Neidio i'r prif gynnwy

Chwmpas

Effeithiolrwydd, dynameg a gweithrediad y Comisiwn, gan gynnwys:

  • Ystyried yr achos dros estyn cyfnod penodi Comisiynwyr.
  • Asesu a oes gwerth ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol.

Trefniadau llywodraethu, gan gynnwys:

  • Gwerthuso statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn.
  • Amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i adroddiadau'r Comisiwn.

Sicrwydd

Image

 

Sicrwydd rhesymol bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n briodol a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Mae angen rhoi sylw i rai materion ag amlygiad cymedrol i risg nes iddynt gael eu datrys.

Arsylwadau

Sylfaenol: 0    

Sylweddol: 6 

Angen sylw: 0

  • Nid yw ‘dull strategol’ yn diffinio'r strategaeth ar gyfer cyflawni ffactorau llwyddiant na thargedau er mwyn i berfformiad allu cael ei werthuso.
  • Nid oes unrhyw fetrigau perfformiad i ategu diweddariadau ar berfformiad.
  • Nid oes unrhyw ymarferion gwersi a ddysgwyd o ran adroddiadau'r Comisiwn.
  • Mae angen gwella trefniadau rheoli risg.
  • Nid oes unrhyw gylch gorchwyl i gefnogi cyfarfodydd Comisiynwyr.
  • Mae diweddariadau ar lafar mewn cyfarfodydd yn effeithio ar graffu a herio trylwyr.

Cefndir

  • Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) yn 2018 fel panel cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru. Ei gylch gwaith yw asesu anghenion economaidd ac amgylcheddol seilwaith yng Nghymru dros y 5-80 mlynedd nesaf.
  • Penodwyd y Comisiwn presennol am gyfnod o dair blynedd (er bod y cyfnod hwn wedi'i estyn ers hynny) ac mae'n cynnwys wyth Comisiynydd a gefnogir gan swyddogion y Llywodraeth.
  • Cyhoeddwyd Llythyr Cylch Gwaith y Comisiwn ym mis Ebrill 2022 ac fe'i hategir gan Gylch Gorchwyl y Comisiwn, sy'n cadarnhau'r gofyniad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
  • Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn craffu ar y Comisiwn bob blwyddyn. Ymdrinnir ag argymhellion o adroddiad craffu 2023 y Pwyllgor yn Atodiad A.
  • Mae'r fethodoleg adolygu, ynghyd â chrynodeb o ymatebion rhanddeiliaid allanol i'r holiadur, wedi'u cynnwys yn Atodiad B.
  • Ceir y Cylch Gorchwyl a Diffiniadau Archwiliad yn Atodiad C.

Cryfderau

  • Mae newidiadau strwythurol a wnaed ers y Comisiwn cyntaf wedi bod yn effeithiol, ac mae problemau diwylliannol a oedd yn rhan annatod o'r Comisiwn blaenorol wedi cael eu cydnabod a'u datrys.
  • Mae Cynllunio ar gyfer Olyniaeth wedi'i ystyried yn briodol yng ngwaith y Comisiwn.
  • Mae aelodau'r Comisiwn yn dod o gefndiroedd gwahanol ac mae Gwerthoedd y Comisiwn wedi'u diffinio.
  • Mae'r Llythyr Cylch Gwaith yn rhoi cyfeiriad clir i Gomisiynwyr dros dymor y llywodraeth.
  • Mae'r Cylch Gorchwyl i gefnogi'r Comisiwn ehangach yn rhoi eglurder ynglŷn â'i rôl a'i ddiben.
  • Mae Comisiynwyr wedi mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol, gan gynnwys cytuno ar asesiad bach o seilwaith cenedlaethol ac estyn cyfnod Comisiynwyr yn y swydd.
  • Caiff datganiadau o fuddiant eu hystyried a'u rheoli'n briodol. Mae'r ‘Ffurflen Datganiadau o Fuddiant Newydd’ wedi'i chynnwys fel dolen ar agendâu cyfarfodydd.

Themâu

  • Cynllunio
  • Cyflawni ac adolygu
  • Pobl a diwylliant
  • Cydymffurfiaeth reoleiddiol
  • Rheoli gwybodaeth

Cynllun gweithredu

Mae'r holl sylwadau a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol (IAS) yn cael eu derbyn gan y rheolwyr ac mae'r IAS yn fodlon â'r cam(au) adfer arfaethedig a'r dyddiad(au) gweithredu, ac eithrio lle nodir yn wahanol. Bydd Gweithrediadau'r Grŵp yn monitro cynnydd, ac yn adrodd arno i'r Pwyllgor(au) Archwilio a Sicrwydd Risg perthnasol.

Sylw 1: Strategaeth

Yn ddiweddar datblygodd y Comisiwn ddogfen ‘Dull Strategol’ cyffyrddiad ysgafn, sy'n crynhoi ei weithgareddau a'i ‘ffactorau llwyddiant’ ar gyfer monitro effaith y Comisiwn. Tynnwyd y rhain o'r Cylch Gorchwyl, y Llythyr Cylch Gwaith a ‘Gwerthoedd’ a disgwyliadau'r Comisiynwyr.

