwir Anrh. Dr Rowan Williams

Pennod 1: cyflwyniad

Crynodeb

Mae’r bennod hon yn egluro sut aethom ati i gynnal ein hymchwiliad ac yn esbonio strwythur yr adroddiad.

Roedd dau amcan cyffredinol i’n cylch gwaith:

Amcanion y comisiwn

  1. ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni
  2. ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae ein hymchwiliad yn dangos bod angen rhoi sylw i ddemocratiaeth yng Nghymru ar frys – fel yn y rhan fwyaf o’r byd cyfoes. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn deall sut mae eu gwlad yn cael ei llywodraethu na phwy sy’n gyfrifol am beth. Mae llawer yn teimlo nad yw’r system yn gwrando ar eu pryderon ac nad ydynt yn meddu ar yr wybodaeth na’r ddealltwriaeth i drafod opsiynau cyfansoddiadol gwahanol. Ceir canfyddiad o ddiffyg grym a phellter rhwng llywodraeth a dinasyddion, ynghyd â chanfyddiad o brinder strwythurau cyfranogol sy’n rhoi’r amser a’r gofod ar gyfer trafodaeth a chraffu cyhoeddus go iawn. Mae llawer o’r farn bod democratiaeth yn dechrau ac yn gorffen gyda’r blwch pleidleisio ac nid ydynt yn gwybod llawer am y ffordd mae sefydliadau cynrychioliadol yn gweithio.

Mae’n bwysig i gefnogwyr yr Undeb, i gefnogwyr annibyniaeth, ac i gefnogwyr unrhyw ddyfodol cyfansoddiadol arall bod eu cynigion yn cael eu trafod a’u craffu mewn ffordd agored ac adeiladol. Heb drafodaeth ar sail gwybodaeth bydd y ddadl boblogaidd yn dod yn fwy adweithiol ac wedi’i phegynu’n fwy byth. I lawer o bobl, mae ein hymchwil yn dangos nad yw galwadau i newid system llywodraeth ddatganoledig yn deillio gymaint o wrthwynebiad systematig i ddatganoli, ond yn hytrach o anfodlonrwydd ynghylch sut yr ystyrir bod y setliad yn gweithio. Mae’n bosibl bod hyn yn deillio o ddiffyg dealltwriaeth o’r broses ddemocrataidd ar gyfer cychwyn, trafod a gweithredu newid, neu ddiffyg hyder yn y system honno.

Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwiliad a’r hyn a fydd yn deillio ohono yn symud y ddadl yn ei blaen, ac yn helpu pobl i ddeall y cyfaddawdu sy’n gysylltiedig â llywodraethu democrataidd drwy:

  • ddarparu rhagor o wybodaeth am sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, er mwyn i bobl allu ymgysylltu
  • cynnig model o gyfranogiad democrataidd drwy ymgysylltu mewn materion cymhleth drwy sianeli gwahanol
  • dechrau dadl wahanol, gan gydnabod bod yr holl opsiynau ar gyfer llywodraethiant yn y dyfodol, gan gynnwys ‘dim newid’, yn cynnig cyfleoedd, risgiau a chostau
  • symud oddi wrth sloganau i ganolbwyntio ar y dyfodol gorau i Gymru.

Agwedd adeiladol

Wrth asesu’r opsiynau cyfansoddiadol, rydym wedi defnyddio union yr un meini prawf ar gyfer pob model posibl, gan gynnwys y setliad datganoli presennol. Rydym wedi edrych ar bethau’n eang ac rydym yn credu y bydd hynny’n hirhoedlog.

Mae ein hymchwiliad yn dangos ei bod yn bosibl edrych yn wrthrychol ac yn ddidwyll ar yr opsiynau ar gyfer llywodraethu yn y dyfodol, gan osgoi’r rhaniadau sydd wedi nodweddu’r ddadl mewn gwledydd eraill. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull gweithredu adeiladol yn parhau wrth i’r drafodaeth ar ganfyddiadau’r adroddiad hwn gael ei chynnal ym mywyd cyhoeddus Cymru a’r DU.

Adroddiad interim

Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad interim ar ein blwyddyn gyntaf o waith ym mis Rhagfyr 2022. Nid yw’r adroddiad hwn yn ailadrodd y deunydd hwnnw.

Yn yr adroddiad hwnnw, fe wnaethom egluro sut roeddem wedi ymgysylltu a phobl Cymru. Ar sail y dystiolaeth a gawsom fe wnaethom hefyd ddadansoddi’r pwysau sydd ar lywodraethu yng Nghymru ar hyn o bryd. Fe wnaethom gynnwys hanes datganoli yng Nghymru ac egluro ei brif nodweddion, gan gynnwys y trefniadau ariannol, yn ogystal a chyfres o bapurau ar agweddau allweddol ar y setliad. Fe wnaethom ystyried hyfywedd, manteision a risgiau’r setliad datganoli presennol, gan asesu a oedd problem yr oedd angen diwygio cyfansoddiadol i’w datrys. Daethom i’r casgliad bod problem: nid yw parhau fel yr ydym yn opsiwn hyfyw oherwydd bod pwerau’r sefydliadau datganoledig yn ansefydlog, ac yn agored i gael eu newid heb ganiatad pobl Cymru.

Opsiynau cyfansoddiadol

Yn yr adroddiad interim fe wnaethom nodi tri opsiwn ar gyfer y dyfodol:

  1. Atgyfnerthu datganoli
  2. Cymru mewn DU ffederal
  3. Cymru annibynnol

Beth wnaethom ni

Drwy ein hymchwiliad, aethom ati i wneud tri pheth:

  • ymgysylltu a phobl Cymru am y ffordd caiff eu gwlad ei llywodraethu a’r opsiynau i’r dyfodol (pennod 2)
  • ystyried sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru a gweithrediad y setliad presennol (penodau 3, 4 a 5)
  • llunio asesiad mor wrthrychol a phosibl o’r opsiynau cyfansoddiadol, er mwyn galluogi dadl ar sail gwybodaeth sy’n galluogi pobl Cymru i benderfynu ar eu dyfodol (penodau 6 a 7).

O’r cychwyn cyntaf rydym eisiau egluro ein bod o’r farn bod yr holl opsiynau cyfansoddiadol yn hyfyw. Mae i bob un ei gryfderau, ei wendidau, ei risgiau a'i gyfleoedd. Mae’r dewis rhyngddynt yn dibynnu ar y gwerth sy’n gysylltiedig a’r rhain, a’r cyfaddawdu y mae pobl yn dymuno ei wneud rhwng y canlyniadau hynny. Yn y pen draw, dewisiadau i bobl Cymru a’u cynrychiolwyr gwleidyddol yw’r rhain.

Barn dinasyddion

Dinasyddion Cymru oedd ein ffocws cyntaf, a sut gellir gwella eu bywydau drwy lywodraethu mwy cydlynol a chynaliadwy. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn defnyddio’r term ‘dinasyddion’ mewn ystyr eang, i olygu pawb sy’n byw yn ein cymuned yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rheini nad ydynt yn bodloni’r diffiniadau cyfreithiol caeth o ddinasyddiaeth, ond sydd serch hynny’n rhan o bresennol ac o ddyfodol Cymru.

Mae barn dinasyddion wedi bod yn gwbl ganolog i’n gwaith o’r cychwyn cyntaf. Mae hi wedi bod yn galonogol gweld bod pobl yn awyddus i gyfrannu at y ddadl, pan gaiff ei chyflwyno mewn ffyrdd ymarferol sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae’r iaith mae dinasyddion yn ei defnyddio i drafod llywodraethu yn wahanol i iaith pobl sy’n gweithio ym maes gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus. Maent yn fwy tebygol o fynegi eu dyheadau drwy eu profiad o wasanaethau cyhoeddus, ond nid yw hyn yn golygu nad oes ganddynt ddiddordeb yn y ffordd caiff Cymru ei llywodraethu. Mae pobl yn poeni’n arw am sut mae eu gwlad yn cael ei rhedeg ac maent am iddi weithio’n effeithlon er eu lles nhw.

Tystiolaeth a dadansoddiad

Rydym wedi elwa o waith hynod werthfawr ein Panel Arbenigol (atodiad 8). Rydym wedi siarad ag aelodau etholedig, ac arbenigwyr rhyngwladol ac o’r DU mewn llywodraethiant a systemau cyfansoddiadol.

Fe wnaethom gasglu tystiolaeth drwy dri phrif ddull, fel a ganlyn:

  • barn dinasyddion, a gasglwyd drwy ddau holiadur ar-lein, ymchwil feintiol ac ansoddol, gan gynnwys paneli dinasyddion ar hyd a lled Cymru, ymgysylltu ar-lein, grwpiau’r Gronfa Ymgysylltu a’r Gymuned a gweithgareddau ymgysylltu a’r cyhoedd. Mae pennod 2 ac atodiad 7 yn rhoi rhagor o fanylion am ein gweithgareddau ymgysylltu.
  • tystiolaeth ysgrifenedig a thrafodaethau a’r rheini sydd a phrofiad o lywodraethu yng Nghymru, gan gynnwys cynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol, swyddogion, y trydydd sector a grwpiau busnes. Mae rhestr lawn wedi’i hatodi yn atodiadau 5 a 6
  • cyngor gan academyddion ac ymarferwyr, drwy seminarau arbenigol ar bynciau allweddol, mae eu manylion yn atodiadau 4 a 5

Mae tystiolaeth o’r holl ffynonellau hyn wedi cyfrannu at ein canfyddiadau a’n casgliadau.

Er mwyn inni allu asesu’r achos dros bob opsiwn cyfansoddiadol, fe wnaethom ofyn i’r Panel Arbenigol ddylunio fframwaith dadansoddi, ar sail y gwerthoedd roeddem wedi’u nodi yn ein hadroddiad interim a meini prawf cyflawni ymarferol. Fe wnaethom gyhoeddi’r fframwaith hwn ar gyfer sylwadau ym mis Mawrth eleni a’r fersiwn derfynol ym mis Mai er mwyn i’n meini prawf fod yn dryloyw a bod modd eu herio. Mae’r fframwaith ar gael yma.

Argymhellion

Rydym yn crynhoi ein casgliadau a’n hargymhellion ym mhennod 8. Mae’r rhain yn adlewyrchu ein gwerthusiad o’r corff llawn o dystiolaeth a gawsom. Maent mor gadarn ag y gallwn eu gwneud ac yn adlewyrchu’r gwaith pwyso a mesur a thrafod gofalus a wnaethom.

Rydym yn gwneud deg argymhelliad, ac mae tri ohonynt yn ymwneud a chryfhau democratiaeth yng Nghymru. Bwriad y saith arall yw diogelu’r setliad datganoli rhag yr ansefydlogrwydd a’r gwendidau a nodwyd yn ein hadroddiad interim.

Strwythur yr adroddiad

Pennod 1 yw cyflwyniad yr adroddiad.

Pennod 2: mae’n disgrifio sut roeddem wedi cynnal sgwrs genedlaethol a phobl Cymru, drwy ddefnyddio llawer o ddulliau ymgysylltu ac ymchwil ansoddol a meintiol.

Pennod 3: mae’n ystyried ffyrdd o gryfhau democratiaeth yng Nghymru, a hynny mewn cyd-destun byd-eang lle mae llai a llai yn ymgysylltu’n wleidyddol ac mae safbwyntiau gwleidyddol wedi’u pegynu.

Pennod 4: mae’n adolygu sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio ac mae’n dadlau dros newidiadau hanfodol i ddiogelu’r setliad datganoli a gwella’r ffordd mae’n cael ei weithredu.

Pennod 5: mae’n ystyried ffiniau setliad datganoli Cymru a’u goblygiadau o ran llywodraethiant da a diwygio cyfansoddiadol.

Pennod 6: mae’n edrych ar safbwyntiau dinasyddion am yr opsiynau cyfansoddiadol ac yn ystyried effaith newidiadau posibl i strwythur y DU ar yr opsiynau cyfansoddiadol ac ar ganfyddiad dinasyddion ohonynt.

Pennod 7: mae’n ystyried yr opsiynau cyfansoddiadol hirdymor sydd ar gael i Gymru ac mae’n cyflwyno ein hasesiad o’u cryfderau a’u gwendidau.

Pennod 8: mae’n nodi ein casgliadau a’n hargymhellion.

Casgliad

Rydym wedi ceisio ymgysylltu a phob safbwynt, ar draws y sbectrwm o opsiynau cyfansoddiadol. Rydym wedi clywed gan ddinasyddion, gan gynnwys cefnogwyr pob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd a’r rheini nad ydynt yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol. Rydym wedi clywed gan arbenigwyr o brifysgolion a bywyd cyhoeddus, o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Rydym wedi dod ag amrywiaeth eang ein safbwyntiau ein hunain at y gwaith ond rydym wedi ceisio cadw meddwl agored a dadansoddi’n ofalus y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni.

Ymgysylltu gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Roedd y Comisiwn wedi gwahodd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy i ymuno â digwyddiad trafod yn ystod taith i Gaerdydd i ymweld â’r Senedd. Roedd aelodau’r cyngor ieuenctid wedi bod yn edrych ar waith y Comisiwn yn eu sesiynau rheolaidd ac roeddent wedi dilyn lansiad yr adroddiad interim. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i gwrdd â’r Comisiynwyr Leanne Wood ac Albert Owen wyneb yn wyneb, trafod eu barn a’u syniadau a gofyn digon o gwestiynau iddyn nhw!

Roedden nhw’n teimlo’n gryf iawn y dylai’r Cwricwlwm i blant ifanc gynnwys gwleidyddiaeth a “Sut mae Cymru’n gweithio”. Roedd ar y cyfranogwyr eisiau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth o tua 11 oed ymlaen ac roedd arnynt eisiau gallu pleidleisio ar faterion lleol yn gynharach o lawer na’r oed pleidleisio ar hyn o bryd sef 16/18.

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Roedd y Comisiwn wedi gwahodd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy i ymuno â digwyddiad trafod yn ystod taith i Gaerdydd i ymweld â’r Senedd. Roedd aelodau’r cyngor ieuenctid wedi bod yn edrych ar waith y Comisiwn yn eu sesiynau rheolaidd ac roeddent wedi dilyn lansiad yr adroddiad interim. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i gwrdd â’r Comisiynwyr Leanne Wood ac Albert Owen wyneb yn wyneb, trafod eu barn a’u syniadau a gofyn digon o gwestiynau iddyn nhw!

Y brif neges gan Aelodau’r Fforwm Ieuenctid

Roedden nhw’n teimlo’n gryf iawn y dylai’r Cwricwlwm i blant ifanc gynnwys gwleidyddiaeth a “Sut mae Cymru’n gweithio”. Roedd ar y cyfranogwyr eisiau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth o tua 11 oed ymlaen ac roedd arnynt eisiau gallu pleidleisio ar faterion lleol yn gynharach o lawer na’r oed pleidleisio ar hyn o bryd sef 16/18.

Pennod 2: sgwrs genedlaethol

Cyflwyniad

Un o’n tasgau pwysicaf oedd cynnal 'sgwrs genedlaethol’ gyda dinasyddion Cymru am sut maen nhw’n gweld dyfodol eu cenedl.

Roedd hwn yn ymarfer uchelgeisiol, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni lle mae llawer o ddinasyddion yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth eu cynrychiolwyr etholedig, ynghyd â chyfyngiadau’r pandemig ar ddechrau ein hymchwiliad. Fe wnaethom ddefnyddio nifer o ddulliau gwahanol i ymgysylltu â dinasyddion lle maen nhw, gan fynd atyn nhw yn ogystal â’u gwahodd i ddod atom ni.

Fe wnaethom ddarparu platfform i siarad â ni drwy nifer o gyfryngau gwahanol. Fe wnaethom fynd at y rheini na fyddent fel arfer yn dewis ymgysylltu’n rhagweithiol â Chomisiwn fel hwn: fe aethom i ganolfannau siopa, i ddiwrnodau hwyl i’r teulu ac i wyliau bwyd, fe aethom i’r stryd fawr ac i ganolfannau cymunedol. Fe wnaethom gysylltu â’r rheini sy’n wynebu rhwystrau strwythurol sy’n atal eu lleisiau rhag cael eu clywed. Fe wnaethom sefydlu paneli dinasyddion i glywed safbwyntiau o bob cwr o Gymru, gan y rheini sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol ac yn arddel safbwyntiau cryf, a chan y rheini nad ydynt wedi ffurfio barn ar faterion cyfansoddiadol cyn hyn. Rydym wedi cefnogi ymchwil meintiol newydd i farn pobl ar sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu a’u dyheadau i’r dyfodol.

Gyda’i gilydd, mae hyn wedi datgelu sut mae dinasyddion yn gweld llywodraeth a’u perthynas â llywodraeth. Mae wedi dangos beth yw barn pobl Cymru, a’r DU drwyddi draw, am yr Undeb a lle Cymru ynddo. Yn bwysicaf oll, mae wedi dangos eu dyheadau ar gyfer dyfodol eu cenedl.

Rhoi llinell uniongyrchol i bobl at y Comisiwn

O gamau cyntaf gwaith y Comisiwn, gwnaethom gadw llinell agored i ddinasyddion allu dweud eu barn a beth sy’n bwysig iddyn nhw.

Ym mis Mawrth 2022 fe wnaethom agor Dweud eich Dweud: Have your Say, arolwg ar y we a oedd yn gofyn cwestiynau agored am yr hyn sy’n bwysig i ddinasyddion, beth maen nhw’n ei ystyried yw cryfderau a gwendidau’r system bresennol a sut maen nhw’n teimlo am wahanol fodelau llywodraethu. Roedd hyn yn cynnwys manylion cyswllt i anfon ymatebion testun rhydd drwy e-bost neu drwy’r post, os oedd pobl eisiau dweud rhywbeth nad oedd yn cyd-fynd â strwythur yr arolwg, a’r opsiwn i lwytho negeseuon fideo neu sain i fyny.

Roedd mwy na 2500 o bobl wedi ymateb i’r arolwg Dweud eich Dweud: Have your Say. Fe wnaethom drafod y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion hynny yn yr adroddiad interim. Roedd Dweud eich Dweud: Have your Say yn rhoi cipolwg gwerthfawr o flaenoriaethau’r rheini a ymatebodd, ond roedd cyfyngiadau i’r data a gawsom. Roedd hyn wedi ein harwain i greu sianeli eraill i ymgysylltu â dinasyddion a deall eu safbwyntiau, gan siapio’r sgwrs ehangach a gawsom dros y flwyddyn ddiwethaf.

Un neges o Dweud eich Dweud: Have your Say yw bod pobl yn awyddus i gael dweud eu dweud am ddiwygio cyfansoddiadol, ond yn teimlo nad oedd ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ymgysylltu’n ystyrlon. Mewn ymateb, ym mis Ebrill 2023, fe wnaethom sefydlu’r platfform ymgysylltu ar-lein, a oedd yn gofyn cwestiynau penodol i bobl am opsiynau posibl ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Yn bwysig, roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddatganoli a llywodraethu, blogiau ar agweddau amserol ar lywodraethu, a swyddogaeth sylwadau a sgwrsio wedi’i chymedroli er mwyn i bobl allu gofyn cwestiynau a chael atebion, yn ogystal â chyfleu pwyntiau nad oeddent yn cyd-fynd â chwestiynau’r arolwg. Cawsom 1025 o ymatebion ar wahân drwy’r platfform ymgysylltu ar-lein, yn ogystal â nifer o sylwadau a negeseuon e-bost (cafwyd mwy na 15,600 o ymweliadau â gwefan y platfform ymgysylltu ar-lein, lle gallai ymwelwyr gael gafael ar wybodaeth am system lywodraethu Cymru ac opsiynau ar gyfer llywodraethu yn y dyfodol yn ogystal â chael yr opsiwn i gyflwyno ymateb i’r arolwg).

Yn amlwg, roedd pobl wedi mynd ati o’u gwirfodd i gyflwyno sylwadau drwy ein dau arolwg ar-lein. Roedd yr ymatebwyr wedi cyfrannu oherwydd cymhelliant ac ymrwymiad personol, nid oherwydd eu bod wedi cael eu dewis i gynrychioli safbwyntiau pobl yng Nghymru drwyddi draw. Byddai felly’n gamarweiniol dweud bod dadansoddiad meintiol o’r dewisiadau a oedd orau gan bobl yn yr ymatebion hyn yn cynrychioli ‘beth mae Cymru ei eisiau’. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion i’n harolygon ar-lein yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar farn yr ymatebwyr am ddiwygio cyfansoddiadol.

Fe wnaethom ddysgu bod rhai dinasyddion wedi meddwl o ddifri am gyfansoddiad Cymru yn y dyfodol ac yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddiwygio. Roedd arnom eisiau cael eu safbwyntiau a deall yn well beth maen nhw’n ei wybod, eu dyheadau a’u disgwyliadau.

Mae yna ddinasyddion eraill sy’n frwd dros wella eu cenedl ac ansawdd bywyd y rheini sy’n byw yma, ond nad ydynt efallai’n meddwl am bethau yng nghyd-destun llywodraethu a diwygio cyfansoddiadol. Roedd arnom eisiau dysgu am eu blaenoriaethau a’u dyheadau i Gymru.

Mae yna ddinasyddion hefyd sy’n teimlo’n rhwystredig oherwydd y cyfeiriad y mae’r wlad yn ei dilyn, sy’n teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed. Roedd arnom eisiau clywed beth maen nhw’n anhapus amdano, beth maen nhw’n ei deimlo sy’n mynd o chwith a beth maen nhw’n ei feddwl fyddai’n datrys y problemau hyn.

Clywed barn y rheini nad ydynt yn aml yn cael eu clywed

Un anfantais i’n dau arolwg ar-lein yw eu bod yn mynnu bod pobl yn chwilio am sianeli o’r fath ac yn ymateb drwy gyfrwng digidol. Rhaid i ymatebwyr fod yn gwybod am waith y Comisiwn cyn gallu dewis cymryd rhan o’u gwirfodd. Roeddem wedi defnyddio llawer ar sianeli hyrwyddo, ond byddai cyrraedd pawb yng Nghymru mewn cyfnod o ddwy flynedd wedi golygu llawer mwy o adnoddau nag a oedd gennym.

Er ei bod yn well gan lawer ymateb ar-lein, nid yw’r dull hwn o fewn cyrraedd i’r rheini nad ydynt yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol neu blatfformau tebyg, ac nid yw o unrhyw ddefnydd i’r rheini sydd wedi'u heithrio’n ddigidol.

Diffyg arall y dulliau lle mae pobl yn dewis cymryd rhan o’u gwirfodd yw nad ydynt yn cyrraedd y rheini sydd ddim eisiau ymgysylltu, am ba reswm bynnag. Gall hyn gynnwys y rheini sy’n wynebu rhwystrau strwythurol i ymgysylltu, boed hynny’n iaith, yn addysg, yn dechnoleg neu’n anabledd. Efallai nad oes gan rai pobl ddiddordeb neu eu bod yn credu nad yw eu barn yn cael ei gwerthfawrogi.

I oresgyn y rhwystrau hyn, fe wnaethom geisio dod a’r Comisiwn at bobl yn uniongyrchol. Fe wnaethom gomisiynu Cazbah (mae Cazbah yn gwmni marchnata a rheoli digwyddiadau dwyieithog yng Nghymru sydd â phrofiad helaeth o reoli sioeau teithiol ymgysylltu â’r cyhoedd, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymwneud â sgiliau, gyrfaoedd, addysg, iechyd a llywodraeth) i gynnal digwyddiadau ymgysylltu dros dro mewn 26 o wahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru. Cafodd y rhain eu cynnal yng nghalon cymunedau lle roeddem yn gallu cyrraedd pobl yn ystod eu diwrnodau arferol; mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd, mewn diwrnodau hwyl i’r teulu yn ystod yr haf sy’n cael eu cynnal gan gynghorau lleol, mewn canolfannau cymunedol ac ar y stryd fawr. Yn ystod haf 2023 roedd hyn wedi cyrraedd 3,545 o bobl, ac roedd 2,327 o’r rheini wedi llenwi arolwg byr (roedd yr arolwg hwn yn un gwahanol a byrrach na'r hyn a gynhaliwyd ar y platfform ymgysylltu ar-lein, ac roedd ei strwythur yn debycach i Dweud eich Dweud: Have your Say) i fynegi’r gwerthoedd roedden nhw’n meddwl a oedd yn bwysig i Gymru yn y dyfodol, ac roedd 600 wedi rhoi eu cyfeiriadau e-bost i gael rhagor o wybodaeth am waith y Comisiwn.

Ar ben hynny, roedd arnom eisiau clywed gan y rheini sydd â nodweddion sy’n cael eu tangynrychioli yn y boblogaeth gyffredinol, a deall sut mae eu profiadau a’u hanghenion wedi siapio eu barn am newid cyfansoddiadol. Mae ymchwil cynrychioladol, cytbwys ac sydd wedi’i bwysoli o ran y boblogaeth yn gallu cynnwys rhai o’r safbwyntiau hynny, ond mae safbwyntiau grwpiau llai yn gallu cael eu cysgodi gan y boblogaeth ehangach yn y dadansoddiad cyfanredol.

I fynd i’r afael â hyn, fe wnaethom lansio’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned. Pwrpas y gronfa hon oedd galluogi grwpiau o gymunedau mwy ymylol i gasglu ac i adlewyrchu barn eu cymuned i’r Comisiwn. Roedd 42 o grwpiau wedi gwneud cais am hyd at £5,000 o gyllid. Roeddem wedi gallu ariannu 11 sefydliad ar draws Cymru rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023. Derbyniwyd adroddiad terfynol erbyn mis Mai 2023. Mae rhestr lawn o’r grwpiau a gafodd gyllid yn atodiad 7 – Lleisiau y dinasyddion.

Mae’r dull cyfathrebu yn gallu bod yn rhwystr i’r math hwn o gyfranogiad. Yn aml, disgwylir ymatebion yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio iaith ffurfiol neu broffesiynol. Mae hyn yn gallu eithrio pobl nad ydyn nhw’n gallu mynegi eu hunain yn gyfforddus mewn Cymraeg neu Saesneg ysgrifenedig ffurfiol. Fe wnaethom gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl i grwpiau o ran sut roedden nhw’n ymgysylltu ac yn adrodd yn ôl i ni. Roedd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y grwpiau demograffig roedd pob grŵp yn eu cyrraedd, ond roedd pob adroddiad yn defnyddio dull gweithredu gwahanol ac yn cyfrannu safbwynt gwahanol. Roedd yr adroddiadau ar nifer o ffurfiau gwahanol gan gynnwys barddoniaeth, rap, cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol, celfyddydau gweledol a ffotograffiaeth, ochr yn ochr ag adroddiadau cryno ysgrifenedig mwy traddodiadol.

Drwy alluogi pobl i ddefnyddio eu geiriau eu hunain i ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw am lywodraethu, cawsom wybodaeth werthfawr am brofiad o lywodraeth, llywodraethiant a diwygio cyfansoddiadol gan bobl nad ydynt yn cael eu clywed yn aml ar y pynciau hyn. Roedd hyn wedi datgelu gwybodaeth am flaenoriaethau, am syniadau am lywodraeth a rôl y dinesydd, a dyheadau ar gyfer y dyfodol na fyddent wedi ein cyrraedd drwy ddulliau llai penodol.

Clywed barn Cymru gyfan a’r tu hwnt

Roedd y dulliau ymgysylltu a drafodwyd uchod wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ansoddol gyfoethog am safbwyntiau dinasyddion, ar sail ymatebion wedi’u targedu neu ymatebion lle’r oedd yr ymatebwyr wedi dewis cymryd rhan o’u gwirfodd. Roedd arnom eisiau ategu hyn gyda data ansoddol a meintiol, o Gymru a’r DU drwyddi draw hefyd. Fe wnaethom hyn mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, fe wnaethom gomisiynu Beaufort Research i gynnal cyfres o baneli dinasyddion cydgynghorol ac arolwg Cymru gyfan. Yn ail, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â'r Athro Richard Wyn Jones yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a'r Athro Ailsa Henderson ym Mhrifysgol Caeredin ar eu hymchwil Cyflwr yr Undeb 2023.

Data ansoddol

Paneli dinasyddion

Fe wnaethom sefydlu wyth panel dinasyddion i ystyried opsiynau cyfansoddiadol mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru. Cafodd y darn hwn o waith ei wneud gan Beaufort Research sydd â phrofiad helaeth yn y maes hwn. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu cael gafael ar ystod ehangach o gyfranogwyr nag y gallem fod wedi’i wneud fel arall.

Sesiynau cydgynghorol oedd y rhain yn hytrach na grwpiau ffocws. Roedden nhw’n dilyn egwyddorion proses gydgynghorol: rhoi gwybodaeth gytbwys, cefnogi trafodaethau a galluogi cyfranogwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Rydym yn trafod gwerth mecanweithiau cydgynghorol ym mhennod 3.

Roedd pob panel yn cynnwys 16 o bobl  a ddewiswyd i adlewyrchu trawstoriad eang o boblogaeth Cymru o ran oedran, rhywedd, safbwyntiau gwleidyddol, cefndir economaidd-gymdeithasol, byw mewn ardal wledig/drefol, siaradwyr Cymraeg, LHDTC+, cyfnodau bywyd (ee rhieni â phlant ifanc, pobl sy’n gadael addysg, pobl wedi ymddeol ac ati), ethnigrwydd, a gwybodaeth a diddordeb canfyddedig yn y cyfansoddiad. O’r 128 o ddinasyddion a wahoddwyd i gymryd rhan yn y paneli (16 i bob panel, gydag 8 panel yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru), roedd 127 wedi cymryd rhan yn y cam cyntaf ac roedd 121 o bobl wedi cymryd yn yr ail gam. Roeddem wedi rhagweld na fyddai pawb yn dod, oherwydd ffactorau fel salwch, diffyg gofal plant, patrymau gwaith ac yn y blaen.

Cyfarfu pob panel ddwywaith. Y tro cyntaf, siaradodd y cyfranogwyr yn gyffredinol am lywodraeth a llywodraethiant, ac am eu blaenoriaethau ar gyfer llywodraeth yng Nghymru. Nesaf, roedd aelodau’r paneli wedi cymryd rhan mewn cyfnod o ymgysylltu arlein, gyda’r bwriad o gynyddu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth i baratoi ar gyfer ail gam cydgynghorol y trafodaethau wyneb yn wyneb. Roedd hyn wedi arwain at lefelau da o ymgysylltu gyda dros 1,150 o bostiadau ar y platfform i gyd (heb gynnwys cwestiynau pleidleisio). Roedd y cam hwn hefyd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr ofyn cwestiynau a chael gwybodaeth mewn ymateb, a ddarparwyd yn ystod ail gyfarfodydd y panel.

Yna cyfarfu’r paneli eto, y tro hwn i ystyried opsiynau penodol ar gyfer diwygio cyfansoddiadol. Cyflwynwyd gwybodaeth gytbwys i’r cyfranogwyr am sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu ar hyn o bryd, y gwahanol opsiynau ar gyfer y dyfodol. Yna gofynnwyd iddyn nhw bwyso a mesur hyn, trafod a dod i’w hasesiad eu hunain o’r opsiynau cyfansoddiadol. Weithiau daeth y cyfranogwyr i gasgliad gwahanol erbyn diwedd y sesiwn olaf o’i gymharu â phan ddechreuon nhw’r broses, gan ddangos effaith gwybodaeth, trafodaeth ac amser i feddwl ar eu safbwyntiau.

Roedd y rhan hon o’r sgwrs genedlaethol yn werthfawr o ran dweud wrthym beth yw barn dinasyddion nawr, a sut newidiodd eu barn weithiau ar ôl trafod â’u cymheiriaid a chael gwybodaeth am sut mae’r llywodraeth yn gweithio a diwygio cyfansoddiadol.

Data meintiol

Rhwng sesiynau’r panel dinasyddion, cynhaliodd Beaufort Research arolwg ar ddiwygio cyfansoddiadol gyda sampl gynrychioladol o 1596 o aelodau o boblogaeth oedolion Cymru sy’n 16 oed a hŷn drwy gyfuniad o ymchwil ar-lein a thros y ffôn. Gosodwyd cwotâu ar gyfer rhywedd, oedran a dosbarth cymdeithasol ac fe’u haddaswyd gan bwysoli data i sicrhau bod y sampl mor gynrychioliadol â phosibl o boblogaeth oedolion Cymru.

Ymchwil Cyflwr yr Undeb

Byddai gan unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol sylweddol i Gymru oblygiadau i rannau eraill o’r DU. I gefnogi ein trafodaethau ar ddyfodol Cymru, roedd arnom eisiau cael tystiolaeth feintiol ar farn dinasyddion ar draws y DU. I gael y darlun 360 gradd hwn o bob un o bedair rhan y DU, gwnaethom ffurfio partneriaeth â staff yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin ar eu hymchwil.

Cyflwr yr Undeb 2023. Maen nhw wedi cynnal arolwg rheolaidd ymysg poblogaeth gynrychioliadol pob un o wledydd y DU ar faterion cyfansoddiadol ers 2011, gan olrhain y newidiadau dros amser. Roedd gweithio mewn partneriaeth a nhw yn golygu ein bod yn gallu cynnwys cwestiynau newydd, wedi’u teilwra I waith y Comisiwn.

Rhoi cyhoeddusrwydd i waith y Comisiwn

Ar ddechrau ein gwaith yn 2022, cafodd  cyfleoedd i ymgysylltu eu cyfyngu gan gam olaf cyfyngiadau Covid. Ar ôl codi’r rhain,  fe wnaethom fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb, yn ogystal ag ar-lein. Roedd Comisiynwyr wedi mynd i ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys cymryd rhan mewn sesiynau a gynhaliwyd drwy’r Gronfa Ymgysylltu a’r Gymuned. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau hyn yn atodiad 7 – Lleisiau y dinasyddion.

Roedd yn flaenoriaeth sicrhau bod cyfleoedd i glywed am y Comisiwn a’i waith yn cael eu cynnig ar hyd a lled Cymru. Roedd sioe deithiol Cazbah wedi cyrraedd y 22 awdurdod lleol, fwy nag unwaith weithiau. Roedd y paneli dinasyddion yn cynrychioli gwahanol ardaloedd daearyddol, gyda phob un yn cael ei gynnal mewn rhan wahanol o Gymru. Mae Atodiad 7 yn nodi leoliadau’r paneli ac ymweliadau sioe deithiol Cazbah.

Roedd y platfform ymgysylltu ar-lein yn gallu cofnodi lle roedd y bobl a oedd yn defnyddio’r platfform yn byw (roedd yr ymatebwyr yn rhoi pedwar digid cyntaf eu cod post i roi data am eu lleoliad). Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu monitro ymatebion i’r arolwg yn ol ardal ddaearyddol a thargedu ein gwaith cyfathrebu mewn ardaloedd nad oeddem wedi clywed cymaint ganddyn nhw ag eraill.

Image
Map yn dangos digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb a gynhelir neu a fynychwyd gan y comisiwn 2022-2023

Yr hyn a ddysgon ni o’r sgwrs genedlaethol

Roedd llawer o’r hyn a ddysgon ni yn sail i’r canfyddiadau a nodir yn y penodau sy’n dilyn. Dyma oedd y negeseuon cyffredinol o’r sgwrs:

1. Mae lefelau’r ddealltwriaeth am gyfansoddiad y DU yn isel, ac nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i gyfrannu at y ddadl am ei newid.

Mae dwy agwedd i’r canfyddiad hwn: faint o wybodaeth sydd gan bobl am drefniadau cyfansoddiadol eu gwlad (gwaelodlin gyffredinol o wybodaeth), a faint o wybodaeth mae pobl yn teimlo sydd ganddyn nhw (hyder dinasyddion yn eu dealltwriaeth eu hunain). Mae’r ddwy agwedd yn gysylltiedig, ond yn wahanol, ac yn cael effaith wahanol ar allu dinasyddion i ymgysylltu â’r ddadl ar ddiwygio cyfansoddiadol.

Mae’r sgwrs genedlaethol wedi cadarnhau’r hyn sydd wedi cael ei feddwl ers tro byd: yn gyffredinol, nid yw pobl yng Nghymru (ac yn y DU drwyddi draw) yn gwybod rhyw lawer am sut maent yn cael eu llywodraethu. Roedd hyd yn oed y rheini a oedd yn cael eu cymell i ymateb inni’n uniongyrchol drwy ein harolygon ar-lein yn aml yn camddeall y cyfrifoldebau datganoledig a sut mae llywodraethau’n gwneud penderfyniadau.

Yn y paneli dinasyddion, roedd llawer wedi dechrau drwy ddweud ‘ddim yn gwybod’ wrth eu holi pa un o’r tri opsiwn oedd orau ganddyn nhw. Nid oedd rhai’n teimlo’n hyderus wrth ddewis opsiwn hyd yn oed ar ol cael y cyfle i ddysgu, i drafod ac i ystyried pa opsiwn oedd orau ganddynt. Rhaid nodi bod hyn yn seiliedig ar y cam data ansoddol, ac nid yw’n ystadegol arwyddocaol, ond mae’n rhoi syniad o’r heriau sy’n wynebu dinasyddion wrth drafod opsiynau cyfansoddiadol.

Pan ofynnwyd i aelodau ein paneli dinasyddion pa lywodraeth oedd yn gyfrifol am beth, roedd y rhan fwyaf yn gallu priodoli’r rhan fwyaf o bynciau’n gywir ac eithrio plismona a darlledu - roedden nhw’n meddwl bod y rhain yn faterion datganoledig (Canfyddiadau terfynol yr ymchwil ansoddol gydgynghorol: safbwyntiau ar y tri opsiwn a ffefrir gan y Comisiwn ar gyfer Cymru, Beaufort Research, 2023). Ond yn yr arolwg meintiol a gynhaliwyd gan Beaufort Research, roedd lleiafrifoedd sylweddol yn cael pethau’n anghywir – roedd traean yn meddwl bod budd-daliadau wedi’u datganoli, ac roedd ychydig o dan draean yn meddwl mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am bolisi iechyd yng Nghymru (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023). Mae data o arolwg tebyg gan Beaufort Research yn 2013 yn awgrymu nad yw’r lefelau gwybodaeth wedi codi (ibid), er gwaethaf degawd o ehangu deddfwriaeth y Senedd a bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy amlwg yn ystod pandemig Covid.

Fe ddaeth yn amlwg o’r sgwrs genedlaethol hefyd bod hyder pobl yn eu gwybodaeth yn ymddangos yn is fyth nag oedd eu dealltwriaeth yn ei awgrymu.Er enghraifft, yn yr ymchwil Cyflwr yr Undeb, pan ofynnwyd i ddinasyddion osod eu hunain ar sbectrwm gyda sofraniaeth seneddol ar un pen a sofraniaeth ar y cyd a llywodraethau cenedlaethol ar y pen arall, un o’r atebion mwyaf poblogaidd ym mhedair rhan y DU oedd ‘ddim yn gwybod’.

Yn y paneli dinasyddion ac yn nifer o adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned, dechreuodd llawer o’r cyfranogwyr drwy ddweud nad oedden nhw’n gwybod dim am sut roedd Cymru’n cael ei rhedeg (ac ychwanegodd rhai nad oedden nhw’n poeni). Fodd bynnag, wrth bwyso neu ofyn iddyn nhw am eu barn yng nghyd-destun gwasanaethau cyhoeddus, daeth hi’n amlwg bod llawer yn deall llawer mwy am lywodraethu yng Nghymru nag yr oedden nhw’n ei gydnabod.

Mae’r lefelau isel cyffredinol o wybodaeth a dealltwriaeth, hyd yn oed ymysg y rheini sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, yn drawiadol. Nid yw’n unigryw i Gymru, ond mae’n broblem sy’n tanseilio hyder mewn sefydliadau democrataidd ar bob lefel o lywodraeth. Pan fydd Llywodraeth y DU yn ymyrryd ar faterion datganoledig, mae hyn yn ychwanegu at y dryswch. Mae dinasyddion yn ansicr ynghylch pwy sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan, hyd yn oed ar bynciau sydd o bwys mawr iddynt, fel gwasanaethau iechyd.

Yr effaith gronnol yw bod pobl wedi ymddieithrio, ddim yn ymwybodol o’r dylanwad y gallen nhw ei chael ar y system bresennol a ddim yn ymwybodol o’r opsiynau ar gyfer newid.

Sofraniaeth Senedd y DU
Image

Cwestiwn: Pan fydd pobl yn son am newid y ffordd mae’r DU yn cael ei llywodraethu, mae hyn weithiau’n cynnwys y syniad y dylai Senedd y DU rannu sofraniaeth (ei goruchaf bŵer i wneud deddfau) a’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae pobl eraill yn dadlau y dylai sofraniaeth Senedd y DU barhau heb ei gwanhau. Ar y raddfa ganlynol, pa un sydd agosaf at eich barn chi? Noder: mae 1,2 a 3 yn dynodi pwyntiau ar sbectrwm ymatebion.

Graff o ymchwil Cyflwr yr Undeb 2023.

Y paneli dinasyddion a’r opsiynau cyfansoddiadol
Image

Canlyniadau pleidleisio o ddechrau a diwedd sesiynau terfynol y paneli dinasyddion, mae rhifo yn cynrychioli nifer yr unigolion sy’n ymateb.

Graff o adroddiad 2023 Beaufort Research (Canfyddiadau terfynol yr ymchwil ansoddol gydgynghorol: safbwyntiau ar y tri opsiwn a ffefrir gan y Comisiwn ar gyfer Cymru, Beaufort Research, 2023)

2. At ei gilydd, mae gan ddinasyddion ddiddordeb mewn diwygio cyfansoddiadol, ond efallai nad ydyn nhw’n mynegi’r diddordeb hwnnw yn y termau hynny. Mae llawer o ddinasyddion yn fframio eu barn ar ddiwygio cyfansoddiadol o ran blaenoriaethau uniongyrchol yn hytrach nag mewn termau haniaethol.

Wrth holi am flaenoriaethau cyffredinol, mae pobl yn aml yn gosod newid cyfansoddiadol yn is na materion fel y GIG, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill (The economy and inflation remain the country’s biggest concerns, closely followed by the NHS).

Mae gwaith Beaufort Research yn awgrymu y byddai’n gamgymeriad dehongli hyn fel ‘does gan ddinasyddion ddim diddordeb mewn sut mae Cymru’n cael ei rhedeg, ac felly dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ar flaenoriaethau eraill.’

Wrth holi dinasyddion am eu diddordeb yn y ffordd caiff Cymru ei rhedeg, heb gyfeirio at dermau technegol am lywodraethiant, dywedodd 81% o’r ymatebwyr ar draws Cymru fod ganddyn nhw ddiddordeb mawr neu eithaf diddordeb. Mae’r ffigur hwn yn weddol gyson ar draws yr holl grwpiau demograffig ac ymlyniadau gwleidyddol (yr allanolyn yw’r rheini nad ydyn nhw’n pleidleisio – 62% - Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023).

Rydym hefyd wedi gweld pan fydd pobl yn cael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl, eu bod yn awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwnnw.  Cawsom dros 5,900 o ymatebion i’n harolygon ar-lein. Roedd cyfraddau gadael cyn gorffen y panel dinasyddion yn isel iawn a’r presenoldeb yn uchel, hyd yn oed ym mhaneli’r ail gam a gynhaliwyd ar nosweithiau braf o haf. Fodd bynnag, mae modd priodoli rhywfaint o’r presenoldeb hwn i’r ffaith bod y cyfranogwyr yn cael eu talu am eu hamser.

Pan ofynnwyd i bobl beth sy’n bwysig iddynt, roeddent yn dweud wrthym am eu gwerthoedd a’u blaenoriaethau polisi ar gyfer gwaith y llywodraeth. Roedd y rhain yn amrywio’n fawr, gan gynnwys newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol, darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon a llawer mwy. Y neges gyson yw bod cael llais yn y penderfyniadau hyn yn bwysig i bobl. Yn aml, nid ydyn nhw’n fodlon â’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu rhan ac maen nhw eisiau cael rhagor o lais mewn llywodraeth.

Wrth holi am opsiynau ar gyfer newid cyfansoddiadol roedd y bobl roeddem wedi ymgysylltu â nhw, y rheini a oedd wedi dewis cymryd rhan eu hunain a’r rheini a gyfrannodd drwy’r arolygon ymchwil meintiol a’r paneli dinasyddion, yn gallu rhoi safbwyntiau clir am fodelau llywodraethiant, yr hyn roedden nhw’n ei ystyried yn fanteision ac yn anfanteision, a’r dewisiadau a oedd orau ganddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Yn gyffredinol, nid yw pobl yn meddwl am lywodraethu mewn ffordd haniaethol, maen nhw’n meddwl am ei effaith uniongyrchol ar fywyd cymunedau ac unigolion yng Nghymru. Efallai nad oes ganddyn nhw farn bendant am yr hyn a fyddai orau i Gymru: yr hyn y mae arnyn nhw ei eisiau yw system lywodraethu effeithlon ac effeithiol sy’n cyflawni’r polisïau maen nhw’n eu cefnogi, gyda gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n diwallu eu hanghenion.

Efallai na fydd pobl eisiau cymryd rhan yn y ddadl ar newid cyfansoddiadol os yw’n ymddangos ei fod ar wahân i bryderon bywyd bob dydd, ond mae’r ffordd caiff eu gwlad ei llywodraethu yn bwysig iawn iddyn nhw ac maen nhw eisiau i’w lleisiau gael eu clywed.

3. Mae llawer o bobl yn cyfuno cwestiynau am strwythurau cyfansoddiadol gyda barn ar waith llywodraeth y dydd.

Nid yw llawer o ddinasyddion yn gwahaniaethu rhwng gwaith y llywodraeth a’r strwythurau llywodraethiant y mae’n rhaid iddi eu dilyn. Yn y paneli dinasyddion, soniodd pobl am ddarparu gwasanaethau yn hytrach na sofraniaeth neu ymreolaeth. Wrth drafod llywodraethiant, soniodd pobl am lygredd a defnyddio arian cyhoeddus yn wael (cafodd y farn hon ei rhannu fwyaf yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein ac adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned, ac i ryw raddau yn y paneli dinasyddion).

Yn yr un modd, nododd yr adroddiadau gan grwpiau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned fod cyfranogwyr yn siarad am lywodraeth yng nghyd-destun y gwasanaethau mae’n eu darparu. Mewn llawer o’r adroddiadau hyn, disgrifiodd y cyfranogwyr eu perthynas â’r llywodraeth fel defnyddiwr gwasanaeth i ddarparwr gwasanaeth. Maen nhw’n mesur perfformiad y llywodraeth yn ôl ansawdd y gwasanaeth a pha mor addas yw’r gwasanaeth i’w hanghenion a’u dewisiadau.

Mae’r farn hon o lywodraeth sy’n seiliedig ar ddarpariaeth, ynghyd â lefel isel o wybodaeth am strwythurau lleol a chenedlaethol, yn golygu bod barn llawer o bobl am llywodraethiant yn deillio o’u profiad o bolisïau a pherfformiad y llywodraeth. Er enghraifft, roedd y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd gan ymatebwyr sy’n cefnogi annibyniaeth yn ymwneud ag anfodlonrwydd â gweithredoedd Llywodraeth bresennol y DU. Yn groes i hynny, roedd llawer o’r rheini a oedd yn dadlau dros lai o ddatganoli, neu dros ddiddymu’r sefydliadau datganoledig, yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn gwrthwynebu polisïau Llywodraeth Cymru neu’n teimlo nad yw gwasanaethau yng Nghymru yn ddigon da (roedd hyn i’w weld yn yr ymatebion i’r arolygon ar-lein).

4. Mae hunaniaeth ac ymlyniad gwleidyddol yn effeithio ar farn pobl am y ffordd ymlaen.

Os yw pobl yn ystyried bod y llywodraeth sydd mewn grym a’r strwythurau llywodraethiant cenedlaethol yn golygu’r un peth, nid yw’n syndod bod eu hymlyniad gwleidyddol yn effeithio ar eu dewisiadau o ran llywodraethiant.

Yn yr adroddiad interim, fe wnaethom sylwi bod y safbwyntiau a fynegwyd gan ddinasyddion wedi cael eu pegynu, gan gyd-fynd â’u dewisiadau cyfansoddiadol.

Mae ymchwil y paneli dinasyddion yn rhoi cipolwg ar sut mae nodweddion gwahanol yn effeithio ar brofiadau pobl o ddatganoli, a barn am y dyfodol cyfansoddiadol gorau i Gymru.

Mae 54% yn meddwl bod system lywodraethu bresennol Cymru yn gweithio’n dda iawn neu’n weddol dda, ac mae 43% yn meddwl fel arall. Mae pobl iau yn fwy cadarnhaol o’u cymharu â charfannau hŷn (ond mae’r gwahaniaethau’n fach).

Effeithiolrwydd llywodraethiant Cymru
Image

Cwestiwn: Yn eich barn chi, pa mor dda mae’r system lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gweithio?

% ymatebion fesul oedran.

Sail: pob un (1,596), 16 i 34 (465), 35 i 54 (506), 55 oed a hŷn (339).

Graff o adroddiad Beaufort Research 2023.

