Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu

Penodir Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gan y Prif Weinidog am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd. 

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gyd yn cael eu penodi am gyfnod o saith mlynedd yn y swydd.

Mae’r comisiynydd a phobl hŷn a’u cynrychiolwyr i gyd wedi galw am alinio cyfnod ei swydd â’r comisiynwyr eraill yn barod ar gyfer penodi’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru nesaf. Felly, mae’r cynnig hwn yn ymateb i farn pobl hŷn, sy’n grŵp gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. 

Daw cyfnod swydd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru presennol i ben ym mis Awst 2024 ac mae gwaith yn dechrau i benodi’r comisiynydd nesaf. Mae swyddogion yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig i ddiwygio’r rheoliadau presennol i gysoni Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â’r tri chomisiynydd arall drwy benodi ar gyfnod swydd sefydlog, na ellir ei ymestyn, o saith mlynedd.

Yn ogystal ag ymateb i geisiadau gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru presennol a phobl hŷn, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i sicrhau bod nifer fwy o bobl hŷn a sefydliadau statudol a sefydliadau'r trydydd sector yn fodlon ar y cynnig i ymestyn. Mae'r ymgynghoriad wedi'i ddosbarthu i grwpiau a fforymau pobl hŷn. 

Rydym hefyd wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynnig gydag aelodau Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio a rhwydwaith o arweinwyr oed-gyfeillgar yr awdurdodau lleol ac wedi gofyn am eu hadborth drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus. Mae hefyd wedi'i drafod gyda'r staff sy'n gweithio yn swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru presennol gan y bydd y cynnig yn effeithio arnynt.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol

Os na fydd y rheoliadau presennol yn cael eu newid, bydd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru nesaf yn cael ei benodi ym mis Awst 2024 am gyfnod o bedair blynedd. Gallai hyn gael ei weld fel cyfle a gollwyd i greu cysondeb a gallai arwain at awgrymiadau nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi statws cyfartal i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru o’i gymharu â chomisiynwyr eraill Cymru. Ar ben hynny, bydd y diwygiad arfaethedig i’r rheoliadau yn dileu’r gofyniad i gomisiynwyr yn y dyfodol ofyn i’r Prif Weinidog am estyniad o ddwy flynedd ar ôl cwblhau cyfnod o bedair blynedd yn llwyddiannus.

Bydd hefyd yn cael gwared ar unrhyw ansicrwydd ynghylch hyd cyfnod swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac yn caniatáu i bobl hŷn gynnal perthynas tymor hwy gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru presennol.

Mae swyddogaethau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnwys y canlynol:

  • hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
  • annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru 
  • adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru

Felly, bydd y cynnig yn caniatáu i gomisiynwyr y dyfodol ddatblygu a hyrwyddo polisïau dros gyfnod hwy sy’n helpu i amddiffyn hawliau pobl hŷn ac annog arfer da. Gallai hyn yn ei dro atal pobl hŷn rhag profi gwasanaethau a gwahaniaethu sy’n niweidiol i’w hiechyd a’u llesiant. 

Bydd ymestyn cyfnod y swydd i saith mlynedd yn galluogi comisiynwyr y dyfodol i wreiddio dulliau gweithredu sy’n ystyriol o oedran a pharhau i weithio tuag at wireddu’r nod a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio i greu Cymru lle mae pob un ohonom eisiau byw nawr ac yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cefnogi comisiynwyr i gydbwyso anghenion tymor byr yn well â’r angen i ddiogelu anghenion hirdymor, yn unol â’r ddyletswydd a roddir ar gyrff cyhoeddus gan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau

Bydd perfformiad comisiynwyr y dyfodol yn cael ei fonitro gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac uwch-swyddogion a bydd unrhyw fanteision neu faterion sy’n deillio o’r cyfnod estynedig yn y swydd yn cael eu nodi yn y cyfarfodydd hyn.