Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) fel panel cynghori anstatudol.

Cylch gwaith a diben

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) yn banel cynghori anstatudol. Ei gylch gwaith yw asesu anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros y 5 – 80 mlynedd nesaf.

Bydd NICW yn cynnal astudiaethau i heriau seilwaith pwysicaf Cymru ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Bydd y cyngor a ddarperir gan NICW yn ddiduedd, yn strategol ac yn flaengar ei natur. Mae'r Argyfyngau Natur a Hinsawdd wedi'u nodi fel y prif sbardunau sy'n llywio gwaith NICW.

Mae angen i NICW allu ystyried prosiectau seilwaith cyfredol a phrosiectau seilwaith sydd ar y gweill wrth nodi anghenion y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw ei gylch gwaith yn cynnwys adolygu rhaglenni a gwaith sydd eisoes wedi'u penderfynu neu sy'n agos at benderfyniad. Mae cylch gwaith NICW yn ymestyn i seilwaith ddatganoledig, trawsffiniol a heb ei ddatganoli a bydd yn esblygu yn unol â'r setliad datganoli.

Gall NICW ystyried materion cyflawni trawsbynciol, megis llywodraethu, costau, ariannu a rheoli rhaglenni/prosiectau, os yw'n eu hystyried yn rhwystr i ddiwallu anghenion seilwaith. Ni fydd NICW yn diystyru prosesau statudol ond gall gynghori ac argymell gwelliannau i brosesau o'r fath pe canfyddir rhwystrau sylweddol i gyflawni.

Rhaid i'r NICW ymddwyn yn unol ag egwyddorion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn cynnwys:

  • Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru;
  • Pum Ffordd o Weithio; a
  • Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Rhaid i NICW ystyried dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; gan gynnwys rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) ac adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau.

Rhaid i NICW hefyd ystyried rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rhwymedigaethau deddfwriaethol eraill wrth roi cyngor.

Aelodaeth

Bydd NICW yn cynnwys 8 Comisiynydd gan gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd. Fel arfer, caiff Comisiynwyr eu penodi gan Weinidogion Cymru am gyfnod o 3 blynedd.

Bydd aelodau'r NICW yn:

  • rhoi cyngor arbenigol a diduedd i Lywodraeth Cymru ar seilwaith; sicrhau bod y dystiolaeth a'r dadansoddiad y tu ôl i gyngor yn gadarn;
  • gweithio gyda'r Cadeirydd a chomisiynwyr eraill i lunio a datblygu astudiaethau penodol
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys y llywodraeth, diwydiant, grwpiau buddiant a'r cyhoedd i hyrwyddo'r NICW a chasglu ystod eang o safbwyntiau ar seilwaith yn y dyfodol; a
  • cefnogi'r Cadeirydd i gynrychioli NICW yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau ac mewn digwyddiadau cyhoeddus, yn enwedig ar faterion lle mae gan gomisiynwyr arbenigedd unigol.

Yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel comisiynydd, cyfrifoldebau penodol y Cadeirydd yw:

  • arweinyddiaeth strategol ar gyfer NICW; pennu blaenoriaethau a sicrhau annibyniaeth ei argymhellion; goruchwylio'r gwaith o gyflawni gwaith NICW, gan gynnwys monitro'r hyn a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru;
  • cyfeirio mewnbwn comisiynwyr, gan harneisio eu sgiliau, eu profiad a'u harbenigedd;
  • darparu cyngor arbenigol, diduedd i Lywodraeth Cymru ar seilwaith, gan gynnwys cyngor ar flaenoriaethu a gwerth am arian ar fuddsoddiadau cyhoeddus a phreifat;
  • meithrin consensws ynghylch argymhellion NICW;
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, grwpiau buddiant a'r cyhoedd;
  • meithrin perthynas waith â'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol;
  • cynrychioli'r NICW yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau; a
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tîm cymorth addas ar waith i roi dadansoddiad a chyngor cadarn i NICW a/neu gomisiynu gwaith yn ôl yr angen.

Yn ogystal, i'w cyfrifoldebau fel comisiynydd, cyfrifoldebau penodol y Dirprwy Gadeirydd yw:

  • cefnogi'r Cadeirydd yn ei arweinyddiaeth strategol ar gyfer NICW; pennu blaenoriaethau a sicrhau annibyniaeth ei argymhellion;
  • sicrhau bod gwaith y comisiwn yn canolbwyntio ar heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru gan gynnwys yr angen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a chyrraedd targedau datgarboneiddio Cymru;
  • helpu i gyfeirio mewnbwn y Comisiynwyr, gan harneisio eu sgiliau, eu profiad a'u harbenigedd;
  • Arwain ar waith sy'n edrych ar feysydd / sectorau penodol i gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol;
  • sicrhau bod gwaith y comisiwn yn canolbwyntio ar heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru gan gynnwys yr angen i fynd i'r afael â'r Argyfyngau Natur a Hinsawdd; cyflawni Nodau Cenedlaethau'r Dyfodol; a chyrraedd targedau datgarboneiddio Cymru;
  • goruchwylio'r gwaith o gyflawni gwaith NICW, gan gynnwys monitro'r hyn a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru a chontractwyr
  • cynrychioli NICW yn allanol a meithrin perthynas waith dda â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, grwpiau buddiant a'r cyhoedd.