Effeithiolrwydd a chefnogaeth y pleidiau
Image

Cwestiwn: Yn eich barn chi, pa mor dda mae’r system lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gweithio? % yn ôl ymlyniad gwleidyddol. Sail: Ceidwadwyr (284), Llafur (567), Democratiaid Rhyddfrydol (126), Plaid Cymru (196), Reform UK (58), Y Blaid Werdd (61), arall (14), Dim (197), Mae’n well gen i beidio â dweud (41), Ddim yn gwybod (48). 

Mae angen nodi’r seiliau bach, ac mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r data hwn.

Graff o adroddiad Beaufort Research 2023.

Gan nodi bod rhai o seiliau’r arolwg hwn yn fach, mae’n ymddangos bod cefnogwyr y Ceidwadwyr a Reform UK, y rheini nad oeddent yn cefnogi plaid wleidyddol, a’r rheini a oedd yn cefnogi pleidiau eraill o’r opsiynau a gynigiwyd yn llai bodlon â’r ffordd mae’r system lywodraethu bresennol yng Nghymru yn gweithio, tra bod cefnogwyr y pleidiau eraill a restrir yn fwy cadarnhaol o lawer am y system lywodraethu bresennol.

Roedd y safbwyntiau a fynegwyd i ni yn y Gymraeg bron yn gyfan gwbl o blaid mwy o ymreolaeth, yn aml yn fwy o blaid yr UE ac yn debygol o gefnogi polisïau a oedd yn hyrwyddo nodau cymdeithasol (mynd i’r afael â thlodi, hawliau lleiafrifoedd, mesurau amgylcheddol). Yn groes i hynny, at ei gilydd roedd y lleiafrif a ddywedodd wrthym eu bod yn siaradwyr Cymraeg ond yn dewis ymateb yn Saesneg yn erbyn rhagor o ymreolaeth, ac yn aml yn gwrthwynebu sut roedd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r Gymraeg (gwelwyd hyn yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein ac i raddau yn rhai o adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned).

Safbwyntiau ar opsiynau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol

Roedd tynnu’r elfennau hyn o’r sgwrs genedlaethol at ei gilydd yn dangos:

  • At ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi datganoli, a byddai llawer yn ffafrio mwy o ymreolaeth, er bod eu dyheadau’n amrywio o ran hyd a lled hynny.
  • Mae Cymru mewn DU ffederal yn ddyhead deniadol i rai. Mae ffederaliaeth yn gallu bod ar sawl ffurf ac nid yw’n ymddangos bod unrhyw fersiwn blaenorol yn gwbl briodol i’r DU. Mae’n dod yn llai deniadol wrth drafod agweddau ymarferol gweithredu ffederasiwn gweithredol ar draws y DU.
  • Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ac i ddiddymu’r sefydliadau datganoledig yn safbwyntiau lleiafrifol ar hyn o bryd, ond yn safbwyntiau cryf. Mae’r gefnogaeth i bob un wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n ymddangos bod y twf yn y gefnogaeth i’r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu lefel uwch o begynu gwleidyddol yn y boblogaeth yn gyffredinol.

Rydym yn edrych yn fanylach ar y safbwyntiau hyn mewn penodau eraill.

Casgliad

Mae defnyddio dulliau amrywiol, gyda’r nod o ymgysylltu â chynifer o bobl â phosibl, wedi rhoi persbectif manwl a chyfoethog ar farn dinasyddion Cymru.

Roeddem wedi llwyddo i gyrraedd lawer o bobl drwy ddulliau costeffeithiol, ond mae bylchau mawr yn ein gwaith ymgysylltu o hyd: Nid yw 18 mis yn ddigon hir i gynnal sgwrs genedlaethol gynhwysfawr. Nid oeddem wedi gallu clywed gan gynrychiolwyr o bob cymuned ar hyd a lled Cymru. Roeddem wedi dechrau ymgysylltu â chymunedau sy’n cynrychioli pobl F/fyddar a phobl sy’n rhannol ddall a sipsiwn a theithwyr. Cafodd camau pwysig eu cymryd, gyda diolch i sefydliadau trydydd parti sydd wedi gweithio gyda ni, ond nid oedd gennym ddigon o amser i oresgyn rhwystrau a’u galluogi i gymryd rhan yn llawn. Mae angen i sgwrs genedlaethol fod yn un barhaus a thymor hir, dros flynyddoedd yn hytrach na misoedd, er mwyn adeiladu ar y dechrau rydym wedi’i wneud.

Yn y bennod nesaf, byddwn yn ystyried sut mae ymateb i’r materion hyn drwy adfywio democratiaeth yng Nghymru.

Sioe deithiol y comisiwn

Roedd ein sioe deithiol wedi mynd â gwaith y Comisiwn i galon cymunedau ar hyd a lled Cymru

Fe wnaethom gynnal 26 o ddigwyddiadau ymgysylltu ar hyd a lled Cymru a chyrraedd dros 3500 o bobl yn ystod eu diwrnodau arferol; mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd, mewn diwrnodau hwyl i’r teulu yn ystod yr haf sy’n cael eu cynnal gan gynghorau lleol, mewn canolfannau cymunedol ac ar y stryd fawr.

Sylwadau gan ein tîm

Diwrnod llwyddiannus yn Niwrnod Hwyl i’r Teulu y Barri heddiw. Cawsom ymateb anhygoel ar ein stondin lle’r oedd ciwiau ar brydiau. Llenwyd llawer iawn o arolygon a chafwyd dros 323 o ymgysylltiadau. Roedd gennym leoliad gwych wrth ymyl y llwyfan lle’r oedd llawer deuluoedd yn eistedd ac yn gwylio’r adloniant ac roeddem yn brysur iawn yn ymgysylltu â rhieni pan roedd y plant yn brysur yn edrych ar y nwyddau. Gwelsom fod gan lawer o rieni amser i siarad ac ymgysylltu yn fwy nag mewn lleoliadau eraill, o bosibl gan ei fod yn ddigwyddiad diwrnod gyda digon i’w wneud. Roedd yn ymddangos bod llawer o’r gymuned wedi dod draw, gyda dros 3000 o bobl wedi dod i mewn drwy’r gatiau.

Cawsom lawer o sylwadau diddorol a brwdfrydedd ym Mhrestatyn wrth lenwi’r arolwg, a arweiniodd at sgyrsiau difyr dros ben drwy gydol y dydd.

Cyn gynted ag roeddem wedi gosod pethau yn Aberystwyth daeth dyn yn ei ugeiniau atom a oedd eisiau llenwi’r arolwg ar unwaith. Dywedodd ei fod wedi gweld y neges ar Twitter a bod arno eisiau dod draw. Nid ef oedd yr unig un gan ein bod wedi dod ar draws 5/6 o bobl eraill a ddywedodd eu bod wedi gweld ar gyfryngau cymdeithasol y bydden ni yno. Cawsom sgyrsiau gwych a manwl ac roeddem yn teimlo ei fod yn ymgysylltu cadarnhaol.

Roedd llawer wedi dangos diddordeb yn ein stondin ym Mharti Traeth y Coed-duon ac yn ddiolchgar ein bod wedi ymweld â’r dref. Roedd hwyliau da ar bawb a daeth y Maer atom yn y stondin a siarad â’r tîm am dros hanner awr. Roeddent yn hapus iawn gyda’r ymgysylltu ac yn falch iawn ein bod wedi cael diwrnod llwyddiannus.

Pennod 3: cryfhau democratiaeth yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn mynd i’r afael ag ail ran ein cylch gwaith – cryfhau democratiaeth yng Nghymru. Rydym yn cynnig golwg eang o ddemocratiaeth, gan wreiddio ymgysylltiad dinasyddion mewn gwleidyddiaeth a llunio polisïau fel mater o drefn. Rydym yn dadlau dros gryfhau democratiaeth etholiadol gan ddefnyddio rhagor o arloesi democrataidd, gyda llu o gyfleoedd i ddinasyddion gymryd rhan yn y materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Democratiaeth gynrychioliadol dan straen

Roedd ein hadroddiad interim yn sôn am y cyd-destun rhyngwladol sy’n dangos llai o ymddiriedaeth mewn sefydliadau democrataidd a'n bwriad i ganolbwyntio ar ffyrdd o ymateb i hyn yng Nghymru. Mae’r broses ddemocrataidd yn deillio o’r broses etholiadol, ond mae’n golygu llawer mwy nag etholiadau.

Er bod hyder ac aeddfedrwydd sefydliadau democrataidd Cymru wedi tyfu dros y ddau ddegawd ers datganoli, mae gwendidau yn nemocratiaeth y wlad ac yn ymgysylltiad dinasyddion yn benodol. Mae’r niferoedd sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn dal yn ystyfnig o isel, ond dim ond prif ddangosydd o faterion dyfnach yw hyn. Mae nifer o adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at yr heriau cynyddol sy’n wynebu democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys lefelau isel o wybodaeth ymhlith y cyhoedd am sefydliadau democrataidd Cymru a’u hymgysylltiad â nhw, a “llithro democrataidd” lle mae safonau democrataidd yn dirywio’n raddol dros amser (Defining, Measuring, and Monitoring Democratic Health in Wales, 2023 a Building Bridges: Wales’ Democracy – now, and for our future, 2023).

Fel y nodwyd yn y bennod flaenorol, un o’r dadleuon cryfaf a wnaeth dinasyddion dros newid cyfansoddiadol yw eu bod yn teimlo nad yw eu pleidleisiau, na’u lleisiau, yn cael digon o ddylanwad ar weithredoedd y llywodraeth. Daeth y neges hon o’r holl ffynonellau ansoddol, gan gynnwys y paneli dinasyddion a’r ymatebion i’r arolwg ar-lein. Mae dinasyddion wedi dweud wrthym fod y pŵer i bleidleisio yn fecanwaith annigonol i gael dylanwad ystyrlon dros y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn eu henw.

Fe wnaethom nodi ym mhennod 2 bod llawer o bobl yn cyfuno gweithredoedd y llywodraeth â’r strwythurau llywodraethu y mae’n rhaid iddi eu dilyn. Mae hon yn her benodol yng Nghymru, lle mae’r sefydliadau democrataidd wedi cael eu newid dro ar ôl tro, a bu cyfnodau cymharol hir o lywodraeth o dan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan a llywodraeth o dan arweiniad Llafur yng Nghymru.

Cyfrifoldeb cymdeithas ddinesig yn ei chyfanrwydd yw cryfhau ymddiriedaeth ac ymgysylltiad â phroses llywodraeth, nid dim ond y pleidiau gwleidyddol a'r cyfryngau. Mae angen i bawb gyfrannu at fynd i’r afael â’r sinigiaeth sy’n erydu’r ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion ac sy’n tanseilio democratiaeth. Mae’r mecanweithiau rydym yn eu trafod isod yn ffyrdd o gyfoethogi democratiaeth drwy roi gwell gwybodaeth i aelodau etholedig am farn a syniadau dinasyddion, pan fyddan nhw’n cael eu galluogi i gymryd rhan ac yn cael gwybodaeth ddibynadwy i’w defnyddio.

Adennill hyder dinasyddion mewn democratiaeth gynrychioladol

Diwygio’r Senedd

Amcan y cynigion presennol i ddiwygio’r Senedd yw cryfhau ei allu i gynrychioli pobl yng Nghymru a chraffu ar Lywodraeth Cymru a’i dal i gyfrif. Mae’r Senedd wedi deddfu i ehangu’r etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, i wella’r broses cofrestru etholiadol ac i alluogi arloesi yn y ffordd y gall dinasyddion bleidleisio, gan ddefnyddio’r pwerau a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2017.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion i gynyddu maint y Senedd o 60 i 96 o Aelodau, i’w gweithredu erbyn etholiad 2026. Diben hyn yw cynyddu ei gapasiti i gyflawni ei gyfrifoldebau presennol, a'i alluogi i ysgwyddo rhai ychwanegol wrth i’r setliad datganoli gael ei addasu. Rydym yn croesawu’r cynigion hyn yn fawr, sy’n adeiladu ar waith y Panel Arbenigol a gafodd ei gynnull gan y Llywydd yn ystod tymor blaenorol y Senedd.

Mae angen trefniadau etholiadol newydd i ethol 96 o aelodau. Bydd y cynllun arfaethedig yn creu 16 etholaeth Senedd, pob un yn ethol chwe Aelod ar system gyfrannol ‘rhestr gaeedig’. Bydd gofyn i’r pleidleiswyr ddewis rhwng rhestrau o ymgeiswyr a fydd wedi cael eu henwebu gan y pleidiau gwleidyddol. Bydd y chwe Aelod a fydd yn cael eu hethol o bob etholaeth yn adlewyrchiad agos o lefelau’r gefnogaeth a gafodd pob plaid yn yr etholaeth honno, ond fydd pleidleiswyr ddim yn cael y cyfle i ddewis ymgeiswyr unigol.

Rydym yn croesawu’r camau i gynyddu cymesuredd a chapasiti yn y cynigion presennol, ac rydym yn cefnogi’n gryf y cynlluniau i adolygu’r system newydd ar ôl etholiad 2026. Byddai’r cynigion ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn golygu bod angen i un o Bwyllgorau’r Senedd baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effeithiau’r Ddeddf, gan ystyried materion fel:

  • Effeithiau’r system bleidleisio newydd ar gymesuredd
  • Cyflwyno etholaethau aml-aelod
  • Y profiad o restrau caeedig

Mae’r dull o ethol ein cynrychiolwyr yn hollbwysig. Mae’r dull rhestr gaeedig arfaethedig yn well na’r ‘system aelodau cymysg’ bresennol, lle mae pleidleiswyr, yn y bleidlais etholaethol, yn dewis rhwng un ymgeisydd sy’n cael ei ddewis gan bob plaid ac, yn y bleidlais ranbarthol, rhwng rhestrau caeedig sy’n cael eu dewis gan bleidiau gwleidyddol. Bydd hyn yn sicrhau mwy o gymesuredd ond mae’n golygu na fydd gan bleidleiswyr gysylltiad uniongyrchol â’u Haelod lleol o’r Senedd mwyach. Bydd pleidleiswyr ond yn gallu dewis rhwng y rhestrau a gyflwynir gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol unigol, os byddant yn sefyll mewn etholiad; ni fyddant yn gallu pleidleisio o blaid ymgeisydd er enghraifft sydd mewn safle is na rhywun arall yn y blaid.

Rydym yn gweld achos da dros ddewisiadau eraill fel Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu system rhestr agored, lle gall pleidleiswyr ddewis rhwng unigolion a enwir sy’n cynrychioli pleidiau neu ymgeiswyr annibynnol yn ogystal â rhwng pleidiau gwleidyddol. Rydym yn cydnabod bod hyn yn gallu arwain at gystadlu mewnol rhwng ymgeiswyr o’r un blaid, ond rydym yn annog y pwyllgor i ystyried y ffactorau hyn ynghyd â chanfyddiadau pleidleiswyr o degwch yn y system fel rhan o’i adolygiad.

Roedd Memorandwm Esboniadol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn datgan y bydd y Pwyllgor yn gallu

ystyried unrhyw fater arall o ran diwygio'r Senedd y mae'n ystyried ei fod yn berthnasol yng nghyd-destun cynnal adolygiad o'r graddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bodoli yng Nghymru, a gallai ystyried:

  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o lywodraeth ac etholiadau datganoledig Cymru
  • Asesiad o lefelau pleidleisio ac archwiliad o gynigion ar gyfer sut y gellir cynyddu hyn
  • Cymorth i aelodau a phleidiau i ymgymryd â'u rolau yn y Senedd
  • Y seilwaith sydd ar waith i gefnogi democratiaeth gref yng Nghymru

Rydym yn argymell y dylid darparu adnoddau ar gyfer yr adolygiad arfaethedig o ddiwygio’r Senedd i sicrhau dadansoddiad cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o effaith y newidiadau, gan gynnwys o safbwynt y pleidleisiwr ac atebolrwydd democrataidd.

Mynediad i’r etholfraint

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd dulliau gwahanol o ddiwygio etholiadol a’r etholfraint. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud hi’n haws pleidleisio yn etholiadau cenedlaethol Cymru ac mewn etholiadau lleol, wedi ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion gwledydd eraill sydd â’r hawl i breswylio yng Nghymru, wedi cyfyngu ar hawliau dinasyddion y DU sy’n byw dramor i bleidleisio ac wedi ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed.

Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd yr agwedd groes, gan gyfyngu ar hawliau pleidleisio dinasyddion gwledydd eraill, ymestyn hawliau dinasyddion Prydain dramor, a chyflwyno gofyniad i ddangos ID cyn pleidleisio mewn etholiadau i Senedd San Steffan a thros Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi nodi nad oedd y newid olaf yn seiliedig ar dystiolaeth o dwyll ac mae llawer o sylwebyddion wedi dadlau ei fod yn adlewyrchu ymgais i atal pleidleiswyr.

Rydym yn croesawu polisi Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfranogiad etholwyr sy’n talu trethi yng Nghymru a’i gwneud yn haws i bobl fwrw eu pleidlais. Mae’r dulliau gweithredu gwahanol yn golygu y bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cymryd rhan mewn etholiadau sy’n dilyn rheolau gwahanol, gydag etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yn dilyn dull gweithredu Llywodraeth Cymru, ac etholiadau Senedd San Steffan ac ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dilyn rheolau Llywodraeth y DU. Mae hyn yn ddryslyd i bleidleiswyr, ond yn ein barn ni mae’n well canlyniad nag ymestyn model cyfyngol llywodraeth y DU i etholiadau datganoledig.

Llythrennedd democrataidd

Un neges gref o’n gwaith ymgysylltu yw bod dinasyddion yn teimlo nad oes ganddyn nhw wybodaeth na dealltwriaeth o sut mae systemau llywodraeth yn gweithio, pwy sy’n gyfrifol am beth a sut maen nhw’n gallu dylanwadu ar yr agenda wleidyddol.

Cymru yn y cyfryngau

Mae dinasyddion wedi dweud wrthym nad ydyn nhw’n cael digon o wybodaeth drwy’r cyfryngau am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Yn yr arolwg cynrychioladol a gynhaliodd Beaufort Research ar ein rhan, roedd 73% o’r ymatebwyr yn cytuno “Dydych chi ddim yn gweld nac yn clywed digon am sut mae Cymru’n cael ei rhedeg yn y cyfryngau”. Daeth hyn i’r amlwg yn ystod y pandemig; dywedodd llawer o ddinasyddion wrthym eu bod wedi drysu am y rheolau cyfyngiadau symud, gyda darlledwyr yn camgymryd bod rheolau Lloegr yn berthnasol mewn rhannau eraill o’r DU (daeth hyn i’r amlwg yn Adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned ac yn yr ymatebion i Dweud eich Dweud/ Have your Say, a gafodd eu cynnal yn ystod cyfyngiadau olaf covid).

Mae hyn yn bwysig i lythrennedd democrataidd oherwydd darlledu ar y teledu yw prif ffynhonnell newyddion llawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig pobl hŷn. Mae pobl iau yn fwy tebygol o gael gafael ar newyddion a gwybodaeth ar-lein, drwy wefannau, apiau newyddion a chyfryngau cymdeithasol (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023). Mae modd cysylltu’r ffynonellau digidol hyn â chyfryngau darlledu traddodiadol; mae gan bron i bob sianel newyddion a phapur newydd bresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol ac apiau pwrpasol.

Newyddion ar y teledu yw’r brif ffynhonnell newyddion a gwybodaeth fel rheol i bobl yng Nghymru, gyda gwefannau newyddion ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol yn dilyn; mae gwahaniaethau amlwg fesul grŵp oedran.

Prif ffynhonnell newyddion a gwybodaeth
Image
Prif ffynhonnell, fesul oedran (%)
Image
Cwestiwn: Ble ydych chi’n cael eich newyddion a gwybodaeth?(%)

Graff yn crynhoi sut mae dinasyddion yng Nghymru yn cael eu prif ffynhonnell o newyddion a gwybodaeth.

Graff o adroddiad 2023 Beaufort Research

Os nad yw’r ffynonellau hyn yn rhoi gwybodaeth gywir i ddinasyddion am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru, a’r camau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd yn eu henwau, yna ni fydd dinasyddion yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Gwella llythrennedd democrataidd yng Nghymru

Rhaid i’r ymateb i’r lefelau isel o lythrennedd democrataidd yng Nghymru gynnwys rhoi mwy o wybodaeth a gwybodaeth well i bobl am sut mae llywodraeth ddemocrataidd yn gweithio.

Fodd bynnag, rhaid iddo fynd ymhellach na dim ond darparu gwybodaeth: mae ar bobl angen y sgiliau meddwl beirniadol i wneud synnwyr o wybodaeth o’r fath o amrywiaeth o ffynonellau mewn oes o dwyllwybodaeth, cyfryngau cymdeithasol, a safbwyntiau gwleidyddol wedi’u pegynu. Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i gynllunio i gryfhau’r ffocws ar y sgiliau hyn mewn ysgolion, ond mae angen cyrhaeddiad ehangach o lawer.

Mae gan gyfranogiad mewn prosesau democrataidd, drwy bleidiau gwleidyddol ac undebau llafur, ran bwysig i’w chwarae, yn ogystal â chymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gweithgareddau gwirfoddol yn lleol ac yn genedlaethol.

Arloesi democrataidd

Mae addasu sefydliadau a gweithrediad democratiaeth gynrychiadol, fel diwygio’r system etholiadol, yn un ffordd o fynd i’r afael â gwendidau democratiaeth yng Nghymru. Mae ffordd arall yn cynnwys cyflwyno mecanweithiau arloesol i gynnwys dinasyddion mewn prosesau gwneud penderfyniadau, fel ffordd o adfywio democratiaeth. Mae mecanweithiau o’r fath yn aml yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â’r strwythurau presennol i ethol gwleidyddion a llywodraethau, ac yn ceisio eu hategu. Drwy ganolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad grwpiau cymdeithasol amrywiol mewn democratiaeth, a hyrwyddo trafodaethau gwybodus, rhesymegol a pharchus rhwng dinasyddion, mae’r arloesi hyn yn cynnig y potensial ar gyfer math mwy dilys ac effeithiol o ddemocratiaeth.

Mae llywodraethau lleol a chanolog mewn llawer o wledydd yn defnyddio mecanweithiau cyfranogol a chydgynghorol i gefnogi gwaith sefydliadau democrataidd a rhoi profiad ymarferol i ddinasyddion o drafod a chyfaddawdu. Nid oes yr un o’r rhain yn atebion i bopeth ond drwy eu defnyddio’n ddoeth mae’n bosibl iddyn nhw gael effaith fawr at sut mae dinasyddion a chynrychiolwyr etholedig yn deall democratiaeth ac yn rhannu pŵer.

Democratiaeth gyfranogol a chydgynghorol

Mae’r naill derm yn cael ei ddefnyddio yn lle’r llall weithiau, ac mae llawer o orgyffwrdd rhwng y ddau. Nid oes yr un dull yn well na’r llall, mae gwerth i’r ddau o ran ennyn dinasyddion i gymryd mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus, ochr yn ochr yn ochr â mecanweithiau ymgysylltu mwy confensiynol a democratiaeth gynrychioladol draddodiadol.

Yn gyffredinol mae dulliau ‘democratiaeth gyfranogol’ yn ymwneud â chynnwys dinasyddion mewn ffyrdd gweithredol ac ystyrlon yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau (Public participation for 21st century democracy, 2015). O fewn y rhain, mae dulliau ‘democratiaeth gydgynghorol’ fel arfer yn brosesau mwy strwythuredig sy’n ceisio rhoi gwybodaeth i ddinasyddion am bwnc, ac yna cefnogi myfyrio a thrafodaeth er mwyn llunio safbwyntiau gwybodus (Innovative Citizen Participation and New Democratic Institutions: Catching the Deliberative Wave, 2020). Er hynny, mae’r ddau derm yn cwmpasu amrywiaeth enfawr o arferion sy’n ceisio annog dinasyddion i gyfranogi a chydgynghori mwy mewn democratiaeth.

Mae’r term ‘arloesi democrataidd’ yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r fformatau cyfranogol a chydgynghorol gwahanol. Mae arloesi democrataidd yn “brosesau neu’n sefydliadau sy’n cael eu datblygu i ailddychmygu a dyfnhau rôl dinasyddion mewn llywodraethiant democrataidd drwy gynyddu’r cyfleoedd i gymryd rhan, cydgynghori a dylanwadu” (Defining and typologising democratic innovations, 2019, tud 11). Yn ymarferol, mae ystod eang o wahanol fathau o arloesi democrataidd (ibid, tud 25).

Enghreifftiau o arloesi democrataidd:

  • Cynulliadau bach i’r cyhoedd (fel Cynulliadau Hinsawdd neu Reithgorau Dinasyddion)
  • Cyllidebu cyfranogol
  • Llywodraethiant cydweithredol (fel sefydliadau angori cymunedol; Adeiladu Cyfoeth Cymunedol, neu bartneriaethau cyhoeddus-cymunedol)
  • Pleidleisiau a mentrau dinasyddion
  • cyfrannu torfol Digidol

Cryfderau a gwendidau

Mae cefnogwyr arloesi democrataidd yn dadlau bod gwneud hyn yn dda yn gallu arwain at bolisïau gwell a chanlyniadau polisi gwell. Maent yn galluogi llunwyr polisïau i wneud dewisiadau polisi anodd, yn rhoi rhagor o wybodaeth i ddinasyddion, ac yn adfer ymddiriedaeth dinasyddion yn y broses ddemocrataidd.

Fodd bynnag, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod i’r fei yn gyflym o bob cwr o’r byd hefyd o gyfyngiadau’r dulliau hyn. Mae hyn ar sail gwerthuso dyluniad, gweithrediad a chanlyniadau amrywiaeth eang o ddatblygiadau arloesi democrataidd. Roedd adolygu’r gwaith hwn yn llawn y tu hwnt i gwmpas y Comisiwn, ond mae’r prif heriau a nodwyd yn ymwneud â recriwtio i ddatblygiadau arloesi democrataidd o’r fath, sut maen nhw’n cael eu trefnu ac i ba raddau maen nhw’n arwain at unrhyw newid polisi neu wleidyddol. Serch hynny, defnyddiodd yr arbenigwyr rhyngwladol y buom yn siarad â nhw y sylfaen dystiolaeth hon i amlinellu tair elfen ‘beth sy’n gweithio’ mewn unrhyw broses gyfranogol a chydgynghorol. Dylai Arloesi Democrataidd fod yn:

  • Aml-ddull: gan gyfuno amrywiaeth o arloesi democrataidd
  • Cynhwysol a chydgynghorol
  • Wedi’u grymuso a chanlyniadol

(O gyflwyniad i’r Comisiwn gan yr Athro Oliver Escobar, Athro Polisi Cyhoeddus ac Arloesi Democrataidd, Prifysgol Caeredin, 2023)

Er mwyn gweithio mae’n rhaid i’r arloesi hyn fod yn ganolog i’r broses o lunio polisïau. Mae angen cysylltiad clir â’r broses o wneud penderfyniadau; os nad oes digon o ewyllys wleidyddol i ddilyn y prosesau hyn, neu os daw’r canlyniadau’n destun dadlau pleidiol, mae hyn yn gallu achosi mwy o ddadrithiad a sinigiaeth.

Mae arloesi democrataidd yn galw am lawer o adnoddau, felly dylid cyflwyno hyn yn ofalus a chan fod yn glir o ran sut bydd hyn yn cael ei ddefnyddio. Yn y DU mae dulliau o’r fath yn aml wedi bod yn gynlluniau peilot bach, untro heb ddigon o gysylltiad â’r broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol i gael effaith ystyrlon hirdymor.

Ar ben hynny, dylid defnyddio dulliau o’r fath yn ofalus, gan na fydd pob math o arloesi democrataidd yn addas i bob mater. Mae’n gallu dieithrio os bydd llywodraethau’n addo gormod ac yn tangyflawni wrth ymateb i ganlyniadau’r amser sylweddol sydd wedi cael ei fuddsoddi gan ddinasyddion.

Dylid teilwra’r prosesau yn ôl y cymunedau lleol dan sylw. Mae angen cryn ofal i ddylunio prosesau sy’n ystyrlon, yn effeithiol ac yn gynrychioliadol, ac sy’n cynnwys y rheini sy’n wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan. Mae arloesi democrataidd ar draws y byd yn dangos cyfleoedd a heriau casglu corff gwirioneddol gynrychioladol o ddinasyddion.

Profiad Cymru

Mae’r diddordeb ym mhotensial arloesi democrataidd wedi tyfu yng Nghymru er mwyn ymgysylltu dinasyddion â phrosesau democrataidd a gwneud penderfyniadau. Mae’r egwyddor hon yn ganolog, er enghraifft, i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sydd â “cynnwys” yn un o’r pum ‘ffordd o weithio’, gyda’r nod o sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant a nodir yn y Ddeddf (Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol: yr hanfodion). Fodd bynnag, nid oes data cymharol ar gael eto ar sut mae cyrff cyhoeddus wedi rhoi’r egwyddor hon ar waith yn ymarferol, ac nid yw’n glir i ba raddau mae’r Ddeddf yn arwain at drawsnewid sylfaenol yn arferion ymgysylltiad dinasyddion yng Nghymru.

Er hynny, ceir tystiolaeth bod mwy a mwy o ymdrechion ar hyd a lled Cymru i ddefnyddio gwahanol ddulliau democratiaeth gyfranogol a chydgynghorol. Er enghraifft clywsom dystiolaeth am strategaethau cydgynhyrchu i gryfhau llais dinasyddion wrth ddatblygu cynlluniau gofal a chymorth cymdeithasol, ac roedd y prosiect ‘Mesur y mynydd’ wedi cynnull rheithgor dinasyddion i bwyso a mesur beth sy’n bwysig mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru. Roedd y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny, wedi trefnu cynulliad dinasyddion ym mis Gorffennaf 2019 i ystyried sut gall pobl Cymru siapio eu dyfodol drwy waith y senedd, ac ym mis Mawrth 2021 roedd Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent wedi ystyried ffyrdd o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig hefyd wedi ymgysylltu â phanel dinasyddion i edrych ar rôl y cyfryngau yng Nghymru.

Mae cyllidebu cyfranogol hefyd wedi cael ei dreialu mewn gwahanol lefydd: cafodd ei ddefnyddio gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Ngogledd Cymru i ganiatáu i grwpiau cymunedol yn Wrecsam a Sir y Fflint ddyrannu cyfran o’r arian sy’n cael ei atafaelu gan droseddwyr (Participatory Budgeting: an evidence review, 2017), ac roedd cyllidebu cyfranogol yng Nghasnewydd yn cael ei normaleiddio fel proses i ddyrannu adnoddau i brosiectau llesiant cymunedol. Cawsom dystiolaeth hefyd o brosiectau peilot ar hyd a lled Cymru sy’n datblygu dulliau creadigol o gydgynghori, ac sy’n dangos y potensial i Gymru arloesi yn y maes hwn a chyfrannu at strategaethau i ymgysylltu â dinasyddion y tu hwnt i Gymru (Dulliau creadigol o drafod, 2023).

Er gwaethaf y cynlluniau hyn, mae profiad Cymru o ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol yn dal yn gymharol gyfyngedig ac ad hoc. Mae cyni, y DU yn gadael yr UE a’r pandemig byd-eang wedi effeithio ar rai prosiectau, fel yr un i wella llais dinasyddion mewn gofal cymdeithasol. Roedd y gwerthusiad o’r prosiect hyd yma wedi canfod bwlch mawr rhwng dyheadau Llywodraeth Cymru i drawsnewid ymgysylltiad dinasyddion a’r hyn a oedd wedi cael ei gyflawni go iawn hyd yma (o gyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn ym mis Mehefin 2023).

Roedd cynlluniau eraill, fel y cynulliadau dinasyddion, wedi cael eu cynllunio i fod yn ddigwyddiadau unwaith-ac-am-byth heb unrhyw lwybr clir i ddylanwadu ar lunio polisïau na dadleuon gwleidyddol yn ehangach. Mae’r prosiectau sy’n datblygu methodolegau creadigol newydd ar gyfer cydgynghori yn dal ar raddfa fach iawn. Er eu bod yn addawol o ran eu gallu i greu sgyrsiau cydgynghorol mwy cynhwysol a myfyriol, mae diffyg cyllid i’w cynyddu ac i archwilio ymhellach sut mae cysylltu prosesau o’r fath â’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ar lefelau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Mae potensial i gyrff cyhoeddus Cymru wneud yn well o lawer nag y maent wedi’i wneud hyd yma i arloesi er mwyn cryfhau democratiaeth.

“Cyfansoddiad” i Gymru?

Nid oes gan y DU na’r cenhedloedd sy’n rhan ohoni gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae’r setliad datganoli eisoes yn cynnwys rhai elfennau o gyfansoddiad ysgrifenedig, er enghraifft, diffinio pwerau yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y darpariaethau partneriaeth statudol yn Neddf Cymru 1998, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Ar ben hynny, roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi sefydlu’r Senedd a Gweinidogion Cymru, wedi amlinellu eu pwerau, ac wedi gosod eu rheolau gweithredu a’r berthynas rhyngddyn nhw.

O ystyried y rhyngweithio â deddfwriaeth San Steffan sy’n awdurdodi bodolaeth y sefydliadau datganoledig (ni chaiff y Senedd ddiwygio’r rhan fwyaf ohonynt), ni fyddai’n bosibl creu cyfansoddiad hunangynhaliol a chynhwysfawr i Gymru o dan strwythur llywodraethiant datganoledig. Fodd bynnag, gallai fod yn werthfawr defnyddio’r enghreifftiau statudol hyn a’u hategu gyda rhai egwyddorion cyffredinol o llywodraethiant da i greu datganiad ynghylch sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu a sut y dylid ei llywodraethu. Pe bai hyn yn cael ei wneud drwy gynnwys dinasyddion Cymru, gallai ysgogi trafodaeth a myfyrio a gwella llythrennedd democrataidd a dinesig yng Nghymru.

Byddai ymgynghori’n eang ar ddrafftiau a defnyddio mecanweithiau democratiaeth gydgynghorol a chyfranogol yn ffordd bwysig o gynnwys dinasyddion yn y broses a rhoi arwyddocâd i’r ‘cyfansoddiad’. Byddai angen i’r Senedd gadarnhau’r datganiad hwn, a defnyddio ei fodolaeth i lywio dealltwriaeth y cyhoedd o llywodraethiant yng Nghymru. Rydym yn credu y gallai cynhyrchu datganiad ‘a wnaed yng Nghymru’ am ein llywodraethiant fod yn werthfawr er mwyn egluro’r hyn y mae dinasyddion Cymru am ei gael ac yn ei ddisgwyl gan eu sefydliadau llywodraethu.

Ar y sail hon, gan ddefnyddio’r capasiti a’r arbenigedd rydym yn argymell eu creu, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain prosiect i ymgysylltu dinasyddion â’r gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethiant i Gymru. Mae nifer o wledydd wedi cynnal ymarferion tebyg, gan gynnwys Awstralia, Gwlad yr Iâ, yr Aifft a Chile, ac mae gwledydd eraill fel Iwerddon a Chanada wedi defnyddio arloesi democrataidd ar agweddau ar ddiwygio cyfansoddiadol. Mae’r prosiectau hyn wedi llwyddo i wahanol raddau; wrth ymgymryd â phrosiect o’r fath dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r profiad rhyngwladol o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio (How to Have a National Conversation on Wales’s Constitutional Future, 2023).

Sybsidiaredd a llywodraeth leol

Ym mhennod 7 rydym yn trafod sut mae’r opsiynau gwahanol ar gyfer y dyfodol yn cymharu o ran sybsidiaredd. Ar ben hynny, rydym yn credu ei bod hi’n bosibl ymestyn sybsidiaredd o fewn y setliad datganoli presennol.

Egwyddor sybsidiaredd yw bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y lefel sydd agosaf at y dinesydd, sy’n cyd-fynd â darpariaeth effeithiol. Mae hyn yn golygu cydbwysedd rhwng arbedion maint, rheolaeth leol ac atebolrwydd. O’i gymharu â’i chymdogion yn Ewrop, mae’r DU yn wladwriaeth ganolog, gyda llai o bwerau’n cael eu dal ar lefel ranbarthol neu lywodraeth leol nag mewn llawer o wledydd eraill o faint tebyg.

Mae rhai yn dadlau bod gan Lywodraeth Cymru ormod o gyfrifoldebau y gellid eu dirprwyo i awdurdodau lleol neu i grwpiau rhanbarthol o awdurdodau. Mae cynigion i wella sybsidiaredd fel hyn yn dibynnu ar allu awdurdodau i ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Mae llawer o sylwebyddion yn dadlau bod 22 awdurdod lleol yn ormod mewn gwlad o faint Cymru. Ers 1999, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio’n aflwyddiannus i leihau’r nifer, gan gynnwys opsiwn i uno awdurdodau cyfagos yn wirfoddol (nid oes yr un awdurdod lleol wedi gwneud hyn). Mae’r rheini sy’n gwrthwynebu newid yn sôn am gost ad-drefnu, a’r posibilrwydd o darfu ar wasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.

Mae ffactorau eraill sydd yn erbyn ad-drefnu’n cynnwys:

  • y cyllid cyfyngedig sydd ar gael yng nghyd-destun cyni, a’r cynnydd cymharol mewn cronfeydd wedi’u neilltuo, er bod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i leihau nifer y grantiau penodol, gan roi mwy o reolaeth dros wariant i awdurdodau lleol.
  • pwysau gan bleidleiswyr ac Aelodau o’r Senedd i Weinidogion Cymru gael pwerau goruchwylio, rheoli neu ymyrryd ar faterion lleol, fel y gellir dal Gweinidogion Cymru yn atebol am y materion hynny.
  • Gweinidogion Cymru eisiau dylanwadu’n fwy uniongyrchol ar ddarpariaeth, a chanoli gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd.
  • Diwylliant canoli cyffredinol mewn bywyd gwleidyddol ar draws y DU, sy’n golygu bod datganoli’n golygu mynd ati i weithio yn erbyn y ffordd mae pethau wedi cael eu gwneud o’r blaen ac yn cael eu gwneud mewn rhannau eraill o’r DU.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi deddfu i gryfhau’r cydweithio rhanbarthol rhwng awdurdodau ac i gryfhau democratiaeth leol drwy, er enghraifft, tâl gwell i gynghorwyr a mecanweithiau craffu gwell.

Fe wnaethom gwrdd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddwywaith ac ystyried ei maniffesto lleoliaeth. Y tu hwnt i hyn, nid oeddem wedi cymryd tystiolaeth ar bwerau llywodraeth leol, gan ein bod yn teimlo bod hynny’r tu hwnt i’n cylch gwaith.

Mae llywodraeth leol yn rhan hollbwysig o ddemocratiaeth yng Nghymru, ac mae gan gynghorwyr lleol fandad ac atebolrwydd uniongyrchol iawn yn eu hardal. Rydym yn credu y dylai eu rôl fod yn rhan o’r ddadl gyfansoddiadol, ac y dylai aelodau etholedig ymgysylltu’n adeiladol â’r materion am faint a chapasiti a nodwyd uchod. Dylid gosod nod o sicrhau rhagor o ddatganoli yng Nghymru pan fydd maint a chapasiti yn caniatáu, a dylai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r rhain.

Casgliadau

Dylai ein dealltwriaeth o ddemocratiaeth fod yn fwy eang na dim ond system llywodraethiant. Mae pŵer fel y gallu i newid pethau yn cael ei wella gan arweinyddiaeth wedi’i dosbarthu sy’n cynnwys cynrychiolwyr etholedig a dinasyddion. Mae angen inni ategu a chyfoethogi democratiaeth gynrychiadol gyda mecanweithiau cydgynghorol a chyfranogol.

Rydym yn annog cynrychiolwyr etholedig i feddwl sut gall arloesi democrataidd wella perthnasedd democratiaeth gynrychioladol ac ansawdd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Rydym yn gwneud tri argymhelliad i gryfhau democratiaeth yng Nghymru. Mae’r rhain yn bwysig, pa bynnag fodel cyfansoddiadol a gefnogir yn y pen draw gan bobl Cymru.

Argymhellion

1. Arloesi democrataidd

Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y Senedd.

2. Egwyddorion cyfansoddiadol

Gan ddefnyddio’r arbenigedd hwn, dylai Llywodraeth Cymru arwain prosiect i gynnwys dinasyddion yn y gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethiant i Gymru.

3. Diwygio’r Senedd

Rydym yn argymell y dylid darparu adnoddau ar gyfer yr adolygiad arfaethedig o ddiwygio’r Senedd i sicrhau dadansoddiad cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o effaith y newidiadau, gan gynnwys o safbwynt y pleidleisiwr ac atebolrwydd democrataidd.

Voices from Care Cymru

Partner y Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned: Voices from Care Cymru

Voices From Care Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Mae’n sefydliad Hawliau Plant. Mae’n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac yn eu cefnogi i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan ddylanwadwyr a phenderfynwyr. Mae gan Voices From Care Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o gefnogi pobl ifanc fel hyn, pobl sy’n aml yn wynebu sawl anfantais, gan gynnwys digartrefedd, diweithdra a phroblemau iechyd meddwl. Mae’r gwaith hwn yn eu cefnogi i ddeall ac i ymgysylltu â phrosesau gwneud penderfyniadau, ac i ddylanwadu arnynt yn effeithiol.

“Fe gymerodd hi sbel i ni gyfleu i’n haelodau pa mor bwysig yw hyn iddyn nhw, ond ar ôl iddyn nhw ddechrau deall hynny, doedd dim taw arnyn nhw! Os bydd rhagor gyfleoedd i ymgysylltu â’r gwaith hwn, bydden nhw’n falch iawn o’r cyfle.”

Hwylusydd Voices From Care Cymru

Lleisiau

Cyfranogwyr ymgysylltu (dienw) mewn trafodaeth:

“Dydyn nhw [Aelodau o’r Senedd a gwleidyddion Cymru yn gyffredinol] ddim yn cael pethau’n iawn bob tro. A dweud y gwir maen nhw’n aml yn gwneud llanast o bethau. Ond o leiaf gallwn ni siarad â nhw.”

“Gwlad fach ydyn ni. Mae angen i ni weithio gyda’n cymdogion.”

“Nid yw’n gwneud synnwyr. Mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud yr hyn mae un llywodraeth yn ei ddweud wrthyn nhw sy’n iawn. Ond mae’r Llys yn cael ei reoli gan lywodraeth wahanol. Dwi ddim yn deall sut roedd unrhyw un wedi meddwl am hynny.”

“Pan fyddwch chi’n prynu eich tŷ eich hun, dydych chi ddim yn gofyn i’ch cymdogion sut mae ei addurno na phryd i roi’r gwres ymlaen. Pam ydyn ni (pobl Cymru) yn dal i adael i’n cymdogion (pobl Lloegr) ddweud wrthym ni beth i’w wneud?”

“Wedi’r cyfan, dydy llygredd ddim yn gorffen wrth y ffin nac ydy? Os byddan nhw’n tywallt [....] i’r môr ym Mryste, fydd e wedi cyrraedd Abertawe mewn dim o dro.”

“Fe wnaethon nhw adael i ni bleidleisio pan oedden ni’n 16 do? Mae hynny’n dangos eu bod yn meddwl bod yr hyn sydd gennym ni i’w ddweud yn bwysig.”

“Rydyn ni’n rhy fach i gystadlu â gwledydd eraill ar ein pen ein hunain.”

“Wel, os ydyn nhw’n mynd i ddal ati i rannu pŵer, mae angen iddyn nhw weithio’n iawn gyda’i gilydd.”

Pennod 4: diogelu datganoli

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn adolygu’r ffordd mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn gweithio. Rydym yn gwneud argymhellion am y newidiadau sydd eu hangen ar frys i ddiogelu datganoli, pa bynnag fodel cyfansoddiadol mae pobl Cymru yn ei ddewis i’r hirdymor.

Mae’r berthynas rhwng y sefydliadau datganoledig a San Steffan yn elfen hanfodol o lywodraethu Cymru. Yn ein hadroddiad interim, fe wnaethom nodi bod y berthynas wedi troi’n fregus ac ansefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd datganoli yn 1999 yn gam mawr ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru, ac yn 2011 roedd y bleidlais boblogaidd wedi cymeradwyo’r sefydliadau datganoledig fel system lywodraethu gyflawn gyda phwerau deddfu sylfaenol. Mae canlyniadau Brexit wedi datgelu pa mor fregus yw’r strwythur llywodraethu hwn. Mae Llywodraeth a Senedd y DU wedi diystyru confensiwn Sewel 11 o weithiau ers refferendwm 2016 i adael yr UE, heb bron dim craffu na herio yn San Steffan. Yn yr achosion hyn roedd llywodraethau Cymru a’r DU yn cytuno bod angen cydsyniad Senedd Cymru; mewn un achos fe gafwyd cydsyniad ag eithrio lle bu gwelliant munud olaf a doedd yr amserlen ddim yn caniatau ystyriaeth gan y Senedd. Mewn pump achos arall roedd Llywodraeth y DU o’r farn nad oedd angen cydsyniad ond mi roedd ei angen ym marn Llywodraeth Cymru.

Nid ydym yn gwneud unrhyw argymhelliad ynghylch pa opsiwn cyfansoddiadol hirdymor sydd orau i Gymru; mae hynny’n benderfyniad i ddinasyddion a’u cynrychiolwyr. Mae hi’n gwbl amlwg i ni na ellir cymryd y setliad datganoli presennol yn ganiataol ac mae mewn perygl o gael ei erydu’n raddol heb gamau i’w ddiogelu. Dylai dinasyddion allu dewis ‘dim newid’, ond heb weithredu ar frys ni fydd setliad hyfyw i’w ddiogelu.

Barn dinasyddion

Mae galw ar lywodraethau i gydweithio er mwyn cyflawni’n effeithlon er budd y cyhoedd wedi bod yn thema gref yn ein tystiolaeth. Roedd llawer wedi sôn am eu rhwystredigaeth am yr hyn roeddent yn ei weld fel ‘sgorio pwyntiau gwleidyddol’, ‘bod yn wahanol dim ond er mwyn bod yn wahanol’, a llywodraethau’n gweithio yn erbyn ei gilydd yn hytrach na chydweithredu i wella bywyd dinasyddion (cafodd y pwyntiau hyn eu cyflwyno yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein, mewn paneli dinasyddion ac yn rhai o adroddiadau’r gronfa ymgysylltu â'r gymuned).

Cydweithredu

Mae ymchwil Cyflwr yr Undeb yn dangos bod rhwng 58% (yr Alban) a 65% (Lloegr) o’r ymatebwyr ym mhedair gwlad yn y DU yn cytuno y byddai’r DU yn cael ei llywodraethu’n well pe bai llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cydweithio mwy (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin).

Cydweithio rhynglywodraethol

Image

Cwestiwn: Pa un sydd agosaf at eich barn chi? Byddai llywodraethiant y DU yn well pe bai’r gweinyddiaethau datganoledig a’r DU yn cydweithio mwy ar faterion o ddiddordeb cyffredin; byddai llywodraethiant y DU yn well pe bai’r DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau eu hunain; Ddim yn gwybod.

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023

Nid yw dinasyddion yn defnyddio’r term ‘cysylltiadau rhynglywodraethol’ wrth sôn am sut mae llywodraethau’n rhyngweithio, ond maent yn datgan yn glir bod arnynt eisiau i lywodraethau gydweithio. Mae 92% o’r rheini a holwyd yn credu ei bod yn bwysig i’r ddwy lywodraeth weithio’n dda gyda’i gilydd (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023). Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydynt yn hoffi un o’r llywodraethau hynny: maent yn bodoli, maent yn gwneud penderfyniadau a dylent gydweithio (cafodd y farn hon ei chyflwyno mewn ymatebion i’r arolwg ar-lein, yn enwedig arolwg y platfform ymgysylltu ar-lein lle’r oedd cwestiynau penodol am gydweithredu rhynglywodraethol).

Pan fydd cysylltiadau rhynglywodraethol yn methu, mae llawer o ddinasyddion yn meddwl llai o’r naill lywodraeth a’r llall. Fel y nodir ym mhennod 2, yn aml ni fydd pobl yn gwahaniaethu rhwng gwleidyddiaeth plaid, strwythurau cyfansoddiadol a gwasanaethau cyhoeddus. Yn gyffredinol, nid oes gan ddinasyddion amynedd gyda llywodraethau’n beio ei gilydd yn hytrach na chanolbwyntio ar wella gwasanaethau (cafodd y farn hon ei chyflwyno, yn gryf weithiau, gan ymatebwyr i’r arolygon ar-lein a thrwy adroddiadau’r gronfa ymgysylltu â’r gymuned).

Mae anallu llywodraethau i gydweithio’n adeiladol yn gwaethygu dadrithiad pobl â gwleidyddiaeth. Mae dinasyddion yn teimlo bod pwyntio’r bys a gweld bai yn enghreifftiau o gynrychiolwyr etholedig yn hyrwyddo eu buddiannau eu hunain. Yn ein harolwg ar y platfform ymgysylltu ar-lein, dywedodd llawer o bobl nad oeddent yn credu y gallai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fyth weithio gyda’i gilydd mewn ffordd adeiladol tra byddai pleidiau gwleidyddol gwahanol mewn grym oherwydd nad oedd hyn er budd y pleidiau sy’n llywodraethu (roedd arolwg y platfform ymgysylltu ar-lein yn cynnwys cwestiwn penodol yn gofyn a allai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n well gyda’i gilydd yn y dyfodol, ac roedd mwyafrif cymharol yn teimlo mai dim ond pan fyddai’r un blaid wleidyddol mewn grym yng Nghaerdydd ac yn Llundain y byddai hyn yn bosibl).

