Neidio i'r prif gynnwy

O fis Ebrill 2023, bydd Corff Llais y Dinesydd yn cynrychioli llais a barn pobl Cymru ynglŷn â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Corff Llais y Dinesydd yn annibynnol o’r Llywodraeth, y GIG ac awdurdodau lleol, fodd bynnag, bydd y corff yn gweithio gyda’r rhain ac eraill i gefnogi’r gwelliant parhaus o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar unigolion.

Bydd Corff Llais y Dinesydd yn:

  • gwrando ar farn y cyhoedd, ymhob rhan o Gymru, ynglŷn â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • cynorthwyo i sicrhau bod profiadau byw unigolion yn fodd o gynllunio a gwella gwasanaethau – gan ddylanwadu ar gynlluniau a pholisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • cynorthwyo i ddatblygu gwell cysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion a chymunedau – gan hyrwyddo llais y dinesydd sy’n gwbl gynrychioliadol

Bydd Corff Llais y Dinesydd yn defnyddio ystod eang o ddulliau i feithrin cysylltiadau, gan gynnwys trafodaethau wyneb yn wyneb, er mwyn sicrhau bod barn ein cymunedau amrywiol yn cael eu canfod. Yn ogystal, bydd y corff yn rhoi cefnogaeth mewn modd sy’n gweddu orau i’r unigolyn. 

Wrth gynrychioli buddiannau’r cyhoedd, bydd Corff Llais y Dinesydd yn meithrin cysylltiadau gyda chyrff y GIG ac awdurdodau lleol pan fyddant yn datblygu, yn adolygu neu’n cynllunio newidiadau i’w gwasanaethau. Gall hyn ddigwydd drwy fod yn rhan o ymarferion ymgynghori; bod yn bresennol mewn cyfarfodydd; neu drwy gysylltu â hwy i fynegi barn ynglŷn ag agweddau penodol o’u gwasanaethau. 

Bydd angen i Gorff Llais y Dinesydd ddatblygu perthnasau effeithiol gyda sefydliadau y sectorau cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol er budd dinasyddion ac er budd y gwerthoedd a rennir.

Cymryd rhan

Bydd Corff Llais y Dinesydd yn cael ei arwain gan aelodau’r Bwrdd, gyda thîm o staff ymroddedig ac aelodaeth amrywiol o wirfoddolwyr a fydd yn cydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.

Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â Chorff Llais y Dinesydd a sut y gallwch chi gymryd rhan yn cael ei hychwanegu yma, wrth i’r corff gael ei sefydlu yn ystod 2022 i 2023.

Sesiynau gwybodaeth Corff Llais y Dinesydd: cwestiynau ac atebion

Crynodeb o'r cwestiwn a'r atebion o sesiynau gwybodaeth am y Corff Llais y Dinesydd a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2022.