Fframwaith casglu’r Dreth Gyngor: canllawiau i awdurdodau lleol
Cyngor i helpu awdurdodau lleol Cymru i gasglu’r Dreth Gyngor sy’n ddyledus mewn ffordd deg a chefnogol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwrpas
Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu datblygu i helpu awdurdodau lleol i fabwysiadu arferion cyson, teg a thryloyw wrth weinyddu, casglu a gorfodi’r Dreth Gyngor. Maent yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Dreth Gyngor yn decach, ac i helpu pobl pan fydd ganddynt ôl-ddyledion.
Mae talu’r Dreth Gyngor yn rhwymedigaeth. Mae’r canllawiau hyn yn cydnabod yr unigolyn sydd y tu ôl i’r atebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor, a’r amgylchiadau a allai arwain at bobl yn mynd ar ei hôl hi: colli swydd, enillion yn amrywio, salwch corfforol a salwch meddwl, profedigaeth yn y teulu, a sioc ariannol annisgwyl yn y cartref. Mae llywodraethau, awdurdodau lleol a’r trydydd sector yn darparu pob math o gymorth pan fydd pobl yn wynebu anawsterau. Dylai fframwaith casglu’r Dreth Gyngor ategu’r cymorth ehangach sydd ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud yn glir bod y fframwaith yn galluogi awdurdodau lleol i gasglu arian gan bobl sy’n gyson yn peidio â thalu ac y mae'r awdurdodau’n gwybod fel arall eu bod yn gallu fforddio talu eu Treth Gyngor. Yr unig beth y mae hyn yn ei wneud yw cynyddu’r Dreth Gyngor i drethdalwyr eraill er mwyn ariannu gwasanaethau. Mae gwaith diwyd awdurdodau lleol yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i elwa o gyfraddau casglu effeithlon ac effeithiol iawn, gan ddiogelu cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol.
Yn 2019, ymrwymodd pob awdurdod lleol yng Nghymru i Brotocol Treth Gyngor Cymru i hybu’r broses o ymgysylltu â phobl sy’n talu’r Dreth Gyngor, a meithrin gwaith partneriaeth mwy effeithiol gydag asiantaethau cynghori ac asiantaethau gorfodi. Bwriad y canllawiau hyn yw ategu a gwella’r cytundeb hwnnw, yn dilyn gwelliannau a wnaed yn 2025 i Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2026.
Amcanion y canllawiau hyn:
- Hybu tegwch a chysondeb wrth gasglu’r Dreth Gyngor ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol.
- Annog awdurdodau lleol i ymgysylltu'n gynnar â threthdalwyr er mwyn atal ôl-ddyledion, mynd ati i gael gwybod a ydyn nhw'n gymwys i dderbyn cymorth, a lleihau’r angen am gamau gorfodi.
- Sicrhau bod arferion gorfodi yn gymesur, yn foesegol, ac yn cyd-fynd ag egwyddorion urddas a pharch.
- Cefnogi aelwydydd bregus ac incwm isel drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch a chymorth wedi’i deilwra, ac atgyfeirio at wasanaethau priodol.
- Meithrin cydweithrediad a dysg ymysg awdurdodau lleol i rannu arferion gorau a gwella canlyniadau i breswylwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gweithredu o fewn gwahanol gyllidebau, systemau TG, a lefelau staffio, a bod timau’r Dreth Gyngor yn aml yn delio â llwyth gwaith mawr. Mae’r enghreifftiau a amlinellir yn y canllawiau hyn yn deillio o gamau cadarnhaol y mae llawer o awdurdodau eisoes yn eu cymryd. Er nad ydynt yn disodli cyfrifoldebau statudol nac yn diystyru'r deddfwriaethau presennol, mae’r canllawiau hyn yn darparu fframwaith arferion gorau a luniwyd i gefnogi gwelliant parhaus.
Cyflwyniad
Bob blwyddyn, mae’r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a channoedd o wasanaethau eraill fel plismona, gwasanaethau tân a thrafnidiaeth – pethau y mae pob un ohonom yn elwa’n enfawr ohonynt. Mae casglu’r Dreth Gyngor yn effeithlon ac yn brydlon yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn dal ar gael i bawb yn y gymuned.
Yn 2024-2025, cyhoeddodd awdurdodau lleol yng Nghymru dros 1.4 miliwn o filiau’r Dreth Gyngor, a chasglwyd £2.3 biliwn o refeniw i gefnogi gwasanaethau lleol. I’r rhan fwyaf o aelwydydd, mae’r system yn gweithio’n esmwyth, gyda thaliadau’n cael eu gwneud yn brydlon heb fawr o angen am ymyrraeth.
Ond, mae’n bosibl y bydd rhai preswylwyr yn cael trafferth talu’n brydlon oherwydd heriau personol, ariannol neu iechyd. Yn yr achosion hyn, rhaid i awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio eu pwerau disgresiwn a statudol i adennill ôl-ddyledion.
Nid oes un ateb sy’n addas i bawb. Ond mae gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn dangos y gall strategaethau adennill cefnogol a hyblyg arwain at ganlyniadau gwell i breswylwyr yn ogystal ag awdurdodau.
Drwy ganolbwyntio ar gyfathrebu clir a thosturiol, gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cyngor ar ddyledion, a defnyddio camau gorfodi ystyriol, gallai awdurdodau lleol gynyddu’r arian sy’n cael ei gasglu a thrin preswylwyr ag urddas ac yn deg.
Mae’r dull hwn nid yn unig yn cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd ond hefyd yn helpu i atal caledi ariannol hirdymor, gan gefnogi llesiant unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Mae newidiadau i’r fframwaith gorfodi – a ddaw i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2026 – yn cyflwyno system sy’n caniatáu mwy o amser ar gyfer yr arferion ymgysylltu hyn, gan gynnwys amser i berson gael cyngor gan asiantaeth ddyledion yn ogystal ag amser i awdurdodau lleol gynnig cynlluniau ad-dalu ar gyfer ôl-ddyledion. Mae’r rhain yn rhan hanfodol o’r ffordd y mae’r system yn gweithredu.
Bydd y system yn sicrhau y bydd pob aelwyd a fydd wedi methu taliad yn cael nodyn atgoffa a hysbysiad terfynol cyn y gellir cymryd unrhyw gamau gorfodi, fel bod y camau’n glir. Bydd hefyd yn golygu y bydd rhaid i'r awdurdod lleol aros o leiaf 63 diwrnod, o’r dyddiad y bydd yr aelwyd yn methu taliad, nes y gall wneud cais i lys am orchymyn atebolrwydd ar gyfer unrhyw falans blynyddol sydd heb ei dalu.
Casglu’r Dreth Gyngor mewn ffordd gefnogol
Mae’r broses o gasglu’r Dreth Gyngor mewn ffordd effeithiol yn dechrau ymhell cyn i filiau gael eu cyhoeddi. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio systemau sydd nid yn unig yn sicrhau refeniw ond hefyd yn cefnogi’r preswylwyr, yn enwedig y rheini sy’n wynebu caledi ariannol.
