Neidio i'r prif gynnwy

Nodwedd neu grŵp gwarchodedig

Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran)

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)  

Bydd ymestyn cyfnod swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i saith mlynedd yn galluogi comisiynwyr y dyfodol i gyrraedd ystod ehangach o bobl hŷn a gwella eu gallu i ddylanwadu'n gadarnhaol ar y llywodraeth a gwasanaethau statudol. Gallai’r sefydlogrwydd hwn ddod â mwy o fuddion i bobl hŷn a’u cymunedau na’r ansicrwydd o gyfnod o bedair blynedd wedi’i ddilyn gan ddwy flynedd arall a ganiateir dim ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chytundeb y Prif Weinidog.

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau

Bydd perfformiad unrhyw gomisiynwyr yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Weinidogion Cymru ac uwch-swyddogion er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

Anabledd

Ystyriwch y model cymdeithasol o anabledd [troednodyn1] a sut y gallai eich cynnig achosi’n anfwriadol, neu sut y gellid ei ddefnyddio’n rhagweithiol i ddileu, y rhwystrau sy’n anablu pobl sydd â gwahanol fathau o namau.

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) 

‘Diffinnir rôl a phwerau statudol y Comisiynydd gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a'r Rheoliadau ategol.

Mae'r Ddeddf yn amlinellu'r camau y mae’r Comisiynydd yn gallu eu cymryd i sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo pan fydd cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu swyddogaethau, a'r cymorth y gall y Comisiynydd ei ddarparu'n uniongyrchol i bobl hŷn dan rai amgylchaidau penodol.’

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Gan fod cyfran uwch o bobl hŷn yn byw ag anabledd neu gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd, rhagwelir y gallai darparu cyfnod hwy yn y swydd ar gyfer comisiynwyr y dyfodol helpu i chwalu rhwystrau sy’n anablu pobl â gwahanol fathau o namau.

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau

Bydd perfformiad unrhyw gomisiynwyr yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Weinidogion Cymru ac uwch-swyddogion er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

Ailbennu rhywedd (y broses o drawsnewid a phobl drawsryweddol) 

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) 

Un o swyddogaethau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw ‘hyrwyddo hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru’.

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Felly byddai disgwyl y bydd comisiynwyr y dyfodol yn ymgysylltu â phobl drawsryweddol hŷn ac yn hyrwyddo eu buddiannau. Dylai'r gallu i wneud hyn dros y cyfnod estynedig o saith mlynedd heb ymyrraeth nac ansicrwydd ddod â manteision i'r grŵp hwn. 

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau

Bydd perfformiad unrhyw gomisiynwyr yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Weinidogion Cymru ac uwch-swyddogion er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol.  

Hil (gan gynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr, a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)  

Mae swyddogaethau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnwys y canlynol:

  • hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
  • annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru
  • adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru’

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Bydd cyfnod estynedig yn y swydd yn cynyddu gallu comisiynwyr y dyfodol i wrando ar brofiadau gwahanol leiafrifoedd a datblygu atebion arloesol a hirdymor.

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau

Bydd perfformiad unrhyw gomisiynwyr yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Weinidogion Cymru ac uwch-swyddogion er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

Crefydd, cred a diffyg cred

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol. 

Rhyw / Rhywedd

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)  

Un o swyddogaethau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw ‘hyrwyddo hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru’.

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Felly, disgwylir y bydd comisiynwyr y dyfodol yn ymgysylltu â phobl sydd â rhyw/rhywedd gwahanol ac yn hyrwyddo eu buddiannau. Dylai'r gallu i wneud hyn dros y cyfnod estynedig o saith mlynedd heb ymyrraeth nac ansicrwydd ddod â mwy o fanteision i'r grŵp hwn.  

Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) 

Un o swyddogaethau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw ‘hyrwyddo hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru’.

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Felly byddai disgwyl i gomisiynwyr y dyfodol ymgysylltu â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn ac yn hyrwyddo eu buddiannau. Dylai'r gallu i wneud hyn dros y cyfnod estynedig o saith mlynedd heb ymyrraeth nac ansicrwydd ddod â manteision i'r grŵp hwn. 

Priodas a phartneriaeth sifil

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol. 

Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol. 

Aelwydydd incwm isel

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)  

Gallai effaith gadarnhaol ddigwydd ar aelwydydd incwm isel hŷn os bydd comisiynwyr y dyfodol yn dewis parhau ag ymgyrch y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru presennol i gynyddu’r nifer sy’n hawlio credyd pensiwn yng Nghymru. Bydd cynnydd yn y defnydd o gredyd pensiwn hefyd yn rhoi mwy o arian i bobl hŷn ei wario yn eu cymunedau lleol, a thrwy hynny fod o fudd i'r economi leol. Byddai cyfnod hwy o saith mlynedd heb unrhyw ymyrraeth, megis yr angen i wneud cais am estyniad o ddwy flynedd, yn creu parhad ac yn cryfhau unrhyw ymgyrchoedd sy'n ymwneud â llesiant economaidd pobl hŷn.

Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau

Bydd perfformiad unrhyw gomisiynwyr yn y dyfodol yn cael ei fonitro gan Weinidogion Cymru ac uwch-swyddogion er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl.

Hawliau dynol 

Hawliau dynol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig

A fydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl yn eich barn chi? (Darllenwch bwynt 1.4 yng Nghanllawiau’r Asesiad Effaith Integredig i gael rhagor o wybodaeth am hawliau dynol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig).

Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig

Cadarnhaol

Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)  

Mae swyddogaethau statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnwys y canlynol:

  • hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
  • anog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru 
  • adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru’

Swyddogaeth a Phwerau Cyfreithiol – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Bydd cyfnod estynedig yn y swydd yn cynyddu gallu comisiynwyr y dyfodol i weithio mewn partneriaeth â phobl hŷn a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol a sefydlu dull gweithredu seiliedig ar hawliau ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. 

Troednodyn

 [1] Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd.  Rydym yn deall nad yw pobl anabl yn anabl oherwydd eu namau ond oherwydd y rhwystrau y maent yn dod ar eu traws mewn cymdeithas. Sicrhau bod eich cynnig yn cael gwared ar rwystrau, yn hytrach na'u creu, yw'r ffordd orau o wella cydraddoldeb i bobl anabl. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r fewnrwyd a chwiliwch am ‘y model cymdeithasol’.