Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n rhentu eu cartref yn gwneud hynny fel ‘tenant’. Mae rhai pobl yn rhentu o dan drwydded yn hytrach na thenantiaeth ac maent yn cael eu galw'n ‘drwyddedeion’. Fel arfer, caiff trwydded ei rhoi ar gyfer trefniadau byrdymor neu os yw'r lle byw yn cael ei rannu â'r landlord.

O 1 Rhagfyr 2022, bydd pawb sy'n rhentu cartref yng Nghymru yn cael ‘contract meddiannaeth’. Contract meddiannaeth yw'r cytundeb rhwng tenant neu drwyddedai sef ‘deiliad y contract’ – a'i landlord.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n rhentu eu cartref oddi wrth landlord preifat yn cael math penodol o gontract meddiannaeth, sef ‘contract safonol’. Bydd hwn yn gontract safonol cyfnod penodol neu'n gontract safonol cyfnodol. Mae contract safonol cyfnod penodol yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract a'r landlord ymrwymo i gyfnod gofynnol, yn aml chwe mis cyntaf meddiannaeth. Ar ôl diwedd y cyfnod penodol cychwynnol hwn, gall deiliad y contract a'r landlord gytuno ar gyfnod penodol newydd, a bydd deiliad y contract yn cael contract cyfnod penodol safonol arall. Neu, os bydd deiliad y contract yn parhau yn y feddiannaeth (heb gael contract newydd), caiff contract safonol cyfnodol ei greu yn awtomatig, a bydd hyn yn parhau nes bydd deiliad y contract neu'r landlord yn ei ddirwyn i ben.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofyniad am gontract cyfnod penodol, a gall deiliad y contract ddechrau ei feddiannaeth o dan gontract safonol cyfnodol. Bydd contract safonol cyfnodol yn trosglwyddo o un cyfnod rhentu i'r nesaf (e.e. o wythnos i wythnos neu o fis i fis).

Gallai rhai pobl sy'n rhentu eu cartref oddi wrth landlord cymunedol (awdurdod lleol neu gymdeithas dai) gael contract safonol hefyd. Er y gall rhai o'r contractau safonol hyn fod yn debyg i'r rhai a gynigir gan landlord preifat, mae mathau eraill o gontractau safonol y gall landlord cymunedol eu darparu fel contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Os ydych yn ddeiliad contract sydd wedi cael contract safonol, bydd y ddogfen hon yn helpu i esbonio ystyr y pethau yn y contract safonol.

Mae'r contract meddiannaeth yn cynnwys yr holl fanylion am y pethau y mae'n rhaid i ddeiliad y contract eu gwneud os yw am aros yn ei gartref, fel talu rhent i'r landlord a gwneud yn siŵr ei fod yn gofalu am ei gartref. Mae hefyd yn cynnwys y pethau y mae'n rhaid i'r landlord eu gwneud, fel gwneud yn siŵr bod y cartref yn ddiogel ac yn ffit i bobl fyw ynddo. Mae'r contract meddiannaeth hefyd yn dweud pryd a sut y gallai landlord ofyn i ddeiliad y contract adael ei gartref.

Mae math arall o gontract meddiannaeth sef ‘contract diogel’. Mae dogfen wahanol ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n helpu i esbonio beth mae'r pethau yn y contract safonol yn ei olygu. Ewch i Contractau meddiannaeth safonol: canllawiau.

Trosolwg

Mae'n rhaid i bob deiliaid contract gael ‘datganiad ysgrifenedig’ o'i gontract meddiannaeth gan y landlord. Mae'n rhaid i hwn gynnwys holl delerau'r contract meddiannaeth (y pethau i'w gwneud a'r pethau na ddylid eu gwneud) ac mae'n cymryd lle cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. (Hyd at 1 Rhagfyr 2022, defnyddir ‘cytundeb tenantiaeth’ i ddisgrifio'r contract rhwng tenant a'i landlord).

Os oes rhywun yn rhentu ei gartref cyn 1 Rhagfyr 2022, a bod ganddo gytundeb tenantiaeth yn barod, bydd y cytundeb tenantiaeth hwnnw yn troi'n gontract meddiannaeth yn awtomatig pan ddaw'r gyfraith newydd i rym ar 1 Rhagfyr. Yna, bydd gan y landlord chwe mis i roi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract. Ond os bydd deiliad y contract yn symud i mewn i'w gartref ar neu ar ôl 1 Rhagfyr, a bod ganddo gontract meddiannaeth newydd sbon felly, mae'n rhaid i'r landlord roi'r datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y symudodd i mewn.

Gall contractau meddiannaeth gynnwys pedwar math gwahanol o delerau:

  • materion allweddol – mae'r rhain yn cynnwys cyfeiriad y tŷ neu'r fflat, y dyddiad y gall deiliad y contract symud i mewn neu y mae wedi symud i mewn, swm y rhent (neu ‘gydnabyddiaeth arall’ – gweler isod am ystyr hyn) y mae'n rhaid ei dalu a phryd y mae'n rhaid ei dalu (yn wythnosol neu'n fisol fel arfer), p'un a yw'r contract yn un cyfnod penodol neu'n un cyfnodol[1] ac os bydd yn un cyfnod penodol, y cyfnod y bydd yn para.
  • telerau sylfaenol – mae'r telerau hyn yn delio â gweithrediad sylfaenol y contract. Maent yn ymdrin â phethau fel sut y gellir rhoi terfyn ar y contract. Ni ellir newid na hepgor rhai telerau sylfaenol. Gellir hepgor neu newid rhai eraill, ond dim ond os bydd deiliad y contract a'r landlord yn cytuno ar hynny, a'i fod er budd deiliad y contract. Er enghraifft, gallai'r landlord gynnig rhoi mwy na deufis o rybudd, sef y cyfnod byrraf mae'n rhaid ei roi o dan y gyfraith, cyn cynyddu'r rhent, ond ni allai roi llai na'r cyfnod byrraf gofynnol.
  • telerau atodol – mae'r telerau hyn yn delio â materion sy'n fwy tebygol o godi o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, ar yr amod bod deiliad y contract a'r landlord yn cytuno ar hynny, gellir hepgor neu newid y telerau hyn, naill ai er budd deiliad y contract neu er budd y landlord.
  • telerau ychwanegol – mae'r telerau hyn yn delio â materion eraill y gall deiliad y contract a'r landlord gytuno arnynt – er enghraifft, teler am gadw anifeiliaid anwes.

[1]Ystyr ‘cyfnodol’ yw bod y contract yn parhau o un cyfnod rhentu i'r un nesaf heb ddyddiad gorffen. Er enghraifft, os caiff y rhent ei dalu'n fisol, mae'r contract yn parhau o un mis i'r mis nesaf am gyhyd ag y bydd deiliad y contract yn dewis byw yn yr eiddo (ar yr amod nad yw'n torri telerau'r contract).

Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn

Er mwyn ei gwneud yn haws i landlordiaid a deiliaid contractau gytuno ar gontractau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol’.  Mae'r rhain yn cynnwys yr holl wybodaeth esboniadol, materion allweddol, telerau sylfaenol a thelerau atodol sy'n berthnasol i'r math o gontract y mae landlord yn ei roi i ddeiliad contract. Ewch i Datganiad ysgrifenedig enghreifftiol ar gyfer contractau safonol cyfnodol.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio'r telerau yn y datganiad ysgrifenedig enghreifftiol ar gyfer contract safonol cyfnodol mewn iaith glir. Nid yw hyn yr un fath ag esboniad cyfreithiol manwl ac ni fwriedir i'r wybodaeth fod yn fanwl gywir nac yn gynhwysfawr.  Nid yw'n cymryd lle'r geiriau a geir yn y datganiad ysgrifenedig ei hun. 