Creu system filio deg a hygyrch
Mae system filio deg a hygyrch yn helpu preswylwyr i ddeall eu hatebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor, i gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, ac i osgoi mynd i ôl-ddyledion yn ddiangen. Gall awdurdodau gryfhau eu dull gweithredu drwy ymwreiddio’r egwyddorion arferion da canlynol:
- Canfod yn gynnar pwy sy’n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor: dylai awdurdodau lleol fynd ati’n frwd i ganfod cyn gynted â phosibl pwy allai fod yn gymwys i dderbyn cymorth ar gyfer aelwydydd incwm isel drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Gallai hyn gynnwys defnyddio offer paru data, adolygu'r wybodaeth a ddarperir drwy wasanaethau eraill y cyngor, neu atgoffa preswylwyr yn ystod prosesau creu cyfrifon neu newid cyfeiriad. Mae canfod yn gynnar pwy sy’n gymwys yn lleihau’r risg o filiau anghywir, yn lliniaru caledi, ac yn helpu i sicrhau nad yw trigolion incwm isel yn cronni ôl-ddyledion yn ddiangen. Mae’r rheoliadau’n galluogi awdurdodau lleol i drin cais am Gredyd Cynhwysol fel man cychwyn cais ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae llawer o awdurdodau lleol yn defnyddio awtomatiaeth pan dderbynnir gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y ffeiliau data a ddarperir.
- Prosesau cyson ar gyfer disgowntiau, diystyriadau ac esemptiadau: os yw awdurdodau lleol yn gwybod y gallai rhywun fod yn gymwys i dderbyn unrhyw ddisgownt, diystyriad neu esemptiad, dylent annog preswylwyr i ystyried gwneud cais. Unwaith eto, gallai awdurdodau fod yn rhagweithiol mewn achosion lle mae ffynonellau data eraill, neu hanes cyfrif, yn dangos y gallai rhywun fod yn gymwys.
- Annog a chefnogi ceisiadau: Mae allgymorth rhagweithiol yn hanfodol er mwyn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cymorth sydd ar gael. Gall awdurdodau lleol gynyddu ymwybyddiaeth drwy gynnal ymgyrchoedd aml-sianel, gweithio gyda phartneriaid cymunedol, a symleiddio llwybrau ymgeisio. Mae cyfathrebu mewn ffordd wedi’i theilwra, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy’n llai tebygol o hawlio – fel aelwydydd incwm isel sy’n gweithio, neu bobl nad ydynt wedi’u cysylltu â’r byd digidol – yn gallu gwella mynediad yn sylweddol. Mae annog preswylwyr i wneud cais yn brydlon yn eu helpu i gael y lefel gywir o gymorth o’r cychwyn cyntaf.
- Hyfforddiant i’r staff: Dylai fod gan staff rheng flaen – gan gynnwys timau gwasanaeth cwsmeriaid a swyddogion refeniw – wybodaeth glir a chyfredol am ddisgowntiau, diystyriadau, esemptiadau, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae hyfforddiant rheolaidd yn sicrhau bod staff yn gallu adnabod yn hyderus pwy allai fod yn gymwys, rhoi cyngor cywir, ac adnabod arwyddion y gallai preswylydd fod mewn trafferthion ariannol neu nad yw’n ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. Mae hyn yn cyfrannu at ganlyniadau gwell, ac yn lleihau’r galw sy’n deillio o gamgymeriadau y gellir eu hosgoi neu gyswllt dro ar ôl tro.
- Cyfathrebu a bilio'n glir ac yn hygyrch: Dylid ysgrifennu biliau, llythyrau a gohebiaeth ddigidol mewn iaith glir, gan egluro rhwymedigaethau’n glir, a chyfeirio preswylwyr at y cymorth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys egluro sut i wneud cais ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor neu ddisgowntiau, sut i roi gwybod bod amgylchiadau wedi newid, a ble i gael cyngor annibynnol. Dylai nodweddion hygyrchedd fel cyfieithiadau, fersiynau print bras, fformatau Hawdd eu Darllen, a chymorth dros y ffôn fod ar gael pan fydd angen.
- Dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a hygyrchedd digidol: Dylai awdurdodau ddylunio systemau bilio a systemau ymgeisio ar sail anghenion preswylwyr. Mae hyn yn cynnwys ffurflenni symlach, cynlluniau greddfol, rhyngwynebau hawdd eu defnyddio ar ddyfeisiau symudol, negeseuon clir i atgoffa am hawliau posibl, a’r opsiwn i gadw ceisiadau a dychwelyd atynt. Mae cynnig llwybrau digidol, yn ogystal â llwybrau nad ydynt yn ddigidol, yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw aelwyd yn cael ei heithrio.
Gwaith cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau
Mae rhai awdurdodau lleol yn cysylltu’r broses o weinyddu’r Dreth Gyngor â systemau cymorth eraill, fel:
- gwasanaethau budd-dal tai a lles
- timau cyngor ar ddyledion a chynhwysiant ariannol
- systemau TG integredig sy’n ei gwneud yn bosibl i weld yr holl ddyledion yn yr un lle
Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn galluogi awdurdodau i wneud y canlynol:
- Cyfuno mwy nag un ddyled mewn un cynllun hawdd ei reoli: Gall cynllun ad-dalu cydgysylltiedig sy’n cynnwys mwy nag un ddyled i’r cyngor leihau dryswch i breswylwyr, lleihau beichiau gweinyddol, a gwella’r broses gasglu drwy osod symiau realistig sy’n seiliedig ar amgylchiadau aelwydydd.
- Delio â gwahanol fathau o ôl-ddyledion mewn ffordd gyson: Mae dod â gwasanaethau at ei gilydd yn cefnogi dull adennill unedig sy’n cyd-fynd â pholisïau dyledion corfforaethol ac egwyddorion tegwch. Mae hyn yn sicrhau bod preswylwyr yn cael profiad cyson beth bynnag fo’r math o ddyled dan sylw.
- Cael dealltwriaeth ddyfnach o amgylchiadau ariannol preswylwyr: Mae cyfuno gwybodaeth o wahanol wasanaethau gyda mesurau diogelu data priodol yn galluogi awdurdodau i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyflawn o incwm preswylwyr, y pwysau ariannol maent yn eu hwynebu, a’u bregusrwydd. Mae’r sylfaen dystiolaeth well hon yn cefnogi ymyrraeth gynnar, cymorth wedi’i deilwra, a chanlyniadau hirdymor mwy cynaliadwy.
Polisïau ffurfiol ar gyfer adennill a gorfodi
Mae rhai awdurdodau lleol wedi datblygu polisïau ffurfiol sy’n arwain eu dull gorfodi, yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud â phreswylwyr sydd mewn sefyllfa fregus. Gall y rhain gynnwys:
- ymrwymiad i lwybrau gorfodi amgen ar gyfer y rheini sy’n wynebu caledi
- cynlluniau ad-dalu hyblyg dros gyfnodau hwy
- defnyddio pwerau Adran 13A o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i leihau’r Dreth Gyngor mewn achosion o anhawster ariannol eithriadol
Mae polisïau o’r fath yn sicrhau bod y broses adennill yn un effeithiol yn ogystal â thosturiol.
