Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Comisiynodd Llywodraeth Cymru IAITH i ddarparu dealltwriaeth fanwl o pam mae rhai rhieni neu ofalwyr yn dewis peidio â manteisio ar hawliau i addysg gynnar neu ofal plant a ariennir gan y llywodraeth. Mae'r gwaith hwn yn rhan o raglen ymchwil ehangach i lywio polisi addysg a gofal plentyndod cynnar ar gyfer plant tair i bedair oed. Canolbwyntiodd yr ymchwil yn benodol ar y Cyfnod Sylfaen Meithrin (addysg anstatudol) ar gyfer plant o 3 oed ymlaen, a'r Cynnig Gofal Plant sydd ar gael i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Dyluniwyd astudiaeth ansoddol i archwilio'r credoau, yr ymddygiadau a ffactorau eraill sy'n effeithio ar benderfyniadau rhieni. Cysylltwyd â chyfanswm o 53 o deuluoedd, ar draws naw ardal yng Nghymru.

O ystyried graddfa fechan yr astudiaeth hon, a'r amser cyfyngedig a dreuliwyd gyda theuluoedd, mae'r canfyddiadau'n rhoi cipolwg yn unig. Maent yn nodi meysydd i'w harchwilio ymhellach.

2. Canfyddiadau

Ymwybyddiaeth rhieni

Roedd mwyafrif y rhieni a gymerodd ran yn yr ymchwil yn ymwybodol o ofal ar gyfer eu plentyn sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth. Ond dywedodd rhai rhieni, er eu bod yn ymwybodol ohono, nad oeddent yn gwybod am broses cael mynediad at y gofal hwnnw. Roedd mwy o rieni yn gwybod am hawliau addysg i blant yn 3 oed a sut i gael mynediad at hyn.     

Rhwystrau ymarferol i fynediad

Efallai bod cyswllt cyfyngedig â darparwyr gofal plant wedi arwain at ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg rhieni ynghylch gofal a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni sy'n gweithio. Mewn rhai ardaloedd ymchwil, nododd rhieni fod diffyg darpariaeth gofal plant yn eu hardal yn cyfyngu ar eu dewisiadau o ran cyflogaeth.

Nid oedd rhai teuluoedd yn defnyddio hawl eu plentyn i gael addysg gynnar oherwydd nad oedd ar gael yn eu dewis iaith yn lleol neu ystyrid ei fod yn rhy bell i fod yn ymarferol.

Nid oedd rhai teuluoedd yn cyrchu addysg gynnar oherwydd anawsterau ymarferol cyrraedd yno o ddarpariaeth gofal plant, neu nid oeddent yn manteisio ar ofal a ariennir gan y llywodraeth oherwydd heriau o ran symud eu plentyn rhwng lleoliadau (gan gynnwys cost).

Roedd diffyg hyblygrwydd o ran argaeledd addysg gynnar a gofal a ariennir gan y llywodraeth yn arbennig o anodd i rieni a oedd yn gweithio sifftiau ac oriau afreolaidd.

Rhwystrau gweinyddol

Dywedodd sawl rhiant nad oeddent yn gallu hawlio gofal a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni sy'n gweithio oherwydd anawsterau o ran eu statws cyflogaeth, er enghraifft gweithio oriau anghyson neu oherwydd nad oedd ganddynt slipiau cyflog oherwydd eu bod yn hunangyflogedig.

Adroddwyd bod llenwi'r ffurflen gais yn rhwystr hefyd. Roedd yr anawsterau y soniwyd amdanynt yn cynnwys diffyg hyder ymysg rhieni ynghylch llenwi'r ffurflen gais a chanfyddiad bod y broses ymgeisio yn gymhleth.

Roedd teuluoedd eraill o'r farn fod y wybodaeth oedd yn ofynnol i lenwi'r ffurflen gais yn ymyrryd yn ormodol â bywyd y teulu ac nid oeddent yn fodlon darparu hynny o wybodaeth oedd yn ofynnol i gofrestru ar gyfer gofal a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni sy'n gweithio.

