Neidio i'r prif gynnwy

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ei hadeiladau addysg wedi talu ar ei ganfed, heb unrhyw achosion pellach o RAAC wedi'u canfod yng Nghymru ac mae pob ysgol bellach ar agor i bob disgybl, meddai'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

O gymharu â gwledydd eraill yn y DU sydd wedi cynnal arolygon manwl o'u stad ysgolion, mae gan Gymru lawer llai o achosion o RAAC mewn ysgolion. Canfuwyd RAAC mewn dim ond pum ysgol yng Nghymru, o'i gymharu â 231 yn Lloegr a 39 yn yr Alban. Mae’r pump ysgol yng Nghymru wedi ailagor i’r holl ddisgyblion.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

Dros y naw mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a rhoi rhai newydd yn lle'r rhai sydd fwyaf angen sylw am resymau diogelwch ac ansawdd.

Mae'r ffaith bod cyn lleied o achosion o RAAC wedi'u nodi yn ein hysgolion, dim ond pump yng Nghymru o'i gymharu â dros 270 mewn mannau eraill yn y DU, yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ein canolfannau dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i £850m ar gyfer y cyfnod 2022 i 2023 a 2024 i 2025, sy’n gynnydd o 25% o'i gymharu â llinell sylfaen 2021 i 2022. Hyd yn hyn mae dros £2.35 biliwn wedi'i dargedu at brosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu sylweddol.

O'r 1,463 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, manteisiodd dros 170 o ysgolion o'r buddsoddiad hwn o dan y don fuddsoddi gyntaf, ac mae 200 o ysgolion a cholegau yn elwa ar y don bresennol. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £203 miliwn mewn cyfalaf cynnal a chadw dros y 4 blynedd diwethaf, yn golygu bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi gallu mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gynnal a chadw mewn perthynas â’u hysgolion a'u colegau.

Ychwanegodd Jeremy Miles:

Rwy' am ddiolch i staff ein hysgolion, cynghorau, colegau a phrifysgolion am weithredu'n gyflym dros y misoedd diwethaf i gynnal yr asesiadau hyn; ac i sicrhau'r effaith leiaf posibl ar ddysgwyr yn y nifer fach o adeiladau a oedd yn cynnwys RAAC.