Er bod dogfen y ‘Dull Strategol’ yn cynnwys ffactorau llwyddiant gyda rhai metrigau seiliedig ar naratif, nid yw'n diffinio'r strategaeth ar gyfer sicrhau y cyflawnir y ffactorau llwyddiant hyn nac yn cynnwys ‘targedau’ er mwyn i ‘Arwyddion Llwyddiant’ allu cael eu gwerthuso'n effeithiol.

Risg a effaith

Heb ‘gynllun trywydd’ priodol i gyflawni ffactorau llwyddiant strategol a heb nodau penodol ar gyfer y dyfodol, a ategir gan fetrigau, gallai fod yn anodd troi strategaeth y Comisiwn yn gamau gweithredu clir a deall pryd mae'r ffactorau llwyddiant wedi'u cyflawni.

Themau:

  • Cynllunio
  • Cyflawni ac Adolygu

Gweithred

Derbyniwyd

Camau rheoli:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gweithio gyda'r Comisiwn i ailystyried y Dull Strategol er mwyn amlinellu sut y caiff ffactorau llwyddiant eu cyflawni a datblygu targedau neu ddangosyddion i werthuso'r ‘arwyddion llwyddiant’

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Dyddiad targed: 31 Awst 2025

Sylw 2: Adrodd ar berfformiad

Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiwn yn cynnwys asesiad o berfformiad cryno yn erbyn canlyniadau a ddymunir, ochr yn ochr ag adolygiad o'r flwyddyn a diweddariad ar raglen waith y Comisiwn.

Er bod trefniadau adrodd ar berfformiad ar waith a bod craffu ar berfformiad yn cael ei sicrhau drwy Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, nid oes unrhyw fetrigau/mesurau perfformiad i ategu'r diweddariadau naratif ar berfformiad.

Risg a effaith

Er bod diweddariadau naratif ar berfformiad yn rhoi eglurder a chyd-destun, heb fesurau perfformiad priodol, mae'n anodd asesu'r ‘bwlch’ perfformiad rhwng perfformiad presennol a pherfformiad targed.

Themau:

  • Cynllunio
  • Cyflawni ac Adolygu

Gweithred

Derbyniwyd

Camau rheoli:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn datblygu metrigau perfformiad i'w cynnwys yn y cylch gwaith newydd ar gyfer y Comisiwn. Bydd angen adrodd ar y rhain yn adroddiadau blynyddol y Comisiwn yn y dyfodol.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Dyddiad targed: 31 Mawrth 2026

Sylw 3: Gwersi a ddysgwyd

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad ar Lifogydd 2024 wedi bod yn fwy cadarnhaol na'r ymateb i'r Adroddiad ar Ynni Adnewyddadwy 2023. Datgelodd trafodaethau â Chomisiynwyr fod newidiadau wedi'u gwneud i'r modd y cafodd yr Adroddiad ar Lifogydd ei ddatblygu a'i lansio er mwyn sicrhau ei fod yn cael mwy o effaith. Er bod diwrnodau myfyrio blynyddol yn cael eu cynnal er mwyn ystyried cynnydd, gwersi a ddysgwyd ac arferion da, nid oes unrhyw ymarfer gwersi a ddysgwyd ffurfiol wedi'i gynnal i nodi arferion da na meysydd i'w datblygu er mwyn sicrhau gwelliant parhaus ac ymgysylltiad llawn ag adroddiadau a'r materion y maent yn ymdrin â nhw.

Risg a effaith

Mae methu â chwblhau ymarfer gwersi a ddysgwyd yn gyfle a gollwyd i wella dealltwriaeth a chyflawniad a llywio gweithgareddau yn y dyfodol.

Themau:

  • Cynllunio
  • Pobl a Diwylliant

Gweithred

Derbyniwyd

Camau rheoli:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gweithio gyda'r Comisiwn er mwyn hwyluso trafodaethau ynghylch gwersi a ddysgwyd a gaiff eu cofnodi a'u defnyddio er mwyn gwella prosiectau gwaith yn y dyfodol. Mae diwedd rhaglen waith bresennol y Comisiwn yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y tair blynedd diwethaf a chaiff hyn ei gofnodi a'i ddefnyddio ar gyfer tymor nesaf y Comisiwn.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Dyddiad targed: 31 Rhagfyr 2025

Sylw 4: Rheoli risg

Er bod dolen fyw i'r Gofrestr Risg yn cael ei darparu fel rhan o'r agenda ar gyfer cyfarfodydd y Comisiynwyr, nid oes unrhyw dystiolaeth yn y cofnodion bod risgiau yn cael eu hadolygu, eu trafod neu eu diweddaru yn drylwyr. At hynny, nid yw'r Gofrestr Risg yn cynnwys sawl maes allweddol, yn benodol;

  • Perchennog risg dynodedig, i gadarnhau atebolrwydd am liniaru a rheoli
    risg.
  • Mae angen nodi dyddiadau targed ar gyfer camau gweithredu pellach a chyfrifoldeb am fesurau rheoli ychwanegol.
  • Dyddiad y diweddariad mwyaf diweddar (rheoli fersiynau).
  • Sgôr risg darged neu dderbyniol, i ddynodi disgwyliadau'r Comisiynwyr ac a oes angen lliniaru risgiau a nodwyd ymhellach a rhoi mesurau rheoli ychwanegol ar waith, yn dibynnu ar dderbynioldeb y lefel o risg weddilliol a aseswyd ar ôl ystyried mesurau lliniaru a rheoli [gwirioneddol].