Nid yw'n ofynnol i landlordiaid ddefnyddio datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol, felly mae'n bosibl y bydd y datganiad ysgrifenedig y maent yn ei roi i ddeiliad contract yn edrych yn wahanol i'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad ysgrifenedig enghreifftiol, er enghraifft, ceir pennawd ar gyfer pob teler unigol, ac mae'r canllaw hwn yn defnyddio'r un penawdau hynny er mwyn gallu croesgyfeirio'n hawdd rhwng y canllaw a'r datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol. Mae'n bosibl y bydd y datganiad ysgrifenedig a roddir i ddeiliad y contract yn hepgor y penawdau hynny yn gyfan gwbl. Gall datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth sydd wedi trosi o gytundeb tenantiaeth blaenorol gynnwys telerau sy'n wahanol i'r telerau atodol a geir yn y datganiad ysgrifenedig enghreifftiol.

Fodd bynnag, gan fod y gyfraith yn dweud y dylai'r telerau sylfaenol ac atodol gael eu hysgrifennu mewn ffordd benodol, hyd yn oed os bydd y telerau yn ymddangos mewn mannau gwahanol mewn contract, eto i gyd dylai fod modd eu hadnabod o'r wybodaeth isod.

Nid oes canllawiau ar wahân wedi'u cyhoeddi ar y contract galwedigaethol safonol cyfnod penodol. Fodd bynnag, gan fod llawer o'r telerau a geir yn y contract galwedigaethol safonol yr un fath, ni waeth p'un a yw'r contract yn un cyfnod penodol neu'n un cyfnodol, dylai'r canllawiau hyn fod yn ddefnyddiol mewn perthynas ag esbonio telerau contract safonol cyfnod penodol.

Pan fydd yn debygol y ceir gwahaniaethau sylweddol yn y telerau rhwng contract safonol cyfnod penodol a chontract safonol cyfnodol, bydd y canllawiau hyn yn nodi'r gwahaniaethau hyn. Dylid ceisio cyngor annibynnol pan fydd unrhyw ansicrwydd yn codi.

Beth yw ystyr y telerau

Rhent a thaliadau eraill 

Mae'r ‘materion allweddol’ yn cynnwys swm y rhent y mae'n rhaid i ddeiliad y contract ei dalu i'r landlord. Byddant hefyd yn dweud pa mor aml y bydd angen ei dalu (e.e. bob mis), ac ar ba ddiwrnod neu ddyddiad y bydd angen ei dalu. [2]

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys pum teler arall sy'n ymwneud â rhent a thaliadau eraill.

Derbynneb am rent neu gydnabyddiaeth arall

Mae'r teler hwn yn golygu, os bydd deiliad y contract yn gofyn i'r landlord am dderbynneb ar ôl talu'r rhent neu gydnabyddiaeth arall, fod yn rhaid i'r landlord roi derbynneb i ddeiliaid y contract o fewn 14 diwrnod. 

Cyfnodau pan nad yw'r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi 

Mae'r teler hwn yn golygu, os na fydd cartref deiliad y contract yn ‘ffit i bobl fyw ynddo’, nid oes rhaid i ddeiliad y contract dalu rhent tra na fydd yn ffit i bobl fyw ynddo.
 
Mae ‘nid yw'n ffit i bobl fyw ynddo’ yn golygu bod risgiau difrifol i iechyd a diogelwch, fel y risg o sioc drydanol oherwydd y gwifro, felly nid yw'r cartref yn ffit i bobl fyw ynddo. Wrth benderfynu a yw'r cartref yn ffit i bobl fyw ynddo, byddai angen i ddeiliad y contract a'r landlord ystyried ‘y materion a'r amgylchiadau’ a nodwyd yn y Rheoliadau ar Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Os na fydd deiliad y contract na'r landlord yn cytuno a yw'r cartref yn ffit i bobl fyw ynddo, ac felly p'un a oes rhaid talu'r rhent ai peidio, gall deiliad y contract ddwyn y mater gerbron llys i Farnwr benderfynu. Os bydd y llys yn penderfynu bod y cartref yn ffit i bobl fyw ynddo, byddai'n rhaid i ddeiliad y contract dalu unrhyw rent y mae wedi ei atal. 

Yr hawl i osod yn erbyn

Os nad yw landlord wedi gwneud pethau y dylai fod wedi'u gwneud o dan y contract, fel rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract, mae'n rhaid i'r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract. Os bydd hyn yn digwydd, caniateir i ddeiliad y contract atal rhent sy'n gyfwerth â’r tâl digolledu sy’n ddyledus. Mewn rhai achosion, dim ond os yw'r llys wedi gorchymyn hynny y bydd tâl digolledu yn daladwy gan y landlord. Mae adran 87 o'r Ddeddf yn nodi'r holl amgylchiadau lle y gallai fod yn rhaid i landlord dalu tâl digolledu a'r ffordd y caiff ei gyfrifo.

Amrywio'r rhent 

Mae'r teler hwn yn golygu, os bydd landlord yn penderfynu newid swm y rhent, fod yn rhaid i'r landlord roi deufis o rybudd bod y rhent yn newid. Os bydd y landlord yn newid y rhent, mae'n rhaid iddo aros flwyddyn arall cyn y gall ei newid eto.  

Fel arfer, ni fydd contract safonol cyfnod penodol yn cynnwys hawl i amrywio'r rhent yn ystod y cyfnod penodol cychwynnol. Ar gyfer y cyfnod penodol cychwynnol, y rhent fydd y swm y cytunwyd arno rhwng y landlord a deiliad y contract. Os bydd deiliad y contract yn parhau yn y feddiannaeth ar ôl diwedd y cyfnod penodol heb gytuno ar gontract newydd, gall y landlord benderfynu newid y rhent yn y ffordd a ddisgrifir uchod.

Amrywio cydnabyddiaeth arall

Mae'r teler hwn yn caniatáu i gydnabyddiaeth arall gael ei newid yn yr un ffordd â rhent (oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno â'i gilydd i newid swm y gydnabyddiaeth). 

Blaendal

Os bydd landlord yn gofyn am flaendal, caiff y swm ei ddangos yn yr adran ar faterion allweddol yn y datganiad ysgrifenedig. 

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys dau deler arall sy'n ymwneud â rhent a thaliadau eraill.

Ffurf sicrwydd 

Mae'r teler hwn yn caniatáu i'r landlord ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract dalu arian fel blaendal neu ofyn am warant ysgrifenedig (er enghraifft, drwy ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract lofnodi i ddweud y bydd yn talu am unrhyw ddifrod y mae'n ei achosi). Ni chaniateir unrhyw fath arall o ‘sicrwydd’. 

Gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal 

Os oes rhaid i ddeiliad contract dalu blaendal, mae'n rhaid i'r landlord roi'r blaendal mewn cynllun blaendal tenantiaeth a gymeradwyir gan y llywodraeth. O fewn 30 diwrnod, yna mae'n rhaid i'r landlord roi gwybodaeth i ddeiliad y contract am y cynllun a'i hawliau mewn perthynas â'i flaendal.