Cydweithio
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod preswylwyr yn cael cymorth clir ac amserol drwy gydol y broses o gasglu’r Dreth Gyngor. Gall partneriaethau cryf â sefydliadau annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyledion arwain at gasglu dyledion yn gyflymach, llai o ôl-ddyledion mynych, a chanlyniadau gwell i breswylwyr, yn enwedig y rheini sy’n wynebu caledi ariannol neu heriau iechyd meddwl. Mae’r cydweithio hwn hefyd yn arwain at arbedion hirdymor i awdurdodau lleol.
Meithrin cysylltiadau effeithiol
Dylai awdurdodau lleol barhau i fod yn agored i weithio gyda chynghorwyr dyledion ar unrhyw gam yn y broses gasglu. Gellir meithrin cydweithio effeithiol drwy gynlluniau fel:
- Pwyntiau cyswllt dynodedig: Mae pennu un cyswllt rhwng yr awdurdod a chyrff cynghori yn gwella’r prosesau cyfathrebu a rheoli achosion.
- Cydleoli staff: Mae rhai awdurdodau lleol wedi lleoli staff mewn canolfannau cynghori lleol neu ganolfannau ar y cyd, sy’n ei gwneud yn bosibl i roi diweddariadau ar y pryd ac i gynghorwyr dyledion a thimau’r cyngor ymgysylltu’n uniongyrchol â’i gilydd. Roedd ymchwil gymdeithasol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2026 yn pwysleisio bod canolfannau lleol yn gyfleusterau gwerthfawr, yn enwedig i grwpiau ethnig leiafrifol.
- Cyfarfodydd cyswllt rheolaidd: Mae cyfarfodydd sy’n cael eu trefnu ag asiantaethau cynghori lleol yn helpu’r ddwy ochr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a'r heriau sy’n codi wrth gasglu’r Dreth Gyngor.
- Sesiynau galw heibio cymunedol: Mae sesiynau a gynhelir ar y cyd â chyrff cynghori yn annog preswylwyr i ofyn am gymorth ac i ymgysylltu â’r awdurdod lleol mewn amgylchedd nad yw’n fygythiol.
Mae’r dulliau hyn yn sicrhau bod sianeli cyfathrebu ar agor, ac yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ad-dalu cynaliadwy.
Gwella’r cymorth mewnol ac allanol
Mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithredu gwasanaethau cymorth mewnol ar gyfer dyledion. Mae cryfhau cysylltiadau â darparwyr allanol yn gwella canlyniadau drwy:
- wella’r broses o rannu gwybodaeth, yn enwedig mewn achosion anodd eu cyrraedd
- ei gwneud yn bosibl i ymgysylltu'n gynharach â phreswylwyr
- helpu’r broses o wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am gynlluniau ad-dalu neu gamau gorfodi
Cyfeirio ac atgyfeirio
Dylai awdurdodau lleol adolygu eu prosesau atgyfeirio’n rheolaidd i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at gyngor hygyrch am ddim ar ddyledion. Yn ogystal â gwasanaethau wyneb yn wyneb, dylai awdurdodau lleol hybu opsiynau dros y ffôn ac ar-lein i ddiwallu anghenion amrywiol.
Ymgysylltu ac ymyrryd yn gynnar
Mae awdurdodau lleol yn rhan hollbwysig o'r gwaith o helpu preswylwyr i dalu’r Dreth Gyngor yn brydlon, ac i gael gafael ar gymorth pan fydd angen. Mae’n allweddol cyfathrebu'n effeithiol, gan annog y rheini sy’n gallu talu i wneud hynny’n brydlon, ac annog y rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol i ymgysylltu’n gynnar.
Mae rheoli biliau’r Dreth Gyngor ar raddfa fawr yn broses gymhleth. Er mwyn gwella canlyniadau, mae llawer o awdurdodau’n ailystyried sut maen nhw’n cyfathrebu â phreswylwyr, yn symleiddio’r iaith, yn defnyddio gwybodaeth am ymddygiad, ac yn cynnig cymorth mwy ymarferol.
Cyfathrebu’n glir ac yn gefnogol
Mae rhai awdurdodau lleol wedi ailgynllunio biliau a llythyrau er mwyn eu gwneud yn gliriach ac yn fwy hygyrch, gan leihau jargon a defnyddio iaith bob dydd. Gall hyd yn oed newidiadau bach yn y geiriad wneud gwahaniaeth mawr, gan helpu preswylwyr i ddeall eu rhwymedigaethau’n well ac i deimlo’n fwy hyderus wrth ofyn am help pan fydd angen. Mae edrychiad a theimlad amlenni hefyd yn gallu bod yn rhwystr i rywun sy’n wynebu ôl-ddyledion.
Cymorth ymarferol
Mae cymorth clir a hygyrch yn helpu preswylwyr i ddeall eu Treth Gyngor, i ymgysylltu’n gynharach, ac i osgoi mynd i ôl-ddyledion. Gall awdurdodau wella cyfraddau ymgysylltu a thalu drwy sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pa gymorth sydd ar gael ar gamau cynharach, a sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw:
- Beth mae'r Dreth Gyngor yn talu amdano: Helpwch breswylwyr i ddeall gwerth eu cyfraniad drwy amlinellu’n glir sut mae’r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, gwastraff ac ailgylchu, diogelwch cymunedol, a seilwaith lleol. Dylid anfon taflenni neu wybodaeth atodol glir gyda biliau’r Dreth Gyngor, a dylai tudalennau gwe’r Dreth Gyngor grynhoi’n fyr beth mae’r Dreth Gyngor yn talu amdano, yn hytrach na dibynnu ar bobl yn dod o hyd i bapurau cyllideb y cyngor ac yn eu deall.
- Disgowntiau ac esemptiadau: Dylid rhoi gwybodaeth glir a syml i breswylwyr am eu hawl i ddisgowntiau, diystyriadau, esemptiadau, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Dylai awdurdodau lleol dynnu sylw at yr opsiynau hyn ar adegau allweddol fel biliau, hysbysiadau newid cyfeiriad, neu negeseuon atgoffa a sicrhau bod canllawiau ar-lein yn hawdd eu defnyddio. Mae darparu enghreifftiau neu senarios cyffredin yn ei gwneud yn haws i breswylwyr fynd ati eu hunain i ganfod a ydyn nhw’n gymwys. Dylai awdurdodau lleol ystyried ble arall y gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i berson – ee, gan wasanaethau eraill y cyngor (tai, gwasanaethau cymdeithasol, lles lleol, cynllunio) ac mewn gwasanaethau cymunedol (llyfrgelloedd, canolfannau, canolfannau gwaith, adeiladau’r cyngor).