Nid oedd dinasyddion yn defnyddio’r term ‘mecanweithiau ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol’ yn aml, ond roedd cefnogaeth gref ar draws pedair gwlad y DU i gael cyfansoddiad ysgrifenedig neu fecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfodau rhwng llywodraethau (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin  – mae pennod 6 yn edrych ar y pwynt hwn yn fanylach).

Mae’n ymddangos bod y gefnogaeth hon yn adlewyrchu ymdeimlad o degwch, sydd ar wahân i ddewisiadau cyfansoddiadol yr ymatebwyr. Roedd llawer o’r ymatebwyr yn meddwl y byddai mecanweithiau o’r fath yn diogelu’r pethau sy’n werthfawr iddyn nhw. Er enghraifft, roedd y rheini a oedd eisiau cadw goruchafiaeth Senedd y DU yn cefnogi camau i atal Llywodraeth Cymru rhag mynd y tu hwnt i’w phwerau. Roedd y rheini sy’n cefnogi diogelu’r setliad datganoli presennol o leiaf, eisiau mecanweithiau i ddiogelu’r sefydliadau datganoledig rhag cael eu tanseilio gan Lywodraeth y DU (roedd dau gwestiwn cyntaf arolwg y platfform ymgysylltu ar-lein yn ymwneud â chyfansoddiad ysgrifenedig, gan ofyn i’r ymatebwyr roi gwybod pam y byddent o blaid neu yn erbyn cael un i Gymru).

Parch

Mae ein hymchwil yn dangos bod dinasyddion yng Nghymru yn disgwyl triniaeth gyfartal a pharch cydradd â gwledydd eraill y DU. Mae ymchwil Cyflwr yr Undeb yn dangos bod dinasyddion ar draws y DU o blaid parchu’r sefydliadau datganoledig ac nad ydynt yn cefnogi ymyrraeth na deddfwriaeth Llywodraeth y DU ar faterion datganoledig heb gydsyniad.

Ymysg yr ymatebwyr hyn, nid oedd llawer o gefnogaeth i Lywodraeth y DU yn ceisio rhwystro llywodraethau datganoledig rhag gweithredu o fewn eu pwerau. Roedd mwyafrif cymharol (mae ‘mwyafrif cymharol’ yn derm penodol mewn dadansoddi ystadegol – mae’n golygu’r gyfran fwyaf, ond nid mwyafrif) cymharol o’r ymatebwyr o blaid ymyrryd dim ond pan roedd y sefydliadau datganoledig yn gweithredu y tu allan i’w pwerau (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin).

Gweithredu gan Lywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig

Image

Cwestiwn: Mae’r setliadau datganoli presennol yn caniatau i lywodraeth y DU rwystro gwahanol weithgareddau’r deddfwrfeydd datganoledig o dan amodau penodol. Ym mha amgylchiadau, os o gwbl, y dylai Llywodraeth y DU geisio rhwystro gweithgareddau’r gweinyddiaethau datganoledig? Os yw’n credu bod y corff datganoledig yn gweithredu y tu allan i’w bwerau penodedig; Os yw’n credu bod y corff datganoledig yn gweithredu o fewn ei bwerau penodedig ond nad yw’n cytuno a’r nodau polisi; Pryd bynnag mae’n dymuno gwneud hynny, mae Senedd y DU yn oruchaf; Byth, mae gan y cyrff datganoledig eu mandad democrataidd eu hunain; Ddim yn gwybod.

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023

Pan ofynnwyd a ddylai Senedd y DU allu deddfu ar faterion datganoledig, dim ond 17% yn Lloegr ddywedodd y dylai allu wneud hynny ‘pryd bynnag y mae’n dymuno’ – roedd y cyfrannau’n is yn yr Alban (12%) a Chymru (14%) ac yn debyg yng Ngogledd Iwerddon, er bod lefel llawer uwch o ‘ddim yn gwybod’ (33%) yn Lloegr, gan adlewyrchu nad oeddent yn gyfarwydd â’r mater (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin).

Mewn cyferbyniad, roedd 45% yn yr Alban, 37% yng Nghymru a 37% yng Ngogledd Iwerddon o blaid cryfhau confensiwn Sewel er mwyn iddo wahardd deddfwriaeth o’r fath heb ganiatâd neu mewn unrhyw amgylchiadau. Dim ond 26% oedd y ffigur cymharol yn Lloegr. O’i gyfuno â’r 28% a oedd yn ffafrio egwyddor bresennol Sewel sef nad yw Senedd y DU yn deddfu ‘heb gydsyniad fel arfer’, mae hyn yn golygu bod mwyafrif yr ymatebwyr o Loegr o blaid dulliau Sewel o ymdrin â deddfwriaeth o leiaf. Wrth drafod pwerau Llywodraeth y DU i wario ar faterion datganoledig, roedd y patrwm yn debyg, gyda llai na phumed rhan o’r ymatebwyr yn Lloegr, yr Alban a Chymru o’r farn na ddylai fod unrhyw rwystr.

Pryd dylai Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig? (%)
 LloegrYr AlbanCymruGogledd Iwerddon
Pryd bynnag y mae'n dymuno gwneud hynny17121417
Ddim fel arfer hed ganiatâd24192028
Dim ond gyda chaniatâd21242428
Byth522139
Ddim yn gwybod33232918

Cwestiwn: Mae’r setliadau datganoli presennol yn caniatáu i senedd y Deyrnas Unedig **ddeddfu** ar faterion datganoledig ar gyfer Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Pa un o’r datganiadau canlynol sydd agosaf at eich barn chi? Dylai Senedd y DU ddeddfu ar faterion datganoledig pryd bynnag y mae’n dymuno gwneud hynny; ni ddylai Senedd y DU fel arfer ddeddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig; dim ond gyda chaniatâd y deddfwrfeydd datganoledig y dylai Senedd y DU ddeddfu ar faterion datganoledig; ni ddylai Senedd y DU fyth ddeddfu ar faterion datganoledig; Ddim yn gwybod (nid yw geiriau mewn print trwm yn ymddangos mewn print trwm i’r ymatebwyr).

Tabl a gymerwyd o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023

(Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

Pryd dylai Llywodraeth y DU wario mewn meysydd datganoledig?
 LloegrYr AlbanCymruGogledd Iwerddon
Pryd bynnag y mae'n dymuno gwneud hynny14151722
Ddim fel arfer hed ganiatâd21181923
Dim ond gyda chaniatâd21282729
Byth111264
Ddim yn gwybod33273222

Cwestiwn: Mae’r setliadau datganoli presennol yn caniatáu i lywodraeth y Deyrnas Unedig **wario** ar faterion datganoledig yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Pa un o’r datganiadau canlynol sydd agosaf at eich barn chi? Dylai Llywodraeth y DU wario ar faterion datganoledig pryd bynnag y mae’n dymuno gwneud hynny; ni ddylai Llywodraeth y DU fel arfer wario ar faterion datganoledig heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig; dim ond gyda chaniatâd y deddfwrfeydd datganoledig y dylai Llywodraeth y DU wario ar faterion datganoledig; ni ddylai Llywodraeth y DU fyth wario ar faterion datganoledig; Ddim yn gwybod [nid yw geiriau mewn print trwm yn ymddangos mewn print trwm i’r ymatebwyr.]

(Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Mae’r rhan fwyaf o ddinasyddion yn deall rhywfaint am sut mae cyfrifoldebau polisi’n cael eu rhannu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ond nid oes llawer yn gwybod yn union pwy sy’n gwneud beth. Nid yw dealltwriaeth y cyhoedd wedi gwella rhyw lawer yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, er bod y pandemig wedi codi proffil datganoli (casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023).

Image

Sail: Pawb 2023 (1,596), Arolwg y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru 2013 (2,009), Dylid cymryd gofal wrth gymharu canlyniadau’r arolygon hyn oherwydd methodolegau gwahanol (2023 = Ar-lein, 2013 = Ffon). Cymariaethau wedi’u gwneud lle y bo’n bosibl.

Cwestiwn: Dyma restr o feysydd. Ar gyfer pob un, dewiswch pwy sy’n rheoli’r maes yn bennaf yng Nghymru yn eich tyb chi: Senedd a Llywodraeth Cymru ynteu Senedd y DU yn San Steffan a Llywodraeth y DU? (%)

Ffigyrau mewn inc trwm o Arolwg y Comisiwn ar Ddatganoli yn 2013

Adroddiad a gymerwyd o adroddiad 2023 Beaufort Research

(Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023)

Pwy ddylai fod yn gyfrifol

Image

Cwestiwn: Yn y meysydd polisi canlynol, yn eich barn chi, pwy DDYLAI fod a’r pŵer a’r cyfrifoldeb mwyaf o ran Cymru? Sampl wedi’i phwysoli o 959 o oedolion yng Nghymru (14-15 Hydref 2023)

Graff o arolwg barn a gynhaliwyd gan Redfield and Wilton ar gyfer Wales Online, Hydref 2023 (The Powers People Think Westminster Should Give to Wales, 2023)

Prif amcan dinasyddion yn aml yw bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithlon, yn effeithiol a’u bod yn diwallu eu hanghenion. Pan fydd gan bobl safbwyntiau pendant am sut mae cyfrifoldebau polisi’n cael eu rhannu, mae hyn yn aml yn dibynnu ar eu barn am bwy sy’n gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel orau. Roedd hon yn farn a gyflwynodd dinasyddion inni droeon yn yr arolygon ar-lein, yn adroddiadau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned a thrwy’r paneli dinasyddion – ansawdd darparu gwasanaethau cyhoeddus oedd y ffon fesur i fesur effeithiolrwydd llywodraeth, ac i lawer roedd yn ffactor a oedd yn penderfynu pa fframwaith cyfansoddiadol oedd orau i Gymru yn eu barn nhw.

Diogelu datganoli

Mae datganoli yng Nghymru yn seiliedig ar ganlyniad dau refferendwm ac mae’n parhau i fwynhau cefnogaeth y cyhoedd. Ni ddylid ei erydu heb gydsyniad dinasyddion. I grynhoi, dyma brif nodweddion y setliad presennol:

  • Mae pwerau deddfu ar y rhan fwyaf o faterion cartref wedi’u datganoli i’r Senedd ond gall Senedd y DU basio deddfau sy’n effeithio ar faterion datganoledig heb gytundeb y Senedd.
  • Mae’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn dibynnu ar gonfensiwn. Llywodraeth y DU sydd â’r hawl cychwyn yn y cysylltiadau hyn. Cafodd y system ei diwygio, drwy gytundeb, yn 2022 ond mae’n dal i ddibynnu ar ymrwymiad Gweinidogion unigol.
  • Mae’r pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru fwy neu lai yr un fath â’r Alban, ac eithrio cyfiawnder a phlismona, rhai pwerau amrywio trethi, rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol a rhai agweddau ar wasanaethau rheilffyrdd.

Y diffyg sylfaenol yn y system bresennol o ddatganoli yw ei bod yn bosibl iddi gael ei newid yn unochrog drwy fwyafrif yn Senedd San Steffan. Mae’r gwendid hwn yn rhan annatod o’r model datganoli sy’n seiliedig ar bwerau a roddwyd gan Senedd San Steffan, y gall Senedd San Steffan eu diddymu unrhyw bryd.

Yr unig ffordd o gyfyngu ar hawl Senedd y DU i ddeddfu fel y gwêl yn dda yw drwy roi’r gorau i’r egwyddor o sofraniaeth seneddol, sy’n cael ei hystyried yn gyffredinol yn gonglfaen i gyfansoddiad y DU (The contested boundaries of devolved legislative competence, 2023). Mae’n anodd rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn y tymor byr i ganolig. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o fesurau y gellid, ac y dylid, eu rhoi ar waith i sicrhau bod datganoli’n strwythur llywodraethiant sefydlog a hyfyw i Gymru.

Y broses rynglywodraethol

Mae proses rynglywodraethol y DU wedi’i hadeiladu ar ddwy sylfaen:

  • Egwyddor: confensiwn Sewel, sy’n cyfyngu ar Senedd San Steffan rhag deddfu ar faterion datganoledig. Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi y cydnabyddir na fydd Senedd y Deyrnas Unedig fel arfer yn deddfu yng nghyswllt materion datganoledig heb gydsyniad y Cynulliad. Mae Deddf yr Alban 2016 yn cynnwys yr un ddarpariaeth i’r Alban.
  • Ymarfer: y trefniadau rhynglywodraethol a sefydlwyd yn 1999 ac a ailstrwythurwyd yn 2022, yn dilyn cydadolygiad gan y pedair llywodraeth.

Dyma elfennau pwysicaf unrhyw broses rynglywodraethol:

  • rhagweladwyedd
  • mecanwaith datrys anghydfodau
  • parch cydradd at fandad etholiadol pob llywodraeth
  • gweithdrefnau y mae pob llywodraeth yn teimlo sy’n deg.

Mae proses effeithiol i reoli’r rhyngweithio rhwng cyfrifoldebau gwledydd y DU yn hanfodol. Nid oes modd osgoi rhyngweithio o’r fath mewn unrhyw setliad datganoli, ac mae ffiniau a rennir yn golygu y byddai’n parhau o dan fodelau cyfansoddiadol eraill. Mae gwella’r berthynas mewn ysbryd o gydweithredu a pharch cydradd yn hanfodol, pa bynnag opsiwn a ddilynir.

Yn aml, nid yw cydlywodraethu’n cael ei werthfawrogi fel nodwedd o ddatganoli. Mae p’un a ddylid datganoli mater ynteu ei gadw’n ôl yn aml yn cael ei weld fel cwestiwn deuaidd sy’n anwybyddu’r angen am gydlywodraethu yng nghyswllt materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl.  Mae creu marchnad fewnol newydd yn y DU ar ôl Brexit wedi ehangu’r cwmpas ar gyfer cydlywodraethu ac mae’n golygu bod cysylltiadau gweithio da rhwng llywodraethau yn bwysicach o lawer nawr nag yn 1999. Mae datganoli materion fel treth hefyd wedi golygu bod cydlywodraethu yn bwysicach.

Nid yw cydlywodraethu yn golygu bod dewisiadau polisi un llywodraeth yn gorfod cystadlu yn erbyn y llall. Mae’n golygu cydnabod buddiannau’r naill a’r llall a galluogi datrys tensiynau drwy broses y cytunir arni. Mae canfyddiadau’r is-grŵp trafnidiaeth (rydym yn trafod is-grwpiau’r Comisiwn ym mhennod 5) ar seilwaith rheilffyrdd Cymru yn cyflwyno achos cryf dros ddefnyddio rhagor ar gydlywodraethu yng nghyswllt seilwaith trawsffiniol.

Mae’r strwythur newydd o Grwpiau Rhyngweinidogol yn creu fframwaith cydlynol posibl ar gyfer cydlywodraethu, ar yr amod bod yr agendâu a’r cynlluniau gwaith yn ymdrin â’r materion pwysicaf sy’n gofyn am gydweithredu rhwng llywodraethau. Mae’n hanfodol bod y strwythur hwn yn datblygu i ddarparu’r parhad a’r sefydlogrwydd sy’n meithrin ymddiriedaeth a chyd-ddealltwriaeth, er mwyn iddo allu cynnal newidiadau mewn staff a bod yn ddigon cadarn i reoli argyfyngau neu anghytundebau pan fyddant yn codi.

Yn anad dim arall, mae cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol yn flaenoriaeth i ddinasyddion. Dylai’r newidiadau rydym yn eu hargymell isod gael eu gweithredu gan unrhyw lywodraeth sy’n poeni am lywodraethu’r DU mewn ffordd sefydlog ac effeithiol.

Gwersi o systemau ffederal

Mae gwahaniaethau rhwng llywodraethau o fewn gwladwriaeth yn anochel beth bynnag yw eu hymlyniad gwleidyddol, fel y gwelir mewn systemau ffederal ar draws y byd.

Mae gan wladwriaethau ffederal fel Awstralia a Chanada strwythurau sefydledig ar gyfer cysylltiadau rhwng haenau llywodraeth. Fel arfer, mae’r rhain yn cael eu parchu gan bob plaid fel elfen hanfodol er mwyn sicrhau bod y wladwriaeth yn gweithredu’n effeithiol, ac maent yn seiliedig ar ddiwylliant o gydweithredu a chydweithio, neu ‘ysbryd ffederal’, sy’n cynnwys:

  • derbyn lle a dilysrwydd y sefydliadau is-wladwriaethol wrth lywodraethu'r wladwriaeth yn ei chyfanrwydd
  • ymrwymiad bod y sefydliadau llywodraethu ar bob lefel yn cydweithio er gwell
  • parch at y peirianwaith sylfaenol sy’n hwyluso cydweithio o’r fath.

Nodweddion cysylltiadau mewnol mewn gwladwriaethau ffederal

  • Sicrwydd: strwythurau sefydlog, wedi’u sefydlu’n ffurfiol, sy’n gysylltiedig â’r cyfansoddiad.
  • Rhagweladwyedd: cytunir ar amserlenni ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â’r cylch gwneud penderfyniadau
  • Rheoli gwrthdaro: disgwylir gwrthdaro rhwng lefelau llywodraeth a darperir ar gyfer hynny.

Cyflwr cysylltiadau rhynglywodraethol

Yn 2022, cytunodd pedair llywodraeth y DU ar drefniadau rhynglywodraethol newydd, yn dilyn Adolygiad Dunlop a sefydlwyd gan y Prif Weinidog Theresa May (Review of UK Government Union Capacity, 2019). Mae gan y strwythurau newydd rai o nodweddion model ffederal, ac eithrio bod y trefniadau yn y DU yn ddewisol, ac nad oes mecanwaith i herio penderfyniadau’r Trysorlys. Yn fwy sylfaenol, nid yw’r ‘ysbryd ffederal’ cydweithredol yn nodwedd gref o gysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU.

Confensiwn Sewel

Mae amheuaeth ynghylch gwerth confensiwn Sewel (troednodyn 1) o ran diogelu pwerau’r sefydliadau datganoledig, oherwydd mae Llywodraeth a Senedd y DU wedi’i ddiystyru droeon ers 2016 gweler uchod. Roedd llawer o’r rhain yn ymwneud â deddfwriaeth sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â Brexit, fel Deddfau Ymadael â’r UE a Deddf y Farchnad Fewnol 2020. Roedd Llywodraeth y DU o’r farn ei bod yn dilyn confensiwn Sewel wrth i San Steffan ddeddfu heb gydsyniad mewn rhai amgylchiadau, a bod y ddeddfwriaeth i weithredu Brexit yn eithriadol.

Rydym yn derbyn, o dan y pwysau i weithredu Cytundeb Ymadael ymarferol neu wynebu Brexit heb gytundeb, bod Llywodraeth a Senedd y DU yn teimlo bod yn rhaid iddi ddeddfu heb gydsyniad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cyfiawnhau’r broses unochrog a ddilynwyd, gan gynnwys torri’r llywodraethau datganoledig allan o’r cynllun gymerodd le cronfeydd strwythurol yr UE, a gwneud cytundebau masnach a oedd yn niweidiol i fuddiannau datganoledig. Nid yw ychwaith yn cyfiawnhau peidio ag anrhydeddu’r ymrwymiadau a wnaed i’r llywodraethau datganoledig i’w cynnwys yn y trafodaethau ar adael yr UE.

Mae’r cydweithio adeiladol rhwng y pedair llywodraeth ar fframweithiau cyffredin (roedd y fframweithiau cyffredin yn gyfres o gytundebau ar gyfer rheoli’r pwerau a oedd yn cael eu harfer gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac sydd nawr yn cael eu harfer yn y DU fel cymysgedd o bwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl) yn eithriad penodol i’r dirywiad yn y cysylltiadau ar ôl Brexit. Mae Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi wedi awgrymu bod y fframweithiau mewn perygl o ddod yn gyfle a gollwyd, yn rhannol oherwydd bod Deddf y Farchnad Fewnol 2020 a Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 wedi ‘herio’r dull consensws a fabwysiadwyd yn y fframweithiau cyffredin’ (Common frameworks: an unfulfilled opportunity?, 2022).

Mae’r dystiolaeth yn cadarnhau’r pryderon a nodwyd ym mhennod 7 ein hadroddiad interim. Nid ydym yn credu y gellir adfer confensiwn Sewel i’w safle blaenorol heb ei atgyfnerthu.

Atebion gweithdrefnol a deddfwriaethol

Yng nghamau cynnar ein gwaith, roedd yn ymddangos nad oedd modd datrys y broblem hon oherwydd bod goruchafiaeth Senedd San Steffan yn cael ei hystyried yn sylfaenol i gyfansoddiad anysgrifenedig y DU. Wrth inni dreiddio’n ddyfnach, gwelsom y gallai fod ffyrdd o gyfyngu ar Lywodraeth San Steffan sydd â mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin heb gwestiynu hanfodion cyfansoddiad Prydain.

Wrth gwrs, gallai unrhyw gyfyngiadau o’r fath gael eu gwrthdroi gan lywodraeth ddilynol gyda mwyafrif, yn yr un modd ag y diddymwyd Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011 gan Ddeddf Diddymu a Galw’r Senedd 2022. Fodd bynnag, mae newid cyfyngiadau a osodir mewn statud yn codi’r bar gwleidyddol yn sylweddol, gan ei gwneud yn anos tanseilio’r setliad datganoli yn unochrog. Rydym yn argymell y darpariaethau canlynol i gyflawni hyn:

Darpariaethau deddfwriaethol i ddiogelu datganoli

  1. rhoi rhai egwyddorion allweddol sy’n ymwneud â chysylltiadau a strwythurau rhynglywodraethol mewn statud a’u gwneud yn draddodadwy
  2. rhoi mewn statud ei bod yn rhaid cael cydsyniad y sefydliadau datganoledig fel mater o gyfraith ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:
    • Unrhyw newid i gwmpas pwerau deddfwriaethol neu weithredol datganoledig
    • Unrhyw newid arall i’r setliad datganoli
    • Arfer unrhyw bŵer deddfwriaethol gan Senedd y DU o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ar wahân i newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud er mwyn cyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch gwladol neu bolisi macroeconomaidd
    • Arfer unrhyw bŵer gweithredol gan weinidogion llywodraeth y DU o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli
  3. strwythuro’r ddeddfwriaeth sy’n deddfu hyn yn y fath fodd fel na ellid ei diddymu na’i diwygio’n rhwydd gan fwyafrif syml o Dŷ’r Cyffredin heb achosi niwed sylweddol i enw da o leiaf.

Rydym yn awgrymu y dylai’r amddiffyniadau hyn fod yn berthnasol i bob un o’r tri setliad datganoli, os yw deddfwrfeydd a llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon yn eu cefnogi. Rydym yn credu bod yr atebion hyn yn hanfodol i Gymru.

Mecanweithiau rhynglywodraethol

Mewn llythyr at yr Arglwydd Dunlop ym mis Mawrth 2021, cyflwynodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn ar y pryd, Michael Gove, fwriadau Llywodraeth y DU (llythyr oddi wrth y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, 2021). Dywedodd mai’r amcan oedd creu ‘system lywodraethu a fydd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth hirdymor rhwng llywodraethau’ a ‘cefnogi ymgynghori effeithiol a rheolaidd a, phan fo’n briodol, gwneud penderfyniadau ar y cyd mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin’.

Pwyntiau allweddol o’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol, Ionawr 2022
  • cynhaliodd pedair llywodraeth y DU adolygiad ar y cyd gyda phenaethiaid y pedair llywodraeth yn cytuno ar yr adroddiad.
  • roedd yr adroddiad yn cynnig creu strwythur tair haen newydd:
    • Haen 1 o’r Grwpiau Rhyngweinidogol
    • Haen 2 o Grwpiau Gweinidogol trawsbynciol, a
    • haen uchaf o Benaethiaid Llywodraeth
  • roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ymrwymiad i gydweithio, ymddiriedaeth a thryloywder.
  • byddai ysgrifenyddiaeth annibynnol, yn cael ei recriwtio o’r pedair llywodraeth, a mecanwaith cyflafareddu annibynnol newydd yn rhwymo pob adran ar wahân i Drysorlys EF.

(Review of Inter-governmental Relations, 2022)

Cymysg yw’r dystiolaeth o’r cynnydd at yr amcan hwn. Mae’r trefniadau newydd a gyhoeddwyd gan y pedwar pennaeth llywodraeth yn 2022 yn gwneud gwelliannau sylweddol, gan gynnwys strwythur newydd y Grwpiau Rhyngweinidogol sy’n delio ag 16 o bortffolios Whitehall.

Mae’r newidiadau hyn yn gosod sail am strwythur mwy effeithlon ac fe ddylai’r mecanwaith cyflafareddu annibynnol gryfhau hyder ac ymddiriedaeth. Fodd bynnag, gan ystyried dylanwad penderfyniadau Trysorlys EF ar lywodraeth ddatganoledig, mae’n anodd cyfiawnhau ei gadw allan o’r mecanwaith hwn.

Roedd adroddiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023 yn nodi nifer o feysydd lle nad yw’r arfer o weithredu’r diwygiadau wedi cyrraedd y nod o ran yr egwyddorion a nodir yn y cydadolygiad. Dyma’r prif broblemau:

  • dim llawer o ymwneud gan Brif Weinidog y DU
  • oedi cyn cynnull rhai o’r Grwpiau rhyngweinidogol
  • ymrwymiad amheus rhai o Weinidogion y DU i’r grwpiau fel fforymau ar gyfer ymgysylltu go iawn, nid oedd y ffaith bod Gweinidogion y DU yn cael eu newid yn gyflym wedi helpu hyn
  • cyfathrebu gwael
  • diffyg parodrwydd ar gyfer cyfarfodydd

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw potensial y strwythurau newydd wedi cael ei brofi’n llawn eto. Mae cydweithio rhynglywodraethol go iawn yn gofyn am gryn egni ac ymrwymiad ar draws pob rhan o lywodraeth a thrwy gydol oes gweinyddiaeth. Nid ydym wedi gweld hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae diffyg parch at y sefydliadau datganoledig, fel deddfwrfeydd etholedig ac fel gweithrediaethau sy’n atebol i’r cyhoedd drwy’r deddfwrfeydd hynny, yn tanseilio cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU. Er bod sofraniaeth Senedd y DU yn un o gonglfeini cyfansoddiad y DU, nid oes sail gyfreithiol dros ‘sofraniaeth weithredol’ a fyddai’n cyfiawnhau gweld llywodraethau datganoledig yn israddol i adrannau Llywodraeth y DU.

Nid yw diwylliant a thybiaethau gweithredol Whitehall yn rhoi parch cydradd i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir gyda Thrysorlys EF sydd, i bob golwg, yn ystyried bod y llywodraethau datganoledig yn destun craffu ganddo yn yr un modd ag adrannau Whitehall.

Cysylltiadau rhynglywodraethol: treth a chyllid

Yn ein hadroddiad interim, fe wnaethom ddweud bod y cyfyngiadau cyllidebol a roddwyd ar waith gan Drysorlys EF yn tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb a chynllunio ar gyfer yr hirdymor. O ystyried atebolrwydd Llywodraeth Cymru i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, ac felly i’w hetholwyr, nid oes cyfiawnhad dros y cyfyngiadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am yr hyblygrwydd ariannol canlynol i wella gwerth am arian. Rydym yn credu y dylai’r Trysorlys dderbyn y rhain neu egluro ei resymeg dros beidio â chytuno.

Terfynau benthyca a thynnu i lawr

Dylai’r gwelliannau a wnaed i Fframwaith Cyllidol Llywodraeth yr Alban mewn perthynas â therfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn gael eu cymhwyso’n awtomatig i Gymru heb fod angen adolygu Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru. Byddai cymhwyso’r un trefniadau ar gyfer Cymru yn golygu:

  • Mynegeio eu terfynau benthyca a chronfeydd wrth gefn cyffredinol yn ôl chwyddiant.
  • Diddymu eu cyfyngiadau ar dynnu arian wrth gefn i lawr.

Mae achos hefyd dros gynyddu terfynau benthyca cyfalaf.

Hyblygrwydd i reoli newidiadau yn ystod y flwyddyn

Mae newidiadau hwyr i gyllidebau yn cyflwyno sawl her, gan gynnwys: anhawster wrth ddefnyddio dyraniadau mawr ac annisgwyl cyn diwedd y flwyddyn ariannol mewn ffyrdd sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian; a rheoli toriadau mawr annisgwyl. Byddai newidiadau fel y rheini i Fframwaith Cyllidol Llywodraeth yr Alban yn helpu gyda’r broblem hon ond efallai na fyddant yn ddigon i ddelio ag ychwanegiadau neu ostyngiadau mawr yn hwyr yn y flwyddyn. Dylid sefydlu egwyddor y gellir rheoli newidiadau cyllido a gadarnhawyd ar ôl digwyddiad cyllidol yn yr hydref dros flynyddoedd ariannol, yn ogystal ag unrhyw gario ymlaen a ganiateir o dan drefniadau arian wrth gefn, er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei rheoli’n effeithiol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Cyhoeddiadau mawr yn ystod y flwyddyn

Dylai Llywodraeth y DU ystyried ateb tebyg i’r Warant Covid wrth wneud penderfyniadau a allai gynnwys dyrannu symiau sylweddol o arian yn ystod y flwyddyn. Byddai hyn yn golygu darparu cyllid ychwanegol i lywodraethau datganoledig mewn da bryd, hyd yn oed pan allai gwrthbwyso newidiadau yn y gyllideb effeithio ar lefelau cyllid cyffredinol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gellid cysoni unrhyw newidiadau gofynnol yn nes ymlaen. Byddai hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i lywodraethau datganoledig am y cyllid sydd ar gael cyn i sefyllfeydd adrannol cyffredinol Llywodraeth y DU gael eu cadarnhau yn Amcangyfrifon Atodol y DU tua diwedd y flwyddyn ariannol.

Er y byddai’r camau a amlinellir uchod yn gwella’n sylweddol ar y sefyllfa bresennol, rydym ni o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhydd i reoli ei hadnoddau ariannol, gan fod yn atebol i’r Senedd, ag eithrio lle mae angen cyfyngiadau er mwyn gweithredu polisi macroeconomaidd y DU, ac y dylai cytundeb yn y dyfodol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn seiliedig ar yr egwyddor hon.

Trethi datganoledig

Mae hyn yn codi’r cwestiwn ehangach am agwedd Llywodraeth y DU at gynigion gan Lywodraeth Cymru am drethi newydd. Ar hyn o bryd, mae’r Trysorlys yn gofyn am gyfiawnhad polisi manwl ar gyfer pob cynnig am drethi newydd. Mae hyn yn gallu achosi oedi hir ac nid yw’n cyd-fynd ag atebolrwydd Llywodraeth Cymru i’r Senedd. Ystyriwyd bod y Dreth arfaethedig ar Dir Gwag yn ddechrau addas ar gyfer y rhaglen o ddatblygu trethi newydd. Gan nad yw wedi cwblhau’r broses craffu Trysorlys EF ar ôl pedair blynedd, mae’n rhesymol dod i’r casgliad mai bwriad hyn yw rhwystro arloesedd.

Yn fwy cyffredinol, mae’r cyfle i Lywodraeth Cymru addasu treth incwm yn fwy cyfyngedig na Llywodraeth yr Alban. Nid oes achos mewn egwyddor dros y driniaeth wahanol hon. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o bwerau neu fwy o hyblygrwydd, yn unol â’r llywodraethau datganoledig eraill, dylid cael rhagdybiaeth o gytundeb oni bai fod achos strategol dros barhau i gadw yn ôl yn y canol, yn unol â’r argymhellion a wnawn yn nes ymlaen yn yr adroddiad ar gyfer arfer pwerau.

Gellir darparu’r hyblygrwydd ariannol a threth a gynigiwn o fewn fframwaith presennol fformiwla Barnett. Yn y tymor hirach, cydnabyddir yn gyffredinol bod y fformiwla’n fecanwaith annigonol i bennu anghenion gwariant y gwledydd datganoledig. Mae datganoli wedi esblygu’n eithriadol ers ei gyflwyno dros 40 mlynedd yn ôl, a bu newidiadau sylweddol dros y cyfnod hwnnw o ran llywodraethiant rhanbarthau Lloegr.

Credwn fod achos cynyddol dros adolygu cyllid y llywodraethau datganoledig, o dan arweiniad llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig ar y cyd. Dylai’r adolygiad hwn ystyried, o’r egwyddorion cyntaf, sut mae dyrannu adnoddau ar draws gwahanol rannau’r DU, ar sail asesiad ar y cyd o anghenion cymharol a chydag elfen gref o oruchwyliaeth annibynnol.

Cysylltiadau rhynglywodraethol: data

Mae gwaith is-grŵp y Comisiwn ar gyfiawnder a phlismona (pennod 5) yn dangos bod diffyg data sy’n benodol i Gymru yn rhwystr sylweddol i atebolrwydd a gwella perfformiad. Nid ydym wedi cymryd tystiolaeth ar rannu data mewn meysydd eraill ond rydym yn pwysleisio bod data sy’n benodol i Gymru ar faterion a gedwir yn ôl yn hanfodol i gefnogi’r broses o lunio polisïau’n well. Dylid rhagdybio o blaid casglu, rhannu a rhoi cyhoeddusrwydd i ddata gwasanaeth fel mater o drefn.

Cysylltiadau rhynglywodraethol a ffiniau’r setliad

Mae methiant cysylltiadau rhynglywodraethol wedi arwain at ganlyniadau polisi gwael ar ffiniau’r setliad datganoli. Mae hyn yn arbennig o wir am gyfiawnder, ac mewn trafnidiaeth. Rydym yn edrych ar yr heriau y mae ffiniau presennol datganoli yn eu cyflwyno o ran llywodraethiant da a chyflawni effeithiol ym mhennod 5.

Arloesi polisi

Un o’r dadleuon cynnar dros ddatganoli oedd galluogi’r llywodraethau datganoledig i roi cynnig ar syniadau newydd, fel y digwyddodd gyda chodi tâl am fagiau plastig yng Nghymru ac a fabwysiadwyd wedyn yng ngweddill y DU. Wrth holi dinasyddion, mae’n ymddangos eu bod yn gwerthfawrogi polisïau unffurf ar draws y DU, ond mae’r gefnogaeth i bolisïau unffurf yn disgyn wrth holi am bolisïau lle mae gwahaniaethau sylweddol rhwng gwledydd, fel codi am bresgripsiynau (The Ambivalent Union: Findings from the State of the Union Survey, 2023). Gellir credu hefyd bod dinasyddion yn y gwledydd datganoledig yn credu y dylid cyflwyno polisïau eu gwlad nhw ar draws y DU i sicrhau unffurfiaeth, gan deimlo y dylai rhannau eraill o’r DU elwa o’r polisïau llwyddiannus sydd wedi cael eu treialu ‘gartref’.

Mae’r pedair llywodraeth wedi cefnogi’r dull labordy polisïau hwn mewn egwyddor. Yn ymarferol, mae’r diwylliant gwleidyddol wedi bod yn fwy amheus, gan fabwysiadu ymagwedd ‘heb ei ddyfeisio yma’ yn hytrach na chroesawu amrywiaeth.

Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig wedi bod yn gyd-destun mwy cefnogol ar gyfer dysgu ar y cyd, efallai am ei fod yn fwy ar wahân i wleidyddiaeth fewnol y DU.

Enghreifftiau diweddar o ddatganoli yng Nghymru fel labordy polisïau

Treth

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gorff bach newydd gydag 80 aelod o staff ac mae’n gyfrifol am ddwy dreth ddatganoledig. Mae wedi gallu arloesi gyda model busnes digidol ac sy’n cael ei arwain gan bartneriaeth. Mae Cyllid a Thollau EF Llywodraeth y DU wedi dangos diddordeb cadarnhaol yn null gweithredu’r Awdurdod ac wedi gwahodd y Prif Weithredwr i rannu’r hyn a ddysgwyd â’i staff.

Peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal

Mae Llywodraeth Cymru yn profi effaith isafswm incwm ar ragolygon pobl ifanc sy’n gadael gofal, sy’n agored i niwed ac mewn perygl o gael eu denu at droseddu ac ymddygiad hunan-niweidiol. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi ymosod ar y cynllun peilot yn gyhoeddus ac nid ydynt wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn dysgu ohono.

Ceiswyr lloches

Fe wnaeth is-grwp budddaliadau lles y Comisiwn (pennod 5) ofyn i Lywodraeth Cymru am y posibilrwydd o gynnig peilot ardal i brofi’r effaith ar wasanaethau cyhoeddus a refeniw trethi yn sgil lleihau’r rhwystrau i geiswyr lloches sy’n chwilio am waith. Roeddent yn teimlo na fyddai peilot o’r fath yn debygol o gael cefnogaeth gan Lywodraeth y DU, yn rhannol am resymau polisi ac yn rhannol oherwydd y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol.

Rydym yn cydnabod bod cymhlethdod yr enghreifftiau hyn yn amrywio, a bod cymhwysedd deddfwriaethol yn gallu bod yn gyfyngiad. Mewn ysbryd o gydweithio i hwyluso dulliau gweithredu newydd, gallai Llywodraeth y DU roi cymhwysedd dros dro i’r ddeddfwrfa ddatganoledig er mwyn gallu cynnal cynllun peilot polisi.

Gellid gwneud hyn drwy ddull Gorchymyn y Cyfrin Gyngor a ddarperir yn Neddf Llywodraeth Cymru, yn dilyn cynsail 2013 pan wnaed gorchymyn yn rhoi cymhwysedd dros dro i Senedd yr Alban ddeddfu, ar gyfer refferendwm annibyniaeth. Gallai cynllun peilot sy’n caniatáu i geiswyr lloches gael mwy o fynediad at waith fod yn ffordd bosibl o ddefnyddio pŵer o’r fath, gyda Senedd Cymru yn cael pŵer am gyfnod oes Senedd y DU i sefydlu cynllun a gweld sut gallai weithio. Gallai Senedd nesaf y DU ddeddfu, petai awydd i ehangu’r cynllun peilot ar draws y DU.

Casgliadau

Mae angen cryfhau’r mecanweithiau i reoli datganoli er mwyn diogelu datganoli, mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, cysylltiadau rhynglywodraethol a rheolaeth ariannol ddatganoledig.

Mae cynnal cysylltiadau effeithiol rhwng pedair llywodraeth y DU yn rhy bwysig i ddibynnu ar fympwy gweinidogion unigol. Parch cydradd yw’r unig sylfaen ar gyfer cysylltiadau llwyddiannus. Os bydd llywodraeth y DU yn gweld y llywodraethau datganoledig fel rhanddeiliaid i’w rheoli, cysylltiadau gwael a chanlyniadau gwael fydd nodweddion cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae angen ysbryd o gydweithio go iawn, fel sy’n bodoli mewn gwladwriaethau ffederal. Nid yw’r rheini sydd â chryn brofiad o’r system yn cofio llawer o enghreifftiau, os o gwbl, lle mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod ei pholisi wedi newid oherwydd sylwadau a wnaed yn dilyn cyfarfod ffurfiol gyda’r llywodraethau datganoledig.

Byddai perthynas aeddfed yn cydnabod bod gan bob llywodraeth rywbeth i’w ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae’n ymddangos weithiau bod llywodraeth y DU yn gweld cysylltiadau da fel rhywbeth ychwanegol dewisol; nid dyna’r achos. Maent yn hanfodol i weithrediad gwledydd y DU ar y cyd neu ar wahan.

Argymhellion

Er mwyn cryfhau’r mecanweithiau sy’n diogelu datganoli ac er mwyn gallu rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru yn fwy effeithiol, rydym yn gwneud yr argymhellion canlynol. Mae’r darpariaethau deddfwriaethol sydd eu hangen ar gyfer argymhellion 4 a 5 wedi’u nodi uchod.

Cysylltiadau rhynglywodraethol

4. Dylai Llywodraeth Cymru gynnig i lywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon y dylai Senedd San Steffan ddeddfu ar gyfer mecanweithiau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau dyletswydd o gydweithredu a pharch cydradd rhwng llywodraethau’r DU.

Confensiwn Sewel

5. Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno i Senedd San Steffan ddeddfwriaeth i nodi bod angen cydsyniad y sefydliadau datganoledig ar gyfer unrhyw newid i’r pwerau datganoledig, ac eithrio pan fydd angen hynny am resymau y cytunir arnynt rhyngddynt, fel: rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch gwladol neu bolisi macroeconomaidd.

Rheolaeth ariannol

6. Dylai Llywodraeth y DU ddileu’r cyfyngiadau ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru, ac eithrio lle ceir goblygiadau macroeconomaidd.

Partner ymgysylltu â’r gymuned: Letters Grow

“Mae Letters Grow yn grŵp bach o ymarferwyr creadigol ar lawr gwlad ym Mangor, Gwynedd, sy’n darparu gweithdai rap ac ysgrifennu creadigol i blant ac i oedolion ym Mangor, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog a threfi gwledig eraill ar draws Gogledd Cymru. Ar gyfer y prosiect hwn, roedd Letters Grow wedi ymuno â North Wales Recovery Communities sy’n rhedeg canolfan adfer, mentrau tyfu bwyd, cynllun rhannu bwyd a chaffi sy’n canolbwyntio ar y gymuned – Bwyd Da Bangor – i gyd yn gweithio gyda’i gilydd fel system integredig. Gyda’i gilydd, aethant ati i ymgysylltu’n greadigol ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol i fanteisio ar gyfoeth o brofiad a barn am ddyfodol ein cenedl.

Nodyn gan Letters Grow ar foeseg ymchwil a chyfranogiad.

“Llefydd Cymru, pobl Cymru, mae cymuned yma, ysbryd cymunedol, y gall pobl yn ninasoedd mawr Lloegr ond breuddwydio amdano, mêt.” 

Dyfyniadau a gymerwyd o adroddiad terfynol ‘Letters Grow ’.

“Roedd gan rai pobl roedden ni’n siarad â nhw safbwyntiau cyfoethog brofiadau bywyd ac roeddent eisoes wedi meddwl yn ofalus am y materion amrywiol a oedd yn berthnasol i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Roedd pobl eraill roedden ni wedi siarad â nhw mor ifanc â 9 – ac yn siarad â ni’n ffres, yn ddibrofiad a heb faich safbwyntiau a naratifau a ddysgwyd ac a atgyfnerthwyd, gan roi eu barn i ni’n daer. Gwrandawyd yn astud ar bob unigolyn, yn rhinwedd eu bywydau a’u profiadau eu hunain.”

“Wrth gysidro dyfodol Cymru, mae’n rhaid i ni gysidro pob opsiwn – rhaid bod pob syniad ar y bwrdd.”

“Allwch chi ddim bod yn farddol i gyd am galon y gymuned ac anghofio’r ffaith bod pobl yn gaeth ac yn dlawd a ddim yn bwyta ac yn oer a hynny i gyd. Felly mae realiti i’r tlodi.”

“Mae’r genhedlaeth hon yn dioddef o bentwr o bethau (argyfwng hinsawdd, argyfwng tlodi, anawsterau prynu tŷ cyntaf, ac ati ac ati), ac mae’r trawma hwn wedi cael ei ‘achosi’ ar y cyd gan gymdeithas, heb unrhyw synnwyr eu bod yn gallu gwneud unrhyw beth amdano. Yn anad dim byd arall mae angen i bobl ifanc deimlo bod ganddynt alluogedd, a chredu eu bod nhw’n gallu newid pethau.” 

“Rydan ni angen dod at ein gilydd, a rwan ydy’r amser i gwleidyddion i ddod lawr i gael trafodaethau pwysig efo pobl. Mae na digon ohonom ni efo experience i ddatrys lot o’n problemau.”

“Rydan ni angen sgwrs parhaol am hyn .”

Troednodiadau

  1. A bod yn fanwl gywir mae Confensiwn Sewel yn un o’r cysylltiadau rhyngseneddol, oherwydd ei fod yn ymwneud â deddfwriaeth yn hytrach na swyddogaethau gweithredol. Fodd bynnag, rydym yn ei ystyried yng nghyd-destun plaid Llywodraeth y DU sydd â mwyafrif yn Senedd y DU ac felly’n gallu cyfarwyddo gweithredoedd Senedd y DU wrth ddeddfu. (Yn ôl i destun)

Pennod 5: ffiniau datganoli

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn ystyried y cwmpas i ehangu setliad datganoli Cymru i wella atebolrwydd a chyflenwi gwasanaethau. Nid yw’r pwerau datganoledig wedi newid rhyw lawer ers y rheini a oedd yn cael eu harfer gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn 1997, er gwaethaf trawsnewid y Cynulliad yn Senedd gyda phwerau deddfu llawn.

Fe wnaethom ystyried hyd a lled y setliad drwy lens chwe maes allweddol lle mae’r ffiniau’n destun dadl fyw. I wneud cyfiawnder â’r materion hyn, fe wnaethom sefydlu chwe is-grŵp i adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael ar y pynciau canlynol:

  1. Darlledu a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
  2. Hawliau a gwarchodaeth cyflogaeth
  3. Ynni
  4. Cyfiawnder a phlismona
  5. Trafnidiaeth
  6. Budd-daliadau lles

Mae llawer o feysydd eraill posibl lle byddid wedi gallu adolygu ffiniau datganoli, ond nid oedd gennym ddigon o amser na chapasiti i’w cynnwys yn ein hymchwiliad. Dylai’r rhain hefyd fod yn destun astudiaeth ac ystyriaeth drylwyr gyda golwg ar wneud y setliad yn gryfach ac yn fwy effeithiol.

Mewn rhai achosion, mae’r diffyg cydlywodraethu a nodwyd gennym yn y bennod flaenorol wedi ein harwain i’r casgliad bod angen datganoli pellach i sicrhau triniaeth deg i Gymru. Efallai na fyddai hynny wedi bod yn wir petai Llywodraeth y DU wedi buddsoddi mwy mewn cysylltiadau rhynglywodraethol ac wedi trin Llywodraeth Cymru fel partner cyfartal yn y gwaith o lywodraethu Cymru.

Ein dull gweithredu

Fe wnaethom ystyried canfyddiadau ymchwiliadau arbenigol blaenorol a chydredol ar y pynciau hyn o safbwynt cyfansoddiadol ac fe gawsom dystiolaeth inni ddeall y pwysau sydd ar y setliad datganoli.

Ni wnaethom ail-gwestiynu canfyddiadau’r ymchwiliadau hyn: pan roeddent yn cyflwyno argymhellion ar gyfer datganoli pellach, fe wnaethom ystyried a oedd hyn yn frys ac yn hanfodol i hyfywedd y setliad, ynteu a ellid rhoi sylw i’r materion dros gyfnod hirach.

Mae’r materion rydym yn eu hystyried yn rhai brys yn cynnwys y rheini lle mae’r angen am fwy o gydlyniad polisi yn fwyaf difrifol. Nid yw trefniadau lywodraethiant lle ceir tensiwn rhwng amcanion y ddwy lywodraeth yn gwasanaethu dinasyddion yn dda. Rydym yn cydnabod y bydd tensiwn o’r fath bob amser yn bodoli i ryw raddau, ond dylid anelu at rannu’r cyfrifoldebau mewn ffordd sy’n lleihau’r effaith ar ddinasyddion.

Roedd dyfnder y dystiolaeth a oedd ar gael i’r is-grwpiau o’r ymchwiliadau perthnasol yn amrywio’n sylweddol. Ar rai pynciau, roedd y grŵp yn gallu ystyried achos dros newid gyda thystiolaeth dda, roedd y darlun yn llai cyflawn gydag eraill. At ei gilydd, mae’r gwaith hwn wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae datganoli’n gweithio ac mae wedi cyfrannu at ein canfyddiadau a’n casgliadau.

Rydym yn rhoi crynodebau isod o ganfyddiadau’r chwe is-grŵp. Cyhoeddir eu hadroddiadau llawn ar wefan y Comisiwn.

Cefndir

Fe wnaethom nodi yn ein hadroddiad interim, ar wahân i’r trethi penodol a ddatganolwyd yn Neddf Cymru 2014 [troednodyn 1] a’r ehangu cyfyngedig ar bwerau a roddwyd gan Ddeddf Cymru 2017 [troednodyn 2], fod cynnydd datganoli ers 1999 yn gyffredinol wedi golygu dyfnhau (datblygu pwerau deddfu sylfaenol mewn perthynas â’r materion datganoledig a drosglwyddwyd yn 1999) yn hytrach nag ehangu (ymestyn cwmpas materion datganoledig).

