Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda thristwch rwyf yn datgan bod dau yn rhagor o bobl sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 wedi marw. Mae hyn yn mynd â nifer y marwolaethau yng Nghymru i bump.

Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad didwyll â’u teuluoedd a’u ffrindiau, a gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser trist yma.

Roedd y cleifion yn 75 oed, fu farw yn Ysbyty Singleton, a 98 oed, fu farw yn Ysbyty Gwynedd. Roedd gan y ddau glaf gyflyrau sylfaenol.