- Llwybrau hygyrch i gysylltu: Dylai awdurdodau ddarparu nifer o opsiynau cysylltu: dros y ffôn, ffurflenni ar-lein, e-bost a, lle bo’n bosibl, cymorth wyneb yn wyneb. Dylai cynifer o lwybrau â phosibl roi preswylwyr mewn cysylltiad â darparwr cyngor ar ddyledion sydd wedi cael ei achredu. Mae hyn yn sicrhau bod cymorth ar gael i’r rheini sy’n cael trafferth cael mynediad digidol neu sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.
- Canlyniadau peidio â thalu: Er bod angen i breswylwyr ddeall camau'r broses adennill a goblygiadau peidio â thalu, dylai’r holl ohebiaeth fod yn barchus, yn anfygythiol, a chanolbwyntio ar atebion. Mae pwysleisio y gall ymgysylltu'n gynnar atal costau pellach yn annog preswylwyr i ofyn am gymorth cyn i’w sefyllfa waethygu.
Opsiynau talu hyblyg
Gall awdurdodau lleol gynnig trefniadau talu wedi’u teilwra i helpu preswylwyr i reoli eu taliadau Treth Gyngor ac osgoi mynd i ddyled. Nid oes angen i’r trefniadau hyn aros nes bydd gan rywun ôl-ddyledion. Bydd yr opsiynau hyn yn cael eu hystyried fesul achos pan fydd preswylydd yn gofyn am gymorth. Gallai’r addasiadau sydd ar gael gynnwys:
- Ailbroffilio cynlluniau talu fel eu bod yn gweddu’n well i amgylchiadau'r unigolyn. Er bod y Dreth Gyngor yn cael ei bilio’n flynyddol, nid oes unrhyw beth yn rhwystro awdurdodau lleol rhag ymestyn proffiliau talu y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol. Os dim ond un rhandaliad a fethwyd gan drethdalwr sydd wedi bod yn talu'n brydlon fel arall, rhowch opsiynau i’r unigolyn ar gyfer adennill y rhandaliad hwnnw heb i hyn gael unrhyw effaith ar ei gyfrif yn y tymor hwy.
- Newid i 12 rhandaliad misol i rannu taliadau’n fwy cyfartal ar draws y flwyddyn.
- Addasu dyddiadau talu i gyd-fynd ag amserlenni talu cyflog neu fudd-daliadau. Gall hyn gynnwys darparu cynlluniau rhandaliadau wythnosol neu bythefnosol. Nid oes unrhyw rwystrau deddfwriaethol sy’n atal awdurdodau lleol rhag cynnig dewis o ddyddiad talu. Dylid moderneiddio systemau meddalwedd er mwyn gallu cynnig dewis.
- Cydlynu rhandaliadau â thaliadau pensiwn y wladwriaeth, y gellir eu derbyn bob pedair wythnos yn hytrach na bob mis.
- Lleihau symiau ad-dalu pan fydd tystiolaeth glir nad yw’r preswylydd yn gallu bodloni rhwymedigaethau taliadau llawn.
- Cynnig nifer o ddulliau talu, gan gynnwys ar-lein, dros y ffôn, a dulliau hygyrch eraill.
Ar gyfer preswylwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, dylai gohebiaeth wedi’i hargraffu gynnwys awgrymiadau ymarferol, fel addasu dyddiadau talu neu amlder taliadau i gyd-fynd â’u cyllideb.
Ymgysylltu drwy sianeli gwahanol
Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio negeseuon testun, e-bost, a phyrth ar-lein i anfon negeseuon atgoffa. Mae’r rhain yn aml yn cael eu teilwra ar sail hanes talu – ee, tynnu sylw at daliadau a fethwyd am y tro cyntaf er mwyn cymryd camau dilynol mwy personol.
Er mwyn annog pobl i fanteisio ar ddebyd uniongyrchol, mae rhai awdurdodau lleol yn caniatáu taliadau ar unrhyw ddiwrnod o’r mis, sy’n cyd-fynd ag amserlenni talu preswylwyr.
Sicrhau bod data’n gweithio i breswylwyr ac awdurdodau lleol
Mae defnyddio data mewn ffordd fwy clyfar yn golygu mwy na gwella cyfraddau casglu – mae’n golygu deall beth sydd wrth wraidd yr ôl-ddyledion, trin pobl yn deg, a’u helpu i aros ar y trywydd iawn. Pan fydd awdurdodau lleol yn teilwra eu dull gweithredu ar sail amgylchiadau preswylydd, rydym yn disgwyl gweld canlyniadau gwell i bawb. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng person sy’n wynebu anhawster ariannol dros dro, a pherson sy’n gallu fforddio talu’r Dreth Gyngor ond nad yw’n gwneud hynny. Dylai data hefyd ddangos a yw rhywun yn colli cyfle i dderbyn cymorth ar gyfer y Dreth Gyngor.
Deall y darlun cyfan
Mae gan lawer o awdurdodau lleol eisoes wybodaeth werthfawr sy’n gallu eu helpu i ddeall pam y gallai rhywun fod ar ei hôl hi gyda’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn cynnwys:
- ymddygiad talu yn y gorffennol
- a yw bil y Dreth Gyngor wedi newid yn ddiweddar
- cymhwysedd i dderbyn cymorth neu ddisgowntiau ar gyfer y Dreth Gyngor
- derbyn cymorth arall (fel darpariaeth les yr Adran Gwaith a Phensiynau, cynlluniau lles lleol)
- ffactorau bregusrwydd y mae’r awdurdod yn gwybod amdanynt (fel amhariad gwybyddol sylweddol, a gadael gofal).
Drwy edrych ar y pwyntiau data hyn gyda’i gilydd, gall awdurdodau lleol wneud penderfyniadau doethach, dewis y ffordd briodol o ymgysylltu, cynnig cymorth pan fydd angen, ac osgoi camau gorfodi diangen.
Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio modelau sy’n seiliedig ar wybodaeth i ddeall pa fath o gymorth neu gamau gweithredu sydd fwyaf priodol. Os bydd rhywun yn methu taliad, mae’r awdurdod yn gwneud mwy na dim ond anfon nodyn atgoffa safonol – mae’n ceisio deall beth sy’n digwydd, ac yn ymateb yn unol â hynny. Er enghraifft,
- Os yw’n ymddangos bod preswylydd yn debygol o allu talu, mae'r ohebiaeth yn pwysleisio bod y Dreth Gyngor yn ddyled â blaenoriaeth ac yn egluro canlyniadau peidio â thalu.
- Os yw’n ymddangos bod rhywun yn gweld pethau’n anodd neu mewn sefyllfa fregus, mae awdurdodau lleol yn ymdrin â’r sefyllfa mewn ffordd fwy personol, gan weithio’n aml gyda chynghorwyr dyledion lleol i gynnig cymorth a dod o hyd i gynllun ad-dalu cynaliadwy.