Risg a effaith

Gall gwybodaeth annigonol yn y Gofrestr Risg er mwyn asesu a yw risgiau yn cael eu rheoli i lefelau derbyniol/priodol effeithio ar effeithiolrwydd y broses rheoli risg a monitro risg a golygu bod y Comisiwn wedi'i oramlygu.

Themau:

  • Cynllunio
  • Cydymffurfiaeth Reoleiddiol

Gweithred

Derbyniwyd

Camau rheoli:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gweithio gyda Chadeirydd y Comisiwn i ddatblygu Cofrestr Risg y Comisiwn ymhellach gyda'r nod o wneud y gwelliannau a awgrymwyd gan yr adolygiad.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Dyddiad targed: 28 Chwefror 2025

Sylw 5: Cylch gorchwyl

Er bod Cylch Gorchwyl ar waith ar gyfer y Comisiwn ehangach, sy'n cyd-fynd â Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth, nid oes unrhyw Gylch Gorchwyl i gefnogi cyfarfodydd y Comisiynwyr.

Risg a effaith

Heb Gylch Gorchwyl i gefnogi cyfarfodydd y Comisiynwyr, gallai fod ansicrwydd ynghylch gweithrediad cyfarfodydd, yn benodol ynghylch unrhyw gworwm sydd ei angen i wneud penderfyniadau neu baramedrau y dylid gwerthuso penderfyniadau yn eu herbyn.

Themau:

  • Cynllunio
  • Pobl a Diwylliant

Gweithred

Derbyniwyd

Camau rheoli:

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gweithio gyda'r Comisiwn i ddatblygu cylch gorchwyl penodol ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Dyddiad targed: 28 Chwefror 2025

Sylw 6: Papurau bwrdd

Mae diweddariadau ar y rhaglen waith/prosiectau wedi'u cynnwys fel eitem sefydlog ar agenda pob cyfarfod Comisiynwyr.

Er y cydnabyddir bod y Comisiynwyr yn cyfathrebu'n aml â'i gilydd y tu allan i gyfarfodydd misol ffurfiol (gan geisio barn ar bapurau, cwmpasau gwaith, allbynnau drafft ac ati) a bod Adroddiad yr Ysgrifenyddiaeth i bob un o gyfarfodydd y Comisiynwyr yn rhoi crynodeb o ddiweddariadau ar waith, nid yw Papurau'r Bwrdd yn cael eu darparu cyn cyfarfodydd er mwyn ategu eitemau sefydlog ar yr agenda sy'n ymwneud â ‘diweddariadau ar y rhaglen waith’/‘prosiectau’, gyda diweddariadau manwl yn cael eu rhoi ar lafar mewn cyfarfodydd.

Risg a effaith

Heb bapurau bwrdd ategol, a ddosberthir cyn cyfarfodydd y Comisiynwyr, nid oes fawr ddim cyfle i Gomisiynwyr eraill adolygu, craffu na herio'n drylwyr.

Themau:

  • Cynllunio
  • Cyflawni ac Adolygu Rheoli Gwybodaeth

Gweithred

Derbyniwyd

Camau rheoli:

Ar hyn o bryd, dosberthir papurau bwrdd wythnos ymlaen llaw i bob Comisiynydd. Bydd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn yn ceisio darparu mwy o wybodaeth yn Adroddiad yr Ysgrifenyddiaeth, gan ddatblygu tudalen ar gyfer pob prosiect, er mwyn rhoi diweddariadau mwy cynhwysfawr ar bob darn mawr o raglen waith y Comisiwn.

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn

Dyddiad targed: 28 Chwefror 2025

Atodiad A: Ystyried statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn

Mae'r adroddiad, ‘Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023’, a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, yn cynnwys y disgwyliad y caiff ei argymhellion eu defnyddio i lywio'r adolygiad archwilio mewnol o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Yn benodol:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o statws, rôl/cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn erbyn diwedd 2024. Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymgynghori â'r sectorau seilwaith amrywiol a rhanddeiliaid perthnasol eraill er mwyn llywio'r adolygiad
  • Fel rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru o statws, rôl/cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn, dylai ystyried yr achos dros estyn cyfnod penodi Comisiynwyr fel ei
    fod yn cyd-fynd yn well â phenodeion cyhoeddus eraill.
  • Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei hamserlen ar gyfer ymateb i adroddiadau'r Comisiwn. Dylai ystyried mabwysiadu amser ymateb rhwng 6 wythnos a 3 mis, fel ei fod yn cyd-fynd yn well â’r amser ymateb ar gyfer adroddiadau gan bwyllgorau'r Senedd ac Aseswr Diogelu'r Amgylchedd Annibynnol Cymru.
  • Fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn, dylai Llywodraeth Cymru ystyried a oes gwerth ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol (un tebyg i'r asesiadau a gynhaliwyd gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU).