Rhwystr sylweddol i nifer o deuluoedd oedd diffyg gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant o dan dair oed a oedd yn creu problemau fforddiadwyedd i rieni oedd ag amryw o blant tair i bedair oed ac iau.

Credoau ac ymddygiadau a oedd yn annog ymgysylltu

Roedd gallu defnyddio addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i helpu i ailymuno â'r farchnad lafur neu waith yn bwysig i nifer o rieni.

Roedd credu ym mhwysigrwydd cymdeithasoli cynnar plentyn y tu allan i'r teulu a chyda grŵp cyfoedion y plentyn yn cael eu rhoi fel rhesymau dros fanteisio ar ofal plant a ariennir gan y llywodraeth gan rai rhieni.

Teimlai llawer o rieni fod addysg gynnar yn fuddiol i blant am resymau cymdeithasol ac addysgol. Mynegodd rhai rhieni eu barn am bwysigrwydd datblygu sgiliau dysgu cynnar, datblygu iaith, a bod yn 'barod i'r ysgol'.

Credoau ac ymddygiadau sy'n cyfyngu ar ymgysylltu

Un o'r rhesymau a grybwyllwyd amlaf dros beidio â defnyddio'r Cynnig oedd cred bod cadw gofal plant yn y teulu yn bwysig. Nid oedd rhai rhieni yn dymuno mynd â'u plentyn i ddarpariaeth gofal plant ffurfiol oherwydd roedd yn well ganddyn nhw fod eu plentyn yn derbyn gofal a ddarperid gan aelod o'r teulu, neu roedd aelodau'r teulu'n awyddus i ddarparu gofal.

Credai rhai rhieni fod plant yn rhy ifanc i ddechrau'r ysgol yn dair oed hyd yn oed os yw addysg gynnar yn cynnwys dysgu trwy chwarae ac roedd yn well ganddynt hefyd ohirio'r oedran ar gyfer dechrau addysg amser llawn.

Roedd gan rai rhieni a oedd yn manteisio ar addysg gynnar ran-amser ar gyfer eu plentyn gredoau cryf na ddylai plant ychwaith gael eu rhoi mewn darpariaeth gofal plant ac mai aelodau'r teulu oedd y rhai gorau i ddarparu unrhyw ofal plant ychwanegol. 

Materion iaith a'u heffaith ar ddewisiadau rhieni

Canfuwyd bod diffyg darpariaeth gofal plant Cymraeg ddigonol mewn rhai ardaloedd.

I rai rhieni, roedd addysg gynnar Cymraeg yn bwysig am sawl rheswm gan gynnwys integreiddio yn y gymuned leol a chael gwaith. Nid oedd yn ystyriaeth bwysig i deuluoedd eraill, er bod y mwyafrif yn fodlon i'w plant ddysgu rhywfaint o Gymraeg.

Cyfeiriodd rhieni at ffactorau a fyddai’n eu hannog i ddefnyddio addysg a gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddwyieithog os na allent wneud hynny ar hyn o bryd. Roedd y rhain yn cynnwys darparu gofal cofleidiol yn yr ysgol gynradd Gymraeg agosaf, gwella trafnidiaeth i ysgolion cyfrwng Cymraeg, mwy o ddewis ac oriau agor hirach mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.            

Materion yn ymwneud â mynediad ar gyfer grwpiau penodol

Dywedodd rhai rhieni a oedd ar incwm isel fod eu hamgylchiadau yn eu cyfyngu rhag gallu gweithio mwy o oriau i hawlio'r cynnig gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni sy'n gweithio.

Nododd rhieni a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon amrywiaeth o gyflyrau meddygol ac anghenion dysgu ychwanegol gan blant. Ym mhob achos, roedd anghenion ychwanegol y plentyn yn ei gwneud yn anoddach manteisio ar ddarpariaeth y Cyfnod Sylfaen Meithrin (CSM) a gofal plant addas. Serch hynny, nid oedd anghenion ychwanegol y plant wedi atal rhieni rhag gwneud rhywfaint o ddefnydd o’r CSM a darpariaeth gofal plant ond, mewn rhai achosion, oherwydd diffyg gofal cofleidiol priodol, cyfrannodd hyn at iddynt beidio â manteisio’n llawn ar y Cynnig.

