Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Mae'r Concordat hwn yn nodi'r fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer cydweithredu rhwng Llywodraeth y DU (gan gynnwys Awdurdod Ystadegau'r DU a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol) a'r gweinyddiaethau datganoledig, mewn perthynas â chynhyrchu ystadegau, ar gyfer ac o fewn y DU, safonau ystadegol a'r proffesiwn ystadegau (mae system ystadegol y DU yn cwmpasu holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol y DU).
     
  2. Caiff y Concordat hwn ei wneud rhwng yr Ystadegydd Gwladol (Pennaeth Gwasanaeth Ystadegol a Swyddogaeth Ddadansoddi'r Llywodraeth a Phrif Weithredwr Awdurdod Ystadegau'r DU/Y Swyddfa Ystadegau Gwladol), yr Ysgrifenyddion Parhaol i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a'r Adran Gyllid (Gogledd Iwerddon), yr Ail Ysgrifennydd Parhaol yn Swyddfa'r Cabinet, a Phrif Ystadegwyr y gweinyddiaethau datganoledig.
     
  3. Mae'r ddogfen hon yn dilyn y setliadau datganoli  a dylid ei darllen ar y cyd â chytundebau ehangach ar gydberthnasau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Y ddeddfwriaeth allweddol at ddibenion setliadau datganoli yw Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006, Deddf yr Alban 1998 a Deddf Gogledd Iwerddon 1998, y caiff pob un ohonynt ei diwygio o bryd i'w gilydd, ac unrhyw ddeddfau sy'n eu disodli.
     
  4. Bydd pob trefniant yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a safonau rhyngwladol perthnasol, gan gynnwys Egwyddorion Sylfaenol y Cenhedloedd Unedig ar Ystadegau Swyddogol, yn ogystal â deddfwriaeth berthnasol megis Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, a Gorchmynion Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau cysylltiedig, a Deddfwriaeth Diogelu Data.
     
  5. Mae'r Concordat yn adlewyrchu cyfrifoldeb yr Ystadegydd Gwladol dros safonau proffesiynol ar gyfer ystadegau swyddogol o dan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan gynnwys ansawdd ystadegau swyddogol, arferion da mewn perthynas ag ystadegau swyddogol, a natur gynhwysfawr ystadegau swyddogol.
     
  6. Mae'r Concordat hwn yn disodli Concordat 2016 ar Ystadegau, a gyflwynwyd yn lle'r Cytundeb Gwaith Rhyng-weinyddiaeth ar Ystadegau, a'r Concordat ar Ystadegau a oedd yn rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth 2001.

Diben y concordat

  1. Mae cydweithrediad mewn perthynas ag ystadegau, boed yn ddatganoledig neu beidio (nodir diffiniadau o ystadegau datganoledig yn Neddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 at ddibenion y Ddeddf), yn hanfodol er mwyn sicrhau, cyhyd ag y bo'n bosibl, bod system ystadegol y DU yn diwallu anghenion statudol ac anstatudol Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig, sefydliadau rhyngwladol, cyd ddadansoddwyr ac ymchwilwyr a defnyddwyr eraill, nawr ac yn y dyfodol.
     
  2. Mae'r Concordat hwn yn rhoi sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn parhau i gydweithio er mwyn dod i gonsensws ynghylch y ffordd orau o ddiwallu'r anghenion hyn, yn cynhyrchu ystadegau cydlynol/cymharol ar lefel y DU ac ar lefelau wedi'u dadgyfuno, lle y bo'n briodol; ac yn cydnabod ar yr un pryd ei fod yn bosibl na fydd gan weinyddiaethau yr un cyd-destun polisi bob amser ac y dylai ystadegau swyddogol adlewyrchu anghenion defnyddwyr lleol yn ogystal ag anghenion defnyddwyr y DU.
     