Mae pob argymhelliad wedi'i ystyried isod.

Argymhelliad y pwyllgor 1:

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o statws, rôl/cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn erbyn diwedd 2024. Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymgynghori â'r sectorau seilwaith amrywiol a rhanddeiliaid perthnasol eraill er mwyn llywio'r adolygiad.

A. Statws y comisiwn:

Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) yn 2018 fel corff cynghori annibynnol, anstatudol i Weinidogion Cymru. Y Comisiwn yw'r unig Gomisiwn Seilwaith yn fyd-eang sy'n gorff anstatudol. Ariennir y Comisiwn bob blwyddyn ar sail prosiectau (ni chytunwyd ar gyllid ar gyfer tymor llawn y Comisiwn), gyda'r Comisiwn yn cael ei ystyried yn ‘wasgfa ar y gyllideb’ yn y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. O edrych ar Gofrestr Llywodraeth Cymru o Gyrff Cyhoeddus Datganoledig, cadarnheir mai'r Comisiwn yw'r unig un o Baneli Cynghori datganoledig Llywodraeth Cymru sy'n anstatudol.

Mae gan gorff statudol bwerau a chyfrifoldebau penodol fel y'u diffinnir mewn deddfwriaeth, sy'n amlinellu ei strwythur, ei swyddogaethau a'i awdurdod. Er bod natur anstatudol y Comisiwn yn golygu bod ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid, mae'r Comisiynwyr o'r farn bod eu statws fel corff anstatudol yn eu galluogi i fod yn fwy annibynnol a hyblyg wrth gyflawni allbynnau, heb y cyfyngiadau a osodir gan brosesau, gweithdrefnau a systemau Llywodraeth Cymru.

Tra bod y Comisiwn yn cyflawni allbynnau yn unol â'i Lythyr Cylch Gwaith, mae'n debygol nad oes fawr ddim gwerth mewn argymell newidiadau sylweddol i statws y Comisiwn. Fodd bynnag, gellid ystyried cytuno ar gyllid y Comisiwn am dymor y llywodraeth er mwyn sicrhau cysondeb â'r Llythyr Cylch Gwaith.

B. Cylch Gwaith ac Amcanion y Comisiwn

Mae Llythyr Cylch Gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ddyddiedig Ebrill 2022, fe'i cyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac mae'n cwmpasu tymor y Senedd bresennol (2021-2026). Mae'r Llythyr Cylch Gwaith yn cyfeirio at Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac yn rhoi ffocws i'r Comisiynwyr. Mae'r Llythyr Cylch Gwaith yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn adrodd ar Ynni Adnewyddadwy a'r Gallu i Wrthsefyll Llifogydd a Newid Hinsawdd ym mlynyddoedd 1 a 2. Adlewyrchir cynnwys y Llythyr Cylch Gwaith yng Nghylch Gorchwyl y Comisiwn. Mae'r Llythyr Cylch Gwaith yn rhoi cyfeiriad clir gan Lywodraeth Cymru ac yn llywio rhaglen waith y Comisiwn.

Mae ymatebion i holiaduron a ddosbarthwyd i sectorau seilwaith a rhanddeiliaid allanol ehangach (cyfradd gwblhau o 34%) yn dangos bod consensws bod y Comisiwn:

  • yn canolbwyntio ar heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru (81%);
  • yn gweithio mewn ffordd agored, dryloyw a chydweithredol er mwyn nodi anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol (89%);
  • yn mynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd, targedau datgarboneiddio Cymru a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (85%);
  • yn dryloyw ac yn ymgynghorol, wedi'i gefnogi gan weithgarwch ymgysylltu helaeth a chonsensws eang o blaid ei argymhellion (81%).

O edrych ar y Llythyr Cylch Gwaith, trafod â Chomisiynwyr ac ystyried ymatebion rhanddeiliaid i holiaduron, ymddengys fod i gylch gwaith y Comisiwn ffocws priodol a'i fod yn helpu i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt yn effeithiol.

Argymhelliad y pwyllgor 2: 

Fel rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru o statws, rôl/cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn, dylai ystyried yr achos dros estyncyfnod penodi Comisiynwyr fel ei fod yn cyd-fynd yn well â phenodeion cyhoeddus eraill.

C. Cyfnod Penodi Comisiynwyr:

Mae gan Gymru bedwar Comisiynydd a benodir gan Brif Weinidog Cymru. Caiff pob un ohonynt eu penodi am gyfnod penodol o saith mlynedd, mae ganddynt bwerau statudol ac mae ganddynt drefniadau cyllid a llywodraethu ffurfiol. Fel corff cynghori anstatudol, nid oes gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yr un trefniadau cyllido na llywodraethu, gyda chyfnod safonol yn y swydd o dair blynedd (er bod y cyfnod wedi'i estyn ar gyfer y Comisiwn presennol er mwyn i brosiect Blwyddyn 3 24/25 allu cael ei gwblhau).

