Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth gogledd Cymru.

Bydd y Comisiwn yn ystyried y problemau, y cyfleoedd â’r heriau sy’n gysylltiedig â chreu system drafnidiaeth integredig gynaliadwy yng ngogledd Cymru, gan edrych hefyd ar yr amcanion ar gyfer ei gwireddu. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob dull teithio, gan edrych ar ogledd Cymru gyfan er mwyn ystyried sut y gellir newid dulliau teithio mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig.

Bydd y Comisiynwyr yn cydweithio  ac yn cydweithredu yn yr un modd â Chomisiwn Trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru drwy:

  • ddadansoddi siwrneiau a wneir yn aml ar y ffordd yn y rhanbarth ac wrth deithio drwyddo, gan gynnwys edrych ar le mae’r siwrneiau hynny’n dechrau ac yn gorffen, ar adegau gwahanol o'r dydd ac yn ystod tymhorau gwahanol, gan gynnwys siwrneiau cludo nwyddau;
  • dadansoddi sut y mae trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn cael eu defnyddio yn y rhanbarth ac i deithio drwyddo, ac edrych ar le mae'r teithiau hynny'n dechrau ac yn gorffen. Gall hynny gynnwys siwrneiau sy'n dechrau ac yn gorffen y tu allan i ogledd Cymru;
  • ystyried lle mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, diffyg perchnogaeth ar geir neu ddiffyg coridorau teithio llesol diogel yn creu problemau sylweddol mewn cymunedau;
  • edrych ar y rhaglen bresennol o ymyriadau i helpu pobl yng ngogledd Cymru i newid eu dulliau teithio, gan gynnwys rhaglen Metro Gogledd Cymru a gweithgarwch perthnasol arall sydd eisoes yn digwydd yn y rhanbarth i gefnogi teithio llesol a sefydlu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus cynaliadwy.

Ar sail y dadansoddiad hwn ac adborth rhanddeiliaid, bydd y Comisiwn yn mynd ati wedyn i ystyried cynigion ar gyfer newid dulliau teithio ar draws gogledd Cymru.

Bydd argymhellion y Comisiwn yn cael datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid ac yn ystyried polisïau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb.

Y Comisiwn:

  • bydd yn agored i farn y cyhoedd a'r holl randdeiliaid, gan gynnwys Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, grwpiau busnes, partneriaid cymdeithasol, grwpiau amgylcheddol, grwpiau defnyddwyr trafnidiaeth, cynrychiolwyr gwleidyddol lleol a chenedlaethol.
  • bydd yn ystyried anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gan ystyried problemau uniongyrchol a thueddiadau at y dyfodol, megis effaith mathau amgen o danwydd a cherbydau cysylltiedig ac awtonomaidd.
  • bydd yn ystyried adroddiad y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd a materion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol eraill, gan gynnwys ansawdd aer.
  • gall ystyried y materion ymddygiadol y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau bod dulliau gwahanol o deithio yn cael eu mabwysiadu ym maes trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a sut y gallai’r atebion ymateb i'r ffactorau hynny.
  • gall roi cyngor ar ymyriadau arloesol ac atebion o ran cyllido. Gall ystyried unrhyw faterion, gan gynnwys llywodraethu, costau, cyllido, sut i gynllunio a rheoli rhaglenni / prosiectau, a gall argymell gwelliannau i brosesau statudol.
  • bydd yn gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei wasanaethu gan Ysgrifenyddiaeth a fydd yn helpu i redeg y Comisiwn ac i gyflawni ei waith.