O ganlyniad, i raddau helaeth mae pwerau deddfwriaethol y Senedd yn 2023 yn adlewyrchu’r set o swyddogaethau gweithrediaeth oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, a oedd yn eu tro yn seiliedig ar y rheini a oedd yn arfer cael eu dal gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn y cyfnod cyn 1999, nid oedd proses i adolygu pa mor addas oedd y swyddogaethau gweithrediaeth hynny i’w harfer gan gynulliad a etholwyd yn ddemocrataidd; ni chynhaliwyd unrhyw asesiad yn 2007 chwaith, pan enillodd y Cynulliad Cenedlaethol y cymhwysedd deddfwriaethol sylfaenol, i asesu beth fyddai’n set briodol o gyfrifoldebau deddfwriaethol.

Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cael eu diffinio yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017. Mae hon yn nodi’r materion a gedwir yn ôl gan Senedd y DU, felly mae’r holl faterion eraill yn disgyn o fewn pwerau’r sefydliadau datganoledig. Mae Atodlen 7A yn cynnwys rhai materion sydd wedi’u cadw’n ôl ym mhob un o’r tri setliad datganoli, fel polisi economaidd a chyllidol, materion tramor, polisi niwclear a diogelwch gwladol.

Mae Atodlen 7A yn cynnwys materion eraill lle mae setliad Cymru yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r rhain yn cynnwys y materion a gedwir yn ôl yng nghyswllt yr awdurdodaeth gyfreithiol, cyfiawnder a phlismona, a seilwaith rheilffyrdd.

Mae ffiniau’r setliad yn bwysig am resymau sydd weithiau’n amlwg i’r cyhoedd, ac am resymau technegol sy’n llai amlwg. Mae goblygiadau pellgyrhaeddol i rai o’r materion a gedwir yn ôl: yn setliad Cymru mae cadw cyfiawnder a phlismona yn ôl yn sail dros gadw ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrwyddedu alcohol yn ôl, sy’n faterion lleol gan mwyaf.

Nid yw effeithiau negyddol ar ffiniau’r setliad datganoli o reidrwydd yn golygu y dylid datganoli popeth. Yn ein barn ni, maent yn awgrymu y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fod yn agored i adolygu’r setliad i leihau ei effaith ar gyflenwi gwasanaethau, oni bai fod achos strategol neu effeithlonrwydd cryf dros y setliad presennol.

Barn dinasyddion

Mae ein hymchwil yn dangos nad yw llawer yn gwybod pa lywodraeth sy’n gyfrifol am beth, ac maent wedi drysu am gyfrifoldebau dros blismona neu’r gwasanaeth iechyd (gweler pennod 4). Yn gyffredinol, mae’r cydbwysedd barn yn fwy o blaid datganoli rhagor o bwerau na pheidio, ond mae pobl yn mynegi rhai amheuon pan ofynnir iddynt am bwerau penodol (gweler pennod 4 a 6). Yn ein harolygon ar-lein, roedd llawer a oedd yn gwrthwynebu datganoli yn gwneud hynny ar sail effeithlonrwydd a chost (roedd hyn i’w weld yn benodol yn yr ymateb i Dweud eich Dweud: Have your Say). I gefnogwyr ac i wrthwynebwyr datganoli pellach, roedd y canfyddiad o ba lywodraeth allai ddarparu gwasanaethau yn fwyaf effeithiol yn ddylanwad mawr ar eu barn ar ba mor ddymunol fyddai datganoli pellach (roedd hon yn thema drwy ein holl waith ymgysylltu â dinasyddion, roedd barn yr ymatebwyr ar drefniadau llywodraethu yn seiliedig ar eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus. Rydym yn trafod hyn yn fanylach ym mhenodau 2, 4 a 6.). Mae hyn yn awgrymu pwysigrwydd diffinio’r pwerau datganoledig i ddinasyddion mewn ffyrdd sy’n lleihau aneffeithlonrwydd a gwastraff ac yn galluogi cyflawni’n effeithiol.

Cydlywodraethu

Nododd yr is-grwpiau bod datganoli pellach yn cael ei gynnig mewn rhai achosion fel ateb i broblemau nad oeddent yn cael eu hachosi yn y bôn gan raniad y pwerau a nodir yn y ddeddfwriaeth datganoli. Dyma’r problemau a nodwyd:

Gwahaniaethau polisi

Lle mae blaenoriaethau Llywodraeth y DU yn groes i werthoedd barn mwyafrif canol-chwith Cymru. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys galw am ddatganoli budd-daliadau oherwydd y canfyddiad bod trefn sancsiynau bresennol budd-daliadau yn gosbol, gan gynnwys yr amser aros o bum wythnos a chyfyngu taliadau budd-daliadau i’r ddau blentyn cyntaf mewn teulu.

Annhegwch

Lle mae rheolaeth Llywodraeth y DU wedi golygu bod Cymru ar ei cholled o ran cynllunio a buddsoddi. Er enghraifft, y gyfran isel iawn o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd y DU sy’n cael ei wario yng Nghymru.

Esgeulustod

Lle mae rheolaeth Llywodraeth y DU yn golygu bod buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i’r cyrion, er enghraifft yng nghyd-destun y negodiadau masnach ar ôl Brexit lle mae buddiannau’r sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddol, ill dau o arwyddocâd cymharol uwch yng Nghymru, i’w gweld yn aml yn eilradd i fuddiannau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

Atebolrwydd gwan

Mae rheolaeth Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar gwmpas craffu ac atebolrwydd i’r Senedd ac i bobl Cymru, fel sy’n digwydd ym meysydd ddarlledu, rheilffyrdd neu reoleiddio’r diwydiant ynni.

Mewn achosion o’r fath, mae temtasiwn i dybio y byddai datganoli’n datrys y broblem. Mae’r materion yn aml yn fwy cymhleth na hynny ac efallai y dylid ystyried atebion ar wahân i ddatganoli.

Gallai trefniadau cydlywodraethu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn well ateb na pharhau i gadw’n ôl neu ddatganoli, ar yr amod bod y mecanweithiau a sefydlwyd yn effeithiol ac yn seiliedig ar berthynas o ymddiriedaeth a pharch.

Gallai trefniadau cydlywodraethu gynnwys gofyniad am gytundeb; trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgynghori; a phrosesau ar gyfer penodi i gyrff llywodraethu neu reoleiddio. Mae trefniadau ar y cyd o’r fath yn rhan hanfodol o lywodraethiant Cymru, ond yn aml nid ydynt yn bodloni’r model partneriaeth sy’n ofynnol. Maent yn gallu bod yn anghyson, gan ddeillio o ddarnau amrywiol o ddeddfwriaeth ac adlewyrchu perthynas benodol gydag adrannau unigol yn Whitehall. Credwn fod angen rhoi sylw pellach i’r trefniadau hyn, sy’n amrywio o brin dim ymgynghori i rywbeth tebyg i gydlywodraethu.

Canfyddiadau’r is-grwpiau

Mae crynodeb isod o ganfyddiadau i’r is-grwpiau. Mae adroddiad llawn pob is-grŵp wedi’i gynnwys ym mhapurau gwaith y Comisiwn a gyhoeddir ar ein gwefan.

Darlledu a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus

Mae ‘darlledu a chyfryngau eraill’ yn cael eu diffinio fel mater a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017. San Steffan sy’n gosod y fframwaith i reoleiddio darlledu, a’r ddeddfwriaeth fwyaf perthnasol yw Deddf Darlledu 1996 a Deddf Cyfathrebiadau 2003. Yn yr un modd â Chymru, mae darlledu yn fater a gedwir yn ôl yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.

Ochr yn ochr â gwaith y Comisiwn, cafwyd pedwar ymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru:

Roedd yr is-grŵp wedi cwrdd â chyd-gadeiryddion y Panel Arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol ac awduron adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig. Teimlai’r is-grŵp nad oedd angen rhagor o dystiolaeth ar gyfer eu gwaith, yng ngoleuni’r pedwar ymchwiliad. Roedd yr is-grŵp wedi adolygu canfyddiadau’r ymchwiliadau ac ystyried eu goblygiadau cyfansoddiadol.

Mae’n cymeradwyo eu thema gyffredin bod achos cryf dros gryfhau dylanwad Cymru yn y dirwedd gymhleth hon sy’n newid yn gyflym. Byddai llais cryfach i Gymru yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau diwylliannol a democrataidd sylweddol a achosir gan newidiadau mewn technoleg, arferion gwylio a thwf platfformau digidol byd-eang nad ydynt yn cael eu rheoleiddio. Mae’r persbectif Cymreig ar faterion y DU yn absennol yn aml o gynnwys cyfryngau a byddai hyn yn cael ei gryfhau drwy gael ei gynhyrchu yng Nghymru a sylwebaeth Gymreig. Y nod yw cryfhau allbwn Cymreig, creu cynnwys, a bod y cyhoedd yn ymgysylltu â sefydliadau democrataidd yng Nghymru i ddiogelu’r Gymraeg, ei hunaniaeth a’i diwylliant, a sicrhau bod anghenion y dinasyddion yn cael eu diwallu.

Canfu’r is-grŵp fod consensws eang y dylai Cymru gael mwy o ddylanwad mewn penderfyniadau polisi, llywodraethiant a mecanweithiau atebolrwydd yn y maes hwn. Mae’r trefniadau atebolrwydd presennol yn golygu nad oes digon o gadernid a dyfnder yn y craffu ar weithgarwch yng Nghymru ac am Gymru. Mae hon yn flaenoriaeth i fynd i’r afael â hi.

Mae sawl ffordd o gyflawni hyn, er enghraifft, rhagor o gydweithio rhwng pwyllgorau yn San Steffan a’r Senedd; rhagor o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar benderfyniadau allweddol mewn perthynas â pholisi, cyllido a rheoleiddio; a chynnwys cynrychiolaeth o Gymru ar unrhyw gomisiwn cyllido annibynnol.

Mae adroddiad y Panel Arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol yn nodi nifer o lwybrau at ddatganoli pellach a allai gryfhau dylanwad Cymru. Mae’r is-grŵp yn cytuno â’r Panel bod angen gwneud rhagor o waith technegol i ddeall y trefniadau rheoleiddio cymhleth a goblygiadau’r gwahanol lwybrau. Ni ddylai hyn fod yn rhwystr i gynnydd o ran cryfhau llais Cymru drwy gydweithredu rhynglywodraethol a rhyngseneddol cryfach.

Hawliau a gwarchodaeth cyflogaeth

Mae cyfraith cyflogaeth yn rhyngwyneb lle mae polisïau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwrthdaro. Mae yna densiwn parhaus rhwng polisïau Llywodraeth Cymru ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg, a’r drefn hawliau a gwarchodaeth cyflogaeth ar draws y DU. Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl yn yr Alban hefyd.

Yr achos dros gadw’n ôl yw galluogi trefn ar draws y DU o hawliau a gwarchodaeth cyflogaeth sy’n sail i farchnad sengl y DU. Fodd bynnag, mae problemau fel cyflogau isel ac arferion cyflogaeth gwael yn cael effaith fawr ar allu Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant, hyrwyddo gwaith teg a gwella iechyd a llesiant.

Man cychwyn yr is-grŵp hwn oedd ymchwil y Comisiwn ar Ddatganoli a Gwaith a sefydlwyd gan Gyngres Undebau Llafur Cymru (TUC), a gynhaliwyd ochr yn ochr â’n hymchwiliad ni. Cyfarfu’r Comisiwn â’r Cadeirydd, yr Athro Jean Jenkins, i drafod yr ymchwil a gynhaliwyd gan ei chomisiwn a’i ganfyddiadau.

Mae ymchwil Comisiwn TUC Cymru yn dangos bod aelodau undebau llafur wedi’u rhannu’n gyfartal ynghylch a ddylid datganoli pwerau ar hawliau a gwarchodaeth cyflogaeth. Canfu’r Comisiwn y gallai datganoli arwain at risg o danseilio’r strwythurau cydfargeinio presennol, ac mae’n cynnig y dylid gwneud mwy o waith ar hyn. Mae ei adroddiad yn rhoi blaenoriaeth i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gryfhau arweinyddiaeth wleidyddol ar waith teg, i gefnogi gorfodi hawliau a gwarchodaeth bresennol yn well, ac i hyrwyddo gweithgarwch undebau llafur a democratiaeth yn y gweithle ar draws y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gyllid ar gyfer y gwaith gorfodi. Wrth alw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r cyfrifoldebau hyn nad ydynt wedi’u datganoli, mae adroddiad TUC Cymru yn tanlinellu’r pryderon ynghylch y pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Gofynnodd yr is-grŵp am farn busnes ar bosibilrwydd datganoli cyfraith cyflogaeth, a chafodd dystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Make UK. Y farn gyffredinol oedd cefnogaeth i werth set gyffredin o hawliau a gwarchodaeth ar draws y DU i fusnesau, gan gynnwys y rheini o’r tu allan i Gymru.

Nododd yr is-grŵp nad oes consensws ar ddatganoli hawliau a dyletswyddau cyflogaeth, ac mai’r flaenoriaeth i’r gweithlu yw gorfodi’r warchodaeth bresennol a chyllid Llywodraeth y DU i’r asiantaethau perthnasol.

Ynni

Nid oedd yr is-grŵp ynni wedi gallu manteisio ar ymchwiliad sylweddol diweddar i gyfrannu at ei waith. Yn ystod y cyfnod a oedd ar gael, dim ond trosolwg eang o’r materion a gymerodd yr is-grŵp, ond o’r dystiolaeth roedd yn nodi pedwar mater allweddol:

  • Ymgysylltiad rhynglywodraethol a ffiniau’r setliad
  • Rheoleiddio
  • Cynhyrchu a masnachu ynni lleol
  • Rheoli Ystad y Goron.

Ystyriodd yr is-grŵp dystiolaeth gan y Sefydliad Materion Cymreig, Llywodraeth Cymru, Ynni Cymunedol Cymru ac Ystad y Goron.

Mae cynhyrchu a dosbarthu ynni yn faes lle nad yw natur ddeuol (datganoli neu gadw’n ôl) y setliad datganoli yn cyd-fynd yn hawdd â realiti ymarferol cyflawni. Bydd newid technolegol cyflym yn newid rôl y National Grid (a gedwir yn ôl) a’i fonopoli presennol ar ddosbarthu, ac felly rôl a phwerau’r llywodraeth mewn perthynas â’i weithrediadau.

Mae polisi a strategaeth ynni’r DU yn cael effaith enfawr ar faterion datganoledig, gan gynnwys datblygu economaidd, tai, tlodi, iechyd a llesiant. Fodd bynnag, roedd ymgysylltiad Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru wrth basio Deddf Ynni 2023 yn hwyr ac yn annigonol. Ym marn yr is-grŵp, byddai’r cyfrifoldebau ynni sy’n gorgyffwrdd rhwng y ddwy lywodraeth yn gweithio’n well o lawer gydag ymgynghori a chydweithredu cryfach, gyda Llywodraeth Cymru yn bartner cyfartal.

Mae rhai o’r materion a gedwir yn ôl ar hyn o bryd yn y maes hwn yn ymddangos yn hen ffasiwn a heb resymeg strategol, fel systemau gwresogi lleol ac effeithlonrwydd ynni. Dylai Llywodraeth y DU fod yn agored i adolygu ac i ddiwygio’r rhain drwy gytundeb rhwng y ddwy lywodraeth.

Mae rôl y rheoleiddiwr mewn perthynas â datblygu ynni yn hollbwysig, ond nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol yn ei llywodraethu. Dylai hyn hefyd fod yn destun adolygiad ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynnig Ofgem ar gyfer Cynlluniau System Lleol gan ei fod yn ffordd o sicrhau bod y rheoleiddio’n fwy ymatebol i anghenion penodol pob ardal.

Mae llawer o’r rhwystrau i gynhyrchu a masnachu ynni lleol yn faterion polisi a chyllido. Bydd newid technolegol yn lleihau rhai o’r rhwystrau, er enghraifft, mynediad at y National Grid. Byddai datganoli cymhellion ynni yn helpu ond byddai angen mynediad at ragor o gyllid nag sydd ar gael ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru.

Nid oedd yr is-grŵp yn gallu ystyried goblygiadau datganoli rheoli Ystad y Goron yng Nghymru yn fanwl. Mewn egwyddor, nid yw’n gweld unrhyw reswm pam na ddylid ei ddatganoli, fel sy’n digwydd yn yr Alban. Roedd Comisiwn Silk Llywodraeth y DU wedi adrodd yn 2014 ac nid oedd yn argymell datganoli Ystad y Goron (Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru, 2014), ond mae argymhelliad Comisiwn Smith yn 2014 ar ddatganoli Ystad y Goron i’r Alban wedi creu cynsail newydd.

Mae’r is-grŵp yn argymell adolygiad brys o’r setliad datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol mewn perthynas ag ynni ac Ystad y Goron, gan grŵp arbenigol sy’n gallu bwrw golwg flaengar ar y setliad.

Cyfiawnder a phlismona

Mae cyfiawnder a phlismona wedi cael eu datganoli yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae posibilrwydd datganoli’r meysydd polisi hyn i Gymru wedi cael ei ystyried yn helaeth, yn fwyaf diweddar gan Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, a oedd yn cyflwyno’r achos dros ddatganoli cyfiawnder i bobl Cymru.

Adroddiad Comisiwn Thomas oedd man cychwyn yr is-grŵp. Daw awdurdod y Comisiwn hwnnw o’i sylfaen dystiolaeth gadarn ac arbenigedd ei aelodau, a oedd yn cynnwys uwch aelodau o’r farnwriaeth, arbenigwyr mewn diwygio cosbau a gweithrediad carchardai a’r gwasanaeth prawf, Prif Gwnstabl a oedd wedi ymddeol a chyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Canfu’r is-grŵp fod y dystiolaeth yn cyflwyno achos cryf dros newid er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, gwell gwerth am arian, rhagor o dryloywder a rhagor o atebolrwydd.

Roedd yr is-grŵp wedi ymdrechu i ddod o hyd i dystiolaeth i gefnogi’r setliad presennol ar gyfer plismona a chyfiawnder, ond prin oedd yr ymatebion ac roedd y dystiolaeth dros newid yn drech na nhw. Canfu’r is-grŵp fod datganoli’n bosibl heb fawr o darfu ar wasanaethau drwy gynllunio’n ofalus. Roedd yr is-grŵp yn gytûn ynghylch ei ganfyddiadau o’r dystiolaeth ar ddiffygion y system bresennol a dichonoldeb datganoli, gyda’r aelod a enwebwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn anghytuno â’r argymhelliad i ddatganoli, ar sail ymrwymiad cryf ei phlaid i gynnal awdurdodaeth sengl Cymru a Lloegr a phryderon ehangach, gan gynnwys gwerth am arian.

Roedd y dystiolaeth a gafodd yr is-grŵp yn atgyfnerthu tystiolaeth Comisiwn Thomas yng nghyswllt problemau’r system bresennol. Mae’r achos dros ddatganoli yn seiliedig ar wendidau o ran llywodraethiant, cydlyniant polisi ac atebolrwydd ar lefel Cymru. Byddai’r rhain yn parhau pa blaid bynnag a fyddai’n ffurfio llywodraeth yn San Steffan. Nid yw ymrwymiad personol unigolion mewn gwasanaethau wedi'u datganoli ac wedi’u cadw’n ôl yn ddigon i oresgyn canlyniadau methiannau strwythurol sy’n deillio o ddiffyg cydlyniad wrth ddyrannu cyfrifoldebau statudol rhwng y naill lywodraeth a’r llall.

Ar ben hynny, mae system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn wynebu heriau mawr, o ran cyllid ac arweinyddiaeth, ac wrth fynd i’r afael â’r rhain bydd Cymru bob amser yn flaenoriaeth gymharol isel i Lywodraeth y DU. Gyda datganoli, byddai cyfle i arloesi ac i ddiwygio, gan adeiladu ar arbenigedd y gweithlu cyfiawnder a rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Roedd tystiolaeth o Ogledd Iwerddon yn dangos y cyfleoedd i wella canlyniadau drwy ddarpariaeth ac atebolrwydd system gyfan mewn awdurdodaeth fach, a’r cyfle i addasu ystad carchardai fach yn ôl gofynion sy’n newid. Yr unig dystiolaeth a gafodd yr is-grŵp a oedd yn dadlau yn erbyn Comisiwn Thomas oedd tystiolaeth Llywodraeth y DU, mewn llythyr oddi wrth yr Arglwydd Bellamy at y Cyd-Gadeiryddion ym mis Mawrth 2023, ac yn nhystiolaeth lafar Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Penderfynodd yr is-grŵp mai’r ffordd orau o ychwanegu gwerth at waith Comisiwn Thomas oedd drwy ganolbwyntio’n fanwl ar weithredu ei argymhellion yn ymarferol.

Daeth yr is-grŵp i’r casgliad y gellid datganoli heb lawer o darfu, drwy raglen waith wedi’i harwain ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a ddylai gytuno ar amserlen a chynllun gweithredu, sy’n debygol o olygu bod angen tua 10 mlynedd i gyflawni. Y gwasanaethau mwyaf syml i ddechrau’r broses yw plismona, o ystyried ei strwythur cyllido a llywodraethiant a’i berthynas waith agos â gwasanaethau datganoledig ar lefel genedlaethol a lleol; cyfiawnder ieuenctid; a’r gwasanaeth prawf.

Trafnidiaeth

Mae trafnidiaeth wedi’i datganoli’n rhannol. Mae’r rhan fwyaf o agweddau ar adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd wedi’u datganoli, ond mae’r rhan fwyaf o agweddau ar reoli traffig wedi’u cadw yn ôl. Mae rhai agweddau ar fysiau a thacsis wedi’u datganoli. Mae awyrennau a llongau wedi’u cadw yn ôl i raddau helaeth. Mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o rôl wrth reoli gwasanaethau rheilffyrdd, ond maent wedi’u cadw’n ôl i raddau helaeth. Mae hwn yn faes cymhleth iawn o ddatganoli, ychydig iawn o agweddau sydd wedi’u datganoli neu wedi’u cadw’n ôl yn llwyr, ac mae llawer o eithriadau yn y materion sydd wedi'u cadw’n ôl.

Heb ymchwiliad diweddar i gyfrannu at ei waith, cynhaliodd yr is-grŵp adolygiad cyflym o’r pwysau ym maes trafnidiaeth. Canfu fod y dystiolaeth yn dangos mai’r maes tensiwn mwyaf yw seilwaith rheilffyrdd, a bod achos cryf dros newid o ran ariannu a llywodraethu seilwaith rheilffyrdd, lle mae annhegwch yn y trefniadau presennol ers tro byd.

Clywodd yr is-grŵp dystiolaeth fod y setliad presennol yn cynyddu cost a chymhlethdod darparu gwasanaethau rheilffyrdd tra’n tanariannu’r ddarpariaeth yng Nghymru. Mae hyn yn annheg i deithwyr ac i drethdalwyr ac mae’n achosi cwyn barhaus sy’n tanseilio hyder mewn datganoli.

Roedd yr is-grŵp wedi ystyried galw am ateb cydlywodraethu ar sail cysylltiadau rhynglywodraethol gwell. Fodd bynnag, oherwydd hanes diweddar y cysylltiadau a amlinellwyd yn y bennod flaenorol, daeth i’r casgliad nad yw ateb o’r fath yn debygol o arwain at ganlyniad teg. Ni fyddai ychwaith yn mynd i’r afael â’r bwlch atebolrwydd yn y trefniadau presennol, lle nad yw’r strwythur llywodraethu cymhleth ar gyfer penderfyniadau ynghylch rheilffyrdd yn caniatáu digon o graffu uniongyrchol ar gyrff fel Trafnidiaeth Cymru, Network Rail, Gweinidogion Cymru na’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan Senedd y DU na Senedd Cymru. Nid yw’r trefniadau hyn yn glir i’r cyhoedd chwaith pan fyddant yn dymuno mynegi pryderon am ddarpariaeth rheilffyrdd.

Felly, daw’r Comisiwn i’r casgliad y byddai datganoli gwasanaethau rheilffyrdd (mae ‘gwasanaethau rheilffyrdd’ yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr eang i gynnwys seilwaith rheilffyrdd yn ogystal â’r pwerau sy’n gysylltiedig â gweithredu rheilffyrdd) yn llawn yng Nghymru, gydag ariannu teg, yn sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion a gwell gwerth am arian ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus. Byddai’n rhoi’r cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru dros greu rhwydwaith trafnidiaeth cydlynol, effeithlon a theg, gan wella llywodraethu ac atebolrwydd.

Mae’n hanfodol bod datganoli’n seiliedig ar setliad cyllido teg a thryloyw, y mae’r ddwy lywodraeth wedi cytuno arno ac y mae aelodau etholedig Senedd y DU a Senedd Cymru yn craffu arno. Cafodd yr is-grŵp dystiolaeth o nifer o ffynonellau a oedd yn datgan bod seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael ei danariannu o’i gymharu â’r angen ers blynyddoedd lawer.

Mae hyn yn cael ei waethygu gan fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru, na chafodd ei ddylunio i reoli asedau rheilffyrdd, law yn llaw â phwerau benthyca cyfyngedig iawn a hyblygrwydd cyfyngedig ar ddiwedd y flwyddyn. O ganlyniad i hyn, mae effaith niweidiol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth i gyllid gael ei ddargyfeirio oddi wrth raglenni eraill i reoli pwysau cost ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Nid oes rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu rheilffyrdd. Ond os na fydd yn gwneud hynny, bydd y seilwaith rheilffyrdd yn dirywio dros amser ac yn ei gwneud yn anodd i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hamcanion eraill, fel symudedd i’r rheini heb geir a lliniaru newid hinsawdd.

Yng ngoleuni gwaith yr is-grŵp, mae’r Comisiwn yn credu bod yr ymdeimlad o anghyfiawnder ar y mater hwn yn sylweddol a bod modd ei gyfiawnhau. Os na chaiff ei ddatrys, bydd yn parhau i waethygu ac erydu ymddiriedaeth yn y setliad. Yn unol â hynny, rydym yn gweld datganoli seilwaith rheilffyrdd a’r gwasanaethau cysylltiedig yn flaenoriaeth ar gyfer hyfywedd a sefydlogrwydd y setliad presennol, ochr yn ochr â throsglwyddo cyllid teg ac adolygiad, ac os oes angen, addasu’r fframwaith cyllidol i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn yn effeithiol.

Budd-daliadau lles

Mae rhywfaint o fudd-daliadau lles wedi cael eu datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Mae budd-dal y dreth gyngor a phrydau ysgol am ddim wedi’u datganoli er 1999. Cafodd y Gronfa Cymorth Dewisol ei datganoli’n ddiweddarach gan Lywodraeth y DU, pan gafodd ei datganoli hefyd i lywodraeth leol yn Lloegr. Mae pwerau yng nghyswllt y budd-daliadau ariannol sy’n weddill (pensiwn y wladwriaeth, Credyd Cynhwysol, budd-daliadau anabledd, lwfans gwresogi’r gaeaf) wedi’u cadw’n ôl i Senedd a Llywodraeth y DU ac yn cael eu gweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae lefel y taliadau a’r amodau sy’n rheoli cymhwysedd wedi’u nodi mewn rheoliadau a wneir gan Senedd y DU.

Roedd yr is-grŵp wedi seilio ei waith ar dystiolaeth Sefydliad Bevan ar ddull gweithredu cyffredin ar gyfer budd-daliadau yng Nghymru. Roedd yr is-grŵp wedi defnyddio arbenigedd Panel Arbenigol y Comisiwn ar hanes datganoli budd-daliadau’n rhannol yn yr Alban, yn dilyn un o argymhellion Comisiwn Smith yn 2014.

Roedd datganoli’r budd-daliadau’n rhannol wedi arwain at gostau ychwanegol mawr i gyllideb Llywodraeth yr Alban, o ganlyniad i gynyddu’r budd-daliadau hynny a chreu asiantaeth newydd, Nawdd Cymdeithasol yr Alban, i’w gweinyddu. Un o’r heriau mae’r Alban wedi’u hwynebu yw’r rhyngweithio rhwng budd-daliadau datganoledig a heb eu datganoli sy’n golygu bod angen newidiadau gweinyddol cymhleth bob tro y bydd Llywodraeth y DU yn newid budd-daliadau a gedwir yn ôl.

Mae budd-daliadau nawdd cymdeithasol wedi’u datganoli’n llwyr yng Ngogledd Iwerddon, ond nid yw’r pwerau i ddargyfeirio wedi cael eu defnyddio.

Roedd yr is-grŵp yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru  a oedd yn awgrymu, am resymau demograffeg a’r niferoedd sy’n hawlio budd-daliadau, efallai y byddai cyllideb Cymru wedi elwa’n sylweddol petai’r pwerau budd-daliadau a ddatganolwyd i’r Alban wedi’u datganoli i Gymru ar yr un pryd. Canfu efallai na fyddai tybiaethau’r adroddiad wedi cael eu gwireddu, ond roedd hi’n debygol y byddai Cymru’n wynebu pwysau costau ychwanegol i’r rheini a welwyd yn yr Alban.

Clywodd yr is-grŵp gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am y gwaith a gychwynnwyd gan ymchwil Sefydliad Bevan  a’i gyflawni mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i wella gweithrediad y budd-daliadau hynny sydd eisoes wedi cael eu datganoli i Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys budd-dal tai, budd-dal y dreth gyngor a phrydau ysgol am ddim. Y nod yw creu system budd-daliadau symlach i Gymru, gydag un pwynt mynediad a meini prawf cymhwysedd cyffredin, sy’n llawer haws i ddinasyddion eu defnyddio.

Nododd yr is-grŵp yr achos dros gadw nawdd cymdeithasol yn ôl ar sail undod a rhannu’r risg ar lefel y DU.

Roedd yr is-grŵp o’r farn y byddai datganoli rhagor o fudd-daliadau i Gymru yn ymarferol dim ond drwy gynyddu pwerau treth a benthyca yn sylweddol er mwyn i Lywodraeth Cymru allu ysgwyddo’r risgiau a’r rhwymedigaethau cysylltiedig.

Pwysau ariannol

Mae’r galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu neu i ategu gwasanaethau sydd heb eu datganoli, nad oes ganddi ddarpariaeth yn y gyllideb ar eu cyfer, yn peri pwysau sylweddol ar y cyllidebau datganoledig. Mae hyn yn gallu bod yn fath llechwraidd o ddatganoli, lle bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros faterion cyllido y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt. Dyma rai enghreifftiau:

Seilwaith rheilffyrdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol pan nad yw Llywodraeth y DU wedi blaenoriaethu buddsoddiadau sy’n hanfodol ym marn Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros Linellau Craidd y Cymoedd ac mae’n cyfrannu symiau sylweddol at drydaneiddio a gwella seilwaith rheilffyrdd fel arall. Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Cymru 2022/2023 ar gyfer sut mae gwario cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys £243m i ddylunio ac i adeiladu gwaith i drawsnewid asedau rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd (net £106m cyllid ERDF); £23m ar gyfer cynnal a chadw seilwaith, adnewyddu a gwariant cyfalaf arall rheilffyrdd; a £10m i ddylunio ac i adeiladu gorsafoedd trenau eraill nad ydynt yn rhan o Linellau Craidd y Cymoedd.

Swyddogion Cymorth Cymunedol a’r Heddlu (PCSOs)

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu dros hanner y garfan o PCSOs yng Nghymru, ar gost o £23 miliwn (darpariaeth Cyllideb 2023-2024) ar ôl i Lywodraeth y DU roi’r gorau i neilltuo cyllid ar gyfer PCSOs yn setliad cyllido’r heddlu.

Cronfa Cymorth Dewisol

Llywodraeth Cymru a greodd y gronfa cymorth brys hon pan ddiddymodd Llywodraeth y DU gronfa gymdeithasol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar hyn o bryd mae’r gost yn fwy na £30 miliwn y flwyddyn.

Rhaglenni cyflogadwyedd

Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i gynllunio i lenwi bylchau yn narpariaeth cymorth cyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae rhai cynlluniau wedi cael eu hariannu’n bennaf gydag arian yr UE, ond mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei ddefnyddio.

Darpariaeth i Wcreiniaid sy’n ffoi rhag y rhyfel

Llety wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac amrywiaeth o wasanaethau nad oeddent yn cael eu darparu ar gyfer Wcreiniaid sy’n cyrraedd Lloegr. Er bod Llywodraeth y DU wedi darparu rhywfaint o gyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £50m ar hyn yn 2022-2023.

Mae’r buddsoddiadau hyn yn ddewisiadau polisi gan Lywodraeth Cymru, a wnaed o dan bwysau sy’n deillio o benderfyniadau Llywodraeth y DU. Yn y ddwy enghraifft gyntaf, byddai’r pwysau hyn yn cael eu dileu drwy addasu’r setliad datganoli, gydag arian teg, yn unol â chanfyddiadau’r is-grwpiau.

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo pwerau newydd sylweddol, bydd angen capasiti ac arbenigedd polisi newydd i arfer y pwerau hynny, yn ychwanegol at yr adnoddau sy’n cael eu trosglwyddo o’r adran berthnasol yn Whitehall. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ystyried rhinweddau cynigion ar gyfer datganoli pellach mewn perthynas ag ymgeiswyr eraill a’r pwysau capasiti y byddent yn eu creu.

Casgliadau

Yn unol â’r dystiolaeth a gafodd ein his-grwpiau, rydym yn gwneud y pedwar argymhelliad a nodir isod.

O ran cyfiawnder a phlismona a gwasanaethau rheilffyrdd, nid yw’r setliad presennol yn gwasanaethu pobl Cymru’n dda. Oni roddir sylw i hyn, bydd y problemau yn parhau i waethygu, a bydd yn ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn barod i wrando ar achos rhesymegol dros newid. Mae diwygio yn hanfodol i sicrhau hyfywedd a sefydlogrwydd y setliad.

O ran darlledu ac ynni, mae ein hargymhellion yn ymwneud â chryfhau rôl y sefydliadau datganoledig ar faterion sy’n bwysig iawn i Gymru.

Ar yr un sail, mae achos cryf dros well ymgysylltu a chydweithredu rhynglywodraethol ar hawliau cyflogaeth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Mae angen ystyried y meysydd hyn ymhellach er mwyn sicrhau bod y trefniadau’n rhoi llais effeithiol i’r sefydliadau datganoledig ar ran pobl Cymru.

Argymhellion

Darlledu

7. Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli.

Ynni

8. Dylai llywodraethau Cymru a llywodraeth y DU sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar frys ar sut y gellid diwygio’r setliad datganoli ac ymgysylltu rhynglywodraethol mewn perthynas ag ynni i baratoi ar gyfer arloesi technegol cyflym ym maes cynhyrchu a dosbarthu ynni, er mwyn sicrhau bod Cymru’n gallu gwneud y mwyaf o’i chyfraniad at sero net ac at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol.  Dylai cylch gwaith y grŵp gynnwys cynghori ar yr opsiynau ar gyfer datganoli Ystad y Goron, a ddylai ddod yn gyfrifoldeb i lywodraeth ddatganoledig Cymru fel y mae yn yr Alban.

Cyfiawnder a phlismona

9. Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’ cyfrifoldeb dros gyfiawnder a phlismona yn ddeddfwriaethol ac yn weithredol i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, yn unol ag amserlen y bydd y naill lywodraeth a’r llall yn cytuno arni i ddatganoli pob rhan o’r system gyfiawnder, gan ddechrau gyda phlismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, gyda’r cyllid angenrheidiol wedi’i sicrhau, a darpariaeth ar gyfer cydlywodraethu lle bo angen ar gyfer gweithrediadau effeithiol.

Gwasanaethau rheilffyrdd

10. Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros wasanaethau rheilffyrdd a’r seilwaith, rheilffyrdd yn llawn i Gymru gyda chyllid teg a chydlywodraethu yng nghyswllt gwasanaethau trawsffiniol.

Dyfyniadau o ddigwyddiad yng Ngŵyl y Gelli

“Yr hyn rydyn ni’n ei weld yw ei bod hi’n bosibl, mae hi go iawn yn bosibl cael dadl ystyrlon ar faterion cyfansoddiadol yng Nghymru ar ôl i bobl gael yr adnoddau i ddeall ac i ymgysylltu’n briodol â’r pwnc, a hefyd i’w wireddu. A dwi’n meddwl mai dyna sydd ar goll yn aml, o gomisiynau eraill hefyd rwy’n ofni, yw ei fod mor academaidd ac mor haniaethol. Ond dyma ni, rydyn ni’n ei wneud yn real...gan edrych ar feysydd allweddol sy’n cael eu hystyried ar gyfer datganoli mewn ffordd sy’n golygu bod pobl yn deall y canlyniadau iddyn nhw’n uniongyrchol.”

“Rwy’n meddwl mai’r her fwyaf yw perswadio pobl bod ganddynt fudd yn y ffordd caiff y wlad ei rhedeg. A dyna’r cwestiwn democrataidd sylfaenol ynte? Mae angen meithrin llawer o ymddiriedaeth, mae angen llawer o waith gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol a fydd yn meithrin y math hwnnw o ymddiriedaeth wleidyddol, er mwyn osgoi sefyllfa lle mae buddugoliaeth un blaid dros blaid arall neu un grŵp o fuddiannau dros grŵp arall yn golygu diwedd y byd. Ac nid gwamalu yw hynny oherwydd mae digon o enghreifftiau o sut mae hynny’n dod i’r amlwg mewn cyd-destunau gwleidyddol gwahanol ym mhedwar ban byd. Ac mae angen i ni osgoi hynny ar bob cyfrif er mwyn sicrhau iechyd dyfodol democratiaeth.”

“Rwy’n credu bod angen i ni feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n strwythuro ein heconomi. Ac nawr mae dadl sy’n cyffwrdd â’r materion rydyn ni’n eu trafod, sef yr adnoddau i wneud y gwaith. Ac wrth gwrs, dydy’r rhain ddim bob tro’n ymwneud â meysydd polisi, maen nhw’n ymwneud ag ymreolaeth gyllidol, am gapasiti benthyca ac yn y blaen, sy’n bethau sylfaenol iawn... oherwydd rwy’n credu bod angen i ni bron â bod anghofio rhywfaint o’r wleidyddiaeth plaid. Rhaid inni geisio camu yn ôl a cheisio canfod a yw’r rhain yn faterion systemig gwirioneddol arwyddocaol sy’n ymwneud ag economi Cymru, y gellid cyflwyno ysgogiadau ar eu cyfer a fyddai’n gwella pethau.”

Troednodiadau

1. Roedd Deddf Cymru 2014 yn datganoli treth stamp, treth tirlenwi ac ardrethi busnes i Gymru, gyda phŵer i ddeddfu i’w disodli â threthi sy’n benodol i Gymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer datganoli rhagor o drethi gyda chytundeb Senedd y DU a Senedd Cymru. Roedd y Ddeddf yn ymestyn pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, yn rhoi pwerau i’r Senedd amrywio cyfraddau treth incwm o dan amgylchiadau penodol, ac yn gwneud rhai newidiadau amrywiol ynghylch gweithrediad y Senedd a’r llywodraeth yng Nghymru. (Yn ôl i destun)

2. Roedd Deddf Cymru 2017 yn ymestyn cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru ym meysydd trafnidiaeth ac ynni. Rhoddodd fwy o reolaeth i Weinidogion Cymru a’r Senedd dros weithrediad y Senedd, gan gynnwys pwerau dros etholiadau Senedd Cymru. Roedd Deddf 2017 hefyd yn rhoi swyddogaethau gweithrediaeth i Weinidogion Cymru (pwerau ‘math cyfraith gyffredin’) ac yn newid y model deddfwriaethol o’r model rhoi pwerau i’r model cadw pwerau. Roedd hyn yn golygu bod gweithredu setliad datganoli Cymru bellach yn yr un model â setliad datganoli’r Alban. (Yn ôl i destun)

Pennod 6: safbwyntiau dinasyddion a senarios amgen

Cyflwyniad

Mae rhan gyntaf y bennod hon yn trin ac yn trafod y safbwyntiau a fynegwyd gan ddinasyddion am yr opsiynau cyfansoddiadol ar gyfer Cymru. Mae’r rhain yn adlewyrchu canfyddiadau ar adeg benodol. Mae’r ail ran yn ystyried sut gallai newidiadau posibl i’r ffordd caiff y DU ei llywodraethu yn y dyfodol effeithio ar y safbwyntiau hyn.

Gallai unrhyw newid sylweddol i statws Cymru yn y DU effeithio ar rannau eraill o’r wladwriaeth. Yn yr un modd, byddai newidiadau cyfansoddiadol mewn rhannau eraill o’r DU yn effeithio ar ganfyddiadau o’r opsiynau ar gyfer Cymru. Byddai’r datblygiadau hyn y tu hwnt i reolaeth Cymru, ond drwy gynllunio ymlaen gallai ein dinasyddion a’n gwleidyddion ymgysylltu’n adeiladol ag effaith bosibl y datblygiadau hyn ar Gymru.

Rhan 1: barn dinasyddion am yr opsiynau cyfansoddiadol

Y setliad datganoli presennol

Roedd ein gwaith ymgysylltu a’n gwaith ymchwil wedi datgelu lefelau cymysg o fodlonrwydd o ran sut mae Cymru’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd, er bod rhai pobl yn ei chael hi’n anodd rhoi sylwadau oherwydd nad oeddent yn deall rhyw lawer am y pwnc.

Ar y paneli dinasyddion, roedd rhai cyfranogwyr wedi addasu eu safbwyntiau ar ôl cael gwybod pa bwerau sydd wedi’u datganoli. Roedd gwybod hyd a lled a chyfyngiadau pwerau datganoledig, a lle’r oedd y cyfrifoldeb dros gyflawni, yn effeithio ar eu hasesiad. Yn aml, nid oedd y cyfranogwyr yn deall sut mae llywodraeth ddatganoledig yn cael ei hariannu. Roedd hi’n ymddangos bod gwella dealltwriaeth yn allwedd i farn rhai cyfranogwyr ynghylch beth fyddai orau i ddyfodol Cymru.

Roedd safbwyntiau ar berfformiad Llywodraeth Cymru yn ddylanwad trwm ar gyfranogwyr yn y paneli dinasyddion. Roeddent yn ei chael hi’n anodd gwahanu’r canfyddiadau hyn oddi wrth eu barn am y strwythurau sydd mewn lle i redeg Cymru. Cafodd hyn ei ategu yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein, lle soniwyd yn aml am y canfyddiad o berfformiad llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhesymau dros geisio newid cyfansoddiadol. Er hynny, yn ôl yr ymchwil ansoddol a gynhaliwyd gan Beaufort Research, cefnogwyd yr egwyddor y dylai Cymru gael ei sefydliadau llywodraethu ei hun i raddau helaeth, ar y sail y byddai llywodraeth Cymru yn adnabod Cymru’n well ac y gallai wneud penderfyniadau er budd y genedl (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Canfyddiadau Cam 1, Crynodeb a Chynnydd y Prosiect, Beaufort Research). Beth bynnag eu safbwynt ar fwy o ddatganoli, soniodd y cyfranogwyr eu bod yn poeni am y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.

Roedd lleiafrif sylweddol o’r ymatebwyr a ddewisodd gymryd rhan o’u gwirfodd yn ein harolygon ar-lein yn gwrthwynebu datganoli yn gryf. Mae ymchwil gynrychioliadol Cyflwr yr Undeb yn dangos bod cefnogaeth yn gyffredinol i brif egwyddorion datganoli, gan gynnwys yn Lloegr, fel y nodir yn fanylach isod.

Atgyfnerthu datganoli

Ar draws gwahanol elfennau’r sgwrs genedlaethol a ddisgrifir ym mhennod 2, ystyriwyd mai mwy o ddatganoli oedd yr opsiwn â’r risg isaf i Gymru. Byddai’n esblygu’r model presennol, yn hytrach na’n newid radical. Nid dyma farn y rheini a oedd eisiau gweld diwedd datganoli. I’r grŵp hwn, byddai mwy o ddatganoli yn gwreiddio Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru yn ddyfnach yn y dirwedd gyfansoddiadol.

Ehangu ar y pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru

I ddinasyddion Cymru, mwy o bwerau i’r sefydliadau datganoledig yn yr Undeb yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, er bod cefnogaeth yn amrywio yn ôl oedran ac ymlyniad gwleidyddol (gweler pennod 4). Mae’r ymchwil a gynhaliwyd ar ran y Comisiwn gan Beaufort Research yn dangos bod y gefnogaeth i’r opsiwn hwn yn llai nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl, ond mae’r gefnogaeth i annibyniaeth ac i ddiddymu’r Senedd wedi cynyddu (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023).

Dewisiadau cyfansoddiadol
Image

Cwestiwn: Ar hyn o bryd, ar y cyfan, pa un o’r datganiadau hyn sydd agosaf at eich barn chi ynglŷn â Chymru? (%)

Graff o adroddiad 2023 Beaufort Research (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023)

Mae nifer o ffactorau a allai esbonio’r newid hwn. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae rhagor o bwerau wedi cael eu datganoli mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni a threth. Mae polisi a deddfwriaeth unigryw wedi gwneud rôl Llywodraeth Cymru yn fwy amlwg i ddinasyddion. Roedd profiad pandemig Covid wedi tynnu sylw at sut gall pwerau Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Gallai’r gostyngiad yn y gefnogaeth i ddatganoli rhagor o bwerau ddeillio o’r ffaith bod pobl yn teimlo bod cwmpas presennol (wedi’i ehangu) datganoli yn foddhaol, neu efallai fod pobl yn anfodlon â sut mae’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, neu gallai’r ddau ffactor gael dylanwad. Byddai angen rhagor o ymchwil i ddeall hyn.

At ei gilydd roedd yr ymatebion o grwpiau’r Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned o blaid rhagor o ymreolaeth a phwerau estynedig, fel ffordd o ddod â phenderfyniadau’n nes at y rheini sy’n derbyn y gwasanaethau. Fodd bynnag, yn gyffredinol roedd yr adroddiadau hyn yn dangos lefel isel o ddealltwriaeth o’r pwerau datganoledig a lle’r oedd penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwneud ar hyn o bryd.

Diogelu a chryfhau datganoli

Er mai anaml y byddai pobl yn defnyddio termau technegol fel ‘confensiwn Sewel’ neu ‘weithdrefnau datrys anghydfod annibynnol’ [Troednodyn 1] yn eu hymatebion, roedd cefnogaeth gref a thrawsbleidiol ar y cyfan i fecanweithiau cyfansoddiadol i sicrhau bod pwerau’r llywodraethau a’r Seneddau perthnasol yn cael eu parchu (rydym yn edrych ar y dystiolaeth ar gyfer hyn ym mhennod 4, lle rydym yn trafod agweddau dinasyddion at gysylltiadau rhynglywodraethol).

Roedd ymchwil Cyflwr yr Undeb yn dangos lluosogrwydd, a mwyafrif o’r rheini sydd â barn, ar draws pob rhan o’r DU, o blaid cyfansoddiad ysgrifenedig, a gafodd ei efelychu yn yr ymatebion i’n harolygon ar-lein.

Mae ffafrio cyfansoddiad ysgrifenedig yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol ond nid oedd yn ymddangos ei fod yn ymwneud â dewisiadau cyfansoddiadol eraill; roedd llawer o’r ymatebwyr yn gweld cyfansoddiad ysgrifenedig fel ffordd o ddiogelu pwerau pa bynnag lywodraeth oedd bwysicaf yn eu barn nhw ac i atal yr un arall rhag mynd yn rhy bell.

Datrys anghydfodau
Image

 

Cwestiwn: Pan fydd pobl yn son am newid y ffordd mae’r DU yn cael ei llywodraethu, mae hyn weithiau’n cynnwys corff sy’n gallu datrys anghydfodau rhwng lefelau llywodraeth. Gan feddwl am y trefniadau posibl i reoli anghydfodau rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth yn y DU, pwy ddylai gael y gair olaf yn eich barn chi? Llywodraeth y DU; Corff annibynnol yn y DU sydd a chynrychiolaeth gyfartal o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon; Corff rhyngwladol annibynnol; Rhywbeth arall; Ddim yn gwybod.

Graff o adroddiad Cyflwr yr 2023 Undeb (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

Cyfansoddiad ysgrifenedig
Image

 

Cwestiwn: Pan fydd pobl yn sôn am newid y ffordd y caiff y DU ei llywodraethu, mae hyn weithiau’n cynnwys cyfansoddiad ysgrifenedig sy’n nodi hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion yn ogystal â phwerau gwahanol lefelau o lywodraeth. I ba raddau, os o gwbl, ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai hyn yn gwella trefn lywodraethu’r DU? Cytuno’n gryf; Tueddu i gytuno; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Tueddu i anghytuno; Anghytuno’n gryf; Ddim yn gwybod.

Mae'r graff yn dangos canran yn cytuno, gan bawb ac yn ôl hunaniaeth genedlaethol

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023 (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

Yr angen am refferendwm cyn diddymu’r deddfwrfeydd datganoledig
Image

Cwestiwn: Gan fod y deddfwrfeydd datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’u sefydlu drwy refferenda, yr unig ffordd o gael gwared arnynt ddylai fod drwy refferendwm arall: Cytuno’n gryf; Tueddu i gytuno; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Tueddu i anghytuno; Anghytuno’n gryf; Ddim yn gwybod.

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023 (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

Mae’r graff yn dangos canran yn cytuno, gan bawb ac yn ol hunaniaeth genedlaethol.