Wrth feincnodi yn erbyn cyrff cyhoeddus datganoledig Llywodraeth Cymru a sefydlwyd fel Cyrff Cynghori/Paneli Cynghori, er bod gan aelodau'r cyrff hyn gyfnodau byrrach yn y swydd na Chomisiynwyr a benodir gan Brif Weinidog Cymru, mae rhai yn cynnig opsiwn ar gyfer ail gyfnod yn y swydd.

  • Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (23/24) – Panel Cynghori (statudol): 4 blynedd + 4 blynedd
  • Y Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol – Grŵp Cynghori: 3 blynedd
  • Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Pwyllgor Cynghori (statudol) – Hyd at 4 blynedd: Hyd at 4 blynedd
  • Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Corff Cynghori (statudol) – 3 blynedd + 3 blynedd: 3 blynedd + 3 blynedd

Mae Comisiynwyr wedi trafod y posibilrwydd o estyn penodiadau Comisiynwyr i ddau dymor (3 blynedd + 3 blynedd). Byddai hyn yn cefnogi'r gwaith parhaus o gynllunio ar gyfer olyniaeth ac yn sicrhau parhad o ran profiad a sgiliau.

Er yr ymddengys ei bod yn rhesymol estyn y cyfnod yn y swydd, byddem yn awgrymu bod unrhyw newid i Delerau Penodi Comisiynwyr yn cael ei ategu gan drefniadau rheoli perfformiad mwy cadarn, gydag asesiadau blynyddol wedi'u cysylltu ag amcanion perfformiad Comisiynwyr unigol sydd, yn eu tro, wedi'u cysylltu â'r fersiwn wedi'i diweddaru o'r strategaeth, gyda bylchau sgiliau ac anghenion hyfforddiant yn cael eu nodi a'u diwallu drwy raglen hyfforddiant ffurfiol.

Argymhelliad y pwyllgor 3: 

Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei hamserlen ar gyfer ymateb i adroddiadau'r Comisiwn. Dylai ystyried mabwysiadu amser ymateb rhwng 6 wythnos a 3 mis, fel ei fod yn cyd-fynd yn well â’r amser ymateb ar gyfer adroddiadau gan bwyllgorau'r Senedd ac Aseswr Diogelu'r Amgylchedd Annibynnol Cymru.

D. Amserlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymateb i Adroddiadau'r Comisiwn:

Mae Cylch Gorchwyl y Comisiwn yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud y canlynol:

  • “ymateb yn ffurfiol i adroddiadau NICW, gan nodi'n glir a yw'r llywodraeth yn derbyn neu'n gwrthod yr argymhellion;
  • rhoi rhesymau lle mae'n anghytuno ag argymhellion NICW a, lle y bo'n briodol, cyflwyno cynnig amgen ar gyfer diwallu'r angen a nodwyd;
  • ymateb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a ddylai olygu o fewn 6 mis yn y mwyafrif llethol o achosion a byth yn hwy na blwyddyn”.

Fel y nodwyd uchod, mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad ar Lifogydd 2024 wedi bod yn fwy cadarnhaol na'r ymateb i'r Adroddiad ar Ynni Adnewyddadwy 2023. Datgelodd trafodaethau â Chomisiynwyr fod newidiadau wedi'u gwneud i'r modd y cafodd yr Adroddiad ar Lifogydd ei ddatblygu a'i lansio er mwyn sicrhau ei fod yn cael mwy o effaith. Mae trafodaeth â'r Ysgrifenyddiaeth hefyd wedi awgrymu bod elfen ddiwylliannol i barodrwydd unigolion ac isadrannau yn Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhellion allanol, sy'n cael ei dwysáu gan aeddfedrwydd ac adnoddau'r priod dimau.

Mae trafodaeth â derbynwyr adroddiadau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi nodi y byddai amserlenni gofynnol ar gyfer ymateb y Llywodraeth yn dibynnu ar nifer yr argymhellion mewn adroddiadau, i ba raddau y mae'r argymhellion yn ‘eithriadol’ a faint o rybudd a fyddai'n cael ei roi ymlaen llaw am ddyddiadau cyhoeddi adroddiadau (gan ei gwneud yn bosibl i amseroedd ymateb gael eu cynnwys mewn cynlluniau gwaith). Y consensws ymhlith derbynwyr adroddiadau oedd bod amserlenni ymateb o 6-12 mis yn rhy hir ac y gallent effeithio ar berthnasedd yr argymhellion mewn adroddiadau.

Nid yw argymhelliad Pwyllgor y Senedd i fabwysiadu amser ymateb o rhwng chwe wythnos a thri mis yn afresymol ond mae'n bosibl mai'r dull gweithredu mwyaf ymarferol fyddai trafod yr amserlen ar gyfer ymateb â'r timau perthnasol yn Llywodraeth Cymru fesul adroddiad unigol, er mwyn rhoi eglurder, ar ddyddiadau cyhoeddi adroddiadau, ynglŷn â'r dyddiad ymateb disgwyliedig ac unrhyw amgylchiadau a fyddai'n cyfiawnhau ac yn cefnogi camau i estyn y dyddiad ymateb disgwyliedig. Bydd hysbysu timau am ddyddiadau cyhoeddi adroddiadau ymhell cyn i adroddiadau gael eu lansio hefyd yn golygu y byddai modd trefnu amser priodol mewn dyddiaduron ac yn helpu i sicrhau bod ymatebion i adroddiadau yn cael eu cyflwyno mewn llai o amser.