  3. Fel y cyfryw, mae'n cydnabod yr atebolrwyddau deuol sydd gan Brif Ystadegwyr pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig: atebolrwydd proffesiynol i'r Ystadegydd Gwladol yng nghyd-destun Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007; a'u hatebolrwydd i'r deddfwrfeydd perthnasol. Mae hefyd yn cydnabod atebolrwydd yr Ystadegydd Gwladol, drwy Awdurdod Ystadegau'r DU, i Senedd y DU, Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon o dan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007.
     
  4. Mae pob parti yn ymrwymedig i'r budd cyffredin o hyrwyddo uniondeb ac annibyniaeth ystadegau swyddogol a chydymffurfio â safonau proffesiynol perthnasol a gydnabyddir yn rhyngwladol.
     
  5. Mae'r Concordat hwn yn nodi'r hyn a fydd yn sail i system ystadegol y DU o ran:
     
    • nodi anghenion Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig, sefydliadau rhyngwladol a defnyddwyr eraill ar gyfer ystadegau'r DU ac ystadegau wedi'u dadgyfuno
    • blaenoriaethu a dod i gonsensws ar yr ystadegau a'r seilwaith ystadegol sydd eu hangen i ddiwallu'r anghenion hyn
    • drwy raglen waith gydweithredol, cynhyrchu ystadegau swyddogol cydlynol/cymharol mewn ffordd sy'n cynrychioli gwerth da am arian
    • yn yr un ffordd, cydweithio er mwyn sicrhau bod seilwaith ystadegol Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn gyson er mwyn ei gwneud yn haws cynhyrchu data ac ymgymryd â gwaith dadansoddi ledled y DU, lle y bo'n briodol
    • dylanwadu ar y broses o adrodd ar ystadegau rhyngwladol a chyfrannu ati
    • cyfnewid data a gwybodaeth arall, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol
    • ymgynghori â'i gilydd ynghylch buddiannau a rennir
    • cydweithredu ar faterion sy'n ymwneud â safonau proffesiynol a staff ystadegol.

Cwmpas

  1. Mae Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn ymgysylltu â'i gilydd mewn perthynas ag ystadegau mewn llawer o fforymau polisi gwahanol. Ymgymerir â'r gweithgarwch ymgysylltu hwn yn unol â'r egwyddorion cyffredinol a nodir yn y Concordat hwn.
     
  2. Mae gan Adrannau Llywodraeth y DU a phob gweinyddiaeth ddatganoledig gyfraniad i'w wneud tuag at roi cyngor a gwybodaeth ystadegol i'w gweinyddiaethau eu hunain a gweinyddiaethau eraill, mewn perthynas â materion datganoledig a materion nad ydynt wedi'u datganoli, a chynhyrchu ystadegau cydlynol a chymharol (ar lefel ryngwladol, lefel y DU a lefelau daearyddol eraill). Fodd bynnag, mae'r Concordat hwn yn cydnabod ei fod yn bosibl na fydd gan weinyddiaethau yr un blaenoriaethau ac amcanion bob amser. Gall hyn olygu bod ganddynt ofynion ystadegol gwahanol.
     
  3. Mae'r Concordat hwn yn cwmpasu'r canlynol:
     
    • unrhyw weithgarwch y mae'r llywodraeth yn ymgymryd ag ef sy'n cynnwys defnyddio data at ddibenion ystadegol (gan gynnwys data a geir gan ffynonellau gweinyddol, arolygon a ffynonellau eraill) lle mae gan ddwy weinyddiaeth neu fwy fuddiant uniongyrchol fel darparwyr neu ddefnyddwyr gwybodaeth
    • gwaith a wneir gan gynhyrchwyr ystadegau swyddogol
    • gweithgarwch sy'n gysylltiedig â sicrhau bod safonau proffesiynol uchel yn cael eu cynnal ym mhob gweinyddiaeth wrth gynhyrchu, darparu a defnyddio gwybodaeth ystadegol
    • y gwaith a wneir gan awdurdodau cyhoeddus i ddatblygu ffynonellau gweinyddol a'r defnydd a wneir ohonynt, a ffynonellau eraill, mewn ystadegau swyddogol.
       
