Neidio i'r prif gynnwy

Penaethiaid Cynllunio,
Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru

30/03/2021

 

Annwyl Gyfeillion

Er mwyn helpu busnesau i ailagor a chefnogi eu hymdrechion i greu amgylcheddau diogel, gan alluogi'r cyhoedd i deimlo'n hyderus i ddychwelyd i'r stryd fawr a’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn llacio'r rheolaeth gynllunio ar gyfer datblygu penodedig dros dro drwy wneud diwygiadau i Orchymyn Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“GDCG”).

Fel y gwelwyd ar ôl diwedd y cyfyngiadau symud yn ystod gwanwyn 2020, pan gaiff cyfyngiadau ar symudiadau pobl eu llacio a phan fydd busnesau'n dechrau ailagor, mae angen amlwg i roi mesurau ar waith er mwyn creu amgylcheddau diogel, ar eiddo preifat ac ar dir y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu a fyddai'n gyfystyr â datblygu o dan adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ond lle nad yw'r effeithiau cynllunio andwyol yn sylweddol, nid ydym am i'r system gynllunio ein rhwystro rhag adfer.

Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio'r GDCG i gynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid defnydd yng nghanol trefi. Mae’r hawliau datblygu a ganiateir hefyd yn darparu cynnig ffordd gydgysylltiedig o ddyrannu cyllid grant sydd ar gael i'r sector preifat ar gyfer addasu eiddo a thir y cyhoedd i wneud y newidiadau cynhwysfawr sy'n ofynnol er mwyn cadw pellter cymdeithasol yng nghanol trefi o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Daw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 ("y Gorchymyn Diwygio") i rym ar 30 Ebrill. Nodir isod y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn Diwygio.

Defnydd tir dros dro ychwanegol yn ystod y cyfnod perthnasol (Dosbarth A, Rhan 4A)

Mae Dosbarth B o Ran 4 (Adeiladau a Defnydd Dros Dro) o Atodlen 2 i’r GDCG eisoes yn caniatáu defnyddio tir (ac eithrio adeiladau) dros dro am 28 diwrnod, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ac amodau. Caiff y cyfnod hwn ei gwtogi i 14 diwrnod ar gyfer defnyddiau penodedig.

Bydd Dosbarth A (Defnydd tir dros dro ychwanegol yn ystod y cyfnod perthnasol) yn Rhan 4A newydd (Newid Defnydd Dros Dro) o Atodlen 2 yn rhoi 28 diwrnod ychwanegol (yn ogystal â'r cyfnod a ganiateir o dan Ddosbarth B yn Rhan 4) ar gyfer defnydd tir dros dro. Caiff y cyfnod hwn ei gwtogi i 14 diwrnod ar gyfer cynnal marchnad neu rasys ceir modur a beiciau modur gan gynnwys profion cyflymder, ac ymarfer ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Caniateir codi strwythurau symudol megis stondinau neu bebyll mawr ar y tir hwnnw hefyd i hwyluso’r defnydd dros dro.

Bydd mesurau i ddiogelu'r amgylchedd a'r amgylchedd hanesyddol yn gymwys. Ni chaniateir datblygu dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os mai adeilad yw'r tir
  • Os yw'r tir yng nghwrtil adeilad a bod heneb gofrestredig yn y cwrtil hwnnw;
  • Os yw'r tir mewn parc cenedlaethol a'r defnydd tir yw maes parcio nad yw'n atodol i ddefnydd dros dro o dan y dosbarth hwn;
  • Os mai'r defnydd tir yw safle carafanau;
  • Os yw'r tir yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu os yw ar safle o'r fath, neu os yw yng nghwrtil adeilad rhestredig a'r defnydd tir yw:
    1. rasys ceir modur a beiciau modur gan gynnwys profion cyflymder neu chwaraeon modur eraill, ac ymarfer ar gyfer y gweithgareddau hyn;
    2. saethu colomennod clai;
    3. unrhyw gêm ryfel;
  • Os mai'r defnydd tir yw arddangos hysbyseb

Bydd yr hawl datblygu a ganiateir yn gymwys o 30 Ebrill 2021 tan 3 Ionawr 2022.

Pan nad yw’r hawliau datblygu a ganiateir uchod yn hwyluso defnydd dros dro ac y bydd cais cynllunio yn ofynnol, dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol flaenoriaethu’r ceisiadau hyn. Dylai awdurdodau geisio cefnogi busnesau a sefydliadau, pan fo’r effeithiau cynllunio yn dderbyniol, er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu potensial i weithredu dros misoedd nesaf y gwanwyn a haf wrth i fesurau rheoli coronafeirws COVID-19 gael eu llacio. Dylid defnyddio caniatadau ac amodau tymor byr i reoli effeithiau cynllunio a fyddai'n amhriodol yn barhaol.

