Neidio i'r prif gynnwy

Cymal pwrpas

Pwrpas y Concordat yw darparu sylfaen i’r berthynas rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru. Mae’r Concordat hwn yn cydnabod yr angen i’r Comisiwn fod â phresenoldeb gwbl effeithiol yng Nghymru.

Mae rôl y Comisiwn yng Nghymru yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

  • gyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ar lefel briodol ac yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2006
  • monitro a rheoleiddio dyletswyddau penodol Cymru a deddfiadau eraill, a
  • darparu gwybodaeth a chanllaw o ansawdd i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Statws y ddogfen hon

Nid yw’r Concordat yn gytundeb sydd â grym cyfreithiol nag yn gontract rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru, ac nid yw’n sylfaen i unrhyw ddisgwyliad cyfreithlon y bydd y naill barti na’r llall yn gweithredu mewn unrhyw ffordd benodol yn y dyfodol. Hefyd, ni fwriedir iddo gwmpasu pob agwedd fanwl y berthynas rhwng y ddau barti. Yn hytrach, datganiad o ran yr egwyddorion a’r bwriad a fydd yn llywio’r berthynas rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru ydyw. Ni all y Concordat wrthwneud na niweidio dyletswyddau cyfreithiol a phwerau naill y Comisiwn na Llywodraeth Cymru, ac ni wna hynny. Mae’n ddogfen sy’n amlinellu ymrwymiad y ddau Barti i berthynas dda ac arferion gweithio da.

Pwyllgor Cymru’r Comisiwn

Cafodd Pwyllgor Cymru’r Comisiwn ei sefydlu yn sgil Deddf Cydraddoldeb (2006) i gynghori Bwrdd y Comisiwn ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau i’r graddau y maent yn effeithio ar Gymru, ac i ddarparu cyngor i Lywodraeth Cymru am effaith deddfiad ac am effaith debygol newid arfaethedig o ran cyfraith, yn ogystal ag ymgymryd â swyddogaethau dirprwyedig a nodir drwyddi draw yn Adrannau 24 i 31 Rhestr 1 Deddf Cydraddoldeb 2006. Mae copi o Restr Deddf Cydraddoldeb ynghlwm fel Atodlen 1.

Yn unol â geiriad y Concordat hwn, bydd Pwyllgor Cymru yn gweithredu fel cyswllt cyfathrebu rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru. Bydd Pwyllgor Cymru yn ystyried ceisiadau gan Weinidogion Cymru ac yn ymateb ar ran y Comisiwn.

Perthynas weithio

Corff Prydain eang yw’r Comisiwn ac mae gofyn am berthynas weithio gadarn rhyngddo â Llywodraeth Cymru yng nghyswllt materion cydraddoldeb a hawliau dynol. Ar hyn o bryd, caiff y Comisiwn ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r Concordat yn cydnabod mai dim ond manylion cyfyng (gweler Tudalen 3) a ddarperir gan ddeddfwriaeth gydraddoldeb gyfredol o ran perthnasau rhwng y Comisiwn a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran Rheoliadau 2011 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru).

Mae’r Concordat hwn yn cyflwyno fframwaith ar gyfer y berthynas weithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn, ond yn cydnabod bod rhaid i hyn fod o fewn cyd-destun swyddogaethau a rolau statudol priodol y ddau sefydliad ac yn gyson â hwy. Yn benodol, mae rhaid cydnabod annibyniaeth y Comisiwn.

Bydd y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i nodi unrhyw agweddau yn eu perthynas a ellir eu gwella o ran effeithiolrwydd. Fel rhan o berthynas weithio adeiladol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu ei blaenoriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol â’r Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn rhannu ei raglen waith â Llywodraeth Cymru a chyflwyno cyfleoedd i roi sylwadau ar y meysydd hynny sy’n berthnasol i Gymru. Telir sylw i bob sylwad a geir.

Egwyddorion Arweiniol a Chylch Gwaith i’r Comisiwn a Phwyllgor Cymru

Mae’r egwyddorion arweiniol ar gyfer gweithrediad y Comisiwn yng Nghymru yn adlewyrchu’r ddyletswydd gyffredinol sydd gan y Comisiwn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Bydd y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau gyda’r bwriad o, ond nid yn gyfyngedig i, annog a meithrin cymdeithas lle:

  1. na lesteirir gallu pobl i wireddu eu potensial gan ragfarn neu wahaniaethu
  2. dangosir parch at hawliau dynol pob unigolyn a diogelir pob hawl
  3. dangosir parch at urddas a gwerth pob unigolyn
  4. caiff pob unigolyn gyfle cyfartal i gyfranogi yn y gymdeithas, a 
  5. dangosa grwpiau barch cyffredinol at ei gilydd yn seiliedig ar ddeall a gwerthfawrogi amrywiaeth ac mae parch cyffredinol ganddynt at gydraddoldeb a hawliau dynol.