  4. Nid yw hyn yn cwmpasu'r defnydd o ddata gweinyddol na data eraill at ddibenion nad ydynt yn rhai ystadegol ac nid yw'n cwmpasu rhannu gwybodaeth am gyngor ystadegol sydd wedi cael ei roi i swyddogion polisi neu Weinidogion (fodd bynnag, gall gweinyddiaethau gytuno i rannu'r wybodaeth hon).

Meysydd cydweithio

Cydlyniaeth

  1. Bydd y gweinyddiaethau yn cydweithio i gyflwyno cyfres gytûn o ystadegau cydlynol, dibynadwy, cyson ac amserol am y DU a ledled y DU er mwyn diwallu anghenion Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig a defnyddwyr domestig eraill, cyhyd ag y bo'n bosibl.
     
  2. Drwy gonsensws, bydd y gweinyddiaethau yn datblygu cynllun gwaith blynyddol er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau ac anghenion a rennir, yn rhagweithiol ac ar y cyd, er mwyn sicrhau mwy o gydlyniaeth o ran y ffordd y caiff data ac ystadegau eu cynhyrchu ledled y DU. Er bod cydnabyddiaeth na fydd gan weinyddiaethau yr un cyd-destun polisi bob amser o bosibl ac y dylai ystadegau swyddogol adlewyrchu anghenion defnyddwyr lleol yn ogystal ag anghenion defnyddwyr y DU, bydd cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ym mhob gweinyddiaeth yn anelu at ddatblygu:
     
    • ystadegau newydd neu ystadegau sy'n bodoli eisoes yn y cyfryw ffordd sy'n sicrhau eu bod yn diwallu anghenion prif ddefnyddwyr ac yn helpu i sicrhau cydlyniaeth a chymharedd yn y DU ac yn rhyngwladol
    • seilwaith cydlynol, gan gynnwys platfformau, diffiniadau a dosbarthiadau rhyngweithredol ar gyfer cysylltu a dadansoddi data, ym mhob rhan o Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn ei gwneud yn haws cynhyrchu data ac ymgymryd â gwaith dadansoddi ledled y DU.
       
  3. Pan fo angen ystadegau newydd, o dan setliadau datganoli newydd a setliadau datganoli sy'n cael eu datblygu, bydd cynhyrchwyr ystadegau yn ystyried, cyhyd ag y bo'n briodol, a ddylent gynhyrchu ystadegau cyfatebol lle y bo'n ymarferol, i lefel ansawdd gymharol, yn dibynnu ar yr angen a ddangosir ymhlith defnyddwyr a'r adnoddau angenrheidiol sydd ar gael.
     
  4. Bydd cynhyrchwyr ystadegau swyddogol yn parhau i achub ar gyfleoedd i gydweithio er mwyn gwella ansawdd ystadegau swyddogol a sicrhau gwerth am arian, nodi blaenoriaethau a rhannu arbenigedd/arferion gorau er mwyn gwneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael.

Safonau a rhwymedigaethau rhyngwladol

  1. Fel Sefydliad Ystadegau Gwladol cydnabyddedig y DU, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydgysylltu'r broses o ddarparu data ac ystadegau'r DU a data ac ystadegau wedi'u dadgyfuno i sefydliadau rhyngwladol. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydgysylltu mewnbwn i ddatblygiadau mewn safonau, rhwymedigaethau a gofynion rhyngwladol hefyd, gan hysbysu Adrannau Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig am ddatblygiadau perthnasol cyn gynted â phosibl.
     
  2. Mae'r gweinyddiaethau yn cydnabod y cyfrifoldebau a rennir ganddynt o ran cyflawni safonau a bodloni rhwymedigaethau rhyngwladol. Bydd Penaethiaid Proffesiwn ar gyfer Ystadegau yn Adrannau Llywodraeth y DU a'r Prif Ystadegwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cydweithio i sicrhau bod y cyfrifoldebau hyn yn cael eu cyflawni ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu safonau rhyngwladol ar ystadegau a'u rhoi ar waith.
     