Cynnal marchnad gan neu ar ran awdurdod lleol (Dosbarth B, Rhan 4A)

Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i gefnogi busnesau a darparu amgylcheddau diogel i'r cyhoedd ar ôl llacio'r cyfyngiadau COVID-19, mae Dosbarth B o Ran 4A yn cyflwyno hawliau datblygu newydd sy'n caniatáu defnyddio tir (ac eithrio tir o fewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig) am gyfnod diderfyn i ddarparu marchnad a gynhelir gan, neu ar ran, awdurdod lleol. Caniateir codi strwythurau symudol dros dro, megis stondinau neu adlenni, i hwyluso'r defnydd.

Bydd yr hawl datblygu a ganiateir yn gymwys o 30 Ebrill 2021 tan 3 Ionawr 2022.

Defnydd dros dro – Canol Trefi (Dosbarthiadau C–E, Rhan 4A)

Cyn y pandemig, roedd angen cynyddol i amrywio canolfannau manwerthu a masnachol fel y gallant addasu i dueddiadau manwerthu yn y dyfodol er mwyn parhau i ddiwallu anghenion eu cymunedau lleol. Bydd hyn hyd yn oed yn bwysicach wrth i ni symud ymlaen oherwydd effaith COVID-19.

Yn y tymor byr, mae Llywodraeth Cymru am hwyluso newidiadau dros dro i ddefnydd er mwyn galluogi busnesau i dreialu defnyddiau amgen yng nghanol trefi am gyfnod byr o amser. Bwriad hyn yw eu galluogi i dreialu defnyddiau amgen a chael adborth cychwynnol ynghylch a yw'r busnes yn debygol o fod yn ddichonadwy heb y gost a'r oedi sy'n gysylltiedig â chyflwyno cais cynllunio.

Mae’r newidiadau a ganiateir fel a ganlyn:

Rhan 4A Defnydd presennol (mewn canol trefi yn unig) Newid a ganiateir
Dosbarth C Defnydd dosbarth A1 (siopau)
  • A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol);
  • A3 (bwyd a diod);
  • B1 (busnesau);
  • D1 (sefydliadau amhreswyl);
  • D2 (ymgynnull a hamdden).
Dosbarth D Defnydd dosbarth A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol)
  • A1 (siopau);
  • A3 (bwyd a diod);
  • B1 (busnes);
  • D1 (sefydliadau amhreswyl);
  • D2 (ymgynnull a hamdden).
Dosbarth E Defnydd dosbarth A3 (bwyd a diod)
  • A1 (siopau);
  • A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol);
  • B1 (busnes);
  • D1 (sefydliadau amhreswyl);
  • D2 (ymgynnull a hamdden).

Dim ond i adeiladau yng nghanol tref fel y nodir mewn cynllun datblygu y mae'r newidiadau a ganiateir yn berthnasol. Ceir diffiniad manwl o fewn y dehongliad o Ran 4A. Rhaid i'r uned gynllunio gyfan fod o fewn ffin canol y dref.

Er mwyn diogelu amwynder preswyl, ar gyfer pob newid defnydd a ganiateir, ni chaniateir datblygiad os mai'r defnydd A3 arfaethedig yw gwerthu bwyd poeth i'w fwyta oddi ar y safle; neu os Dosbarth B1(c) yw'r defnydd arfaethedig (h.y. ar gyfer unrhyw broses ddiwydiannol). Gallai'r defnyddiau hyn arwain o bosibl at effeithiau cynllunio y mae angen eu hystyried ymhellach drwy gyflwyno cais cynllunio.

Mae gweithdrefn hysbysu yn berthnasol i gynorthwyo gyda monitro. Gofynnir i Awdurdodau Cynllunio Lleol gadw cofnod o'r holl hysbysiadau a dderbynnir mewn fformat y gellir ei rannu â Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig.

Caniateir pob newid defnydd sy'n digwydd am gyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad y dechreuodd y datblygiad a rhaid iddo ddod i ben ar neu cyn 29 Ebrill 2022, oni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer cadw'r defnydd. Gall y defnydd o'r adeilad newid yn ôl i'r defnydd gwreiddiol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o chwe mis.

Os bydd y busnesau'n ffynnu yn ystod y cyfnod prawf o chwe mis, gellir ceisio caniatâd cynllunio a byddai gan yr awdurdod cynllunio lleol sylfaen dystiolaeth i asesu effaith y defnydd amgen o hynny. Lle dangoswyd yn ystod y cyfnod dros dro mai bach iawn yw'r effeithiau cynllunio, neu lle y gellid rheoli'r effeithiau drwy amodau, dylid rhoi digon o bwys ar fanteision cymdeithasol, economaidd ac adfywio eang cadw defnydd amgen.

Defnyddiau lletygarwch – ystafell arlwyo awyr agored (Dosbarth F, Rhan 4A)

Wrth i reolaethau coronafeirws gael eu llacio, gall y diwydiant lletygarwch fod yn destun cyfyngiadau ar sut maent yn masnachu, yn debyg i'r rhai a osodwyd yn 2020. Mae gallu gweithredu yn yr awyr agored (neu gyda lle dan do cyfyngedig) yn unig yn golygu y bydd llawer o fusnesau lletygarwch yn dibynnu ar le ar briffyrdd i wneud eu gweithrediadau'n hyfyw.