Mae ffafrio cyfansoddiad ysgrifenedig yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol ond nid oedd yn ymddangos ei fod yn ymwneud â dewisiadau cyfansoddiadol eraill; roedd llawer o’r ymatebwyr yn gweld cyfansoddiad ysgrifenedig fel ffordd o ddiogelu pwerau pa bynnag lywodraeth oedd bwysicaf yn eu barn nhw ac i atal yr un arall rhag mynd yn rhy bell.

Ym mhob un o bedair cenedl y DU, nid oedd llawer o gefnogaeth i Lywodraeth y DU yn atal llywodraethau datganoledig rhag gweithredu o fewn eu pwerau, gyda mwyafrif cymharol (mae ‘mwyafrif cymharol’ yn derm penodol mewn dadansoddi ystadegol – mae’n golygu’r gyfran fwyaf, ond nid mwyafrif) o’r ymatebwyr yn ffafrio ymyrraeth dim ond pan roedd y sefydliadau datganoledig yn gweithredu y tu allan i’w pwerau (gweler pennod 4). Daeth patrwm tebyg i’r amlwg mewn perthynas â phwerau Senedd a Llywodraeth y DU i wario ar faterion datganoledig, gyda llai nag un rhan o bump o’r ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn credu y dylai Llywodraeth y DU allu gwario mewn meysydd datganoledig pryd bynnag y dymunant (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin). Mae hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl eisiau gweld system lle mae pob llywodraeth yn parchu’r paramedrau a’r confensiynau sefydledig sy’n rheoli eu gweithredoedd.

Yn olaf, roedd cefnogaeth i’r syniad na ddylai datganoli ddod i ben yn unochrog yn Senedd y DU. Roedd mwyafrif cymharol o’r ymatebwyr ar draws y pedair gwlad yn cytuno mai dim ond ar ôl refferendwm y dylid diddymu sefydliadau datganoledig yn ôl ymchwil Cyflwr yr Undeb, er bod cyfran uchel o atebion ‘ddim yn gwybod’ yn Lloegr.

Cymru mewn DU ffederal

Roedd yr opsiwn hwn yn denu rhai cefnogwyr cryf, ond yn gyffredinol dyma oedd yr opsiwn lleiaf deniadol i ddinasyddion ar draws ein gwaith ymgysylltu. Roedd llawer yn meddwl nad oedd hyn y naill beth na’r llall, ac yn rhy gymhleth a drud. Roedd strwythur y DU yn aml yn cael ei weld fel rhwystr, yn enwedig y risg o ddominyddiaeth gan Loegr oherwydd maint ei phoblogaeth mewn perthynas â’r gwledydd eraill.

Ar gyfer y paneli dinasyddion, roedd hwn yn fodel poblogaidd yn y cam cyntaf ond daeth yn llai poblogaidd o lawer yn y trydydd cam ar ôl i bobl gael amser i feddwl am ei oblygiadau posibl (gweler pennod 2).

Yr ystod eang o fodelau ffederal sydd ar gael

Gallai’r amrywiaeth o fodelau ffederal posibl y gallai’r DU eu mabwysiadu hefyd fod wedi bod yn ffactor yn ymatebion pobl; efallai eu bod wedi teimlo’n ansicr am y goblygiadau posibl gan fod cynifer o newidynnau i’w hystyried. Cawsom gwynion drwy’r platfform ymgysylltu ar-lein nad oedd modd ateb y cwestiynau ffederal gan fod cynifer o fodelau ar gael.

Mae’n werth nodi nad oedd consensws wedi dod i’r amlwg yn ein harolygon ar-lein ynghylch sut gallai’r DU ffederal weithio, neu hyd yn oed a fyddai’n gweithio. Roedd gan yr ymatebwyr syniadau gwahanol iawn ynghylch sut gellid rhannu pwerau mewn model ffederal: ar un pen roedd rhai yn credu mai dim ond amddiffyn a/neu bolisi tramor allai fod yn fater ffederal; ar y pen arall roedd rhai ymatebwyr yn credu y dylid cyfyngu cyfrifoldebau gwledydd is-wladwriaethol i un neu ddau o feysydd polisi fel iechyd, neu lywodraeth leol.

Pe bai ffederaleiddio’n dod yn syniad pendant i’r DU, mae’n debygol y byddai mwy o eglurder am y cynigion a’u goblygiadau, ond ar hyn o bryd mae’n ymddangos yn gysyniad anghyfarwydd i ddinasyddion.

Agweddau at yr Undeb, llywodraethu cenedlaethol, a'r goblygiadau ar gyfer y DU ffederal

Mae rhai sylwebyddion wedi dadlau y byddai DU ffederal yn caniatáu i’r Undeb barhau tra’n rhoi mwy o ymreolaeth i’r gwledydd. Mae barn dinasyddion am yr Undeb yn ffactor pwysig wrth ystyried ymarferoldeb ffederaleiddio fel opsiwn i’r DU.

Mae ein hymchwil yn dangos, ar draws y DU, nad yw llawer o bobl yn poeni am newid sylweddol yng nghyfansoddiad yr Undeb. Er bod ganddynt efallai farn gref am sefyllfa eu rhan nhw o’r DU, ar y cyfan nid yw pobl yn teimlo’n gryf ynghylch newidiadau i statws rhannau eraill. Ar gyfartaledd, mae dinasyddion ym mhob rhan o blaid ailuno Iwerddon, ac felly ymadawiad Gogledd Iwerddon o’r Undeb, gyda’r Albanwyr o blaid gan mwyaf ac ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon ychydig yn uwch na chanol y raddfa. O ran annibyniaeth yr Alban, mae’r farn yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn gytbwys iawn.

Newid cyfansoddiadol ar draws y DU
Image

 

Cwestiwn: Ar raddfa rhwng -10 a +10, lle mae -10 yn Bendant yn Nac ydw ac mae +10 yn Bendant yn Ydw, ydych chi’n meddwl y dylai [x] fod yn wlad annibynnol?

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023 (Henderson, A., Wyn Jones, R., (2023), Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

O’r gwaith ymchwil hwn, mae’n ymddangos ar draws y DU bod pobl â’r diddordeb mwyaf yn y berthynas rhwng eu gwlad nhw a’r DU. Byddai angen safbwynt pedair gwlad ar gyfer DU ffederal, a byddai pob gwlad yn newid ei pherthynas â’i gilydd. Mae cyflawni hyn yn golygu bod angen i bobl ar draws y DU ddatblygu cysyniad gwahanol o’r hyn yw’r Undeb, a lle eu gwlad ynddo. Ar hyn o bryd, nid yw barn y cyhoedd yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw.

Mae hefyd yn dangos efallai na fydd dinasyddion gweld ffederasiwn yn gam angenrheidiol i gadw’r Undeb os nad ydynt yn ystyried bod aelodaeth bresennol o’r Undeb yn hanfodol i’w syniad o’r DU. Fodd bynnag, efallai y byddant yn gweld gwerth mewn strwythur ffederal ar seiliau eraill.

Mae ymchwil Cyflwr yr Undeb yn dangos nad yw dinasyddion yn frwd dros newid trefn llywodraethiant Lloegr, sef rhywbeth y byddai ei angen i sefydlu DU ffederal. Canfu’r gwaith ymchwil hwn nad oes llawer o gefnogaeth i’r syniad bod Lloegr yn cael ei llywodraethu gan Senedd yn Lloegr, a llai byth o gefnogaeth ar gyfer trefniadau llywodraethu rhanbarthol.

Llywodraethiant Lloegr
Image

 

Cefnogaeth ar draws gwledydd y DU ar gyfer newidiadau i’r ffordd y mae Lloegr yn cael ei llywodraethu

Cwestiwn: Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r syniadau canlynol i newid y ffordd caiff Lloegr ei llywodraethu wedi cael eu cynnig. Nodwch i ba raddau, os o gwbl, ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â phob syniad: Gweinidog llywodraeth y DU dros Loegr; gweinidogion llywodraeth y DU ar gyfer pob un o ranbarthau Lloegr; Senedd i Loegr; Awdurdodau rhanbarthol sy’n seiliedig ar y prif ddinasoedd yn Lloegr (a elwir weithiau’n ddinas-ranbarthau o dan arweiniad meiri metro); Newid y rheolau yn senedd y DU fel mai dim ond Aelodau Seneddol Lloegr sy’n cael pleidleisio ar gyfreithiau a fyddai ond yn berthnasol yn Lloegr (a elwir weithiau’n bleidleisiau Lloegr dros ddeddfau Lloegr).

Cytuno’n gryf; Tueddu i gytuno; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Tueddu i anghytuno; Anghytuno’n gryf; Ddim yn gwybod. Yn dangos cytuno’n gryf a tueddu i gytuno wedi’u cyfuno.

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023 (Henderson, A., Wyn Jones, R., (2023), Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin)

Llywodraethiant rhanbarthol yn Lloegr
Image

Cwestiwn: Gan feddwl am y trefniadau posibl ar gyfer deddfu ar gyfer Lloegr, sonnir yn aml am ddau opsiwn. Pe bai’n rhaid i chi ddewis, pa UN fyddai orau gennych chi? Trin Lloegr gyfan fel un uned; Trin pob un o ranbarthau Lloegr fel uned wahanol; Arall; Ddim yn gwybod.

Graff o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023 (Henderson, A., Wyn Jones, R., (2023), Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin).

O’r gwaith ymchwil hwn, mae’n ymddangos ar draws y DU bod pobl â’r diddordeb mwyaf yn y berthynas rhwng eu gwlad nhw a’r DU. Byddai angen safbwynt pedair gwlad ar gyfer DU ffederal, a byddai pob gwlad yn newid ei pherthynas â’i gilydd. Byddai hyn yn golygu bod angen i bobl ar draws y DU ddatblygu cysyniad gwahanol o’r hyn yw’r Undeb, a lle eu gwlad ynddo. Ar hyn o bryd, nid yw barn y cyhoedd yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw. Mae hefyd yn dangos efallai na fydd dinasyddion yn gweld ffederasiwn yn gam angenrheidiol i gadw’r Undeb os nad ydynt yn ystyried bod aelodaeth bresennol yr Undeb yn hanfodol i’w syniad o’r DU.

Mae ymchwil Cyflwr yr Undeb yn dangos nad yw dinasyddion yn frwd dros newid trefn llywodraethiant Lloegr, sef rhywbeth y byddai ei angen i sefydlu DU ffederal. Canfu’r gwaith ymchwil hwn nad oes llawer o gefnogaeth i’r syniad bod Lloegr yn cael ei llywodraethu gan Senedd yn Lloegr, a llai byth o gefnogaeth ar gyfer trefniadau llywodraethu rhanbarthol. 

Mae maint cymharol Lloegr wrth gymharu â gwledydd eraill y DU yn ffactor o ran sut y gallai’r DU ffederal weithio, ac felly mae agweddau at lywodraethu Lloegr fel un is-wladwriaeth neu fel nifer o ranbarthau llai yn dylanwadu ar y posibilrwydd o ffedereiddio yn y dyfodol. Mae dinasyddion ar draws y DU yn tueddu i ffafrio’r opsiwn o Loegr yn aros fel un uned o ran llywodraethiant.

Annibyniaeth

Annibyniaeth oedd yr opsiwn roedd ymatebwyr yr arolwg ar-lein yn fwyaf cyfforddus yn ei drafod, ar sail y parodrwydd cymharol i ymhelaethu ar eu safbwyntiau yn eu hatebion ysgrifenedig. Roeddent yn ymddangos yn fwy cyfarwydd â chysyniad a goblygiadau annibyniaeth na rhai ffederaliaeth neu atgyfnerthu datganoli. Roedd hyn yn cynnwys ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth yn ogystal â’r rheini a oedd yn ei chefnogi.

Yn arolwg meintiol Beaufort Research, pan ofynnwyd pa fath o newidiadau cyfansoddiadol y byddai’r ymatebwyr am eu gweld, dim ond 6% soniodd am annibyniaeth heb eu cymell (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023). Fodd bynnag, ar ôl eu cymell, mae pethau’n newid – yn enwedig ymysg yr ifanc.

Dewisiadau cyfansoddiadol yn ôl oedran

Image

Cwestiwn: Ar hyn o bryd, ar y cyfan, pa un o’r datganiadau hyn sydd agosaf at eich barn chi ynglŷn â Chymru?

Graff o adroddiad Beaufort 2023 (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023)

Mae’r posibilrwydd o adael y DU yn fater sy’n hollti barn, fel y dangosir yn y graffiau isod. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae safbwyntiau ynghylch a ddylid aros yn y DU neu ddod yn annibynnol/ailuno ag Iwerddon yn cael eu dal yn gadarn ar y naill ben neu’r llall i’r sbectrwm. Yng Nghymru a Lloegr, nid oes gan lawer o’r ymatebwyr ffafriaeth mor amlwg y naill ffordd na’r llall. Ar y cyfan, mae ymatebwyr o Gymru yn fwy amheus ynghylch annibyniaeth i Gymru nag ymatebwyr mewn unrhyw ran arall o’r DU am eu gwlad yn gadael y DU.

Diwygio cyfansoddiadol ar draws y DU

Image

Cwestiynnau: Alban – Ar raddfa o -10 i +10, lle mae -10 yn bendant Na’ a +10 yn ‘Bendant Oes’, a ydych chi’n credu y dylai’r Alban ddod yn wlad annibynnol? Gogledd Iwerddon –A defnyddio graddfa ychydig yn wahanol beth am Ogledd Iwerddon? Os yw -10 yn bendant yn aros mewn undeb gyda’r Deyrnas Unedig a + 10 yn bendant dylai ddod yn rhan o Iwerddon unedig, beth ydych chi’n meddwl ddylai ddigwydd yng Ngogledd Iwerddon? Lloegr – A defnyddio’r un raddfa, beth am Loegr? Ydych chi’n meddwl y dylai Lloegr ddod yn wlad annibynnol? Cymru – A defnyddio’r un raddfa, beth am Gymru? Ydych chi’n credu y dylai Cymru ddod yn wlad annibynnol?”

Graffiau o adroddiad Cyflwr yr Undeb 2023 (Henderson, A., Wyn Jones, R., 2023, Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caeredin).

Agweddau yng Nghymru at annibyniaeth

Mae’r ymatebion i’r arolwg ar-lein yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o gymhellion y rheini sy’n cefnogi annibyniaeth. Mae’r ymatebion i Dweud eich Dweud: Have your Say yn datgelu bod cefnogaeth i annibyniaeth yn aml yn cael ei gyrru gan agweddau at Lywodraeth y DU a chwynion (hanesyddol a chyfredol) ynghylch i ba raddau mae Cymru’n llwyddo yn y DU. Ychydig iawn o ymatebion o blaid annibyniaeth a fynegodd gymhelliant gwahanol. Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal yn ystod cyfnod o ansefydlogrwydd penodol yn Llywodraeth y DU gyda thri Phrif Weinidog mewn cyfnod o 6 wythnos, a mini-gyllideb gyda chanlyniadau economaidd ar raddfa fawr. Efallai fod hyn wedi dylanwadu ar gefnogaeth i annibyniaeth ar y pryd.

Roedd yr ymatebion i arolwg y platfform ymgysylltu ar-lein, a oedd yn cynnwys cwestiynau manwl am ymarferoldeb annibyniaeth, yn dangos nad oedd llawer o’r ymatebwyr sy’n cefnogi annibyniaeth wedi ystyried y materion hyn yn fanwl. Pan ofynnwyd iddynt am faterion fel ffiniau, arian cyfred, neu gysylltiadau yn y dyfodol â Lloegr/ gweddill y DU er enghraifft, roedd cefnogwyr annibyniaeth yn aml yn rhoi atebion amwys, ar ffurf ‘yr un ffordd ag y mae gwledydd eraill o faint tebyg yn ei wneud’, ac ‘mae llawer o lefydd eraill yn gwneud yn dda yn y sefyllfa hon’. Roedd rhai wedi defnyddio enghreifftiau rhyngwladol, fel profiad Iwerddon, un o gyn-drefedigaethau’r DU, gwahanu Tsiecoslofacia, neu cyn wledydd yr Undeb Sofietaidd fel Estonia, heb ystyried a oedd modd cymharu’r rhain â chyd-destun Cymru.

Roedd gan y rheini a oedd yn cefnogi annibyniaeth farn gadarnhaol am sefyllfa ariannol Cymru annibynnol, gyda rhai’n credu y byddai annibyniaeth yn ei wella yn awtomatig – naill ai oherwydd eu bod yn credu bod Cymru’n cyfrannu mwy at drethi’r DU nag y mae’n ei chael mewn gwariant cyhoeddus (mae hyn yn ffeithiol anghywir; mae Cymru’n codi llai o drethi nag y mae’n ei chael mewn arian cyhoeddus), neu oherwydd na fyddai’n rhaid i Gymru gyfrannu mwyach at ariannu lluoedd amddiffyn y DU neu brosiectau seilwaith mawr yn y DU. Roedd rhai o’r farn y byddai trethi a benthyca gan y llywodraeth yn codi ond roeddent yn fodlon â hyn gan y byddai bywyd yng Nghymru yn gwella’n gyffredinol.

Roedd yr ymatebion a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth yn cyfeirio at ystyriaethau ymarferol fel ffiniau, arian cyfred a chyllid cyhoeddus. Roeddent o’r farn y byddai trethi uwch, byddai’r llywodraeth yn benthyca llawer a byddai llai o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu, ac roeddent yn amharod i dderbyn y canlyniadau hyn yn gyfnewid am fwy o sofraniaeth. Roedd eraill yn dadlau y byddai annibyniaeth yn ‘drychineb economaidd’.

Gwrthwynebiad i ddatganoli

Fel y nodir yn yr adroddiad interim, nid oedd diddymu’r Senedd yn un o’r opsiynau a wnaethom ei ddadansoddi yn yr adroddiad hwn. Cawsom nifer o ymatebion i’n hymgynghoriad ar-lein a oedd yn galw am roi diwedd ar ddatganoli (yn Dweud eich Dweud: Have your Say roedd 20% o’r ymatebwyr wedi mynegi eu bod yn ffafrio diddymu datganoli. Yn arolwg y platfform ymgysylltu ar-lein, a oedd yn gofyn cwestiynau penodol am agweddau ar newid cyfansoddiadol yn hytrach na dewisiadau cyfansoddiadol cyffredinol, roedd yr ymatebion a oedd yn ffafrio diddymu datganoli yn amrywio o 2% o’r ymatebion i 29% o’r ymatebion fesul cwestiwn). Roedd y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eu canfyddiadau a’u pryderon.

Roedd yr ymatebion hyn yn dangos bod eiriolaeth i ddiddymu’r sefydliadau datganoledig yn aml yn seiliedig ar anghytuno â phenderfyniadau Llywodraeth bresennol Cymru. Roedd nifer o ymatebion yn sôn am bolisïau penodol, yn fwyaf aml pleidleisio yn 16, ail gartrefi, hyrwyddo’r Gymraeg, a’r terfyn cyflymder 20mya, yn ogystal â chanfyddiadau negyddol mwy cyffredinol o gymhwysedd mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd, addysg a seilwaith trafnidiaeth.

Dywedodd rhai eu bod yn cefnogi diddymu’r sefydliadau datganoli oherwydd eu bod yn credu nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn eu hardal leol nhw. Roedd rhai o’r farn hon oherwydd nad yw’r blaid wleidyddol o’u dewis erioed wedi cael ei chynrychioli mewn llywodraeth yng Nghymru. Roedd eraill wedi dweud eu bod yn cefnogi’r Undeb ac yn credu bod datganoli yn tanseilio hynny, ond roedd llawer mwy wedi sôn am weithredoedd y llywodraeth (Cymru) sydd mewn grym fel rheswm dros wrthod y system lywodraethu ddatganoledig.

Mae’n ymddangos bod Cymru’n anarferol oherwydd bod ei dinasyddion sy’n anfodlon â gweithredoedd eu llywodraeth a’u senedd yn ymateb i hynny drwy alw am eu diddymu. Nid ydym wedi gweld tystiolaeth sy’n awgrymu bod hyn yn wir mewn rhannau eraill o’r DU.

Nid ydym wedi derbyn cynnig rhesymegol i wrthdroi datganoli a sut y byddai’n cael ei gyflawni, yn hytrach na beirniadu’r ffordd mae datganoli’n gweithio ar hyn o bryd. Roedd y rheini a fynegodd farn yn aml yn awgrymu dychwelyd i’r sefyllfa yn y 1990au pan oedd Cymru’n cael ei llywodraethu gan Lywodraeth y DU, heb ystyried ymarferoldeb gwneud hynny yng nghyd-destun 25 mlynedd o ddatganoli i wledydd, a bwriad Llywodraeth y DU i ddirprwyo rhagor o bwerau i ranbarthau Lloegr.

Ychydig o dystiolaeth a gawsom am yr hyn a allai ddisodli datganoli, naill ai o’n hymgysylltiad â dinasyddion neu gan eiriolwyr gwleidyddol/arbenigol. Fe wnaethom geisio ymgysylltu â Reform UK, ni wnaethant ymateb i’n gwahoddiadau i roi tystiolaeth. O ganlyniad, ymatebion i’r arolwg ar-lein lle’r oedd pobl yn dewis cymryd rhan o’u gwirfodd oedd ein prif ffynhonnell dystiolaeth o gefnogaeth i ddiddymu datganoli.

Rhan 2: Effaith newidiadau cyfansoddiadol mawr yn y DU drwyddi draw - senarios amgen

Yn yr adran hon rydym yn edrych ar effaith bosibl newidiadau yng nghyfansoddiad y DU ar agweddau at newid cyfansoddiadol yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad isod yn adlewyrchu ein hystyriaeth o gyngor ein Panel Arbenigol ar effaith y senarios a drafodwyd.

Newid cyfansoddiadol mawr yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r weithdrefn ar gyfer cynnal refferendwm ar ailuno ag Iwerddon wedi’i nodi mewn statud. Er nad yw’n ymddangos bod y naill senario na’r llall ar fin digwydd, mae posibilrwydd realistig y gallai’r naill neu’r llall ddigwydd yn y dyfodol.

Ailuno ynys Iwerddon

At ei gilydd, byddai’r datblygiad hwn yn cael effaith gymharol fach ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru. Mae daearyddiaeth a hanes Gogledd Iwerddon yn golygu mai effaith gyfyngedig fyddai ailuno yn ei chael ar y ddadl gyfansoddiadol yng Nghymru.

Ni fyddai’r broses ailuno yn berthnasol i Gymru. Ni fyddai Gogledd Iwerddon yn dod yn genedl annibynnol, gyda ffin tir i wlad fwy. Byddai’n gadael i ddod yn rhan o Iwerddon, a Môr Iwerddon fyddai’r ffin â Phrydain Fawr. Felly, pe bai hyn yn digwydd, ni fyddai’r ddadl a’r negodiadau ar adael yr Undeb yn debyg iawn i’r hyn a fyddai’n ddisgwyliedig i Gymru pe bai newid cyfansoddiadol.

Mewn theori, mae’n bosibl y gallai ailuno Iwerddon olygu bod Prydain Fawr yn ailystyried ei gyfansoddiad ar hyd llinellau mwy ffederal. Byddai hynny’n dibynnu ar i ba raddau roedd yr Alban yn gweld ei dyfodol yn y DU, a pharodrwydd Lloegr i newid ei strwythurau llywodraethiant.

Pe bai Gogledd Iwerddon yn gadael yr Undeb, ni fyddai Prydain yn rhannu ffin tir â gwlad arall mwyach, a allai olygu bod llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd gwahanu ymhellach oddi wrth yr UE. Gallai hyn ei gwneud hi’n anoddach i Gymru annibynnol sefydlu perthynas â’r UE, p’un ai oedd yn ceisio ymuno â’r UE ei hun ai peidio.

Alban annibynnol

Mae llawer o sylwebyddion yn gweld yr Alban annibynnol yn gam cyntaf angenrheidiol ar y daith at annibyniaeth i Gymru. Nid oes rheswm ymarferol pam na allai Cymru adael tra bod yr Alban yn dal yn rhan o’r Undeb, ond mae gan y llwybr at annibyniaeth yn yr Alban fwy o fomentwm a chefnogaeth gyhoeddus. Felly, mae’n ymddangos yn debygol y byddai annibyniaeth yr Alban yn digwydd cyn mandad ar gyfer annibyniaeth i Gymru.

Yn wahanol i ailuno Iwerddon, nid oes proses gyfreithiol ar waith i’r Alban adael y DU. Mae’n bosibl y gallai’r broses a ddilynwyd gyda Brexit – pleidlais refferendwm o blaid ymadael ac yna cyfnod o negodi i gytuno ar oblygiadau ymarferol ymadael – ddarparu cynsail cyffredinol. Fodd bynnag, sefydlwyd proses Brexit i gyflawni nod gwahanol i annibyniaeth yr Alban, ac felly mae terfyn ar y graddau y gellid defnyddio’r cynsail hwn. Byddai negodi rhwng yr Alban a llywodraeth gweddill y DU. Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried hyn yn negodi dwyochrog, heb gynnwys llywodraethau Cymru na Gogledd Iwerddon, neu efallai y bydd yn ceisio cynnwys y llywodraethau datganoledig yn y broses.

Pa bynnag broses a ddilynir at annibyniaeth yr Alban, mae’n debygol y byddai hyn yn cael ei weld fel patrwm ar gyfer Cymru, a allai effeithio ar farn y cyhoedd yng Nghymru ar annibyniaeth. Gallai proses o wrthdaro a fyddai’n niweidiol i’r Alban weithio yn erbyn yr achos dros annibyniaeth yng Nghymru. Ar yr un pryd, gallai’r ffaith bod llwybr at annibyniaeth yn bodoli, er ei fod yn un garw, greu mwy o sicrwydd a allai fod yn galonogol i gefnogwyr annibyniaeth.

Pe bai Cymru’r unig wlad ddatganoledig yn y DU

Nid oedd datganoli wedi arwain at newidiadau mawr yn y ffordd mae Llywodraeth a Senedd y DU yn gweithredu wrth lywodraethu’r DU. Efallai na fyddai newid mor fawr ag ymadawiad un neu ddwy wlad, yn arwain yn awtomatig at newid sylfaenol i gyfansoddiad y DU ar unwaith.

Yn ymarferol, mae’n ymddangos yn debygol y byddai ymadawiad yr Alban a Gogledd Iwerddon o’r DU yn effeithio ar weithrediad a hyfywedd datganoli yng Nghymru. Byddai hyn yn dibynnu’n rhannol ar sut roedd Llywodraeth y DU a phleidleiswyr Lloegr yn gweld Cymru yn y sefyllfa honno, a sut roedd pobl Cymru yn gweld eu gwlad a’u sefydliadau datganoledig.

Roedd gan Gymru statws gwlad yn y DU am genedlaethau cyn datganoli. Mae’n anodd rhagweld faint o bobl yng Nghymru neu Loegr fyddai’n gweld bodolaeth llywodraeth ddatganoledig yn ganolog i’r cysyniad o ‘Gymru: y genedl’ yn y senario hwn.

Mae perygl y gallai pobl, mewn DU sy’n cynnwys dwy wlad, un gyda 3 miliwn o bobl ac un gyda 56 miliwn o bobl, gwestiynu ymarferoldeb datganoli parhaus. Ar gyfer materion trawsffiniol fel trafnidiaeth neu ddatblygu economaidd, gallai datganoli ymddangos yn fwy o gymhlethdod na budd gyda dim ond un ffin. Pe bai’r mwyafrif yn credu hynny, yna gallai rhai ddadlau nad oedd datganoli deddfwriaethol yn ymarferol i Gymru mwyach ac y dylai modelau datganoli rhanbarthol Lloegr fod yn berthnasol yn lle hynny.

Neu, gallai Llywodraeth y DU yn y dyfodol weld datblygu neu ddiogelu datganoli i Gymru fel ffordd o rwystro’r wlad ddatganoledig olaf rhag gofyn am annibyniaeth. Mae’n bosibl hefyd, mewn undeb o ddwy wlad, y gallai rhanbarthau Lloegr megis Cernyw, Llundain, Manceinion Fwyaf ac eraill, eiriol dros eu pwerau deddfwriaethol eu hunain. Heb ddylanwad gogleddol yr Alban a Gogledd Iwerddon, gallai economi’r DU ddod hyd yn oed yn fwy canoledig ac wedi'i phwysoli tuag at dde-ddwyrain Lloegr. Gellid ystyried datganoli rhanbarthol, gan gynnwys datganoli deddfwriaethol, fel rhywbeth a fyddai’n gweithio yn erbyn y duedd honno. Yn y senario hwnnw, gallai fod cefnogaeth fwy poblogaidd i ddatganoli fel model llywodraethiant i Gymru a Lloegr.

Os byddai Cymru’n dewis aros mewn undeb â Lloegr, ar ôl i’r Alban a Gogledd Iwerddon adael, mae’n annhebygol y gallai ei fframwaith cyfansoddiadol presennol barhau heb ei ddiwygio yn y tymor canolig i’r tymor hir. Os bydd Cymru’n dewis aros mewn undeb â Lloegr, ar ôl i’r Alban a Gogledd Iwerddon adael, mae’n annhebygol y gallai ei fframwaith cyfansoddiadol presennol barhau heb ei ddiwygio yn y tymor canolig i’r tymor hir.

Yn y senario hwnnw, byddai’n hanfodol i ddinasyddion a chynrychiolwyr etholedig Cymru gymryd rhan weithgar mewn trafodaethau am oblygiadau newidiadau posibl i’r ffordd caiff eu gwlad ei llywodraethu.

Llywodraeth y DU gyda rhaglen sylweddol o ddiwygio cyfansoddiadol

Yn y senario hwn, byddai Cymru’n rhan fach o raglen ddiwygio ar draws y DU. Byddai angen amcanion a chynigion clir ar lywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar y rhaglen hon.

Ceir risg na fyddai diwygio cyfansoddiadol mawr ar lefel y DU yn gadael lle ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yng Nghymru. Gallai ail siambr ddiwygiedig neu newidiadau i gynrychiolaeth yn Nhŷ’r Cyffredin newid y fathemateg etholiadol a gwleidyddol yn ddiweddarach mewn ffordd a fyddai’n hwyluso diwygio llywodraethiant Cymru, ond efallai na fyddai hynny’n flaenoriaeth i lywodraeth y DU.

Tanseilio’r setliad datganoli ymhellach

Rydym wedi nodi bod y gefnogaeth yng Nghymru i ddiddymu’r Senedd wedi codi i 15% o tua 9% ddegawd yn ôl (Casglu safbwyntiau’r cyhoedd ar opsiynau posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: Crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg meintiol, Beaufort Research, 2023). Mae ychydig o gefnogaeth i ddatganoli ar gyfer rhanbarthau Lloegr, er ei bod hi’n ymddangos bod hyn yn deillio o ddiffyg diddordeb yn hytrach na gelyniaeth. Fodd bynnag, mae cefnogaeth gref i’r syniad y dylid parchu awdurdod llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, a gweithredu o fewn eu ffiniau.

Mae’n debyg y byddai gwrthwynebiad poblogaidd i unrhyw ymgais i ddiddymu strwythur llywodraethu Cymru ar unwaith, ond mae’n bosibl na sylwir ar erydiad araf nes ei bod yn rhy hwyr i wneud iawn amdano.

Mae rhai yn dadlau bod Deddf y Farchnad Fewnol 2020 mewn gwirionedd eisoes yn tanseilio’r setliad yn sylweddol. Mae pwerau cyllido Gweinidogion y DU mor eang fel y gellid eu defnyddio i danseilio’r gwaith o gyflawni swyddogaethau datganoledig craidd fel addysg, iechyd, trafnidiaeth, llywodraeth leol a thai. Gallai’r gostyngiadau canlyniadol mewn cyllid drwy fformiwla Barnett, i bob pwrpas, amddifadu Llywodraeth Cymru o adnoddau. Yng ngoleuni dirywiad mewn gwasanaethau a’r dewisiadau polisi amhoblogaidd sydd eu hangen i gydbwyso cyllidebau sy’n lleihau, gallai’r galwadau am ddewis amgen i ddatganoli fynd yn gryfach.

Newidiadau yn y berthynas â’r UE

Bydd natur perthynas y DU â’r UE yn effeithio ar hyfywedd ac apêl newid cyfansoddiadol i Gymru.

Gallai Llywodraeth y DU yn y dyfodol ddewis adeiladu cysylltiadau agosach â’r UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ailymuno â’r undeb tollau neu hyd yn oed ailymuno â’r Farchnad Sengl. Byddai dod yn rhan o fframwaith rheoleiddio ar y cyd yn mynd i’r afael â rhai o anawsterau presennol y setliad datganoli, a byddai’n darparu pwynt cyfeirio a rennir ar gyfer strwythur ffederasiwn neu ar gyfer negodiadau annibyniaeth.

Gallai esblygiad yr UE effeithio ar apêl newid cyfansoddiadol i ddinasyddion Cymru. Byddai gwledydd fel Wcráin yn ymuno â’r UE yn newid ei chanolbwynt. Bydd sut mae’r pedwar rhyddid wedi’u gwreiddio yng nghyfraith yr UE a sut mae uniondeb y ffiniau allanol yn cael ei ddiogelu yn cael effaith sylweddol ar a fyddai Cymru’n elwa o fod yn aelod o’r UE, ac a fyddai’n ddeniadol i ddinasyddion yng Nghymru naill ai fel rhan o’r DU neu fel cenedl annibynnol.

Casgliadau

Drwy bwyso a mesur canlyniadau ein gwaith ymgysylltu a’n gwaith ymchwil a’n dadansoddiad o’r senarios posibl, mae hi’n glir na ellir meddwl am newid cyfansoddiadol i Gymru ar wahân i weddill y DU. Bydd newidiadau mewn mannau eraill yn effeithio ar hyfywedd ac apêl yr opsiynau i Gymru. Mae effaith y senarios posibl a drafodir uchod yn dibynnu ar farn y cyhoedd yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU.

Mae hi’n hanfodol bod dinasyddion ac arweinwyr gwleidyddol Cymru yn cymryd rhan yn y ddadl am newid cyfansoddiadol yn y DU, oherwydd gallai effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y newidiadau hynny arwain at oblygiadau sylweddol i Gymru. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl Cymru yn gallu ymateb yn gadarnhaol i realiti cyfansoddiadol sy’n newid, yn hytrach na brwydro i ymateb i newidiadau wedi eu sbarduno gan ddigwyddiadau allanol.

Troednodiadau

  1. Fel y nodir ym mhennod 3, mae Confensiwn Sewel yn gytundeb Seneddol nad yw’n rhwymo, sef nad yw Senedd y DU fel arfer yn gwneud deddfwriaeth mewn maes datganoledig heb gydsyniad y ddeddfwrfa ddatganoledig. Byddai gweithdrefn datrys anghydfod annibynnol, er enghraifft, yn broses i gyfeirio penderfyniadau cyllido’r Trysorlys mewn perthynas â llywodraethau datganoledig at gorff annibynnol i ddod i ddyfarniad. (Yn ôl i destun)

Paneli dinasyddion

Fe wnaethom sefydlu wyth panel dinasyddion i ystyried opsiynau cyfansoddiadol mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru.

Roedd y sesiynau cydgynghorol yn rhoi’r wybodaeth yr oedd ei hangen ar lawer o gyfranogwyr i gael barn sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth am sut mae Cymru’n cael ei rhedeg. Roedd y dull cydgynghorol hefyd yn golygu bod llawer o gyfranogwyr yn ymgysylltu mwy â’r pwnc ar eu taith gyda ni dros nifer o fisoedd. Roedd hyn yn arbennig o wir i rai cyfranogwyr iau a oedd yn teimlo bod y broses wedi agor eu llygaid i bwnc nad oeddent wedi meddwl llawer amdano o’r blaen.

“Fe ddysgon ni lot ohono, ac oddi wrth bobl eraill.”

“Mae’r sgwrs wedi bod yn defnyddiol iawn i fi i helpu creu fy marn fy hun…nawr dwi’n gwybod mwy am sut mae Cymru yn cael ei rhedeg a sut gallai hi gael ei rhedeg.

“Mae heno wedi bod yn agoriad llygad go iawn i mi.  Rydw i wedi mwynhau’r profiad yn fawr ac wedi dysgu llawer. Mae’n wych cael y cyfle i leisio fy marn.” 

“Mae’n bwysig iawn cael gwybodaeth. Rydw i wedi dysgu pethau heddiw, ond yn gyffredinol, dydy’r wybodaeth honno ddim gennym ni am sut mae Cymru’n cael ei rhedeg.”

“Agoriad llygad. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod gwleidyddiaeth Cymru mor bwysig i mi. Doeddwn i erioed yn hoffi gwleidyddiaeth Cymru. Dydw i ddim yn Dori nac yn Llafur, rwy’n pleidleisio dros bwy rwy’n meddwl sy’n iawn.”

“Rwy’n caru ’Politics Live’, rwy’n caru’r holl raglenni gwleidyddiaeth, [ond] dydych chi ddim yn clywed am Gymru arnyn nhw. Mae’n debyg fy mod yn gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru gan nad yw’r cyfryngau’n dangos yr un peth. Rydw i’n gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban nag yng Nghymru.”

Dyfyniadau gan aelodau o’n Paneli Dinasyddion ar gymryd rhan mewn trafodaethau cydgynghorol gyda Beaufort Research.

Pennod 7: dyfodol cyfansoddiadol

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn cyflwyno ein hasesiad o’r tri opsiwn cyfansoddiadol a nodwyd yn ein hadroddiad interim, i helpu dinasyddion Cymru i benderfynu ar y dyfodol y maent am ei gael i Gymru. Mae’n egluro’r broses roeddem wedi'i defnyddio gyda phob un o’r tri opsiwn i sicrhau asesiad gwrthrychol a theg. Ar ddiwedd y bennod, rydym yn crynhoi’r broses a’r dadansoddiad mewn ffurf darlun.

Nid ydym wedi llunio barn ynghylch pa opsiwn yw’r un iawn i Gymru; dinasyddion a’u cynrychiolwyr sydd i ddewis hynny. Rydym yn cytuno bod i bob opsiwn ei gryfderau, ei wendidau, ei risgiau a’i gyfleoedd. Pwrpos y ffeithlun yw i helpu darllenwyr i bwyso a mesur yr agweddau hyn, a gwneud eu penderfyniad eu hunain.

Fe wnaethom ofyn i’n Panel Arbenigol gynnig fframwaith i seilio ein hasesiad arno. Fe wnaethom gyhoeddi fersiwn drafft ohono ym mis Mawrth 2023, a’i ddiwygio mewn ymateb i sylwadau cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol ym mis Mai.

Mae dwy ran i’r bennod hon:

  • mae rhan 1 yn egluro’r tri opsiwn.
  • mae rhan 2 yn rhoi ein hasesiad ar sail ein fframwaith dadansoddi.

Rhan 1: rhesymeg a diffiniad

Dyma’r tri opsiwn roeddem wedi’u nodi:

  1. atgyfnerthu datganoli
  2. Cymru mewn DU ffederal
  3. Cymru annibynnol.

Yn ein barn ni, mae pob un o’r rhain yn opsiwn hyfywl ar gyfer llywodraethiant Cymru yn yr hirdymor. Mae datganoli a ffedereiddio yn ffyrdd o gysoni amrywiaeth tiriogaethol a gwleidyddol y DU ar yr un pryd â chynnal gwladwriaeth yr Undeb. Byddai annibyniaeth yn creu gwladwriaeth newydd yng Nghymru.

Atgyfnerthu datganoli

O dan yr opsiwn hwn datganoli fyddai’r model hirdymor ar gyfer llywodraethiant Cymru, gan roi rhywfaint o hunanlywodraeth ar y rhan fwyaf o faterion polisi domestig gydag aelodaeth o’r Undeb yn rhoi undod a sicrwydd i ddinasyddion ar hyd a lled y DU. Mae’r dadansoddiad o’r opsiwn hwn yn tybio bod yr atebion rydym yn eu hargymell ym mhenodau 4 a 5 wedi cael eu rhoi ar waith.

Yn ogystal â’r newidiadau hynny, byddai angen y canlynol i roi datganoli ar sail hirdymor hyfyw:

  1. Adolygiad sylfaenol o gyllid tiriogaethol mewn perthynas ag angen ar draws y DU, y byddai pedair llywodraeth y DU yn cytuno arno.
  2. Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd diwygio ail siambr Senedd San Steffan sy’n gwarantu llais ffurfiol i wledydd ac i ranbarthau’r DU a’u sefydliadau datganoledig.
  3. Proses reolaidd i adolygu ac i ddiweddaru’r cymalau cadw yn Adran 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru i ddileu cymalau cadw sydd heb sail resymegol strategol (drwy ddeddfwriaeth sylfaenol neu Orchymyn Gweinidogol fel y bo’n briodol), a bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU yn cytuno arni.

Cymru mewn DU ffederal

Byddai’r opsiwn hwn yn ailsefydlu’r DU fel gwladwriaeth ffederal, gan alluogi mwy o ymreolaeth i Gymru o fewn gwladwriaeth yr Undeb. Byddai cydlywodraethu ar faterion sydd o ddiddordeb i’r naill a’r llall. Byddai’r cyfansoddiad yn pennu’r strwythurau rhynglywodraethol a’r trefniadau cyllido fel rhan o lywodraethu mewnol y DU.

Byddai hyn yn golygu newid cyfansoddiadol ar draws y DU, gyda chyfansoddiad ysgrifenedig yn nodi:

  1. cyfrifoldebau’r llywodraeth ‘ffederal’ a llywodraethau’r ‘is-wladwriaethau’
  2. y strwythurau a’r mecanweithiau ar gyfer y berthynas rhyngddynt, gan gynnwys cynrychiolaeth ffurfiol o’r is-wladwriaethau yn y strwythurau ffederal a’r trefniadau ar gyfer cydlywodraethu lle bo angen (er enghraifft ar gyfer seilwaith trafnidiaeth trawsffiniol)
  3. mecanweithiau i ddatrys anghydfodau, drwy’r llysoedd neu gorff annibynnol arall.

Mae’r opsiwn hwn yn tybio creu sefydliadau gwleidyddol sy’n cyfateb i’r Senedd a Llywodraeth Cymru gyda phwerau gweddol debyg naill ai ar gyfer Lloegr yn ei chyfanrwydd neu ar gyfer rhanbarthau Lloegr. Byddai pwerau deddfwriaethol a gweithredol presennol Lloegr yn unig Llywodraeth a Senedd y DU mewn meysydd polisi fel iechyd neu addysg yn eistedd ar lefel yr is-wladwriaeth.

Senedd a Llywodraeth y DU fyddai’n gyfrifol am faterion ffederal yn unig. Byddai’r rheini bron yn sicr yn cynnwys materion fel polisi tramor, mewnfudo a’r lluoedd arfog, ond gallent hefyd ymestyn i feysydd sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd megis amaethyddiaeth neu rai elfennau o bolisi amgylcheddol.

Byddai’r opsiwn hwn yn gofyn am drefniadau cyllido newydd wedi’u dilysu’n annibynnol ar lefel y dalaith ac ar lefel ffederal, gyda threthi lleol yn rhan fawr o gyllidebau’r is-wladwriaethau.

Cymru annibynnol

Byddai’r opsiwn hwn yn golygu creu gwladwriaeth sofran yng Nghymru, fyddai’n gymwys i ymuno â’r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill. Byddai hyn yn cael ei greu ar ôl negodiadau a chyda chytundeb terfynol gweddill y DU. Gallai Cymru annibynnol ddewis ei threfniadau masnachu ei hun a chysylltiadau eraill, a llunio polisïau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae’n tybio y byddai Llywodraeth Cymru yn y tymor canolig yn ysgwyddo cyfrifoldeb ariannol dros ddarparu’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n caniatáu i amrywiaeth o ganlyniadau gael eu negodi gyda Llywodraeth y DU, ar:

  • trefniadau pontio posibl ar bensiynau’r wladwriaeth
  • dyled sofran y DU a pha gyfran, os o gwbl, y dylid ei dyrannu i Gymru
  • arian cyfred
  • cymryd rhan mewn ‘marchnad sengl’ gyda gweddill y DU

Mae’r dadansoddiad o’r opsiwn yn rhagdybio y byddai trefniadau ffurfiol ar gyfer cydweithredu rhwng Cymru annibynnol a gweddill y DU ar faterion fel amddiffyn a mewnfudo.

Mae’r achos sylfaenol yn rhagdybio y gallai annibyniaeth ddigwydd heb newid cyfansoddiadol mawr yng ngweddill y DU ar wahân i’r hyn a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i Gymru’n gadael yr Undeb. Ni fyddai annibyniaeth Cymru o reidrwydd yn cael ei rhagflaenu na’i hategu gan annibyniaeth yr Alban nac ailuno Iwerddon.

Rhan 2: asesu’r opsiynau

Yn y rhan hon rydym yn asesu’r tri opsiwn cyfansoddiadol yn erbyn y deuddeg maen prawf yn y fframwaith dadansoddi. Rydym wedi eu grwpio mewn tair adran:

  1. Egwyddorion
  2. Materion Ymarferol
  3. Polisïau

Mae’r dadansoddiad yn tanlinellu bod gan bob opsiwn fanteision ac anfanteision, ac mae gan bob un risg a chyfle. Mae’r dewis rhyngddynt yn dibynnu ar faint o bwysau a roddir i bob maen prawf. Bydd pobl yn anghytuno’n ddilys ynghylch y pwys y maent yn ei roi ar feini prawf o’r fath, a bydd amrywiaeth o gysylltiadau diwylliannol, gwleidyddol a strategol yn pennu sut caiff yr opsiynau eu gweld.

Adran 1: egwyddorion

Yn ein hadroddiad interim, rydym yn nodi ein gwerthoedd sy’n deillio o safonau llywodraethiant sy’n cael eu cydnabod yn eang. Mae’r adran hon yn ystyried sut mae’r tri opsiwn yn cyd-fynd â gwerthoedd atebolrwydd, galluogedd, sybsidiaredd, a chydraddoldeb a chynhwysiant.

Atebolrwydd

I ba raddau y ceir eglurder ynghylch ble a chan bwy y gwneir penderfyniadau, a sut y gellir dal y rheini sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif.

Mae datganoli yn ôl ei ddiffiniad yn golygu rhywfaint o atebolrwydd a rennir neu sy’n gorgyffwrdd. Er enghraifft:

  • Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar gyfanswm gwariant cyhoeddus ac felly maint cyllideb Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar flaenoriaethau’r gyllideb. O ganlyniad, mae atebolrwydd am benderfyniadau fel cyllid y GIG neu lywodraeth leol yn cael ei rannu rhwng y ddwy lefel o lywodraeth.
  • Gall Senedd y DU ddeddfu ar faterion datganoledig, gyda chydsyniad y Senedd neu hebddo. Mae nifer yr achlysuron pan mae Llywodraeth y DU wedi deddfu er gwaethaf gwrthwynebiad Senedd Cymru wedi cynyddu’n sylweddol ers Brexit.
  • mae gwasanaethau datganoledig a heb eu datganoli yn effeithio ar ei gilydd. Er enghraifft, mae hawl i fudd-daliadau’r DU yn gweithredu fel pasbort i’r budd-daliadau datganoledig, ac mae tanfuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn meysydd heb eu datganoli fel cymorth cyfreithiol neu seilwaith rheilffyrdd yn gallu rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wario rhagor mewn meysydd cysylltiedig.
  • mae setliadau datganoli yn cynnwys pwerau cydredol (a rennir) y gall Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU eu harfer, gydag amrywiaeth o fecanweithiau gwahanol i’r naill ymgynghori â’r llall. Roedd nifer y pwerau cydredol wedi cynyddu’n sylweddol oherwydd Brexit.

Byddai’r newidiadau sydd eu hangen er mwyn atgyfnerthu datganoli yn lleihau llawer o’r problemau hyn, ond byddai gorgyffwrdd cymhleth o hyd rhwng pwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl, er enghraifft o ran:

  • trethiant, lle mae’n annhebygol y byddai gan y Senedd lawer o hyblygrwydd i wyro ymhell o bolisi cyllidol Llywodraeth y DU
  • polisi nawdd cymdeithasol, a fyddai’n cael ei gadw’n ôl
  • polisi cyflogaeth, gyda deddfwriaeth cyflogaeth wedi'i chadw’n ôl i Senedd y DU ond gyda gwasanaethau datganoledig yn parhau i gyflogi cyfran sylweddol iawn o weithlu Cymru.

Byddai angen cyfansoddiad ysgrifenedig ar gyfer DU ffederal. Pe bai cyfansoddiad ysgrifenedig yn cael ei ddrafftio’n glir a’i fod yn cynnwys digon o fanylion, yn ddiau byddai’n gwella’r eglurder o ran cyfrifoldeb ac atebolrwydd. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o wledydd ffederal, mae atebolrwydd am ganlyniadau (fel ffyniant, cydraddoldeb, tlodi, iechyd) yn cael ei rannu rhwng y llywodraeth ffederal a llywodraethau’r is-wladwriaethau, ond y llywodraeth ffederal sydd fel arfer yn rheoli hawliau budd-daliadau a pholisi cyllidol ac economaidd.