Ymddygiad gwaharddedig

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys un teler mewn perthynas ag ymddygiad gwaharddedig.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall 

Mae'r teler hwn yn nodi beth mae'n rhaid i ddeiliad y contract, pobl sy'n byw gyda deiliad y contract a'u hymwelwyr beidio â'i wneud. Mae'n cynnwys pethau fel:

  • bod yn rhy swnllyd 
  • difrïo pobl eraill sy'n byw yn y cartref, y landlord/asiant neu bobl eraill yn y gymdogaeth neu ymosod arnynt yn gorfforol 
  • cam-drin partner (gan gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol, seicolegol, economaidd neu ariannol)
  • defnyddio'r eiddo at ddibenion troseddol, neu
  • ganiatáu i bobl eraill sy'n byw yn y cartref wneud y pethau hyn.

Os bydd deiliad y contract yn gwneud y pethau a restrir uchod, bydd yn torri ei gontract ac efallai y caiff ei droi allan o'r cartref.

Rheoli'r annedd

Mae'r telerau sy'n ymwneud â ‘rheoli'r annedd’ yn nodi'r pethau y caniateir neu na chaniateir i ddeiliad y contract eu gwneud i'w gartref. Maent yn nodi sut a phryd y gall y landlord ‘ymyrryd’ â hawl deiliad y contract i fyw yn y cartref, er enghraifft drwy ganiatáu i'r landlord fynd i mewn i'r cartref os oes ganddo reswm da dros wneud hynny. 

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys chwe theler sy'n ymwneud â ‘rheoli'r annedd’ 

Defnydd o'r annedd gan ddeiliad y contract

Mae'r teler hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael caniatâd y landlord cyn cynnal busnes yn y cartref neu adael i rywun arall gynnal busnes yn y cartref. 

Meddianwyr a ganiateir nad ydynt yn lletywyr nac yn isddeiliaid 

Mae'r teler hwn yn gadael i ddeiliad contract ganiatáu i bobl eraill fyw yn yr eiddo (e.e. aelodau teulu), ar yr amod nad ydynt yn ‘lletywyr nac yn isddeiliaid’ (sef pobl sy'n talu rhent i ddeiliad y contract yn y bôn).

Yr hawl i feddiannu heb ymyrraeth gan y landlord 

O dan y teler hwn, oni bai bod y landlord (neu rywun yn gweithredu ar ei ran) yn gwneud rhywbeth y mae'r contract neu'r gyfraith yn caniatáu iddo ei wneud neu yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei wneud (er enghraifft, mynd i mewn i'r cartref i wneud gwaith atgyweirio), caniateir i ddeiliad y contract fyw yn ei gartref heb ymyrraeth gan y landlord. 

Hawl y landlord i fynd i'r annedd – Atgyweiriadau

Mae'r teler hwn yn caniatáu i'r landlord fynd i mewn i'r cartref os bydd angen iddo wneud gwaith arolygu neu atgyweirio er mwyn sicrhau bod y cartref yn ‘ffit i bobl fyw ynddo’ ac ‘mewn cyflwr da’ (nodir ystyr y pethau hyn yn y telerau a esbonnir isod). Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r landlord roi rhybudd o 24 awr.

Os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad i'r landlord heb reswm da, gall y landlord wneud cais i'r Llys am orchymyn yn rhoi caniatâd i gael mynediad i'r cartref.

Hawl y landlord i fynd i'r annedd – atgyweiriadau i'r gosodiadau a'r ffitiadau 

Mae'r teler hwn yn gymwys os bydd deiliad y contract yn methu ag atgyweirio rhywbeth yr oedd yn gyfrifol amdano (gweler y teler Dyletswydd i hysbysu landlord am nam neu adfeiliad isod). Yn yr achosion hyn, caniateir i'r landlord fynd i mewn i'r cartref i wneud y gwaith atgyweirio ond mae'n rhaid iddo roi rhybudd o 24 awr.

Hawl y landlord i fynd i'r annedd – Argyfyngau 

O dan y teler hwn, mae'n rhaid i ddeiliad y contract roi mynediad yn syth i'w gartref i'r landlord os bydd argyfwng. Fel arall, caniateir i'r landlord fynd i mewn i'r cartref heb ganiatâd deiliad y contract. Byddai argyfyngau yn cynnwys pethau fel gwaith brys sydd ei angen i atal difrod mawr i'r cartref neu bethau, a fyddai'n achosi risg uniongyrchol i iechyd a diogelwch y bobl sy'n byw yn y cartref pe nad ymdriniwyd â nhw'n syth. 

Gofalu am yr annedd – cyfrifoldebau deiliad y contract

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r mater hwn yn nodi beth mae'n rhaid i ddeiliad y contract ei wneud i ofalu am ei gartref. Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys dau deler sy'n ymwneud â hyn.

Dyletswydd i ofalu am yr annedd 

Mae'r teler hwn yn dweud nad yw deiliad y contract yn gyfrifol os bydd pethau yn y cartref yn mynd yn dreuliedig neu'n torri drwy ddefnydd beunyddiol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ddeiliad y contract ofalu'n briodol am y cartref a'r pethau ynddo sy'n eiddo i'r landlord. Ni chaniateir i ddeiliad y contract fynd â'r pethau hynny allan o'r cartref (heb ganiatâd y landlord). Mae'n rhaid iddo hefyd gadw'r cartref ‘wedi'i addurno mewn cyflwr rhesymol’ ac ni all gadw unrhyw beth yn y cartref sy'n risg i iechyd a diogelwch.

Dyletswydd i hysbysu landlord am nam neu adfeiliad

Mae'r teler hwn yn dweud bod yn rhaid i ddeiliad y contract ddweud wrth y landlord am unrhyw namau neu ddifrod y disgwylir i'r landlord eu hatgyweirio neu ei atgyweirio. Lle nad cyfrifoldeb y landlord yw atgyweirio'r nam neu'r difrod (er enghraifft, am fod deiliad y contract wedi achosi'r difrod drwy ddiffyg gofal priodol), mae'n rhaid i ddeiliad y contract wneud y gwaith atgyweirio.

Gofalu am yr annedd – rhwymedigaethau'r landlord

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r mater hwn yn cyfeirio at y pethau y mae'n rhaid i'r landlord eu gwneud i ofalu am y cartref yn briodol yn ogystal â'r cyfyngiadau ar yr hyn y mae'n rhaid i'r landlord ei wneud.

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys saith teler sy'n ymwneud â hyn.

Rhwymedigaeth y landlord: annedd ffit i bobl fyw ynddi 

Mae'r teler hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord sicrhau bod y cartref ‘yn ffit i bobl fyw ynddo’. Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffit i Fod yn Gartref) (Cymru) yn nodi'r ‘materion a'r amgylchiadau’ i'w hystyried wrth benderfynu a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo ai peidio.  

Rhwymedigaeth y landlord i gadw annedd mewn cyflwr da

Mae'r teler hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord sicrhau bod strwythur a thu allan y cartref yn cael eu cadw ‘mewn cyflwr da’ (hynny yw pethau fel y waliau, y ffenestri a'r to). Mae hefyd yn golygu bod ‘gosodiadau gwasanaeth’, fel y cyflenwad dŵr, nwy neu drydan, mewn cyflwr da ac yn gweithio'n gywir. Safon yr atgyweiriad sy’n ofynnol yw’r ‘hyn sy’n rhesymol o ystyried oed a chymeriad yr annedd, a’r cyfnod y mae’r annedd yn debygol o fod ar gael i’w meddiannu fel cartref’. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, ni fyddai disgwyl o bosibl i dŷ hŷn, sy'n debygol o gael ei feddiannu am gyfnod byr yn unig, fod mewn cyflwr cystal â thŷ mwy newydd sy'n debygol o gael ei feddiannu am gyfnod hir. 