Mae nifer o awdurdodau wedi ffurfio partneriaeth â sefydliadau allanol er mwyn iddynt allu cydweithio i ddefnyddio data’r awdurdod ei hun mewn ffordd effeithiol i helpu'r broses gasglu.
Mae’n bwysig nodi nad yw bregusrwydd ynddo’i hun yn golygu bod person wedi’i eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor. Dylai’r ffaith bod rhywun mewn sefyllfa fregus lywio’r ffordd mae’r awdurdod lleol yn delio â’r sefyllfa – er enghraifft, caniatáu mwy o amser, defnyddio llwybrau cyswllt meddalach, neu ddarparu mwy o gymorth. Fodd bynnag, os na fydd yr ymdrechion i gefnogi ac ymgysylltu yn llwyddiannus, gall yr awdurdod barhau i ddilyn ei brosesau adennill arferol yn unol â deddfwriaeth ac arferion da.
Methu rhandaliadau
Pan fydd preswylydd yn methu rhandaliad y Dreth Gyngor neu’n peidio ymateb i fil, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn mabwysiadu dull ystyriol a chefnogol cyn cychwyn ar weithdrefnau adennill ffurfiol. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y preswylydd yw cysylltu â’r awdurdod ar unwaith, neu ofyn am gymorth gan unigolyn neu wasanaeth cynghori a all wneud hynny ar ei ran.
Mae’n rhaid i’r preswylydd ymgysylltu er mwyn i’r awdurdod lleol allu cynnig cymorth, asesu fforddiadwyedd, neu drafod trefniadau talu amgen. Heb y cyswllt hwn, ni all yr awdurdod ddod i wybod am ffactorau bregusrwydd na rhoi mesurau diogelu ar waith cyn bwrw ymlaen â’r broses adennill statudol. Felly, mae’n hollbwysig bod y trethdalwr neu ei gynrychiolydd yn cyfathrebu’n brydlon er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu ac osgoi camau gorfodi, a allai arwain at gostau ychwanegol.
Hysbysiadau Atgoffa
Os bydd unigolyn yn methu rhandaliad, caiff awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad atgoffa. Os yw’r rhandaliad nesaf yn ddyledus o fewn saith diwrnod i gyhoeddi’r nodyn atgoffa, gellir cynnwys y swm hwnnw yn yr hysbysiad hefyd. Rhaid i’r nodyn atgoffa:
- ddatgan yn glir y swm sy’n orddyledus
Gall awdurdodau lleol gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol maen nhw’n teimlo sy’n ddefnyddiol, gan gynnwys:
- gofyn am i’r taliad gael ei wneud cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi camau pellach
- darparu rhif cyswllt os nad yw’r unigolyn yn gallu talu
- cyfeirio preswylwyr at y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gwasanaethau cyngor ar ddyledion
Mae rhagor o arweiniad ar y camau nesaf ar gael yn Atodiad 1.
Hysbysiadau terfynol
Os na wneir taliadau i ddod â'r cyfrif yn gyfredol ar ôl y nodyn atgoffa, cyn y gall awdurdod bilio wneud cais am orchymyn atebolrwydd yn erbyn y trethdalwr, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad terfynol yn gyntaf.
Rhaid i’r hysbysiad terfynol hwn:
- beidio â chael ei gyhoeddi tan o leiaf 41 diwrnod ar ôl y dyddiad yr oedd y rhandaliad a fethwyd yn ddyledus, ac
- ni ellir ei gyhoeddi am o leiaf 14 diwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad atgoffa diweddaraf
- dangos y cyfanswm sy’n ddyledus ar y diwrnod y caiff ei gyhoeddi
Mae Atodiad 2 hefyd yn rhoi arweiniad ar y cynnwys a argymhellir i helpu preswylwyr i ddeall canlyniadau posibl peidio â thalu.
Ar ôl i hysbysiad terfynol gael ei gyhoeddi, bydd gan breswylwyr 21 diwrnod i dalu’r swm llawn a nodwyd ynddo. Os na dderbynnir y taliad o fewn y cyfnod hwn, bydd y Dreth Gyngor sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn lawn yn ddyledus ar y diwrnod canlynol.
Cefnogaeth cyn cymryd camau ffurfiol
Cyn cymryd camau o’r fath, mae llawer o awdurdodau’n defnyddio dulliau “meddal” o atgoffa, fel:
- negeseuon testun gyda dolenni talu a chysylltiadau cymorth
- galwadau ffôn uniongyrchol i grwpiau sydd mewn sefyllfa fregus (ee, y rheini sy’n cael disgownt Amhariad Gwybyddol Sylweddol neu’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu)
Nod yr ymdrechion hyn yw atal camau gorfodi a lleihau costau i breswylwyr. Dylai awdurdodau lleol bob amser weithio gyda phreswylwyr i ddod o hyd i atebion cynaliadwy; gall hyn gynnwys cynnig opsiynau talu hyblyg fel:
- ailbroffilio cynlluniau talu fel eu bod yn gweddu’n well i amgylchiadau'r unigolyn Mewn rhai achosion, gall cynlluniau ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol
- addasu dyddiadau talu i gyd-fynd ag amserlenni talu cyflog neu fudd-daliadau
- newid i 12 rhandaliad misol i rannu taliadau’n fwy cyfartal ar draws y flwyddyn
- cydlynu rhandaliadau â thaliadau pensiwn y wladwriaeth, y gellir eu derbyn bob pedair wythnos yn hytrach na bob mis
Dylai awdurdodau lleol hefyd asesu’n barhaus a yw preswylwyr yn gymwys i gael disgowntiau, diystyriadau, esemptiadau, a chymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Ôl-ddyddio dyfarniadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Os oes gan awdurdod lleol dystiolaeth y byddai unigolyn wedi bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ond heb ei hawlio ac wedi mynd i ôl-ddyledion ers hynny, dylai’r awdurdod gymryd camau i unioni’r sefyllfa. Gall hyn gynnwys ôl-ddyddio dyfarniad Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor neu gymhwyso gostyngiad yn ôl disgresiwn o dan adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i sicrhau bod atebolrwydd yr unigolyn yn adlewyrchu’r hyn y dylid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo ei dalu.
Mae llawer o bobl yn methu hawlio Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oherwydd bregusrwydd, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, neu oherwydd bod eu hamgylchiadau wedi newid. Pan all yr awdurdod ddod i’r casgliad rhesymol y dylai’r person fod wedi cael cymorth, mae’n deg ac yn gymesur addasu’r atebolrwydd yn hytrach na mynd ar ôl ôl-ddyledion na ddylent erioed fod wedi codi.
Gorchmynion atebolrwydd a pharhau i ymgysylltu
Pan nad yw ymdrechion i ymgysylltu â thalwyr biliau wedi bod yn llwyddiannus, a phan fydd ôl-ddyledion yn dal heb eu talu, gall awdurdodau wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn atebolrwydd. Codir gwŷs ar gyfer yr aelwyd, sy’n nodi’r swm sy’n ddyledus ac yn enwi’r person sy’n atebol. Ni ddylid cymryd y cam hwn nes y bydd ymdrechion i ddatrys y mater drwy ymgysylltu’n gynharach wedi methu.