Pan fydd penderfyniadau rhynglywodraethol yn cael eu negodi, a phan fydd cyfrifoldebau ar y cyd rhwng llywodraethau’r is-wladwriaethau a llywodraethau ffederal, bydd lle bob amser i haenau o atebolrwydd sy’n gorgyffwrdd. Yn Awstralia, lle ceir cymwyseddau cymysg, mae darpariaeth yn y cyfansoddiad i’r lefel ffederal gael blaenoriaeth dros lefel y dalaith mewn rhai amgylchiadau. Byddai hyn yn un o’r ystyriaethau pe bai cyfansoddiad ffederal ar gyfer y DU.

Nid yw cyfansoddiadau ffederal felly’n darparu eglurder llwyr o ran atebolrwydd, ac nid ydynt chwaith yn atal anghydfodau rhwng y lefel ffederal a lefel y dalaith. Mae anghydfodau o’r fath yn nodwedd reolaidd o wledydd sydd â chyfansoddiadau ffederal, ond mae’r cyfansoddiad yn darparu llyfr rheolau awdurdodol ar gyfer negodi a datrys anghydfodau.

Cymru annibynnol fyddai â’r mwyaf o eglurder ynghylch yr atebolrwydd am benderfyniadau, er, pe bai’n ymuno â’r UE (neu strwythur cydffederal arall), byddai hyn yn lleihau ei hymreolaeth o ran materion o fewn cymhwysedd cydffederal.

Byddai eglurder yn dibynnu ar ddealltwriaeth y cyhoedd o reolau’r cydffederasiwn a phosibilrwydd penderfyniadau ymreolaethol Llywodraeth Cymru o’u mewn. Mewn unrhyw strwythur llywodraethu, mae pa mor effeithiol y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn cael eu dwyn i gyfrif yn dibynnu ar ansawdd y craffu gan gynrychiolwyr etholedig a chan y cyfryngau. Ni all unrhyw strwythur llywodraethu warantu craffu o safon uchel, sy’n dibynnu ar adnoddau, blaenoriaethu a gwleidyddiaeth, fel y dangosir gan adolygiad Stirbu o graffu yn y Senedd ac ymchwil yr Institute for Government ar graffu yn San Steffan (Parliamentary Monitor, 2021 a The Slow Death of Parliamentary Scrutiny, 2023).

Rôl y dinesydd

Mae atebolrwydd effeithiol yn gofyn am sylw dinasyddion. Fel rydym yn ei drafod mewn penodau cynharach, o dan y trefniadau presennol, mae graddau’r ymddieithrio oddi wrth y broses wleidyddol yn broblem yng Nghymru, fel y mae yn y DU drwyddi draw ac mewn llawer o wledydd eraill.

Yng Nghymru, mae hyn yn digwydd oherwydd llawer o ffactorau: diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth am rôl a gweithrediad sefydliadau gwleidyddol; sinigiaeth am wleidyddion oherwydd y diwylliant gwleidyddol, yn San Steffan yn bennaf; ac absenoldeb cyfryngau cryf i ddarparu gwybodaeth am berfformiad sefydliadau a gwasanaethau (rydym yn edrych yn fanylach ar sut mae’r materion hyn yn dod i’r amlwg yng Nghymru ym mhenodau 2 a 3). Er mwyn gwella rhaid cael cynlluniau sylweddol mewn addysg wleidyddol i bob oed, yn ogystal ag ymgysylltu mwy ystyriol a chyfranogol, fel y nodwyd ym mhennod 3.

Ni all unrhyw strwythur cyfansoddiadol warantu gwell ymgysylltiad gan ddinasyddion. Dewis polisi yw i ba raddau mae llywodraethau’n ymgysylltu, ond gallai pob un o’r tri opsiwn alluogi gwell dealltwriaeth a mwy o gyfranogiad na’r setliad datganoli presennol:

  • Byddai atgyfnerthu datganoli yn cynyddu eglurder, sefydlogrwydd a sicrwydd i’r hirdymor, felly wrth i’r sefydliadau datganoledig ddod yn fwy cyfarwydd dros amser i’w hetholwyr, bydd eu pwerau’n cael eu deall yn well, gyda rhagor o ddinasyddion yn cael profiad uniongyrchol ohonynt.
  • mae’n debyg y byddai cyfansoddiad ffederal yn gwella proffil a sefydlogrwydd llywodraethau’r is-wladwriaethau yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.
  • dim ond gyda chefnogaeth y mwyafrif y byddai Cymru annibynnol yn cael ei chreu, a fyddai bron yn sicr yn cael ei mynegi mewn refferendwm ac yn seiliedig ar fudiad poblogaidd.

Galluogedd

I ba raddau y gall pobl Cymru gadw rheolaeth neu ddylanwad dros y penderfyniadau allweddol a wneir yng Nghymru sy’n effeithio ar eu bywydau, a bod yn hyderus bod llais Cymru yn cael ei glywed wrth wneud penderfyniadau y tu allan i Gymru.

Mae galluogedd dinasyddion yn cael ei arfer drwy’r blwch pleidleisio a thrwy ymgysylltu â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r trydydd sector a grwpiau eraill. Fel y nodwyd ym mhennod 3, rhaid buddsoddi er mwyn ymgysylltu’n effeithiol â dinasyddion. Mewn unrhyw strwythur llywodraethiant, bydd y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar sefyllfa gyllidol y llywodraeth a’i blaenoriaethau.

Mae datganoli yn rhoi llawer mwy o alluogedd i ddinasyddion Cymru nag oedd ganddynt pan roedd y DU yn wladwriaeth unedol. Mae'r sefydliadau datganoledig yn bodoli i ganolbwyntio ar anghenion Cymru yn unig, ac yn rhinwedd eu maint a’u diwylliant maent yn fwy hygyrch nag sy'n bosibl i sefydliadau'r DU sydd â chyfrifoldebau ehangach o lawer. Byddai atgyfnerthu datganoli yn diogelu ac yn cryfhau eu pwerau.

Ar yr un pryd, mae hyd a lled galluogedd dinasyddion mewn perthynas â chyllidebau ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn cael ei gyfyngu oherwydd nad oes gan Lywodraeth Cymru lawer o ddylanwad ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ar dreth a gwariant yn gyffredinol.

Mewn DU ffederal, byddai angen diwygio mecanweithiau cyllido yn sylfaenol. Mewn systemau ffederal, mae gan lywodraethau is-wladwriaethau fwy o reolaeth dros drethi a gwariant ar eu lefel, a fyddai bron yn siŵr o gynyddu galluogedd dinasyddion Cymru. Ond o ran y pwerau sy’n cael eu dal ar lefel ffederal, byddai dylanwad Cymru yn gyfyngedig, wrth gymharu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mewn Cymru annibynnol, byddai gan ddinasyddion alluogedd llwyr dros lawer mwy o benderfyniadau, a phenderfyniadau pwysicach, nag o dan ddatganoli neu DU ffederal lle byddai eu galluogedd yn cael ei rannu â dinasyddion ar draws gweddill y DU. Byddai hyn yn dibynnu ar faint o ymreolaeth fyddai gan wladwriaeth Cymru ac a ddewisodd ymuno â strwythurau cydffederal fyddai cyfyngu ar ei phenderfyniadau.

Mae hi’n anodd i wledydd bach gael unrhyw reolaeth go iawn dros heriau byd-eang fel newid hinsawdd a dirywiad amgylcheddol, neu agweddau allweddol ar bolisi economaidd sy’n dibynnu ar fodloni disgwyliadau marchnadoedd ariannol byd-eang. Dyna pam mae llawer o wledydd llai yn gweld gweithredu ar y cyd drwy gyrff fel yr UE fel ffordd hanfodol o arfer o leiaf rywfaint o ddylanwad dros faterion byd-eang o’r fath.

Galluogedd a chysylltiadau rhynglywodraethol

Un agwedd ar alluogedd yw’r cyfle i Lywodraeth Cymru gynrychioli pobl Cymru ar faterion rhynglywodraethol. Mae hyn yn dibynnu ar fecanweithiau rhynglywodraethol cryf, fel rydym yn ei drafod ym mhennod 4. Mae atgyfnerthu datganoli yn tybio y bydd y mecanweithiau hyn yn cael eu gwella gan seiliau statudol, ond nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i greu diwylliant cydweithredol.

Mae cyfansoddiadau ffederal yn rhoi fframwaith ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol ac yn diogelu pwerau’r tiriogaethau cyfansoddol. Mewn gwledydd ffederal, mae’r amddiffyniadau cyfansoddiadol hyn yn cael eu hatgyfnerthu gan ysbryd o gydweithio er budd y cyhoedd.

Mewn Cymru annibynnol, byddai cysylltiadau rhynglywodraethol yn fater o gyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytuniad, ac felly byddent yn gweithredu ar sail wahanol yn gyfan gwbl. Byddai’r angen i lywodraethau gydweithio dros y ffin yn parhau, a byddai cysylltiadau rhynglywodraethol adeiladol yn ganolog i hynny.

Sybsidiaredd

I ba raddau mae’n sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mor agos â phosibl at y bobl a’r cymunedau maent yn effeithio arnynt.

Mae sybsidiaredd yn golygu cydbwyso pwerau canolog a lleol. Mae’r egwyddor yn mynnu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel llywodraeth lle gellir eu gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Nid yw sybsidiaredd yn golygu bod angen i bob penderfyniad gael ei wneud ar haen isaf llywodraeth, ond ceir rhagdybiaeth o blaid gwneud penderfyniadau’n lleol, pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol bosibl.

Roedd datganoli pwerau deddfwriaethol a gweithredol o San Steffan i’r Senedd ac i Lywodraeth Cymru wedi cynyddu sybsidiaredd yn sylweddol yn y DU. Lle’r oedd materion wedi’u cadw’n ôl i San Steffan, dylai hyn fod wedi bod yn seiliedig ar asesiad gofalus o ystyriaethau fel effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a dyheadau cenedlaethol y DU, gan gynnwys ei hundod mewnol. Ni chafodd hyn ei wneud wrth gynllunio a gweithredu datganoli, a chafodd yr achos dros lawer o’r cymalau cadw ei herio.

Ar hyn o bryd, mae'r tri setliad datganoli yn y DU yn tybio mai’r ffordd orau o arfer y cyfrifoldebau canlynol yw gwneud hynny ar lefel y DU:

  • rheoleiddio'r farchnad
  • amddiffyn
  • polisi tramor
  • polisi macroeconomaidd a chyllidol
  • mewnfudo

Mae hyn yn cyd-fynd â’r sefyllfa yn y rhan fwyaf o systemau ffederal a byddai’n debygol o gael ei ffurfioli mewn cyfansoddiad ffederal ar gyfer y DU.

Lle ceir cytundeb na ellir arfer pwerau’n effeithiol ar lefel is, mae’n rhesymol bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gan Senedd San Steffan gyda chynrychiolaeth gyfartal o holl ddinasyddion y DU.

Mae’r peirianwaith rhynglywodraethol wedi’i gynllunio i ddarparu mecanweithiau ar gyfer ystyried pryderon y llywodraethau datganoledig ym mhenderfyniadau Llywodraeth y DU. Gellid cyflawni hyn yn haws mewn cyfansoddiad ffederal gyda llywodraethau ffederal ac is-wladwriaethau cydradd.

O dan y fframwaith cyfansoddiadol presennol, gellir ystyried confensiwn Sewel yn fecanwaith ar gyfer sybsidiaredd, gan ei fod yn ceisio cydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig i arfer pwerau o fewn eu maes cyfrifoldeb. Fodd bynnag, mae’r confensiwn wedi cael ei anwybyddu dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf.

Byddai’n rhaid ystyried y llinell rhwng cyfrifoldebau ffederal ac is-wladwriaethol yn fanwl wrth lunio cyfansoddiad ffederal ar gyfer y DU. Mae’r Bil drafft a gyhoeddwyd gan Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad yn rhoi model posibl ar gyfer set gyson o bwerau i bob un o’r tiriogaethau datganoledig, gyda’r pwerau a gedwir yn ôl yn adlewyrchu’n fras y system bresennol o ddatganoli.

Mae dull yr UE o ymdrin â sybsidiaredd hefyd yn cynnig patrwm i’w ystyried ar gyfer llywodraethiant Cymru yn y dyfodol. Caiff sybsidiaredd yng nghyd-destun yr UE ei ddiffinio mewn cytundebau a’i ddefnyddio mewn meysydd pwerau ar y cyd yn unig. Ym meysydd pwerau ar y cyd, mae rhai gwladwriaethau ffederal eraill yn darparu bod y penderfyniad ffederal yn cael blaenoriaeth dros benderfyniad y dalaith. Os bydd llywodraethiant y DU yn y dyfodol yn cynnwys pwerau deddfwriaethol a/neu weithredol ar y cyd, gallai mecanweithiau’r UE fod yn fodel defnyddiol i’w ystyried.

Rydym yn trafod sybsidiaredd a llywodraeth leol ym mhennod 3. Ni fyddai’r un o’r tri opsiwn cyfansoddiadol ynddo’i hun yn gwella nac yn cyfyngu ar bwerau awdurdodau lleol. Mae’r tri model yn cynnig cyfle i ddatblygu ac i gryfhau’r berthynas rhwng awdurdodau lleol a’r haen genedlaethol. Yn gyffredinol, po fwyaf o bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru, y mwyaf yw’r angen i ddirprwyo cyfrifoldebau sylweddol i awdurdodau lleol ac i asiantaethau eraill. Felly, byddai cyfansoddiad ffederal a oedd yn ychwanegu at gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn sylweddol, neu annibyniaeth a fyddai’n trawsnewid ei rôl, yn debygol o alw am rôl uwch o lawer i lywodraeth leol yng Nghymru.

Cydraddoldeb a chynhwysiant

I ba raddau mae’n sicrhau cynhwysiant yn y broses ddemocrataidd i bawb sy’n byw yng Nghymru, ac yn fwy cyffredinol yn galluogi rhoi polisïau ar waith sy’n sicrhau triniaeth gyfartal a mynediad at wasanaethau i holl bobl Cymru.

O holl werthoedd y Comisiwn, cydraddoldeb a chynhwysiant yw’r mwyaf agored i ddewisiadau gwleidyddol a’r anoddaf eu gwarantu drwy ffurf gyfansoddiadol.

Po fwyaf o bwerau sydd gan genedl, y mwyaf o gyfleoedd fydd ganddi i ymgorffori cydraddoldeb a chynhwysiant yn ei strwythurau llywodraethiant, os bydd yn dewis gwneud hynny. Gall cyfansoddiad ysgrifenedig roi sicrwydd ac eglurder i hawliau cydraddoldeb a chynhwysiant, ond gall hefyd roi mwy o awdurdod i ddiddymu neu i symud oddi wrth amddiffyniadau cydraddoldeb. Mewn unrhyw system, mae dewisiadau gwleidyddol yn pennu pa hawliau, a hawliau pwy, sy’n cael statws cyfansoddiadol.

Yn yr un modd, nid yw strwythurau’n pennu cyfranogiad democrataidd na thriniaeth a mynediad cyfartal. Mae amgylchiadau personol, cyfyngiadau ar adnoddau a ffactorau daearyddol i gyd yn chwarae rhan. Gall ffurf gyfansoddiadol gwlad helpu (neu lesteirio) gwireddu cydraddoldeb a chynhwysiant, ond bydd camau ymarferol yn dibynnu ar ddewisiadau gwleidyddol. Wedi dweud hynny, gall darpariaethau yn y cyfansoddiad i gadw cydbwysedd priodol wrth arfer pŵer, ac ar gyfer rheoleiddwyr annibynnol sydd â phwerau gorfodi cadarn, helpu i gyflawni’r camau ymarferol hyn.

Mae systemau etholiadol yn dangos y rhyngweithio rhwng hawliau a dewisiadau gwleidyddol. Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn codi cwestiynau pwysig a brys am gydraddoldeb a chynhwysiant: pleidleisiau i garcharorion, gofynion i bleidleiswyr ddangos ID, rhannu swyddi a mecanweithiau i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Senedd yn y system rhestr gaeedig arfaethedig.

Mae dimensiwn rhyngwladol i gynhwysiant a hawliau cydraddoldeb. Mae rhai wedi’u cynnwys yng nghonfensiynau Cyngor Ewrop a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’n debyg y byddai Cymru annibynnol yn ymrwymo i’r cytundebau hyn, a fyddai’n golygu eu hymgorffori yng nghyfraith a chyfansoddiad Cymru, yn unol â’r mwyafrif helaeth o wladwriaethau Ewrop.

Goblygiadau opsiynau cyfansoddiadol ar gyfer hawliau dinasyddion

O dan y setliad presennol, mae materion dinasyddiaeth a hawliau mynediad at wasanaethau (penodol) wedi’u cadw’n ôl i Lywodraeth y DU, ond mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gweithredu gwahanol mewn rhai meysydd polisi datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dod â’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i rym. Mae’r ddyletswydd hon yn mynnu bod cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn ystyried effaith eu cynlluniau ar bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

O dan atgyfnerthu datganoli, ac i raddau mwy fyth mewn DU ffederal, gallai’r cwmpas ar gyfer amrywio polisi rhwng gwledydd y DU ar gynhwysiant gynyddu, ond byddai hyn yn dibynnu ar gydbwysedd pwerau ffederasiwn y DU.

Mewn Cymru annibynnol, byddai diffinio hawliau cyfansoddiadol yn rhan o’r broses o lunio cyfansoddiad y wladwriaeth newydd. Un cwestiwn i’w ofyn ar unwaith fyddai penderfynu ar ddinasyddiaeth Gymreig. A fyddai ond yn agored i ddinasyddion Prydeinig sy’n byw yng Nghymru adeg annibyniaeth? Y rheini a gafodd eu geni yng Nghymru neu sydd wedi byw yng Nghymru am gyfnod penodol? A fyddai dinasyddion Cymru yn cael dal dinasyddiaeth Brydeinig fel gwladolion deuol? A fyddai’r Cymry ar wasgar mewn rhannau eraill o’r DU neu’r byd i gyd yn cael gwneud cais am ddinasyddiaeth?

Ar ben hynny, byddai cwestiwn ynghylch sut mae sicrhau hawliau preswylwyr nad oeddent yn ddinasyddion Cymru. Ni fydd rhai preswylwyr yn dymuno, nac yn gallu, hawlio dinasyddiaeth Gymreig – er enghraifft, pobl sy’n byw yng Nghymru ar fisâu gwaith neu astudio, dibynyddion y rheini sydd â dinasyddiaeth ond nad ydynt yn gymwys i gael dinasyddiaeth eu hunain, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, neu ddinasyddion yr UE sydd â statws preswylydd sefydlog. Byddai angen i lywodraeth Cymru annibynnol benderfynu ar ei pholisïau mewnfudo ei hun, a sut y byddai statws mewnfudo yn effeithio ar fynediad at arian cyhoeddus, gwasanaethau a chyfleusterau, a chael ei dal i gyfrif am y rhain gan ddeddfwrfa Cymru.

Adran 2: materion ymarferol

Mae’r adran hon yn ystyried goblygiadau ymarferol mynd â’r tri opsiwn o gysyniad i weithredu.

Dibyniaethau allanol

Beth fyddai angen digwydd o ran cytundeb neu ewyllys da sefydliadau y tu allan i Gymru er mwyn gallu gwireddu’r opsiwn hwn, gan gydnabod bod unrhyw ganlyniad yn dibynnu ar negodi.

Fe wnaethom ddweud yn ein hadroddiad interim (penodau 7 ac 8) bod y system bresennol o ddatganoli yn agored i newid o’r tu allan i Gymru, heb gyfraniad na chydsyniad pobl Cymru, a bod hyn yn tanseilio hyfywedd datganoli.

Nid oes yr un o’r tri opsiwn yn llwyr yn nwylo pobl Cymru na’r Senedd y maent yn ei hethol. Byddai atgyfnerthu datganoli yn gofyn am ddeddfwriaeth yn Senedd San Steffan; byddai creu DU ffederal neu Gymru annibynnol yn galw am negodi gyda Llywodraeth y DU.

Yn achos strwythur ffederal, byddai angen i rannau eraill o’r DU fod yn rhan o’r negodiadau hynny hefyd. Byddai angen ewyllys da parhaus i wneud y negodiadau’n gydweithredol, ac nid yn brofiad gwrthdrawol, yn enwedig gan y byddai Senedd y DU yn parhau’n sofran ac yn gallu gweithredu newid yn unochrog, cyn cadarnhau’r trefniadau newydd.

Mae’r tri opsiwn hefyd yn dibynnu ar sefydliadau eraill y tu allan i Gymru, yn enwedig y llysoedd. Rydym yn rhagweld, o dan atgyfnerthu datganoli a DU ffederal, y byddai gan y Goruchaf Lys rôl i’w chwarae wrth benderfynu ar anghydfodau cyfansoddiadol rhwng Cymru a gweddill y DU.

Nid yw’n ymddangos bod consensws o blaid newidiadau i lywodraethiant Lloegr, naill ai ar gyfer creu Senedd a Llywodraeth i Loegr neu strwythurau rhanbarthol pwerus yn Lloegr gyda phwerau deddfwriaethol, gweithredol ac ariannol sy’n cyfateb i Gymru neu’r Alban. Byddai angen y rhain er mwyn creu strwythur ffederal. Byddai angen newid enfawr mewn agweddau ar draws y DU er mwyn creu DU ffederal, hyd yn oed os mai dyma’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio yng Nghymru.

Er mwyn cael DU ffederal byddai’n rhaid cael ewyllys cadarnhaol ym mhob rhan o’r DU i aros yn yr Undeb a diwygio ei pheirianwaith cyfansoddiadol. Ar hyn o bryd, mae’r Alban wedi’i rhannu ynghylch a yw ei dyfodol yn y DU ynteu’r tu allan iddi. Mae gan Ogledd Iwerddon berthynas gymhleth â’r Undeb. Mae hyn wedi cael ei sefydlogi gan Gytundeb Dydd Gwener y Groglith ond nid yw wedi cael ei setlo am byth, ac mae’n ymddangos bod y farn mewn mannau eraill yn y DU yn ffafrio ailuno Iwerddon.

Byddai atgyfnerthu datganoli neu annibyniaeth yn cael effaith fwy cyfyngedig ar strwythurau cyfansoddiadol y DU. Byddai’r naill a’r llall yn galw am newid mewn meddylfryd a diwylliant gwleidyddol er mwyn gallu negodi’r opsiynau hyn yn effeithiol. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi gwrthod unrhyw ddatganoli pellach i Gymru ac, yn achos yr Alban, mae wedi rhwystro mecanwaith y refferendwm a fyddai’n debygol o fod yn rhagflaenydd angenrheidiol i unrhyw symudiad i annibyniaeth a fyddai’n cael ei gydnabod yn gyfreithiol.

Er y byddai’n ddamcaniaethol bosibl i Gymru ddatgan ei hun yn annibynnol yn unochrog, byddai cam o’r fath yn ei gwneud yn anodd i Gymru annibynnol sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol. Gallai hyn arwain at ganlyniadau dinistriol i allu’r llywodraeth i ariannu ei hun.

Hyd yn oed os oedd Llywodraeth y DU yn cydnabod dilysrwydd penderfyniad pobl Cymru i fod yn annibynnol, mae ymadawiad y DU o’r UE yn dangos nad yw’n syml i wlad dorri cysylltiadau â chymydog. Byddai angen negodi rhwng Cymru a’i chymdogion ar ystod eang o faterion trawsffiniol, megis symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf. Ac, fel gyda’r DU yn gadael yr UE, byddai Cymru’n negodi’r materion hyn gyda llywodraeth lawer mwy, gyfoethocach a mwy pwerus. Pe bai’r negodiadau’n troi’n chwerw, gallai Cymru wynebu’r dewis o gytundeb gwael neu ynysu rhyngwladol.

Capasiti a chost

Pa gapasiti ychwanegol y byddai angen i Gymru ei adeiladu (ee i reoli plismona a chyfiawnder neu les, neu i sicrhau bod lle Cymru yn y byd yn cael ei gynnal a’i hyrwyddo), er mwyn ei wireddu, a beth fyddai effaith ariannol net datblygu’r capasiti hwn, o’i gymharu â’r costau a awgrymir gan y status quo a’r opsiynau eraill ar gyfer newid.

Byddai ein hargymhellion yng nghyswllt penodau 4 a 5 uchod yn golygu ehangu capasiti polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfiawnder a phlismona, a thrafnidiaeth, yn ychwanegol at yr adnoddau a drosglwyddwyd o Lywodraeth y DU. Byddent hefyd yn golygu bod angen neilltuo adnoddau ychwanegol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol ffurfiol.

Byddai angen i Gymru annibynnol greu sefydliadau gwladwriaeth newydd i gyflawni cyfrifoldebau gan gynnwys nawdd cymdeithasol a phensiynau, gwariant cyhoeddus a threthi, mewnfudo a rheoli ffiniau, masnach ryngwladol, cysylltiadau allanol a rheoleiddio’r cyfleustodau a darlledu. Byddai hyn yn golygu heriau sylweddol o ran costau a recriwtio.

Mae’n debyg y byddai angen capasiti polisi newydd hefyd o dan DU ffederal, yn dibynnu ar ba bolisïau a ddyrannwyd i’r lefel is-wladwriaethol. Ar yr un pryd, mewn DU ffederal nid yw’n sicr y byddai gan y Senedd a Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros yr holl feysydd polisi sydd wedi’u datganoli ar hyn o bryd. Byddai ffedereiddio yn galw am fwy o gapasiti cyllidol ac ariannol petai llywodraethau’r is-wladwriaethau yn cael llawer o reolaeth dros eu treth a’u gwariant, yn ôl y disgwyl.

Byddai llawer yn dibynnu ar yr hinsawdd cyllidol adeg caffael y cyfrifoldebau newydd hyn. Ar hyn o bryd mae gwasanaethau datganoledig, a gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, o dan bwysau difrifol oherwydd cyfnod hir o gyni. Gallai newid cyfansoddiadol ddigwydd tra bo gwasanaethau’n dal i brofi hyn neu’n gwella ohono.

Mae creu capasiti newydd gan y llywodraeth yn golygu recriwtio staff, datblygu cyfleusterau newydd ac ail-bwrpasu adeiladau. Yn ogystal â’r costau dan sylw, byddai recriwtio staff sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol yn cymryd amser. Byddai unrhyw newid cyfansoddiadol sy’n fwy radical nag atgyfnerthu datganoli yn gofyn am newid sylfaenol yn strwythur y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae llawer o’r swyddi uchaf a mwyaf dylanwadol yn y sector cyhoeddus wedi’u lleoli yn Llundain. Mewn Cymru annibynnol, ac i ryw raddau mewn DU ffederal, byddai swyddi uwch wedi’u lleoli yng Nghymru. Gellid llenwi’r bwlch hwn gyda chymysgedd o dalentau lleol a secondiadau o fannau eraill, fel y digwyddodd yng nghamau cynnar datganoli.

Ar hyn o bryd mae gan lywodraeth y DU bresenoldeb sylweddol yng Nghymru. Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn cyflogi dros 6000 o staff yn ei phencadlys yn Abertawe, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’i lleoli yng Nghasnewydd gyda thua 3000 o staff ac mae pencadlys Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Mae adrannau eraill megis Cyllid a Thollau EF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn cael eu cynrychioli yng Nghymru.

Mae nifer y gweision sifil sy’n gweithio yng Nghymru yn fwy nag y byddai ei chyfran o’r boblogaeth yn ei awgrymu (GOV.UK blog); tua 35,000 o weision sifil o’i gymharu â 3.1 miliwn o breswylwyr, ac mae gan y DU 552,000 o weision sifil o’i gymharu â 67.7 miliwn o breswylwyr. Mae’n rhesymol disgwyl y byddai’r rolau hyn yn parhau tra bod Cymru’n parhau’n rhan o’r Undeb, ond pe bai Cymru’n dod yn annibynnol mae’n debygol y byddai llywodraeth San Steffan yn adleoli’r swyddogaethau hyn y tu allan i Gymru. Mae’n ymddangos yn debygol y byddai swyddi sy’n cael eu creu i reoli swyddogaethau newydd gwladwriaeth Cymru yn cael eu cydbwyso â cholli swyddi sy’n darparu gwasanaethau Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yng Nghymru ac (mewn rhai achosion) ar draws y DU.

Mae'r Alban wedi sefydlu amrywiaeth o gyrff i arfer y swyddogaethau y byddai eu hangen petai’n annibynnol. Mae profiad Nawdd Cymdeithasol yr Alban, er enghraifft, yn dangos bod cost a chymhlethdod creu cyrff newydd i gyflawni swyddogaethau a oedd yn arfer cael eu rhedeg ar sail y DU gyfan yn gallu bod yn fwy na’r disgwyl. Yn yr achos hwn, mae Llywodraeth yr Alban yn rhagweld y bydd costau gweithredu Nawdd Cymdeithasol yr Alban yn £658m i 2024/25, mwy na dwbl amcangyfrif cychwynnol 2017 o £308m ar gyfer y costau gweithredu dros oes y rhaglen (Audit Scotland, 2022).

Yn y tymor hirach, byddai annibyniaeth yn creu cyfleoedd i symleiddio strwythurau a allai liniaru colli arbedion maint ledled y DU neu Brydain Fawr. Er enghraifft, mae Estonia wedi creu system drethi symlach gyda llai o gostau cydymffurfio, y mae rhai’n ei hystyried yn fodel rhyngwladol (International Tax Competitiveness Index 2022). Ar yr un pryd, byddai’r newid i system dreth a budd-daliadau newydd yn creu enillion a cholledion i unigolion a allai fod yn sylweddol.

Yr her i ddiwygio system o’r math hwn yw bod angen meithrin capasiti cyn cyflwyno, ond mae rhywun yn ennill capasiti drwy brofiad. Un ddadl o blaid yr elfen raddol a awgrymir gan atgyfnerthu datganoli yw ei bod yn bosibl creu capasiti fesul cam dros amser.

O dan yr opsiwn ffederal, byddai meithrin capasiti ymlaen llaw, neu drwy newid sylweddol, yn fwy heriol pe bai’n golygu trosglwyddo llawer o gyfrifoldebau ychwanegol. Byddai angen i’r sefydliadau is-wladwriaethol ysgwyddo swyddogaethau newydd o ddyddiad mabwysiadu’r cyfansoddiad ffederal, er y gallai fod yn bosibl cyflawni’r swyddogaethau hyn ar sail interim o dan gytundeb contract neu asiantaeth gan gyn sefydliad llywodraeth y DU gyfan, er enghraifft defnyddio Cyllid a Thollau EF yn achos pwerau codi trethi ychwanegol.

I grynhoi, mae’r problemau mwyaf difrifol o ran capasiti yn debygol o gael eu teimlo os ceir annibyniaeth, oherwydd dyma’r opsiwn sy’n cynnwys y newid mwyaf. Mae polisi Llywodraeth yr Alban o adeiladu’r wladwriaeth yn ddangosydd defnyddiol o’r hyn a fyddai’n ofynnol. O dan fodel ffederal, byddai graddfa’r newid yn llai, oherwydd byddai’r rhan fwyaf o’r prif sefydliadau gwladwriaeth ffederal yn parhau i fod yn swyddogaethau llywodraeth ganolog, ond efallai y byddai angen rhagor o gapasiti i reoli swyddogaethau ychwanegol a chyfundrefnau trethu newydd.

Mae atgyfnerthu datganoli yn rhagdybio bod capasiti ychwanegol eisoes wedi cael ei greu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfiawnder a phlismona, seilwaith rheilffyrdd, a chysylltiadau rhynglywodraethol. Mae lle i gredu y gallai fod enillion cyflawni yn y tymor canolig a fyddai’n lliniaru’r costau ychwanegol.

Sefydlogrwydd

I ba raddau mae’n darparu model sefydlog a chynaliadwy ar gyfer llywodraeth yng Nghymru yn yr hirdymor.

Mae pawb yn gwybod nad oes gan y DU gyfansoddiad ysgrifenedig, statws y mae’n ei rannu â dim ond llond llaw o wledydd eraill, Seland Newydd ac Israel yn benodol. Nid oes diffiniad clir o’r mecanwaith ar gyfer diwygio cyfansoddiad anysgrifenedig ond mae hynny’n golygu ei fod yn fwy hyblyg. Mae p’un a yw hyn yn beth da yn dibynnu ar eich safbwynt chi. Mae cyfaddawd rhwng hyblygrwydd a sefydlogrwydd ac mae angen y ddau ar wledydd. Fodd bynnag, gall cyfansoddiad sydd wedi’i gynllunio’n dda fod yn dryloyw ac yn sefydlog.

Mae datblygiad datganoli yng Nghymru wedi bod ar hap, gyda dull ‘coeden Nadolig’ lle mae elfennau newydd yn cael eu hychwanegu at y fframwaith presennol. Fel roeddem wedi'i ddweud ym mhennod 8 ein hadroddiad interim, yn ein barn ni mae’r model hwn yn sylfaenol ansefydlog oherwydd ei bod hi’n bosibl i Lywodraeth y DU ei ddiwygio’n unochrog. Ond mae gwleidyddiaeth a barn y cyhoedd yn cyfrannu at sefydlogrwydd yn ogystal â dyluniad y setliad.

Ni fu ewyllys gwleidyddol na chyhoeddus sefydlog ynghylch hyd a lled ymreolaeth y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae datganoli graddol wedi galluogi datblygu setliad Cymru’n raddol yn unol â disgwyliadau’r cyhoedd. Er mwyn cael eu derbyn, bydd angen i newidiadau pellach adlewyrchu ewyllys y cyhoedd a gobeithiwn y bydd ein hadroddiad yn helpu i oleuo’r ddadl ar hyn.

Byddai atgyfnerthu datganoli yn creu rhagor o sefydlogrwydd drwy leihau gallu Llywodraeth y DU i amrywio’r setliad yn unochrog. Fodd bynnag, heb ddiwygio hanfod cyfansoddiad y DU, mae’n anodd diogelu datganoli’n llawn oherwydd egwyddor sofraniaeth Senedd y DU, sy’n golygu y gall unrhyw beth a wneir gan un Senedd San Steffan gael ei ddadwneud gan un yn y dyfodol (neu hyd yn oed yr un un, os bydd y Llywodraeth yn newid ei meddwl). O ystyried Deddfau’r Senedd, ni all Tŷ’r Arglwyddi atal mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin rhag cael ei ffordd, ac ni fydd y frenhiniaeth yn ymyrryd mewn gwleidyddiaeth. Mae hyn yn golygu bod sofraniaeth Senedd y DU i bob pwrpas yn rhoi rhyddid llwyr bron i lywodraeth sydd â mwyafrif gweithredol yn San Steffan i ddiddymu neu i ddiwygio unrhyw ddeddfwriaeth. Yn ei hanfod, mae sofraniaeth ddilyffethair Seneddol y DU yn golygu bod llywodraethu datganoledig yn ansefydlog yn y bôn.

Ym mhennod 4 rydym yn argymell newidiadau a fyddai’n lleihau’r ansefydlogrwydd hwn drwy greu rhwystrau sylweddol i Lywodraeth y DU rhag anwybyddu’r setliad. Petai’n dymuno gwneud hynny, byddai’n rhaid i Lywodraeth y DU ddatgan hyn yn glir wrth ddod â deddfwriaeth gerbron y Senedd. Mae ein cynigion yn cynnwys gwneud y gofyniad i ymgynghori â’r deddfwrfeydd datganoledig (confensiwn Sewel) yn fwy amlwg mewn gweithdrefnau seneddol.

O dan atgyfnerthu datganoli mae’n bosibl rhagweld deddfwriaeth sy’n codi’r safon ar gyfer diwygio’r setliadau datganoli (a deddfau cyfansoddiadol eraill) hyd yn oed heb gyfansoddiad ysgrifenedig (awgrymir deddfwriaeth o’r fath yn Brown, 2023 and Sargeant, 2023). Byddai Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n creu ail siambr ddiwygiedig gyda phwerau i rwystro newidiadau i ddeddfwriaeth gyfansoddiadol yn newid sylweddol iawn i ystyr ymarferol sofraniaeth Senedd y DU ac yn rhoi mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd i bobl Cymru ynghylch y peirianwaith sy’n eu llywodraethu. Ond, heb gyfansoddiad ysgrifenedig, gallai llywodraeth gyda mwyafrif yn nau Dŷ Senedd y DU barhau i newid (neu hyd yn oed ddiddymu) y setliadau datganoli. Byddai’n rhaid i’r ddeddfwriaeth ragnodi mecanweithiau i ddatrys anghydfod rhwng y ddau Dŷ, a fyddai’n debygol o ffafrio Tŷ’r Cyffredin.

Byddai opsiwn ffederal gyda chyfansoddiad ysgrifenedig a fyddai’n cynnwys amddiffyniadau ar gyfer llywodraethau is-wladwriaethau yn siŵr o gynnig mwy o sefydlogrwydd gwleidyddol a chyfreithiol ffurfiol, oherwydd mae cyfansoddiadau ysgrifenedig yn anoddach eu newid ar ôl eu sefydlu. Ar yr un pryd, gallai hyn leihau’r hyblygrwydd i addasu’r setliad pan gytunir arno rhwng llywodraethau, ond nid yw wedi bod yn hawdd cyflawni addasiadau o’r fath o dan y model datganoli. Byddai cyfansoddiad ffederal sy’n seiliedig ar ymgysylltu â’r cyhoedd, cymdeithas ddinesig a’r holl bleidiau gwleidyddol yn cael sefydlogrwydd o’i wreiddiau cydsyniol.

Byddai gwladwriaeth annibynnol a sefydlwyd ar sail cyfansoddiad ysgrifenedig a gyd-gynhyrchwyd gan sefydliadau gwleidyddol a phobl Cymru yn mwynhau mwy o sefydlogrwydd cyfreithiol a chyfansoddiadol nag sy’n bosibl o dan ddatganoli. Fodd bynnag, byddai sefydlogrwydd ehangach Cymru annibynnol yn dibynnu ar ffactorau allanol fel asesiad y marchnadoedd ariannol ac asiantaethau sgorio o’i sefydlogrwydd cyllidol ac ariannol, a chryfder ei pherthynas â’i chymdogion a phartneriaid rhyngwladol.

Llywodraeth gydgysylltiedig

I ba raddau mae’n hwyluso’r cydlynu angenrheidiol rhwng gwahanol feysydd polisi a darparu gwasanaethau effeithiol ar draws y ffin â Lloegr.

Mae dwy agwedd i lywodraeth gydgysylltiedig – cydlyniad yng Nghymru, ac ar draws y ffin â Lloegr. Mae’r rhain yn faterion ar wahân ond cysylltiedig.

Cydgysylltu yng Nghymru

Annibyniaeth fyddai’n cynnig y cwmpas llawnaf i integreiddio gwasanaethau’r llywodraeth yng Nghymru, ond yng nghyd-destun cyfyngiadau rhyngwladol fel yr angen i gynnal symudiadau trawsffiniol i Loegr a/neu gytundebau masnach gyda chyrff fel yr UE.

Mewn gwladwriaeth annibynnol, byddai holl swyddogaethau llywodraeth yn cael eu harfer gan Lywodraeth Cymru, ei hasiantaethau, ac awdurdodau lleol. Dylai rheolaeth wleidyddol unedig alluogi mwy o gydlyniaeth nag o dan ddatganoli neu ffederaleiddio, ond nid yw cydlyniad yn llifo’n awtomatig o reolaeth. Er enghraifft, nid yw Llywodraeth y DU wedi’i chydlynu’n dda gan ei bod yn cynnwys adrannau gwladwriaethol ac asiantaethau llywodraeth mawr a phwerus sy’n ymyrryd yn uniongyrchol mewn gwasanaethau cyhoeddus lleol yn Lloegr.

Cydgysylltu yn y DU

Ym mhennod 5 rydym yn trafod meysydd lle mae ffiniau datganoli yn achosi gwrthdaro. Un pwynt cyffredinol yw bod dyrannu’r cyfrifoldeb i weinyddiaethau datganoledig ac i awdurdodau cyfun y Maer yn Lloegr yn seiliedig ar hanes a negodiadau gwleidyddol. Yn achos y tiriogaethau datganoledig, roedd dyrannu pwerau’n tybio y byddai’r DU bob amser yn rhan o’r UE. Roedd hyn yn cyfyngu ar y posibilrwydd o wahaniaethau rhwng gwledydd y DU mewn meysydd fel diogelu’r amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd. Mewn gwledydd ffederal nad ydynt yn rhan o’r UE, mae’r meysydd polisi hyn yn aml yn cael eu harfer ar lefel ffederal.

Gan nad oes rhesymeg sylfaenol dros yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn nad yw wedi’i ddatganoli, mae hyn wedi arwain at system sy’n amrywio’n fawr rhwng y gwledydd ar hap. Rhaid i swyddogion Llywodraeth y DU mewn adrannau sy’n gweithredu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n rhannol, megis trafnidiaeth, ddeall natur y systemau mewn pedair gwlad wahanol ac ar draws gwahanol ranbarthau yn Lloegr. Nid yw’n syndod nad yw cydgysylltu ar draws ffiniau datganoli mor gryf ag y gallai fod.

Er mwyn i ddatganoli fod yn gynaliadwy, mae angen cael prosesau rhynglywodraethol cryf, er mwyn lleihau’r gwrthdaro rhwng llywodraethau. Mae atgyfnerthu datganoli yn rhagdybio y bydd llai o wrthdaro oherwydd mecanweithiau cryfach ar gyfer cydweithredu a phwerau mwy cydlynol.

Byddai system ffederal yn awgrymu cyd-sofraniaeth ffurfiol, sy’n creu’r posibilrwydd o gyd-gymhwysedd a chydlyniad cryfach. Er enghraifft, gallai rhwydweithiau trafnidiaeth fel rheilffyrdd elwa o gydlywodraethu, o ystyried natur drawsffiniol teithio ar y rheilffyrdd a’r monopoli ar asedau rheilffyrdd trwm.

Os bydd Cymru annibynnol, byddai angen negodi cytundebau ar sut i reoli’r gwaith o ddarparu gwasanaethau ar draws ffiniau. Mae cytundebau o’r fath yn ystyriaethau gwleidyddol rheolaidd mewn rhannau eraill o’r byd ac yn cael eu trin mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol wledydd sydd â gwahanol gyfansoddiadau. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth inni ar oblygiadau posibl ffin genedlaethol rhwng Cymru a Lloegr (Hayward, K. and McEwan, N. Wales and its Borders: The implications of independence for managing Wales’ land and sea borders, 2023).

Mae llawer o ddinasyddion yn byw ger y ffin ac yn cael mynediad at wasanaethau craidd fel ysgolion, addysg bellach, a gofal iechyd sylfaenol yn y wlad gyfagos. Mae cleifion o Gymru yn dibynnu ar wasanaethau gofal iechyd arbenigol yn Lloegr sy’n darparu ar gyfer niferoedd bach o gleifion ar draws poblogaethau mawr iawn. Gallai fod yn bosibl – er ei fod yn debygol o fod yn ddrud – atgynhyrchu’r rhain yng Nghymru yn yr hirdymor, ond yn y tymor byr i ganolig mae’n ymddangos yn debygol mai darpariaeth ar sail drawsffiniol fyddai’r opsiwn gorau o hyd.

O dan unrhyw system lywodraethu, byddai angen i lywodraethau Cymru a Lloegr gytuno ar drefniadau trawsffiniol gan gynnwys cyllid. Mae hyn wedi gweithio’n effeithiol o dan y setliad presennol, er enghraifft y protocol rhynglywodraethol ar ofal iechyd trawsffiniol. Mae gan lawer o wledydd ar draws Ewrop gysylltiadau trawsffiniol tebyg.

Adran 3: polisïau

Cyllid cyhoeddus

I ba raddau mae’n rhoi sylfaen ariannol ddigonol i gynnal ac i wella gwasanaethau cyhoeddus, o’i gymharu â’r status quo a’r opsiynau eraill ar gyfer newid.

Byddai pob un o’r tri opsiwn yn gofyn am newid sylweddol o ran cyllido gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ym mhennod 7 ein hadroddiad interim, fe wnaethom nodi mai problemau gyda’r system ar gyfer ariannu datganoli yw un o’r prif bwysau ar y setliad. Fe wnaethom ddweud bod amcan ‘proses dryloyw, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi cael ei dilysu’n annibynnol ar gyfer dyrannu adnoddau rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU yn dal yn hanfodol, a dylai fod yn sail i unrhyw gynigion ar gyfer newid cyfansoddiadol’.

Mae diffygion difrifol yn system bresennol fformiwla Barnett, gan gynnwys diffyg gwerthusiad cadarn a dealladwy o lefelau gwariant mewn perthynas â’r angen ym mhob tiriogaeth. Mae’r cysyniad gwreiddiol yn syml ond, dros y blynyddoedd, mae nifer o addasiadau ac eithriadau wedi cael eu gwneud, gan arwain at gymhlethdod sy’n golygu ei bod hi’n anodd iawn i ddinasyddion ddeall.

Rydym yn edrych ar y mater hwn ym mhennod 4, sy’n argymell rhagor o bwerau benthyca a hyblygrwydd cyllidol i alluogi Llywodraeth Cymru i gynllunio’n well ar gyfer yr hirdymor. Gan adeiladu ar hyn, byddai atgyfnerthu datganoli yn golygu adolygiad sylfaenol o fecanwaith Barnett a’i ddisodli gyda system sy’n seiliedig ar anghenion, i’w chyflwyno’n raddol i reoli enillion a cholledion dros gyfnod i’w gytuno.

Mewn system ffederal, mae’n annhebygol iawn y gallai Barnett barhau. Mae’n seiliedig ar y penderfyniadau mae llywodraeth y DU yn eu gwneud ynghylch ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr, ond o dan system ffederal ni fyddai gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb mwyach dros benderfynu ar gynlluniau gwariant manwl Lloegr neu ei rhanbarthau. Byddai’r senedd(au) neu’r cynulliadau yn Lloegr (fyddai’n annibynnol o lywodraeth ffederal y DU gyfan) yn penderfynu ar y materion hyn ar gyfer eu rhanbarth(au). Ni fyddai meincnodi dyraniadau cyllid y gwledydd i benderfyniadau cyllido Lloegr/rhanbarthau Lloegr yn gwneud synnwyr mewn ffederasiwn lle’r oedd yr endidau is-wladwriaethol yn gyfartal.

Byddai angen creu system wahanol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mewn DU ffederal. Yn fwy na thebyg, byddai hyn yn groes i’r system bresennol. Yn hytrach na chodi trethi’n ganolog ac yna eu dyrannu i’r sefydliadau is-wladwriaethol, byddai trethi’n cael eu codi gan y sefydliadau is-wladwriaethol. Byddai cyfrifoldebau ffederal yn cael eu hariannu naill ai drwy drethi ffederal neu drwy gyfraniadau o lefel is-wladwriaethol.

Byddai system o’r fath yn tynnu sylw at wahaniaethau mewn refeniw a gwariant rhwng y gwledydd, nad ydynt i’w gweld o dan fformiwla Barnett. Mae arbenigwyr yn anghytuno ynghylch maint diffyg cyllidol Cymru, ond maent yn cytuno ei fod yn sylweddol. Cefnogir gwariant cyhoeddus yng Nghymru gan drethdalwyr mewn mannau eraill yn y DU, fel sy’n wir yn achos y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr y tu hwnt i’r de-ddwyrain. Yn achos Cymru, mae’r diffyg i raddau helaeth yn deillio o incwm a chynhyrchiant cymharol isel sy’n arwain at refeniw trethiant is na’r cyfartaledd, yn wahanol i’r Alban lle mae gwariant uwch yn cyfrif am y diffyg (mae rhagor o fanylion am hyn yn ein hadroddiad interim).

Pe bai Lloegr yn cael ei gweinyddu’n rhanbarthol, yn hytrach nag fel un genedl, yna byddai llywodraethau is-wladwriaethol Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn codi llawer mwy o dreth y pen na llywodraethau’r is-wladwriaethau eraill. Pe byddai disgwyl i bob gwladwriaeth gyfrannu at y llywodraeth ffederal ar yr un lefel y pen, byddai llawer llai o refeniw ar ôl i’w wario ar swyddogaethau is-wladwriaethol yng Nghymru a’i chymheiriaid economaidd yn Lloegr, nag yn rhannau mwy ffyniannus y DU.

Byddai angen mecanweithiau ar DU ffederal i ddelio â’r gwahaniaethau rhanbarthol hyn. Yn unol â’r rhan fwyaf o systemau ffederal (gan gynnwys yr UE) mae’n debygol iawn y byddai mecanweithiau i ailddosbarthu adnoddau rhwng gwahanol rannau o’r DU, gan adlewyrchu’r angen a chryfder y sylfaen drethu.

Er mwyn gweithio’n gynhwysfawr ac yn deg ar draws y DU, byddai angen i hyn fod yn seiliedig ar reolau a chefnogaeth holl wledydd ffederasiwn y DU. Byddai Cymru’n annhebygol o gael unrhyw gyllid ychwanegol o dan system o’r fath, o ystyried budd terfyn isaf Barnett, ond mae’n debygol y byddai’r Alban yn gweld llai o lawer o gyllid, gyda’u cyllid ‘nhw’ yn cael ei drosglwyddo i ranbarthau llai ffyniannus yn Lloegr. Er y gallai system gyllido ffederal fod yn fwy rhagweladwy, nid yw’n debygol o fod yn fwy hael i Gymru.

Mae’n bosibl hefyd na fyddai cyfanswm cyllid Cymru, o’i gymharu a gweddill y DU, yn goroesi mewn system ffederal, gan ei gwneud yn anos ariannu lefel y gwasanaethau cyhoeddus a threthiant sy’n bodoli ar hyn o bryd o dan fformiwla Barnett. Efallai y byddai rhywfaint o iawndal ar ffurf mwy o gysondeb a chynaliadwyedd cyllid, pe bai’n cael ei ategu gan egwyddorion cyfansoddiadol a rheolau gweithredol y cytunwyd arnynt.

Er enghraifft, mae cyfansoddiad yr Almaen yn cynnwys egwyddor undod. Roedd yn rhaid i’r cyfansoddiad hwn ddarparu ar gyfer y gwahaniaeth economaidd enfawr rhwng Dwyrain a Gorllewin yr Almaen ar ôl ailuno.

Byddai egwyddor o’r fath yn opsiwn i’r rheini fyddai’n dylunio cyfansoddiad i’r DU, a byddai ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar sut byddai’n cael ei orfodi. Hyd yn oed mewn ffederasiwn lle’r oedd gan bob gwladwriaeth a chenedl statws cyfartal, ni fyddai Cymru ar ei phen ei hun yn gallu dylanwadu ar y materion hyn heb fod clymblaid o lywodraethau’n cytuno.

Wrth dynnu sylw at drosglwyddo cyllid rhwng rhanbarthau/gwledydd y DU, gallai system ffederal danseilio undod drwy gymell drwgdeimlad rhwng y rheini sydd ar eu hennill a’r rheini sydd ar eu colled. Gyda rhagor o gyfrifoldebau, byddai llywodraethau is-wladwriaethau hefyd angen mwy o bwerau benthyca a hyblygrwydd ariannol nag sydd ar gael ar hyn o bryd i lywodraethau datganoledig.

Derbynnir yn gyffredinol y byddai Cymru annibynnol yn wynebu diffyg cyllidol, er bod arbenigwyr yn anghytuno ynghylch ei faint tebygol. Rydym yn derbyn bod y cyfrifiad diweddaraf gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru o’r diffyg cyllidol sef £14.4bn  yn cynnwys rhai costau y gallai Cymru annibynnol ddewis peidio â’u hwynebu. Er enghraifft, gallai Cymru annibynnol, fel y Swistir, fabwysiadu safbwynt o niwtraliaeth mewn materion rhyngwladol ac felly wynebu costau amddiffyn is na chyfran ei phoblogaeth o wariant y DU.

Mae’r Athro Doyle o Brifysgol Dulyn yn dadlau bod ffigurau Canolfan Llywodraethiant Cymru yn gor-ddweud y diffyg tebygol yng Nghymru. Mae ei ragdybiaethau (gan gynnwys yng nghyswllt amddiffyn uchod) yn arwain at ostyngiad o tua £2-3 biliwn y flwyddyn yn y diffyg. Mae’n gwneud tybiaethau eraill sy’n anoddach eu derbyn. Mae’r rhain yn cynnwys y cynsail Gwyddelig mewn perthynas â dyled sofran sy’n berthnasol i Gymru. Y Rhyfel Byd Cyntaf oedd i gyfrif am ddyled y DU pan gafodd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ei chreu, ac roedd y rheini a etholwyd i Lywodraeth newydd Iwerddon wedi gwrthwynebu hynny. Nid oes modd cymharu hyn â dyled y wladwriaeth fodern y mae gwariant yng Nghymru wedi cyfrannu ati.

Ar ben hynny, mae Llywodraeth yr Alban o dan arweiniad yr SNP wedi derbyn y byddai’n rhaid i Alban annibynnol ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros dalu cyfran o ddyled y DU, a fyddai’n tanseilio unrhyw ymgais gan Lywodraeth Cymru i ddadlau i’r gwrthwyneb. Yn yr un modd, nid yw’n ymddangos yn debygol y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i dalu costau pensiynau yng Nghymru gan fod y rhain yn cael eu hariannu o refeniw trethi cyfredol ac nid o gronfa Yswiriant Gwladol gronedig (er y gallai fod yn rhesymol disgwyl i Lywodraeth y DU naill ai ariannu pensiynau’r rheini sydd wedi gweithio yn Lloegr ac a ddewisodd wedyn i ymddeol mewn Cymru annibynnol, neu ad-dalu drwy ariannu pensiynau ar gyfer gweithwyr o Gymru sy’n ymddeol i Loegr).

Yn blaen yw y byddai maint y bwlch cyllidol yn dibynnu ar delerau setliad annibyniaeth wedi’i negodi. Byddai’r negodiadau hyn yn cynnwys:

  • penderfyniadau ar bensiynau’r wladwriaeth
  • cyfran dyled y DU sydd i’w dyrannu i Gymru
  • a fyddai Cymru yn defnyddio ei harian cyfred ei hun neu’n parhau i ddefnyddio sterling
  • penderfyniadau ar amddiffyn a phresenoldeb dramor.

Nid oes dwywaith na fyddai her ariannol sylweddol, ond byddai ei maint yn dibynnu ar yr amgylchiadau pan fyddai Cymru’n gadael a’r telerau a fyddai’n cael eu negodi.

Byddai’r diffyg a etifeddwyd yn golygu y byddai Cymru annibynnol yn wynebu dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig. Mae hyn oherwydd y rhesymau strwythurol sy’n sail i refeniw treth isel Cymru: economi cynhyrchiant isel a chyflogau isel Cymru. Gellid dadlau bod hyn yn deillio o ddiffyg grym gwleidyddol ac economaidd cymharol Cymru yng nghyd-destun y DU.

Ar ben hynny, nid yw’n hawdd modelu goblygiadau byd go iawn annibyniaeth ar refeniw trethi. Byddai busnesau’n penderfynu ble i leoli eu hunain, a allai weld mwy, neu lai, o fusnesau wedi’u lleoli yng Nghymru. Gallai system drethu newydd wedi'i theilwra yn ôl amodau Cymru godi mwy o refeniw na’r hyn sy’n cael ei godi ar hyn o bryd, ond nid oes sicrwydd o hynny. A hithau’n wlad annibynnol newydd, mae’n debyg y byddai Cymru’n wynebu problemau tebyg i rai Iwerddon ar ôl cael annibyniaeth o ran benthyca a hyblygrwydd cyllidol, oherwydd yr angen i ddangos ei theilyngdod i gael credyd i’r marchnadoedd cyfalaf rhyngwladol.

Pe bai Cymru annibynnol yn dewis defnyddio arian cyfred gwahanol, gallai cyfalaf lifo i ffwrdd o Gymru. Gallai pobl ddewis cadw eu cynilion yn Lloegr, neu barhau i ddefnyddio sterling lle bo hynny’n bosibl, yn enwedig os oes gwahaniaeth rhwng cyflogau a chostau byw a phŵer prynu ym mhob gwlad. Gallai hyn olygu bod dinasyddion Cymru annibynnol yn wynebu trethi uwch a gwariant cyhoeddus is dros gyfnod estynedig wrth i’w llywodraeth geisio gwireddu manteision economaidd a chymdeithasol hunanlywodraeth. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth inni ar opsiynnau arian cyfred Cymru annibynnol (rydym yn archwilio'r mater hwn yn fanylach yn ein hadroddiad interim).

Nid yw hyn yn golygu na allai Cymru annibynnol fod yn llwyddiannus yn yr hirdymor, o ystyried y potensial i osod polisi economaidd a chyllidol sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer Cymru. Ond gallai manteision hirdymor fod yn bell iawn i ffwrdd – cymerodd fwy na 50 mlynedd ac aelodaeth o’r UE i Iwerddon dyfu ei heconomi i gyfateb i’r DU.

Polisïau economaidd priodol

I ba raddau mae’n debygol o alluogi polisïau macroeconomaidd a microeconomaidd i ddiwallu anghenion Cymru mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

O dan ddatganoli, mae buddiannau economaidd Cymru a rhanbarthau Lloegr y tu hwnt i dde-ddwyrain Lloegr wedi bod yn isel ar restr flaenoriaethau llywodraethau olynol y DU. Cyfyngedig yw’r cwmpas i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag effeithiau negyddol hyn.

Byddai rhai yn dadlau bod buddiannau Cymru a’r DU yn cyd-fynd â’i gilydd, felly mae gweithredoedd Llywodraeth y DU ar ran y DU er budd Cymru hefyd. Yn ymarferol, mae penderfyniadau economaidd a wnaed yn Llundain wedi atgyfnerthu goruchafiaeth economaidd de-ddwyrain Lloegr, ac nid yw hyn wedi newid rhyw lawer dros 50 mlynedd ni waeth pa blaid sydd wedi bod mewn grym (rydym yn trafod hyn yn fanylach yn ein hadroddiad interim).

Mae datblygu economaidd wedi cael ei ddatganoli i Gymru, i’r Alban ac i Ogledd Iwerddon ers 1999, ond mae’r rhaglenni sy’n cael yr effaith fwyaf ar anghydraddoldeb economaidd yn cael eu cadw’n ôl, fel taliadau nawdd cymdeithasol a chymhellion gweithio. Mae’r fframwaith cyllidol mae Llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio gyda Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar fuddsoddiad cyfalaf, gan gynnwys mewn systemau trafnidiaeth sy’n hanfodol i dwf economaidd.

Ar ôl Brexit, mae buddsoddiad mewn rhanbarthau difreintiedig a oedd yn bosibl gyda chronfeydd strwythurol yr UE sy’n seiliedig ar reolau a phartneriaeth wedi cael ei dynnu o economi’r DU ac wedi cael ei ddisodli gan lawer llai o gyllid drwy Gronfeydd Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Mae’r rhain yn cael eu dyrannu yn ôl penderfyniad gweinidogion Llywodraeth y DU, mewn ymateb i geisiadau gan gyrff cyhoeddus a phreifat, sy’n golygu bod arian wedi cael ei ddyrannu i fentrau tymor byr untro yn hytrach na rhaglenni strategol tymor hirach (Funding for Levelling Up – Report Summary, 2023). Mae’r dull hwn wedi creu problemau mawr i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid drwy anwybyddu rheolau arferol datganoli a fformiwla Barnett, yn ogystal â darparu llawer llai o fuddsoddiad nag a oedd ar gael yn flaenorol.

Yn yr UE, roedd y rheolau’n nodi faint fyddai pob rhanbarth yn ei gael a sut mae’n rhaid defnyddio’r cyllid hwnnw, ond nawr mae’r cyllid yn cael ei gyfeirio yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth y DU. Mae hyn wedi lleihau rôl y partneriaethau sefydledig yng Nghymru. Byddai parchu’r partneriaethau hyn, a’r berthynas sefydledig rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, wedi gwella effaith strategol y cronfeydd hyn. O ganlyniad i’r broses ymgeisio heb ei chydlynu a’r diffyg penderfyniadau tryloyw, mae’r prosiectau a gefnogir yn ymddangos yn ddigyswllt ac yn rhai tymor byr, ac nid ydynt yn gydnaws â pholisïau ac ymyriadau gan y llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (Funding for Levelling Up – Report Summary, 2023).

I’r gwrthwyneb, mae system sy’n seiliedig ar reolau bob amser yn debygol o fod o fudd i wladwriaeth lai. Heb hynny, mae Llywodraeth y DU yn gallu, ac wedi, troi ei chefn ar egwyddorion sefydledig cysylltiadau rhynglywodraethol a pharch at y sefydliadau datganoledig.

Pe bai atgyfnerthu datganoli yn cynnwys system o gyflafareddu annibynnol ar faterion ariannol sy’n destun anghydfod, megis cymhwyso fformiwla Barnett, a chynigion ar gyfer trethiant newydd, yna mae’n debyg y byddai llai o wrthdaro rhwng llywodraethau. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddai hyn yn arwain at newid mawr i’r drefn bresennol: prin iawn fu’r enghreifftiau o anghydfodau mawr rhwng llywodraethau, yn bennaf mewn perthynas â Gemau Olympaidd Llundain 2012 a rhaglen buddsoddi mewn rheilffyrdd HS2. Roedd y naill a’r llall wedi deillio o benderfyniadau’r Trysorlys ar effaith ddaearyddol y gwariant, gan honni bod Cymru yn elwa hyd yn oed pe bai’r gwariant yn codi’r tu allan i Gymru.

Mae’n debyg y byddai system ffederal yn rhoi mwy o ryddid i Gymru o ran trethiant a gwariant. Ond mae’r trefniadau presennol wedi tynnu sylw at geidwadaeth (dealladwy efallai) llywodraethau Cymru o ran defnyddio eu pwerau treth o ystyried rhyng-gysylltiad economïau Cymru a Lloegr a pha mor hawdd y gellid ‘ffoi rhag treth’. Er ei bod yn ddyddiau cynnar iawn o hyd o ran datganoli cyllidol, nid yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei phwerau i amrywio’r cyfraddau treth incwm.

Hyd yn oed mewn system ffederal, yna, gallai sefydliadau Cymru beidio â gwneud y dewisiadau gwleidyddol am drethiant y byddent yn dymuno’u gwneud oherwydd y risg y byddai dewisiadau o’r fath yn arwain at golli buddsoddiad ac y byddai pobl yn symud dros y ffin i amgylchedd treth is.

Mae’n ymddangos yn reddfol po fwyaf o benderfyniadau economaidd sylfaenol sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, y mwyaf y mae’r penderfyniadau hynny’n debygol o adlewyrchu buddiannau economaidd Cymru. O dan system ffederal (i ryw raddau) ac yn sicr gydag annibyniaeth byddai gan Lywodraeth Cymru fwy o ryddid i lunio polisïau macroeconomaidd, ond byddai ei hopsiynau’n cael eu cyfyngu gan farchnadoedd, capasiti cyllidol, a chytundebau a wneir gyda llywodraeth San Steffan, yr UE a chyrff eraill.

Sefydlogrwydd economaidd

Pa mor bell (os o gwbl) mae’n peryglu ansefydlogi economi Cymru wrth gymharu â’r status quo a’r opsiynau eraill ar gyfer newid.

Mae safbwyntiau gwahanol ynghylch i ba raddau y mae’r setliad cyfansoddiadol presennol yn sicrhau sefydlogrwydd economaidd, ac i ba raddau y mae perfformiad gwael yr economi a safonau byw sy’n gostwng yng Nghymru yn ganlyniad i ddewisiadau polisi yn San Steffan (gan gynnwys ffurf Brexit ac effaith drychinebus ‘mini-gyllideb’ 2022) neu’r argyfyngau byd-eang niferus (Covid-19, yr ymosodiad ar Wcráin, newid hinsawdd) rydym yn eu profi.

Fodd bynnag, mae’n ymddangos yn wir bod maint ac amrywiaeth economi’r DU, i ryw raddau, yn gwarchod Cymru rhag effeithiau mwyaf arwyddocaol argyfyngau byd-eang o’r fath. Byddai angen i Gymru annibynnol wynebu argyfwng fel economi lai, oni bai ei bod yn elwa o ddiogelwch cynghrair economaidd ehangach.

Ar ben hynny, mae’n well gan farchnadoedd rhyngwladol sicrwydd, maent yn wyliadwrus o newid ac yn ymateb yn wael i ansicrwydd ac ansefydlogrwydd gwleidyddol. Felly, mae’n debygol y byddai unrhyw newid mawr mewn trefniadau cyfansoddiadol yn creu ansefydlogrwydd economaidd yn y tymor byr i ganolig. Proses y newid fyddai’n pennu hyd a lled hyn. Y rhagdybiaeth yw y bydd bwlch rhwng unrhyw refferendwm ar annibyniaeth (neu greu DU ffederal) a gweithredu canlyniad y refferendwm hwnnw.

Gall ansicrwydd cyfansoddiadol hirdymor arwain at ansefydlogrwydd economaidd. Mae ansicrwydd o’r fath yn Québec a Chatalwnia wedi cael effaith negyddol ar fuddsoddiad busnes, ynghyd â phobl yn dewis peidio â mudo i’r ardaloedd hynny a phreswylwyr yn dewis symud i ffwrdd. Mae’r ansicrwydd am arian cyfred a dyled mewn Cymru annibynnol hefyd yn debygol o effeithio ar hyder y farchnad.

Roedd profiad y DU o adael yr UE yn dangos yr effaith ar fuddsoddiad, hyder y farchnad, a hyder busnesau wrth ymestyn cyfnod pontio neu wrth iddo fynd yn elyniaethus, yn enwedig pan fydd risg y bydd newid cyfansoddiadol yn cael ei roi ar waith heb i’r naill ochr a’r llall gytuno ar hynny. Pe bai Cymru’n gadael y DU, ni fyddai gwahanu gelyniaethus o fudd i’r naill barti na’r llall, er y byddai mwy o niwed i Gymru. I’r gwrthwyneb, byddai dull cydweithredol a chyd-gefnogol o ymwahanu’n lleihau’r ansefydlogrwydd economaidd i’r ddwy ochr wrth gynnal negodiadau.

Ar ben hynny, gallai cyfnod negodi gelyniaethus ar gyfer annibyniaeth, neu hyd yn oed negodi ar sail buddiannau Lloegr fel yr economi fwyaf mewn ffederasiwn, gael effeithiau negyddol ar sefydlogrwydd economaidd yn y dyfodol. Efallai y byddai Cymru’n ei chael hi’n anodd cael cydnabyddiaeth ryngwladol, ac efallai y byddai marchnadoedd yn fwy gochelgar mewn perthynas â’r DU gyfan.

O’r safbwynt hwn, byddai atgyfnerthu datganoli yn fwy tebygol o ddarparu sefydlogrwydd economaidd, na’r newid radical sy’n gysylltiedig â ffederaliaeth neu annibyniaeth. Ar yr un pryd, mewn system ddatganoledig neu ffederal, nid oes gan Lywodraeth Cymru ddewis ond gweithio o fewn y penderfyniadau economaidd a wneir gan Lywodraeth y DU, sydd, fel y nodwyd uchod, yn golygu y gallai problemau barhau o anfantais a pherfformiad economaidd cymharol wan.

Llif pobl a nwyddau ar draws ffiniau

Pa mor bell mae’n gwella neu’n atal unigolion a busnesau rhag gweithio’n effeithiol ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr a sut gallai effeithio ar her ddemograffig Cymru.

Pe bai gan Gymru fwy o ymreolaeth, byddai cadw ffin mor agored ag ydyw ar hyn o bryd yn gofyn am lawer iawn o waith a chonsesiynau ar y naill ochr a’r llall, ac yn cyfyngu ar ba mor bell y gallai polisïau’r gwledydd wyro oddi wrth ei gilydd.

Byddai effaith annibyniaeth ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dibynnu ar y cytundeb rhwng y ddwy wlad. Mae Iwerddon yn rhan o Ardal Deithio Gyffredin gyda’r DU, ac mae’n ymddangos yn rhesymol disgwyl y byddai trefniant tebyg yn cael ei wneud ar gyfer DU ffederal neu Gymru annibynnol, ond nid oes sicrwydd o hyn. Byddai angen cytundeb wedi’i negodi ynghylch sut y byddai materion fel pensiynau a threthi’n cael eu trin ar gyfer pobl sy’n byw mewn un wlad ond yn gweithio (ac a oedd felly’n cael eu talu) mewn gwlad arall.

Ychydig o wybodaeth sydd gennym am lifoedd masnach rhwng Cymru a Lloegr. Er mwyn cymharu, amcangyfrifir bod masnach yr Alban â gweddill y DU tua phedair gwaith yn fwy na’i masnach â’r UE (How might Scottish independence affect the costs of international trade? - Economics Observatory. Rhoddwyd mwy o ystyriaeth academaidd i fasnach rhwng yr Alban a gweddill y DU, o’i chymharu â masnach rhwng Cymru a gweddill y DU, gan fod hwn yn bwynt trafod pwysig yn ystod refferendwm 2014). Fodd bynnag, ni ellir tybio y byddai masnach rhwng Cymru a Lloegr yn aros fel y mae ar hyn o bryd o dan annibyniaeth neu fodel ffederal. Fel y nodir yn 'Wales and its Borders' (Hayward, K., McEwan, N. 2023, Wales and its Borders: The implications of independence for managing Wales’ land and sea borders, adroddiad a gomisiynwyd gan Blaid Cymru ac a rannwyd â’r Comisiwn), po agosaf yw aliniad rheoleiddiol Cymru â’r DU, y lleiaf o wrthdaro fydd ar y ffin. Mae risg gynyddol uwch i farchnad fewnol y DU wrth i Gymru symud ymhellach ar hyd y sbectrwm annibyniaeth. Byddai angen diwygio Deddf bresennol y Farchnad Fewnol ac efallai na fyddai’n addas i’r diben pe bai pwerau sylweddol sy’n effeithio ar y farchnad fewnol yn cael eu datganoli i Gymru.

Gallai llif nwyddau dros y ffin fod yn heriol pe bai Cymru’n cyflwyno safonau gwahanol, neu pe bai’n cyflwyno trethi mewnforio/allforio/gwerthu gwahanol, neu’n wir yn dewis dod yn hafan dreth isel. Byddai angen i lywodraeth ffederal fod â rôl o ran cynnal marchnad fewnol weithredol a fyddai’n atal y dewisiadau polisi hyn rhag troi’n ffiniau caled.

I Gymru annibynnol, gallai fod yn fater o gyfaddawdu gwleidyddol yn y negodiadau â rhannau eraill o’r DU: gallai mwy o ryddid i wyro oddi wrth reolau’r DU olygu mwy o reolaethau ar y ffin. Er mwyn sicrhau rhyddid llawn i bobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf groesi’r ffiniau, byddai angen mwy na chytundeb masnach rydd gyda rhannau eraill o’r DU, byddai angen marchnad sengl a fyddai’n anochel yn cyfyngu ar ryddid gwladwriaeth newydd Cymru i wyro mewn sawl ffordd arwyddocaol oddi wrth y sefyllfa yn Lloegr.

Yn eironig, ar ôl pleidleisio i adael yr UE i ennill mwy o sofraniaeth, mae'r ffaith nad yw Cymru na Lloegr yn rhan o'r UE a'i farchnad sengl yn ei gwneud yn anoddach i unrhyw wlad yn y DU arddel ei sofraniaeth ei hun drwy ddewis annibyniaeth. Hyd yn oed heb farchnad sengl yn y DU, byddai angen i unrhyw gytundeb masnach rhwng Cymru a gweddill y DU nodi dulliau rheoleiddio cyffredin, mesurau ar gyfer cadw arian cyfred ac ati. Mae’n debyg y byddai hyn yn rhan o negodiadau ymadael rhwng Cymru a gweddill y DU.

Mae’r graddau y mae sofraniaeth yn cael ei chyfyngu hefyd yn dibynnu ar y dewisiadau gwleidyddol a fyddai’n cael eu gwneud yn ystod y cyfnod o ymwahanu. Mae annibyniaeth yn annhebygol o fod yn ddewis deuaidd rhwng aros yn y DU neu adael y DU, fel y cyflwynir weithiau. Yn 2013, rhoddodd Alex Salmond, arweinydd yr SNP, gyfres o areithiau ar y chwe undeb roeddent wedi’u nodi rhwng yr Alban a gweddill y DU: sef yr undeb arian cyfred, yr undeb amddiffyn, yr Undeb Ewropeaidd, yr undeb cymdeithasol, undeb y Goron, a’r undeb gwleidyddol ac economaidd. Roedd yr SNP yn dadlau eu bod yn ceisio dod â dim ond yr undeb gwleidyddol ac economaidd i ben yn refferendwm 2014 a chadw’r pump arall (The Impact of Brexit on the SNP’s narrative of independence).

Mae datganoli yn sicrhau rhyddid llwyr i symud nwyddau, pobl, cyfalaf a gwasanaethau ar draws y DU, ond ar draul rhyddid i osod rheolau ar gyfer sefyllfa benodol Cymru. Er enghraifft, mae Cymru’n rhwym wrth bolisïau mewnfudo’r DU, sy’n effeithio ar lif pobl i Gymru, a’r gweithlu sydd ar gael i fusnesau ac i wasanaethau cyhoeddus.

O dan yr opsiwn ffederal, byddai llawer yn dibynnu ar y pwerau sy’n cael eu cadw gan y llywodraeth ffederal a beth fyddai’n cael ei gynnal ar y lefel is-wladwriaethol. Un nodwedd o ffederaliaeth yw y gallai gynnig cyfle i wneud penderfyniadau ar y cyd ar feysydd sy’n effeithio ar lif trawsffiniol. Byddai cyfansoddiad ffederal o leiaf yn gwneud y penderfyniadau hyn yn fwy tryloyw. Gallai’r cyfansoddiad gynnwys rôl fasnach ryng-is-wladwriaethol i Lywodraeth y DU, fel y mae’n ei wneud yn yr Unol Daleithiau. Byddai angen i hyn fod yn seiliedig ar reolau a chynnwys proses datrys anghydfod gyda chymrodeddu annibynnol i liniaru’r gwahaniaethau rhwng pwysau economaidd rhannau penodol o'r ffederasiwn, ond efallai na fyddai hyn yn ddigon i liniaru'r cyfraniad economaidd mwy (ac felly dylanwad) y gallai aelodau cyfoethocach y ffederasiwn ei gael.

Mewnfudo ac allfudo

Mae mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl ym mhob un o’r setliadau datganoli. Byddai cael rhywfaint o bwerau yn y maes hwn yn golygu bod modd llunio polisïau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion pob tiriogaeth. Gellid gwneud rhywfaint o hyn heb fawr o newid i’r setliad datganoli, er enghraifft drwy raglenni talent newydd, neu restrau galwedigaethau arbenigol wedi’u teilwra.

Y pellaf y bydd Cymru yn mynd ar hyd y sbectrwm annibyniaeth, y mwyaf fyddai’r posibilrwydd o gael polisi mewnfudo ar wahân. Byddai angen cytundeb wedi’i negodi gyda gweddill y DU ynghylch sut byddai hyn yn effeithio ar ryddid pobl i symud ar draws ffiniau’r DU. Nid oes angen i hyn fod yn broblem: mae gan wledydd yn ardal Schengen reolau mewnfudo gwahanol ar gyfer pobl y tu allan i'r UE, ac maent yn parhau i gynnal rhyddid pobl i symud.

Byddai Cymru annibynnol yn gallu pennu ei rheolau dinasyddiaeth ei hun, a allai fod yn wahanol iawn i ddinasyddiaeth y DU. Mae perygl y gallai gwahaniaeth rhy fawr danseilio parodrwydd gweddill gwledydd y DU i barhau i gadw ffiniau agored gyda Chymru. Fodd bynnag, mae Iwerddon wedi gweithredu model dinasyddiaeth llawer llai cyfyngol ers degawdau heb ymyrraeth i’r Ardal Deithio Gyffredin.

Pe bai Cymru annibynnol neu ffederal yn dioddef o ddirywiad neu sioc economaidd, yna’r risg fwyaf fydd allfudo wrth i bobl geisio osgoi’r heriau economaidd fyddai’n wynebu Cymru, er mwyn osgoi’r trethi uwch sydd eu hangen o dan yr amgylchiadau hyn, neu i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus na allai Cymru fforddio eu darparu mwyach. Roedd adroddiad Holtham yn ystyried faint o bobl a allai groesi’r ffin pe bai newidiadau treth a’r effaith y gallai hynny ei chael ar gyllid cyhoeddus, gan ddod i’r casgliad bod agosrwydd eu cartref at y ffin yn ffactor o ran pa mor debygol yw rhywun o adael Cymru. Gan fod 90% o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 50 milltir i’r ffin, gallai hyn fod yn arwyddocaol (Crossing the border: road and rail links between England and Wales, 2013).

Mae Llywodraeth yr Alban wedi defnyddio ei phwerau amrywio treth incwm, ac felly mae sylfaen dystiolaeth gynyddol ar effaith gwahaniaeth mewn treth incwm ar fewnfudo ac allfudo yn y DU. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae poblogaeth yr Alban ymhellach i ffwrdd oddi wrth y ffin, sy’n golygu bod cymudo rheolaidd rhwng Lloegr a’r Alban yn llai o opsiwn ymarferol ac felly nid oes modd cymharu â Chymru.

Crynodeb

Mae’r dadansoddiad uchod yn dangos bod cryfderau ac anfanteision yn perthyn i’n tri opsiwn. Mae’r cyfaddawdau’n bennaf rhwng y gwahanol feini prawf yn ein fframwaith dadansoddi yn hytrach na rhwng yr opsiynau.

Felly:

O ran atebolrwydd, galluogedd, sefydlogrwydd cyfansoddiadol, llywodraeth gydgysylltiedig yng Nghymru a pholisïau economaidd priodol, byddai annibyniaeth, mewn egwyddor, yn cynnig mantais sylweddol dros ddiogelu neu atgyfnerthu datganoli, a byddai’n rhoi’r eglurder mwyaf ynghylch pwy sy’n gwneud y penderfyniadau. Ond, mewn byd rhyng-ddibynnol, nid yw ‘cymryd rheolaeth’ ffurfiol yr un fath â chael rhyddid llwyr i lunio polisïau: bydd unrhyw wlad annibynnol, yn enwedig un sydd â phoblogaeth fach ac economi fach, yn wynebu cyfyngiadau sylweddol o ran disgwyliadau marchnadoedd byd-eang a natur drawswladol llawer o’r materion mwyaf arwyddocaol, yn enwedig newid hinsawdd a chynaliadwyedd.

I’r gwrthwyneb, o ran capasiti a chost, cydlynu’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ar draws ffiniau (mewnol ar hyn o bryd) y DU, sefydlogrwydd economaidd, llif pobl a nwyddau ar draws ffiniau, ac (ar ôl negodi terfyn isaf Barnett a grybwyllwyd uchod), cyllid cyhoeddus, byddai’r setliad presennol, wedi diogelu ac atgyfnerthu yn cynnig manteision sylweddol dros yr opsiynau eraill. Byddai’r rhain yn cynnal integreiddio economaidd yn y DU, ac fel rydym yn ei ddarganfod gyda Brexit, byddai hyn yn anodd iawn ei efelychu mewn negodiadau rhwng dwy wladwriaeth annibynnol. Ar yr un pryd, yn ddieithriad mae marchnadoedd ariannol yn ymateb yn negyddol i newid cyfansoddiadol ac ansefydlogrwydd a byddai’r ymateb hwn yn cael ei waethygu gan yr ansicrwydd am yr arian cyfred a chyfran dyled sofran y DU a etifeddwyd gan Gymru annibynnol. Byddai annibyniaeth yn gofyn am ailgynllunio llywodraethiant mewnol Cymru, gan gynnwys ailgydbwyso cyfrifoldebau a chapasiti rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Byddai angen sefydlu a recriwtio llawer o gyrff cenedlaethol newydd i weithredu swyddogaethau a oedd yn cael eu rhedeg gan Lywodraeth y DU ar ran Cymru. Mae angen ystyried y risgiau hyn ochr yn ochr ag anfanteision difrifol y setliad presennol yn gyffredinol sydd wedi ein harwain i’r casgliad nad yw’r model presennol o ddatganoli yn sail sefydlog i symud ymlaen.

Mewn llawer o ffyrdd, gallai ateb ffederal ymddangos fel petai’n cynnig ffordd ganol ddymunol sy’n gwella ar ddatganoli mewn perthynas â’r set gyntaf o ffactorau ac yn cynnig llai o darfu nag annibyniaeth mewn perthynas â’r ail set. Byddai strwythur ffederal yn seiliedig ar gyfansoddiad ysgrifenedig a fyddai’n diffinio ac yn gwarantu pwerau llywodraethau’r is-wladwriaethau a fyddai’n gam mawr ymlaen o’i gymharu â datganoli. Ond o ran dibyniaethau allanol, mae ateb ffederal yn edrych yn fwy heriol na naill ai mwy o ddatganoli neu annibyniaeth oherwydd byddai’n gofyn am newid cyfansoddiadol sylfaenol yn y ffordd y caiff Lloegr ei llywodraethu – ac nid yw’n ymddangos bod llawer o awydd am hynny ar hyn o bryd – a byddai’n golygu bod angen i’r Alban a Gogledd Iwerddon wneud ymrwymiad llawer cryfach i ddyfodol hirdymor yn y DU nag sy’n debygol yn y dyfodol agos.

Yn olaf, o ran sybsidiaredd a chydraddoldeb a chynhwysiant, nid oes patrwm clir. Mae’r graddau y mae llywodraethau’n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn fater o ddewis gwleidyddol, yn hytrach na ffurfiau cyfansoddiadol. Gallai cyfansoddiad ysgrifenedig, un ai ar gyfer Cymru annibynnol, neu DU ffederal, ei gwneud yn anos i lywodraeth danseilio neu wanhau hawliau lleiafrifoedd a gallai eu hyrwyddo drwy godeiddio. O ran sybsidiaredd, mae unrhyw ddyfarniad syml yn amhosibl: nid yw egwyddor sybsidiaredd yn rhagnodi y dylid ymdrin â phob mater mor agos â phosibl at y bobl yr effeithir arnynt ond yn hytrach ar y lefel isaf y gellir ei weithredu’n effeithiol. Ar gyfer rhai meysydd polisi hollbwysig, gan gynnwys newid hinsawdd ac ymateb i’r marchnadoedd ariannol, ni all hyd yn oed y genedl-wladwriaeth fwyaf obeithio cymryd camau effeithiol ar ei phen ei hun.

Casgliad

Nid ydym yn gwneud unrhyw argymhelliad ynghylch pa opsiwn cyfansoddiadol hirdymor sydd orau i Gymru. Mae dewis rhwng yr opsiynau yn dibynnu ar y canlynol:

  1. y pwysoliad cymharol a roddir i’r meini prawf yn y fframwaith dadansoddi
  2. lefel y risg a’r ansicrwydd y mae pobl yn barod i’w derbyn.

Ni all y Comisiwn benderfynu ar hyn; mae dewis rhwng y meini prawf a gwerthuso’r risg yn ddewis i ddinasyddion a’u cynrychiolwyr etholedig.

Wrth gyflwyno’r dadansoddiad hwn, rydym yn gobeithio y bydd yn helpu rhoi sail i ddadl resymegol a phwyllog gyda dinasyddion am gyfleoedd a risgiau diwygio cyfansoddiadol, neu hyd yn oed ddiffyg symud cyfansoddiadol.

Pennod 8: casgliadau ac argymhellion

Cyflwyniad

Mae ein pennod olaf yn cyflwyno ein casgliadau a’n hargymhellion i wella llywodraethiant Cymru.

Trosolwg

Pan ddechreuon ni ein gwaith, roeddem yn meddwl ein bod yn dechrau ymchwiliad am egwyddorion cyfansoddiadol, sofraniaeth a llywodraethiant. Yn wir, mae’r rhain wedi bod yn themâu pwysig yn ein gwaith, fel y nodwyd yn ein hadroddiad interim. Ar ôl inni ddechrau ar ein sgwrs â phobl Cymru, fe ddaeth hi’n amlwg bod materion pwysig o ran gweithrediad democratiaeth yng Nghymru yr oedd angen inni roi sylw iddynt hefyd. Fe wnaethom ddechrau ein hadroddiad terfynol gyda chrynodeb o safbwyntiau dinasyddion a’n cynigion i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Sgwrs genedlaethol

Ym mhennod 2 rydym yn nodi canfyddiadau ein gwaith ymgysylltu a’n gwaith ymchwil i farn pobl Cymru. Yn ein profiad ni, mae defnyddio sawl sianel i gyrraedd pobl a siarad â nhw mewn iaith bob dydd wedi dangos ei bod hi’n bosibl cael sgwrs ddifrifol ac adeiladol am y dyfodol y bydden nhw’n hoffi ei weld. Mae pennod 2 yn cynnwys y prif negeseuon a glywsom o’r sgwrs, sy’n cael eu crynhoi isod.

Barn dinasyddion: prif negeseuon

Nid yw pobl yn deall rhyw lawer am strwythurau llywodraeth (ar lefel y DU, Cymru neu’r lefel leol), ac nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i gyfrannu at y ddadl am eu newid.

At ei gilydd, mae diddordeb dinasyddion mewn diwygio cyfansoddiadol yn cynyddu wrth iddynt ddod yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng diwygiadau posibl a’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae llawer o bobl yn cyfuno strwythurau cyfansoddiadol gyda gweithredoedd llywodraeth y dydd.

Mae hunaniaeth a chysylltiad gwleidyddol yn dylanwadu ar farn pobl am y ffordd ymlaen.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi datganoli a byddent yn ffafrio mwy o ymreolaeth, ar ryw ffurf.

I rai pobl, mae ffederaliaeth yn gysyniad deniadol, ond nid yw wedi’i ddiffinio’n glir, ac mae eu cefnogaeth yn lleihau wrth iddynt ddeall heriau ymarferol creu strwythur ffederal i’r DU.

Ar hyn o bryd mae lleiafrif yn cefnogi dadwneud datganoli ac mae lleiafrif yn cefnogi Cymru annibynnol; ond maent yn safbwyntiau cryf ac mae’r gefnogaeth i’r ddau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Democratiaeth

Ym mhennod 3 rydym yn nodi bod democratiaeth gynrychioladol o dan fygythiad ar draws y byd, fel y nodwyd yn ein hadroddiad interim. Rydym yn credu bod cyfle i Gymru adeiladu diwylliant democrataidd cryfach i wrthsefyll y bygythiadau hyn, ar sail cysyniad i’w system llywodraethiant ac ymgysylltiad gweithgar â’r system honno.

Egwyddor cydsyniad

Dylai’r egwyddor mai undeb wirfoddol o genhedloedd yw’r DU fod yn fan cychwyn i unrhyw ystyriaeth o opsiynau cyfansoddiadol (a fynegwyd gan y Prif Weinidog Theresa May yn ei haraith ar yr Undeb ar 4 Gorffennaf 2019: "Mae ein Hundeb yn dibynnu ar gefnogaeth ei bobl, ac yn cael ei ddiffinio gan gefnogaeth ei bobl... bydd yn parhau gyhyd ag y mae pobl eisiau iddo barhau – gyhyd ag y mae’n ennyn cefnogaeth barod pobl yr Alban a Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon"). Felly, dylai pobl Cymru gael yr hawl i bennu dyfodol cyfansoddiadol eu cenedl. Mae ein Comisiwn wedi dechrau trafodaeth ar sail tystiolaeth a luniwyd i lywio’r broses o arfer yr hawl honno pan a phryd y gellid ei rhoi ar waith. Nid ydym wedi cael amser i lawn ystyried pa brosesau penodol dylid eu dilyn er mwyn gallu cynnal refferendwm ar newidiadau mawr ym mherthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, rydym yn credu bod angen i lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ystyried y cwestiwn hwn ar frys er mwyn egluro o dan pa amodau penodol y gellid ac y dylid cynnal refferendwm.

Diwygio’r Senedd

Rydym yn croesawu’r cynigion presennol i ddiwygio’r Senedd er mwyn iddo allu gwneud gwaith craffu a herio gwell. Bydd y ddeddfwriaeth sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn cyflwyno, yn 2026, aelodaeth estynedig, tymhorau pedair blynedd, opsiwn i ethol Dirprwy Lywydd, a system etholiadol ddiwygiedig gydag un categori o Aelod (yn disodli’r system bresennol o Aelodau etholaethol a rhanbarthol o’r Senedd).

Bydd hyn yn sicrhau mwy o gymesuredd ond mae’n golygu na fydd gan bleidleiswyr gysylltiad uniongyrchol â’u Haelod lleol o’r Senedd mwyach. Bydd pleidleiswyr ond yn gallu dewis rhwng y rhestrau a gyflwynir gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol unigol, os byddant yn sefyll mewn etholiad; ni fyddant yn gallu pleidleisio o blaid ymgeisydd er enghraifft sydd mewn safle is na rhywun arall yn y blaid.

Rydym yn croesawu’r ymrwymiad i adolygiad llawn a manwl gan un o bwyllgorau’r Senedd o’r etholiad cyntaf i weithredu o dan y system newydd. Nod ein hargymhelliad ym isod yw sicrhau ei fod yn cael digon o adnoddau i ddarparu tystiolaeth gadarn.

Addysg ddinesig a llythrennedd democrataidd

Er mwyn cael democratiaeth ffyniannus mae’n rhaid cael dinasyddion gwybodus sy’n deall sut mae eu gwlad yn cael ei llywodraethu ac sy’n meddu ar y sgiliau i werthuso dewisiadau a chyfaddawdau. Mae ein gwaith ymgysylltu yn dangos bod y sgiliau hyn yn brin. Mae mynd i’r afael â hyn yn gofyn am addysg ddinesig well i bob grŵp oedran, a chyfleoedd i ddinasyddion ddysgu am arferion llywodraeth. Mae adfywio democratiaeth yn gofyn am fuddsoddiad mewn mecanweithiau cyfranogol a chydgynghorol er mwyn i ddinasyddion allu cyfrannu at ddatrys yr heriau hollbwysig sy’n wynebu Cymru.

Er mwyn mynd â hyn rhagddo, mae angen capasiti ac arweinyddiaeth newydd ar Gymru, gyda chefnogaeth panel cynghori arbenigol, er mwyn dod ag arbenigeddau a phrofiadau o bob cwr o lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd, a chael egni a syniadau newydd. Yr amcan yw creu diwylliant democrataidd i fynd i’r afael â’r sinigiaeth sy’n erydu ymddiriedaeth mewn llywodraeth, cynrychiolwyr etholedig a democratiaeth ei hun. Mae hyn yn gofyn am arweinyddiaeth gan yr holl bleidiau gwleidyddol, a chapasiti penodol i hyrwyddo arloesi democrataidd yng Nghymru.

Rydym yn cynnig prosiect i greu datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethiant i Gymru, fel ffordd o atgyfnerthu egwyddorion cyfansoddiadol yn y ddeddfwriaeth datganoli a chynnwys dinasyddion yn y ffordd mae eu gwlad yn cael ei llywodraethu.

Rydym yn gwneud tri argymhelliad i gryfhau ein democratiaeth. Mae’r argymhellion hyn yn bwysig, pa bynnag fodel cyfansoddiadol a gefnogir yn y pen draw gan bobl Cymru:

Argymhellion i gryfhau democratiaeth yng Nghymru

Arloesi democrataidd

1. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y Senedd.

Egwyddorion cyfansoddiadol

2. Gan ddefnyddio’r arbenigedd hwn, dylai Llywodraeth Cymru arwain prosiect i gynnwys dinasyddion yn y gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethiant i Gymru.

Diwygio’r Senedd

3. Rydym yn argymell y dylid darparu adnoddau ar gyfer yr adolygiad arfaethedig o ddiwygio’r Senedd i sicrhau dadansoddiad cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o effaith y newidiadau, gan gynnwys o safbwynt y pleidleisiwr ac atebolrwydd democrataidd.

Gwendidau’r setliad presennol

Ym mhenodau 4 a 5 rydym yn nodi pam rydym yn credu bod y setliad datganoli presennol yn fregus ac yn ansefydlog. Mae’r ansefydlogrwydd hwn yn deillio o’r ffordd mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio sofraniaeth Seneddol y DU i ddiystyru pwerau Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, gan danseilio’r confensiynau sefydledig ar gysylltiadau rhyngseneddol a rhynglywodraethol.

O ganlyniad, mae’n bosibl i Senedd a Llywodraeth San Steffan barhau i erydu’r setliad presennol. Nid yw’n gallu cyflawni’r un lefel o reolaeth gyson yng Nghymru dros faterion datganoledig a gafodd ei chadarnhau gan bleidleiswyr Cymru yn refferenda 1997 a 2011 a sydd yn hanfodol i Lywodraeth Cymru allu cyflawni ei hymrwymiadau maniffesto.

Llywodraethau’n cydweithio

Mae pennod 4 yn nodi bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn hanfodol i lywodraethiant Cymru, a bod cydweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar ymrwymiad pob llywodraeth. Mae’n nodi mai cymysg fu’r cynnydd ers 2019, gyda datblygiadau cadarnhaol yn cael eu tanseilio wrth i Lywodraeth y DU ddiystyru confensiwn i wthio ei deddfwriaeth Brexit rhagddi.

Mae cydweithio rhwng llywodraethau er budd y cyhoedd yn flaenoriaeth uchel gan ddinasyddion ac nid ydynt yn hoffi gweld llywodraethau’n ffraeo. Mae cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i fecanweithiau cadarnach i reoleiddio sut mae llywodraethau’n rhyngweithio. Daw pennod 4 i’r casgliad y dylid rhoi cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol fel rhan o setliad datganoli mwy diogel.

Ffiniau datganoli

Mae pennod 5 yn sôn am waith y chwe is-grŵp roeddem wedi’u sefydlu i adolygu’r meysydd tensiwn ar ffiniau’r pwerau datganoledig: darlledu a chyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, cyflogaeth, ynni, cyfiawnder a phlismona, trafnidiaeth a budd-daliadau lles. Amcanion y grwpiau oedd adolygu’r ddadl ar bob pwnc, gan ddefnyddio ymchwiliadau arbenigol diweddar a chyfredol, a phennu’r goblygiadau cyfansoddiadol.

Casglodd yr is-grwpiau dystiolaeth yn gymesur â’r achos dros newid. Mae meysydd polisi eraill a allai elwa o adolygiad o’r pwerau presennol, ond nid oedd yr amser na’r capasiti gennym i ystyried y mater. Dylai’r rhain hefyd gael eu hadolygu’n drylwyr i gryfhau atebolrwydd a darpariaeth.

Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gan yr is-grwpiau, rydym yn argymell y dylid diwygio setliad datganoli Cymru i’w roi ar sylfaen gadarn a datrys tensiynau hirsefydlog sy’n tanseilio cyflawni mewn perthynas â chyfiawnder a phlismona, gwasanaethau rheilffyrdd a rheoli cyllidebau. Rydym hefyd yn argymell cryfhau llais Cymru drwy gydweithio rhynglywodraethol cryfach a chydlywodraethu.

Dylai pob plaid wleidyddol sydd wedi ymrwymo i ddatganoli roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â diffygion y setliad presennol, beth bynnag yw eu barn ar y sefyllfa hirdymor. Mae ein hargymhellion i ddiogelu datganoli wedi’u nodi ar y dudalen nesaf.

Argymhellion i ddiogelu datganoli

4. Cysylltiadau rhynglywodraethol

Dylai Llywodraeth Cymru gynnig i lywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon y dylai Senedd San Steffan ddeddfu ar gyfer mecanweithiau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau dyletswydd o gydweithredu a pharch cydradd rhwng llywodraethau’r DU.

5. Confensiwn Sewel

Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno i Senedd San Steffan ddeddfwriaeth i nodi bod angen cydsyniad y sefydliadau datganoledig ar gyfer unrhyw newid i’r pwerau datganoledig, ac eithrio pan fydd angen hynny am resymau y cytunir arnynt rhyngddynt, fel: rhwymedigaethau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch gwladol neu bolisi macroeconomaidd.

6. Rheolaeth ariannol

Dylai Llywodraeth y DU ddileu’r cyfyngiadau ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru, ac eithrio lle ceir goblygiadau macroeconomaidd.

7. Darlledu

Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli.

8. Ynni

Dylai llywodraethau Cymru a’r DU sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar frys ar sut y gellid diwygio’r setliad datganoli ac ymgysylltu rhynglywodraethol mewn perthynas ag ynni, i baratoi ar gyfer arloesi technegol cyflym ym maes cynhyrchu a dosbarthu ynni, ac er mwyn sicrhau bod Cymru’n gallu gwneud y mwyaf o’i chyfraniad at sero net ac at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol. Dylai cylch gwaith y grŵp gynnwys cynghori ar yr opsiynau ar gyfer datganoli Ystad y Goron, a ddylai ddod yn gyfrifoldeb i lywodraeth ddatganoledig Cymru fel y mae yn yr Alban.

9. Cyfiawnder a phlismona

Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder a phlismona yn ddeddfwriaethol ac yn weithredol i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, yn unol ag amserlen y bydd y naill lywodraeth a’r llall yn cytuno arni i ddatganoli pob rhan o’r system gyfiawnder, gan ddechrau gyda phlismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, gyda’r cyllid angenrheidiol wedi’i sicrhau, a darpariaeth ar gyfer cydlywodraethu lle bo angen ar gyfer gweithrediadau effeithiol.

10. Gwasanaethau rheilffyrdd

Dylai Llywodraeth y DU gytuno i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros wasanaethau rheilffyrdd a’r seilwaith rheilffyrdd yn llawn i Gymru gyda chyllid teg a chydlywodraethu yng nghyswllt gwasanaethau trawsffiniol.

Opsiynau cyfansoddiadol

Ar ôl ystyried y newidiadau sydd eu hangen i gryfhau gweithrediad democratiaeth yng Nghymru a diogelu’r setliad datganoli, mae Pennod 7 yn cyflwyno ein dadansoddiad o’r opsiynau cyfansoddiadol a nodwyd yn ein hadroddiad interim: atgyfnerthu datganoli, Cymru mewn DU ffederal, a Chymru annibynnol.