  3. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw ddata gofynnol ar gael ar amser, yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol perthnasol o ran ansawdd, ac yn dilyn Egwyddorion Sylfaenol y Cenhedloedd Unedig ar Ystadegau Swyddogol.

Rhannu data

  1. Mae'r gweinyddiaethau yn cydnabod y gall gweinyddiaeth arall ofyn am y wybodaeth a gynhyrchir neu a ddelir ganddynt (gan gynnwys data adnabyddadwy a data cyfunol/anadnabyddadwy) at ddibenion ystadegol.
     
  2. Yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a diogelu data ac angen a ddangosir gan ddefnyddwyr, lle y gwneir cais, bydd gweinyddiaethau yn rhannu data a gwybodaeth arall gyda'i gilydd at eu dibenion ystadegol, yn amserol ac yn amodol ar argaeledd a chytundebau ynghylch rhannu costau.
     
  3. Bydd y gweinyddiaethau yn ceisio lleihau'r baich ar ddarparwyr data, er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o ffynonellau data sy'n bodoli eisoes a sicrhau bod data yn cael eu cyfnewid mewn ffordd effeithlon a diogel, gan gynnal lefel ymddiriedaeth a rennir ar draws System Ystadegol y DU o ran mynediad at ddata.
     
  4. Bydd Adrannau Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i sicrhau, lle y caiff data eu cyfnewid, y caiff y data hynny eu defnyddio at ddibenion ystadegol/ymchwil yn unig, heb unrhyw gyfyngiadau ar ddefnydd a nodir o dan y gyfraith ac mewn cytundebau rhannu data, y caiff preifatrwydd darparwyr data, unigolion a sefydliadau ei ddiogelu bob amser ac yr ymdrinnir â data yn unol â chanllawiau diogelwch y llywodraeth. Byddant hefyd yn cydnabod pwysigrwydd hyn o ran sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd yn System Ystadegol y DU.

Ymgynghori a chydweithio ehangach

  1. Bydd gweinyddaethau yn ymgynghori â'i gilydd ar fuddiannau cyffredin gan gynnwys cynlluniau gwaith ystadegol perthnasol, prosesau casglu data a chyhoeddiadau sydd ar ddod.
     
  2. Bydd gweinyddiaethau yn ceisio adborth gan eraill mewn perthynas â'r gwaith o ddatblygu casgliadau data newydd a chasgliadau data sy'n bodoli eisoes, yn enwedig pan fo'r cyfryw gasgliadau yn croesi ffiniau gweinyddiaethau.
     
  3. Lle y bwriedir rhoi'r gorau i allbynnau ystadegau a/neu gasgliadau data neu wneud newidiadau iddynt a allai effeithio ar gymharedd neu gydlyniaeth ystadegau ledled y DU, bydd gweinyddiaethau yn ceisio adborth gan eraill ar gam cynnar.
     
  4. Mae caniatâd gan SYG i gyhoeddi ystadegau datganoledig yn ddarostyngedig i adran 20 o Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007. Er nad yw wedi'i nodi mewn deddfwriaeth, bydd pob gweinyddiaeth yn parhau i gydweithredu drwy gydymffurfio â'r egwyddor na fydd yn cyhoeddi unrhyw ystadegau mewn perthynas â swyddogaethau gweinyddiaeth arall heb geisio cydsyniad a sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer sicrhau ansawdd ac, os yw'n briodol, gweld ystadegau cyn eu rhyddhau.
     
  5. Bydd ystadegau swyddogol yn parhau i gael eu cynhyrchu o fewn y fframwaith presennol ar gyfer ystadegau swyddogol y DU, gan ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a safonau cyffredin eraill megis Egwyddorion Sylfaenol y Cenhedloedd Unedig ar Ystadegau Swyddogol.
     