Dylai gohebiaeth gan awdurdodau ar y cam hwn:
- Amlinellu’r camau a’r canlyniadau nesaf yn glir: esbonio pwrpas y wŷs, beth yw gorchymyn atebolrwydd, a’r canlyniadau posibl fel costau llys ychwanegol, camau gorfodi, neu ddidyniadau o enillion neu fudd-daliadau. Dylid ysgrifennu esboniadau mewn iaith syml a chefnogol er mwyn helpu preswylwyr i ddeall y broses a'u hannog i gysylltu.
- Darparu pwyntiau cyswllt uniongyrchol ar gyfer trafodaethau ad-dalu: Dylai pob gohebiaeth dynnu sylw at y ffyrdd y gall preswylwyr gyrraedd y tîm priodol yn yr awdurdod i drafod opsiynau ad-dalu neu gael gwybodaeth ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost, ffurflenni ar-lein a, phan fyddant ar gael, opsiynau cymorth wyneb yn wyneb. Mae gwneud y llwybrau cyswllt yn glir yn helpu preswylwyr i deimlo’n hyderus wrth ofyn am help, ac yn atal y sefyllfa rhag gwaethygu pan fydd modd.
- Cynnwys manylion ffioedd llys a chamau gorfodi, gyda chyfarwyddiadau talu syml: Dylai awdurdodau sicrhau bod yr holl ffioedd yn dryloyw ac yn hawdd eu deall. Mae cyfarwyddiadau clir ar sut i wneud taliadau, gan gynnwys opsiynau i dalu drwy randaliadau, dolenni i dalu ar-lein, a therfynau amser, yn helpu preswylwyr i gymryd camau ar unwaith i reoli eu hôl-ddyledion.
- Tynnu sylw at opsiynau cyngor ar ddyledion: Dylai pob gohebiaeth gyfeirio preswylwyr yn glir at sefydliadau annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim. Mae cael cyngor yn gynnar yn y broses yn gallu helpu preswylwyr i sefydlogi eu sefyllfa ariannol ac i weld pa gymorth sydd ar gael, fel budd-daliadau, cymorth i gyllidebu, neu fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Arferion cefnogol ychwanegol
Mae rhai awdurdodau’n cryfhau tegwch ac ymgysylltiad drwy gynnig cymorth ychwanegol ar ôl i wŷs gael ei chodi:
- Cytuno ar gynlluniau ad-dalu: wrth gytuno ar gynllun ad-dalu, dylai awdurdodau gynnal asesiad cymesur o holl sefyllfa ariannol y preswylydd. Dylai’r asesiad hwn ystyried cyfanswm lefel y ddyled (gan gynnwys unrhyw ddyledion eraill i’r cyngor o bosibl), costau byw hanfodol fel rhent, cyfleustodau, bwyd a theithio, yn ogystal ag unrhyw gyfrifoldebau gofalu neu ddibynyddion. Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried defnyddio’r Gyfriflen Ariannol Safonol sy’n darparu un fformat ar gyfer cyfriflenni ariannol.
- Sesiwn gymorth cyn gwrandawiad: Mae rhai awdurdodau’n cynnal sesiynau cymorth cyn y llys lle gall preswylwyr siarad yn uniongyrchol â swyddogion y cyngor cyn y gwrandawiad llys. Mae hyn yn gyfle i egluro’r broses, i adolygu'r amgylchiadau, i drafod trefniadau ad-dalu realistig, ac i nodi unrhyw ddisgowntiau neu gymorth sydd heb gael eu hawlio.
Ymgysylltu'n barhaus
Ar bob cam ym mhroses y gorchymyn atebolrwydd, bydd awdurdodau lleol yn parhau’n agored i drafod trefniadau ad-dalu hyblyg gyda phreswylwyr. Os bydd preswylydd yn cysylltu ar unrhyw adeg, cyn neu ar ôl y gwrandawiad llys, bydd yr awdurdod yn ystyried ei amgylchiadau, a yw’n gallu fforddio’r taliadau, ac unrhyw arwyddion o fregusrwydd, a bydd yn addasu’r dull adennill yn briodol.
Gall ymrwymiad parhaus i gyfathrebu'n agored ac ymyrryd yn gynnar atal y sefyllfa rhag gwaethygu, lleihau costau diangen, a helpu i sicrhau trefniadau talu hirdymor sy'n fwy cynaliadwy.
Adennill a gorfodi
Cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi, bydd awdurdodau lleol yn gwneud ymdrechion rhesymol i gysylltu â phreswylwyr ac i gynnig cymorth. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y preswylydd ydyw o hyd i ymateb. Os nad yw preswylydd yn ymgysylltu, ni all yr awdurdod asesu ei amgylchiadau, gweld pa mor fregus yw ei sefyllfa, na chytuno ar gynllun talu y gall y preswylydd gadw ato. Mewn achosion o’r fath, mae’n bosibl na fydd gan yr awdurdod ddewis ond bwrw ymlaen â chamau gorfodi rhesymol yn unol â deddfwriaeth.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i awdurdodau lleol wrth ddelio ag ôl-ddyledion y Dreth Gyngor, a dylai camau gorfodi bob amser gael eu harwain gan egwyddorion cymesuredd, tryloywder, a sensitifrwydd i amgylchiadau’r unigolyn.
Mae arferion arloesol ar draws awdurdodau lleol yn dangos gwerth strategaethau gorfodi meddalach:
- Gweithwyr achos ar gyfer caledi: Mewn rhai ardaloedd, mae swyddogion penodedig yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phreswylwyr sydd ag ôl-ddyledion, gan feithrin ymddiriedaeth ac archwilio heriau ariannol ehangach.
- Cymorth integredig: Mae’r swyddogion hyn yn asesu a yw preswylwyr yn gymwys ar gyfer budd-daliadau a disgowntiau, a chynlluniau lleol Lle i Anadlu, gan helpu preswylwyr i osgoi ffioedd gorfodi statudol.
- Camau gorfodi wedi’u teilwra: Gall dull deuol, sy’n defnyddio asiantau ar gyfer achosion risg uchel a thimau mewnol ar gyfer preswylwyr bregus, wella canlyniadau a lleihau niwed.
Mae’r arferion hyn yn dangos, er bod ymgysylltu â’r trethdalwr yn hanfodol er mwyn osgoi camau gorfodi, y gall awdurdodau lleol helpu i sicrhau canlyniadau gwell drwy ofalu bod y broses adennill yn digwydd mewn ffordd deg, gymesur, a thosturiol.
Atafaelu enillion a didynnu arian o fudd-daliadau
Pan fydd yn briodol, gall awdurdodau atafaelu enillion neu ddidynnu arian o fudd-daliadau er mwyn adennill ôl-ddyledion mewn ffordd gynaliadwy a dichonadwy. Gall y dulliau hyn gynnig strwythur ad-dalu mwy rhagweladwy a fforddiadwy i breswylwyr ac, yn gyffredinol, maent yn well nag uwchgyfeirio'r mater drwy asiantau gorfodi. Mae’r camau hyn yn bosibl ar ôl cael gorchymyn atebolrwydd gan lys ynadon.