Rhwymedigaethau eraill y landlord mewn perthynas â ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi a chadw annedd mewn cyflwr da   

Mae'r teler hwn yn golygu, os bydd landlord yn achosi difrod wrth gynnal gwaith i sicrhau bod cartref yn ffit i bobl fyw ynddo a'i fod mewn cyflwr da, mae'n rhaid iddo atgyweirio'r difrod hwnnw. Mae'r teler hefyd yn dweud na all landlord ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract wneud y gwaith sy'n angenrheidiol i gadw ei gartref yn ffit i bobl fyw ynddo ac mewn cyflwr da.

Cyfyngiadau ar rwymedigaethau'r landlord mewn perthynas â ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi a chadw annedd mewn cyflwr da: cyffredinol  
Cyfyngiadau ar rwymedigaethau'r landlord mewn perthynas â ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi a chadw annedd mewn cyflwr da: bai deiliad y contract 
Cyfyngiadau ar rwymedigaethau'r landlord mewn perthynas â ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi a chadw annedd mewn cyflwr da: hysbysiad

Mae'r telerau hyn yn gosod cyfyngiadau ar rwymedigaethau'r landlord i sicrhau bod cartref yn ffit i bobl fyw ynddo ac mewn cyflwr da.

Ymhlith pethau eraill, nid oes rhaid i landlordiaid wneud y canlynol:

  • Gwneud eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo os nad oes modd gwneud hynny am ‘gost resymol’. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd gwaith ar gartref deiliad y contract i'w wneud yn ffit i bobl fyw ynddo yn costio cymaint fel y byddai'n gwrthbwyso unrhyw fudd i ddeiliad y contract, na fyddai'n rhaid i'r landlord wneud y gwaith hwnnw.
  • Ailadeiladu neu adfer yr annedd os caiff ei difrodi neu ei dinistrio gan ‘dân, storm, llifogydd neu ddamwain anochel arall’.
  • gwneud atgyweiriadau os nad yw'r peth y mae angen ei atgyweirio yn effeithio ar fywyd beunyddiol deiliad y contract yn ei gartref.
  • Gwneud cartref yn ffit i bobl fyw ynddo neu ei gadw mewn cyflwr da os yw diffyg gofal gan rywun sy'n byw yn y cartref yn golygu nad yw'n ffit i bobl fyw ynddo neu ei fod mewn cyflwr gwael.
  • Gwneud atgyweiriadau os nad yw'n ymwybodol eu bod yn angenrheidiol (ac unwaith y daw'n ymwybodol, mae'n rhaid iddo wneud yr atgyweiriadau o fewn cyfnod rhesymol ond nid yn syth o reidrwydd)

Hawliau meddianwyr a ganiateir 

Pan fydd rhywun (sy'n feddiannwr a ganiateir) yn byw yng nghartref deiliad y contract neu pan fydd ei eiddo personol yn dirywio am nad yw'r landlord wedi sicrhau ei fod yn ffit i bobl fyw ynddo na'i fod mewn cyflwr da, mae'r teler hwn yn caniatáu i'r person dan sylw orfodi'r landlord i wneud beth mae disgwyl iddo ei wneud drwy ddwyn achos yn ei erbyn yn y llys. 

Gwneud newidiadau i'r annedd neu gyfleustodau

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys dau deler sy'n ymwneud â'r mater hwn.

Newidiadau i'r annedd 

Mae'r teler hwn yn atal deiliad contract rhag ychwanegu neu newid pethau fel y gosodiadau a'r ffitiadau mewnol, neu'r erialau allanol, dysglau lloeren, siediau, garejis neu wedd allanol eu cartref, heb ganiatâd y landlord.

Newidiadau i'r ddarpariaeth cyfleustodau i'r annedd  

O dan y teler hwn, caniateir i ddeiliad y contract newid cyflenwyr pethau fel trydan, nwy, ffôn a'r rhyngrwyd. Ond mae'n rhaid iddo ddweud wrth y landlord ei fod wedi gwneud hynny ac ni chaniateir iddo adael ei gartref ar ddiwedd y contract (oni bai ei fod wedi cael caniatâd y landlord) heb sicrhau'n gyntaf fod cyflenwad o drydan, nwy ac ati o hyd – yr holl bethau a oedd yn cael eu cyflenwi ar ddechrau'r contract.

Diogelwch yr annedd: cyfrifoldebau deiliad y contract

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r mater hwn yn cyfeirio at y pethau y mae'n rhaid i ddeiliad y contract eu gwneud i sicrhau bod y cartref yn ddiogel.

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys dau deler sy'n ymwneud â hyn.

Diogelwch yr annedd – cyfnodau pan fydd yr annedd yn wag 
Diogelwch yr annedd  – cloeon

Mae'r telerau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gymryd ‘camau rhesymol’ i sicrhau bod ei gartref yn ddiogel a dweud wrth y landlord pan fydd ei gartref yn mynd i fod yn wag am 28 diwrnod neu fwy. Mae ‘camau rhesymol’ yn cynnwys pethau fel cau'r ffenestri a chloi'r drysau pan na fydd neb gartref. Caniateir i ddeiliad y contract newid cloeon ar ddrysau ond mae'n rhaid iddo sicrhau eu bod mor ddiogel ag yr oeddent o'r blaen.

Creu is-denantiaeth neu is-drwydded, trosglwyddo'r contract neu drefnu morgais

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r mater hwn yn cyfeirio at y pethau y caniateir neu na chaniateir i ddeiliad y contract eu gwneud. Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys dau deler sy'n ymwneud â'r mater hwn.

Dulliau o ddelio a ganiateir 

Mae'r teler hwn yn golygu, oni bai bod y contract yn caniatáu ar ei gyfer (neu mae llys yn gwneud gorchymyn yn ei gylch fel rhan o ‘orchymyn eiddo teuluol’), na chaniateir i ddeiliad contract greu pethau fel contract isfeddiannaeth (lle mae'n gosod ei gartref ar rent i rywun arall), na throsglwyddo'r contract meddiannaeth i rywun arall, na threfnu morgais ar ei gartref. 

Caniatáu lletywyr 

Mae'r teler hwn yn caniatáu i ddeiliad y contract ganiatáu i letywyr fyw yn yr eiddo. Byddai lletywr yn rhywun sy'n talu rhent i ddeiliad y contract yn gyfnewid am gael caniatâd i fyw gyda deiliad y contract yn ei gartref. 

Darpariaethau ynglŷn â chyd-ddeiliaid contract

Mae'r telerau hyn yn ymwneud â sefyllfa lle mae mwy nag un deiliad contract sydd â'r un contract meddiannaeth (hynny yw, cyd-ddeiliaid contract). Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys pedwar teler perthnasol.

Ychwanegu cyd-ddeiliad contract 

O dan y teler hwn, a gyda chaniatâd y landlord, gall deiliad y contract ychwanegu person arall at y contract fel cyd-ddeiliad contract. Yna, mae cyd-ddeiliad y contract yn cael yr un hawliau ac yn ymgymryd â'r un cyfrifoldebau o dan y contract â deiliad y contract.