  6. Bydd y pedair gweinyddiaeth yn cydweithio i gyfrannu at amcanion Awdurdod Ystadegau'r DU fel y nodir yn Neddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Safonau proffesiynol a staff ystadegol

  1. Bydd y gweinyddiaethau yn cydweithio ar faterion sy'n effeithio ar y proffesiwn ystadegau a chynhyrchwyr ystadegau swyddogol ledled y DU.
     
  2. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a, lle y bo'n berthnasol, Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon, yn mynd ati ar y cyd i ddatblygu staff Gwasanaeth Ystadegol a Swyddogaeth Ddadansoddi'r Llywodraeth, gan gynnwys er mwyn lleihau rhwystrau rhag symud a dysgu rhwng gweinyddiaethau.

Gweithredu ac adolygu

  1. Caiff gweithrediad da'r Concordat ei oruchwylio gan y Pwyllgor Rhyng-weinyddiaeth sy'n hyrwyddo cydlyniaeth rhwng gweinyddiaethau'r DU ac yn datrys materion rhyngddynt ar lefel strategol. Caiff y Pwyllgor ei gadeirio gan yr Ystadegydd Gwladol ac ymhlith ei aelodau mae Prif Ystadegwyr a Chofrestrwyr Cyffredinol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
     
  2. Ni fwriedir i'r Concordat fod yn gontract a orfodir yn gyfreithiol ac ni fwriedir iddo greu unrhyw hawliau na rwymedigaethau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol.
     
  3. Caiff y Concordat ei adolygu'n ffurfiol ar ôl blwyddyn gan yr Ystadegydd Gwladol a Phrif Ystadegwyr y gweinyddiaethau datganoledig, a phob pum mlynedd wedi hynny – er y gall unrhyw un o'r unigolion hyn wneud cais am adolygiad ffurfiol unrhyw bryd.
     
  4. Mae'n rhaid ceisio barn yr Ystadegydd Gwladol a phob un o'r tri Phrif Ystadegydd ar unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Concordat.
     
  5. Lle y bo angen, caiff trefniadau mwy penodol eu cynnwys mewn concordatiau dwyochrog rhwng Adrannau Llywodraeth y DU (gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol) a gweinyddiaethau datganoledig, neu mewn cytundebau eraill megis Cytundebau Lefel Gwasanaeth a Chytundebau Rhannu Data. Dim ond os ydynt yn ychwanegu gwerth at yr egwyddorion yn y Concordat hwn y bydd angen Cytundebau Lefel Gwasanaeth ychwanegol, er enghraifft lle mae angen data er mwyn cyflawni ymrwymiadau penodol neu gydymffurfio â dyddiadau cyflenwi penodol. Mae'n rhaid i'r cyfryw gytundebau ychwanegol fod yn gyson â'r Concordat hwn a byddant yn ddarostyngedig i gytundeb partïon perthnasol.
     
  6. Os na all y rhai sy'n uniongyrchol gysylltiedig ddatrys problemau sy'n ymwneud â materion ystadegol ar draws system ystadegol y DU, bydd yr Ystadegydd Gwladol yn ceisio sicrhau cytundeb. O dan amgylchiadau anarferol pan na ellir dod i gytundeb, bydd yr Ystadegydd Gwladol yn codi materion ag Adran/Adrannau perthnasol Llywodraeth y DU a/neu'r weinyddiaeth/gweinyddiaethau datganoledig ac yna drwy'r broses osgoi a datrys anghydfodau rhynglywodraethol os bydd angen.
Image

Leslie Evans
Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth yr Alban

Image

Colum Boyle
Ysgrifennydd Parhaol Dros Dro
Gogledd Iwerddon, Yr Adran Gyllid

Image

Shan Morgan
Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru

Image

Sue Gray
Ail Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer Undeb a Chyfansoddiad
Swyddfa’r Cabinet

Image

Athro Sir Ian Diamond
Ystadegydd Gwladol y DU

29 Hydref 2021