Argymhelliad y pwyllgor 4: 

Fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn, dylai Llywodraeth Cymru ystyried a oes gwerth ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol (un tebyg i'r asesiadau a gynhaliwyd gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU).

E. Asesiad Seilwaith Cenedlaethol:

Cynhelir Asesiad Seilwaith Cenedlaethol y DU unwaith yn ystod tymor pob Senedd (h.y. Senedd y DU), gan nodi asesiad Comisiwn y DU o anghenion hirdymor o ran seilwaith, gydag argymhellion i Lywodraeth y DU. Cynhaliodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (y DU) ei ail Asesiad Seilwaith Cenedlaethol ym mis Hydref 2023. Er nad yw'r costau a oedd yn gysylltiedig â chynnal yr Asesiad Seilwaith Cenedlaethol (NIA2) ar gael i'r cyhoedd, mae NIA2 yn cadarnhau bod Comisiynwyr a Phrif Weithredwyr wedi cynnal mwy na 130 awr o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â Gweinidogion, swyddogion y llywodraeth, arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr diwydiant. At hynny, cynhaliwyd mwy na 500 awr o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid yn y gwahanol sectorau seilwaith. Mae Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru hefyd wedi trafod Asesiadau Seilwaith â chymheiriaid yng Nghomisiwn Seilwaith Seland Newydd (sy'n debyg i Gymru o ran maint y boblogaeth) a gadarnhaodd fod cynnal ei Asesiad Seilwaith cynhwysfawr wedi costio tua £2.5m.

Gan nad oes Asesiad Seilwaith Cenedlaethol ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cael sicrwydd ynglŷn â sectorau seilwaith datganoledig o feysydd polisi perthnasol. At hynny, mae asesu risgiau a allai amharu ar Seilwaith Cenedlaethol Critigol, Seilwaith Lleol Pwysig a chadernid cadwyni cyflenwi, yn rhan annatod o ddull mwy cadarn Llywodraeth Cymru o asesu risg. Ar ôl cael ei chwblhau ym mis Tachwedd 2024, mae cofrestr risg newydd Cymru yn eistedd ochr yn ochr â nifer o gynhyrchion rheoli risg newydd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith statudol i baratoi ar gyfer argyfwng a wneir gan ymatebwyr Categori 1 fel y'i nodir yn Neddf Argyfyngau Sifil 2004. Gan gydweithio ag adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU, megis yr Awdurdod Diogelwch Amddiffynnol Cenedlaethol (NPSA) a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), mae Llywodraeth Cymru yn monitro risgiau i seilwaith a chadwyni cyflenwi Cymru ac yn darparu cymorth penodol er mwyn helpu i fynd i'r afael â gwendidau.

Mae Pwyllgor y Senedd wedi cydnabod y byddai'n afresymol disgwyl i'r Comisiwn presennol gynnal Asesiad Seilwaith Cenedlaethol o ystyried y cyfyngiadau y mae'n gweithredu o'u mewn. Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae'n annhebygol y bydd awydd i gynnal Asesiad Seilwaith cynhwysfawr ar gyfer Cymru; byddai unrhyw benderfyniad o'r fath yn gofyn am gryn dipyn o adnoddau ychwanegol a byddai angen ei ystyried ochr yn ochr â newidiadau strwythurol i statws a chylch gwaith y Comisiwn. Gan gydnabod hyn, mae'r Comisiwn wrthi'n cynllunio asesiad seilwaith bach ar gyfer 2025/26 sy'n seiliedig ar waith sydd eisoes wedi'i wneud gan y Comisiwn a gwaith y bwriedir ymgymryd ag ef ym Mlwyddyn 3 y Comisiwn. Mae'r Asesiad Seilwaith bach yn ateb pragmatig yn y cyfamser, a chaiff y canlyniadau eu defnyddio fel sail i benderfynu a fyddai ymarfer mwy o faint yn briodol ac yn cynnig gwerth am arian i Lywodraeth Cymru.

Ar ôl cyhoeddi asesiad seilwaith bach y Comisiwn (a ddisgwylir ar hyn o bryd ym mis Mawrth 2026), rydym yn argymell y dylai ymarfer ffurfiol gael ei gynnal gan y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig er mwyn sicrhau dealltwriaeth drylwyr o gostau a manteision Asesiad Seilwaith Cenedlaethol llawn ac asesu a fydd hyn yn cynnig gwerth am arian i Lywodraeth Cymru.

