Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi rhaglen waith a gweithgareddau i wella'r dirwedd ac ansawdd amgylcheddol y rhwydwaith trafnidiaeth trefol a gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Coridorau Gwyrdd ar fenter Rwydwaith Cefnffyrdd a Thraffyrdd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi "Ffyniant i Bawb". Ei nod yw creu economi gynaliadwy a hybu llesiant economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol, gan wella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru.

Dros gyfnod o bum mlynedd bydd y fenter yn darparu rhaglen waith a gweithgareddau, megis plannu coed i wella strwythur ac ystod oedran yr ardal sy'n cael ei phlannu, ac yn cyflwyno ardaloedd o flodau gwyllt neu'n gwella amrywiaeth yr ardaloedd presennol.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

"Mae'n bosibl i Gymru fod yn gyrchfan gynaliadwy o safon ryngwladol i dwristiaid, ac rwy'n falch o gyhoeddi fy mhenderfyniad i gymeradwyo'r fenter 'Coridorau Gwyrdd ar Rwydweithiau Cefnffyrdd a Thraffyrdd Llywodraeth Cymru.

Bydd yn ategu gwaith arall sydd eisoes wedi'i wneud neu sydd ar y gweill i sicrhau mwy o fanteision o'r tir sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, gan gyflwyno ystod o fanteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol."

Bydd y blaenoriaethau sydd wedi'u pennu yn golygu y bydd gwaith yn dechrau yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol ar hyd y tair ffordd sy'n rhan o Ffordd Cymru (yr A487, A470 a'r A55) yn ogystal â mynedfeydd i Gymru ar yr M4, yr M48, yr A483, yr A5 a'r A494 Glannau Dyfrdwy i nodi a chreu mesurau er mwyn cyflawni'r fenter.

Bydd y gwaith yn parhau yn y blynyddoedd nesaf gan ychwanegu ffyrdd eraill a safleoedd strategol, megis yn y prif drefi a dinasoedd. Byddwn yn edrych ar gyfleoedd ac yn cymryd camau a fyddai'n cynnwys adfer cynefinoedd presennol, creu cynefinoedd newydd neu ddarparu pwyntiau croesi newydd ar gyfer rhywogaethau a warchodir.

Ychwanegodd Ken Skates:

"Byddwn yn achub ar gyfleoedd i archwilio a gweithredu Atebion yn Seiliedig ar Natur megis defnyddio systemau llystyfiant ar gyfer draenio, neu blannu coed neu lwyni i sefydlu'r tir, wrth lunio prosiectau seilwaith ffyrdd newydd  ac ar hyd y rhwydwaith presennol.

Bydd defnyddio egwyddorion y Coridorau Gwyrdd yn dangos ein bod yn enghraifft o arfer gorau, gan ddangos arloesedd ym maes rheoli seilwaith gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth yn gynaliadwy."