Atgyfnerthu datganoli

Byddai’r opsiwn hwn yn gofyn am ragor o newidiadau i wneud datganoli’n hyfyw i’r hirdymor, gan adeiladu ar y newidiadau a argymhellir uchod. Ni fyddai angen refferendwm a byddai’n osgoi rhywfaint o’r risg (a’r cyfle) o newid sylweddol. Mae’n gryf o ran capasiti a chost, cydlynu gwasanaethau trawsffiniol, sefydlogrwydd economaidd, llif pobl a nwyddau ar draws ffiniau, a chyllid cyhoeddus. Yn y bôn ni fyddai’n newid sefyllfa ariannol ac economaidd Cymru o fewn economi’r Deyrnas Unedig, gyda’r risg y byddai perfformiad economaidd gwael, incymau isel a thlodi yn parhau.

Cymru mewn DU ffederal

Mewn egwyddor, mae model ffederal ar gyfer y DU yn cynnig ffordd ganol rhwng rhyw fath o undeb parhaus ac annibyniaeth lawn. Mae’n gryf o ran atebolrwydd, sefydlogrwydd, cynaliadwyedd, symud ar draws ffiniau, cyllid a rhagolygon economaidd. Mae hefyd yn wynebu rhwystrau sylfaenol oherwydd ei fod yn dibynnu ar gefnogaeth gan weddill y DU ar gyfer ail-osod cyfansoddiadol sylfaenol. Nid oes llawer o awydd am hyn yn Lloegr ar hyn o bryd, ac mae’n groes i ddyheadau Llywodraeth yr Alban, ac yn yr un modd i’r rheini yng Ngogledd Iwerddon y mae’n well ganddynt ddyfodol y tu allan i’r DU.

Annibyniaeth

Mae Cymru fel gwlad annibynnol yn gryf o ran galluogedd, atebolrwydd, sybsidiaredd (ar lefel genedlaethol) ond dyma’r opsiwn sydd â’r risgiau mwyaf o ran arian cyfred, ffiniau, masnach, cost a chapasiti. Mae’r risgiau hyn yn fwy ar ôl Brexit ond gallant leihau os bydd y DU yn mabwysiadu perthynas agosach â’r UE yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, byddai marchnadoedd ariannol a dibyniaethau eraill yn cyfyngu ar fanteision damcaniaethol galluogedd llawn i bennu ein dyfodol ein hunain.

Dyma’r opsiwn mwyaf ansicr o bell ffordd: gallai annibyniaeth gynnig potensial am newid cadarnhaol hirdymor drwy gael y pwerau i wella’r economi yn sylweddol, ond mae’r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno y gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol yn y tymor byr i ganolig, gyda risgiau mawr o ran cyllid y llywodraeth, arian cyfred a’r ffin.

Ein hasesiad o’r opsiynau

Fe wnaethom gynnal yr asesiad o’r opsiynau cyfansoddiadol mewn ffordd wrthrychol, ar sail y fframwaith dadansoddi a gyhoeddwyd gennym ym mis Mai 2023, a defnyddio hwn gyda phob opsiwn yn gyfartal. Ar y sail hon nid yw’n bosibl adnabod un ‘ateb’ i lywodraethiant Cymru. Mae’r penderfyniad ar yr hyn sydd orau i Gymru yn dibynnu ar werthoedd a dewisiadau. Po fwyaf yw graddfa’r newid, y mwyaf yw’r cyfleoedd a’r risgiau.

Rydym yn dod i’r casgliad bod yr holl opsiynau’n hyfyw, bod i bob un ei gryfderau a’i wendidau, a bod pob un yn cyflwyno cyfleoedd a risgiau. Mae pob un yn cael sgôr uchel ar rai mesurau a sgôr isel ar fesurau eraill. Mae’r ateb a ffefrir yn dibynnu ar y gwerth a roddir ar bob mesur. Mae’n bosibl iawn y bydd barn dinasyddion am yr opsiynau’n newid os bydd newidiadau i gyfansoddiad y DU.

Mae’r dewis o ran pa un o’r tri opsiwn ddylai fod yn nod i Gymru yn y pen draw yn dibynnu ar beth yw’r flaenoriaeth:

  1. sicrhau mwy o reolaeth gan bobl Cymru dros yr ystod ehangaf o feysydd polisi a’r cyfle i ddylanwadu ar ein dyfodol fel cenedl a newid y trywydd economaidd presennol – a derbyn y risg y gallai hyn olygu bod pobl Cymru ar eu colled yn ariannol yn y tymor byr a’r tymor canolig o leiaf, neu
  2. mynd ar drywydd strategaeth risg is, ar sail pa ddiwygiadau bynnag y gellir eu cyflawni’n realistig yn y setliad presennol, ac ar sail y syniad o undod â gweddill poblogaeth y DU. Mae hyn yn tarfu llai ond nid yw’n gwella rhagolygon economaidd cymharol Cymru.

Mae newid radical yn golygu ansicrwydd tymor byr yn ogystal â chyfle tymor hirach. Byddai symud i strwythur ffederal i’r DU, neu Gymru annibynnol, yn galw am refferendwm, neu refferenda, ar ôl trafodaeth helaeth a gwybodaeth i’r cyhoedd. Byddai angen cefnogaeth gweddill y DU ar gyfer strwythur ffederal.

Mae osgoi newid radical yn rhoi mwy o sicrwydd tymor byr ond bydd polisïau economaidd a chymdeithasol yn dal i gael eu pennu gan bolisïau treth a gwariant Llywodraeth y DU, gyda’r risg na fydd newid yn sefyllfa economaidd gymharol Cymru.

Casgliad

Mae ein hargymhellion yn cynnig ymateb blaengar i farn dinasyddion a’r dystiolaeth arall rydym wedi’i chael a’i hystyried dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r dystiolaeth wedi ein harwain at yr argymhellion hyn a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau llywodraethiant Cymru, ac yn arwain at benderfyniadau gwell a chanlyniadau gwell i’w dinasyddion.

Atodiadau

Atodiad 1: aelodau’r comisiwn

Image

Yr Athro Laura McAllister (Cydgadeirydd)

Mae'r Athro Laura McAllister yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae hi’n arbenigwraig ar wleidyddiaeth gyfansoddiadol – ar ddatganoli a gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru yn benodol.

Roedd Laura yn gadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn 2017. Ochr yn ochr â hyn, ar hyn o bryd mae Laura yn Is-lywydd UEFA ac yn aelod o’i Bwyllgor Gwaith.

Y Gwir Barch. a’r Gwir Anrh. Dr Rowan Williams (Cydgadeirydd)

Esgob Mynwy (1992-2002) ac Archesgob Cymru (1999-2002) oedd Dr Rowan Williams, cyn iddo ddod yn Archesgob Caergaint rhwng 2003 a 2012.

Roedd yn Ganghellor Prifysgol De Cymru 2013-2023, ac yn Gadeirydd Cymorth Cristnogol 2013-2021. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar grefydd a materion cymdeithasol.

Dr Anwen Elias

Mae Dr Anwen Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, gan raddio o Brifysgol Caergrawnt a’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, Florence, lle y cwblhaodd ddoethuriaeth yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol, a democratiaeth cydgynghorol.

Mae hi’n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru.

Mae wedi bod yn Gymrawd Gwadd yn Universitat Pompeu Fabra, Catalonia a’r Universidade de Santiago de Compostela, Galicia.

Miguela Gonzalez

Mae Miguela Gonzalez yn ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant ac yn gyn newyddiadurwr. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Abcam, cwmni gwyddorau bywyd byd-eang, lle mae’n gweithio i greu diwylliant agored a chynhwysol. Cyn hyn, bu’n gweithio yn y cyfryngau am 15 mlynedd, yn bennaf fel newyddiadurwr gyda’r BBC, ond hefyd mewn rolau sy’n ymwneud â dadansoddi data, rheoli prosiectau, ac arbenigedd pynciau.

Fel Arweinydd Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda thîm Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu yn y BBC, fe gynlluniodd ymgynghoriad helaeth, gan reoli a gweithredu’r prosiect hwnnw a arweiniodd at weithredu strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant dair blynedd bresennol y darlledwr.

Mae Miguela wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi’r prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru ar waith, a hefyd bu’n ddarlithydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd ar fwrdd ymddiriedolwyr Shelter Cymru a National Theatre Wales.

Oherwydd ei phrofiad helaeth mewn rolau allweddol ar draws gwahanol bwyllgorau, timau a phrosiectau, gan gynnwys cronfeydd arloesi, cyrff llywodraethu ysgolion, gosodiadau celf, a gwyliau cerddorol, mae’n dod â dealltwriaeth a syniadau creadigol ac amrywiol i waith y Comisiwn.

Yr Athro Syr Michael Marmot

Mae Syr Michael Marmot wedi bod yn Athro Epidemioleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ers 1985 ac mae'n Gyfarwyddwr Sefydliad Tegwch Iechyd UCL. Ef yw awdur The Health Gap: the challenge of an unequal world (Bloomsbury: 2015), a Status Syndrome: (Bloomsbury: 2004).

Mae’r Athro Marmot yn Gynghorydd ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd i Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, yn Is-adran newydd y Sefydliad ar gyfer Poblogaethau Iachach; ac mae’n Athro Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Tsieineaidd Hong Kong (2019-) ac yn Gyd-gyfarwyddwr y CUHK Institute of Health Equity. Mae wedi derbyn Global Hero Award Sefydliad Iechyd y Byd; Proffesoriaeth Lown Harvard (2014-2017); Gwobr y Tywysog Mahidol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd (2015); ac 19 o ddoethuriaethau anrhydeddus.

Mae wedi bod yn arwain grwpiau sy’n ymchwilio i anghydraddoldebau iechyd ers bron i 50 mlynedd. Cadeiriodd Gomisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar Benderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, nifer o Gomisiynau Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd, ac adolygiadau ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd i lywodraethau yn y DU.

Gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn 2010-2011, ac fel Llywydd Cymdeithas Feddygol y Byd (World Medical Association) yn 2015. Ef hefyd yw Llywydd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Mae’n Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymarawd Anrhydeddus yn yr American College of Epidemiology a’r Faculty of Public Health ; yn Gymrawd Anrhydeddus yr Academi Prydeinig; ac o Golegau Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg, Seiciatreg, Pediatreg ac Iechyd Plant, ac Ymarferwyr Cyffredinol. Mae'n aelod etholedig o National Academy of Medicine yr Unol Daleithiau ac Academy of Medicine, Brasil.

Bu’n aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol am chwe blynedd, ac yn 2000 cafodd ei urddo’n farchog gan Ei Mawrhydi y Frenhines am wasanaethau i epidemioleg a’r ddealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd.

Philip Rycroft

Bu Philip Rycroft yn was sifil am 30 o flynyddoedd. Bu’n gweithio ar lefel uwch i’r llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban cyn symud i Swyddfa’r Cabinet yn Llundain, lle bu’n arwain gwaith y gwasanaeth sifil ar y cyfansoddiad a datganoli i Lywodraeth y DU. Ei swydd ddiwethaf oedd Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Ymadael â’r UE.

Mae bellach yn gyfarwyddwr anweithredol, yn ymgynghorydd, ac yn academydd ym Mhrifysgol Caeredin a’r Bennett Institute for Public Policy ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Lauren McEvatt

Mae Lauren McEvatt yn gyn Gynghorydd Arbennig Ceidwadol i Lywodraeth y DU yn Swyddfa Cymru, lle bu’n gweithio o dan arweinyddiaeth David Jones AS ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Yn ystod ei thymor o wasanaeth, bu’n drafftio ac yn cyflwyno cyfraniad Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk, yn ogystal â chamau drafftio a chamau cychwynnol Deddf Cymru 2014.

Ar ôl hynny, bu’n gweithio i nifer o lywodraethau ar draws Dwyrain Affrica a’r Caribî, gan gynnwys llywodraeth un o Diriogaethau Tramor Prydain, lle’r oedd ei chefndir mewn datganoli yn ddefnyddiol dro ar ôl tro, wrth iddi gynorthwyo negodiadau ynglŷn â diwygio cyfansoddiad Tiriogaeth Dramor Prydain, a masnach a buddsoddi ar draws swyddfeydd llywodraeth datganoledig a chenedlaethol mewn gwlad yn Nwyrain Affrica.

Cafodd ei geni yn Lloegr i rieni o Iwerddon ac America, a chafodd ei magu yn Hong Kong. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio mewn materion llywodraeth rhyngwladol sy’n cynnwys cysylltiadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat â sefydliadau amlochrog a sefydliadau datblygu.

Mae’n astudio o bell ar gyfer MA mewn Diplomyddiaeth Fyd-eang yn SOAS, lle bydd pwnc arfaethedig ei thesis yn ymwneud â chynrychiolaeth gwladwriaethau is-genedlaethol/gweinyddiaethau datganoledig mewn sefydliadau amlochrog.

Albert Owen

Bu Albert Owen yn Aelod o Senedd y DU am bum tymor seneddol, ar ôl cael ei ethol i gynrychioli ei etholaeth gartref, Ynys Môn. Tra’n Aelod o Senedd y DU dros Ynys Môn, bu’n eiriolwr dros yr etholaeth a Chymru ar amrywiaeth o faterion gwleidyddol, diwydiannol, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae ganddo brofiad helaeth ac amrywiol sy’n cynnwys materion Cymreig, ynni, datblygu rhyngwladol, a gweithdrefnau drwy ei aelodaeth o bwyllgorau dethol a Grwpiau Hollbleidiol Seneddol, a gwasanaethu ar Banel Cadeiryddion y Llefarydd. Fel Aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd, Tŷ’r Cyffredin, roedd yn un o’r cyntaf i gefnogi’r syniad o gynnwys grwpiau diddordeb, sefydliadau, a’r cyhoedd yn y gwaith o graffu cyn y broses ddeddfu, er mwyn helpu i lunio deddfwriaeth y llywodraeth.

Tra’n Aelod o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn datganoli, trafnidiaeth, a materion ynni.

Mae ei ddiddordebau’n cynnwys hanes morol a hanes Cymru, cyflawni ei rôl fel noddwr yr Amgueddfa Forol leol ac Is-lywydd yr RNLI. Mae’n mwynhau cerdded ar yr arfordir, teithio, darllen, coginio, a gwylio chwaraeon.

Shavanah Taj

Shavanah Taj yw Ysgrifennydd Cyffredinol BME cyntaf TUC Cymru. Ymunodd â TUC Cymru ym mis Chwefror 2019 o Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), lle bu’n Ysgrifennydd Cymru ers 2013. Hyfforddodd Shavanah ag Oranising Academy y TUC yn 2002.

Cyn ymuno â’r PCS fel swyddog amser llawn yn 2002, bu Shavanah yn gweithio ym maes manwerthu, ac mewn canolfannau galwadau a’r trydydd sector.

Mae Shavanah yn ymgyrchydd brwd ac yn ymgyrchu dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hi’n aelod bwrdd ar gyfer nifer o elusennau, gan gynnwys Sefydliad Bevan a People's Health Trust, ac yn Gadeirydd Women Connect First. Mae Shavanah yn eiriolwr amlwg dros hawliau gweithwyr ac yn ymddangos yn aml ar Deledu ac yn y Cyfryngau, yn rhoi cyngor a thystiolaeth i Bwyllgorau a Gweinidogion Cymru, ac yn cyfrannu areithiau mewn dadleuon bord gron a gorymdeithiau protest. Mae ei phrif feysydd arbenigedd yn cynnwys cyflogau isel, camfanteisio ar weithwyr, gwrth-hiliaeth, hawliau dynol, hawliau menywod a chyfiawnder hinsawdd.

Kirsty Williams

Gwasanaethodd Kirsty Williams yn y Senedd am 22 o flynyddoedd, a chyn hynny bu’n aelod o’r Grŵp Cynghori ar y Cynulliad Cenedlaethol a benodwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd i roi cyngor ar sefydlu sefydliad datganoledig newydd. Yn 2008, cafodd ei hethol yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y fenyw gyntaf i arwain un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.

Rhwng 2016 a 2021, hi oedd y Gweinidog Addysg, yn arwain cenhadaeth i ddiwygio addysg genedlaethol. Fe wnaeth ymddeol o wleidyddiaeth reng-flaen ym mis Mai 2021, ac mae bellach yn cadeirio Bwrdd Cynghori’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, y rhaglen yng Nghymru sydd wedi cymryd lle Erasmus+.

Mae’n byw ar fferm y teulu yng nghanol Bannau Brycheiniog, ac mae’n wirfoddolwr brwdfrydig yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen.

Leanne Wood

Mae gan Leanne Wood dros bum mlynedd ar hugain o brofiad fel gweithredydd gwleidyddol. Mae hi wedi dal sawl rôl mewn bywyd gwleidyddol gan gynnwys cynghorydd lleol, AS dros y Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru. Hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli'r Rhondda a'r fenyw gyntaf i arwain Plaid Cymru. Mae hi’n Gyd-gyfarwyddwr gweithredol Ynni Cymunedol Cymru ac yn llysgennad y Cerddwyr.

Mae Leanne wedi hyrwyddo llawer o faterion cymdeithasol ac economaidd amrywiol ac mae'n benderfynol o weithio i sicrhau, beth bynnag yw dyfodol cyfansoddiadol Cymru, bod y rheini sy'n cael trafferthion a'r rheini sydd ar y cyrion yn cael cyfle i weld gwelliannau gwirioneddol yn eu bywydau.

Atodiad 2: amcanion cyffredinol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Amcanion

Mae gan y Comisiwn ddau amcan cyffredinol:

  • Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni
  • Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth yng Nghymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Arferion gweithio

Bydd y Comisiwn yn cael ei gydgadeirio gan yr Athro Laura McAllister a’r Dr Rowan Williams. Gan gynnwys y Cydgadeiryddion, bydd gan y Comisiwn 11 o aelodau a fydd yn cwmpasu ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol a rhannau o gymdeithas Cymru. Bydd Ysgrifenyddiaeth a phanel arbenigol yn cefnogi gwaith y Comisiwn.

Wrth gyflawni ei waith, dylai’r Comisiwn ddatblygu rhaglen ymgysylltu cynhwysol gyda chymdeithas sifil a’r cyhoedd yng Nghymru er mwyn ysgogi sgwrs genedlaethol; a chomisiynu gwaith ymchwil, dadansoddi a barn arbenigol drwy banel arbenigol a sefydlir at y diben hwnnw.

Amserlen

Dylai’r Comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd 2022.

Dylai lunio adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023.

Atodiad 3: gwariant y comisiwn (1 Awst 2021 - 31 Hydref 2023)

Costau Staff yr Ysgrifenyddiaeth£815,850
Costau’r Comisiynwyr£102,288
Costau’r Panel Arbenigol£38,291
Ymchwil, Ymgysylltu a Digwyddiadau£550,948
Cyfanswm£1,507,377

Atodiad 4: cyfarfodydd y comisiwn

2021

25 Tachwedd 2021 - Cyfarfod busnes
9 Rhagfyr 2021 - Gweithdy cyd-destun cyfansoddiadol

2022

12 Ionawr 2022 - Gweithdy ymgysylltu
19 Ionawr 2022 - Cyfarfod tystiolaeth a busnes

16 Chwefror 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

7 Mawrth 2022 - Gweithdy ymgysylltu
16 Mawrth 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

26 Ebrill 2022 - Cyfarfod busnes
27 Ebrill 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

5 Mai 2022 - Cyfarfod wyneb yn wyneb
24 Mai 2022 - Cyfarfod tystiolaeth
25 Mai 2022 - Gweithdy cyd-destun cyllidol

9 Mehefin 2022 - Cyfarfod busnes
22 Mehefin 2022 - Cyfarfod tystiolaeth
28 Mehefin 2022 - Cyfarfod busnes

15 Gorffennaf 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

7 Medi 2022 - Cyfarfod busnes
20 Medi 2022 - Cyfarfod tystiolaeth
27 Medi 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

6 Hydref 2022 - Cyfarfod wyneb yn wyneb
12 Hydref 2022 - Cyfarfod tystiolaeth
18 Hydref 2022 - Gweithdy ymchwil ac arolygon barn
18 Hydref 2022 - Cyfarfod tystiolaeth
20 Hydref 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

8 Tachwedd 2022 - Cyfarfod busnes

6 December 2022 - Cyfarfod busnes
7 Rhagfyr 2022 - Cyfarfod tystiolaeth

2023

9 Ionawr 2023 - Cyfarfod busnes
9 Ionawr 2023 - Cyfarfod tystiolaeth

7 Chwefror 2023 - Cyfarfod busnes
14 Chwefror 2023 - Gweithdy cyfansoddiadol

7 Mawrth 2023 - Cyfarfod busnes
21 Mawrth 2023 - Gweithdy cyllidol

18 Ebrill 2023 - Cyfarfod busnes
25 Ebrill 2023 - Cyfarfod tystiolaeth

16 Mai 2023 - Cyfarfod busnes
25 Mai 2023 - Cyfarfod tystiolaeth

6 Mehefin 2023 - Cyfarfod busnes
22 Mehefin 2023 - Gweithdy democratiaeth fwriadol

6 Gorffennaf 2023 - Cyfarfod busnes
20 Gorffennaf 2023 - Cyfarfod tystiolaeth

7 Medi 2023 - Cyfarfod tystiolaeth
12 Medi 2023 - Cyfarfod busnes
28 Medi 2023 - Cyfarfod tystiolaeth

19 Hydref 2023 - Cyfarfod busnes
26 Hydref 2023 - Cyfarfod busnes

7 Tachwedd 2023 - Cyfarfod busnes
23 Tachwedd 2023 - Cyfarfod busnes

14 Rhagfyr 2023 - Cyfarfod busnes

Atodiad 5: cyfranogwyr mewn gweithdai a sesiynau tystiolaeth

Cyfranogwyr mewn sesiynau tystiolaeth (gan gynnwys is-grwpiau)

  • Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru
  • Angus Robertson, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant, Llywodraeth yr Alban
  • Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Andy Burnham, Maer Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf
  • Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
  • Anthony Slaughter, Arweinydd Plaid Werdd Cymru
  • CBI Cymru
  • Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM Cymru
  • Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru
  • Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru
  • Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Arweinwyr a Swyddogion Gwleidyddol
  • Dafydd Iwan, ymgyrchydd iaith, cerddor, a chyn-Lywydd Plaid Cymru
  • Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
  • Darren Millar AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru, Ceidwadwyr Cymreig
  • David Hughes, Cyfraith Gyhoeddus Cymru
  • David McNeill, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Democracy Box
  • Dr Christoph Niessen, Prifysgol Leiden
  • Dr Lisa Claire Whitten, Prifysgol Queen's Belfast
  • Dr Matt Wall, Prifysgol Abertawe
  • Dr Oliver Escobar, Prifysgol Caeredin
  • Dr Robert Jones, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Victoria Winkler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Dylan Moore Sefydliad Materion Cymreig
  • Elin Jones AS, Llywydd Senedd Cymru
  • Enrique Uribe Jongbloed, Prifysgol Caerdydd
  • Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cymru
  • Fforwm Hil Cymru
  • Gethin Jones, PCS (Carchardai)
  • Gwenith Price, Comisiynydd Dros Dro y Gymraeg
  • Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr, Yes Cymru
  • Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol (a swyddogion cefnogol)
  • Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (a swyddogion cefnogol)
  • Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Plismona yng Nghymru
  • Joe Allen, TUC Cymru
  • Jonathan Davies, Pennaeth Cymru, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Joshua Hurst, Cynghorydd Materion Cyhoeddus a Polisi, Cymdeithas y Gyfreithwyr
  • Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (a swyddogion cefnogol)
  • Liz Withers, Pennaeth Materion Cymreig, Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
  • Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
  • Mae Bywydau Du o Bwys Cymru
  • Mark Barry, Athro Ymarfer mewn Cysylltedd, Prifysgol Caerdydd
  • Mark Davies, Cadeirydd, Bwrdd Cenedlaethol Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru
  • Mel Doel, Cyd-gadeirydd Panel Arbenigwyr Darlledu Llywodraeth Cymru
  • Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru
  • Neil O’Brien AS, y Gweinidog Ffyniant Bro, yr Undeb a’r Cyfansoddiad, llywodraeth y DU
  • Nicky Ryan, Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr
  • Nisreen Mansour, TUC Cymru
  • Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Rhodri Williams CB
  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
  • Sarah Rigby, Cymdeithas y Swyddogion Carchar
  • Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cymru
  • Siambrau Cymru
  • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Su McConnel, Is-gadeirydd, NAPO Cymru
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Syr David Lidington
  • Syr Paul Silk, aelod o'r Constitution Reform Group, a chyn-Gadeirydd Comisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru
  • Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Voices From Care Cymru
  • Y Comisiwn Annibyniaeth, Plaid Cymru
  • Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd
  • Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
  • Y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
  • Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Paul Murphy
  • Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown
  • Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
  • Y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol
  • Y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Y Gwir Anrhydeddus yr Athro Carwyn Jones
  • Yes Cymru
  • Young Carers Academy
  • Yr Arglwydd Dunlop
  • Yr Arglwydd Neuberger
  • Y Arglwydd Peter Hain, aelod o’r Constitution Reform Group, a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd
  • Yr Athro David Phinnemore, Prifysgol Queen's Belfast
  • Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyd-gadeirydd Panel Arbenigol Darlledu Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddyfodol Datganoli a Gwaith yng Nghymru
  • Yr Athro Jim Gallagher
  • Yr Athro John Denham
  • Yr Athro Mererid Hopwood, Cadeirydd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth

Cyfranogwyr mewn gweithdai arbenigol

  • Adam McDonnell, YouGov
  • Akash Paun, y Sefydliad Llywodraeth, a Phanel Arbenigol
  • Alan Renwick, Coleg Prifysgol Llundain
  • Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, a Phanel Arbenigol
  • Cian Sion, Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • David Melding CBE
  • David Phillips, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Dr Christoph Niessen, Prifysgol Leiden
  • Dr Matt Wall, Prifysgol Abertawe
  • Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Gareth Williams, y Panel Arbenigol
  • Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Hugh Rawlings, y Panel Arbenigol
  • Jac Larner, Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Jane Wallace, Pennaeth Materion Cyhoeddus, Which
  • Jerry Latter, YouGov
  • Jess Blair, ERS Cymru, a Phanel Arbenigol
  • Jill Rutter, National Conversation on Immigration
  • Katie Alpin, Pennaeth Gwybodaeth Strategol, Which
  • Mairi Spowage, Cyfarwyddwr, Fraser of Allender Institute, Prifysgol Strathclyde, a Phanel Arbenigol
  • Nicholas Duffin, Cymrawd, The Consultation Institute
  • Noreen Blanluet, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu
  • Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Sophie Beesley, Dadansoddwr Data Ymchwil, Which
  • Stephen Noon, Prifysgol Caeredin
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru sydd ag arbenigedd mewn meysydd arbenigol
  • Syr Paul Silk, Constitutional Reform Group
  • Yr Athro Aileen McHarg, Prifysgol Durham
  • Yr Athro Diana Stirbu, Prifysgol Metropolitan Llundain, a Phanel Arbenigol
  • Yr Athro Erin F. Delaney, Prifysgol Northwestern, Chicago ac Athro Gwadd Nodedig yng Nghyfadran y Gyfraith UCL
  • Yr Athro John Doyle, Prifysgol Dinas Dulyn
  • Yr Athro Meg Russell, Yr Uned Gyfansoddiadol, Coleg Prifysgol Llundain
  • Yr Athro Oliver Escobar, Prifysgol Caeredin
  • Yr Athro Rick Rawlings, Coleg Prifysgol Llundain

Atodiad 6: tystiolaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd gan sefydliadau

  • Addysg Oedolion Cymru, (a gyflwynodd ymateb a oedd yn crynhoi trafodaethau yn ei fforymau rhanbarthol a 42 ymateb gan ddysgwyr unigol)
  • Anti*Capitalist Resistance, gyda chefnogaeth y Socialist Resistance ac Ecosocialist.scot
  • Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • ASLEF
  • Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
  • Cangen Mynwy o Blaid Cymru
  • Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth
  • Climate Cymru
  • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCC) (Jeff Cuthbert, PCC Gwent, Dafydd Llywelyn, PCC Dyfed Powys, Andy Dunbobbin, PCC Gogledd Cymru, Alun Michael, PCC De Cymru)
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol
  • Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru
  • Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
  • Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru
  • Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr
  • Cytûn
  • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
  • Eglwys Bresbyteraidd Cymru
  • Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Grŵp Undeb Cyfiawnder Cymru
  • Gwlad -Plaid Annibyniaeth Cymru
  • Llafur dros Gymru Annibynnol
  • Llywodraeth Cymru, (mewn ymateb i geisiadau’r Comisiwn)
  • Llywodraeth y DU, (mewn ymateb i geisiadau’r Comisiwn)
  • Make UK
  • Melin Drafod
  • Network Rail
  • Plaid Cymru
  • Plaid Sofren
  • Plaid Werdd Cymru
  • RMT
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
  • Sefydliad Bevan
  • Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Undod Chwith Cymru
  • Unsain
  • Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol
  • Y Sefydliad Materion Cymreig
  • Ynni Cymunedol Cymru
  • Ystad y Goron

Atodiad 7: llais y dinesydd

Mae’r digwyddiadau ymgysylltu canlynol yn ychwanegol at ein hymgysylltiad drwy sesiynau tystiolaeth, is-grwpiau a chyfarfodydd eraill. Mae’r digwyddiadau hefyd yn ychwanegol at ymgysylltiad y Comisiwn drwy ein platfformau ar-lein. Mae’r rhestr hon yn disgrifio sut yr aethom i gymunedau ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt i gwrdd â phobl yn eu hardaloedd lleol nhw.

Sesiynau Grŵp Ffocws

Nifer y sesiynau grŵp ffocws: 16

Lleoliadau:

  • Caerdydd
  • Ceredigion
  • Gwynedd
  • Sir Fynwy
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Wrecsam

Sioe deithiol o ddigwyddiadau ymgysylltu mewn lleoliadau cyhoeddus

Nifer y digwyddiadau ymgysylltu mewn lleoliadau cyhoeddus: 24

Lleoliadau:

  • Sioe Môn, Ynys Môn
  • Glynebwy, Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Coed-duon, Caerffili
  • Butetown, Caerdydd
  • Gabalfa, Caerdydd
  • Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
  • Aberystwyth, Ceredigion
  • Bae Colwyn, Conwy
  • Marchnad yr Wyddgrug, Sir Ddinbych
  • Prestatyn, Sir y Fflint
  • Bangor, Gwynedd
  • Merthyr, Merthyr Tudful
  • Gŵyl Fwyd y Fenni, Sir Fynwy
  • Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd, Casnewydd
  • Hwlffordd, Sir Benfro
  • Y Drenewydd, Powys
  • Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, Powys
  • Aberdâr, Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe, Abertawe
  • Cwmbrân, Torfaen
  • Y Barri, Bro Morgannwg
  • Wrecsam, Wrecsam

Digwyddiadau ymgysylltu’r Comisiwn

Nifer digwyddiadau ymgysylltu’r comisiwn a oedd yn hygyrch i’r cyhoedd: 8

Lleoliadau:

  • Sioe Frenhinol Cymru
  • Yr Eisteddfod Genedlaethol (2022 a 2023)
  • Eisteddfod yr Urdd
  • Sesiynau holi ac ateb byw ar-lein am ddim
  • Gŵyl y Gelli
  • Cymuned Tregroes

Presenoldeb mewn cynadleddau

Nifer y cynadleddau a fynychwyd: 8

Rhestr o drefnwyr cynadleddau:

  • Cyfarfod Bord Gron IfG
  • Cynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr
  • Cynhadledd wanwyn y Blaid Lafur
  • Cynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol
  • Cynhadledd wanwyn Plaid Cymru
  • Cynhadledd flynyddol Sefydliad y Merched 2023
  • Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru
  • Cynulliad Merched Cymru

Ymgysylltu â grwpiau o sefydliadau (yn ogystal â’r rheini a restrir yn Atodiad 6)

Nifer y sefydliadau: 11

Rhestr o sefydliadau:

  • Fforwm Ieuenctid Conwy
  • Democracy Box
  • Tŷ’r Cyffredin
  • Tŷ’r Arglwyddi
  • Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro
  • Senedd Cymru
  • The Talking Shop
  • Theatr Ieuenctid yr Urdd
  • Senedd Ieuenctid Cymru
  • Pob awdurdod lleol drwy ymgysylltu ar y cyd â CLlLC
  • CFfI Cymru

Ymgysylltu wedi’i ariannu

Derbynwyr y Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned:

  • Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (AWF) (Cymru Gyfan)
  • ArtsFactory a Rhoi Pobl yn Gyntaf Cwm Taf (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent)
  • Autistic Minds (Caerffili a De Cymru)
  • Community Impact Initiative CIC (Castell-nedd Port Talbot a De Cymru)
  • Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA) a Cymru Egnïol, a gefnogir gan Age Cymru (ar draws Cymru)
  • Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru (Gogledd Cymru)
  • Race Council Cymru, Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru a Chyngor Cymuned Affricanaidd (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot)
  • MAD Abertawe (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot)
  • Tai Pawb a Home4U (Caerdydd)
  • Voices from Care Cymru (ar draws Cymru)
  • Letters Grow, mewn cydweithrediad â Chymunedau Adfer Gogledd Cymru (Gogledd Cymru)

Atodiad 8: aelodau'r panel arbenigol

  • Gareth Williams (Cadeirydd) – Cyn-gynghorydd Arbennig Llywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • Yr Athro Diana Stirbu – Yr Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Metropolitan Llundain
  • Jess Blair – Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
  • Yr Athro Emyr Lewis – Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Auriol Miller – Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
  • Akash Paun – Pennaeth Rhaglen Ddatganoli Institute for Government
  • Dr Hugh Rawlings – Cyn-gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Mairi Spowage – Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Fraser of Allander Institute

Atodiad 9: rhestr termau

Annibynnol / annibyniaeth

Gwladwriaeth sy’n cael ei chydnabod gan aelodau eraill o’r gymuned ryngwladol fel un sy’n annibynnol yn wleidyddol, ac sydd felly’n gymwys i ymuno â sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig neu’r Undeb Ewropeaidd fel aelod llawn.

Confensiwn Sewel

Y confensiwn, sydd bellach wedi’i godeiddio yn Adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, na ddylai San Steffan ddeddfu fel arfer ar faterion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig neu sy’n newid cwmpas cymhwysedd datganoledig heb gydsyniad Senedd Cymru. Mae’r confensiwn hwn – y mae’r Goruchaf Lys wedi dweud nad oes modd ei orfodi’n gyfreithiol – wedi cael ei danseilio gan Senedd y DU wrth iddi anwybyddu'r ffaith y gwrthodwyd cydsyniad nifer o weithiau ers 2018 hyd yn oed pan nad oes dadlau nad yw Sewel yn berthnasol, ar ôl cael ei barchu gan Lywodraethau San Steffan yn y gorffennol.

Datganoli Anghymesur

Trefniadau cyfansoddiadol o fewn gwladwriaeth sofran lle mae gan rai o’r rhanbarthau neu'r cenhedloedd cyfansoddol sefydliadau gwleidyddol a deddfwriaethol penodol nad ydynt yn gyffredin i rannau eraill o’r wladwriaeth. Sbaen a’r DU yw’r ddwy enghraifft amlycaf o’r math hwn o drefniant. Yn y DU, oherwydd athrawiaeth sofraniaeth Seneddol, natur amodol sydd i ddatganoli hefyd mewn un ystyr, gan na allai unrhyw beth atal mwyafrif Seneddol rhag ailysgrifennu'r statudau datganoli yn sylfaenol.

Ffederal / ffederasiwn

Trefniadau o fewn gwladwriaeth sofran sy’n dosbarthu pwerau cyfreithiol a gwleidyddol rhwng llywodraeth ffederal a nifer o ranbarthau neu ‘wladwriaethau’ cyfansoddol, a lle mae’r broses o ddosbarthu pwerau wedi’i datgan mewn cyfansoddiad neu gyfraith sylfaenol lle mae’n rhaid bodloni trothwyon cyfansoddiadol arbennig er mwyn ei diwygio. Fel arfer, ond nid bob tro, mae gan yr holl ‘wladwriaethau’ yr un pwerau, ac maent yn cael eu cynrychioli yn y strwythurau llywodraethu sefydliadol ar y lefel ffederal. Mae Unol Daleithiau America, yr Almaen, Canada, Awstralia ac ati yn enghreifftiau o wladwriaethau ffederal.

Sofran

Gwladwriaeth neu’r awdurdod gwleidyddol o fewn y wladwriaeth sydd ag awtonomi llawn i benderfynu ar ei bolisïau a’i ddeddfwriaethau ei hun, ac sydd ond yn ddarostyngedig i aelodaeth o sefydliadau cydwladol neu ryngwladol y gallai (mewn theori o leiaf) ddewis eu gadael (fel y mae’r DU wedi’i wneud gyda’r Undeb Ewropeaidd). Yn ymarferol wrth gwrs, mae penderfyniadau ac agweddau gwladwriaethau a chyfranogwyr rhyngwladol eraill yn cyfyngu ar sofraniaeth, a adlewyrchir yn natblygiad yr economi fyd-eang, yr heriau amgylcheddol, a’r sefyllfa geowleidyddol ehangach.

Ymreolaeth / Datganoli Cyflawn (‘Devo Max’)

Setliad cyfansoddiadol lle mae pob polisi ‘mewnol’ wedi’i ddatganoli, a dim ond materion tramor, amddiffyn, diogelwch a pholisi macro-economaidd sy’n cael eu cadw ar y lefel ‘ffederal’.

Atodiad 10: llyfryddiaeth

Erthyglau, adroddiadau a chyhoeddiadau

Henderson, A., Wyn Jones, R., (2023), Public attitudes towards the constitutional future of the UK: Analysis from the 2023 State of the Union Survey, Wales Governance Centre and University of Edinburgh

Henderson, A., Jones, R.W. (2023) The Ambivalent Union: Findings from the State of the Union Survey, Institute for Public Policy, London

Blunt, A. (2023) Gathering public views on potential options for Wales’s constitutional future: Stage 1 Findings, Summary and Project Progress, Beaufort Research

Blunt, A. (2023) Gathering public views on potential options for Wales’s constitutional future: Quantitative survey findings summary, Beaufort Research

Blunt, A. (2023) Gathering public views on potential options for Wales’s constitutional future: Qualitative online stage engagement feedback, Beaufort Research 

Blunt, A. (2023) Concluding deliberative qualitative research findings: views on the Commission’s three preferred options for Wales, Beaufort Research

Valgardsson, V., Ryan, M., Jennings, W., Downe, J., Notman, G. (2023) Defining, Measuring, and Monitoring Democratic Health in Wales, Wales Centre for Public Policy

Moore, D. (2023), Building Bridges: Wales’ Democracy – now, and for our future, Institute of Welsh Affairs

Nabatchi, T. & Leighninger, M. (2015). Public participation for 21st century democracy. Hoboken, NJ: John Wiley & Sons

OECD (2020), Innovative Citizen Participation and New Democratic Institutions: Catching the Deliberative Wave, OECD Publishing, Paris

Clemence, M., Skinner, G., (2023) The economy and inflation remain the country’s biggest concerns, closely followed by the NHS, Ipsos Issues Index October 2023

Elstub, Stephen and Escobar, O. (2019) ‘Defining and typologising democratic innovations’, in S. Elstub and O. Escobar (eds) Handbook of Democratic Innovation and Governance. Cheltenham: Edward Elgar

Cynnal Cymru – Sustain Wales (n.d.) Blaenau Gwent Climate Assembly [accessed November 2023]

Moore, D., Seargeant, P., Smith, D., (2022) Citizens’ Voices, People’s News: Making the Media Work for Wales, institute of Welsh Affairs, Cardiff

Willams, E., St. Denny, E., Bristow, D. (2017) Participatory Budgeting: an evidence review, Public Policy Institute for Wales

Elias, A. & Wood, J. (2023) How to Have a National Conversation on Wales’s Constitutional Future: Discussion paper presented to the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales Centre for Welsh Politics and Society, Aberystwyth University

Stirbu, D. (2021) Power, Influence and Impact of Senedd Committees: Developing a framework for measuring committees’ effectiveness, London Metropolitan University

Lilly, A., White, H., Shepley, P., Sargeant, J., Osei, K., Olajugba, S., (2021)  Parliamentary Monitor 2021, Institute for Government

Lilly, A. (15 May 2023) The Slow Death of Parliamentary Scrutiny, The House, [accessed November 2023]

Bunn, D. (2022) International Tax Competitiveness Index 2022, Centre for Global Tax Policy, Tax Foundation, Washington DC

Clarke, D., (12 September 2023) Number of public sector employees in the civil service UK 1999-2023, Statista.com, [accessed November 2023]

Hayward, K., McEwan, N. (2023) Wales and its Borders: The implications of independence for managing Wales’ land and sea borders, report commissioned by Plaid Cymru and shared with the commission

Ifan, G. Siôn, C and Wincott, D. (2023) Devolution, Independence and Wales’ Fiscal Deficit, National Institute Economic Review, Cambridge University Press

Doyle, J. (2023) The “Fiscal Deficit” in Wales: why it does not represent an accurate picture of the opening public finances of an Independent Wales, Dublin City University

Komorowski, M., Moore, D. (2022) Broadcasting Regulation in Wales: Part 1, institute of Welsh Affairs, Cardiff

Komorowski, M., Moore, D., Uribe-Jongbloed, E., (2023) Broadcasting Regulation in Wales: Part 2 and 3, Institute of Welsh Affairs, Cardiff

Jenkins, J. (due to be published 2023) Future of Devolution and Work Commission, TUC Commission on Devolution and Work

Cooke, K., Iredale, R., Williams. R., Wooding, N. (2019) Measuring the Mountain: What Really Matters in Social Care to Individuals in Wales. University of South Wales, Pontypridd

Hayward, W., (21 October 2023) The Powers People Think Westminster Should Give to Wales, Wales Online, [accessed November 2023]

McHarg, A. (2023) The contested boundaries of devolved legislative competence: Securing better devolution settlements, Bennett Institute for Public Policy, Cambridge, and Institute for Government, London

Cyhoeddiadau'r Llywodraeth a'r Senedd

Senedd Cymru (2019) Our First Citizens Assembly Senedd Now [accessed November 2023]

Newport City Council, (n.d.) Participatory budgeting 2022/23 programme [accessed November 2023]

Civil Service Local (n.d.) Cymru Wales, Civil Service Local Blog [accessed November 2023]

Auditor General for Scotland (2022) Social security: Progress on implementing the devolved benefits, Audit Scotland, Edinburgh

House of Commons Levelling Up, Housing and Communities Committee (2023) Funding for Levelling Up: Sixth Report of Session 2022-23, House of Commons Levelling Up, Housing and Communities Committee Report

House of Lords, Common Frameworks Scrutiny Committee (2022) Common frameworks: an unfulfilled opportunity? 1st Report of Session 2022–23

Welsh Government, (2023) Inter-Institutional relations agreement between the Senedd and the Welsh Government: report on intergovernmental relations covering the period 2021 to 2023

Transport for Wales (2023) Business Plan 2022/23

Doel, M., Jones, E.H.G. (co-chairs) (2023) A new future for broadcasting and communications in Wales: Report of the Expert Panel on a Shadow Broadcasting and Communications Authority for Wales, Welsh Government

Culture, Welsh Language and Communications Committee (2021) Exploring the devolution of broadcasting: How can Wales get the media it needs? Culture, Welsh Language and Communications Committee report, Senedd Cymru

House of Commons Welsh Affairs Committee (2023) Broadcasting in Wales, Welsh Affairs Committee report, Fifth Report of Session 2022–23

Lord Dunlop, (2019) Review of UK Government Union Capacity, the Dunlop Review

Letter from Rt Hon Michael Gove MP, Chancellor of the Duchy of Lancaster, to Lord Dunlop in response to the findings of the Dunlop Review, 24 March 2021

Department for Levelling Up, Housing and Communities, (2022) Review of Inter-governmental Relations, Cabinet Office

Comisiynau y cyfeirir atynt

Holtham, G. chair (2010) Fairness and accountability: a new funding settlement for Wales, The Independent Commission on Funding & Finance for Wales, House of Commons Library, London

Lord Thomas of Cwmgiedd, chair (2019), Justice in Wales for the People of Wales, The Commission on Justice in Wales, Welsh Government, Cardiff

Silk, P. chair (2012) Empowerment and Responsibility: Financial Powers to Strengthen Wales, The Silk Commission Report No. 1, The National Archives, Kew

Silk, P. chair (2014) Empowerment and Responsibility: Legislative Powers to Strengthen Wales, the Silk Commission Report No. 2, The National Archives, Kew

Lord Smith of Kelvin, Chair (2014) Report of the Smith Commission for further devolution of powers to the Scottish Parliament, The Smith Commission, The National Archives, Kew

Deddfwriaeth y cyfeirir ati

Welsh Senedd/ National Assembly for Wales legislation

The Senedd Cymru (Members and Elections) Bill 2023 and Explanatory Memorandum

Wellbeing of Future Generations Act 2015

UK Parliament legislation

Act of the Union Draft Bill [House of Lords] 2018

Government of Wales Act 2006

Wales Act 2014

Wales Act 2017

Energy Act 2023

Broadcasting Act 1996

Communications Act 2003

Scotland Act 2016

The European Union (Withdrawal) Act 2018

The European Union (Withdrawal) Act 2020

United Kingdom Internal Market Act 2020

Subsidy Control Act 2022

Fixed-Term Parliament Act 2011

Dissolution and Calling of Parliament Act 2022

Equalities Act 2010

Parliament Act 1911

Parliament Act 1949

Darllen pellach

Erthyglau, adroddiadau a chyhoeddiadau

Paun, A., Henderson, D., Hourston, P. (2023) The art of the devolution deal: How England’s counties and cities can make a success of devolution, Institute for Government, London

Gomes, L (8 February 2023) Taxing Times: WRIT and the Welsh Government’s Draft Budget 2023-24, Thinking Wales – Meddwl Cymru [accessed November 2023]

George, J. (2023) The ‘Modern’ Bill of Rights Bill: Substituting ‘common sense’ with contradictory constitutionalism, The Constitution Society, London

Stansbury, A., Turner, D., Balls, E. (2023) Tackling the UK’s regional economic inequality: Binding constraints and avenues for policy intervention, Mossavar-Rahmani Center for Business & Government, Harvard Kennedy School, M-RCBG Associate Working Paper Series, No. 198

Renwick, A., Lauderdale, B., Russell, M., Cleaver, J. (2023) Public Preferences for Integrity and Accountability in Politics: Results of a Second Survey of the UK Population, The Constitution Unit, London, Third Report of the Democracy in the UK after Brexit Project

Bradbury, J., Davies, A. (2023) Regional Economic Development and the Case of Wales: Theory and Practice and Problems of Strategy and Policy, National Institute Economic Review, Cambridge University Press

Tierney, S., (23 March 2023) The Gender Recognition Reform (Scotland) Bill: Time for the United Kingdom to learn from other Federal Systems? IACL-AIDC Blog [accessed November 2023]

Newman, J., Kenny, M. (2023) Devolving English Government, Bennett Institute for Public Policy, Cambridge, and Institute for Government, London

Charlesworth, Z., Clegg, A., Rowlands, J. (2023) A Common Approach to Welsh Benefits; a Feasibility Study, The Bevan Foundation, Merthyr Tydfil

Murphy, Y. (2023) The Ballot Box: Beyond The Democracy Box© Report and Proof of Concept 2020 to 2023, Omidaze Productions

Rycroft, P., Not by Design: the erratic evolution of the British constitution since 1997, Bennett Institute for Public Policy, Cambridge, and Institute for Government, London

Taylor-Collins, E., Bristow, D. (2020) Administering social security in Wales: Evidence on potential reforms, Wales Centre for Public Policy

Stirling, T., Winckler, V., Blake, Jo. (2018) Universal Credit: Implications for devolved policies and services, The Bevan Foundation, Merthyr Tydfil

The Bevan Foundation, (2016) Making Welfare Work for Wales: should benefits for working age people be devolved? With support of the Joseph Rowntree Foundation

Melding, D. (2013) The Reformed Union: The UK as a Federation, Institute of Welsh Affairs, Cardiff

Jones, G. C. (2 August 2023) The unfinished business of UK constitutional reform, LSE Blog [accessed November 2023]

Evans, A., (2023) From an experiment to a new normal: Indirect Rule in Northern Ireland, Wales Governance Centre, Cardiff University

Jones, R., Jones, R.W., (2019) Justice at the Jagged Edge in Wales, Wales Governance Centre, Cardiff University

Cyhoeddiadau'r Llywodraeth a'r Senedd

Tudor, S., Building a Stronger Union (2023), House of Lords Library, London

Constitution, Europe, External Affairs and Culture Committee, (2023) How devolution is changing post EU, Scottish Government, Edinburgh

Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters AS/AM (20 April 2023) Speech to Rail Cymru 23 Conference at Holland House Hotel Cardiff, [text taken from Lee Waters personal blog Amanwy, accessed November 2023]

Welsh Affairs Committee (2021) Railway Infrastructure in Wales, Welsh Affairs Committee report, House of Commons

Llyfrau

Johnson, R. (ed.), Yuan Yi Zhu, (Ed.) (2023) Sceptical Perspectives on the Changing Constitution of the United Kingdom, Hart Publishing, London

Jones, R., Jones, R.W., (2022) The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, University of Wales Press, Cardiff