Cyd-ddeiliad contract yn tynnu'n ôl 
Cyd-ddeiliad contract yn tynnu'n ôl – yr hysbysiad sy'n ofynnol 

Mae'r telerau hyn yn caniatáu i gyd-ddeiliad contract dynnu'n ôl o gontract ac yn esbonio sut y dylai wneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys rhoi mis o rybudd i'r landlord a rhoi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract ar yr un pryd. Mae hefyd yn ofynnol i'r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid y contract. 

Ni fyddai'r telerau hyn yn gymwys mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol ond gellid ychwanegu teler sy'n galluogi deiliad contract i ddefnyddio cymal terfynu.

Cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract – goroesi

Mae'r teler hwn yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd i gyd-ddeiliaid y contract sy'n weddill pan fydd un yn marw neu'n peidio â bod yn gyd-ddeiliad y contract. Mae'r teler yn dweud bod gan ddeiliaid y contract sy'n weddill hawl lwyr i'r holl hawliau o dan y contract ond eu bod yn ‘atebol am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract hwn’.  Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, dalu'r rhent yn llawn.

Terfynu contract – cyffredinol

Mae'r telerau mewn perthynas â'r mater hwn yn nodi'r hyn y caniateir i landlordiaid a deiliaid contractau ei wneud neu y mae'n ofynnol iddynt ei wneud wrth derfynu contract meddiannaeth. 

O dan gontract safonol, gall y landlord ofyn i ddeiliad y contract adael ei gartref os bydd wedi ‘torri'r contract’. Ystyr ‘torri contract’ yw pan na fydd deiliad y contract wedi gwneud rhywbeth y mae'r contract meddiannaeth yn nodi bod yn rhaid iddo ei wneud (fel talu'r rhent) neu, efallai ei fod wedi gwneud rhywbeth na chaniateir iddo ei wneud o dan y contract meddiannaeth, fel bygwth pobl eraill sy'n byw gerllaw (y cyfeirir ato yn y contract fel ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’). Neu, o dan gontract safonol cyfnodol, gall landlord ofyn i ddeiliad contract adael ei gartref gan ddefnyddio ‘hysbysiad y landlord’. Yn yr achosion hyn, nid oes angen i'r landlord roi rheswm dros ofyn i ddeiliad y contract adael.  

Mae'r ffyrdd y gellir dirwyn contract cyfnod penodol i ben yn wahanol i'r ffyrdd y gellir dirwyn contract safonol cyfnodol i ben. Dylid ceisio cyngor annibynnol pan fydd unrhyw ansicrwydd yn codi.
 
Os yw'r landlord am i ddeiliad contract adael, mae'n rhaid i'r landlord roi ‘hysbysiad adennill meddiant’ iddo. Mae'r hysbysiad adennill meddiant yn dweud wrth ddeiliad y contract pam y gofynnir iddo adael ei gartref (yn yr achosion hynny pan fydd yn rhaid i'r landlord roi rheswm) ac erbyn pryd y mae'n rhaid iddo adael. Mae faint o amser fydd gan ddeiliad y contract cyn y disgwylir iddo adael ei gartref (‘y cyfnod hysbysu’) yn dibynnu ar y rheswm dros ofyn iddo adael. Mae'r contract meddiannaeth yn nodi'r gwahanol gyfnodau hysbysu.

Os caiff hysbysiad ei roi am fod y contract wedi cael ei dorri, os na fydd deiliad y contract yn cytuno â'r rhesymau a roddwyd gan y landlord dros ofyn iddo adael, gall ofyn i'r llys ystyried yr holl ffeithiau a dyfarnu. Ni fydd yn ofynnol i ddeiliad y contract adael nes bod y llys wedi penderfynu.  Yn achos hysbysiad y landlord, rhaid i'r llys ofyn i ddeiliad y contract adael os bydd yn fodlon bod yr holl weithdrefnau cywir wedi cael eu dilyn. 

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys chwe theler mewn perthynas â ‘Terfynu contract – cyffredinol’. 

Terfynu a ganiateir etc. 

Mae'r teler hwn yn dweud mai dim ond yn unol â thelerau eraill y contract neu'n unol â'r gyfraith y gellir terfynu'r contract.

Terfynu drwy gytundeb 

Mae'r teler hwn yn golygu, os yw'r landlord a deiliad y contract yn cytuno i derfynu'r contract, y daw'r contract i ben pan fydd deiliad y contract yn gadael ei gartref yn unol â'r hyn y cytunwyd arno. Fodd bynnag, os nad yw deiliad y contract yn gadael ei gartref ar y dyddiad y cytunwyd arno, llunnir ‘contract newydd i gymryd lle'r un gwreiddiol’ yn awtomatig, a dywedir bod yr hen gontract wedi dod i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad meddiannu yn y contract newydd i gymryd lle'r un gwreiddiol. Mae contract newydd i gymryd lle'r un gwreiddiol yn un sy'n ymwneud â'r un cartref â'r contract gwreiddiol a'r un person yw deiliad y contract.

Tor contract ymwrthodol ar ran y landlord 

Mae'r teler hwn yn golygu, os bydd y landlord yn cyflawni ‘tor contract difrifol’ sy'n ddigon i ddeiliad y contract gyfiawnhau terfynu’r contract yn syth, y daw'r contract i ben cyn gynted ag y bydd deiliad y contract yn gadael ei gartref. Gallai ‘tor contract difrifol’ gynnwys, er enghraifft, fethu â gwneud gwaith atgyweirio, sy'n achosi risg i iechyd a diogelwch deiliad y contract.

Marwolaeth unig ddeiliad contract 

Mae'r teler hwn yn golygu, os mai dim ond un deiliad contract sydd, y daw'r contract i ben fis ar ôl ei farwolaeth, neu'n gynt pan fydd person awdurdodedig (fel cynrychiolydd personol deiliad y contract neu oedolyn arall yr oedd deiliad y contract wedi caniatáu iddo fyw yn ei gartref) yn hysbysu'r landlord am y farwolaeth. Fodd bynnag, ni ddaw'r contract i ben os oes personau sy'n gymwys i olynu i'r contract neu os oes gorchymyn eiddo teuluol perthnasol. Mae Deddf 2016 yn nodi ar ba sail y mae pobl yn gymwys i olynu ond nid yw hyn wedi'i gynnwys yn y contract meddiannaeth.

Rhwymedigaethau deiliaid contract pan ddaw'r contract i ben 

Mae'r teler hwn yn dweud, ar ddiwedd y contract, fod yn rhaid i ddeiliad y contract symud ei holl eiddo (ac eiddo unrhyw un arall a gafodd ganiatâd i fyw yn ei gartref), rhoi eiddo'r landlord yn ôl yn ei le gwreiddiol, a dychwelyd holl allweddi'r cartref i'r landlord.

Ad-dalu rhent neu gydnabyddiaeth arall 

Mae'r teler hwn yn dweud bod yn rhaid i'r landlord ad-dalu unrhyw rent i ddeiliad y contract y mae wedi'i dalu am gyfnod ar ôl i'r contract ddod i ben.

Terfynu gan ddeiliad y contract

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys pum teler sy'n ymwneud â sut y gall deiliad contract derfynu contract.

