Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, yn ystod sesiwn Senedd Cymru, nodais y byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y pwysau sydd ar y system iechyd a gofal yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd clywed bod brechlyn Rhydychen- AstraZeneca wedi cael sêl bendith ddoe yn wych, ond ni allwn laesu dwylo eto. Mae'r sefyllfa sydd ohoni o fewn ein system iechyd a gofal yn dal i fod yn heriol tu hwnt.

Hoffwn achub ar y cyfle unwaith eto i ddiolch o galon i'n staff rheng flaen am eu hymdrechion parhaus yn ystod y pandemig didrugaredd hwn, ac i gydnabod eu hymrwymiad, eu trugaredd a'u gwaith caled. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gadael ei hôl ar lawer o weithwyr rheng flaen ac rydym wedi gweld lefelau uchel o salwch sydd, yn anochel, yn effeithio ar wasanaethau i gleifion. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu wrth i'r feirws gael ei drosglwyddo'n ehangach. Ar hyn o bryd, mae dros 2,000 yn llai o staff ar gael i weithio ddiwedd mis Rhagfyr nag oedd ym mis Medi cyn y don bresennol. Gwaethygwyd hyn dros yr ŵyl am fod mwy a mwy o'n gweithlu yn gorfod gwarchod eu hunain eto.

Mae sawl agwedd ar ein system iechyd a gofal yn gweithredu i'r eithaf wrth geisio darparu gofal a thriniaeth hanfodol. Bu'n rhaid cyfyngu ar weithgarwch rheolaidd ysbytai ac mae gwasanaethau gofal cartref a chartrefi gofal yn profi cyfyngiadau tebyg. Ynghyd â'r pwysau arferol a welir yn ystod y gaeaf, mae hyn wedi arwain at gryn bwysau. Gwaethygir y sefyllfa gan y cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sydd â'r haint sydd bellach mewn gwelyau ysbyty ac unedau gofal critigol.

Mae gofal critigol bellach yn gweithredu ar 141% o'i gapasiti arferol a dyma'r pryder mwyaf difrifol dros yr ychydig wythnosau nesaf. Roeddem bob amser wedi bwriadu cynyddu capasiti, ond mae'r sefyllfa bresennol yn anwadal am fod sicrhau bod digon o staff ar gael yn broblem wirioneddol. Rydym yn parhau i weld cleifion mewn gofal critigol am gyfnodau hir a, gwaetha'r modd, lawer o farwolaethau. Dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, bu cynnydd cyffredinol yn nifer y cleifion mewnol a dderbyniwyd i'r ysbyty am resymau'n ymwneud â COVID-19 i fwy na 2600. Am y tro cyntaf, ac mae hyn yn hollbwysig, mae'r nifer uwchlaw'r 2500 o gleifion roeddem wedi'i ragweld. Yn anffodus, mae mwy na 1600 o gleifion â COVID-19 yn ein hysbytai ledled Cymru, sef y nifer mwyaf erioed.

Mae'r cleifion hynny sy'n dal i fod yn sâl iawn, ond sy'n dechrau gwella yn yr ysbyty, bellach wedi cyrraedd dros 800. Caiff hyn effaith gynyddol ar y gwelyau sydd ar gael, oherwydd gall fod angen i'r cleifion hyn aros yn yr ysbyty am gyfnod hir.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol hefyd yn parhau i ddelio â lefelau eithriadol o alw, fel y gwna'r gwasanaeth 111 a gwasanaethau ambiwlans.  Ddydd Llun, derbyniodd gwasanaethau 111 dros 4000 o alwadau mewn diwrnod, sef y nifer mwyaf erioed mewn un diwrnod. Gwyddom fod nifer mawr o achosion yn y gymuned yn arwain at fwy o gleifion mewn ysbytai, salwch difrifol a cholli anwyliaid. Mae'n cymryd sawl wythnos i newidiadau o ran trosglwyddiad y feirws yn y gymuned ddechrau effeithio ar y pwysau ar ein hysbytai. Ar hyn o bryd, parhawn i weld cynnydd yn nifer y cleifion a dderbynnir i'r ysbyty, ac mae'r cyfartaledd 7 diwrnod diweddaraf yn agos at 120 o dderbyniadau bob dydd, ddwywaith lefel mis Medi.

Mae'r datganiad hwn yn ddarlun noeth o'r her sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, mae'n bwysig rhannu'r wybodaeth yn dilyn fy natganiad llafar ddoe er mwyn helpu i gyfleu'r pwysau penodol a reolir. Adlewyrcha system sy'n rheoli'r adeg fwyaf critigol o'r flwyddyn â mwy na 2600 yn llai o welyau na'r arfer, a 119 yn llai o welyau ICU na'r arfer, am fod cleifion sydd â COVID-19 eu hangen, ac felly nad ydynt ar gael i ddelio â'r pwysau arferol a welir dros y gaeaf.  Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gorfod addasu yn ystod y cyfnod anodd hwn drwy leihau gweithgareddau eraill a chyfyngu ar fynediad. Dros yr wythnosau nesaf bydd angen ateb heriau nas gwelwyd erioed o'r blaen, ac mae pawb yn gwneud eu gorau glas i wneud hynny.

Mae'r feirws yn effeithio ar ein holl wasanaethau iechyd a gofal a gwerthfawrogwn y ffordd y mae sectorau yn parhau i gydweithio ledled Cymru. Gwyddom nad yw cyfyngiadau symud yn lleihau'r pwysau ar unwaith. Mae'n bwysicach nag erioed i'r cyhoedd aros gartref a helpu i achub bywydau. Gyda'n gilydd gallwn gadw Cymru'n ddiogel.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.