Soniodd rhieni o deuluoedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig fod eu profiadau addysgol yn wahanol iawn, ac esboniwyd eu bod yn awyddus i efelychu rhywfaint o'u magwraeth eu hunain.

Dywedodd teuluoedd mewn ardaloedd gwledig fod problemau'n deillio o’r ffaith nad oedd darpariaeth gofal plant ar gael.

Ymhlith y materion a godwyd gan rieni sengl roedd ofn colli budd-daliadau eraill pe byddent yn gwneud cais am y cynnig gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni sy'n gweithio. Dywedwyd hefyd bod hyder ac amser i wneud cais yn rhwystr.

Nododd teuluoedd a oedd yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, neu oedd yn byw yn agos at ffiniau awdurdodau lleol, anawsterau ac ansicrwydd ynghylch sut a ble i gael mynediad at ofal plant.

3. Argymhellion

Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn awgrymu y gallai'r argymhellion canlynol helpu i wella mynediad a’r niferoedd sy’n manteisio ar addysg a gofal plentyndod cynnar a ariennir gan y llywodraeth gan y rhai sy'n gymwys, neu o leiaf i sicrhau bod rhieni'n gallu gwneud dewis gwybodus i wneud hynny os dymunant.

  • Mae'n ymddangos bod angen gwell cyfathrebu â rhieni i egluro'n well beth yw’r gwahaniaethau rhwng addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth a gofal plant, gan fod hyn yn peri dryswch.
  • Dylai strategaethau marchnata a chyfathrebu ystyried yn llawn sut i gyrraedd rhieni sydd â chysylltiad cyfyngedig neu ddim cyswllt â darparwyr gofal plant yn benodol.
  • Gall mwy o amrywiaeth yn y cyfryngau a'r fformatau cyfathrebu y mae'r llywodraeth yn eu defnyddio i rannu gwybodaeth helpu i wella hygyrchedd. 
  • Gellid tynnu sylw at yr ystod eang o fuddion i blentyn o fynychu addysg plentyndod cynnar a gofal mewn deunyddiau marchnata a chyfathrebu, er mwyn gwneud rhieni yn fwy ymwybodol o’u gwerth.
  • Dylai'r rhai sy'n gweinyddu addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth a gofal plant fanteisio ar gyfleoedd (os oes rhai) i symleiddio ffurflenni cais a sicrhau eu bod mor hawdd eu defnyddio â phosibl. Efallai bod angen mwy o gefnogaeth i helpu'r rhai a allai fod angen mwy o gymorth i gwblhau'r broses ymgeisio.
  • Efallai hefyd bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i dystiolaeth cymhwysedd ar gyfer y rheini sydd mewn sefyllfaoedd cyflogaeth mwy ansicr (e.e. contractau dim oriau, hunangyflogedig gydag incwm ad hoc), er mwyn osgoi eithrio teuluoedd cymwys sydd dan anfantais 
  • Er mwyn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth mewn rhai teuluoedd, efallai y bydd y llywodraeth am ystyried ymarferoldeb ymestyn hawliau i frodyr a chwiorydd. 
  • Efallai y bydd angen ystyried digonolrwydd gofal plant ymhellach yn genedlaethol ac yn lleol i fod yn sail i gefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer cynaliadwyedd a thwf y sector mewn ardaloedd gwledig ac mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • Mae angen mwy o ymchwil i'r heriau penodol sy'n wynebu rhieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

4. Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Hughes, Buddug a Jones, Kathryn (2021). Astudiaeth wedi’i seilio ar ymchwil ansoddol o gredoau ac ymddygiadau rhieni a gofalwyr ynghylch gofal plant ac addysg gynnar. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 3/2021

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Aimee Marks
Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: talkchildcare@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN digidol  978-1-80082-701-1