- Mesurau diogelu ar gyfer sefyllfa fregus: Ni ddylid defnyddio mwy nag un atafaeliad enillion ar yr un pryd ar gyfer preswylwyr y nodwyd eu bod mewn sefyllfa fregus. Pan fydd amheuaeth o fregusrwydd ond nad yw hynny wedi cael ei gadarnhau, dylai awdurdodau ohirio camau uwchgyfeirio, gwneud ymholiadau pellach, a sicrhau bod yr unigolyn wedi cael cynnig cymorth neu atgyfeiriad priodol cyn bwrw ymlaen.
- Cyfathrebu'n glir: Rhaid rhoi gwybod i breswylwyr ymlaen llaw beth yw sail yr atafaeliad, y canrannau statudol neu’r cyfraddau didynnu a fydd yn berthnasol, yr amserlen ddisgwyliedig, a’r effaith bosibl ar eu hincwm. Dylai'r ohebiaeth fod yn hygyrch a chael ei hysgrifennu mewn iaith glir. Pan fydd y preswylydd eisoes yn gweithio gyda sefydliad sy’n rhoi cyngor ar ddyledion, anogir awdurdodau i gysylltu â’r cynghorwyr – pan roddir caniatâd – i sicrhau dull ad-dalu cydgysylltiedig a chynaliadwy.
- Dulliau adolygu: Dylai awdurdodau egluro’n glir sut gall preswylwyr ofyn am ailasesiad neu ostwng y didyniadau dros dro pan fydd eu hamgylchiadau’n newid – er enghraifft oherwydd eu bod wedi colli swydd, bod eu horiau gwaith wedi lleihau, bod eu hawl i fudd-daliadau wedi newid, neu fod elfennau bregusrwydd yn dod i’r amlwg. Dylai’r prosesau ar gyfer adolygu atafaeliadau fod yn amserol ac yn dryloyw, a lleihau’r baich gweinyddol ar y preswylydd.
- Didynnu arian o fudd-daliadau: Os yw preswylwyr yn derbyn budd-daliadau cymwys, gall didyniadau o fudd-daliadau fod yn ffordd fforddiadwy a rheolaidd o ad-dalu ôl-ddyledion heb lawer o faich. Mae’r rheolau statudol yn cynnwys mesurau diogelu ynghylch y didyniadau mwyaf posibl o fudd-daliadau er mwyn atal y broses hon rhag rhoi pobl mewn caledi ariannol annerbyniol. Dylid cyd-drefnu hyn yn brydlon â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn osgoi oedi diangen.
Rhannu data i gefnogi camau gorfodi
Er mwyn gwella’r broses o ganfod a yw rhywun mewn sefyllfa fregus a symleiddio’r broses o adennill arian, mae rhai awdurdodau wedi dechrau defnyddio modelau sy’n seiliedig ar wybodaeth i roi darlun o sefyllfa ariannol preswylwyr ac i lywio penderfyniadau gorfodi.
Defnyddio asiantau gorfodi
Gellir defnyddio asiantau gorfodi pan fydd dulliau adennill eraill yn anaddas neu wedi cael eu defnyddio i’r eithaf. Rhaid rheoli eu cyfraniad yn ofalus er mwyn atal caledi diangen, sicrhau camau cymesur, a lleihau costau ychwanegol i breswylwyr. Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu timau gorfodi mewnol, ond hefyd mae rhai yn defnyddio asiantau gorfodi allanol.
- Atgyfeirio’n gyfrifol: Ni ddylai awdurdodau atgyfeirio at asiant nes bydd wedi archwilio’n llawn yr holl opsiynau adennill amgen priodol – gan gynnwys ymdrechion ychwanegol i gysylltu, asesiadau fforddiadwyedd, a chyfeirio at gymorth. Dylai preswylwyr gael gohebiaeth glir ac amserol am atgyfeiriad posibl. Dylai’r ohebiaeth hon gynnwys gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau'r preswylydd, a chyfleoedd i ddatrys y ddyled cyn wynebu ffioedd pellach.
- Safonau contractiol: Rhaid i awdurdodau lleol gynnal trefniadau contractiol cadarn gydag asiantau gorfodi, sy’n cael eu hategu gan lywodraethu cadarn a phrosesau rheolaidd i fonitro perfformiad. Dylai contractau nodi’n glir safonau gwasanaeth, gofynion tryloywder, disgwyliadau o ran ymddygiad parchus, a phrotocolau diffiniedig ar gyfer canfod, cofnodi, ac ymateb i fregusrwydd. Gall asiantau gorfodi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ganfod bregusrwydd posibl sydd heb ddod i'r amlwg yn ystod ymdrechion cynharach i ymgysylltu.
- Adborth a rhannu gwybodaeth: Rhaid i asiantau gorfodi roi gwybod yn brydlon am unrhyw arwyddion o fregusrwydd neu galedi ariannol a ddaw i’r amlwg yn ystod eu hymweliadau neu wrth ymwneud â’r preswylwyr. Mae hyn yn galluogi’r awdurdod i oedi cyn gweithredu pan fydd hynny’n briodol, i ailasesu’r achos, ac i benderfynu a allai’r preswylydd fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth lleol neu i dderbyn budd-daliadau, disgowntiau neu esemptiadau nad yw wedi eu hawlio. Mae cyfathrebu dwyffordd effeithiol yn help i wneud penderfyniadau cyson, i atal camau gorfodi amhriodol, ac i wella tegwch yn gyffredinol.
- Modelau cymysg: Mae rhai awdurdodau lleol yn mabwysiadu dulliau hybrid, gan ddefnyddio swyddogion mewnol sydd wedi'u hyfforddi ar faterion lles ar gyfer achosion maent yn gwybod sy’n cynnwys ffactorau bregusrwydd neu lle mae amheuaeth o ffactorau bregusrwydd, gan gadw asiantau gorfodi ar gyfer pobl sy’n gyson, ac yn fwriadol, yn peidio â thalu. Mae eraill yn gweithredu rheolau eithrio sy’n atal rhai grwpiau, fel preswylwyr sy’n derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y rheini mewn llety â chymorth, neu unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau cyngor ar ddyledion, rhag cael eu hatgyfeirio at asiantau gorfodi o gwbl.
- Trothwyon isafswm dyled: Er mwyn osgoi costau anghymesur a lleihau’r risg o uwchgyfeirio achosion sy’n cynnwys dyledion isel eu gwerth, gall awdurdodau lleol weithredu trothwyon isafswm ôl-ddyled cyn atgyfeirio achos at asiantau gorfodi. Mae hyn yn helpu i sicrhau mai opsiwn olaf un yw camau gorfodi o hyd, ac mai dim ond pan fydd lefel y ddyled yn cyfiawnhau’r ffioedd ychwanegol y gellid eu cyflwyno y bydd camau gorfodi yn cael eu defnyddio.
