Neidio i'r prif gynnwy

Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. 

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymroddedig i'r strategaeth newydd, gyda tharged o filiwn o siaradwyr wedi'i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu.Mae iaith Gymraeg ffyniannus hefyd yn cael ei chynnwys fel un o'r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae gennym hefyd rwymedigaeth strategol i ystyried effaith lawn ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut y mae ein polisïau yn effeithio ar yr iaith a'r rheini sy'n ei siarad.

Mae gan strategaeth Cymraeg 2050 dair thema ryng-gysylltiedig:

1.    A yw'r cynnig yn cysylltu'n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050, Miliwn o siaradwyr a'r rhaglen waith gysylltiedig ar gyfer 2021–2026? Cymraeg 2050: rhaglen waith 2021 i 2026.

Gellid cysylltu’r cynnig i ymestyn cyfnod swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i saith mlynedd â’r thema ‘cynyddu defnydd o’r Gymraeg’ gan y bydd tymor o saith mlynedd yn rhoi mwy o gwmpas ac amser i gomisiynwyr y dyfodol ganolbwyntio ar y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas â chynnig y Gymraeg i bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau statudol. 

2.    Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg. Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? Dylech nodi eich ymateb i’r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, yn ogystal â chynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol arall: 

Mae’n debygol y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg gan fod rôl statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnwys y canlynol:

  • hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
  • annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru 
  • adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru

Disgwylir y bydd unrhyw Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y dyfodol yn hyrwyddo’r hawliau yng Nghymru sy’n ymwneud â’r Gymraeg a bydd cyfnod swydd o saith mlynedd yn caniatáu i gomisiynwyr y dyfodol ganolbwyntio mwy ar gefnogi’r Gymraeg, yn unol â’r dyletswyddau statudol i wneud hynny. 

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus wedi cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â’r Gymraeg a bydd swyddogion yn nodi ac yn mynd i’r afael ag unrhyw sylwadau negyddol sy’n codi. Bydd yr hysbyseb ar gyfer y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru nesaf yn nodi bod angen sgiliau Cymraeg o’r diwrnod cyntaf i gyflawni’r rôl yn foddhaol, a cheisir rhywun â’r sgiliau hynny, ond gellir gwneud trefniadau tymor byr hyd nes y bydd gallu ieithyddol y sawl a benodir yn gwella i’r lefel angenrheidiol ar gyfer y penodiad. Mae gan Lywodraeth Cymru Ganllaw Lefel Sgiliau Iaith Gymraeg o 1 i 5 ar gyfer pob sgìl. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyrraedd Lefel 3 ar gyfer Deall, 1 ar gyfer Darllen, 3 ar gyfer Siarad, ac 1 ar gyfer Ysgrifennu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Uned Penodiadau Cyhoeddus.