Deiliad y contract yn terfynu’n fuan 

Os nad yw deiliad y contract wedi cael datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth a nad yw'r dyddiad meddiannu wedi cyrraedd eto, mae'r teler hwn yn caniatáu i ddeiliad y contract derfynu contract drwy hysbysu'r landlord ei fod yn terfynu'r contract (ac mae'n rhaid i'r landlord ddychwelyd unrhyw flaendal neu rent y mae eisoes wedi'i dalu i ddeiliad y contract).

Hysbysiad deiliad contract 
Hysbysiad deiliad contract: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir 
Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract 

O dan y telerau hyn, caniateir i ddeiliad contract derfynu contract drwy roi pedair wythnos o rybudd i'r landlord. Os bydd deiliad y contract yn gadael ei gartref ar neu cyn y dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad, daw'r contract i ben ar y dyddiad hwnnw. Os bydd deiliad y contract yn aros yn ei gartref ar ôl y dyddiad hwnnw, daw'r contract i ben ar y dyddiad y mae'n gadael ei gartref, neu os bydd llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad y penderfynir arno o dan deler sy'n ymwneud ag Effaith gorchymyn adennill meddiant. Os caiff hysbysiad deiliad y contract ei dynnu'n ôl ac nad yw'r landlord yn gwrthwynebu, ni fydd y contract yn dod i ben.

Terfynu'r contract â chyd-ddeiliaid contract 

Os oes cyd-ddeiliaid contract, mae'r teler hwn yn golygu y byddai'n rhaid iddyn nhw i gyd weithredu gyda'i gilydd i derfynu'r contract. O ganlyniad, os na fydd un o ddeiliaid y contract yn cytuno i derfynu'r contract, ni ddaw'r contract i ben. 

Terfynu gan y landlord: hawliadau meddiant a hysbysiadau adennill meddiant

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r mater hwn yn cwmpasu hawl landlord i gyflwyno hawliad meddiant i'r llys a'r hysbysiad adennill meddiant y mae'n ofynnol i'r landlord ei roi cyn cyflwyno hawliad meddiant.

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys dau deler sy'n ymwneud â'r mater hwn.

Hawliadau meddiant 

Mae'r teler hwn yn dweud mai dim ond yn y sefyllfaoedd a nodir yn nhelerau'r contract meddiannaeth y caniateir i landlord gyflwyno hawliad i'r llys i adennill meddiant cartref (sef ‘hawliad meddiant’ ).  

Hysbysiadau adennill meddiant 

Ystyr y teler hwn yw ym mhob sefyllfa lle mae'n ofynnol i'r landlord hysbysu deiliad y contract ei fod yn bwriadu gwneud hawliad meddiant o dan un o'r seiliau a nodir o dan Terfynu gan y landlord: seiliau ar gyfer gwneud hawliau meddiant, bod yn rhaid iddo nodi'r sail a rhoi manylion amdani: a rhoi'r dyddiad y gall wneud yr hawliad meddiant ar ei ôl.

Terfynu gan y landlord: seiliau ar gyfer gwneud hawliad meddiant

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r mater hwn yn cwmpasu seiliau amrywiol lle gellir rhoi hysbysiad a gwneud hawliad meddiant.
Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys wyth teler sy'n ymwneud â'r mater hwn.

Tor contract 
Cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant mewn perthynas â thor contract 
Seiliau rheoli ystad  
Cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant o dan seiliau rheoli ystad 
Ôl-ddyledion rhent difrifol
Cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant o dan ôl-ddyledion rhent difrifol
Adennill meddiant ar sail hysbysiad deiliad y contract 
Cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar sail hysbysiad deiliad y contract 

Mae'r telerau hyn yn caniatáu i landlord wneud hawliad meddiant yn y sefyllfaoedd a ganlyn (sef ‘seiliau’):

  1. Mae deiliad y contract wedi torri'r contract (hynny yw, wedi gwneud rhywbeth na chaniateir iddo ei wneud o dan y contract neu wedi methu â gwneud rhywbeth y mae'n rhaid i ddeiliad y contract ei wneud o dan y contract)
  2. Mae un neu ragor o ‘seiliau rheoli ystad’ yn gymwys. Mae'r rhain yn cynnwys achosion yn amrywio o sefyllfa lle mae angen i'r landlord gael meddiant er mwyn dymchwel neu ailadeiladu'r adeilad i sefyllfaoedd lle mae'r cartref wedi'i addasu'n arbennig i bobl ag anabl corfforol, nad oes neb yn y byw yn yr eiddo y mae angen llety o'r fath arno ac mae angen y cartref ar y landlord ar gyfer person o'r fath.
  3. Mae deiliad y contract mewn ôl-ddyledion rhent difrifol (er enghraifft, pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu)
  4. Mae deiliad y contract wedi cyflwyno mis o rybudd o'i fwriad i adael ei gartref (hysbysiad deiliad contract) ond nid yw'n gwneud hynny ar y dyddiad a nodwyd. 

Ym mhob sefyllfa, mae'n ofynnol i'r landlord hysbysu deiliad y contract ei fod yn bwriadu gwneud hawliad meddiant.
 
Mae cyfnod y rhybudd yn dibynnu ar y sail y mae'r landlord yn dibynnu arni:

  • Os mai tor contract neu sail rheoli ystad yw'r sail, fel arfer mae'n rhaid i'r landlord roi mis o rybudd.
  • Os mai ôl-ddyledion rhent difrifol yw'r sail, rhaid rhoi 14 diwrnod o rybudd.
  • Pan fydd y tor contract yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall, caniateir i'r landlord wneud yr hawliad meddiant cyn gynted ag y mae'n cyflwyno'r hysbysiad adennill meddiant.

Yn achos tor contract, sail rheoli ystad ac ôl-ddyledion rhent difrifol, ni chaniateir i'r landlord wneud hawliad meddiant yn hwyrach na chwe mis ar ôl iddo gyflwyno'r hysbysiad adennill meddiant.

Os na fydd deiliad y contract yn gadael yr eiddo ar ôl rhoi hysbysiad deiliad y contract (gweler uchod), caniateir i'r landlord gyflwyno'r hawliad meddiant cyn gynted ag y bydd yn cyflwyno'r hysbysiad adennill meddiant. Ni all gyflwyno hawliad meddiant fwy na deufis ar ôl y dyddiad a nodwyd yn hysbysiad deiliad y contract.

Os gwneir hawliad meddiant mewn perthynas â thor contract (yn cynnwys ôl-ddyledion rhent), dim ond os yw'r llys o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny y gall wneud gorchymyn adennill meddiant (sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract adael yr eiddo). 

Fodd bynnag, os gwneir hawliad meddiant ar y sail ôl-ddyledion rhent difrifol, mae'n rhaid i'r llys gyflwyno gorchymyn adennill meddiant os bydd yn fodlon bod deiliad y contract mewn ôl-ddyledion difrifol pan roddwyd yr hysbysiad adennill meddiant a'i fod mewn ôl-ddyledion difrifol pan fydd y llys yn gwrando'r hawliad meddiant. 

Os gwneir hawliad meddiant ar sail rheoli ystad, dim ond os yw'r llys o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny a'i fod wedi'i fodloni bod llety amgen addas ar gael i ddeiliad y contract y gall wneud gorchymyn adennill meddiant. 

Os gwneir hawliad meddiant am nad yw deiliad y contract yn gadael yr eiddo ar ôl rhoi hysbysiad deiliad contract, mae'n rhaid i'r llys wneud gorchymyn adennill meddiant os yw wedi'i fodloni bod y sail wedi'i phrofi (hynny yw, bod yr amodau wedi'u bodloni).