- Tryloywder, monitro a gwella’n barhaus: Dylai awdurdodau adolygu gweithgarwch gorfodi yn rheolaidd, gan ddadansoddi data ar atgyfeiriadau, canlyniadau, atgyfeiriadau bregusrwydd, cwynion, ac effeithiau ffioedd. Gall adolygiadau achos a gynhelir ar y cyd â phartneriaid gorfodi ganfod elfennau i’w gwella, cryfhau cysondeb, a sicrhau bod arferion gorfodi’n dal yn gyson â gwerthoedd y cyngor, gofynion statudol, ac anghenion preswylwyr.
Pan fydd tystiolaeth o osgoi talu
Er bod y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng Nghymru yn talu eu Treth Gyngor yn gyfrifol, bydd awdurdodau lleol weithiau’n dod ar draws ymdrechion amlwg i osgoi talu. Mae’r canllawiau hyn yn cydnabod bod lleiafrif bach o unigolion yn defnyddio tactegau osgoi bwriadol. Mae ymddygiad o’r fath nid yn unig yn tanseilio cyfrifoldeb dinesig yr unigolyn i gyfrannu at wasanaethau lleol, mae hefyd yn cynyddu’r baich treth ar y rheini sydd yn talu.
Atgoffir awdurdodau lleol o’u pwerau i weithredu pan fydd person wedi celu gwybodaeth neu wedi darparu gwybodaeth anwir yn fwriadol wrth ryngweithio â system y Dreth Gyngor. Os oes gan awdurdodau lleol wybodaeth arall i awgrymu y gallai person fforddio talu ei Dreth Gyngor ac nad yw’n wynebu caledi, dylai awdurdodau ddilyn camau’r broses gasglu yn gadarn. Gall y camau hyn gynnwys:
- Rhoi cosbau ariannol am gelu gwybodaeth neu ddarparu gwybodaeth anwir.
- Anfon negeseuon atgoffa a hysbysiadau terfynol yn brydlon pan fydd dyddiadau cau ar gyfer talu wedi mynd heibio.
- Gwneud cais am orchymyn atebolrwydd drwy’r llys ynadon cyn gynted â phosibl pan fydd yr unigolyn yn dal yn peidio talu.
- Gofyn am wybodaeth ariannol gan yr unigolyn i benderfynu ar gamau adennill priodol.
- Didynnu arian o enillion neu fudd-daliadau, pan fydd hynny’n berthnasol, ar ôl cyflwyno gorchymyn atebolrwydd.
- Defnyddio asiantau gorfodi i sicrhau taliad pan fydd dulliau eraill wedi methu, a’i bod yn ymddangos bod gan yr unigolyn nwyddau o werth digonol.
- Gorchmynion arwystlo pan fydd dyled yn sylweddol a’r dyledwr yn berchen ar fuddiant yn yr eiddo, a phan fydd dulliau adennill eraill yn aneffeithiol neu’n amhriodol.
- Camau methdaliad mewn achosion lle mae preswylwyr yn peidio talu yn fwriadol ac yn gyson, a hynny ar lefel sylweddol, pan fydd y camau hyn yn gymesur ac yn cyd-fynd â pholisïau adennill lleol.
Atodiad 1: hysbysiadau atgoffa (templed symlach)
1. Gofyniad statudol
Rhaid i bob hysbysiad atgoffa ddatgan y canlynol:
- Cyfanswm yr holl randaliadau a fethwyd, a bod y swm yn orddyledus.
- Unrhyw randaliadau a ddaw’n ddyledus yn ystod y saith diwrnod nesaf, a bod swm y rhandaliadau hynny’n ddyledus.
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol ym marn yr awdurdod lleol.
2. Gwybodaeth arall
Gall awdurdodau lleol hefyd ychwanegu:
- Y dulliau sydd ar gael i dalu.
- Beth fydd yn digwydd os na wneir taliad.
- Rhif ffôn neu e-bost y Cyngor.
- Cymorth gyda chynlluniau talu.
- Gwybodaeth i gyfeirio at wasanaethau cynghori (fel Cyngor ar Bopeth neu StepChange).
3. Templedi
Gofynion Statudol
Rydych chi wedi methu eich taliad(au) Treth Gyngor.
Mae arnoch chi £ [swm] nawr.
O fewn [ffigur] diwrnod, bydd eich taliad Treth Gyngor nesaf o £ [swm] yn ddyledus
Gwybodaeth arall
Gallwch dalu nawr drwy [ffyrdd o dalu]
Os nad ydych chi’n gallu talu, ffoniwch ni ar [rhif ffôn y cyngor]. Mae’n bosibl y gallwn ni ostwng eich bil neu drefnu taliadau llai.
Os na fyddwch chi’n talu, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu bil y flwyddyn gyfan ar unwaith.
I gael cyngor ariannol am ddim, gallwch siarad â:
- Cyngor ar Bopeth: 0800 702 2020 (Cymru)
- StepChange, Elusen Dyledion: 0800 138 1111
Atodiad 2: hysbysiadau terfynol (templed symlach)
1. Gofynion Statudol
Rhaid i bob hysbysiad terfynol ddatgan:
- Y cyfanswm sy’n orddyledus.
- Bod rhaid talu’r cyfanswm sy’n orddyledus o fewn 21 diwrnod.
- Os na chaiff y taliad ei wneud o fewn y 21 diwrnod, y bydd bil y flwyddyn gyfan yn daladwy ar y diwrnod canlynol.
2. Gwybodaeth arall a anogir
Gall awdurdodau lleol hefyd ychwanegu:
- Sut mae talu.
- Rhif ffôn neu e-bost y Cyngor.
- Cymorth gyda chynlluniau talu.
- Gwybodaeth i gyfeirio at wasanaethau cynghori (fel Cyngor ar Bopeth neu StepChange).
3. Templedi
Gofynion statudol
Dydych chi ddim wedi talu eich Treth Gyngor.
Mae arnoch chi £ [swm] nawr.
Talwch y swm hwn erbyn [y dyddiad ymhen 21 diwrnod] os gwelwch yn dda.
Os na fyddwch yn talu £ [swm] erbyn y dyddiad hwn, bydd rhaid i chi dalu eich balans llawn, sef £ [gweddill y balans blynyddol].
Gwybodaeth arall a anogir
Gallwch dalu nawr drwy [ffyrdd o dalu]
Os nad ydych chi’n gallu talu, ffoniwch ni ar [rhif ffôn y cyngor]. Mae’n bosibl y gallwn ni ostwng eich bil neu drefnu taliadau llai.
Os na fyddwch yn talu, gall y Cyngor gymryd camau cyfreithiol.
Gallai hyn olygu costau ychwanegol i chi.
I gael cyngor ariannol am ddim, gallwch siarad â:
- Cyngor ar Bopeth: 0800 702 2020 (Cymru)
- StepChange, Elusen Dyledion: 0800 138 1111