Atodiad B: Methodoleg adolygu

Cyhoeddwyd Llythyr Cylch Gwaith y Comisiwn ym mis Ebrill 2022 ac fe'i hategir gan Gylch Gorchwyl y Comisiwn, sy'n cadarnhau'r gofyniad i gynnal adolygiad
cynhwysfawr o statws, cylch gwaith amcanion y Comisiwn o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn craffu ar y Comisiwn bob blwyddyn. Cadarnhaodd argymhellion o adroddiad craffu 2023 y Pwyllgor, mewn perthynas â'r adolygiad o statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn, ddisgwyliadau:

  • Y caiff yr argymhellion yn yr adroddiad craffu eu defnyddio i lywio'r adolygiad archwilio mewnol.
  • Y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal â'r gwahanol sectorau seilwaith a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Mae Adroddiad Craffu 2023 ar gael yn: https://senedd.cymru 

Cynhaliwyd adolygiad a gwerthusiad systematig o'r Comisiwn drwy wneud y canlynol:

  • Gwerthuso ymatebion i holiaduron cyfrinachol ar-lein a anfonwyd at y Comisiynwyr, a ddarparodd ymatebion wedi'u sgorio ac ymatebion naratif i gyfres o osodiadau.
  • Gwerthuso ymatebion i holiaduron cyfrinachol ar-lein a anfonwyd at gynrychiolwyr o wahanol sectorau seilwaith a rhanddeiliaid ehangach, a ddarparodd ymatebion wedi'u sgorio ac ymatebion naratif i osodiadau ynghylch effeithiolrwydd y Comisiwn.
  • Cyfweliadau cyfrinachol agored a chynhyrchiol â phedwar Comisiynydd a ddewiswyd.
  • Cyfweliadau cyfrinachol â dau randdeiliad nad oeddent wedi dychwelyd holiadur wedi'i gwblhau.
  • Arsylwi ar gyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024.
  • Trafod ag Ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru.
  • Meincnodi yn erbyn cyrff cyhoeddus yng Nghymru a sefydlwyd fel Paneli Cynghori/Grwpiau Cynghori.
  • Archwilio tystiolaeth sy'n cefnogi'r trefniadau llywodraethu sydd ar waith o fewn y Comisiwn (cylch gorchwyl; papurau bwrdd, cofrestrau risg; adroddiadau ar berfformiad).
  • Ystyried y materion penodol a godwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a oedd yn ymwneud â statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn; cyfnod penodi Comisiynwyr; amserlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i adroddiadau'r Comisiwn ac a oes gwerth cynnal Asesiad Seilwaith Cenedlaethol.
     

Holiaduron Rhanddeiliaid Allanol

  • Anfonwyd holiaduron at bob un o'r wyth Comisiynydd, gyda chyfradd gwblhau o 100%.
  • Anfonwyd holiaduron at 79 o gynrychiolwyr seilwaith a rhanddeiliaid allanol, gyda chyfradd gwblhau o 38%/cyfradd gwblhau o 34%.
  • Nodir yr ymatebion i'r holiaduron allanol, ynghyd â rhestr o'r sefydliadau hynny a ymatebodd, isod.
1 =Anghytuno'n Gryf      2 = Anghytuno'n Rhannol      3 = Ddimyn Cytuno nac yn Anghytuno                                            4= Cytuno'r Rhannol               5 = Cytuno'n Gryf  DdG= Ddim yn Gwybod
 12345DdG 

Mae'r gwaitha wneir gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW)yn canolbwyntio ar heriau seilwaith mwyaf dybryd

Cymru.

  39132 
Mae'r Comisiwn yn gweithio mewnffordd agored, dryloyw a chydweithredol er mwyn nodi anghenion seilwaith Cymruyn y dyfodol. 1110141 
Mae'r Comisiwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd, er mwynhyrwyddo ei waith a chasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau ar seilwaith yn y dyfodol.  110133 
Mae'r Comisiwn yn ceisio bod yn dryloyw ac yn ymgynghorol yn ei waith,gan ymgysylltu'n eang a chreu consensws ar gyfer ei argymhellion.  38142 

Mae'r gwaitha wneir gany Comisiwn yn mynd i'r afael yn briodol â'r argyfwng natura'r argyfwng hinsawdd; targedau

datgarboneiddio Cymru a nodau DeddfLlesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 119142 
Mae'r Comisiwn yn ystyried yr effaith y gallai newidiadau technolegol a newidiadau eraillyn y dyfodol ei chael ar anghenion ac atebion o ran seilwaith.  510102 
Mae argymhellion y Comisiwn yn cael eu blaenoriaethu'n glir a'u hategugan sail dystiolaeth gadarn.  311121 
Mae'r Comisiwn yn rhoi sylw priodol i'r cyfaddawd rhwng cynnal asedauseilwaith presennol a manteisio i'r eithaf ar eupotensial a'r cyfleoedd sy'n codi o seilwaith newydd. 141165 

Mae'r Comisiwn yn ystyried y costau tebygolsy'n gysylltiedig â'i argymhellion ac yn sicrhau bod gobaith realistig o roi ei

argymhellion ar waith.

1131246 
Mae ymatebion Llywodraeth Cymru i Adroddiadau'r Comisiwn yn amserol ac yn drylwyr ac maent yn ymdrin â'r holl argymhellion a wneir. 177111 

Mae cysylltiadau clir rhwng argymhellion y Comisiwn a phenderfyniadau polisiLlywodraeth Cymru ynghylch amcanion tymor hwy

o ran seilwaith.