Mae'r telerau hyn yn cynnwys nifer o ddarpariaethau technegol eraill sy'n ymwneud â seiliau rheoli ystad.

Terfynu gan y landlord: hysbysiad y landlord

Mae'r telerau hyn yn nodi'r sail y gall landlord ddod â chontract i ben drwy hysbysu deiliad y contract bod yn rhaid iddo ildio meddiant o'i gartref – hynny yw, drwy roi hysbysiad landlord iddo. Nid oes angen i landlord gael sail na rheswm arall er mwyn rhoi hysbysiad landlord.

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys chwe theler sy'n ymwneud â'r mater hwn.

Hysbysiad y landlord
Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau eraill o dan hysbysiad y landlord
Adennill meddiant yn dilyn hysbysiad a roddir o dan hysbysiad y landlord
Cyfyngu ar wneud hawliad meddiant mewn perthynas â hysbysiad y landlord 
Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y landlord

O dan y telerau hyn, rhaid i hysbysiad y landlord roi o leiaf chwe mis i ddeiliad y contract cyn y bydd yn ofynnol iddo ildio meddiant o'i gartref. Os bydd deiliad y contract yn ildio meddiant o'i gartref ar neu cyn y dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad, daw'r contract i ben ar y dyddiad hwnnw. Os na fydd deiliad y contract yn ildio meddiant ar neu cyn y dyddiad hwnnw, gall y landlord wneud hawliad meddiant i'r llys, ar yr amod ei fod yn gwneud hynny o fewn dau fis. Os na fydd landlord yn gwneud hawliad o fewn y cyfnod hwnnw o ddau fis, rhaid iddo aros chwe mis arall cyn y gall roi hysbysiad landlord arall.

Os bydd y landlord yn gwneud hawliad meddiant i'r llys, a bod y llys yn fodlon bod yr holl weithdrefnau cywir wedi'u cyflawni gan y landlord, rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract adael ei gartref (oni fydd yn ystyried mai dim ond er mwyn osgoi ei ddyletswydd i gadw'r cartref mewn cyflwr da ac yn ffit i bobl fyw ynddo y mae'r landlord wedi gwneud yr hawliad). 

Mae'r telerau hyn hefyd yn galluogi landlord i dynnu'n ôl ac ail-wneud hysbysiad y landlord (er enghraifft, er mwyn cywiro gwall) ar yr amod ei fod yn gwneud hynny o fewn 28 diwrnod. Ar ôl i'r 28 diwrnod ddod i ben, dim ond os na fydd deiliad y contract yn gwrthwynebu hynny y bydd hysbysiad a gaiff ei dynnu'n ôl yn rhoi'r gorau i fod yn weithredol.

Terfynu gan y landlord: cyfyngiadau ar roi hysbysiad landlord

Mae'r 11 o delerau hyn yn nodi sefyllfaoedd lle na chaniateir i landlord wneud hysbysiad landlord.

Cyfyngiadau ar roi hysbysiad landlord: ni chaiff hysbysiad ei roi tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth 
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgar
Cyfyngiadau pellach ar roi hysbysiad landlord – methiant i ddarparu datganiad ysgrifenedig 
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – darparu datganiad ysgrifenedig
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – methiant i ddarparu gwybodaeth am landlord
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – methiant i ddarparu tystysgrif perfformiad ynni ddilys
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – torri gofynion diogelwch a blaendal
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – taliadau a blaendaliadau cadw gwaharddedig o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) 2019 (Cymru) 2019
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – methiant i sicrhau bod larymau mwg a larymau carbon monocsid sy'n gweithio yn cael eu gosod
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – methiant i ddarparu adroddiad cyflwr gosodiadau trydanol ac ati
Cyfyngiad ar roi hysbysiad landlord – methiant i ddarparu adroddiad diogelwch nwy i ddeiliad y contract

O dan y telerau hyn, ni all landlord roi hysbysiad landlord yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl y dyddiad meddiannu a nodir yn y contract. 

Ni chaniateir iddo roi hysbysiad landlord ychwaith:

  • Am chwe mis ar ôl y dyddiad y bydd llys yn gwrthod cyflwyno gorchymyn adennill meddiant am ei fod yn ystyried mai dim ond er mwyn cadw'r cartref mewn cyflwr da neu'n ffit i bobl fyw ynddo y mae'r landlord wedi gwneud hawliad meddiant
  • os nad oes datganiad ysgrifenedig wedi cael ei roi i ddeiliad y contract
  • am chwe mis ar ôl i'r datganiad ysgrifenedig gael ei roi i ddeiliad y contract, os oedd y landlord yn hwyr yn rhoi'r datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract
  • os bydd y landlord wedi methu rhoi'r wybodaeth ofynnol am y landlord i ddeiliad y contract – gweler isod
  • os nad yw'r landlord wedi rhoi'r dystysgrif perfformiad ynni ddilys i ddeiliad y contract (yn unol â'i ddyletswydd i wneud hynny o dan Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012) ar unrhyw adeg cyn cyflwyno'r hysbysiad
  • os bydd y landlord wedi cymryd sicrhad mewn ffurf na chaniateir ac nad yw wedi'i ddychwelyd neu os bydd wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau mewn perthynas â blaendaliadau (gweler y teler ar flaendaliadau)
  • os bydd taliad gwaharddedig wedi'i wneud a heb gael ei ad-dalu (pethau fel taliadau gwasanaeth, a waherddir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) neu os bydd blaendal cadw wedi'i dalu a heb gael ei ad-dalu
  • os na fydd cartref deiliad y contract yn ffit i bobl fyw ynddo am nad yw'r landlord wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau mewn perthynas â darparu larymau mwg a/neu garbon monocsid neu adroddiad cyflwr gosodiadau trydanol (o dan Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) 2022
  • os na fydd y landlord wedi cydymffurfio â gofyniad i ddarparu neu arddangos adroddiad ar ddiogelwch gosodiadau nwy ac ati (o dan reoliad 36(6) neu (yn ôl y digwydd) (7) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1988

Er nad ydynt yn rhan o delerau'r contract meddiannaeth, caiff cyfyngiadau ar roi hysbysiad landlord hefyd fod yn gymwys pan na fydd y landlord wedi cydymffurfio â'r trefniadau trwyddedu gofynnol mewn perthynas â Thai Amlfeddiannaeth neu lety preswyl arall (gweler adrannau 75 a 98 o Ddeddf Tai 2004) neu os nad yw wedi cydymffurfio â chofrestru a thrwyddedu Rhentu Doeth Cymru (gweler adran 44 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014).

Gorchymyn adennill meddiant gan y llys

Os bydd landlord yn gwneud hawliad meddiant i'r llys, caiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant mewn ymateb i'r hawliad, sy'n nodi'r dyddiad y mae'n rhaid i ddeiliad contract adael ei gartref. Dim ond un teler yn y datganiad ysgrifenedig enghreifftiol sy'n deilio ag effaith y gorchymyn adennill meddiant.

Effaith gorchymyn adennill meddiant

Mae'r teler hwn yn dweud pryd y daw contract meddiannaeth i ben ar ôl i lys wneud gorchymyn adennill meddiant. Os bydd deiliad y contract yn gadael ei gartref ar neu cyn y dyddiad a nodwyd yn y gorchymyn adennill meddiant, daw'r contract i ben ar y dyddiad hwnnw. Os bydd deiliad y contract yn aros yn ei gartref ar ôl y dyddiad hwnnw, daw'r contract i ben pan fydd deiliad y contract yn gadael ei gartref neu pan fydd yn cael ei droi allan (pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf). Mae'r teler yn gwneud darpariaeth ychydig yn wahanol os oes cyd-ddeiliaid contract.

