Neidio i'r prif gynnwy

FE AETH y bobl sy'n chwilio am ffyrdd gwell o gyfiawnder yng Nghymru daeth i'r Rhyl (dydd Mercher 27 Mawrth).

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

FE AETH y bobl sy'n chwilio am ffyrdd gwell o gyfiawnder yng Nghymru daeth i'r Rhyl (dydd Mercher 27 Mawrth).

Daeth tua 35 o bobl ar draws Gogledd Cymru i'r sesiwn cynhadledd a Neuadd y dref y Rhyl i dweud eu dweud a'r plismona, cyfiawnder a'r system cyfeithol gyda'r Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru.

Bydd aelodau'r comisiwn yn defnyddio eu cyfraniadau wrth gasglu eu canfyddiadau ar gyfer adrodd yn ddiweddarach eleni.

Cyd-gynhaliodd y Comisiwn y digwyddiad gyda mudiad tai Cymorth Cymru.

Tenantiaid gyda Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Chris Swinnerton a Kelly Bayliss roedd ddau o gyfranogwyr a'r digwyddiad.

Dywedodd Chris: "Mae'r hyn a ddywedwyd yn mynd i gael ei glywed. Dwi'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli newid ac dwi'n gobeithio y bydd yn newid rhywbeth.

Ychwanegodd Kelly:"Dwi'n eisiau atal plant rhag mynd i lawr fy llwybr a oedd yn y carchar ac nid yn lle da i fod. Mae'n dda bod y cyfarfod wedi'i gynnal oherwydd bod angen i bethau newid. ”

Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer ei ddyfodol.

Roedd aelod o'r Comisiwn, Dr Nerys Llewelyn Jones, yn y sesiwn yn y Rhyl. Dywedodd: "Roedd yn dda iawn clywed beth oedd gan bobl i'w ddweud."

"Rydym am i'n gwaith gael ei lywio gan yr hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei ddweud wrthym sy'n bwysig iddyn nhw ac mae clywed y materion hynny'n uniongyrchol yn amhrisiadwy i waith y Comisiwn."

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru i sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau tai a chymorth yn cael y cyfle i rannu eu barn a'u profiadau o'r system plismona a chyfiawnder.

“Er bod barn academyddion, gwneuthurwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i gyd yn hanfodol i waith y Comisiwn, rydym yn angerddol ynghylch y gwasanaethau hyn yn cael eu llunio gan y bobl sy'n eu defnyddio.”

Cymorth Cymru yw'r corff ymbarél ar gyfer darparwyr digartrefedd, cymorth sy'n gysylltiedig â thai a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dilynodd y digwyddiadau sesiynau tebyg yn Ne Cymru lle cyfarfu aelodau'r Comisiwn â gweithwyr proffesiynol ac aelodau'r cyhoedd.

Ers ei sefydlu mae'r Comisiwn wedi teithio o amgylch Cymru a'r DU yn cymryd tystiolaeth gan bobl am eu profiadau a pha nodweddion yr hoffent eu gweld mewn system Cyfiawnder Cymru.