I unioni cyfreithlondeb creu defnydd cymysg, mae Dosbarth F o Ran 4A yn caniatáu defnyddio'r briffordd sy'n gyfagos i fangre sy'n dod o fewn Dosbarth A3 (bwyd a diod) at ddibenion gwerthu neu weini bwyd neu ddiod a gyflenwir o'r fangre honno, neu fwyta neu yfed bwyd neu ddiod a gyflenwir o'r fangre honno. Caniateir hefyd leoli dodrefn y gellir eu tynnu i hwyluso'r defnydd. Mae hyn yn cynnwys byrddau, mathau o seddau, cownteri, stondinau, ymbaréls, rhwystrau a gwresogyddion neu eitemau eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â bwyta neu yfed bwyd neu ddiod yn yr awyr agored.

Rhaid i ganiatâd i ddefnyddio'r rhan berthnasol o'r briffordd fod wedi'i sicrhau gan yr awdurdod priffyrdd, a rhaid i ddatblygiadau gael eu gwneud yn unol ag unrhyw amodau er mwyn ffurfio datblygiad a ganiateir. Gwaherddir defnyddio'r ardal gan gwsmeriaid hefyd rhwng 10 p.m ac 8 a.m. i ddiogelu amwynder eiddo preswyl cyfagos.

Bydd yr hawl datblygu a ganiateir yn gymwys o 30 Ebrill 2021 tan 3 Ionawr 2022.

Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, dylai awdurdodau cynllunio lleol gynnal dull hyblyg a chefnogol lle mae busnesau'n ceisio defnyddio eu cwrtil ar gyfer darparu bwyd a diod, gan gynnwys codi strwythurau dros dro. Dylai awdurdodau cynllunio lleol gytuno i beidio â chymryd camau gorfodi (mewn achosion lle mae datblygiad yn digwydd, neu lle y gall amodau gyfyngu ar y defnydd o feysydd parcio/cwrtil) yn ystod y cyfnod hwn oni bai bod effaith gynllunio sylweddol.

Defnyddiau lletygarwch – adlenni (Dosbarth D, Rhan 42)

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy awdurdodau lleol, i fusnesau a phartneriaid yn y trydydd sector fynd i'r afael â'r problemau a wynebir yng nghanol trefi o ganlyniad i COVID-19. Bwriedir i’r cyllid hwn dalu am nifer o ymyriadau a fydd yn hwyluso masnachu ac yn gwella diogelwch y cyhoedd a golwg a naws canol trefi i helpu i adfer hyder. Mae hyn yn cynnwys adlenni dros ardaloedd allanol lle y gall cwsmeriaid a'r cyhoedd ymgynnull neu orffwys, neu lle y gellir gweini bwyd neu ddiod iddynt.

Mae Dosbarth D yn Rhan 42 yn caniatáu codi adlenni y gellir eu tynnu'n ôl dros du blaen safle sy'n perthyn i Ddosbarth Defnydd A3 (bwyd a diod) yn yr Atodlen i'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd er mwyn hwyluso lle masnachu awyr agored ar gyfer defnyddiau lletygarwch.

Ni chaniateir datblygu ar dir erthygl 1(5) nac ar Safle Treftadaeth y Byd, na datblygu adeiladau rhestredig, am fod angen ystyried yr effeithiau cynllunio ar eu cymeriad arbennig yn fwy manwl.

Hefyd, mae'r amodau'n ceisio cyfyngu ar yr effaith weledol drwy ei gwneud yn ofynnol i adlenni fod yn rhai y gellir eu tynnu'n ôl yn llawn, yn rhai nad oes angen dim byd i'w cynnal ar y briffordd gyhoeddus ac yn rhai heb baneli ochr neu flaen sy'n estyn tuag at y ddaear. Rhaid i'r adlenni gael eu tynnu'n ôl yn llawn rhwng 10pm ac 8am.

Os bydd adlen yn estyn dros briffordd gyhoeddus, i liniaru unrhyw effeithiau ar ddiogelwch ar y priffyrdd, rhaid bod wedi cael caniatâd gan yr awdurdod priffyrdd perthnasol o dan adran 115E o Ddeddf Priffyrdd 1980 i osod yr adlen a defnyddio'r lle oddi tani.

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith y diwygiadau hyn gyda'r bwriad o wneud diwygiadau ehangach a pharhaol i'r GDCG y flwyddyn nesaf. Bydd y newidiadau hyn yn destun ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghoriad cyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â planning.directorate@llyw.cymru.

Yn gywir,

Neil Hemington 

Prif Gynllunydd | Chief Planner 
Cyfarwyddiaeth Cynllunio | Planning Directorate