Amrywio

Mae'r telerau hyn yn nodi sut y gellir newid contract meddiannaeth ar ôl cytuno arno. Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys tri theler o'r fath (mae'r rhain yn ychwanegol at amrywio'r rhent - gweler teler cynharach).

Amrywio 

Mae'r teler hwn yn dweud mai dim ond yn y ffyrdd a ganiateir o dan y contract neu o ganlyniad i newid yn y gyfraith y gellir newid contract meddiannaeth. 

Amrywio telerau heblaw rhent 

Mae'r teler hwn yn dweud y gellir newid un o delerau sylfaenol, atodol neu ychwanegol y contract drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract ond bod cyfyngiadau ar y telerau sylfaenol y gellir eu newid. Nodir y rhain o dan y teler Cyfyngiad ar amrywio.

Cyfyngiad ar amrywio

Mae'r teler hwn yn rhestru'r telerau sylfaenol na ellir eu newid drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract (hynny yw, y telerau hynny sydd wedi'u nodi â (F) yn y datganiad ysgrifenedig enghreifftiol). 

Mae'r teler hwn hefyd yn cyfyngu ar y newidiadau y gellir eu gwneud i delerau sylfaenol. Mae'n dweud, os bydd newid i un o'r telerau sylfaenol yn gwneud iddo fod yn ‘anghydnaws’ â theler na ellir ei newid (er enghraifft, byddai newid y teler yn dileu effaith teler na chaniateir ei newid), nad yw'r newid yn cael unrhyw effaith. Hefyd, er mwyn cael unrhyw effaith, mae'n rhaid i newid i deler sylfaenol naill ai fod er budd deiliad y contract neu arwain at ymgorffori'r teler sylfaenol ‘heb ei addasu’ (hynny yw, mynd yn ôl at union eiriad Deddf 2016). 

Datganiadau ysgrifenedig a darparu gwybodaeth gan y landlord

Mae'r telerau sy'n ymwneud â'r materion hyn yn delio â'r dogfennau a'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid eu rhoi i ddeiliaid contract a hefyd beth sy'n digwydd os na roddir gwybodaeth benodol.

Mae'r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys pum teler sy'n ymwneud â'r mater hwn. 

Datganiadau ysgrifenedig 

Mae'r teler hwn yn dweud bod yn rhaid i landlord roi datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu. Os daw person gwahanol yn ddeiliad y contract, mae'n rhaid rhoi copi o'r datganiad ysgrifenedig iddo o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y mae hynny'n digwydd neu os yw'n ddiweddarach, o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r landlord ddod yn ymwybodol bod deiliad y contract wedi newid. Yn y naill achos a'r llall, mae'n rhaid darparu'r datganiad ysgrifenedig yn ddi-dâl. 

Gall deiliad contract hefyd ofyn am ddatganiad ysgrifenedig arall ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, gall landlord godi ffi resymol am ddarparu datganiad ysgrifenedig ychwanegol. Os gwneir cais, mae'n rhaid i'r landlord ddarparu'r datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r cais neu'r dyddiad y caiff unrhyw ffi ei thalu.

Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad 

Mae'r teler hwn yn dweud bod yn rhaid i'r landlord, o fewn 14 diwrnod i newid contract, roi datganiad ysgrifenedig am y teler neu'r telerau a newidiwyd neu ddatganiad ysgrifenedig newydd o'r holl gontract i ddeiliad y contract. Yr unig eithriad yw os bydd y newid yn ymwneud â rhent neu ystyriaeth arall (amrywio rhent, amrywio ystyriaeth arall) Os darperir datganiad ysgrifenedig o dan y teler hwn, mae'n rhaid ei ddarparu'n ddi-dâl.

Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord 

Mae'r teler hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael y canlynol:

  • cyfeiriad y dylai anfon unrhyw ddogfennau y bwriedir eu rhoi i'r landlord iddo
  • hysbysiad o gyfeiriad newydd ar gyfer y landlord
  • hysbysiad o newid landlord (a chyfeiriad ar gyfer y landlord hwnnw)

Ym mhob achos, mae'n rhaid i'r wybodaeth gael ei darparu o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu neu ar ôl i'r newid ddigwydd.

Digolledu am dorri teler mewn perthynas â'r landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord 

Mae'r teler hwn yn dweud, os na fydd y landlord yn rhoi'r wybodaeth a nodir uchod i ddeiliad y contract o fewn y terfyn amser gofynnol, ei fod yn atebol am ddigolledu deiliad y contract. Mae'r teler hwn yn nodi gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r tâl digolledu sy'n daladwy.

Rhestr eiddo

Mae'r teler hwn yn nodi bod yn rhaid i'r landlord roi rhestr cynnwys i ddeiliad y contract sy'n rhestru ac yn disgrifio'r holl osodiadau a ffitiadau ar y dyddiad meddiannu. Rhaid darparu'r rhestr cynnwys erbyn dyddiad cyflwyno'r datganiad ysgrifenedig fan bellaf. 
Os bydd deiliad y contract yn anghytuno â'r rhestr cynnwys, gall gyflwyno sylwadau i'r landlord o fewn 14 diwrnod. Yna, rhaid i'r landlord naill ai:

  • diwygio'r rhestr cynnwys er mwyn ymateb i'r sylwadau ac anfon copi newydd; neu
  • hysbysu deiliad y contract nad yw'n cytuno â'i sylwadau ac ail-anfon y rhestr wreiddiol; neu
  • diwygio'r rhestr cynnwys er mwyn ymateb i'r sylwadau hynny y cytunwyd arnynt a darparu copi newydd ond hefyd nodi'r sylwadau hynny na chytunir â nhw.

Materion eraill

Mae'r datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol yn cynnwys tri theler arall o dan y pennawd ‘materion eraill’.

Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contract

Mae'r teler hwn yn golygu, os bydd deiliad y contract yn dweud rhywbeth nad yw'n wir, a hynny'n fwriadol neu'n ddi-hid (yn fyrbwyll neu heb ystyried a yw'n wir ai peidio) er mwyn cael y landlord i roi contract meddiannaeth iddo, yr ystyrir ei fod wedi torri'r contract a gall y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

Ffurf hysbysiadau etc. 

Mae'r teler hwn yn dweud bod yn rhaid i unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae'n rhaid ei rhoi neu ei roi o dan y contract fod yn ysgrifenedig (ond gellir ei rhoi neu ei roi'n electronig, os cytunir ar hynny). 

Rhoi hysbysiadau etc. i'r landlord

Mae'r teler hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gadw unrhyw beth a gaiff ei ddosbarthu i'w gartref ond sydd wedi'i gyfeirio at y landlord a throsglwyddo'r pethau hyn i'r landlord cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

[2] Weithiau, efallai y bydd y materion allweddol yn dweud bod yn rhaid i ddeiliad y contract roi ‘cydnabyddiaeth arall’ yn lle rhent, neu yn ogystal â rhent, i'r landlord. Gallai ‘cydnabyddiaeth arall’ gynnwys, er enghraifft, gwneud rhywbeth sy'n gyfwerth â thalu rhent, megis darparu gwasanaeth i'r landlord neu ymgymryd â gwaith ar ran y landlord.