Neidio i'r prif gynnwy

Hoffwn wneud coridor yr M4 yn fwy diogel ac effeithlon i bob defnyddiwr ffordd

Statws:
Wedi ei gynllunio
Rhanbarth / Sir:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn

Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.

Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.

Pam ydyn ni’n gwneud y gwaith

Y ffordd bresennol:

  • mae nifer uchel o ddamweiniau sy'n ymwneud â cherbydau yn digwydd arni
  • mae llawer o fannau arni lle mae cerbydau'n cael gwrthdrawiadau ar gyflymder uchel
  • nid yw'n cynnig llawer o gyfleoedd i feicio na cherdded yn ddiogel
  • nid yw wedi'i chynllunio i gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau.

Cynnydd ar hyn o bryd

Rydyn ni wedi cynnal astudiaeth cam 2 WelTAG i benderfynu sut y bydd yr opsiynau arfaethedig yn helpu i wneud y cyffyrdd yn fwy diogel

Amserlen

Adroddiad WelTAG 1 wedi’i gyhoeddi: haf 2019
Adroddiad WelTAG 2 wedi’i gwblhau: hydref 2021
Datblygiad dylunio manwl: 2022

Camau nesaf

Byddwn yn cynnal cam 3 WelTAG ac yn cyhoeddi'r adroddiad.

Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a ddylen ni fwrw ymlaen â'r opsiwn a ffefrir ai peidio.

Beth ydyn ni’n ei wneud

Hoffwn:

  • wneud cyffordd 36 yn fwy diogel ac effeithlon i bob defnyddiwr
  • ei gwneud hi’n haws i bobl groesi’r rhan hon o’r M4
  • cynnwys mwy o ffyrdd i bobl feicio, defnyddio cadair olwyn neu gerdded ar hyd y rhan hon o’r ffordd.

Sut ydyn ni’n ymgynghori

Rydyn ni wedi bod yn ymgynghori â busnesau lleol a thirfeddianwyr yn yr ardal. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda:

  • Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • cynghorau cymuned
  • gwasanaethau brys
  • grwpiau buddiant eraill (fel Sustrans).

Byddwn yn gweithio gyda mwy o grwpiau i lunio’r cynlluniau manwl ar ôl i ni benderfynu ar ein hoff opsiwn.

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau