Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Annwyl gyfeillion, 

Gobeithio eich bod chi i gyd yn cadw’n iawn. Gofynnwn i chi rannu’r llythyr hwn gyda chynifer â phosib o’ch sefydliadau partner. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (AAA), rheini/gofalwyr a theuluoedd, a phawb arall sy’n eu cefnogi.

Rwy'n hynod ddiolchgar am y ffordd y mae'r rhai sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ag AAA yng Nghymru wedi gweithio gyda'i gilydd i ddelio â heriau pandemig Coronafeirws (Covid-19) ac i leihau'r effaith ar ddysgwyr, eu teuluoedd a staff.

Rydyn ni i gyd mewn amgylchiadau digynsail, ansicr ac anodd. Rydym yn gwybod bod hyn yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc ag AAA, eu teuluoedd, a'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i'w cefnogi ac i ofalu amdanynt.

Dyna pam, dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gwneud cyhoeddiadau a chyflwyno Cwestiynau Cyffredin i roi gwybodaeth am amseroedd agor ysgolion a’u gwasanaethau yn ystod y pandemig Coronafeirws. Byddwn yn parhau i ddiweddaru y Cwestiynau Cyffredin yn rheolaidd. Fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros AAA, roeddwn am ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ein bod ni wedi ymrwymo i wneud popeth posib i’ch cefnogi yn y cyfnod anodd sydd ohoni.  

Mae plant a phobl ifanc agored i niwed, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion diogelu ac yn cael cymorth gofal cymdeithasol, ar flaen ein meddyliau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Addysg a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, i wneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio’n hymdrechion yn y mannau cywir.

Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru, dylai lleoliadau gofal plant ac addysg fod ar agor i ofalu am blant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed/plant sydd angen cymorth arbenigol yn unig, a hynny dim ond os na ellir gofalu am y plentyn yn ddiogel gartref. Mae dolen i ddatganiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 20 Mawrth ar gael yma. Roedd rhagor o wybodaeth am ddiffiniad Llywodraeth Cymru o weithwyr hanfodol ar gael ar 27 Mawrth ac mae i'w weld yma.

Mae diogelu dysgwyr agored i niwed yn parhau i fod yn flaenoriaeth i bawb, ac mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion dysgwyr y mae'n cynnal Datganiad AAA ar eu cyfer. Mae llawer o blant sydd â datganiad yn derbyn eu haddysg mewn lleoliad prif ffrwd a byddai disgwyl iddynt gael mynediad at ddarpariaeth yn yr un modd â phob plentyn yn y math hwn o leoliad. Fodd bynnag, i leiafrif sylweddol sy'n derbyn eu haddysg mewn ysgol arbennig, ni fyddai hyn yn briodol. Os bydd ysgol arbennig yn cau, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried darpariaeth addysgol amgen ar gyfer dysgwyr y mae'n cadw datganiad AAA ar eu cyfer. Dylai ysgolion arbennig preswyl, ysgolion preswyl a lleoliadau arbennig barhau i ofalu am blant lle bynnag bo hynny’n bosib, a dilyn y canllawiau sydd ar gael ynghylch iechyd a llesiant staff ysgolion a dysgwyr. Mae llythyr mewn perthynas â phlant sy'n byw mewn cartrefi plant ar gael yma.

Ar 25 Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf y Coronafeirws 2020 mewn ymateb i’r pandemig. Mae’r ddeddf yn cynnwys pwerau brys dros dro i’n galluogi ni, lle bo angen, i addasu’r gofynion cyfreithiol ar awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag AAA. Rydym yn gweithio i roi’r pwerau hyn ar waith yng Nghymru ac fe fyddwn yn dosbarthu gwybodaeth ynghylch hyn cyn gynted â phosib.

Rwy’n eich annog i gadw llygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf drwy edrych ar dudalennau’r Coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru, a chofiwch fod blwch e-bost penodol ar gyfer ymholiadau Addysg ynghylch y Coronafeirws, sef Covid19Education@llyw.cymru.

Mae’r heriau sydd o’n blaen yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod y system o gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag AAA mor effeithiol â phosib yn y dyfodol. Er gwaetha’r cyfyngiadau sy’n angenrheidiol yn sgil y pandemig, rydym yn parhau i weithio i roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith yn llwyddiannus, ac mae hynny’n parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

Rwy’n gwybod y gallwn, drwy gydweithio, sicrhau fod plant a phobl ifanc ag AAA yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Diolch eto am y gwaith anhygoel o bwysig rydych chi'n ei wneud i gefnogi'r ymdrech genedlaethol ar yr adeg hynod anodd hon.

Yn gywir

Kirsty Williams AC/AM
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education