Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw diben y cyfraniad?

Ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, yn 2017 cytunodd Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar godi ffioedd am gladdu ac amlosgi plant dan 18 oed.

Rydym wedi edrych eto ar yr ymrwymiad hwnnw ac wedi cytuno i ymestyn y cymorth sydd ar gael i deuluoedd.

O ganlyniad, bydd gan deuluoedd yng Nghymru sydd wedi cofrestru marwolaeth plentyn dan 18 oed hawl i dderbyn £500 fel cyfraniad tuag at yr angladd a chostau cysylltiedig eraill.

A oes unrhyw feini prawf cymhwysedd?

Oes. Rhaid bod y plentyn o dan 18 oed adeg ei farwolaeth (gan gynnwys plant marw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd); bod y golled wedi'i chofrestru (tystysgrif marwolaeth); a bod cartref y teulu yng Nghymru.

Mae hwn yn gynnig cyffredinol waeth beth fo incwm neu gynilon y teulu.

Pwy all gael gafael arno?

Fe'i cynigir i'r person (y rhiant, y gofalwr neu'r gwarcheidwad fel arfer) sy'n cofrestru marwolaeth plentyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021.

Ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio?

Fe'i bwriedir fel cyfraniad ariannol tuag at gost angladd a chostau cysylltiedig eraill a mater i'r teulu fydd penderfynu sut y maent yn ei wario.

Nid yw'r math o gostau wedi'u cyfyngu ond gallent gynnwys:

  • arch
  • amdo
  • blwch neu orchudd arall
  • cynhwysydd ar gyfer storio lludw
  • costau a godir gan ddarparwr angladdau (gan gynnwys ffioedd trefnwyr angladdau)
  • cerbydau angladd
  • teyrngedau blodau
  • hysbysiadau marwolaeth
  • tynnu dyfeisiau meddygol
  • tystysgrifau meddygol
  • tystysgrifau cofrestru marwolaeth
  • cofebion
  • placiau
  • a gwaith maen (cerrig beddau)

Beth os nad y person sy'n cofrestru'r farwolaeth yw'r person sy'n gyfrifol am yr angladd?

Efallai y bydd rhai amgylchiadau lle nad y rhiant, y gofalwr na'r gwarcheidwad sy'n gyfrifol am yr angladd yw'r person sy'n cofrestru marwolaeth plentyn. Yn yr achos hwn gall y Cofrestrydd drefnu i'r taliad gael ei wneud yn uniongyrchol i'r person sy'n gyfrifol am yr angladd.

A yw ar gael ar gyfer pob marwolaeth plentyn sydd wedi’i chofrestru?

Ydy. Pan fydd efeilliaid (neu nifer luosog) wedi marw, bydd y taliad yn cael ei wneud ar gyfer pob unigolyn.

Os yw teulu wedi colli mwy nag un plentyn dros gyfnod o amser, byddent yn gymwys ar bob achlysur.

Sut y gellir cael gafael ar y taliad?

Bydd y Cofrestrydd yn darparu gwybodaeth am y cyfraniad ariannol sydd ar gael, a'r math/ystod o gostau y bwriedir iddo helpu tuag atynt, pan fydd teuluoedd yn cofrestru'r farwolaeth.

Os yw'r person yn dymuno derbyn y taliad, gofynnir iddo ddarparu manylion cyfrif banc, a bydd y Cofrestrydd wedyn yn trefnu i’r taliad gael ei wneud i’r cyfrif hwnnw.

Yn y rhan fwyaf o achosion, gwneir hyn ar yr un pryd â chofrestru’r farwolaeth.

Sut bydd y taliad yn cael ei wneud?

Telir y taliad drwy drosglwyddiad banc (gan amlaf o fewn 14 diwrnod gwaith).

Beth os nad oes gan y person gyfrif banc?

Os nad oes gan y person sy’n derbyn y taliad gyfrif banc, mae’n bosibl gwneud y taliad ar ffurf siec.

Beth os nad oes rhywun eisiau’r taliad?

Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i dderbyn y cyfraniad pe na bai'r rhiant, y gofalwr neu'r gwarcheidwad, am unrhyw reswm, ei eisiau.

Fodd bynnag, bydd ganddynt 12 mis o adeg cofrestru marwolaeth i gael gafael arno os byddant yn newid eu meddwl. Byddai angen i'r Cofrestrydd weld copi o'r dystysgrif marwolaeth os caiff hawliad ei wneud yn ddiweddarach.

Beth sy'n digwydd os yw'r plentyn yn dod o Gymru ond bod y farwolaeth yn digwydd ac yn cael ei chofrestru y tu allan i Gymru?

Mae dal yn bosibl cael y taliad drwy'r Cofrestrydd yn yr awdurdod lleol lle mae'r rhiant, y gofalwr neu'r gwarcheidwad yn preswylio. Byddai angen i'r Cofrestrydd weld copi o'r dystysgrif marwolaeth.

Beth sy'n digwydd os yw'r plentyn yn dod o'r tu allan i Gymru?

Os yw marwolaeth plentyn yn cael ei gofrestru yng Nghymru, ond bod cartref y teulu y tu allan i Gymru, ni fyddent yn gymwys i gael y taliad. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod cynlluniau tebyg ar gael mewn rhannau eraill o'r DU, er enghraifft Cronfa Angladdau Plant Lloegr.

Yn ogystal, gall teulu hefyd fod yn gymwys i gael Taliad Treuliau Angladd (FEP) gan yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydynt yn cael budd-daliadau penodol.

A fydd yn talu am gyfanswm cost yr angladd?

Na fydd. Bydd costau angladd yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad a threfniadau angladdau penodol. Mae'n annhebygol y bydd y cyfraniad hwn yn talu cyfanswm cost yr angladd.

Efallai y bydd teuluoedd yn elwa o siarad â nifer o ddarparwyr angladdau am y gwasanaethau y maent yn eu cynnig fel y gallant drefnu angladd sy'n ystyrlon ac yn fforddiadwy iddynt.

A ellir ei ddefnyddio i dalu ffioedd claddu ac amlosgi?

Caiff ffioedd claddu ac amlosgi awdurdodau lleol a chyngor cymuned ar gyfer plant dan 18 oed eu hepgor o dan gytundeb presennol. Gall darparwyr eraill hepgor y ffioedd hyn hefyd, ond os nad ydynt yn gwneud hynny, gellid defnyddio'r arian at y diben hwn.

A oes modd defnyddio tystysgrif marwolaeth dros dro i gael y taliad?

Oes.

A oes unrhyw oblygiadau i fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm neu dreth?

Ni fydd budd-daliadau etifeddol sy’n seiliedig ar incwm (Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Chredyd Pensiwn) yn cael eu heffeithio. Byddem yn annog teuluoedd i sicrhau bod y darparwr budd-dal yn ymwybodol o’r taliad, er mwyn iddo gael ei ddiystyru.

Mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol, caiff y taliad ei drin fel Cyfalaf, ond ni fyddai’n cael unrhyw effaith oni bai ei fod yn golygu bod cynilion y person wedi cynyddu uwchlaw’r trothwy ar gyfer yr hawl hon. Mae’n annhebygol y byddai hyn yn digwydd os caiff yr arian ei wario yn hytrach na’i gynilo. Byddem yn annog teuluoedd i sicrhau bod y darparwr budd-dal yn ymwybodol o’r taliad, a bydd yn gwybod sut i ymdrin â’r taliad hwnnw.

Ni chodir treth ar y taliad.