Swyddogaethau a gafodd eu dirprwyo i Bwyllgor Cymru

Cafodd y swyddogaethau a ganlyn eu dirprwyo i Bwyllgor Cymru’r Comisiwn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 i’w alluogi i:

  • gyhoeddi syniadau neu wybodaeth neu fel arall eu lledaenu
  • ymgymryd ag ymchwil
  • darparu addysg neu hyfforddiant
  • rhoi cyngor neu arweiniad (boed ynglŷn ag effaith neu weithrediad deddfiad neu fel arall)
  • monitro effeithiolrwydd deddfiadau cydraddoldeb a hawliau dynol
  • cynghori llywodraeth ddatganoledig ynglŷn ag effaith deddfiad
  • cynghori llywodraeth ddatganoledig ynglŷn ag effaith debygol newid arfaethedig o ran y gyfraith

Cafodd y swyddogaeth a ganlyn ei dirprwyo i Bwyllgor Cymru gan Fwrdd y Comisiwn:

  • monitro perfformiad y Comisiwn yng Nghymru

Adnodd

Caiff y Comisiwn ei ariannu gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dalu arian i’r Comisiwn sydd yn swm digonol rhesymol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol i alluogi’r Comisiwn i arfer ei swyddogaethau. Hefyd, mae’r Ddeddf yn gofyn i’r Comisiwn, pan fo’n dyrannu ei adnoddau, sicrhau bod Pwyllgor Cymru yn cael rhan ddigonol i’w alluogi i arfer y swyddogaethau a gyfeiriwyd atynt uchod.

Gweithredu ac adolygu concordatiau dwyochrog

Mae’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, lle bo hynny’n bosibl, i ddatrys unrhyw anghytuno o dan y Concordat hwn, drwy sianeli gweinyddol arferol.

Gellir gwneud newidiadau i’r Concordat hwn ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru. Yn ychwanegol, caiff y Concordat hwn ei adolygu’n gyson yn ôl amserlen a gytunir gan y Comisiwn a Llywodraeth Cymru, a’i ddiweddaru fel y bo angen yng ngoleuni profiadau ymarferol ei weithrediad. Bydd adolygiad cyntaf y Concordat hwn ymhen 6 mis o ddyddiad ei arwyddo. Gall adenda gael eu cynnwys yn y Concordat hwn sydd wedi eu cytuno yn ysgrifenedig gan y naill Barti a’r llall.

Er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a thryloywder y Llywodraeth gall pob Parti sy’n rhan o’r Concordat hwn ei gyhoeddi, unwaith y caiff ei lofnodi gan y ddau Barti, heb hysbysu’r Parti arall ymlaen llaw.

Llofnodwyr

Llofnodwyd gan Jeff Cuthbert, Gwenidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ar ran Llywodraeth Cymru

Llofnodwyd gan Y Farwnes Onora O'Neill, Cadeirydd, ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Llofnodwyd Ddydd Llun 10 Mawrth 2014

Welsh Government logo

 

EHRC logo

 

Atodiad: Pwyntiau allweddol yn Neddf Cydraddoldeb 2006

Wales Committee

24 (1) The Commission shall establish a decision-making committee to be known as the Wales Committee.

(2) The Commission shall ensure that the Wales Committee is established before any of sections 8 to 12 comes into force (to any extent).

25 The Commission shall appoint as the Chairman of the Wales Committee a Commissioner appointed for the purpose of satisfying paragraph 2(3)(c).

26 The Commission shall appoint each member of the Wales Committee for a period of not less than two years or more than 5 years, subject to the possibilities of:

  1. reappointment, and
  2. dismissal in accordance with the terms of appointment.

27 The Wales Committee shall advise the Commission about the exercise of its functions in so far as they affect Wales.

28 Before exercising a function in a manner which in the opinion of the Commission is likely to affect persons in Wales, the Commission shall consult the Wales Committee.

29 (1) The power under section 13:

  1. shall be treated by virtue of this paragraph as having been delegated by the Commission to the Wales Committee in so far as its exercise, in the opinion of the Commission, affects Wales, and
  2. to that extent shall not be exercisable by the Commission.

(2) Sub-paragraph (1) does not apply to the power under section 13 in so far as it is treated as delegated to the Disability Committee in accordance with paragraph 52.

(3) Sub-paragraph (1) shall not prevent the Commission from making arrangements under section 13(1)(d) or (e) for the provision of advice or guidance to persons anywhere in Great Britain.

30 (1) The power under section 11(2)(c):

  1. shall be treated by virtue of this paragraph as having been delegated by the Commission to the Wales Committee in so far as it concerns the giving of advice to devolved government about enactments which, in the opinion of the Commission, affect only Wales, and b) to that extent shall not be exercisable by the Commission.

(2) The power under section 11(2)(d):

  1. shall be treated by virtue of this paragraph as having been delegated by the Commission to the Wales Committee in so far as it concerns the giving of advice to devolved government about proposed changes in the law which, in the opinion of the Commission, would affect only Wales, and
  2. to that extent shall not be exercisable by the Commission.

(3) Sub-paragraphs (1) and (2) shall not apply to the powers under section 11(2)(c) and (d) in so far as they are treated as delegated to the Disability Committee in accordance with paragraph 52.

31 In allocating its resources the Commission shall ensure that the Wales Committee receives a share sufficient to enable it to exercise its functions.

Relevant sections in Equality Act referred to in Wales Committee schedule

13 Information, advice, &c.

(1) In pursuance of its duties under sections 8 to 10 the Commission may:

  1. publish or otherwise disseminate ideas or information
  2. undertake research
  3. provide education or training
  4. give advice or guidance (whether about the effect or operation of an enactment or otherwise)
  5. arrange for a person to do anything within paragraphs (a) to (d)
  6. act jointly with, co-operate with or assist a person doing anything
  7. within paragraphs (a) to (d).

11 Monitoring the law

(1) The Commission shall monitor the effectiveness of the equality and human rights enactments.

(2) The Commission may:

  1. advise central or devolved government about the effect of an enactment (including an enactment in or under an Act of the Scottish Parliament);
  2. advise central or devolved government about the likely effect of a proposed change of law.