 27837 

Cafwyd holiaduron wedi'u cwblhau gan y sefydliadau/cyrff    canlynol:

  • Design Commission for Wales
  • Wales and West Utilities
  • Conwy CBC
  • Welsh Government
  • Western Power Distribution
  • Met Office
  • Menter Mon
  • Trydan Gwyrdd Cymru
  • Cardiff University
  • Renewables UK Cymru
  • Cynnal Cymru
  • Future Generations Commission
  • Institute of Civil Engineers
  • Cardiff Council
  • Institute of Civil Engineers
  • SP Energy Networks
  • Flood & Coastal Erosion Committee
  • IWA
  • Mace
  • WLGA
  • Learning & Work Institute
  • Arup
  • Miller Research
  • JBA Consulting

Atodiad C: Adolygu cylch gorchwyl a diffiniadau archwilio

Cylch gorchwyl yr adolygiad

Nod yr Adolygiad:

Nod yr adolygiad oedd rhoi sicrwydd i Reolwyr, Comisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru a'r Senedd ynglŷn â statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn.

Disgrifiad o'r System/Maes sy'n cael ei (H)adolygu

Panel cynghori anstatudol yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Ei gylch gwaith yw asesu anghenion economaidd ac amgylcheddol seilwaith yng  Nghymru dros y 5-80 mlynedd nesaf. Mae'r Comisiwn yn cynnal astudiaethau o heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru gan wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae Cylch Gorchwyl y Comisiwn yn ei gwneud yn ofynnol i adolygiad cynhwysfawr o'i statws, ei gylch gwaith a'i amcanion gael ei gynnal o leiaf unwaith bob pum mlynedd, gyda'r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn 2024 fan bellaf.

Cwmpas yr adolygiad:

Cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Effeithiolrwydd, dynameg a gweithrediad y Comisiwn, gan gynnwys:
    • Ystyried yr achos dros estyn cyfnod penodi Comisiynwyr.
    • Asesu a oes gwerth ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol.
  • Trefniadau llywodraethu, gan gynnwys;
    • Gwerthuso statws, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn.
    • Amserlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i adroddiadau'r Comisiwn.

Dull adolygu:

Cynhaliwyd adolygiad a gwerthusiad systematig o'r Comisiwn drwy wneud y canlynol;

  • Defnyddio holiadur cyfrinachol ar-lein, a gwblhawyd gan y Comisiynwyr a rhanddeiliaid ehangach;
  • Cyfweliadau cyfrinachol â Chomisiynwyr/rhanddeiliaid a ddewiswyd;
  • Ymgynghori â gwahanol sectorau seilwaith a rhanddeiliaid perthnasol eraill;
  • Arsylwi ar gyfarfodydd y Comisiwn;
  • Meincnodi yn erbyn sefydliadau tebyg;
  • Archwilio tystiolaeth sy'n ategu gweithgareddau'r Comisiwn (cylch gwaith; cylch gorchwyl; pecynnau agenda; adroddiadau ar berfformiad; hunanasesiadau; cofrestrau risg, ac ati).

Mae ein sylwadau yn canolbwyntio ar y graddau y mae'r Comisiwn wedi dangos ei effeithiolrwydd a digonolrwydd ei drefniadau llywodraethu.

Diffiniadau archwilio

Dosbarthiadau sicrwydd

  • Sylweddol:Sicrwydd sylweddol bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n addas a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Nid oes unrhyw faterion ag amlygiad i risg neu mae materion bach iawn ag amlygiad isel i risg y mae'n bosibl na fydd angen eu datrys.
  • Rhesymol: Sicrwydd rhesymol bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n addas a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Mae angen rhoi sylw i rai materion ag amlygiad cymedrol i risg nes iddynt gael eu datrys.
  • Cyfyngedig: Sicrwydd cyfyngedig bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n addas a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Mae angen rhoi sylw i rai materion sylweddol ag amlygiad cymedrol i uchel i risg nes iddynt gael eu datrys
  • Dim: Dim sicrwydd bod prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheoli wedi'u llunio'n addas a'u bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Mae angen gweithredu ar frys er mwyn ymdrin â'r fframwaith rheoli ag amlygiad uchel i risg weddilliol nes iddo gael ei ddatrys.

Dosbarthiadau sylwadau

  • Sylfaenol: Gwendid rheoli lle mae methiant difrifol neu ddiffyg mesurau rheoli mewnol allweddol a/neu arweinyddiaeth. Gallai hyn arwain at golli cryn dipyn o adnoddau, methiant i gydymffurfio â deddfwriaeth neu bolisi, twyll, amhriodoldeb, gwerth gwael am arian neu fethiant i gyflawni amcanion Adrannol. Mae angen cymryd camau unioni ar unwaith.
  • Sylweddol: Gwendid rheoli a allai amlygu'r system i lefel o risg sylweddol, er nad yw'n sylfaenol. Gallai risg o'r fath effeithio ar amcanion gweithredol yr Adran a dylai fod yn achos pryder i uwch-reolwyr. Mae angen cymryd camau unioni cyn gynted â phosibl.
  • Angen Sylw: Meysydd nad ydynt, yn unigol, yn cael effaith fawr ond lle y byddai rheolwyr yn cael budd o fesurau rheoli gwell a/neu lle mae cyfle iddynt wella effeithiolrwydd a/neu effeithlonrwydd.