Allbynnau

Bydd y NICW yn cynhyrchu:

  • Adroddiad blynyddol sy'n ymdrin â materion llywodraethu, ei weithgareddau dros y 12 mis blaenorol a'i gynllun gwaith ar gyfer y 12 mis nesaf;
  • Adroddiadau y gofynnwyd amdanynt yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru;
  • Adroddiadau achlysurol ar faterion seilwaith penodol fel y gwêl NICW yn dda.

Wrth ddatblygu ei ddadansoddiad, dylai NICW wneud defnydd priodol o waith a wneir gan gyrff eraill. Dylai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cymru'r Dyfodol: y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol;
  • Tueddiadau'r Dyfodol;
  • Yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol;
  • Gwaith a wnaed gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru;
  • Gwaith a wnaed gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys y rhai o wledydd eraill; a
  • Gwaith a wneir gan y byd academaidd, cyrff proffesiynol, masnach a'r trydydd sector a melinau trafod.

Dylai unrhyw ymchwil a gynhelir gael ei chyhoeddi a sicrhau ei bod ar gael yn hawdd i'r cyhoedd.

Wrth gynhyrchu ei adroddiadau, bydd NICW yn ymwybodol ac yn realistig o faterion ariannol ac economaidd seilwaith a fyddai'n deillio o weithredu argymhellion NICW.

Bydd NICW hefyd yn monitro cynnydd o ran cyflawni'r datblygiadau seilwaith y mae wedi'u hargymell.

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi annibyniaeth NICW drwy:

  • ymateb yn ffurfiol i adroddiadau NICW, gan nodi'n glir a yw'r llywodraeth yn derbyn neu'n gwrthod yr argymhellion;
  • rhoi rhesymau lle mae'n anghytuno ag argymhellion NICW a, lle y bo'n briodol, cyflwyno cynnig amgen ar gyfer diwallu'r angen a nodwyd;
  • ymateb cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a ddylai olygu o fewn 6 mis yn y mwyafrif llethol o achosion a byth yn hwy na blwyddyn; a
  • cyflwyno adroddiadau blynyddol NICW ac ymatebion y llywodraeth iddynt yn y Senedd.

Cylch gwaith

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau clir i NICW drwy gyhoeddi llythyr cylch gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cylch gwaith cyllidol rhwymol i sicrhau y byddai argymhellion NICW yn fforddiadwy.

Atebolrwydd

Mae'r NICW yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd ei gyngor a'i argymhellion a'i ddefnydd o arian cyhoeddus. Dylai'r NICW sicrhau bod y dystiolaeth a'r dadansoddiad y tu ôl i'w argymhellion yn gadarn.

Efallai y bydd y Senedd hefyd yn craffu ar waith NICW. Dylai NICW sicrhau ei fod ar gael i drafod ei adroddiadau a'r dadansoddiad sy'n sail iddynt gyda Phwyllgorau perthnasol y Senedd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i gyfrif gan y Senedd am y cyfarwyddyd y mae'n ei roi i NICW. Bydd hefyd yn destun craffu mewn perthynas â'r argymhellion y
mae'n eu derbyn neu nad yw'n eu derbyn a'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau hyn.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am lunio polisïau ac mae gweinidogion yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar bolisi a chyflawni seilwaith. Gweinidogion fydd yn llwyr gyfrifol am benderfynu a ddylid cymeradwyo argymhellion y Comisiwn ac am benderfynu sut y dylid bwrw ymlaen ag argymhellion fel polisi.

Bydd NICW yn dwyn y llywodraeth i gyfrif am gyflawni unrhyw argymhellion NICW y cytunodd i'w datblygu.

Trefniadau ar gyfer adolygu NICW

Bydd NICW yn destun adolygiad cynhwysfawr o'i statws, ei gylch gwaith a'i amcanion o leiaf unwaith bob 5 mlynedd. Ni fydd dyddiad yr adolygiad cyntaf yn hwyrach na 2024.

Diwygio, addasu neu amrywio

Mae'r Cylch Gorchwyl hwn yn weithredol o 01/04/2022 ac mae'n parhau hyd nes y bydd NICW neu Lywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol diwygio yn amodol ar y ddau barti yn cytuno.